{"id":342,"date":"2014-12-01T16:26:17","date_gmt":"2014-12-01T16:26:17","guid":{"rendered":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/?p=342"},"modified":"2014-12-01T16:26:17","modified_gmt":"2014-12-01T16:26:17","slug":"gall-pobl-ddod-o-hyd-i-wybodaeth-ynglyn-ar-gwasanaethau-sydd-ar-gael","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/gall-pobl-ddod-o-hyd-i-wybodaeth-ynglyn-ar-gwasanaethau-sydd-ar-gael\/","title":{"rendered":"Gall pobl ddod o hyd i wybodaeth yngl\u0177n \u00e2\u2019r gwasanaethau sydd ar gael"},"content":{"rendered":"<h4>Mae Gwasanaethau Cymdeithasol yn cynnig ystod eang o\u00a0 wasanaethau i\u2019r gymuned, o blant a\u2019u teuluoedd, ymadawyr\u00a0 gofal, i bobl h\u0177n, a phobl ag anableddau. \u00a0Mae\u2019n bwysig i ni bod pobl yn dod o hyd i wybodaeth am wasanaethau y gallai fod ganddynt hawl iddynt.<\/h4>\n<h4>Ond nid Gwasanaethau Cymdeithasol yw\u2019r unig ffynhonnell i gael cymorth neu wybodaeth. Mae yna rwydwaith ffyniannus o sefydliadau gwirfoddol a phreifat, grwpiau a gwasanaethau elusennol yn Sir Conwy, ac rydym wedi bod yn chwilio am ffyrdd o wella sut y gallwn rannu\u2019r wybodaeth hon, yn enwedig ym maes Anhwylderau\u2019r Sbectrwm Awtistig, gwasanaethau cynhwysol ar gyfer cefnogaeth i deuluoedd a chefnogaeth i deuluoedd sydd \u00e2 phlentyn sydd ag anabledd.<br \/>\n<!--more--><\/h4>\n<h2>T\u00eem o Amgylch y Teulu<\/h2>\n<p><strong>Cefndir<br \/>\n<\/strong>Cysylltwch \u00e2 Th\u00eem o Amgylch y Teulu os oes angen gwybodaeth arnoch am weithgareddau, sefydliadau, gwasanaethau neu ofal plant.<\/p>\n<p>Mae Gwasanaethau Plant (Gwasanaethau Cymdeithasol) wedi bod yn cydweithio\u2019n agos \u00e2 Th\u00eem o Amgylch y Teulu ers iddo gael ei lansio ym mis Mawrth 2013.<\/p>\n<p>Mae\u2019r T\u00eem o Amgylch y Teulu yn gweithredu fel siop un stop. Gall teuluoedd ffonio un rhif (01492 577788) i gael y cyngor a\u2019r wybodaeth maent eu hangen.<\/p>\n<p><strong>Beth sydd wedi newid?<\/strong><strong><br \/>\n<\/strong>Mae Gwasanaethau\u2019r Plant a Th\u00eem o Amgylch y Teulu yn cwrdd yn rheolaidd i rannu gwybodaeth a syniadau am sut i ddatblygu\u2019r gwasanaeth i sicrhau bod y wybodaeth gywir a fydd yn gwneud gwahaniaeth, yn cael ei gynnig i bobl. Efallai y bydd gan y T\u00eem o Amgylch y Teulu bryderon o dro i dro yngl\u0177n \u00e2 mater diogelu o fewn teulu, ac efallai y byddant yn atgyfeirio\u2019r mater i\u2019r Gwasanaeth Plant yn y sefyllfaoedd hynny.<\/p>\n<p><strong>Pa wahaniaeth y mae wedi\u2019i wneud?<\/strong><strong><br \/>\n<\/strong>Ers ei lansio, mae\u2019r Gwasanaethau Plant wedi cyfeirio 103 o deuluoedd at y T\u00eem o Amgylch y Teulu. Teuluoedd yw\u2019r rhain nad oedd yn cyrraedd y trothwy i dderbyn cymorth uniongyrchol gan y Gwasanaethau Cymdeithasol. Roedd hyn yn cael ei ystyried yn fwlch mewn gwasanaethau yn y gorffennol. Mae\u2019r bwlch hwn bellach yn cael ei lenwi gan y T\u00eem o Amgylch y Teulu, sydd wedi rhoi cefnogaeth, wedi cyfeirio neu drefnu cyfarfodydd aml asiantaeth ar gyfer 358 o bobl yng Nghonwy. Mae\u2019r T\u00eem o Amgylch y Teulu wedi cyfeirio 10 o deuluoedd at Wasanaethau Plant, oherwydd pryderon am ddiogelu.