{"id":320,"date":"2014-12-01T15:12:43","date_gmt":"2014-12-01T15:12:43","guid":{"rendered":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/?p=320"},"modified":"2014-12-01T15:12:43","modified_gmt":"2014-12-01T15:12:43","slug":"caiff-plant-ac-oedolion-eu-hamddiffyn-rhag-niwed-a-chamdriniaeth-lle-bod-hynnyn-bosibl","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/caiff-plant-ac-oedolion-eu-hamddiffyn-rhag-niwed-a-chamdriniaeth-lle-bod-hynnyn-bosibl\/","title":{"rendered":"Caiff plant ac oedolion eu hamddiffyn rhag niwed a chamdriniaeth lle bod hynny\u2019n bosibl"},"content":{"rendered":"<h4>Mae newidiadau mawr wedi digwydd yng Ngwasanaethau Cymdeithasol Conwy. Drwy ein Rhaglen Trawsnewid, rydym wedi bod yn edrych sut rydym angen aildrefnu rhai gwasanaethau i leihau\u2019r hollt rhwng adran Plant a Theuluoedd, a Gwasanaethau Oedolion. \u00a0Diogelu yw un o\u2019r meysydd hynny, ac rydym wedi bod yn symud tuag at uno Diogelu Plant gyda Diogelu Oedolion Diamddiffyn i gydlynu\u2019r ddau yn well, o dan un rheolwr.<\/h4>\n<p><!--more--><\/p>\n<h2>Rhaglen Trawsnewid<\/h2>\n<p><strong>Cefndir<br \/>\n<\/strong>Yn rhan o&#8217;r rhaglen trawsnewid mae gwasanaethau cymdeithasol yn ceisio gwella safon perfformiad diogelu o ran pob defnyddiwr gwasanaeth. Cynhaliwyd ymgynghoriad gyda staff fel rhan o\u2019r cyfnod ymchwil cyn y rhaglen trawsnewid a oedd yn dynodi y byddai un uned diogelu yn ddatblygiad cadarnhaol i\u2019r gwasanaeth.<\/p>\n<p><strong>Beth sydd wedi newid?<br \/>\n<\/strong>\u00a0Er mwyn cyflwyno\u2019r thema drawsbynciol hwn a sicrhau bod materion cynhwysedd yn cael eu cyfeirio er mwyn darparu gwasanaeth cynaliadwy, bydd cynllunio strategol a chyflwyno gweithredol yn dod o dan gyfrifoldeb un Rheolwr Gwasanaeth &#8211; Safonau Ansawdd, a bydd yna reolwr penodol ar gyfer maes \u2018Diogelu\u2019.<\/p>\n<p>Bydd adain diogelu\u2019r gwasanaeth yn cynnwys materion yn ymwneud \u00e2 diogelu plant ac oedolion; amddiffyn plant, diogelu oedolion diamddiffyn, a rheoli honiadau yn erbyn gweithwyr proffesiynol a gwirfoddolwyr.<\/p>\n<p>Fe luniwyd Canllawiau Trothwy ar gyfer Diogelu Oedolion Diamddiffyn ac mae\u2019r polisi Diogelu Oedolion Diamddiffyn wedi cael ei ddiweddaru i gynnwys asesiad risg ac ymchwiliadau.<\/p>\n<p>Mae proses \u2018oedolion diamddiffyn\u2019 hefyd wedi cael ei gyflwyno a chaiff ei ddatblygu ymhellach o dan gylch gwaith Rheolwr Gwasanaeth &#8211; Pobl Ddiamddiffyn. Os bydd oedolion mewn perygl oherwydd eu hymddygiad neu nodweddion (ee, iechyd meddwl, anabledd dysgu), neu oherwydd gweithred pobl eraill tuag atynt, bydd y broses hon yn sicrhau y caiff y materion hyn eu trafod \u00e2 phanel aml asiantaeth ac fe lunnir pecyn cefnogaeth i roi cymorth iddynt.<\/p>\n<p>Mae gwasanaethau cymdeithasol yn parhau i chwarae rhan fawr mewn Cynadleddau Asesiad Risg Aml Asiantaeth dan arweiniad yr heddlu i sicrhau bod gwasanaethau cymdeithasol yn ymwybodol o, ac yn cyfrannu fel y bo\u2019n briodol at gynlluniau aml asiantaeth i ddiogelu unigolion a\u2019u plant pan fyddant mewn perygl o ddigwyddiadau cam-drin domestig pellach. Mae ymgysylltu cadarnhaol a rhagweithiol gyda defnyddwyr gwasanaeth a\u2019r heddlu yn golygu bod mynd i\u2019r afael \u00e2 cham-drin domestig yn parhau i fod yn flaenoriaeth i\u2019r ddau wasanaeth.