{"id":849,"date":"2015-09-11T16:09:46","date_gmt":"2015-09-11T15:09:46","guid":{"rendered":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/?p=849"},"modified":"2015-09-11T16:09:46","modified_gmt":"2015-09-11T15:09:46","slug":"datblygiad-y-fframwaith-sicrhau-ansawdd","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/datblygiad-y-fframwaith-sicrhau-ansawdd\/","title":{"rendered":"Datblygiad y Fframwaith Sicrhau Ansawdd"},"content":{"rendered":"<p>Nod rhaglen drawsnewid y Gwasanaethau Cymdeithasol yw hyrwyddo integreiddiad a chysondeb ar draws pob Gwasanaeth, cynyddu effeithlonrwydd yn y defnydd o adnoddau, cynyddu annibyniaeth a rheoli risg. <!--more-->Drwy greu\u2019r gwasanaeth Safonau Ansawdd newydd, tynnwyd ynghyd timau presennol o fewn y gwasanaethau plant ac oedolion, gyda\u2019r bwriad o ddatblygu Canolfan Ragoriaeth Safonau Ansawdd; i ymgorffori ymhellach diwylliant o welliant parhaus yn y Gwasanaeth, y Cyngor ac mewn asiantaethau darparu allanol, gyda phwyslais ar godi gwybodaeth diogelu, ansawdd ymarfer a thrwy hynny wella canlyniadau i ddefnyddwyr gwasanaethau.<\/p>\n<p>Unwaith y bydd y Gwasanaeth Safonau Ansawdd wedi\u2019i sefydlu&#8217;n llawn, y cam allweddol fydd darparu strategaeth a fframwaith ar gyfer prosesau a gweithdrefnau safonau ansawdd.<\/p>\n<p><strong>Beth sydd wedi newid?<\/strong><\/p>\n<p>Y sbardun allweddol ar gyfer newid yw tegwch safonau ar gyfer gwasanaethau oedolion a phlant. Wrth i wasanaethau Plant wynebu mwy o graffu statudol, yn draddodiadol mae\u2019r broses sicrhau ansawdd wedi bod yn fwy cynhwysfawr nag mewn gwasanaethau Oedolion. Byddwn yn mynd i\u2019r afael \u00e2\u2019r anghysondeb hwn drwy ddatblygu fframwaith sicrhau ansawdd a fydd hefyd yn ystyried elfennau allweddol o&#8217;r gwasanaethau, fel cyfranogiad a datblygu gweithlu a dysgu.<\/p>\n<p>Darn allweddol arall o waith ar gyfer y gwasanaeth fydd cynhyrchu safonau sicrhau ansawdd mewnol ar gyfer pob maes is-wasanaeth a mecanweithiau monitro i sicrhau bod cynlluniau adborth a gwelliant yn cael eu rhannu a&#8217;u cefnogi. Mae datblygu prosesau a gweithdrefnau o&#8217;r fath yn gwella ansawdd ar gyfer y sector gofal cymdeithasol gyfan ac yn sicrhau llywodraethu yn gadarn ac yn agored.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Nod rhaglen drawsnewid y Gwasanaethau Cymdeithasol yw hyrwyddo integreiddiad a chysondeb ar draws pob Gwasanaeth, cynyddu effeithlonrwydd yn y defnydd o adnoddau, cynyddu annibyniaeth a rheoli risg.<\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_seopress_robots_primary_cat":"","_seopress_titles_title":"","_seopress_titles_desc":"","_seopress_robots_index":"","_genesis_hide_title":false,"_genesis_hide_breadcrumbs":false,"_genesis_hide_singular_image":false,"_genesis_hide_footer_widgets":false,"_genesis_custom_body_class":"","_genesis_custom_post_class":"","_genesis_layout":"","footnotes":""},"categories":[60,66],"tags":[],"class_list":{"0":"post-849","1":"post","2":"type-post","3":"status-publish","4":"format-standard","6":"category-2014-15-cy","7":"category-gostyngiadau-ail-alinior-gyllideb","8":"entry"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/849","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=849"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/849\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=849"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=849"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=849"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}