{"id":332,"date":"2014-12-01T16:21:19","date_gmt":"2014-12-01T16:21:19","guid":{"rendered":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/?p=332"},"modified":"2014-12-01T16:21:19","modified_gmt":"2014-12-01T16:21:19","slug":"cefnogir-pobl-i-fod-mor-annibynnol-a-phosibl-ac-i-feithrin-sgiliau-bywyd-gan-gynnwys-mynediad-i-wasanaethau-cynhwysol-a-chymunedol-hyfforddiant-a-chyfleoedd-cyflogaeth","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/cefnogir-pobl-i-fod-mor-annibynnol-a-phosibl-ac-i-feithrin-sgiliau-bywyd-gan-gynnwys-mynediad-i-wasanaethau-cynhwysol-a-chymunedol-hyfforddiant-a-chyfleoedd-cyflogaeth\/","title":{"rendered":"Cefnogir pobl i fod mor annibynnol \u00e2 phosibl, ac i feithrin sgiliau bywyd, gan gynnwys mynediad i wasanaethau cynhwysol a chymunedol, hyfforddiant a chyfleoedd cyflogaeth"},"content":{"rendered":"<h4>Annibyniaeth yw\u2019r gallu i wneud ein penderfyniadau ein hunain yngl\u0177n \u00e2 beth rydym ni eisiau, sut rydym ni\u2019n dewis byw a sut rydym ni\u2019n cynllunio ein dyfodol ein hunain. Mewn byd delfrydol, byddai gan bawb lefel o annibyniaeth i \u201creoli\u201d eu bywyd. Mae pawb ohonom angen cymorth weithiau i gyflawni hyn, boed yn ddysgu sgiliau newydd, magu hyder i \u201croi cynnig\u201d ar rywbeth newydd, neu ddysgu o ble gallwn gael cymorth.<\/h4>\n<h4>Rydym wedi bod yn gwneud hyn yn flaenoriaeth yng Nghonwy i bobl sy\u2019n byw mewn tlodi, drwy brosiectau megis Taith i Waith, ac edrych ar ffyrdd newydd i helpu pobl ifanc i gael mynediad at addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant.<\/h4>\n<p><!--more--><\/p>\n<h2>Taith i Waith<\/h2>\n<p><strong>Cefndir<br \/>\n<\/strong>Mae ymchwil yn dweud wrthym fod diweithdra, diffyg addysg a ffordd o fyw afiach yn arwain at bobl sy\u2019n byw mewn tlodi ac yn aml angen cefnogaeth gofal cymdeithasol. Mae rhaglenni gwaith gorfodol yn cael anhawster ymgysylltu \u00e2 defnyddwyr gofal cymdeithasol, megis rhieni \u00e2 phroblemau iechyd meddwl, anableddau dysgu, anabledd corfforol neu amhariad synhwyrol, teuluoedd diamddiffyn a phobl ifanc nad ydynt mewn cyflogaeth, addysg neu hyfforddiant.<\/p>\n<p>Mewn partneriaeth \u00e2 3 o awdurdodau lleol eraill gogledd Cymru a Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru, mae Conwy wedi datblygu prosiect Taith i Waith i roi cyfle i ni archwilio dulliau arloesol, ataliol o weithio y byddai modd ei gynnal gan wasanaethau cymdeithasol ar \u00f4l i\u2019r cyllid ddod i ben.<\/p>\n<p><strong>Beth sydd wedi newid?<br \/>\n<\/strong>Mae Taith i Waith yn dod \u00e2 meysydd gwahanol o wasanaethau cymdeithasol ynghyd i gefnogi pobl ddiamddiffyn, targedu unigolion 16 neu\u2019n h\u0177n sy\u2019n byw yn Sir Conwy a\u2019u cefnogi i gynyddu eu sgiliau, symud yn nes at waith a chyflawni eu potensial, drwy ddarparu ystod o weithgareddau wedi\u2019u dylunio i gael gwared ar rwystrau i ymgysylltu.<\/p>\n<p>Mae yna bwynt mynediad sengl ar gyfer pob atgyfeiriad i\u2019r prosiect, caiff atgyfeiriadau eu trafod yn wythnosol i sicrhau bod y gwasanaeth mwyaf priodol yn cael ei sicrhau i gwrdd ag anghenion yr unigolyn, gan gymryd ymagwedd aml asiantaeth ac osgoi dyblygu\u2019r gwasanaeth.<\/p>\n<p>Mae\u2019r t\u00eem yn darparu cefnogaeth un-i-un a gr\u0175p unigryw yn amodol ar yr angen (nid yw un dull yn addas i bawb, yn enwedig gyda defnyddwyr gofal cymdeithasol), ac mae hyn yn cynnwys cefnogaeth i fagu hyder, hunan-barch ac ysgogiant i gyflwyno trefn i\u2019w bywydau, cyn symud ymlaen i hyfforddiant, profiad gwaith a chyfleoedd i gael gwaith.