<\/p>\n<p>Mae pobl ar goll a\u2019r perygl cysylltiedig o ecsploetiaeth plant yn rhywiol wedi bod yn faes o ddiogelu sydd wedi cael sylw drwy waith partneriaeth gyda\u2019r heddlu. Mae Conwy wedi \u00a0datblygu cynllun \u2018Bydis\u2019 i ddefnyddio gwybodaeth a phrofiadau o lygad y ffynnon gan bobl ifanc a arferai fod yn y system Plant sy\u2019n Derbyn Gofal fel ymgynghorwyr \u2013 i roi cyngor i weithwyr proffesiynol am y rhesymau posibl bod plant yn mynd ar goll o\u2019u lleoliadau a\u2019r ffyrdd y gellir ymdrin, ymgysylltu \u00e2 phobl ifanc yn effeithiol a\u2019u cefnogi gan weithwyr proffesiynol i leihau\u2019r perygl o niwed.<\/p>\n<p><strong>Pa wahaniaeth y mae wedi\u2019i wneud?<br \/>\n<\/strong>Mae\u2019r panel oedolion diamddiffyn wedi ystyried anghenion pobl ddiamddiffyn ac mae wedi gallu darparu cynlluniau cefnogaeth i bobl na fyddai\u2019n gymwys fel arall i gael mynediad at gefnogaeth y gwasanaethau cymdeithasol oherwydd meini prawf cymhwyso sy\u2019n rheoli\u2019r galw ar lwyth gwaith yr adnodd o wasanaethau gofal a reolir.<\/p>\n<p>O ran cam-drin domestig, cafodd achos diweddar a oedd yn cynnwys gwasanaethau o ledled y DU a thramor am fwy na 15 mlynedd, ei reoli\u2019n llwyddiannus pan gafodd y camdriniwr ei farnu\u2019n euog oherwydd cydweithio agos rhwng Gwasanaethau Cymdeithasol a Heddlu GC. \u00a0Anerchodd y sawl a oroesodd y cam-drin domestig gynhadledd aml asiantaeth bwrdd diogelu rhanbarthol diweddar, oedd yn canolbwyntio ar godi proffil Cam-drin Domestig a\u2019i effaith ar blant. Yr adborth o\u2019r gynhadledd oedd bod rhoi platfform fel hyn ar gyfer y siaradwr, a\u2019i hanes personol o\u2019r gamdriniaeth roedd hi a\u2019i phlant wedi\u2019i ddioddef, wedi rhoi negeseuon pwerus i ymarferwyr ar draws asiantaethau.<\/p>\n<p>Mae\u2019r gweithgor \u2018Ar Goll o Gartref&#8217; wedi&#8217;i sefydlu ac mae ganddo lefel uchel o bresenoldeb ac ymrwymiad aml asiantaeth. Sefydlwyd y gweithgor hwn yn dilyn menter cudd wybodaeth ar y cyd rhwng yr heddlu\/gwasanaethau cymdeithasol er mwyn canfod cysylltiadau rhwng nifer o ferched\/pobl ifanc oedd yn mynd ar goll a chyfeiriadau cysylltiedig yn y gymuned leol. Yn sgil y fenter hon, bu sawl ar\u00e9st a daeth tystiolaeth i\u2019r amlwg bod ymyrraeth gynnar gadarn wedi atal y peryglon y mae mintai fel hyn o ddynion h\u0177n yn ei fygwth i blant.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<h2>Protocol Cyn Gweithrediadau<\/h2>\n<p><strong>Cefndir<br \/>\n<\/strong>Mae\u2019r Adolygiad Cyfiawnder Teuluol (ACT) yn nodi bod gweithrediadau gofal yn cymryd llawer gormod o amser yng Nghymru a Lloegr, 52 wythnos ar gyfartaledd. Mae\u2019r ACT yn argymell bod yr amserlen yma\u2019n cael ei lleihau i chwe wythnos ar hugain, ac y dylai\u2019r system ganolbwyntio mwy ar yr amserlen ar gyfer y plentyn. O ystyried yr argymhelliad yma, mae\u2019r Barnwr Anrhydeddus Gareth Jones, Barnwr Teulu Dynodedig ar gyfer gogledd Cymru, wedi penderfynu bod angen llunio protocol cyn llys ar gyfer gweithwyr cymdeithasol, yn amlinellu y dylid cwblhau ffocws y gwaith cyn a\/neu mewn cydweithrediad \u00a0a chychwyn Amlinelliad Cyfraith Breifat mewn achosion \u2018araf\u2019\/aml achos pan fo camddefnyddio alcohol\/ sylweddau, esgeulustra, camdriniaeth emosiynol, neu Anableddau Dysgu rhieniol, yn ffactorau pwysig.