{"id":4126,"date":"2025-10-24T12:49:32","date_gmt":"2025-10-24T11:49:32","guid":{"rendered":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/?page_id=4126"},"modified":"2025-10-24T12:49:39","modified_gmt":"2025-10-24T11:49:39","slug":"lles","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/adroddiad-2024-25\/lles\/","title":{"rendered":"Lles"},"content":{"rendered":"\n<p>Safonau ansawdd<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Mae pobl yn cael eu diogelu rhag camdriniaeth ac esgeulustod a mathau eraill o niwed.<\/li>\n\n\n\n<li>Mae pobl yn cael eu cefnogi i reoli eu lles a gwneud eu penderfyniadau eu hunain fel eu bod yn gallu cyflawni eu potensial llawn a byw\u2019n annibynnol gyhyd \u00e2 phosibl.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading has-white-color has-vivid-cyan-blue-to-vivid-purple-gradient-background has-text-color has-background has-link-color has-large-font-size wp-elements-1297c1bee6f3ae9f8de60e16fc3e6165\"><em>Gwasanaethau Plant<\/em><\/h2>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Gweithgarwch diogelu<\/h2>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color has-link-color wp-elements-4d6f7de6ac1f086e6cf2f9ad4c174336\">Amddiffyn Plant yn Effeithiol<\/h3>\n\n\n\n<p>Yr ydym wedi cyflwyno model newydd ar gyfer Amddiffyn Plant yn Effeithiol, sy\u2019n canolbwyntio ar: <\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Ymdrechu i gael asesiad cyson, o ansawdd uchel, o niwed sylweddol <\/li>\n\n\n\n<li>Gwella\u2019r cydweithio \u00e2 theuluoedd ym maes amddiffyn plant i gynyddu eu cyfranogiad a lleihau gwrthwynebiad <\/li>\n\n\n\n<li>Nodi\u2019r newidiadau mewn blaenoriaethau sydd eu hangen i fynd i\u2019r afael \u00e2 niwed sylweddol, a chanolbwyntio\u2019n gadarn ar y rhain drwy\u2019r amser <\/li>\n\n\n\n<li>Mesur cynnydd teulu tuag at gyflawni\u2019r newidiadau hynny<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Cynhaliwyd adolygiad sicrhau ansawdd gennym ar oddeutu deg achos, gan ganolbwyntio ar y siwrnai amddiffyn plant lawn. Yr ydym wedi diweddaru dogfennau sy\u2019n gysylltiedig ag ymholiadau Adran 47 (ymchwiliadau amddiffyn plant) a Chynadleddau Achos Cychwynnol, i gynnwys y modelau risg er mwyn cael cysondeb gan ymarferwyr wrth asesu risg sylweddol. <\/p>\n\n\n\n<p>Yn ogystal \u00e2 hyn, darparwyd trosolwg o Amddiffyn Plant yn Effeithiol i asiantaethau partner i roi gwybod iddynt am y newidiadau, sy\u2019n canolbwyntio ar alluogi asiantaethau partner i gyfrannu at fesur niwed sylweddol yn eu hadroddiadau eu hunain ac mewn cynadleddau. <\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color has-link-color wp-elements-75caf03b394ddcb4d85a328b2d3262e0\">Data allweddol<\/h3>\n\n\n\n<p>Yr oedd 248 o adolygiadau amddiffyn plant a oedd i fod i gael adolygiad yn ystod y flwyddyn; cwblhawyd y rhain i gyd a chwblhawyd 246 (99.2%) ohonynt o fewn amserlenni statudol. Yr oedd hyn uwchlaw cyfartaledd Cymru, sef 91.8%.*  <\/p>\n\n\n\n<p class=\"has-small-font-size\"><em>*Data o Ddatganiad Cenedlaethol Gofal Cymdeithasol, ar gyfer data 2023\/2024, a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2025.<\/em><\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-full\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"526\" height=\"243\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/10\/Child-Protection-Reviews-Graph-Cymraeg.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-4128\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/10\/Child-Protection-Reviews-Graph-Cymraeg.jpg 526w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/10\/Child-Protection-Reviews-Graph-Cymraeg-300x139.jpg 300w\" sizes=\"auto, (max-width: 526px) 100vw, 526px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p><\/p>\n\n\n\n<p>Pan fo Awdurdod Lleol yn ymchwilio i sefyllfa lle amheuir bod plentyn yn dioddef niwed sylweddol, neu\u2019n debygol o fod yn dioddef niwed sylweddol, gelwir y rhain yn ymholiadau Adran 47. Drwy ddadansoddi ein perfformiad yn y gorffennol gallwn weld bod nifer y cyfarfodydd strategaeth a arweiniodd at ymholiadau Adran 47 wedi gostwng yn 2023\/2024 i 505, o gymharu \u00e2 552 yn 2022\/2023.* <\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-full\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"534\" height=\"226\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/10\/Strategy-Meetings-7-S47s-Cymraeg.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-4130\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/10\/Strategy-Meetings-7-S47s-Cymraeg.jpg 534w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/10\/Strategy-Meetings-7-S47s-Cymraeg-300x127.jpg 300w\" sizes=\"auto, (max-width: 534px) 100vw, 534px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p><\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-table\"><table class=\"has-fixed-layout\"><thead><tr><th><\/th><th>2020-21<\/th><th>2021-22<\/th><th>2022-23<\/th><th>2023-24<\/th><\/tr><\/thead><tbody><tr><td>Nifer ymholiadau A47<\/td><td>458<\/td><td>343<\/td><td>552<\/td><td>505<\/td><\/tr><\/tbody><\/table><\/figure>\n\n\n\n<p>Canran y cysylltiadau a arweiniodd at gyfarfod strategaeth oedd 8.8%, sy\u2019n is na chyfartaledd Cymru, sef 11.4%. Canran y cyfarfodydd strategaeth a arweiniodd at ymholiadau A47 oedd 54.2%, sy\u2019n is na chyfartaledd Cymru, sef 63.2%. Canran yr ymholiadau A47 a arweiniodd at Gynhadledd Achos oedd 22.4%, sydd ychydig yn uwch na chyfartaledd Cymru, sef 22.2%.