<\/p>\n<h2>Strategaeth Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth<\/h2>\n<p><strong>Cefndir<br \/>\n<\/strong>Mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod bod pobl sydd ag Anhwylderau Sbectrwm Awtistig yn aml yn colli allan, oherwydd diffyg gwasanaethau neu oherwydd nad yw gwasanaethau yn ymwybodol o\u2019u hanghenion bob amser. Gofynnwyd i bob awdurdod lleol yng Nghymru ffurfio \u201cgr\u0175p budd-ddeiliaid\u201d a oedd yn cynnwys rhieni, a staff o bob asiantaeth. Yn 2010, fe unodd grwpiau Conwy a Sir Ddinbych, ac mae\u2019r \u201cgr\u0175p llywio\u201d presennol yn cwrdd pedair gwaith y flwyddyn ac mae\u2019n cynnwys oedolion sydd ag Anhwylderau Sbectrwm Awtistig, rhieni, Cynghorwyr a gweithwyr proffesiynol.<\/p>\n<p><strong>\u00a0<\/strong><\/p>\n<p><strong>Beth sydd wedi newid?<br \/>\n<\/strong>Mae yna gymysgedd gwerthfawr o bobl yn y gr\u0175p erbyn hyn, ac mae llawer yn mynychu, ac mae ganddo rwydwaith e-bost mawr er mwyn rhannu gwybodaeth. \u00a0Dyma rai o\u2019r manteision rydym wedi\u2019u gweld ers i\u2019r gr\u0175p gael ei ffurfio:<\/p>\n<ul>\n<li>Mae yna lawer o grwpiau cymdeithasol a hamdden ar gael nawr, megis clwb dringo \u201cMonkeys\u201d i bobl ifanc<\/li>\n<li>Gr\u0175p cymdeithasol i oedolion<\/li>\n<li>Rhagor o hyfforddiant ar gael nawr<\/li>\n<li>Rydym wedi gweld rhagor o ymgysylltu \u00e2 holiadur \u201cYmwybodol o Awtistiaeth\u201d Llywodraeth Cymru.<\/li>\n<\/ul>\n<p><strong><br \/>\n<\/strong><\/p>\n<p><strong>Pa wahaniaeth y mae wedi\u2019i wneud?<br \/>\n<\/strong>\u201cMae bod yn aelod o\u2019r gr\u0175p llywio wedi gwella fy nealltwriaeth o Anhwylderau Sbectrwm Awtistig yn enfawr. Drwy rannu arfer da, gallaf rannu gwybodaeth \u00e2 chydweithwyr\u201d \u2013 (Staff Gwasanaethau Ieuenctid)<\/p>\n<p>\u201cMae\u2019r arian a ddarparwyd yn uniongyrchol i\u2019r grwpiau i blant a phobl ifanc sydd ag awtistiaeth wedi cael effaith uniongyrchol a chadarnhaol ar eu gallu i deimlo bod ganddynt lefydd i fynd a phobl sydd \u00e2 diddordeb. Mae&#8217;r arian wedi ein galluogi i roi cynnig ar bethau newydd, hyd yn oed os na fuont yn llwyddiannus \u2013 y pwynt ydi ein bod wedi trio, a heb yr arian yma ni fyddai unrhyw un arall yn fodlon gwneud hyn\u201d. \u00a0(Rhiant)<\/p>\n<h2>Gweithiwr Cefnogi Cymunedol a Mentora Anhwylderau Sbectrwm Awtistig<\/h2>\n<p><strong>Cefndir<br \/>\n<\/strong>Mae llawer o oedolion sydd ag Anhwylderau Sbectrwm Awtistig yn unig a\/neu\u2019n fregus, ond eto, efallai nad ydynt yn cwrdd \u00e2\u2019r meini prawf i gael mynediad at wasanaethau gan yr Awdurdod Lleol. Mae\u2019n debyg y bydd eu hangen am y gwasanaeth yn cynyddu dros amser heb unrhyw gymorth neu gefnogaeth. Fe ariannodd Llywodraeth Cymru brosiect i gefnogi\u2019r oedolion hyn, a chasglu gwybodaeth ddefnyddiol er mwyn cynllunio gwasanaethau at y dyfodol.