{"id":774,"date":"2015-09-08T16:35:09","date_gmt":"2015-09-08T15:35:09","guid":{"rendered":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/?p=774"},"modified":"2015-09-08T16:35:09","modified_gmt":"2015-09-08T15:35:09","slug":"teuluoedd-gwledig-yn-gyntaf","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/teuluoedd-gwledig-yn-gyntaf\/","title":{"rendered":"Teuluoedd Gwledig yn Gyntaf"},"content":{"rendered":"<p>Mae pob teulu sy&#8217;n byw yn yr ardal wledig yn wynebu amddifadedd o ran mynediad i wasanaethau. Ar ben hyn mae llawer hefyd yn dioddef tlodi.<!--more--><\/p>\n<p>Cyn 2011, roedd Gwasanaeth Cychwyn Cadarn llwyddiannus yn gweithredu yng Nghonwy Wledig ond pan ddaeth y cyllid grant i ben, cafodd ei gau. Roedd teimlad cryf gan y gymuned, a ymgyrchodd dros barhau\u2019r gwasanaeth cymorth hwn, dan arweiniad mamau ifanc yn Llanrwst.<\/p>\n<p>Creodd cais llwyddiannus am gyllid Teuluoedd yn Gyntaf y cyfle i ddylunio gwasanaeth pwrpasol gyda dull aml-asiantaeth holistig sy&#8217;n seiliedig ar y teulu.<\/p>\n<p>Mae canolfan y gwasanaeth yn gweithredu o Ganolfan Deuluoedd Llanrwst, ac yn darparu cymorth un i un, cymorth gr\u0175p a chymorth cymunedol i deuluoedd mewn lleoliad maent yn teimlo&#8217;n gyfforddus ynddo.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r model Teuluoedd Gwledig yn Gyntaf yn cydlynu, hwyluso ac yn darparu ymyrraeth uniongyrchol i deuluoedd, gyda phwyslais ar weithio ar y cyd. Mae&#8217;n canolbwyntio ar gefnogi rhieni plant dan 12 oed yn yr ardal wledig, gydag amrywiaeth o gefnogaeth sy&#8217;n gallu addasu i anghenion sy&#8217;n newid ac yn amlygu eu hunain ac felly mae&#8217;n canolbwyntio ar y teulu, yn bwrpasol, integredig, rhagweithiol, dwys ac yn lleol. Rhoddir sylw arbennig i wella sgiliau magu plant drwy amrywiaeth o ddulliau sy&#8217;n addas i bob teulu.<\/p>\n<p>Mae model partneriaeth cydweithio aml-asiantaeth yn hanfodol i lwyddiant y prosiect hwn. Mae cyfle i weld gwasanaethau cymorth mewn gwahanol leoliadau\/sefyllfaoedd, gan eu gwneud yn fwy deniadol a hygyrch i&#8217;r gymuned.<\/p>\n<p>Mae gwybodaeth a phrofiad eang y staff yn helpu teuluoedd i ymgysylltu gyda, a ffurfio perthnasau llawn ymddiriedaeth.<\/p>\n<p><strong>Beth sydd wedi newid?<\/strong><\/p>\n<ul>\n<li><i>Cynyddu\u2019r ystod oedran i blant dan 12 oed a&#8217;u teuluoedd, beth bynnag fo&#8217;u cyfansoddiad.<\/i><\/li>\n<\/ul>\n<ul>\n<li>Gweithiwr Cymorth i Deuluoedd rhan amser ar gyfer teuluoedd sydd \u00e2 phlentyn ag anghenion ychwanegol. Hefyd, sefydlwyd grwpiau lloeren mewn ardaloedd gwledig mwy anghysbell.<\/li>\n<\/ul>\n<ul>\n<li>Cynhyrchwyd cynllun rhianta blynyddol yn dangos bwydlen i rieni\/gofalwyr a gweithwyr proffesiynol o\u2019r ymyriadau sydd ar gael i\u2019r gr\u0175p rhianta.<\/li>\n<\/ul>\n<ul>\n<li>Cyflawnodd staff a hyfforddwyd mewn gwaith gr\u0175p cyn-geni ar y cyd \u00e2 bydwraig ac Ymwelwyr Iechyd, gan felly alluogi ymagwedd fwy ataliol at weithio gyda rhieni.<\/li>\n<\/ul>\n<ul>\n<li>Canolbwyntiwyd yn gyntaf ar sicrhau fod staff yn ffurfio &#8216;perthynas broffesiynol&#8217; \u00e2 theuluoedd gan ddod yn &#8216;gyfaill proffesiynol&#8217; iddynt, meithrin hyder a chodi dyheadau.<\/li>\n<\/ul>\n<ul>\n<li>Datblygwyd opsiynau cyfryngau cymdeithasol i ehangu&#8217;r dulliau y gall rhieni eu defnyddio i gadw cysylltiad.<\/li>\n<\/ul>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><strong>Pa wahaniaeth y mae wedi\u2019i wneud?