*<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-full\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"520\" height=\"232\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/10\/Strategy-Meetings-S47s-Case-Conf.Cymraeg.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-4132\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/10\/Strategy-Meetings-S47s-Case-Conf.Cymraeg.jpg 520w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/10\/Strategy-Meetings-S47s-Case-Conf.Cymraeg-300x134.jpg 300w\" sizes=\"auto, (max-width: 520px) 100vw, 520px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p class=\"has-small-font-size\"><em>*Fel y cyhoeddwyd yn Natganiad Cenedlaethol Gofal Cymdeithasol, ym mis Mawrth 2025, ar gyfer data 2023\/2024.<\/em><\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color has-link-color wp-elements-5f212121c9077dd3beea823fa2c29f28\"><strong>Camfanteisio<\/strong><\/h4>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r Fforwm Camfanteisio Cyd-destunol wedi parhau i fod \u00e2 charfan gyson o weithwyr proffesiynol yn bresennol. Mae data\u2019n awgrymu bod gostyngiad yn nifer y plant sydd wedi eu hamlygu i gamfanteisio; fodd bynnag, mae yna bryder yngl\u0177n ag argaeledd cetamin a phobl ifanc yn ei ddefnyddio. Cyn gwyliau haf yr ysgol, cynhaliwyd cyfarfodydd amlasiantaeth i gynorthwyo gyda chodi ymwybyddiaeth ymysg plant a\u2019u rhieni \/ gofalwyr. <\/p>\n\n\n\n<p>Mae gwaith monitro\u2019r defnydd o getamin yn parhau drwy\u2019r amser, a chydlynwyd strategaethau ymyrraeth gynnar gan Ganolfannau Teuluoedd, ysgolion, gwasanaethau iechyd a gwasanaethau ieuenctid. Yn ogystal, amlygodd yr Uned Ddiogelu beryglon cetamin ar ddiwrnod hyfforddiant diogelu Addysg. <\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color has-link-color wp-elements-00a125b3c995f8aa0707835f1a503a8f\"><strong>Wythnos Genedlaethol Diogelu 11-15 Tachwedd 2024<\/strong><\/h4>\n\n\n\n<p>Un o uchafbwyntiau Wythnos Genedlaethol Diogelu eleni ym mis Tachwedd oedd sgwrs a roddwyd gan unigolyn ifanc a oedd yn gwella ar \u00f4l bod yn gaeth i getamin. Rhannodd ei brofiad a\u2019i ymdrechion i gael y gefnogaeth angenrheidiol i leihau\u2019r ddibyniaeth ar y cyffur. Yr oedd llawer o bobl yn bresennol yn y digwyddiad hwn a oedd yn llawn gwybodaeth. Yn dilyn hyn, cysylltwyd \u00e2\u2019r unigolyn ifanc er mwyn cael mwy o gyngor ac arweiniad wrth siapio gwasanaethau i leihau camddefnydd o getamin ymysg pobl ifanc.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color has-link-color wp-elements-78c517fec884e6dba2c48f5af4c130f0\"><strong>Lleisiau Uchel<\/strong><\/h4>\n\n\n\n<p>Mae gr\u0175p Lleisiau Uchel yn ddigwyddiad hwyliog a gynigir i bob plentyn sy\u2019n derbyn gofal. Mae\u2019n gyfle i bobl ifanc drafod eu profiadau o dderbyn gofal, a\u2019u safbwyntiau yngl\u0177n \u00e2\u2019r hyn sy\u2019n bwysig iddynt, er mwyn bod o gymorth gyda siapio\u2019r gwasanaeth a ddarperir. <\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color has-link-color wp-elements-d065671038d25fb8e6fd802c55de2834\"><strong>Fforwm Diogelu Amlasiantaethol<\/strong><\/h4>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r cyfarfodydd hyn dan arweiniad amlasiantaeth wedi parhau, gyda thrafodaethau hyd yma yn canolbwyntio ar sut y gallwn ni, fel partneriaid amlasiantaethol, achosi newid cadarnhaol mewn arferion gweithio drwy ein dylanwad, yn ogystal ag wrth adolygu tueddiadau a them\u00e2u diogelu. Hyd yma, cafwyd trafodaethau yngl\u0177n \u00e2: <\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Salwch Ffug<\/li>\n\n\n\n<li>Arweiniad statudol ar gyfer addysg yn y cartref <\/li>\n\n\n\n<li>Amddiffyn Plant yn Effeithiol <\/li>\n\n\n\n<li>Cetamine<\/li>\n\n\n\n<li>Brathiadau c\u0175n <\/li>\n\n\n\n<li>Adroddiadau diogelu effeithiol<\/li>\n\n\n\n<li>Canolfannau Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol<\/li>\n\n\n\n<li>Canolfan Ddiogelu Amlasiantaethol<\/li>\n\n\n\n<li>Fforwm cyn geni <\/li>\n\n\n\n<li>Archwiliadau Meddygol Amddiffyn Plant     <\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color has-link-color wp-elements-b15472f988eddbd94648d033a5dbd8aa\"><strong>Ymateb yn effeithiol i\u2019r hyn a ddysgir o Adolygiadau Ymarfer Plant ac Adolygiad Ymarfer Oedolion<\/strong><\/h4>\n\n\n\n<p>Yn dilyn cyhoeddi dau adolygiad ymarfer plant Conwy, darparwyd trosolwg o\u2019r argymhellion i aelodau diogelu penodedig, o fewn y fforymau Diogelu Ymarferwyr a Fforymau Diogelu Rheolwyr. Rhoddwyd tasg i bob maes i adolygu\u2019r argymhellion er mwyn cynorthwyo \u00e2 siapio arferion y dyfodol mewn ymgais i leihau risgiau i blant yn y dyfodol. <\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color has-link-color wp-elements-7dfe0b18db4a5a2fc133d1d29e294519\"><strong>Cadw pobl ifanc yn ddiogel pan f\u00f4nt hwnt ac yma <\/strong><\/h4>\n\n\n\n<p>Y llynedd siaradwyd yngl\u0177n \u00e2 chyflwyno cynllun Gofyn am Angela, a fyddai\u2019n caniat\u00e1u i bobl ifanc ofyn am gymorth yn gyfrinachgar pe baent mewn sefyllfa anodd neu anghyfforddus. Mae ymchwil wedi canfod bod llawer o bobl ifanc yn cael eu gorfodi i wneud pethau nad ydynt eisiau eu gwneud, fel cyflawni fandaliaeth, gweithredoedd o drais, bygwth pobl a dwyn. Byddai 88% o\u2019r bobl ifanc wedi hoffi cael ffordd o ofyn am gymorth, heb iddo fod yn amlwg i\u2019r bobl o\u2019u cwmpas.