{"id":300,"date":"2014-12-01T14:52:38","date_gmt":"2014-12-01T14:52:38","guid":{"rendered":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/?p=300"},"modified":"2014-12-01T14:52:38","modified_gmt":"2014-12-01T14:52:38","slug":"cynlluniau-ariannol-cynaliadwy-yn-cyflawni-amcanion-strategol-ar-gwerth-gorau-posibl-am-arian","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/cynlluniau-ariannol-cynaliadwy-yn-cyflawni-amcanion-strategol-ar-gwerth-gorau-posibl-am-arian\/","title":{"rendered":"Cynlluniau ariannol cynaliadwy yn cyflawni amcanion strategol a\u2019r gwerth gorau posibl am arian"},"content":{"rendered":"<h4>Mae cyllid yn brin, felly mae\u2019n rhaid i ni fod yn hyderus ein bod yn rhedeg ein gwasanaethau yn ddoeth i sicrhau bod pobl Conwy yn cael gwerth am arian gan y Gwasanaethau Cymdeithasol. Rydym angen cynlluniau ariannol sydd yn addas i\u2019w pwrpas nawr, a chan edrych ymlaen at y dyfodol, i ddiwallu anghenion ddefnyddwyr gwasanaeth o fewn y gyllideb a roddir i ni. Mae datblygiad paneli amrywiol yng Nghonwy wedi bod yn ddefnyddiol iawn i sicrhau bod gwasanaethau yn gost effeithiol.<\/h4>\n<p><!--more--><\/p>\n<h2>Panel Oedolion Diamddiffyn<\/h2>\n<p><strong>Cefndir<\/strong><br \/>\nSefydlwyd y panel oedolion diamddiffyn yn rhan o wasanaeth disylw, anghonfensiynol fel ymateb i gefnogi pobl ddiamddiffyn a oedd wedi \u2018llithro drwy\u2019r rhwyd\u2019 yn y gorffennol gan nad oeddynt yn bodloni\u2019r meini prawf statudol. Mae\u2019r panel yn cwrdd bob mis ac mae\u2019n derbyn atgyfeiriadau i bobl 16+ oed sydd heb dderbyn diagnosis pendant ac sydd ddim yn diwallu\u2019r meini prawf ar gyfer gwasanaethau traddodiadol. Mae Gweithiwr Cymdeithasol Oedolion Diamddiffyn a chynrychiolwyr o Iechyd Meddwl, Camddefnyddio Sylweddau, Anableddau Dysgu a Th\u00eem Dewisiadau a Chefnogaeth Tai, etc yn mynychu ac yn cydweithio \u00e2 MAPPA.\u00a0Fe drafodir achosion a\u2019u clustnodi ar sail angen. Mae\u2019r bobl sy\u2019n cael eu clustnodi i\u2019r Gweithiwr Cymdeithasol Oedolion Diamddiffyn yn derbyn ymyrraeth 6 wythnos i\u2019w galluogi i ymdopi \u00e2 mater pwysig yn syth a llunio strategaethau a rhwydweithiau mynediad i\u2019w galluogi i ymdrin \u00e2 materion a allai ddigwydd yn y dyfodol.<\/p>\n<p><strong>Beth sydd wedi newid?<\/strong><br \/>\nMae poblogrwydd y panel wedi tyfu ac mae presenoldeb yn parhau i gynyddu.\u00a0 Cytunwyd ar Gylch Gorchwyl ar gyfer y Panel a chaiff ei ystyried yn faes o arfer da, ac mae asiantaethau amrywiol yn gofyn i gael anfon eu myfyrwyr draw i arsylwi.\u00a0Yn rhan o\u2019r Rhaglen Trawsnewid, mae\u2019r maes hwn o angen wedi\u2019i gydnabod yn llawn a bydd yn wasanaeth sefydledig prif ffrwd, gyda staff llawn. Bydd y gwasanaeth yn cydweithio\u2019n agos \u00e2\u2019r gwasanaeth Lles Cymunedol a bydd yn cefnogi\u2019r rhaglen ataliol.