{"id":338,"date":"2014-12-01T16:25:00","date_gmt":"2014-12-01T16:25:00","guid":{"rendered":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/?p=338"},"modified":"2014-12-01T16:25:00","modified_gmt":"2014-12-01T16:25:00","slug":"lle-bod-pobl-yn-gymwys-maent-yn-derbyn-ymateb-da-ac-amserol-iw-anghenion","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/lle-bod-pobl-yn-gymwys-maent-yn-derbyn-ymateb-da-ac-amserol-iw-anghenion\/","title":{"rendered":"Lle bod pobl yn gymwys, maent yn derbyn ymateb da ac amserol i\u2019w anghenion"},"content":{"rendered":"<h4>Rydym yn deall os oes gan rywun angen gwirioneddol, yna mae o fudd i bawb i sicrhau eu bod yn cael cyngor, gwybodaeth neu gefnogaeth o safon, a\u2019u bod yn ei dderbyn yn gyflym.<\/h4>\n<h4>Does neb yn hoffi rhestrau aros.<\/h4>\n<h4>Dau faes ble rydym wedi gwneud gwelliannau sylweddol yng Nghonwy yw ar gyfer Pobl Ifanc (16+) sydd ag anabledd wrth iddynt symud i fyd oedolion, ac ar gyfer Ymadawyr Gofal, rydym wedi gwella cysylltiadau \u00e2 Hawliau Lles a chyngor gyrfaol. Mae hyn wedi ei gwneud yn llawer haws a chynt i sicrhau bod pobl ifanc yn derbyn unrhyw fudd-daliadau y mae ganddynt hawl iddynt, ac mae\u2019n gymorth iddynt fod yn ymwybodol o\u2019u holl ddewisiadau yngl\u0177n \u00e2 pharhau \u00e2\u2019u haddysg, ymgymryd \u00e2 hyfforddiant neu gael swydd.<\/h4>\n<p><!--more--><\/p>\n<h2>Y Broses Drosglwyddo yng Nghanolfan Datblygiad Plentyn Conwy<\/h2>\n<p><strong>Cefndir<br \/>\n<\/strong>Agorwyd Canolfan Datblygiad Plentyn Conwy (CDP) yn 2009 ac mae\u2019n cynnwys t\u00eem aml ddisgyblaeth sy\u2019n cefnogi plant o dan 5 oed sydd ag anghenion cymhleth. Mae\u2019r t\u00eem aml ddisgyblaeth yn cynnwys athro\/awes dosbarth, Seicolegydd Addysgol, Seicolegydd Clinigol, Gweithiwr Cymdeithasol, Therapydd Iaith a Lleferydd, Ffisiotherapydd, Therapydd Galwedigaethol, Pediatrydd, Nyrs Datblygiad Plentyn a\u2019r T\u00eem Synhwyraidd.<\/p>\n<p>Os bydd gan blentyn ddau neu fwy o feysydd datblygu sydd yn gyfyngedig mewn rhyw ffordd ac angen ymyrraeth arbenigol, c\u00e2nt eu diffinio bod ganddynt anghenion cymhleth. Mae Cefnogi Cynnar (2009) wedi cefnogi datblygiad y broses drosglwyddo gydag un o\u2019r egwyddorion bod \u201cTeuluoedd yn derbyn gofal parhaus drwy gyfnodau gwahanol o&#8217;u hymgysylltiad \u00e2 gwasanaethau.\u201d<\/p>\n<p><strong>Datblygiad y broses drosglwyddo<br \/>\n<\/strong>Yn ystod cyfnodau cynnar Canolfan Datblygiad Plentyn, fe nodwyd bod rhieni yn cael eu gorlethu gan gyfarfodydd aml asiantaeth ac adroddiadau hir am eu plentyn. Yn aml roedd yn gwneud iddynt deimlo nad oedd modd iddynt gymryd rhan yn effeithiol yn y broses gynllunio ar gyfer eu plentyn, yn enwedig wrth symud o gyfnod cyn ysgol i ysgol yn rhan-amser.<\/p>\n<p>Roedd y t\u00eem aml ddisgyblaeth eisiau creu asesiadau, cynlluniau ac adolygiadau gwell ar y cyd \u2013 i sicrhau bod y gwasanaeth oedd yn cael ei gyflwyno yn gyfannol, yn gydlynol ac yn esmwyth. \u00a0Byddai hyn yn galluogi i ddysgu a datblygiad plentyn gael eu monitro a&#8217;u cefnogi\u2019n well, byddai rhieni\u2019n cael eu cynnwys ochr yn ochr ag arferion gweithio a systemau sydd wedi\u2019u sefydlu.<\/p>\n<p><strong>Y broses drosglwyddo<br \/>\n<\/strong>Mae yna bedwar cymal o fewn y trosglwyddiad o Ganolfan Datblygiad Plentyn i ysgol yn rhan-amser, mae\u2019r rhain yn nhymor yr hydref, tymor y gwanwyn, tymor yr haf a&#8217;r tymor hydref canlynol. Mae t\u00eem aml ddisgyblaeth Canolfan Datblygiad Plentyn yn parhau i weithio yn nhymor yr hydref pan fo\u2019r plentyn yn yr ysgol yn rhan-amser. Roedd hyn er mwyn galluogi parhad yr ymyrraeth, yn ogystal \u00e2 chefnogi staff oedd yn anghyfarwydd i\u2019r plentyn a\u2019r teulu.