<\/p>\n\n\n\n<p>Aethom \u00e2 chanlyniadau\u2019r arolwg ger bron y Cyngor Ieuenctid a siarad \u00e2 grwpiau o bobl ifanc o wahanol gymunedau. Yr oedd y mwyafrif llethol eisiau cyflwyno gwasanaeth Gofyn am Angela, ac nid oeddent yn teimlo bod angen meddwl am enw arall ar ei gyfer.<\/p>\n\n\n\n<p>Cytunwyd mai canolfannau hamdden fyddai\u2019r lleoliadau mwyaf priodol i ofyn am gymorth gan eu bod wedi eu lleoli o fewn cymunedau, maent yn agored am oriau hwy ac ar y penwythnosau. Ni fyddai\u2019n ymddangos yn beth anarferol i unigolyn ifanc fynd i ganolfan hamdden a siarad ag aelod o\u2019r staff, hyd yn oed os oedd gyda gr\u0175p o ffrindiau. Mae staff canolfannau hamdden wedi derbyn gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, a gallent yn hawdd gael hyfforddiant ar gyfer y cynllun.<\/p>\n\n\n\n<p>Treialwyd gwasanaeth Gofyn am Angela dros haf 2024. Rhannwyd gohebiaeth cyn gwyliau\u2019r haf drwy\u2019r ysgolion, Heddlu Gogledd Cymru, y Gwasanaeth Ieuenctid, Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid, Canolfannau Teuluoedd, nyrsys ysgol, ymarferwyr Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc a nifer o wasanaethau eraill sy\u2019n gweithio gyda phobl ifanc a\u2019u rhieni. <\/p>\n\n\n\n<p>Buom yn dylunio ac arddangos posteri yn ystafelloedd newid a thoiledau pob canolfan hamdden, gan hysbysebu\u2019r cynllun yn gynnil. Er hynny, yr ydym wedi ehangu\u2019r cynllun i gynnwys yr holl Ganolfannau Teuluoedd. Yr ydym bellach yn gweithio gyda llyfrgelloedd i weld faint y gallwn eu cynnwys hwy yn y cynllun a chysylltu \u00e2\u2019r gwasanaeth \u2018lle diogel\u2019 sydd ar waith ynddynt eisoes ar gyfer oedolion sy\u2019n profi camdriniaeth ddomestig. Bydd ein camau nesaf yn cynnwys:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Dod \u00e2\u2019r cynllun i sylw siroedd eraill yng ngogledd Cymru<\/li>\n\n\n\n<li>Gwella\u2019r deunyddiau marchnata sydd gennym ar gyfer y cynllun<\/li>\n\n\n\n<li>Cysylltu \u00e2\u2019r cynllun lle diogel presennol<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-full\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"940\" height=\"566\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/09\/image-19.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-3999\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/09\/image-19.png 940w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/09\/image-19-300x181.png 300w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/09\/image-19-768x462.png 768w\" sizes=\"auto, (max-width: 940px) 100vw, 940px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-alpha-channel-opacity\"\/>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading has-white-color has-vivid-cyan-blue-to-vivid-purple-gradient-background has-text-color has-background has-link-color has-large-font-size wp-elements-25d7eda3d6f584233d09984f2aeae20d\"><em>Gwasanaethau Oedolion<\/em><\/h2>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Gweithgarwch diogelu<\/h2>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color has-link-color wp-elements-2ad6342b53b9cd1b7ffc54e2b59e5280\">Masnachwyr Twyllodrus<\/h3>\n\n\n\n<p>Yr ydym wedi nodi mwy o weithgarwch gan fasnachwyr twyllodrus ym maes diogelu, a nifer cynyddol o achosion wedi eu hadrodd fel Oedolyn mewn Perygl. Yr ydym wedi datblygu cytundeb clir yngl\u0177n \u00e2 sut ydym yn cefnogi\u2019r achosion hyn, yn unol \u00e2 Gweithdrefnau Diogelu Cymru. <\/p>\n\n\n\n<p>Yr ydym wedi cytuno bod pob achos yn cael ei adrodd a\u2019i drin fel achos o Oedolyn mewn Perygl hyd nes bod gennym wybodaeth a thystiolaeth sy\u2019n nodi fel arall, ac mae t\u00eem ein Canolfan Ddiogelu Amlasiantaethol yn cynnal yr holl sgrinio ac ymholiadau perthnasol. <\/p>\n\n\n\n<p>Ym mhob achos sy\u2019n symud yn ei flaen fel achos o Oedolyn mewn Perygl, gwneir mwy o ymholiadau ac ymgysylltiad \u00e2\u2019r oedolyn, ac mae\u2019r achos yn mynd drwy broses diogelu oedolion. Os tybir yn y camau cychwynnol nad yw\u2019r oedolyn mewn perygl, cesglir yr holl wybodaeth a\u2019i rannu \u00e2 Heddlu Gogledd Cymru a Safonau Masnach Conwy. <\/p>\n\n\n\n<p>Yr ydym hefyd yn gofyn i d\u00eem Un Pwynt Mynediad Conwy gysylltu \u00e2\u2019r dioddefwr a chynnal sgwrs \u2018beth sy\u2019n bwysig\u2019. Yr ydym yn sicrhau bod ymgysylltiad parhaus \u00e2 Heddlu Gogledd Cymru a Safonau Masnach Conwy drwy gydol y broses. <\/p>\n\n\n\n<p>Cymerwch olwg ar rai enghreifftiau o weithgarwch masnachwyr twyllodrus a drafodwyd ac a ystyriwyd drwy\u2019r broses ddiogelu yn ystod y flwyddyn: <\/p>\n\n\n\n<p><em>Aeth masnachwr at unigolyn \u00e2 pheth amhariad ar ei olwg, a chynnig gwneud rhywfaint o waith cyffredinol ar yr eiddo. Ar \u00f4l cwblhau\u2019r gwaith, prisiwyd y gwaith i \u00a3100, ac oherwydd amhariad perchennog yr eiddo, gofynnodd i\u2019r masnachwr lenwi\u2019r siec ar ei ran. Canfuwyd ar \u00f4l i\u2019r siec gael ei gyflwyno bod swm o \u00a31,000 wedi ei