<\/p>\n<p><strong>Pa wahaniaeth y mae wedi\u2019i wneud?<\/strong><br \/>\nMae pobl ddiamddiffyn wedi derbyn cymorth yn gynt, gan eu hatal rhag cyrraedd argyfwng a bod yn ddibynnol ar wasanaethau statudol.\u00a0Mae\u2019r ymyrraeth yn fyr ac mae\u2019n canolbwyntio ar gynorthwyo pobl i adeiladu gwydnwch a rheoli ei bywydau a\u2019u hamgylchiadau o ddydd i ddydd yn well.\u00a0Yn aml mae\u2019r panel yn amlygu\u2019r ffaith bod unigolion yn hysbys i wasanaethau eraill, ee, camddefnyddio sylweddau, Iechyd Meddwl etc, ac mae modd eu hatgyfeirio yn \u00f4l i\u2019r gwasanaethau hyn gyda rhywfaint o gydweithio.\u00a0Mae hyn yn atal dyblygu ac yn cynorthwyo \u00e2 newidiadau mwy esmwyth. Mae\u2019r panel hefyd yn sicrhau bod gwaith yn cael ei gwblhau gan bob asiantaeth wrth i achosion gael eu hadolygu\u2019n fisol a\u2019u bod yn parhau ar yr agenda nes i\u2019r mater ddod i ben.<\/p>\n<h2>Panel Anableddau Dysgu ar gyfer ceisiadau am gyllid<\/h2>\n<p><strong>Cefndir<br \/>\n<\/strong>Yn hanesyddol, cafodd ceisiadau am gyllid Anableddau Dysgu eu hystyried gan Reolwr Gweithredol neu Ben Ymarferydd, ar wah\u00e2n i aelodau eraill o\u2019r t\u00eem. Cafodd cyfle i wella\u2019r ffordd rydym yn ystyried ceisiadau ei adnabod, drwy gynnwys panel o bobl allweddol. Byddai hyn yn darparu ymagwedd fwy cadarn, tryloyw a chyson wrth ystyried ceisiadau cyllid, \u00a0ac yn helpu i sicrhau bod ein hadnoddau\u2019n cael eu defnyddio\u2019n hyblyg i ddiwallu anghenion sy\u2019n cael eu hadnabod.<\/p>\n<p><strong>Beth sydd wedi newid?<\/strong><strong><br \/>\n<\/strong>\u00a0Sefydlwyd y panel ac mae\u2019r rheolwr cefnogaeth gymunedol fewnol, y rheolwr iechyd, rheolwr t\u00eem, ymarferwyr a\u2019r uwch swyddog cyllid yn mynychu\u2019n rheolaidd.<\/p>\n<p>Mae ymarferwyr yn sicrhau bod yna sail resymegol o ran \u2018datblygiad\u2019 unigolyn yn eu cais. Fe gedwir cofnod o ystyriaethau\u2019r panel, gan gynnwys y risgiau sy\u2019n gysylltiedig o beidio \u00e2 chymeradwyo ceisiadau am gyllid. Y panel, nid yr ymarferydd sydd yn gadael i bobl wybod am benderfyniadau ynghylch cyllido.<\/p>\n<p>Os nad ydi\u2019r cyllid yn cael ei gymeradwyo, mae\u2019r panel yn gwneud argymhellion yngl\u0177n \u00e2 \u00a0\u2018beth i\u2019w wneud nesaf\u2019.<\/p>\n<p><strong>Pa wahaniaeth y mae wedi\u2019i wneud?<\/strong><\/p>\n<ul>\n<li>Mae modd i ni ragweld gwariant yn well ar ddiwedd bob chwarter, ac yn amlwg mae hyn yn effeithio ar sefydlogrwydd cynllunio ariannol.<\/li>\n<li>Mae\u2019r panel yn darparu adroddiadau ar bethau fel a gafodd asesiadau eu cofnodi ar y system client (PARIS), ac a gynhaliwyd adolygiadau o fewn yr amserlenni. Mae hyn wedi arwain at reolaeth fwy cadarn o\u2019r mathau yma o faterion perfformiad.<\/li>\n<li>Mae gan reolwyr t\u00eem syniad gwell o ystod y ceisiadau, a nawr maent mewn sefyllfa well i siapio gwasanaethau ar gyfer y dyfodol.