{"id":764,"date":"2015-09-08T16:13:32","date_gmt":"2015-09-08T15:13:32","guid":{"rendered":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/?p=764"},"modified":"2021-01-07T10:06:27","modified_gmt":"2021-01-07T10:06:27","slug":"un-pwynt-mynediad-tim-mynediad-conwy","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/un-pwynt-mynediad-tim-mynediad-conwy\/","title":{"rendered":"Un Pwynt Mynediad (T\u00eem Mynediad Conwy)"},"content":{"rendered":"<p><strong><em>\u201cMae\u2019r gwasanaeth Un Pwynt Mynediad yn darparu Gwybodaeth, Cyngor a Chefnogaeth i unigolion ynghylch iechyd a lles i gynorthwyo gydag anghenion lles unigol&#8221;.<\/em><\/strong><\/p>\n<h4><a href=\"https:\/\/www.conwy.gov.uk\/cy\/Resident\/Social-Care-and-Wellbeing\/Contact-us\/Information-Advice-and-Assistance\/Single-Point-of-Access.aspx\"><span style=\"color: #ff6600;\">Cysylltwch \u00e2 th\u00eem Un Pwynt Mynediad<\/span><\/a><\/h4>\n<p>Prif amcanion prosiect Un Pwynt Mynediad Conwy yw<\/p>\n<ul>\n<li>datblygu a chyflwyno gwasanaeth gwybodaeth ac ymholiadau i\u2019r cyhoedd<\/li>\n<li>ymateb i bob ymholiad a<\/li>\n<li>rhoi mynediad i wasanaethau ymyrraeth \/ ataliaeth fuan neu gymorth a reolir (o gyfeirio i atgyfeirio a chydlynu gofal).<\/li>\n<\/ul>\n<p>Yn unol \u00e2 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles [2014], mae\u2019n canolbwyntio ar ddatblygu Gwasanaethau Lefel 1 Cyffredinol a rhoi mynediad i Wasanaethau Lles Cymunedol \/ Ymyrraeth Fuan Lefel 2.Mae SPOA yn rhoi ystod lawn o wasanaethau h.y. cyfeirio, gwybodaeth, cyngor, asesu, atgyfeirio a chydlynu gofal, gan adeiladu ar drefniadau, datblygiadau a darpariaeth bresennol.<\/p>\n<p>Y <strong>Weledigaeth<\/strong> ar gyfer SPOA Conwy yw:<\/p>\n<p><em>\u201cdarparu gwasanaeth dibynadwy a hygyrch ar sail sgyrsiau gwybodus, parchus ar adegau allweddol pan fydd pobl angen cyngor, gwybodaeth a chymorth; er mwyn helpu pobl i fod yn fwy gwybodus, yn fwy annibynnol a gofalu am eu hunain a\u2019u cefnogi pan fyddant yn ddiamddiffyn a\u2019u cynorthwyo i gynnal eu hannibyniaeth ac aros yn ddiogel yn eu cartrefi lle bynnag y bo modd drwy gydlynu gofal yn effeithiol &#8220;.<\/em><\/p>\n<p>Beth ydym ni eisiau ei gyflawni?<\/p>\n<ul>\n<li>Dinasyddion mwy gwybodus, mwy annibynnol, sy\u2019n gofalu am eu hunain.<\/li>\n<li>Gwell integreiddiad, cydlyniad gofal, lleihau dyblygu a lleihau biwrocratiaeth.<\/li>\n<li>Proffilio risg yn well ar systemau gofal cymdeithasol ac iechyd er mwyn gallu cynnig lefelau priodol o gymorth yn gynt a lleihau&#8217;r perygl o achosion lle nad oes gofal wedi\u2019i drefnu.<\/li>\n<li>Gwasanaeth mwy cynaliadwy, sy\u2019n gallu ymateb yn well i alw cynyddol.<\/li>\n<li>Safbwynt y dinesydd fydd y sail ar gyfer y model newydd. Bydd ymgysylltu drwy gydol y rhaglen yn allweddol i hyn.<\/li>\n<\/ul>\n<p><strong><u>Pa wahaniaeth y gwnaeth hyn?