gymryd. <\/em><\/p>\n\n\n\n<p><em>Dywedodd masnachwr wrth unigolyn fod ei do\u2019n gollwng a chytunodd y gallai\u2019r masnachwr wneud y gwaith. O fewn munudau ymddangosodd fan wen arall a gwnaed y gwaith. Cysylltodd cymydog \u00e2\u2019r heddlu, a phan holwyd y dioddefwr, dywedodd y byddai\u2019r masnachwyr yn dychwelyd i wneud mwy o waith. Yr oedd yr unigolyn yn gyndyn o dderbyn cyngor, a hyd yma mae wedi talu tua \u00a335,000, er nad ystyrir bod gwerth y gwaith a wnaed gymaint \u00e2 hynny. <\/em><\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color has-link-color wp-elements-4ce07969f63a3947366fcadd0beb9659\">Camdriniaeth Ariannol<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae adroddiadau o gam-drin ariannol ar gynnydd, gydag oedolion mewn perygl o gael eu hecsbloetio. Mae achosion sy\u2019n ymwneud \u00e2 chamdriniaeth ariannol hefyd wedi amlygu\u2019r angen i ymarferwyr gyflwyno adroddiadau yn gynt yn y cyfnod cam-drin, a pheidio ag oedi wrth aros am faterion Swyddfa Gwarcheidwad Cyhoeddus a\u2019r Llys Gwarchod.<\/p>\n\n\n\n<p>Yr ydym wedi datblygu cynllun gweithredu i:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Adolygu\u2019r llythyr cytundeb ariannol \/ datganiad \/ dogfennau asesiad ariannol a anfonir at unigolion a\u2019u teuluoedd am dalu ffioedd gofal<\/li>\n\n\n\n<li>Cynnwys nodyn atgoffa yn newyddlen y darparwyr i sicrhau eu bod yn adrodd yn gyson am beidio \u00e2 thalu ffioedd<\/li>\n\n\n\n<li>Datblygu proses yngl\u0177n \u00e2\u2019r camau gweithredu i\u2019w cymryd pan ddynodir cam-drin ariannol ac adrodd amdano <\/li>\n\n\n\n<li>Hwyluso sesiynau hyfforddi ar godi ymwybyddiaeth o gam-drin ariannol <\/li>\n\n\n\n<li>Parhau ag archwilio samplau a sicrhau bod archwiliad cynhwysfawr yn cael ei gynnal gan Reolwyr Adain yng Ngwasanaeth Pobl H\u0177n <\/li>\n\n\n\n<li>Uwchgyfeirio pryderon am ymateb Heddlu Gogledd Cymru i gam-drin ariannol<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color has-link-color wp-elements-5f5c5e0acfb124ec2cbcb1b7bf84d31b\">Camdriniaeth Plentyn tuag at Riant<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae teulu o Gonwy a gefnogir gan wasanaethau plant wedi tynnu sylw at broblem sy\u2019n dod i\u2019r amlwg, sef plentyn yn cam-drin rhiant a\u2019r diffyg cefnogaeth a mesurau diogelu priodol sydd ar gael i\u2019r rhiant ac i\u2019r teulu ehangach mewn achosion o\u2019r fath. O ganlyniad i\u2019r pryderon parhaus, sy\u2019n gwaethygu, a godwyd yn yr achos, mae Cyngor Conwy wedi comisiynu adolygiad annibynnol o\u2019r achos. Dyma rai o\u2019r canfyddiadau a nodwyd yn yr adolygiad:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Diffyg adrodd am y rhiant drwy broses adrodd Oedolyn mewn Perygl gan bob gwasanaeth. <\/li>\n\n\n\n<li>Dim trefniadau t\u00eem amlddisgyblaethol ar waith i drafod y pryderon yn y teulu a chytuno ar ymateb cyson. <\/li>\n\n\n\n<li>Cynnwys y plentyn mewn trafodaethau gyda\u2019r rhiant pan fo\u2019r rhiant yn siarad am y gamdriniaeth.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Tra mae cynllun gweithredu ehangach ar yr argymhellion yn cael ei ddatblygu, mae proses adrodd glir bellach ar waith ar gyfer rhieni sy\u2019n cael eu cam-drin gan blentyn, lle adroddir am bob achos rhiant drwy drefniadau Diogelu Oedolion y Ganolfan Ddiogelu Amlasiantaethol fel Oedolyn mewn Perygl. <\/p>\n\n\n\n<p>Os cadarnheir wedyn eu bod yn bodloni meini prawf Oedolyn mewn Perygl, byddant yn cael eu hystyried drwy broses strategaeth diogelu oedolion. Os nad ydynt, byddant yn cael eu hatgyfeirio at Wasanaeth Pobl Ddiamddiffyn Conwy i sicrhau bod cefnogaeth briodol yn cael ei chynnig a\u2019u bod yn cael eu cyfeirio at gefnogaeth arall.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color has-link-color wp-elements-75caf03b394ddcb4d85a328b2d3262e0\">Data allweddol<\/h3>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-full\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"531\" height=\"250\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/10\/Adults-at-Risk-of-Abuse-Cymraeg.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-4134\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/10\/Adults-at-Risk-of-Abuse-Cymraeg.jpg 531w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/10\/Adults-at-Risk-of-Abuse-Cymraeg-300x141.jpg 300w\" sizes=\"auto, (max-width: 531px) 100vw, 531px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p>Cynyddodd nifer yr oedolion yr adroddwyd yn ystod y flwyddyn bod amheuaeth eu bod mewn perygl o gamdriniaeth neu esgeulustod i 807, o gymharu \u00e2 793 yn 2022-23.*<\/p>\n\n\n\n<p class=\"has-small-font-size\"><em>*Fel y cyhoeddwyd yn Natganiad Cenedlaethol Gofal Cymdeithasol, ym mis Mawrth 2025, ar gyfer data 2023\/2024.<\/em><\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color has-link-color wp-elements-b8cd2dedc93a872b7498addb0d0606e6\">Ymgysylltiad Gwasanaethau Oedolion. Fforwm Diogelu Oedolion a Fforwm Staff<\/h3>\n\n\n\n<p>Er bod Fforymau Diogelu Oedolion wedi bod yn cael eu cynnal bob chwarter ers sawl blwyddyn, mae yna achlysuron lle nad yw rhai o\u2019r manylion a rannwyd ac a drafodwyd yn y fforymau wedi eu rhannu \u00e2 phob aelod o\u2019r t\u00eem. <\/p>\n\n\n\n<p>I atal hyn rhag digwydd, yr ydym wedi cyflwyno fforwm staff diogelu oedolion newydd, i gael ei gynnal yn syth ar \u00f4l y Fforwm Diogelu Oedolion. Mae hwn yn gyfle i rannu unrhyw ddogfennau a chanllawiau perthnasol a chaniat\u00e1u staff i godi unrhyw gwestiynau neu bryderon gydag Arweinydd Diogelu Oedolion, ac aelodau eraill o staff, i hybu arferion da. Yn ogystal, cytunwyd y byddai Arweinydd Diogelu Oedolion yn mynd i holl gyfarfodydd t\u00eem y gwasanaethau oedolion, bob chwe mis, i rannu\u2019r wybodaeth ddiweddaraf a thrafod materion diogelu.