<\/li>\n<li>Mae ymarferwyr yn dweud, er bod y panel yn heriol ar y cychwyn, caiff ei ystyried yn gefnogol ac yn broffesiynol heriol mewn modd cadarnhaol erbyn hyn.<\/li>\n<li>Mae defnyddwyr gwasanaeth yn ymwybodol bod yna broses gadarn ar waith er mwyn ystyried eu ceisiadau am gyllid.<\/li>\n<\/ul>\n<p><strong>Astudiaeth Achos<br \/>\n<\/strong>Mae\u2019r panel wedi cyflwyno cyfleoedd i wneud pethau\u2019n wahanol. Er enghraifft, gwnaed cais i gael cymorth ychwanegol i gynorthwyo defnyddiwr gwasanaeth i ddod o hyd i waith gwirfoddol. Roedd y defnyddiwr gwasanaeth wedi defnyddio prosiect Taith i Waith yn flaenorol ac roedd wedi cwblhau pob lefel o ddyfarniad cadwraeth John Muir. Cafodd ei ddisgrifio gan y rheini oedd yn ei gefnogi ar y pryd fel rhywun oedd yn cynorthwyo defnyddwyr gwasanaeth eraill i gyflawni ei golau, tuag at ddiwedd y prosiect. Gan fod y gwasanaeth yn parhau \u00e2 dyfarniad John Muir, cynigiodd Rheolwr y T\u00eem leoliad gwirfoddoli iddo i fentora defnyddwyr gwasanaeth eraill.<\/p>\n<h2>Panel T\u00eem Gweithredu Camddefnyddio Sylweddau<\/h2>\n<p><strong>Cefndir<\/strong><br \/>\nSefydlwyd Panel Lleoliadau Adferiad Camddefnyddio Sylweddau sawl blwyddyn yn \u00f4l i ystyried a chymeradwyo ceisiadau am gyllid o Grantiau T\u00eem Gweithredu Camddefnyddio Sylweddau ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth oedd yn oedolion. Mae\u2019r Panel yn cwrdd bob mis ac mae\u2019n derbyn atgyfeiriadau ar gyfer oedolion sydd yn barod i ymrwymo i gychwyn Rhaglen Triniaeth neu Leoliad Preswyl. \u00a0Os bo\u2019n briodol, mae\u2019r panel yn ceisio cyllido llefydd o fewn y rhanbarth. Os oes gan unigolyn faterion cymhleth, mae\u2019r Gweithiwr Cymdeithasol, Gweithiwr Allweddol a chydweithwyr o BIPBC yn ceisio comisiynu lleoliadau priodol o amryw o ddarparwyr gwasanaeth priodol y tu allan i\u2019r sir neu du allan i Gymru.<\/p>\n<p>Mae\u2019r Panel yn cynnwys Rheolwr Gwasanaeth Adran Gwasanaethau Cymdeithasol, Rheolwr T\u00eem BIPBC, Gweithwyr Cymdeithasol, Gweithwyr Allweddol, Swyddog Arweiniol T\u00eem Gweithredu Camddefnyddio Sylweddau Conwy, cefnogaeth weinyddol adran Gwasanaethau Cymdeithasol, a chedwir cofnodion ffurfiol o benderfyniadau, achosion a drafodwyd, ac adroddiadau cynnydd am unigolion sydd eisoes yn derbyn triniaeth.<\/p>\n<p><strong>Beth sydd wedi newid?<br \/>\n<\/strong>Mae gan Gonwy Cylch Gorchwyl ar waith ar gyfer panel T\u00eem Gweithredu Camddefnyddio Sylweddau.<br \/>\nBydd angen Cylch Gorchwyl newydd er mwyn adlewyrchu sut y caiff trefniadau llywodraethu newydd Strwythur T\u00eem Camddefnyddio Sylweddau Rhanbarthol, yr awdurdod cynnal ar gyfer cyllido yn y dyfodol (Wrecsam), a threfniadau arfer da lleol sydd yn bodoli\u2019n bresennol eu cefnogi yn y dyfodol. Oni bai y dywedir fel arall, bydd trefniadau Conwy (panel lleol) yn parhau yn ystod y cyfnod nesaf o waith rhanbarthol, a chaiff ei adolygu \u00e2 budd-ddeiliaid allweddol, ar \u00f4l i\u2019r materion staffio ar gyfer swyddogion presennol, ac ar \u00f4l i benodiadau newydd gael eu cwblhau.