{"id":334,"date":"2014-12-01T16:23:05","date_gmt":"2014-12-01T16:23:05","guid":{"rendered":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/?p=334"},"modified":"2014-12-01T16:23:06","modified_gmt":"2014-12-01T16:23:06","slug":"cefnogir-gofalwyr-yn-effeithiol-fel-y-gallant-fyw-bywydau-boddhaus-ynghyd-au-cyfrifoldebau-gofalu","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/cefnogir-gofalwyr-yn-effeithiol-fel-y-gallant-fyw-bywydau-boddhaus-ynghyd-au-cyfrifoldebau-gofalu\/","title":{"rendered":"Cefnogir gofalwyr yn effeithiol fel y gallant fyw bywydau boddhaus ynghyd \u00e2\u2019u cyfrifoldebau gofalu"},"content":{"rendered":"<h4>Rydym yn cydnabod yr ymrwymiad ac ymroddiad sydd ei angen i ofalu am rywun, ac rydym wedi bod yn datblygu ffyrdd o helpu i ddarparu cefnogaeth i ofalwyr yn Sir Conwy.<\/h4>\n<h4>Mae gofalwyr ifanc yn benodol yn aml yn \u201ccuddio\u201d o fewn ein cymuned, ac rydym wedi bod yn arwain wrth gomisiynu prosiect rhanbarthol newydd i Ofalwyr Ifanc ar draws gogledd Cymru. Rydym hefyd wedi gwella pethau i ofalwyr ifanc wrth iddynt droi\u2019n oedolion, gyda phrosiect \u201cGofalwyr sy\u2019n Oedolion Ifanc\u201d i bontio\u2019r bwlch.<\/h4>\n<p><!--more--><\/p>\n<h2>\u00a0Prosiect Rhanbarthol Gofalwyr Ifanc<\/h2>\n<p><strong>Cefndir<br \/>\n<\/strong>Comisiynodd pob awdurdod lleol yng ngogledd Cymru wasanaethau gwahanol ar gyfer gofalwyr ifanc, wedi\u2019u cefnogi gan gyllid ychwanegol gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC). Cynhaliwyd astudiaeth ddichonoldeb ar ran chwe Awdurdod Gogledd Cymru mewn partneriaeth \u00e2\u2019r BIPBC i archwilio\u2019r manteision i wasanaethau a gomisiynir yn rhanbarthol i Ofalwyr Ifanc ar draws Gogledd Cymru. Daeth i\u2019r casgliad bod yna fanteision posibl, cytunodd CBS Conwy, Cyngor Sir Ddinbych a Chyngor Wrecsam, mewn partneriaeth \u00e2 Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, bod comisiynu isranbarthol yn gyfle cadarnhaol i gydweithio.<\/p>\n<p><strong>Beth sydd wedi newid?<br \/>\n<\/strong>Bu\u2019r tair sir a BIPBC yn cydweithio ar ymgynghori, gwybodaeth am wasanaethau presennol a chostau, gan gyflwyno manylion gwasanaeth a chytundeb cyfochrog. Fe arweiniodd hyn at ymarfer tendr yn 2013 gyda Sir Conwy yn arwain. Dewiswyd darparwr newydd a chychwynnodd y gwasanaeth newydd fis Ebrill 2014.<\/p>\n<p><strong>Pa wahaniaeth y mae wedi\u2019i wneud?<br \/>\n<\/strong>Cynhaliodd y darparwyr newydd ddigwyddiad ymgynghori yn ystod y Pasg i drafod enw ar gyfer y gwasanaeth, a chynllunio ar gyfer ac wedi cyfeirio at 50% o\u2019r rhestr aros trosglwyddedig. Mae\u2019r comisiynwyr wrthi\u2019n gweithio gyda\u2019r darparwyr newydd yngl\u0177n \u00e2 pherfformiad gan ddefnyddio Cyfrifyddiaeth ar Sail Canlyniadau, a fydd yn cael ei fonitro bob chwarter ac yn cynnwys:<\/p>\n<ul>\n<li>canlyniadau i ofalwyr ifanc<\/li>\n<li>mesurau ansawdd gan gynnwys adborth gan ddefnyddwyr gwasanaeth<\/li>\n<li>canlyniadau y gwasanaeth a gomisiynwyd<\/li>\n<li>gwella\u2019r broses atgyfeiriad gan gynnwys atgyfeiriadau diogel<\/li>\n<li>gwella\u2019r broses