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-full\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"940\" height=\"338\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/09\/image-21.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-4003\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/09\/image-21.png 940w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/09\/image-21-300x108.png 300w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/09\/image-21-768x276.png 768w\" sizes=\"auto, (max-width: 940px) 100vw, 940px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p><\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color has-link-color wp-elements-081c3642044d755dbfdd1f6d721ed981\">Cynhadledd Amddiffyn Oedolion <\/h3>\n\n\n\n<p>Mae Cynhadledd Amddiffyn Oedolion yn gyfarfod amlasiantaeth sy\u2019n cynnwys yr oedolyn sydd mewn perygl, a \/ neu bobl eraill berthnasol sy\u2019n ei gynrychioli, i rannu a thrafod canlyniad yr ymchwiliad diogelu a chytuno ar gynllun amddiffyn gofal a chymorth ac unrhyw gamau pellach yn yr achos. <\/p>\n\n\n\n<p>Mae presenoldeb rheolaidd wedi bod yn ystod y flwyddyn yn holl gyfarfodydd t\u00eem gwasanaethau oedolion i hybu a datblygu proses Cynadleddau Amddiffyn Oedolion ledled yr awdurdod. Nod hyn, ynghyd \u00e2 datblygu dogfen gynghori fer a thempled adrodd ar gyfer Cynadleddau Amddiffyn Oedolion, a rannwyd \u00e2\u2019r holl staff, yw sicrhau y gofynnir yn gyson i Oedolion mewn Perygl a \/ neu eu cynrychiolwyr a ydynt yn dymuno symud ymlaen i Gynhadledd Amddiffyn Oedolion, neu gael manylion pellach am broses a chamau gweithredu diogelu yn eu hachos.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae trafodaeth gyda Th\u00eem Datblygu\u2019r Gweithlu wedi sicrhau bod gennym raglen glir o hyfforddiant diogelu ledled gwasanaethau oedolion a phlant, gyda digwyddiadau hyfforddi allweddol yn agored hefyd i\u2019r sector darparwyr. Mae hyfforddiant ar broses Adran 5 (Swyddi o Ymddiriedaeth) bellach wedi ehangu i sicrhau y gall yr holl staff mewnol ddod i\u2019r hyfforddiant, yn ogystal \u00e2\u2019i gyflwyno i\u2019r sector darparwyr. Bydd ymestyn y rhaglen hyfforddiant i\u2019r sector darparwyr yn sicrhau bod hyfforddiant yn dychwelyd i drefniadau cyn Covid-19 ac yn symud oddi wrth ddysgu drwy e-fodiwl, yr ystyriwyd nad oedd ddigon cynhwysfawr a safonol ledled y sector darparwyr.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color has-link-color wp-elements-6a44742c8d4ed50d2668f23779d65f81\">Hyfforddiant Diogelu Oedolion<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae hyfforddiant a ddarparwyd gan Arweinydd Diogelu Oedolion wedi cael effaith gadarnhaol ar nifer yr achosion o gamdriniaeth ariannol a adroddwyd wrth y t\u00eem. Rhywbeth arall sy\u2019n arwyddocaol yw\u2019r niferoedd cynyddol o ymholiadau a sgyrsiau anffurfiol a geisir gan staff a phartneriaid pan f\u00f4nt yn ansicr yngl\u0177n ag a ddylid adrodd am fater ai peidio. Mae ymholiadau hefyd wedi dechrau gyda thimau i nodi achosion sydd gan Swyddfa\u2019r Gwarcheidwad Cyhoeddus ar hyn o bryd er mwyn ceisio nodi achosion pellach yn gynt a rhoi cyngor yn briodol. <\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color has-link-color wp-elements-e5ef500bcf765fbb1f4234e7c1e65809\">Newyddlen Darparwyr<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae newyddlen diogelu oedolion yn parhau i gael ei dosbarthu bob chwe mis, ac mae pum rhifyn bellach wedi ei greu. Pwrpas y newyddlen yw rhannu newyddion, gwybodaeth, cyngor ac arweiniad am faterion gyda\u2019r holl ddarparwyr, a fydd yn eu cefnogi a\u2019u harwain yn y broses ddiogelu.<\/p>\n\n\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-alpha-channel-opacity\"\/>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Datblygu ein Hadran Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth<\/h3>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color has-link-color wp-elements-57f09dc1a9f8b76135d1d89235881d4a\">Un Pwynt Mynediad a Hawliau Lles<\/h3>\n\n\n\n<p>Y llynedd trafodwyd rhai newidiadau i\u2019n strwythur staffio i recriwtio un rheolwr t\u00eem trosfwaol ar gyfer timau Hawliau Lles ac Un Pwynt Mynediad ac Arweinwyr T\u00eem i oruchwylio\u2019r gwaith yn y ddau faes. <\/p>\n\n\n\n<p>Yr ydym wedi cynnal adolygiad o brosesau a dulliau casglu a choladu data i sicrhau eu bod mor effeithlon ag y gallant fod, a byddwn yn parhau i ddatblygu \u2013 gan ganolbwyntio ar draffig galwadau ff\u00f4n ac e-byst \u2013 safonau cofnodi system wybodaeth cleientiaid a them\u00e2u o adborth cwsmeriaid. Yn rhan o\u2019n gwaith o ddatblygu prosesau adborth arferol i sicrhau bod dinasyddion, darparwyr a budd-ddeiliaid eraill yn gallu llywio gwelliant parhaus, yr ydym wedi creu arolwg boddhad cwsmeriaid i gael adborth am brofiadau galwyr o ymdrin \u00e2 th\u00eem Un Pwynt Mynediad.