{"id":340,"date":"2014-12-01T16:25:38","date_gmt":"2014-12-01T16:25:38","guid":{"rendered":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/?p=340"},"modified":"2014-12-01T16:25:38","modified_gmt":"2014-12-01T16:25:38","slug":"gwrandewir-ar-blant-ac-oedolion-maent-yn-cael-eu-deall-ac-maent-yn-ganolog-i-wneud-newidiadau-iw-bywydau","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/gwrandewir-ar-blant-ac-oedolion-maent-yn-cael-eu-deall-ac-maent-yn-ganolog-i-wneud-newidiadau-iw-bywydau\/","title":{"rendered":"Gwrandewir ar blant ac oedolion, maent yn cael eu deall ac maent yn ganolog i wneud newidiadau i\u2019w bywydau"},"content":{"rendered":"<h4>Fel unigolion, mae pawb ohonom yn wahanol. Mae gennym hoffterau ac anhoffterau gwahanol, gobeithion gwahanol a breuddwydion gwahanol ar gyfer y dyfodol.<\/h4>\n<h4>Os fyddwch chi angen cymorth, cefnogaeth neu gyngor gan y Gwasanaethau Cymdeithasol, byddwn yn ymdrechu am y canlyniad gorau i chi. Er mwyn cyflawni hyn yn iawn, rydym angen deall beth sydd bwysicaf i chi a\u2019ch teulu a sicrhau ein bod yn rhoi cymorth i chi flaengynllunio mewn modd sy\u2019n mynd i wneud y gwahaniaeth rydych chi\u2019n ei ddymuno.<\/h4>\n<h4>Rydym wedi bod yn gwella\u2019r modd y mae hyn yn digwydd i bobl ifanc ag anableddau, wrth iddynt \u201cdrosglwyddo\u201d mewn i fyd oedolion, ac edrych ar ffyrdd arloesol o wrando ar Blant sy&#8217;n Derbyn Gofal.<\/h4>\n<p><!--more--><\/p>\n<h2>Trosglwyddo<\/h2>\n<p><strong>Cefndir<br \/>\n<\/strong>Mae Gwasanaeth Trosglwyddo wedi bodoli yng Nghonwy ers 8 mlynedd. Yn wreiddiol roedd yn cynnwys un Cydlynydd Trosglwyddo wedi\u2019i leoli yng Ngwasanaethau Plant ac un Cydlynydd Trosglwyddo yn y T\u00eem Anableddau Dysgu i oedolion. Fe sylweddolodd Conwy yn fuan beth oedd gwerth cynllunio trosglwyddo priodol gyda phobl ifanc, ac felly fe gyflwynodd adnoddau i ddatblygu t\u00eem.<\/p>\n<p><strong>Beth sydd wedi newid?<br \/>\n<\/strong>Erbyn heddiw, mae\u2019r t\u00eem yn cynnwys Rheolwr Trosglwyddo, Uwch Ymarferydd, 2 Weithiwr Cymdeithasol sy\u2019n gweithredu yn Weithwyr Trosglwyddo Allweddol ac un Gweithiwr Trosglwyddo Allweddol anghymwysedig. Ers Ebrill 2012, mae gennym Weithiwr Mentora, Cefnogi Anhwylderau Sbectrwm Awtistig Cymunedol. Fe rennir y swydd hon ag awdurdod cyfagos a gobeithir y byddwn yn llwyddiannus yn dod o hyd i gyllid am gyfanswm o dair blynedd.<\/p>\n<p>Ers y ddwy flynedd ddiwethaf, mae swydd ychwanegol wedi bod ynghlwm \u00e2&#8217;r t\u00eem (wedi\u2019i ariannu drwy CGE \u2013 Cyrraedd y Nod) er mwyn canolbwyntio ar bobl ifanc mewn ysgolion prif ffrwd sydd \u00e2 syndrom Asperger ac sydd wedi\u2019u henwi yn debygol o elwa o gefnogaeth i gynllunio ar gyfer bywyd oedolion. Mae wedi dod i ben erbyn hyn. Mae\u2019r Gweithiwr Cefnogi Mentora ac Anhwylderau Sbectrwm Awtistig Cymunedol (Grant rhanbarthol Strategaeth Anhwylderau Sbectrwm Awtistig), sy\u2019n gweithio \u00e2 phobl ifanc 16 i 25 oed ag Asperger, wedi gallu parhau i wneud ychydig o ddarnau o waith, gyda\u2019r gr\u0175p yma i gynorthwyo \u00e2\u2019r strategaeth gwblhau.