asesu<\/li>\n<\/ul>\n<p>Y manteision a ragwelir yw:<\/p>\n<ul>\n<li>symleiddio gwasanaethau ar gyfer Awdurdodau Iechyd a Lleol;<\/li>\n<li>gwella cysondeb y gwasanaethau ar gyfer Gofalwyr Ifanc sy\u2019n symud o un sir ond o fewn y contract;<\/li>\n<li>gall symleiddio systemau atgyfeirio wneud prosesau\u2019n fwy effeithlon i asiantaethau sy&#8217;n atgyfeirio;<\/li>\n<li>codi safonau\u2019n fewnol a rhannu ymarfer arloesol;<\/li>\n<li>bydd gan un gwasanaeth mawr ddylanwad ychwanegol i helpu i godi proffil anghenion Gofalwyr Ifanc.<\/li>\n<\/ul>\n<h2>Gofalwyr sy\u2019n Oedolion Ifanc<\/h2>\n<p><strong>Cefndir<br \/>\n<\/strong>Daeth adroddiad 2008 \u201cGofalwyr sy\u2019n Oedolion Ifanc yn y DU\u201d i\u2019r casgliad mai ychydig iawn roedd y mwyafrif o ofalwyr 16-17 oed yn ei wybod am wasanaethau a chefnogaeth i ofalwyr sy\u2019n oedolion sy\u2019n 18 a h\u0177n, a dywedodd llawer eu bod yn bryderus y byddai\u2019r gefnogaeth maent yn ei dderbyn fel gofalwr ifanc yn dod i ben ar \u00f4l iddynt gyrraedd 18 oed.<\/p>\n<p>Yn y mwyafrif o achosion, ni fydd Gofalwyr Ifanc yn rhoi\u2019r gorau i ofalu pan fyddant yn troi\u2019n 18 oed, ac mae\u2019n bwysig cydnabod nad yw&#8217;r gwasanaeth a\u2019r gefnogaeth sydd ar gael i ofalwyr ifanc yng Nghonwy\u2019n bresennol yn bodoli dros 18 mlwydd oed. I sicrhau bod Gofalwyr sy\u2019n Oedolion Ifanc yn parhau i gael eu gwerthfawrogi, eu cydnabod a\u2019u cefnogi yn eu r\u00f4l ofalu, roedd hi\u2019n bwysig sicrhau trosglwyddiad esmwyth o wasanaethau plant i wasanaethau oedolion drwy ddarparu cefnogaeth a gwasanaethau parhaol i Ofalwyr Ifanc.<\/p>\n<p><strong>Beth sydd wedi newid?<br \/>\n<\/strong>Ers 1 Ebrill 2012 bu Gweithredu dros Blant a Cynnal Gofalwyr yn cydweithio i bontio\u2019r bwlch rhwng gwasanaethau i oedolion ifanc i sicrhau pan fyddant yn troi\u2019n 18, y byddai\u2019r newid i wasanaethau oedolion yn esmwyth ac y byddai\u2019r gefnogaeth yn parhau nes eu bod yn 24 oed.<\/p>\n<p>Cafodd y prosiect ei hyrwyddo ar draws Conwy i sicrhau bod gofalwyr sy\u2019n oedolion ifanc yn gwybod bod yna gefnogaeth a gwasanaeth ar gael ar \u00f4l iddynt gyrraedd 18 oed.<\/p>\n<p>Sefydlwyd grwpiau gyda Gweithredu dros Blant yn darparu cymorth \u00e2 chyflogaeth (gwirfoddoli a chyfleoedd gwaith), llunio CV, cyfleoedd dysgu a hyfforddi,\u00a0 gwybodaeth a chefnogaeth unigol, gweithgareddau cymdeithasol a hamdden a chefnogaeth gan gyfoedion.<\/p>\n<p><strong>Pa wahaniaeth y mae wedi\u2019i wneud?<br \/>\n<\/strong>Mae Gofalwyr sy\u2019n Oedolion Ifanc a fu\u2019n rhan o\u2019r prosiect wedi dweud y bu yna welliant yn safon eu bywyd &#8211; hyder, dewis, rheolaeth, annibyniaeth ac iechyd a lles emosiynol a chorfforol.<\/p>\n<p><strong><em>Astudiaeth Achos<br \/>\n<\/em><\/strong>Trosglwyddodd merch 18 oed o brosiect Gofalwyr Ifanc i brosiect Gofalwyr sy\u2019n Oedolion Ifanc. Mae\u2019r ferch ifanc yma wedi bod gyda\u2019r gwasanaeth ers sawl blwyddyn pan gafodd ei thad ddiagnosis cancr y bledren. Bryd hynny, roedd y ddau riant yn gweithio, roedd y teulu\u2019n gallu ymdopi\u2019n iawn ac roedd y ddau blentyn yn llwyddo yn yr ysgol.