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color has-link-color wp-elements-c969ae2b95d00ba366d712fb23f853c7\"><strong>Beth yw\u2019r effaith gadarnhaol ar ddinasyddion?<\/strong><\/h4>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r maes hwn bellach yn canolbwyntio mwy ar wasanaeth i gwsmeriaid, ac yn sicrhau bod staff ar gael yn rhwyddach ar gyfer dinasyddion ac atgyfeirwyr, yn fewnol ac yn allanol. Mae cynnydd wedi bod mewn presenoldeb yn y swyddfa, i ddarparu mwy o gysylltiad wyneb yn wyneb.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae ymatebion ein harolwg boddhad cwsmeriaid eisoes yn rhoi mewnwelediad gwerthfawr i ni yngl\u0177n \u00e2 sut mae\u2019r swyddogaeth blaen t\u0177 ar gyfer oedolion yng Nghonwy yn cael ei gweld gan y bobl sy\u2019n ei defnyddio:<\/p>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p>Mae staff Un Pwynt Mynediad wedi bod yn barod iawn eu cymorth. Proffesiynol, cwrtais a meddylgar.<\/p>\n<\/blockquote>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p>Roedden nhw\u2019n gwrando ar yr hyn roeddwn i\u2019n ei ddweud; roedden nhw\u2019n siarad mewn modd clir, pendant a chyfeillgar.<\/p>\n<\/blockquote>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p>Cefais siarad \u00e2 rhywun yn syth bin, heb fynd rownd mewn cylchoedd ar wasanaeth awtomatig.<\/p>\n<\/blockquote>\n\n\n\n<p>Yr ydym yn datblygu rhaglen dreigl ar gyfer adolygiadau prosesau yn y ddau faes, lle mae gwelliant parhaus yn cael ei groesawu gan bawb. Mae gan y ddau d\u00eem gyfle, dan reolaeth newydd, i ddatblygu eu diwylliant lle ystyrir newid er mwyn gwneud gwelliannau mewn modd cadarnhaol.  <\/p>\n\n\n\n<p>Byddwn yn parhau i ganolbwyntio ar wella\u2019r ffordd y cesglir data mewn ymgais i nodi ceisiadau wrth iddynt godi neu ddatblygu ar gyfer y cyfnod adrodd nesaf. Bydd datblygiadau yn y dyfodol yn canolbwyntio ar farchnata\u2019r timau, i gynyddu cyrhaeddiad a chodi ymwybyddiaeth.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color has-link-color wp-elements-9287796926c89c7396a32e0e6debd33f\">T\u00eem Derbyn Therapi Galwedigaethol a Theleofal <\/h3>\n\n\n\n<p>Mae ein Cynorthwywyr Therapi Galwedigaethol yn parhau i ddatblygu eu gwybodaeth a\u2019u profiad ym maes ymyriadau Therapi Galwedigaethol a Theleofal. Maent yn hyderus wrth adolygu, asesu a chyfeirio unigolion ar gyfer cael offer Teleofal, gan gynnwys offer arbenigol, fel dyfeisiau GPS a Buddi. Mae ein staff Gweinyddol Teleofal newydd wedi treulio amser yn ymweld a gosod offer yng nghartrefi pobl, a rhoi gwybodaeth ymarferol iddynt o\u2019r gwaith maent yn ei gefnogi.<\/p>\n\n\n\n<p>Oedwyd darpariaeth synwyryddion epilepsi newydd tra ymgynghorir ag awdurdodau lleol ledled gogledd Cymru. Yr ydym yn parhau i gynnig y gwasanaeth hwn i gleientiaid presennol ac yn cyfeirio cleientiaid newydd at sefydliadau priodol, fel <a href=\"https:\/\/www.epilepsi.cymru\/\">Epilepsi Cymru<\/a> ac elusen <a href=\"https:\/\/www.thedaisygarland.org.uk\/\">The Daisy Garland<\/a>, yn ogystal \u00e2 nyrs epilepsi ac ymgynghorydd.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r gwaith ar fflat asesu anabledd yng Nghanolfan Marl yng Nghyffordd Llandudno bellach wedi ei gwblhau. Edrychwn ymlaen at ddefnyddio\u2019r lle hwn ar gyfer hyfforddiant, a gynhelir gan D\u00eem Ymyrraeth Gynnar ac Atal. Canolbwyntir ar asesu offer Teleofal arbenigol a darparu cyngor ac arweiniad mewn perthynas \u00e2 dyfeisiau digidol yn y cartref, gan gynnwys gweithio gyda chydweithwyr yn y Gwasanaeth Anableddau, yn y fflat asesu.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r gwaith o gyflwyno dyfeisiau Teleofal digidol yn parhau, ac mae cyfarfodydd rheolaidd gyda Rhwydwaith Gwybodaeth Dysgu am Deleofal yn sicrhau ein bod yn gwybod am y datblygiadau diweddaraf ar lefel genedlaethol. <\/p>\n\n\n\n<p>Mae cael adborth rheolaidd gan ein cwsmeriaid drwy ein harolwg \u2018Sut wnaethom ni\u2019 yn sicrhau ein bod yn archwilio ac yn adolygu ein perfformiad yn barhaus. <\/p>\n\n\n\n<p>Dyma flas o\u2019r adborth gan bobl sydd wedi derbyn cefnogaeth gan D\u00eem Derbyn Therapi Galwedigaethol:<\/p>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p>Roedd y Cynorthwyydd Therapi Galwedigaethol yn hyfryd, parod iawn ei chymorth.<\/p>\n<\/blockquote>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p>Hyfryd, gofalgar a meddylgar; fe wrandawodd hi, ac roedd hi\u2019n llawn gwybodaeth ac yn barod ei chymwynas.<\/p>\n<\/blockquote>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p>Dywedodd ei merch na allai hi na\u2019i mam ddiolch digon i chi. Roeddech chi\u2019n dda iawn, ac maen nhw\u2019n ddiolchgar am yr hyn rydych chi\u2019n ei wneud ar ei chyfer.<\/p>\n<\/blockquote>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p>Gwasanaeth rhagorol \u2013 diolch.<\/p>\n<\/blockquote>\n\n\n\n<p>Ac adborth gan bobl sydd wedi derbyn cefnogaeth gan d\u00eem Teleofal:<\/p>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p>Mae Teleofal wedi ei galluogi hi i aros yn ei chartref ei hun, gyhyd ag oedd yn bosib.