<\/u><\/strong><\/p>\n<p>Isod mae llythyr yn seiliedig ar adborth cleient, sy&#8217;n dangos y math o wahaniaeth y mae&#8217;r gwasanaeth yn ei wneud i bobl.<\/p>\n<p>Annwyl Tamara<\/p>\n<p>Rwyf newydd gyrraedd yn \u00f4l o egwyl hyfryd a oedd yn fwy melys gan fod yn gwybod bod rhywun yn cadw llygad ar mam a dad ac nad oedd angen i mi boeni. Roedd y ddynes y siaradais i efo hi yn Nh\u00eem Mynediad Conwy yn gyfeillgar iawn ac yn ymddangos ei bod yn gwybod pa gwestiynau i&#8217;w gofyn.<\/p>\n<p>Cyn i mi adael roedd hi wedi trefnu bod cymhorthion cerdded ac offer yn cael eu darparu er ein bod wedi dweud wrthyn nhw ei bod yn bosibl mai dros dro oedd hyn, dwedont wrthym y gallem ei gadw cyhyd ag y bydd angen. Roedd Mam wedi cael ychydig o sioc i ddechrau pan ddaeth 3 o ferched ond roedd yn deall ar \u00f4l iddynt egluro bod gan bob un ohonynt swyddi ychydig yn wahanol ac ar \u00f4l iddynt esbonio\u2019r hyn roeddent yn ei wneud. Roeddent yn siarad yn glir gyda mam ac yn esbonio popeth iddi, heb ruthro o gwbl. Roedd hyd yn oed ganddynt offer i\u2019w adael gyda ni&#8217;r diwrnod hwnnw.<\/p>\n<p>Roeddent yn gwybod y cyfan am ei phoen ysgwydd, ac roeddynt yn gallu egluro pethau i dad hefyd. Mae dad yn tueddu i boeni ac yn gadael i mi siarad ar ei ran ond mae yno y rhan fwyaf o&#8217;r amser ac mae angen dangos iddo sut i helpu mam. Mi wnaethant egluro pwysigrwydd peidio \u00e2 chodi mam ein hunain a&#8217;r risgiau sy\u2019n gysylltiedig.<\/p>\n<p>Dywedont eu bod eisiau dod yn \u00f4l i wneud ychydig o waith dilynol a gwaith ailalluogi gyda mam i fagu ei hyder i gerdded unwaith eto. Dim ond dwy o ferched ddaeth yr ail waith ac nid oedd unrhyw frys arnynt, er nad oedd mam wedi gwneud llawer o gynnydd mi wnaethant siarad efo hi am ei phryderon a gyda&#8217;u hanogaeth mam cododd mam o\u2019r gwely a defnyddio\u2019r offer oedd gyda nhw.<\/p>\n<p>Roedd mam yn ymddangos yn gyfforddus iawn gyda nhw ac roedd yn braf gwybod y byddent yn parhau i alw i mewn dros yr ychydig wythnosau nesaf. Roeddwn yn ystyried oedi cyn mynd am egwyl, er nad oeddem wedi bod i ffwrdd ers bron i 2 flynedd gan ein bod yn gofalu am mam a dad.<\/p>\n<p>Tua&#8217;r un pryd cefais alwad ff\u00f4n gan ddynes arall i weld sut roeddwn i\u2019n teimlo eu bod yn gwneud a dywedodd ei bod yn yno i fy nghefnogi yn y swyddogaeth fy gofalwr. Dywedodd y gallwn gwrdd \u00e2 hi a siarad am rai o&#8217;r pethau roeddwn yn eu gwneud a rhai o&#8217;r pryderon a oedd gennyf yngl\u0177n \u00e2 gofalu am fy rhieni.<\/p>\n<p>Eglurodd fod gan Cynnal Gofalwyr weithdrefn, os oes unrhyw beth yn digwydd i&#8217;r gofalwr, bod gwybodaeth ar gael i alluogi rhywun arall i helpu. Byddai hyn yn golygu, pe bai unrhyw beth yn digwydd i dad tra\u2019n bod i ffwrdd y byddent yn gwybod beth oedd anghenion a phryderon mam ac yn gallu trefnu neu siarad \u00e2&#8217;r bobl iawn a allai ei helpu.