<\/p>\n<p>Er mwyn monitro\u2019r cynnydd, cynhelir cyfarfodydd t\u00eem aml ddisgyblaeth bob tymor &#8211; sef Cyfarfodydd Partneriaeth Aml Asiantaeth Conwy (CPAAC). Mae fformat clir i\u2019r broses hon bellach ble ceir cyfraniadau gan rieni a phob gweithiwr proffesiynol perthnasol mewn iaith sydd yn rhydd rhag jargon. Ethos CPAAC yw \u201cgalluogi rhieni, ymysg gweithwyr proffesiynol, i fod yn bartneriaid cyfartal yn y broses gynllunio yn ymwneud \u00e2\u2019u plentyn\u201d (Cefnogi Cynnar 2009). Nod CPAAC felly yw cyfathrebu\u2019n glir heb unrhyw jargon, dim adroddiadau hir, tra\u2019n casglu a chyfuno gwybodaeth, cyflwyno a chofnodi cynlluniau, gweithredoedd ac adolygiadau clir.<\/p>\n<p>O fewn y broses hon mae yna fformatau ychwanegol, gan gynnwys llyfryn <em>All About Me<\/em> \u2013 sydd yn rhoi trosolwg diweddar i ysgolion am y plentyn, gan ddarparu gwybodaeth glir am gryfderau ac anawsterau\u2019r plentyn. Yn ychwanegol, rhoddir rhestr gysylltiadau i rieni\/gofalwyr, wrth i\u2019r plentyn yn symud i dymor yr hydref am y tro olaf yn y broses drosglwyddo, a fydd yn rhoi gwybod i iddynt \u00e2 phwy y gallant gysylltu pan fydd y plentyn wedi \u00a0gadael Canolfan Datblygiad Plentyn.<\/p>\n<p><strong>Gwerthuso\u2019r broses drosglwyddo<br \/>\n<\/strong>Wrth adolygu\u2019r broses yn 2013, roedd yr adborth gan rieni\/gofalwyr yn gadarnhaol ar y cyfan, gyda rhai meysydd angen eu gwella yn cael eu rhestru.<\/p>\n<p>Dywedodd rhieni eu bod yn teimlo eu bod yn cyfrannu mwy o ran yn y broses ar gyfer eu plentyn, boed hynny yn eu hadolygiadau a\u2019r weithred yn cael eu hadnabod a\u2019u bodloni.<\/p>\n<p>Yn bennaf mae ysgolion yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi gan y wybodaeth oedd yn cael ei ddarparu, serch hynny maent wedi nodi bod rhai o\u2019r sgiliau arbenigol sydd eu hangen oherwydd y cymhlethdodau yn gyfyngedig.<\/p>\n<p>Mae cynllun gweithredu nawr yn cael ei lunio i gynorthwyo dull o ymestyn y gefnogaeth i ysgolion o fewn y flwyddyn academaidd gyntaf, darparu hyfforddiant i staff ysgol a chymhorthion addysgu, yn ogystal \u00e2 datblygiad pellach yn y gwasanaethau sy\u2019n is na\u2019r trothwy i gefnogi plant a theuluoedd. \u00a0\u00a0<strong><br \/>\n<\/strong><\/p>\n<h2>Llwybrau a Hawliau Lles<\/h2>\n<p><strong>Cefndir<br \/>\n<\/strong>Mae timau Llwybrau a Chynghorwr Personol yn cydweithio \u00e2 phobl ifanc rhwng 16-21 oed sydd yn, neu sydd wedi derbyn gofal yn y gorffennol ac yn symud ymlaen tuag at annibyniaeth. Roedd yna bryderon yngl\u0177n ag a oedd y bobl ifanc yma yn cael mynediad a chyngor priodol yngl\u0177n \u00e2\u2019r holl fudd-daliadau roedd ganddynt hawl i\u2019w derbyn. Pan sefydlodd y gwasanaeth Hawliau Lles brosiect i alluogi grwpiau penodol o bobl i gael mynediad at wasanaeth budd-daliadau lles cynhwysfawr yn uniongyrchol, cafodd ymadawyr gofal eu hadnabod yn un o\u2019r grwpiau oedd fwyaf o angen y math yma o wasanaeth.<\/p>\n<p>Un o\u2019r cymhelliannau ar gyfer y prosiect oedd gwella\u2019r amser rhwng hawlio budd-dal a\u2019i dalu i\u2019r unigolyn ifanc. Roedd yr oedi yn gostus i\u2019r gwasanaethau plant gan bod angen i\u2019r adran barhau i dalu lwfansau wythnosol a chostau tai wrth i\u2019r hawliadau budd-dal gael eu sortio.<\/p>\n<p><strong>Beth sydd wedi newid?<br \/>\n<\/strong>Gall ymadawyr gofal bellach wneud cais am fudd-daliadau cyn eu 18fed pen-blwydd, mae hyn yn golygu eu bod yn derbyn budd-daliadau cyn gynted a\u2019u bod yn troi\u2019n 18 oed, ac felly\u2019n lleihau\u2019r gost i Gonwy ac mae\u2019n lleihau\u2019r pryder i bobl ifanc ddiamddiffyn.<\/p>\n<p>Roedd y trefniant hawlio cynnar yn bosibl gan bod y gweithiwr prosiect Hawliau Lles wedi meithrin cysylltiadau agos \u00e2 Chanolfan Byd Gwaith lleol, ac yn cynghori ac yn cynorthwyo gweithwyr cymdeithasol a chynghorwyr personol pan roedd pobl ifanc yn gymwys i hawlio.