<\/p>\n<\/blockquote>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p>Fe fyddwn i\u2019n hoffi diolch i\u2019r t\u00eem i gyd \u2013 fe wnaethant osod ac egluro\u2019r system yn drylwyr iawn, a sgwrsio gyda fy nhad hefyd, a oedd yn betrusgar a phryderus yngl\u0177n \u00e2 chael yr offer o gwbl. Allai o ddim fod wedi bod yn hapusach. Dywedwch wrth bawb a oedd a wnelo \u00e2 hyn ein bod yn ddiolchgar iawn.<\/p>\n<\/blockquote>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color has-link-color wp-elements-6d634f6c57cb25632858a1ac86840421\">Cynorthwywyr Therapi Galwedigaethol<\/h4>\n\n\n\n<p>Mae T\u00eem Derbyn Cynorthwywyr Therapi Galwedigaethol yn parhau i gymryd yr atgyfeiriadau Therapi Galwedigaethol sy\u2019n symlach ac ar lefel is. Maent yn gweithio gan ganolbwyntio ar atal a chadw pobl yn ddiogel ac annibynnol gartref, gan roi cyngor a chyflenwi offer a m\u00e2n addasiadau. Maent yn gweithio\u2019n agos \u00e2\u2019r unigolyn i fynd i\u2019r afael \u00e2\u2019i anghenion cyfredol a rhoi cyngor ar sut y gellid ei gefnogi yn y dyfodol. Gallai hyn fod drwy gefnogaeth teulu a ffrindiau, gan sefydliadau lleol, neu drwy ddychwelyd at Ofal Cymdeithasol am becyn mwy ffurfiol o gefnogaeth neu gyfranogiad hirdymor, fel y bo\u2019n briodol.<\/p>\n\n\n\n<p>Buom yn y Sioe Therapi Galwedigaethol yng Nghanolfan Arddangosfa Genedlaethol Birmingham yn 2024 i roi\u2019r wybodaeth ddiweddaraf i bobl am yr offer a\u2019r addasiadau sydd ar gael.&nbsp; Maer holl Gynorthwywyr Therapi Galwedigaethol wedi cwblhau hyfforddiant codi a symud, yn ogystal \u00e2 chwblhau\u2019r cyfleoedd hyfforddiant perthnasol a gynigiwyd iddynt, fel hyfforddiant gofal cymdeithasol, a sgiliau arweinyddiaeth a rheoli.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color has-link-color wp-elements-153800be60fa71882137592c47c67e3f\">Cyflwyno dyfeisiau digidol<\/h4>\n\n\n\n<p>Mae cydweithio \u00e2 th\u00eem y Gwasanaeth Cyfarpar Cymunedol wedi galluogi pobl sydd \u00e2 llinell ff\u00f4n ddigidol i gael mynediad at yr unedau digidol, sy\u2019n gweithio drwy SIM trawsrwydweithio; mae hyn yn ddefnyddiol i bobl nad oes ganddynt linell ff\u00f4n. Mae cysylltiad rheolaidd rhwng cydweithwyr yn y gwahanol adrannau yn sicrhau trafodaeth yngl\u0177n ag unrhyw ddatblygiadau, mae gennym bresenoldeb rheolaidd yn y Rhwydwaith Gwybodaeth Dysgu am Deleofal, a chysylltiad rheolaidd gydag arweinwyr Teleofal yng ngogledd Cymru.<\/p>\n\n\n\n<p>Yr ydym hefyd yn adolygu offer craidd Teleofal i sicrhau bod y cynnig yn iawn i fodloni anghenion yr unigolyn a chyfyngiadau ein cyllideb.  <\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color has-link-color wp-elements-02c99a7c79240332339497c667dc3b34\">Rheoli\u2019r galw ar Gyllideb M\u00e2n Addasiadau<\/h4>\n\n\n\n<p>Mae cyllid fel arfer yn talu am y galw am naw mis. Drwy gydol y flwyddyn, anogir cleientiaid sy\u2019n byw mewn llety dan berchnogaeth breifat neu lety a rentir i dalu am eu m\u00e2n addasiadau eu hunain. Fodd bynnag, mae\u2019r galw\u2019n fwy na\u2019r hyn y mae\u2019r adnoddau\u2019n ei ganiat\u00e1u. Yr ydym yn archwilio sut i ddarparu\u2019r gwasanaeth i\u2019r rheiny nad ydynt yn gallu talu am f\u00e2n addasiadau fel canllawiau a grisiau, o fewn y gyllideb gyfyngedig sydd ar gael.<\/p>\n\n\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-alpha-channel-opacity\"\/>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Datblygu ein cynnig Taliadau Uniongyrchol<\/h2>\n\n\n\n<p>Y llynedd dywedasom y byddem \u2013 yn unol \u00e2 dymuniadau, disgwyliadau a deddfwriaeth sy\u2019n newid \u2013 yn parhau i ddatblygu Taliadau Uniongyrchol er mwyn sicrhau ei bod yn ddarpariaeth gwasanaeth ddichonadwy ar gyfer cynifer o unigolion \u00e2 phosibl. Yn ystod blwyddyn brysur, yr ydym wedi cyflwyno mwy o ddewisiadau ar gyfer pobl sy\u2019n dymuno derbyn eu cefnogaeth drwy Daliadau Uniongyrchol, yn cynnwys:<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color has-link-color wp-elements-4b9b84db36e0225789c1e426d9262e92\">Dewisiadau amgen i wasanaethau preswyl<\/h3>\n\n\n\n<p>Yr ydym wedi bod yn llwyddiannus wrth gyflwyno dewis amgen i leoliadau preswyl o fewn Gwasanaethau Pobl H\u0177n, sy\u2019n galluogi unigolion i dderbyn cyllid sydd gyfwerth \u00e2\u2019r hyn fyddai wedi ei ddyrannu ar gyfer lleoliad preswyl. O ganlyniad, gall unigolion aros gartref os mai dyna yw eu dymuniad.<\/p>\n\n\n\n<p>Y bwriad gwreiddiol oedd gweithredu hyn fel cynllun peilot am ddeuddeng mis, ond yr oedd cymaint o awydd am y cynllun felly daethpwyd \u00e2\u2019r cynllun peilot i ben ar \u00f4l chwe mis a gwnaed cynnig agored ar \u00f4l hynny. O fewn naw mis cyntaf blwyddyn adrodd 2024\/2025, ymunodd 27 o deuluoedd \u00e2\u2019r cynllun drwy\u2019r dewis hwn, ac mae pum teulu arall yn mynd drwy\u2019r broses. Dewisodd un unigolyn ymadael \u00e2\u2019i leoliad preswyl i ddychwelyd i\u2019w gymuned leol dan y cynllun, ac, yn dilyn adborth cadarnhaol gan y teuluoedd cysylltiedig, y bwriad yn y blynyddoedd i ddod yw cyflwyno\u2019r dewis hwn i\u2019r Gwasanaethau Anableddau.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color has-link-color wp-elements-69bb20bf72bea2d1b3848699a53d45a7\">Taliadau Anuniongyrchol<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r dewis hwn yn galluogi unigolion i drefnu eu cefnogaeth gan y sector preifat, e.e. gan ficro-asiantaethau a gofalwyr, gyda chyllid cysylltiedig wedi ei reoli gan Gonwy ar eu rhan. Ar hyn o bryd mae 38 o bobl wedi dewis hyn ac mae wyth arall yn mynd drwy\u2019r broses.