<\/p>\n<p><strong>Beth sydd wedi newid?<br \/>\n<\/strong>Mae\u2019r prosiect Mentora a Chefnogi Cymunedol yn darparu;<\/p>\n<ul>\n<li>Cyngor<\/li>\n<li>Cyfeirio \u2013 i grwpiau cymdeithasol neu gefnogi, a gwasanaethau a sefydliadau eraill<\/li>\n<li>Cefnogaeth yn y tymor byr, ee, gweithredu strwythur\/trefn, mynediad at gyfleusterau cymunedol, cefnogaeth \u00e2 chyllidebu etc<\/li>\n<li>Sesiynau sylfaenol codi ymwybyddiaeth o Anhwylderau Sbectrwm Awtistig<\/li>\n<\/ul>\n<p><strong>Pa wahaniaeth y mae wedi\u2019i wneud?<br \/>\n<\/strong>Mae\u2019r gweithiwr cefnogi wedi gweithio \u00e2 64 o unigolion sydd \u00e2 (neu sydd yn ceisio) diagnosis o Anhwylderau Sbectrwm Awtistig. Mae hyn wedi cynnwys cefnogi pobl drwy\u2019r newid o ysgol i brifysgol, galluogi unigolion i gael pas bws, sefydlu trefn wythnosol, rheoli arian a dod o hyd i waith gwirfoddol. Mae cyfeirio a rhannu gwybodaeth \u00e2 rhieni a gofalwyr wedi gwella \u2013 mae calendr o ddigwyddiadau misol yn cael eu dosbarthu ar draws Conwy a Sir Ddinbych. Rydym wedi cydweithio \u00e2 sefydliadau lleol, darparwyr gweithgareddau a grwpiau cymdeithasol. Mae aelodau o D\u00eem Landlord Cymeradwyedig yn CCBC wedi\u2019u hyfforddi i gefnogi unigolion ag Anhwylderau Sbectrwm Awtistig yn well.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<h2>Rhwydwaith Anabledd Conwy<\/h2>\n<p><strong>Cefndir<br \/>\n<\/strong>Roedd y Gofrestr Anabledd, fel yr oedd yn arfer cael ei galw, yn cael ei chadw gan Barnardo\u2019s ar ran Conwy a Sir Ddinbych hyd at 2010.<\/p>\n<p>Nod y gofrestr oedd gwneud dau beth. Yn gyntaf, helpu Awdurdodau Lleol a Gwasanaethau Iechyd i flaengynllunio a datblygu gwasanaethau yn \u00f4l y nifer o blant sydd ag anableddau, eu hoedran, a\u2019u cyflyrau. Yn ail, darparu gwybodaeth berthnasol i blant a\u2019u teuluoedd.<\/p>\n<p>Fe ymrwymodd Conwy i ail-lunio\u2019r gofrestr yn ystod 2012.<\/p>\n<p><strong>Beth sydd wedi newid?<br \/>\n<\/strong>Mae gr\u0175p o staff o BIPBC (Iechyd), Gwasanaethau Cymdeithasol Conwy a\u2019r adran Addysg wedi cicdanio\u2019r prosiect unwaith eto, o dan enw newydd \u201cRhwydwaith Anabledd Conwy\u201d.<\/p>\n<p>Dosbarthwyd ffurflenni caniat\u00e2d i blant a\u2019u teuluoedd oedd yn cynnwys esboniad am ddiben y gofrestr.<\/p>\n<p>Mae systemau ar waith bellach i gadw\u2019r wybodaeth yn ddiogel.<\/p>\n<p>Paratowyd \u201cprotocol rhannu gwybodaeth\u201d drafft, a bydd yn cael ei arwyddo gan bob partner yn ystod haf 2014.<\/p>\n<p>Mae gwaith wedi cychwyn ar ddatblygu gwefan Rhwydwaith i Blant ag anabledd a\u2019u teuluoedd.<\/p>\n<p><strong>Pa wahaniaeth y mae wedi\u2019i wneud?<br \/>\n<\/strong>\u00a0Bydd gan Sir Conwy ddarlun cliriach o nifer o blant sydd ag anableddau a\u2019u hanghenion. \u00a0\u00a0Gyda\u2019r wybodaeth gyflawn, gall yr Awdurdod Lleol a BIPBC dargedu gwasanaethau yn fwy cywir.