<\/strong><\/p>\n<p>Cynnydd yn nifer y partneriaid a gwasanaethau hygyrch yn yr ardal wledig yn sgil hynny, e.e. Ymwelwyr Iechyd, Nyrsys Ysgol, Meddygon Teulu, Deintyddion Iechyd Cymunedol, Gwasanaethau Cymdeithasol, Addysg, Cymorth i Ferched, Refeniw a Budd-daliadau, Gwasanaethau Hamdden, Twf, Taith i Waith, Menter Iaith, Golygfa Gwydir (Clwb Swyddi), Llyfrgelloedd, Gingerbread, y Gwasanaeth Cam-drin Domestig , Mudiad Ysgolion Meithrin, Relate, y Gwasanaeth T\u00e2n, Refeniw a Budd-daliadau, T\u0177 Gobaith, Afasicac ati.<\/p>\n<p>O&#8217;i gymharu \u00e2 2013\/14, bu cynnydd o 35% yn nifer y rhieni a phlant sy&#8217;n defnyddio&#8217;r gwasanaeth. Mae hyn yn cynnwys cymorth wedi\u2019i ganolbwyntio ar gyfer 57 o rieni\/gofalwyr a&#8217;u plant, sydd ag anghenion ychwanegol. Roedd 100% o&#8217;r adborth a dderbyniwyd gan rieni\/gofalwyr yn gadarnhaol. Mae rhieni\/gofalwyr yn fwy hyderus a chyfforddus i dderbyn ystod o gefnogaeth, a ddangosir gan y cynnydd presenoldeb lluosog o 27%.Mae nifer y rhieni sy&#8217;n cwblhau grwpiau caeedig\/strwythuredig yn parhau i fod yn gyson uchel, fel y mae nifer y staff aml-asiantaeth sy&#8217;n gweithio drwy&#8217;r ganolfan deuluoedd. Bellach mae\u2019r holl staff wedi&#8217;u hyfforddi mewn rhaglenni rhianta cydnabyddedig, ar sail tystiolaeth ac wedi cyflawni Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol QCF Lefel 3 ar gyfer gweithio gyda Rhieni. Mae staff aml-asiantaeth wedi derbyn hyfforddiant achrededig i ddatblygu gweithlu sydd wedi&#8217;i hyfforddi&#8217;n dda sy&#8217;n gweithio gyda rhieni a theuluoedd yng Nghonwy ymhellach.<\/p>\n<p>Yn ogystal \u00e2&#8217;r gr\u0175p i gefnogi rhieni sydd \u00e2 phlentyn ag Anghenion Ychwanegol yn Llanrwst, mae 2 gr\u0175p lloeren pellach wedi cael eu datblygu pan fo\u2019r angen yn codi. Rydym wedi trefnu hyfforddiant mewn Adnabod arwyddion a symbolau Makaton ac ar gyfer rhieni\/gofalwyr a staff aml-asiantaeth lleol.<\/p>\n<p><strong>Astudiaeth achos 1 <\/strong><\/p>\n<p>Roedd rhiant \u00e2 phroblemau iechyd difrifol, gyda 2 ferch yn eu harddegau a merch 3 oed, ond wedi dod i\u2019r clwb babanod yn achlysurol iawn ac yn ymddangos yn swil ac yn dawedog iawn. Gydag anogaeth ysgafn dechreuodd ddod i grwpiau a sesiynau eraill. Rhoddodd hyn gyfle i staff osod y seiliau ar gyfer perthynas ystyrlon. Yn ei dro, galluogodd hyn y rhiant i gyfaddef yr anawsterau roedd yn wynebu yn ei phriodas.<\/p>\n<p>Cynigiwyd cefnogaeth emosiynol yn ogystal \u00e2 chyngor rhianta yn ystod y cyfnod anodd hwn. Wrth iddi ymddiried fwy ynom, datgelodd broblemau pellach fel problemau ariannol, nad oedd wedi cael sylw. Mae&#8217;r materion hyn yn cael eu datrys yn araf.<\/p>\n<p>Mae hi bellach yn dod i 4 sesiwn yr wythnos, gan gynnwys y Rhaglen Meithrin Rhianta, yn ogystal \u00e2 theimlo&#8217;n hyderus ac yn ddigon cyfforddus i ddod i mewn pan ei bod angen siarad am ei phroblemau. Mae hi hefyd yn ystyried mynd i grwpiau a phrosiectau cymunedol eraill na fyddai hi wedi eu hystyried o&#8217;r blaen oherwydd ei diffyg hyder a hunangred.<\/p>\n<p><strong>Astudiaeth Achos 2 <\/strong><\/p>\n<p>Rhiant sengl gyda 3 o blant 7, 4 ac 1 oed. Hanes o drais domestig, camddefnyddio cyffuriau ac alcohol yn y teulu agos a\u2019r teulu estynedig. Rydym wedi gwybod am y rhiant ers 4 blynedd ac roedd perthynas dda wedi datblygu gyda&#8217;r holl staff.