<\/p>\n<p>Mae\u2019r t\u00eem wedi\u2019i leoli o fewn y gwasanaeth Anableddau Dysgu ond clustnodir lle iddo o fewn y T\u00eem Plant ag Anableddau. Mae\u2019r T\u00eem Trosglwyddo yn gweithio ar draws ystod o anableddau, gan gynnwys anableddau dysgu, anabledd corfforol, amhariad synhwyrol, Anhwylderau Sbectrwm Awtistig\/Asperger.<\/p>\n<p>Nodau ac amcanion y gwasanaeth Trosglwyddo yw sicrhau trosglwyddiad esmwyth i bobl ifanc ag anableddau wrth symud o blentyndod i fyd oedolion.<\/p>\n<p>Mae\u2019r t\u00eem yn gweithio ag asiantaethau eraill i ddarparu gwasanaethau priodol a hygyrch i bobl ifanc sydd ag anableddau. \u00a0Mae\u2019n broses aml asiantaeth sy\u2019n hyrwyddo ac yn gwella datblygiadau aml asiantaeth yn y dyfodol.<\/p>\n<p>Mae\u2019r broses Trosglwyddo yn cychwyn yn adolygiad Blwyddyn 8 yn yr ysgol. Mae\u2019r Gweithiwr Trosglwyddo Allweddol yn ymgymryd ag ystod o weithgareddau dros y 4 mlynedd nesaf, yn canolbwyntio ar gynllunio ymagweddau \u00e2\u2019r unigolyn yn ganolog. Bydd y cyfan yn arwain at \u00a0asesiad Gofal yn y Gymuned a chynllun gofal cyn i\u2019r unigolyn droi\u2019n 18 oed, ac os bydd angen caiff gwasanaethau eu darparu yn syth ar \u00f4l eu 18fed pen-blwydd. Mae\u2019r Gweithiwr Trosglwyddo Allweddol yn parhau i ymwneud \u00e2\u2019r unigolyn ifanc hyd nes y tybir eu bod wedi trosglwyddo\u2019n llwyr i wasanaethau oedolion.<\/p>\n<p><strong>Pa wahaniaeth y mae wedi\u2019i wneud? <\/strong><\/p>\n<p>&#8211; \u201cDwi wedi bod drwy newidiadau &#8230;. gadael ysgol, coleg a mynd i wasanaethau dydd. Mae wedi bod yn anodd ond roedd gen i gynllun o\u2019r hyn roeddwn eisiau ei wneud. Allwn i ddim bod wedi mynd drwyddo heb fy ngweithiwr trosglwyddo.\u201d (Defnyddiwr Gwasanaeth)<\/p>\n<p>&#8211; \u201cMae yna lawer o newidiadau &#8230;. ond yr hyn oedd yn gyson oedd fy ngweithwyr trosglwyddo ar gyfer {fy merch a fy mab}\u201d. (Rhiant i 2 o ddefnyddwyr gwasanaeth)<\/p>\n<p>&#8211; \u201cDwi wedi gweithio gyda\u2019r T\u00eem Trosglwyddo ers sawl blwyddyn ac maent yn gwneud ymdrech enfawr i ddod i adnabod y bobl ifanc yn fy nosbarth. Byddai\u2019n hawdd gwneud penderfyniadau am ddyfodol y disgyblion, yn enwedig y rhai sydd ag anawsterau cyfathrebu, ond mae\u2019r Gweithwyr Trosglwyddo yn gweithio\u2019n galed i ddarganfod beth maen nhw wirioneddol eisiau ei wneud mewn modd naturiol a chyfeillgar iawn.\u201d (Athro)<\/p>\n<p>(Cynghorwr Gyrfaoedd) \u2013 \u201cDwi\u2019n cydweithio \u00e2 Gweithwyr Trosglwyddo i helpu pobl ifanc a\u2019u teuluoedd ddewis o ystod o opsiynau pan fyddant yn gadael ysgol. Rydym yn cynnal cyfarfodydd ar y cyd er mwyn atal teuluoedd rhag gorfod ailadrodd pethau, sydd yn gr\u00eat, a gall y Gweithwyr Trosglwyddo ateb cwestiynau am wasanaethu dydd a phethau sydd ar gael ar \u00f4l iddynt fod yn y coleg.