<\/p>\n<p><strong>Oherwydd diffyg darparwyr allanol sy\u2019n gallu cwrdd ag anghenion amrywiol defnyddwyr gofal cymdeithasol, mae\u2019r t\u00eem wedi llunio ystod o 12 o gyrsiau ymgysylltu cyfranogwyr lefel isel, ac mae gan 6 ohonynt yr opsiwn i gael eu hachredu. \u00a0\u00a0<\/strong><\/p>\n<p>Yn ogystal mae gennym Swyddog Hawliau Lles sy\u2019n rhoi cyngor ynghylch newidiadau i fudd-daliadau a \u2018chyfrifiadau gwell eu byd\u2019, yn ogystal \u00e2 Swyddog Cyswllt Busnes a Chyflogwr sy\u2019n gweithio \u00e2 chyflogwyr a sefydliadau gwirfoddol i\u2019w cefnogi \u00e2 hyfforddiant cydraddoldeb ac amrywiaeth a\u2019u hannog i ddarparu lleoliadau profiad gwaith ymarferol ar gyfer ein defnyddwyr gwasanaeth.<\/p>\n<p>Mae Taith i Waith wedi cefnogi 887 o bobl yng Nghonwy, mae 778 o\u2019r rhain wedi cyflawni canlyniad yn dilyn y gefnogaeth, er enghraifft; dod o hyd i waith, ennill cymhwyster, symud ymlaen i addysg bellach, gwirfoddoli, mynychu cyfweliad, llenwi ffurflen gais neu CV, mynychu\u2019n rheolaidd a magu ysgogiad, hyder a hunan-barch.<\/p>\n<p><strong>Oherwydd y gefnogaeth unigryw, arloesol sy\u2019n cael ei ddarparu gan Brosiect Taith i Waith yn rhan o Raglen Gwaith Amdani yn Sir Conwy, mae nifer o ddefnyddwyr gwasanaeth wedi lleihau eu hangen am ymyrraeth gan y gwasanaethau cymdeithasol.\u00a0 <\/strong><\/p>\n<p><strong>Dyfyniadau gan ddefnyddwyr gwasanaeth.<br \/>\n<\/strong>\u201cFe fwynheais y cyrsiau yr astudiais, mae Taith i Waith wedi fy helpu i. \u00a0Fyddwn i ddim yn gweithio heb y cymorth rwyf wedi\u2019i dderbyn!\u201d (rhiant sengl a atgyfeiriwyd gan y t\u00eem Cefnogi Plant)<\/p>\n<p>\u201cFe fwynheais y cwrs yn fawr iawn a heb eich cymorth chi, fyddwn i ddim yn mynd i\u2019r coleg, yn teithio ar fy mhen fy hun nac yn gweithio\u2019n rhan-amser, diolch i chi am bob dim\u201d (Cyfranogwr a atgyfeiriwyd gan y t\u00eem Iechyd Meddwl)<\/p>\n<p>\u201cDwi&#8217;n teimlo fy mod wedi dysgu bod yn fwy hyderus a phendant, wedi dysgu sgiliau newydd i chwilio am swydd ar-lein yn ogystal \u00e2\u2019r dull traddodiadol. Roedd yn ddefnyddiol i ryngweithio \u00e2 phobl ac i gael rhagor o syniadau am waith. Dwi\u2019n teimlo fy mod yn gwybod beth &#8216;dwi eisiau ei wneud nesaf.\u201d (Cyfranogwr a atgyfeiriwyd gan y T\u00eem Anableddau Dysgu)<\/p>\n<h2>Secondiad Gyrfa Cymru (effaith ar Unigolion NEET)<\/h2>\n<p><strong>Cefndir<br \/>\n<\/strong>Gall fod yn anodd ymgysylltu ag ymadawyr gofal gyda phethau megis addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant, ond does dim amheuaeth am bwysigrwydd gwneud hynny. Mae ymgysylltu \u00e2 dysgu a hyfforddiant yn hanfodol os ydi pobl ifanc am gael bywyd llwyddiannus a chyflawni eu llawn botensial.<\/p>\n<p>Ni all un asiantaeth fynd i\u2019r afael \u00e2\u2019r mater hwn ar eu pen eu hunain, ac mae staff Gwasanaethau Cymdeithasol angen cydweithio\u2019n agos \u00e2 chydweithwyr mewn colegau lleol, a chynghorwyr gyrfaoedd, i helpu i leihau\u2019r nifer o bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant.<\/p>\n<p><strong>Beth sydd wedi newid?<br \/>\n<\/strong>Cafodd Swyddog Gyrfaoedd ei drosglwyddo i\u2019r T\u00eem Gadael Gofal o fewn Gwasanaethau Cymdeithasol. Maent yn cynnal cyfarfod panel misol gan ganolbwyntio ar bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant. \u00a0Mae ganddynt fynediad uniongyrchol i\u2019r gweithwyr cymdeithasol sy\u2019n cydweithio\u2019n agos \u00e2\u2019r unigolyn ifanc.<\/p>\n<p>Mae\u2019r swyddog Gyrfaoedd hefyd yn cydweithio\u2019n agos \u00e2\u2019r swyddog hawliau lles i sicrhau bod pobl ifanc yn cael y cyfleoedd economaidd ac addysgol gorau.<\/p>\n<p><strong>Pa wahaniaeth y mae wedi\u2019i wneud?<br \/>\n<\/strong>Mae pobl ifanc wedi cael cyfle i fynychu prentisiaethau, a rhaglenni profiad gwaith, ac oherwydd yr ymagwedd gydlynol yma, mae\u2019r nifer o Ymadawyr Gofal nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant, wedi gostwng.