<\/p>\n<p>Dyma rai o\u2019r materion a gododd gyda&#8217;r rhiant hwn a gefnogwyd gan y Ganolfan Deuluoedd:<\/p>\n<ul>\n<li>Trais Domestig a cham-drin emosiynol: cysylltwyd \u00e2 Gwasanaeth Cam-drin Domestig Aberconwy ac anogwyd hi i fynd i loches am gyfnod byr.<\/li>\n<li>Rhoddwyd cefnogaeth emosiynol i\u2019w helpu hi gyda\u2019r holl anawsterau yn ei pherthynas, e.e. gwahanu gyda\u2019i phartner, perthynas danllyd gyda\u2019i mam a\u2019i brodyr a\u2019i chwiorydd.<\/li>\n<li>Rhoddwyd cyngor ariannol a chyngor tai o ganlyniad i ddyledion oedd ganddi gyda benthyciwr arian anghyfreithlon. Helpwyd hi i egluro ei sefyllfa yn y system fudd-daliadau.<\/li>\n<li>Addysg a rhianta: cysylltwyd \u00e2\u2019r ysgol gynradd leol ynghylch anawsterau ag ymddygiad y plentyn canol. Aeth ar gwrs rhianta y Blynyddoedd Rhyfeddol.<\/li>\n<li>Iechyd: Cefnogwyd iechyd emosiynol y rhiant gan staff, ac rydym yn parhau i bwysleisio iddi pa mor bwysig yw meithrin ei hun yn ogystal \u00e2&#8217;r plant. Rydym wedi gweithio gyda&#8217;r Ymwelydd Iechyd lleol ac wedi trefnu apwyntiadau gyda&#8217;r meddyg pediatrig cymunedol ar ei rhan.<\/li>\n<li>Cefnogaeth ymarferol: darparwyd cludiant i ac o apwyntiadau.<\/li>\n<\/ul>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae pob teulu sy&#8217;n byw yn yr ardal wledig yn wynebu amddifadedd o ran mynediad i wasanaethau. Ar ben hyn mae llawer hefyd yn dioddef tlodi.<\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_seopress_titles_title":"","_seopress_titles_desc":"","_seopress_robots_index":"","_seopress_robots_follow":"","_seopress_robots_imageindex":"","_seopress_robots_snippet":"","_seopress_robots_primary_cat":"","_seopress_robots_breadcrumbs":"","_seopress_robots_freeze_modified_date":"","_seopress_robots_custom_modified_date":"","_seopress_robots_canonical":"","_seopress_social_fb_title":"","_seopress_social_fb_desc":"","_seopress_social_fb_img":"","_seopress_social_fb_img_attachment_id":0,"_seopress_social_fb_img_width":0,"_seopress_social_fb_img_height":0,"_seopress_social_twitter_title":"","_seopress_social_twitter_desc":"","_seopress_social_twitter_img":"","_seopress_social_twitter_img_attachment_id":0,"_seopress_social_twitter_img_width":0,"_seopress_social_twitter_img_height":0,"_seopress_redirections_value":"","_seopress_redirections_enabled":"","_seopress_redirections_enabled_regex":"","_seopress_redirections_logged_status":"","_seopress_redirections_param":"","_seopress_redirections_type":0,"_seopress_analysis_target_kw":"","_genesis_hide_title":false,"_genesis_hide_breadcrumbs":false,"_genesis_hide_singular_image":false,"_genesis_hide_footer_widgets":false,"_genesis_custom_body_class":"","_genesis_custom_post_class":"","_genesis_layout":"","footnotes":""},"categories":[60,61],"tags":[],"class_list":{"0":"post-774","1":"post","2":"type-post","3":"status-publish","4":"format-standard","6":"category-2014-15-cy","7":"category-ymateb-i-ddeddf-gwasanaethau-cymdeithasol-a-lles-2014","8":"entry"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/774","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=774"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/774\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=774"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=774"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=774"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}