\u201d<\/p>\n<p><strong>\u00a0<\/strong><\/p>\n<h2>Fforwm Plant sy\u2019n Derbyn Gofal \u2013 Lleisiau Swnllyd<\/h2>\n<p><strong>Cefndir<br \/>\n<\/strong>Roeddem eisiau:<\/p>\n<ul>\n<li>ymgysylltu \u00e2 Phlant sy&#8217;n Derbyn Gofal wrth gyflwyno Gwasanaeth<\/li>\n<li>ymgysylltu \u00e2 Phlant sy&#8217;n Derbyn Gofal yn y fforwm Ieuenctid ehangach yng Nghonwy gan bod Plant sy\u2019n Derbyn Gofal heb gael eu cynrychioli o\u2019r blaen<\/li>\n<li>datblygu cyfleoedd i Blant sy&#8217;n Derbyn Gofal gael eu cydnabod am<\/li>\n<\/ul>\n<p>eu talentau a\u2019u cyfraniadau i Gymdeithas<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><strong>Beth sydd wedi newid?<\/strong><\/p>\n<ul>\n<li>Ymgysylltu \u00e2 NYAS i drefnu cyfarfodydd bob chwarter<\/li>\n<li>Daeth siaradwyr gwadd draw i drafod \u00e2 phobl ifanc mae hyn wedi arwain at newid wrth gyflwyno gwasanaeth, ee, tocynnau hamdden ar gyfer Plant sy\u2019n Derbyn Gofal.<\/li>\n<li>Mae swyddogion proffesiynol wedi bod yn atebol i bobl ifanc i gyflawni newidiadau<\/li>\n<\/ul>\n<p><strong><br \/>\n<\/strong><strong>Pa wahaniaeth y mae wedi\u2019i wneud?<br \/>\n<\/strong>Fe helpodd y gr\u0175p (ynghyd \u00e2 rhai aelodau o Gyngor yr Ifanc) i gynhyrchu gwaith celf ar gyfer fersiwn o\u2019r cynllun Rhianta Corfforaethol oedd yn addas i bobl ifanc.<\/p>\n<p>Cynigiwyd cyfle i bobl ifanc dywys myfyrwyr Gweithwyr Cymdeithasol o Brifysgol Bangor, i roi cipolwg iddynt o\u2019r hyn sy\u2019n gwneud Gweithiwr Cymdeithasol da.<\/p>\n<p>Mae\u2019r fforwm yn gr\u0175p cefnogi llwyddiannus ar gyfer Plant sy\u2019n Derbyn Gofal, ac mae gr\u0175p rheolaidd yn mynychu. <strong>\u00a0<\/strong><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<h2>Prosiect Bydis<\/h2>\n<p><strong>Cefndir<br \/>\n<\/strong>Weithiau bydd plant a phobl ifanc yn mynd ar goll neu\u2019n \u201crhedeg i ffwrdd\u201d, ac yn amlwg mae\u2019n beth pryderus ofnadwy pan fo hynny\u2019n digwydd. Mae\u2019n bwysig ein bod yn deall y rhesymau pam bod plant yn rhedeg i ffwrdd, felly mae angen i ni allu clywed eu barn, ac i weithredu ar beth maen nhw\u2019n ei ddweud wrthym.<\/p>\n<p><strong>\u00a0<\/strong><\/p>\n<p>Gwahoddwyd gr\u0175p o gyn ymadawyr gofal, sydd \u00e2 phrofiad blaenorol o fynd ar goll, i gydweithio \u00e2 staff ar brosiect. Dyma oedd ganddynt i\u2019w ddweud; petai rywun heblaw gweithiwr \u201cproffesiynol\u201d ar gael i siarad \u00e2 nhw tra roeddynt ar ffo, byddai hyn wedi bod yn ddefnyddiol iawn.<\/p>\n<p>Dyma gychwyn syniad; cyn ymadawyr gofal yng ngofal llinell ff\u00f4n i bobl ifanc oedd ar goll. Byddant yn cynnig cyngor am sut i fod yn ddiogel, a gallu siarad \u00e2 rhywun heb gael eu barnu yngl\u0177n \u00e2 pham eu bod wedi rhedeg i ffwrdd. Roedd y prosiect \u201cbydis\u201d wedi cychwyn.<\/p>\n<p><strong>Beth sydd wedi newid?