<\/p>\n<p>Mae\u2019r gweithiwr prosiect Hawliau Lles yn rhan o banel NEET Conwy (Pobl nad Ydynt mewn Addysg, Cyflogaeth na Hyfforddiant), ac felly yn rhoi cyngor ynghylch budd-daliadau yn fuan a chefnogi pobl ifanc i symud i waith drwy ddarparu \u2018cyfrifiadau gwell eu byd\u2019 er mwyn iddynt fod yn ymwybodol o\u2019r manteision ariannol o gychwyn gweithio.<\/p>\n<p><strong>Pa wahaniaeth y mae wedi\u2019i wneud?<br \/>\n<\/strong>Mae\u2019r broses hawlio budd-dal yn llawer mwy syml i ymadawyr gofal nawr, ac maent yn derbyn cyngor cyson yngl\u0177n \u00e2\u2019u hawliadau. Mae\u2019r gweithiwr prosiect yn gweithio\u2019n agos \u00e2 gweithwyr cymdeithasol a chynghorwyr personol ac maent wedi datblygu perthnasau gwaith effeithiol \u00e2\u2019r adran budd-dal tai ac amryw o landlordiaid, ac mae hyn yn helpu i sicrhau bod tenantiaethau yn cael eu cynnal yn ystod anawsterau ariannol.<\/p>\n<p><strong>Achos Enghreifftiol\u00a0 <\/strong><\/p>\n<p>Mae AJ yn 18 mlwydd oed, yn rhiant sengl ar \u00f4l i\u2019w phartner gael ei garcharu, mae ei budd-daliadau wedi stopio oherwydd newid mewn amgylchiadau, ni all fforddio\u2019r rhent ar ei heiddo, felly mae mewn perygl o golli ei chartref ac yn wynebu tlodi difrifol. Drwy weithio ar y cyd rhwng y gweithiwr prosiect Hawliau Lles, Cynghorydd Personol, adran budd-dal tai a\u2019r landlord, mae AJ wedi gallu ailymgeisio am fudd-daliadau gydag ychydig o oedi, tra\u2019n galluogi iddi gadw ei thenantiaeth nes i\u2019r hawl gael ei sortio.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Rydym yn deall os oes gan rywun angen gwirioneddol, yna mae o fudd i bawb i sicrhau eu bod yn cael cyngor, gwybodaeth neu gefnogaeth o safon, a\u2019u bod yn ei dderbyn yn gyflym. Does neb yn hoffi rhestrau aros. Dau faes ble rydym wedi gwneud gwelliannau sylweddol yng Nghonwy yw ar gyfer Pobl Ifanc [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_seopress_titles_title":"","_seopress_titles_desc":"","_seopress_robots_index":"","_seopress_robots_follow":"","_seopress_robots_imageindex":"","_seopress_robots_snippet":"","_seopress_robots_primary_cat":"","_seopress_robots_breadcrumbs":"","_seopress_robots_freeze_modified_date":"","_seopress_robots_custom_modified_date":"","_seopress_robots_canonical":"","_seopress_social_fb_title":"","_seopress_social_fb_desc":"","_seopress_social_fb_img":"","_seopress_social_fb_img_attachment_id":0,"_seopress_social_fb_img_width":0,"_seopress_social_fb_img_height":0,"_seopress_social_twitter_title":"","_seopress_social_twitter_desc":"","_seopress_social_twitter_img":"","_seopress_social_twitter_img_attachment_id":0,"_seopress_social_twitter_img_width":0,"_seopress_social_twitter_img_height":0,"_seopress_redirections_value":"","_seopress_redirections_enabled":"","_seopress_redirections_enabled_regex":"","_seopress_redirections_logged_status":"","_seopress_redirections_param":"","_seopress_redirections_type":0,"_seopress_analysis_target_kw":"","_genesis_hide_title":false,"_genesis_hide_breadcrumbs":false,"_genesis_hide_singular_image":false,"_genesis_hide_footer_widgets":false,"_genesis_custom_body_class":"","_genesis_custom_post_class":"","_genesis_layout":"","footnotes":""},"categories":[44],"tags":[],"class_list":{"0":"post-338","1":"post","2":"type-post","3":"status-publish","4":"format-standard","6":"category-ymateb-i-anghenion","7":"entry"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/338","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=338"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/338\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=338"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=338"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=338"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}