{"id":753,"date":"2015-09-08T15:39:16","date_gmt":"2015-09-08T14:39:16","guid":{"rendered":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/?p=753"},"modified":"2015-09-08T15:39:16","modified_gmt":"2015-09-08T14:39:16","slug":"datblygu-perthnasau-gyda-bipbc","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/datblygu-perthnasau-gyda-bipbc\/","title":{"rendered":"Datblygu perthnasau gyda BIPBC"},"content":{"rendered":"<p>Mae integreiddio rhwng iechyd a gofal cymdeithasol yn ffactor allweddol mewn polisi cenedlaethol presennol.Amlinellodd Llywodraeth Cymru ei ofynion ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol integredig yn &#8220;Fframwaith ar gyfer darparu iechyd a gofal cymdeithasol integredig ar gyfer h\u0177n pobl ag anghenion cymhleth\u201d ac ar ddechrau 2014, cytunodd Conwy a phum awdurdod lleol arall Gogledd Cymru gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) ar fframwaith y dyfodol ar gyfer darparu Iechyd a Gofal Cymdeithasol Integredig ar gyfer pobl h\u0177n ag Anghenion Cymhleth a chyhoeddwyd Datganiad o Fwriad.<!--more--><\/p>\n<p>Prif ddiben Gofal Integredig yw sicrhau bod ein dinasyddion yn cael gwell profiad o ran gofal a chymorth, yn profi llai anghydraddoldeb a sicrhau gwell canlyniadau lle bo modd.Mae gwasanaethau integredig yn cael eu hyrwyddo fel model gwasanaeth priodol i ddarparu gofal a rennir i\u2019r grwpiau hynny o gleientiaid sy\u2019n debygol o wneud defnydd helaeth o wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, fel pobl h\u0177n.<\/p>\n<p>Mae hyrwyddo lles pobl yn agwedd allweddol ar y newid sydd ei angen yn y model gofal ledled Cymru.I&#8217;r perwyl hwn mae disgwyl i awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Lleol gydweithio i ddatblygu a chyflwyno trefniadau cyffredin i alluogi person h\u0177n yn y gymuned, mewn gofal preswyl neu yn yr ysbyty i gael cyngor a gwybodaeth gan weithwyr proffesiynol i&#8217;w helpu i hyrwyddo eu lles.<\/p>\n<p><strong><u>Beth sydd wedi newid?<\/u><\/strong><\/p>\n<p>Yng Nghonwy, rydym wedi sefydlu Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth gyda BIPBC. Bwriad y memorandwm cyd-ddealltwriaeth hwn yw egluro swyddogaethau a chyfrifoldebau penodol Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a BIPBC wrth ddarparu continwwm o wasanaethau cymunedol ar y cyd sy&#8217;n darparu system o gymorth cymunedol, ymyrraeth gynnar, ail-alluogi a gofal canolradd, yn ogystal \u00e2 gofal diwedd oes ar gyfer dinasyddion Conwy.(Copi yn y ffeil dystiolaeth).<\/p>\n<p>Darperir y gwasanaethau hyn gan dimau iechyd a gofal cymdeithasol wedi\u2019u cydleoli sy&#8217;n cynnwys Gweithwyr Cymdeithasol, Therapyddion Galwedigaethol, Nyrsys Ardal a staff Cymorth yn y Gymuned sydd wedi&#8217;u lleoli mewn pum gwahanol swyddfa ardal. Mae gwasanaethau i Bobl H\u0177n yng Nghonwy bob amser wedi ymdrechu i gydweithio&#8217;n agos \u00e2 gwasanaethau gofal iechyd sylfaenol yn seiliedig ar ardaloedd daearyddol ac o ganlyniad, roedd cysylltiadau wedi\u2019u hen sefydlu eisoes yn bodoli gyda gweithwyr iechyd proffesiynol yn y gymuned. Fodd bynnag, ers datblygu timau ardal aml-asiantaeth yn Llanfairfechan, Llanrwst a Llandudno gwelwyd hyn yn datblygu ymhellach. Dim ond am eu bodwedi eu cyd-leoli yn y safleoedd hyn, mae&#8217;r berthynas rhwng gweithwyr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol o\u2019r ddau sefydliad yn gweithio\u2019n arferol gyda&#8217;i gilydd i ddarparu gwasanaethau hanfodol yn y gymuned ar gyfer pobl h\u0177n sy&#8217;n byw yn eu hardaloedd unigol.<\/p>\n<p>Mae\u2019r gwasanaeth diwedd oes yn enghraifft dda o sut rydym yn darparu\u2019r gwasanaethau hyn yn effeithiol mewn partneriaeth ag iechyd. Mae staff gofal yn y gymuned gofal cymdeithasol yn gweithio gyda staff Nyrsio Ardal i ddarparu cefnogaeth a chymorth i bobl sydd ar ddiwedd eu bywydau ac yn dymuno marw gartref.