<\/p>\n<p>Yn fuan ar \u00f4l derbyn y diagnosis, cychwynnodd y teulu fynd ar chw\u00e2l, ac mae\u2019r effeithiau yn parhau i fod yn amlwg heddiw. Y tad oedd y rhiant cryfaf &#8211; yn gefn i\u2019r teulu bob amser.\u00a0 \u00a0Cafodd y fam ddiagnosis iselder difrifol ac fe gollodd ei swydd yn fuan wedyn. Yna daeth y problemau ariannol ar \u00f4l colli dau gyflog. Fe aeth y ferch ifanc yn nerfus iawn a bu dirywiad sylweddol yn safon ei gwaith ysgol ac roedd y perthnasau yn y t\u0177 dan straen ac yn anodd iawn.<\/p>\n<p>Yn anffodus bu farw\u2019r tad dair blynedd yn \u00f4l ac yn sgil hynny dirywiodd y fam i iselder mwy dwys gan droi at alcohol i gael cysur.<\/p>\n<p>Roedd y ferch ifanc yn dibynnu\u2019n drwm ar Brosiect Gofalwyr Ifanc a nawr mae hi\u2019n dibynnu ar brosiect Gofalwyr sy\u2019n Oedolion Ifanc ac mae hi\u2019n parhau i ddarparu llawer o gymorth a chefnogaeth i\u2019w mam sydd yn parhau i ddioddef o iselder difrifol.<\/p>\n<p>O\u2019r prosiect, mae\u2019r Ofalwraig yma sy\u2019n Oedolyn Ifanc wedi manteisio o:-<\/p>\n<ul>\n<li>Gefnogaeth gan staff ar y prosiect<\/li>\n<li>Cefnogaeth 1:1 pan fo ei angen<\/li>\n<li>Dealltwriaeth o\u2019i anghenion fel gofalwr sy\u2019n oedolyn ifanc yn ogystal \u00e2 darparu amgylchedd diogel i fod yn \u201claslances h\u0177n arferol\u201d \u2013 i allu chwerthin a chael bwrw ei bol gyda phobl sy\u2019n deall<\/li>\n<li>Anogaeth gyda\u2019i haddysg ac i wireddu ei breuddwyd o fod yn fydwraig<\/li>\n<li>Achrediad gan y Brifysgol Ieuenctid am y gwaith sgiliau bywyd a gyflawnwyd<\/li>\n<li>Y gallu a\u2019r hyder i drefnu digwyddiad codi arian<\/li>\n<li>Hyder i arwain fforwm myfyrwyr yn ei hysgol uwchradd<\/li>\n<\/ul>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Rydym yn cydnabod yr ymrwymiad ac ymroddiad sydd ei angen i ofalu am rywun, ac rydym wedi bod yn datblygu ffyrdd o helpu i ddarparu cefnogaeth i ofalwyr yn Sir Conwy. Mae gofalwyr ifanc yn benodol yn aml yn \u201ccuddio\u201d o fewn ein cymuned, ac rydym wedi bod yn arwain wrth gomisiynu prosiect rhanbarthol newydd [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_seopress_robots_primary_cat":"","_seopress_titles_title":"","_seopress_titles_desc":"","_seopress_robots_index":"","_genesis_hide_title":false,"_genesis_hide_breadcrumbs":false,"_genesis_hide_singular_image":false,"_genesis_hide_footer_widgets":false,"_genesis_custom_body_class":"","_genesis_custom_post_class":"","_genesis_layout":"","footnotes":""},"categories":[44],"tags":[],"class_list":{"0":"post-334","1":"post","2":"type-post","3":"status-publish","4":"format-standard","6":"category-ymateb-i-anghenion","7":"entry"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/334","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=334"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/334\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=334"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=334"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=334"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}