<\/p>\n<p>Bydd y Rhwydwaith yn darparu gwybodaeth, cysylltiadau gwasanaeth a\u2019r cyfle i gael cefnogaeth gan gyfoedion, a bydd modd i blant a\u2019u teuluoedd gysylltu drwy fwrdd negeseuon diogel ar y we.<\/p>\n<p>Bydd y Rhwydwaith yn bwynt cydlynu er mwyn i wasanaethau trydydd sector gael hysbysebu fel bod gan deuluoedd bwynt canolog i ddarganfod beth sydd ar gael, gyda chysylltiadau agos i gronfa ddata Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd. Pan fydd y gofrestr\/rhwydwaith wedi&#8217;i sefydlu, mae\u2019n bosibl y bydd modd ymestyn yr aelodaeth i Sir Ddinbych yn y dyfodol.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae Gwasanaethau Cymdeithasol yn cynnig ystod eang o\u00a0 wasanaethau i\u2019r gymuned, o blant a\u2019u teuluoedd, ymadawyr\u00a0 gofal, i bobl h\u0177n, a phobl ag anableddau. \u00a0Mae\u2019n bwysig i ni bod pobl yn dod o hyd i wybodaeth am wasanaethau y gallai fod ganddynt hawl iddynt. Ond nid Gwasanaethau Cymdeithasol yw\u2019r unig ffynhonnell i gael cymorth neu [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_seopress_titles_title":"","_seopress_titles_desc":"","_seopress_robots_index":"","_seopress_robots_follow":"","_seopress_robots_imageindex":"","_seopress_robots_snippet":"","_seopress_robots_primary_cat":"","_seopress_robots_breadcrumbs":"","_seopress_robots_freeze_modified_date":"","_seopress_robots_custom_modified_date":"","_seopress_robots_canonical":"","_seopress_social_fb_title":"","_seopress_social_fb_desc":"","_seopress_social_fb_img":"","_seopress_social_fb_img_attachment_id":0,"_seopress_social_fb_img_width":0,"_seopress_social_fb_img_height":0,"_seopress_social_twitter_title":"","_seopress_social_twitter_desc":"","_seopress_social_twitter_img":"","_seopress_social_twitter_img_attachment_id":0,"_seopress_social_twitter_img_width":0,"_seopress_social_twitter_img_height":0,"_seopress_redirections_value":"","_seopress_redirections_enabled":"","_seopress_redirections_enabled_regex":"","_seopress_redirections_logged_status":"","_seopress_redirections_param":"","_seopress_redirections_type":0,"_seopress_analysis_target_kw":"","_genesis_hide_title":false,"_genesis_hide_breadcrumbs":false,"_genesis_hide_singular_image":false,"_genesis_hide_footer_widgets":false,"_genesis_custom_body_class":"","_genesis_custom_post_class":"","_genesis_layout":"","footnotes":""},"categories":[44],"tags":[],"class_list":{"0":"post-342","1":"post","2":"type-post","3":"status-publish","4":"format-standard","6":"category-ymateb-i-anghenion","7":"entry"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/342","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=342"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/342\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=342"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=342"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=342"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}