<\/p>\n<p>Mae&#8217;n teimlo fel bod pwysau wedi ei godi, doeddwn i heb sylweddoli faint roeddwn i&#8217;n ei wneud dros fy rhieni a pha mor ddibynnol oeddynt arnaf. Mae hyder dad wedi codi ac mae mam yn dal i fynd o nerth i nerth. Mae seibiant hirach neu hyd yn oed wyliau tramor yn edrych yn bosibl bellach.<\/p>\n<p>Diolch am eich cefnogaeth a\u2019ch cymorth, roedd yn dda gwybod nad oedd rhaid i mi ffonio o gwmpas llawer o leoedd a dweud wrth bob un ohonynt beth oedd yn digwydd &#8211; <strong>dywedais unwaith ac yna roedd yn ymddangos fod pawb yn gwybod.<\/strong><\/p>\n<p>Cofion am y tro.<\/p>\n<p>Joan<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>\u201cMae\u2019r gwasanaeth Un Pwynt Mynediad yn darparu Gwybodaeth, Cyngor a Chefnogaeth i unigolion ynghylch iechyd a lles i gynorthwyo gydag anghenion lles unigol&#8221;. Cysylltwch \u00e2 th\u00eem Un Pwynt Mynediad Prif amcanion prosiect Un Pwynt Mynediad Conwy yw datblygu a chyflwyno gwasanaeth gwybodaeth ac ymholiadau i\u2019r cyhoedd ymateb i bob ymholiad a rhoi mynediad i wasanaethau [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_seopress_titles_title":"","_seopress_titles_desc":"","_seopress_robots_index":"","_seopress_robots_follow":"","_seopress_robots_imageindex":"","_seopress_robots_snippet":"","_seopress_robots_primary_cat":"","_seopress_robots_breadcrumbs":"","_seopress_robots_freeze_modified_date":"","_seopress_robots_custom_modified_date":"","_seopress_robots_canonical":"","_seopress_social_fb_title":"","_seopress_social_fb_desc":"","_seopress_social_fb_img":"","_seopress_social_fb_img_attachment_id":0,"_seopress_social_fb_img_width":0,"_seopress_social_fb_img_height":0,"_seopress_social_twitter_title":"","_seopress_social_twitter_desc":"","_seopress_social_twitter_img":"","_seopress_social_twitter_img_attachment_id":0,"_seopress_social_twitter_img_width":0,"_seopress_social_twitter_img_height":0,"_seopress_redirections_value":"","_seopress_redirections_enabled":"","_seopress_redirections_enabled_regex":"","_seopress_redirections_logged_status":"","_seopress_redirections_param":"","_seopress_redirections_type":0,"_seopress_analysis_target_kw":"","_genesis_hide_title":false,"_genesis_hide_breadcrumbs":false,"_genesis_hide_singular_image":false,"_genesis_hide_footer_widgets":false,"_genesis_custom_body_class":"","_genesis_custom_post_class":"","_genesis_layout":"","footnotes":""},"categories":[60,61],"tags":[],"class_list":{"0":"post-764","1":"post","2":"type-post","3":"status-publish","4":"format-standard","6":"category-2014-15-cy","7":"category-ymateb-i-ddeddf-gwasanaethau-cymdeithasol-a-lles-2014","8":"entry"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/764","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=764"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/764\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=764"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=764"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=764"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}