<\/p>\n<p><strong><u>Pa wahaniaeth mae hyn wedi\u2019i wneud?<\/u><\/strong><\/p>\n<p>Isod mae rhai astudiaethau achos sy&#8217;n dangos y gwahaniaeth a waned gan y timau aml-asiantaeth hyn a gydleolwyd :<\/p>\n<p><strong>Canolfan Crwst \u2013 <\/strong>cynhelir cyfarfod dyrannu ar y cyd bob bore Llun, mae Nyrsys Ardal, Nyrs Reoli Clefydau Cronig, T\u00eem Cymorth yn y Gymunedol a th\u00eem Gweithwyr Cymdeithasol yn bresennol \u2013 trafodir achosion presennol a rhai newydd, rydym yn ffodus bod gennym berthynas waith dda iawn gyda\u2019n cydweithwyr iechyd ac rydym yn rhannu gwybodaeth a thrafod unrhyw bryderon.<\/p>\n<p>Rydym hefyd yn cael trafodaethau anffurfiol o ddydd i ddydd gan ein bod yn rhannu swyddfa yng Nghanolfan Crwst.<\/p>\n<p>Astudiaethau achos enghreifftiol:<\/p>\n<ul>\n<li>Pan roedd cleient gartref, roedd pryderon ynghylch cymeriant dietegol. Roedd cleientiaid yn derbyn cymorth gan y T\u00eem Dementia, roedd Nyrsys Ardal yn ymweld, ac yn pwyso\u2019r cleient yn rheolaidd ac yn adrodd yn \u00f4l i\u2019r t\u00eem Gwaith Cymdeithasol, a oedd yn cynorthwyo i fonitro&#8217;r sefyllfa ar y cyd rhwng iechyd a\u2019r Adran Gwasanaethau Cymdeithasol<\/li>\n<li>Y cleient yn cael ei ryddhau o&#8217;r ysbyty i Gartref Nyrsio i adfer- roedd y cleient yn dymuno dychwelyd adref, ond roedd pryderon blaenorol ynghylch hunan-esgeulustod. Asesodd Nyrs Reoli Clefydau Cronig a Gweithiwr Cymdeithasol y client ar y cyd, a threfnwyd pecyn gofal er mwyn i\u2019r cleient ddychwelyd adref \u2013 bydd y Nyrs Reoli Clefydau Cronig, Gweithiwr Cymdeithasol a\u2019r T\u00eem Cymorth yn y Gymuned yn gweithio gyda&#8217;i gilydd i fonitro cynnydd y client a&#8217;r sefyllfa gartref.<\/li>\n<li>Roedd gan gleient gyflwr ar y croen a wlserau coes, roedd y coesau wedi chwyddo\u2019n fawr, derbyniodd y cleient gymorth gofal cartref ac mae Nyrs Rheoli Clefydau Cronig yn ymweld yn rheolaidd. Yn dilyn gwaethygiad yn y cyflwr, mae Nyrs Reoli Cyflyrau Cronig a\u2019r Adran Gwasanaethau Cymdeithasol wedi gweithio gyda&#8217;i gilydd i drefnu gofal seibiant gyda mwy o gefnogaeth a monitro yn Hafan Gwydir, sy&#8217;n golygu nad oes rhaid i&#8217;r cleient fynd i\u2019r ysbyty.<\/li>\n<\/ul>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae integreiddio rhwng iechyd a gofal cymdeithasol yn ffactor allweddol mewn polisi cenedlaethol presennol.Amlinellodd Llywodraeth Cymru ei ofynion ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol integredig yn &#8220;Fframwaith ar gyfer darparu iechyd a gofal cymdeithasol integredig ar gyfer h\u0177n pobl ag anghenion cymhleth\u201d ac ar ddechrau 2014, cytunodd Conwy a phum awdurdod lleol arall Gogledd Cymru [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_seopress_robots_primary_cat":"","_seopress_titles_title":"","_seopress_titles_desc":"","_seopress_robots_index":"","_genesis_hide_title":false,"_genesis_hide_breadcrumbs":false,"_genesis_hide_singular_image":false,"_genesis_hide_footer_widgets":false,"_genesis_custom_body_class":"","_genesis_custom_post_class":"","_genesis_layout":"","footnotes":""},"categories":[60,67],"tags":[],"class_list":{"0":"post-753","1":"post","2":"type-post","3":"status-publish","4":"format-standard","6":"category-2014-15-cy","7":"category-dilyniant-ers-2013-14","8":"entry"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/753","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=753"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/753\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=753"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=753"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=753"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}