<\/strong><strong><br \/>\n<\/strong>Mae gennym gr\u0175p sefydledig o \u201cbydis\u201d o fewn Conwy nawr, ac maent i gyd yn gyn ymadawyr gofal. Mae\u2019r bydis yn cwrdd bob mis gyda gweithwyr o Wasanaethau Plant a Chydlynydd Plant Coll Heddlu Gogledd Cymru. Maent yn gweithio tuag at helpu gweithwyr proffesiynol gyda \u2018cyfweliadau dychwelyd adref\u2019.<\/p>\n<p>Mae\u2019r gr\u0175p wedi llunio cynlluniau ar gyfer y llinell gymorth ac wedi edrych ar sut y gallant wneud gwahaniaeth, er enghraifft drwy roi gwybodaeth ar wefan, i atal pobl ifanc rhag mynd ar goll yn y lle cyntaf. \u00a0<strong>\u00a0<\/strong><\/p>\n<p><strong>Pa wahaniaeth y mae wedi\u2019i wneud?<\/strong><\/p>\n<p>Mae pob Bydi wedi\u2019u hyfforddi i\u2019w galluogi i fentora pobl eraill. Cyflwynwyd y prosiect ganddynt yn ystod diwrnod Gwasanaethau Plant i staff er mwyn rhannu eu hamcanion a\u2019u golau. Maent hefyd wedi ei gyflwyno yng nghynhadledd Barnado\u2019s Ecsploetiaeth Plant a Phlant wedi\u2019u Masnachu. Cafodd groeso mawr gan y gweithwyr proffesiynol oedd yn bresennol.<\/p>\n<p>Mae\u2019r Bydis wrthi\u2019n cwblhau holiadur \u00e2 phlant sydd wedi mynd ar goll yn y gorffennol, i gael gwell dealltwriaeth o beth fyddai\u2019n gymorth. Rhannwyd y prosiect \u00e2 phob sir yng ngogledd Cymru ac mae ganddynt i gyd ddiddordeb cryf i\u2019w weld yn datblygu.<\/p>\n<p>Yn unol \u00e2 \u201cPhrotocol Cymru Gyfan \u2013 Plant sydd ar Goll\u201d, mae plant yn anfon neges glir i ni eu bod angen cymorth i ymdrin \u00e2 phroblemau yn eu bywydau.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Fel unigolion, mae pawb ohonom yn wahanol. Mae gennym hoffterau ac anhoffterau gwahanol, gobeithion gwahanol a breuddwydion gwahanol ar gyfer y dyfodol. Os fyddwch chi angen cymorth, cefnogaeth neu gyngor gan y Gwasanaethau Cymdeithasol, byddwn yn ymdrechu am y canlyniad gorau i chi. Er mwyn cyflawni hyn yn iawn, rydym angen deall beth sydd bwysicaf [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_seopress_robots_primary_cat":"","_seopress_titles_title":"","_seopress_titles_desc":"","_seopress_robots_index":"","_genesis_hide_title":false,"_genesis_hide_breadcrumbs":false,"_genesis_hide_singular_image":false,"_genesis_hide_footer_widgets":false,"_genesis_custom_body_class":"","_genesis_custom_post_class":"","_genesis_layout":"","footnotes":""},"categories":[44],"tags":[],"class_list":{"0":"post-340","1":"post","2":"type-post","3":"status-publish","4":"format-standard","6":"category-ymateb-i-anghenion","7":"entry"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/340","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=340"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/340\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=340"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=340"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=340"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}