<\/p>\n<p><strong>Datblygiadau<\/strong><\/p>\n<p>Cynhaliwyd cyfarfod cychwynnol rhwng y Rheolwr Gwasanaeth ar gyfer Gwaith Maes, Prif Ymarferwyr ar gyfer y T\u00eem Asesu a Chefnogi a Th\u00eem Diogelu a Chyfreithiol a gwasanaethau Cyfreithiol ym mis Mawrth 2013. Fe luniwyd cynllun gweithredu i sicrhau bod yr adran yn gallu diwallu gofynion yr Adolygiad Cyfiawnder Teuluol.<\/p>\n<p>Dros y chwe mis nesaf, bu\u2019r gr\u0175p yn cyfarfod bob chwe wythnos i fonitro gweithrediad y cynllun gweithredu.<\/p>\n<p>Datblygwyd y meysydd ymarfer canlynol:<\/p>\n<ul>\n<li>Protocol Cyn Gweithrediadau gyda chyfeiriad at restr wirio Ymchwil Ward\/Cyn Gweithrediadau<\/li>\n<li>Canllawiau i weithwyr cymdeithasol yngl\u0177n \u00e2 chwblhau gwaith cronoleg\/genogram a gwaith hanes bywyd<\/li>\n<li>Lluniwyd protocol gyda gwasanaethau Oedolion<\/li>\n<li>Cyfarfodydd rheolaidd gyda CAFCASS<\/li>\n<\/ul>\n<p><strong>Gweithredu<\/strong><\/p>\n<p>Ym mis Hydref 2013, trefnodd yr adran ddau weithdy deuddydd i\u2019r holl staff fynychu gan gynnwys cynrychiolwyr o Wasanaethau Oedolion ac iechyd. Bu&#8217;r gweithdy yn ymdrin \u00e2\u2019r meysydd canlynol:<\/p>\n<ul>\n<li>Trosolwg o Adolygiad Cyfiawnder Teuluol<\/li>\n<li>Ward ac Ymchwil<\/li>\n<li>Rolau a Chyfrifoldebau o dan y Protocol Cyn Gweithrediadau<\/li>\n<li>Gwaith Stori Bywyd<\/li>\n<li>Datblygiad Plentyn<\/li>\n<li>Cynllunio ar gyfer asesiadau<\/li>\n<\/ul>\n<p>Mae\u2019r adborth cychwynnol rydym wedi ei dderbyn gan y farnwriaeth a CAFCASS yn dynodi bod safon y gwaith llys a gyflwynwyd gan Staff Conwy yn unol \u00e2 gofynion yr Adolygiad Cyfiawnder Teuluol. Byddwn yn parhau i fonitro effeithiolrwydd gwaith cyn gweithrediadau.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae newidiadau mawr wedi digwydd yng Ngwasanaethau Cymdeithasol Conwy. Drwy ein Rhaglen Trawsnewid, rydym wedi bod yn edrych sut rydym angen aildrefnu rhai gwasanaethau i leihau\u2019r hollt rhwng adran Plant a Theuluoedd, a Gwasanaethau Oedolion. \u00a0Diogelu yw un o\u2019r meysydd hynny, ac rydym wedi bod yn symud tuag at uno Diogelu Plant gyda Diogelu Oedolion [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_seopress_robots_primary_cat":"","_seopress_titles_title":"","_seopress_titles_desc":"","_seopress_robots_index":"","_seopress_analysis_target_kw":"","_genesis_hide_title":false,"_genesis_hide_breadcrumbs":false,"_genesis_hide_singular_image":false,"_genesis_hide_footer_widgets":false,"_genesis_custom_body_class":"","_genesis_custom_post_class":"","_genesis_layout":"","footnotes":""},"categories":[43],"tags":[],"class_list":{"0":"post-320","1":"post","2":"type-post","3":"status-publish","4":"format-standard","6":"category-diogelu","7":"entry"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/320","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=320"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/320\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=320"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=320"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=320"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}