<\/p>\n<h2>Panel NEET<\/h2>\n<p><strong>Cefndir<br \/>\n<\/strong>Sefydlwyd Panel NEET ym mis Medi 2013. Mae\u2019r Panel yn fforwm sydd \u00e2 gorchymyn gan y Bwrdd Rhianta Corfforaethol i ddatblygu, cydlynu, goruchwylio, cyfarwyddo ac adolygu gwasanaethau ar gyfer Pobl Ifanc sy\u2019n Derbyn Gofal\/Ymadawyr Gofal \u00f4l 16, sydd ddim mewn addysg, cyflogaeth, neu hyfforddiant a\u2019r rhai sydd wedi\u2019u hadnabod sy\u2019n ddiamddiffyn ac sydd mewn perygl o fod yn unigolion NEET.<\/p>\n<p>Mae\u2019r gr\u0175p yn cwrdd bob dau fis ac yn adrodd yn \u00f4l yn flynyddol i\u2019r Bwrdd Rhianta Corfforaethol a Phartneriaeth Plant a Phobl Ifanc (PPPI), gan gyflwyno\u2019r achos am adnoddau ychwanegol pan fo angen.<\/p>\n<p>Mae\u2019r panel yn gweithio mewn partneriaeth i<\/p>\n<ul>\n<li>ostwng y nifer o bobl ifanc (Plant sy\u2019n Derbyn Gofal\/Ymadawyr Gofal) sydd yn, neu\u2019n debygol o fod yn NEET;<\/li>\n<li>gweithio tuag at gefnogi rhaglen NEET Partneriaeth Plant a Phobl Ifanc yng Nghonwy;<\/li>\n<li>gwella\u2019r cyfleoedd sydd ar gael i bobl ifanc a\u2019u hysbysu i\u2019w helpu i ddatblygu a darparu systemau cefnogi sy\u2019n galluogi pobl ifanc i gyflawni eu llawn botensial.<\/li>\n<\/ul>\n<p>Mae\u2019r panel yn cynnwys cynrychiolwyr o sawl asiantaeth allweddol gan gynnwys Adran Gwasanaethau Addysg yr Awdurdod, Gwasanaethau Plant a Theuluoedd, Gyrfa Cymru, Cynghorydd Hawliau Lles, Swyddog Lles Myfyrwyr Gr\u0175p Coleg Llandrillo. Clustnodir cyfnodau o 15 munud i bob Gweithiwr Cymdeithasol T\u00eem Llwybrau a Chynorthwywyr Personol i drafod rhai o\u2019u cleientiaid sydd yn ddiamddiffyn ac mewn perygl o fod yn NEET.<\/p>\n<p>Mae\u2019r panel yn cynhyrchu cynlluniau gweithredu unigol i bobl ifanc sy\u2019n cael eu hadnabod eu bod mewn risg a\/neu ddim mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant. Mae\u2019n monitro cynnydd y cynlluniau hyn ac yn cymryd mesurau angenrheidiol i sicrhau llwyddiant.<br \/>\n<strong>Rydym yn cofnodi\u2019r canran o bobl ifanc a arferai fod dan ofal y gwyddom eu bod yn derbyn addysg, hyfforddiant neu mewn gwaith yn 19 oed.<\/strong><strong>\u00a0 <\/strong><\/p>\n<p>Roedd y ffigur yn 50% yn 2012\/13, ac mae hyn wedi codi i 75% yn 2013\/14. Y cyfartaledd Cymreig yw 56.7%<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Annibyniaeth yw\u2019r gallu i wneud ein penderfyniadau ein hunain yngl\u0177n \u00e2 beth rydym ni eisiau, sut rydym ni\u2019n dewis byw a sut rydym ni\u2019n cynllunio ein dyfodol ein hunain. Mewn byd delfrydol, byddai gan bawb lefel o annibyniaeth i \u201creoli\u201d eu bywyd. Mae pawb ohonom angen cymorth weithiau i gyflawni hyn, boed yn ddysgu sgiliau [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_seopress_robots_primary_cat":"","_seopress_titles_title":"","_seopress_titles_desc":"","_seopress_robots_index":"","_genesis_hide_title":false,"_genesis_hide_breadcrumbs":false,"_genesis_hide_singular_image":false,"_genesis_hide_footer_widgets":false,"_genesis_custom_body_class":"","_genesis_custom_post_class":"","_genesis_layout":"","footnotes":""},"categories":[44],"tags":[],"class_list":{"0":"post-332","1":"post","2":"type-post","3":"status-publish","4":"format-standard","6":"category-ymateb-i-anghenion","7":"entry"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/332","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=332"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/332\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=332"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=332"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=332"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}