<\/p>\n<p><strong>Pa wahaniaeth y mae wedi\u2019i wneud?<br \/>\n<\/strong>Cefnogwyd pobl sydd \u00e2 phroblemau iechyd a lles difrifol drwy&#8217;r panel ceisiadau am gyllid, i ymgysylltu \u00e2 gwasanaethau a all ddarparu ystod gynhwysfawr o raglenni dadwenwyno\/ ymataliad a sgiliau bywyd o ddydd i ddydd a mentora.<\/p>\n<p>Mae rhai unigolion yn llwyddo i gwblhau sawl wythnos\/mis mewn lleoliadau preswyl a symud ymlaen i raglenni cefnogol eraill ar eu taith i wella o broblemau camddefnyddio sylweddau.\u00a0Mae unigolion eraill yn rhyddhau eu hunain adref yn fuan o leoliadau ar adegau amrywiol yn y cynllun. Pan fo hyn yn digwydd, mae comisiynwyr y gwasanaethau hyn yn trafod \u00e2\u2019r Darparwr Gwasanaeth i ddarparu\u2019r gwasanaeth eto i unigolyn addas sydd wedi\u2019u\u00a0 hasesu.<\/p>\n<p>Mae\u2019r gwasanaethau Haen 4 yng Nghymru o safon eithriadol o uchel ac maent yn creu amgylchedd i roi pob cyfle i unigolion gael gwellhad llwyddiannus a chynaliadwy o gamddefnyddio sylweddau. Fe anogir Byrddau Cynllunio Ardal i gefnogi a chynnal argaeledd darpariaeth gwasanaeth o safon uchel yng Nghymru sydd yn cydymffurfio \u00e2\u2019r Safonau Craidd Cenedlaethol ar gyfer Gwasanaethau Camddefnyddio Sylweddau yng Nghymru.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae cyllid yn brin, felly mae\u2019n rhaid i ni fod yn hyderus ein bod yn rhedeg ein gwasanaethau yn ddoeth i sicrhau bod pobl Conwy yn cael gwerth am arian gan y Gwasanaethau Cymdeithasol. Rydym angen cynlluniau ariannol sydd yn addas i\u2019w pwrpas nawr, a chan edrych ymlaen at y dyfodol, i ddiwallu anghenion ddefnyddwyr [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_seopress_robots_primary_cat":"","_seopress_titles_title":"","_seopress_titles_desc":"","_seopress_robots_index":"","_seopress_analysis_target_kw":"","_genesis_hide_title":false,"_genesis_hide_breadcrumbs":false,"_genesis_hide_singular_image":false,"_genesis_hide_footer_widgets":false,"_genesis_custom_body_class":"","_genesis_custom_post_class":"","_genesis_layout":"","footnotes":""},"categories":[41],"tags":[],"class_list":{"0":"post-300","1":"post","2":"type-post","3":"status-publish","4":"format-standard","6":"category-rheoli-adnoddau","7":"entry"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/300","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=300"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/300\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=300"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=300"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=300"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}