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color has-link-color wp-elements-5b84c46afccf01c38007a85071df030c\">Taliadau Gohiriedig<\/h3>\n\n\n\n<p>Dyma\u2019r dewis mwyaf newydd a gyflwynwyd i\u2019r cynllun yn y deuddeng mis diwethaf. Cynigiwyd Taliadau Gohiriedig yn hanesyddol i unigolion sy\u2019n berchen ar eu cartrefi eu hunain, ac, oherwydd eu bod yn mynd i symud i leoliad preswyl, yr oeddent yn gallu defnyddio gwerth eu heiddo i dalu\u2019r ffioedd drwy Gytundeb Taliadau Gohiriedig gyda Chonwy. Mae hyn yn galluogi\u2019r unigolyn i gadw ei gartref am fwy o amser os nad yw eisiau ei werthu ar unwaith, neu os yw hynny\u2019n anodd.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r bobl hynny a gefnogir drwy\u2019r Dewis Amgen i Wasanaethau Preswyl a ddisgrifir uchod bellach yn gallu cael mynediad at Daliadau Gohiriedig fel y bo\u2019n briodol yn y gymuned.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color has-link-color wp-elements-86213d663198c29a9a4e200fa58039de\">Defnyddio micro-ddarparwyr a gofalwyr<\/h3>\n\n\n\n<p>Nid yw Taliadau Uniongyrchol yn cyfyngu unigolion i dderbyn eu cefnogaeth gan ddarparwyr gofal cartref neu staff a gyflogir yn uniongyrchol; gallant ddewis defnyddio micro-asiantaethau neu ofalwyr (hunangyflogedig), ac mae hynny\u2019n ehangu\u2019r farchnad sydd ar gael iddynt. Nid yw\u2019r darparwyr hyn yn cael eu rheoleiddio, felly mae t\u00eem Taliadau Uniongyrchol yn cynnal gwiriadau diogelu ychwanegol arnynt i amddiffyn y bobl hynny sy\u2019n derbyn Taliadau Uniongyrchol. Mae hon yn farchnad newydd sy\u2019n tyfu, a chafwyd adborth cadarnhaol gan y rheiny sydd wedi dewis cael eu cefnogaeth yn y ffordd hon. Mae t\u00eem Taliadau Uniongyrchol yn cymryd rhan weithredol yng ngweithgor Llywodraeth Cymru i ystyried datblygu a rheoli\u2019r maes hwn.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color has-link-color wp-elements-1964c4cf810d7e977921f034b7ca3c76\">Codi proffil<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae t\u00eem Taliadau Uniongyrchol wedi parhau gyda gweithgarwch ymgysylltu \u00e2\u2019r cyhoedd er mwyn codi proffil y cynllun ar gyfer derbynyddion posibl ac i hyrwyddo cyfleoedd am gyflogaeth. Yn ogystal \u00e2 hyn, yr ydym wedi gwneud cyflwyniadau i Aelodau Etholedig, yn arwain at wahoddiadau i ni ddarparu sgyrsiau o fewn eu hetholaethau.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color has-link-color wp-elements-f8535a5f56173632085dfa0ac44a7638\">Cynyddu ymweliadau \u00e2\u2019r cartref<\/h3>\n\n\n\n<p>Yr ydym wedi cynyddu nifer y cyfarfodydd wyneb yn wyneb gyda rhai sy\u2019n derbyn Taliadau Uniongyrchol \u2013 ymweliadau \u00e2\u2019r cartref a lleoliadau eraill, drwy gytundeb. Peidiodd yr ymweliadau yn ystod pandemig Covid-19, ac mae adborth gan deuluoedd yn dweud wrthym eu bod eisiau i\u2019r cysylltiad wyneb yn wyneb \u00e2 th\u00eem Taliadau Uniongyrchol ddychwelyd, yn arbennig pan f\u00f4nt yn delio \u00e2 materion mwy cymhleth neu gynhennus. Mae nifer yr ymweliadau wedi cynyddu 19% yn y deuddeng mis diwethaf, ac maent yn parhau i gynyddu.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color has-link-color wp-elements-1d1758eb1cdf6279e3ebcbfbec073c42\">Defnyddio Ymddiriedolaethau Defnyddiwr Annibynnol a Thaliadau Uniongyrchol gan y Bwrdd Iechyd Lleol<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae t\u00eem Taliadau Uniongyrchol wedi parhau i weithio\u2019n agos \u00e2\u2019r Bwrdd Iechyd Lleol pan fo unigolion sy\u2019n derbyn Taliadau Uniongyrchol yn trosglwyddo i wasanaethau iechyd ac yn dymuno parhau gyda\u2019r un model. Mae hyn yn unol ag Adran 5 Fframwaith Gofal Iechyd Parhaus Llywodraeth Cymru.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r model hwn yn cefnogi pob parti i gael cyfnod pontio mwy didrafferth i bobl sydd efallai\u2019n wrthwynebol i gael asesiad gan y Bwrdd Iechyd Lleol o ganlyniad i gael gwared \u00e2 dewis a rheolaeth yngl\u0177n \u00e2 sut a chan bwy y mae eu gofal yn cael ei ddarparu. Mae\u2019n werth cofio bod yr unigolion hyn, mewn llawer o achosion, wedi bod yn gyflogwyr yn eu rhinwedd eu hunain. Mae saith unigolyn wedi mynd drwy\u2019r broses hon, gyda chefnogaeth ac arweiniad yn parhau i gael eu darparu gan Gonwy, a chyllid ar gyfer cymorth ac argostau wedi eu diwallu gan y Bwrdd Iechyd Lleol.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color has-link-color wp-elements-68b84e3e73ea893c6e360797cd9673b2\">Sut y byddwn yn gwella\u2019r gwasanaeth<\/h3>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Hoffem gynyddu rhwyddineb mynediad at Daliadau Uniongyrchol drwy gyflwyno dewis hunanatgyfeiriad electronig i bobl sydd eisoes yn hysbys i\u2019r adran, sy\u2019n derbyn cefnogaeth gymwys, ac sy\u2019n dymuno derbyn Taliadau Uniongyrchol. <\/li>\n\n\n\n<li>Mae\u2019n rhaid i ni weithio\u2019n agosach \u00e2\u2019r Bwrdd Iechyd Lleol yngl\u0177n \u00e2\u2019r defnydd o Ymddiriedolaethau Defnyddiwr Annibynnol a Thaliadau Uniongyrchol i sicrhau cysondeb yn y wybodaeth a ddarperir i unigolion a staff yr adran gan gydweithwyr Iechyd.<\/li>\n\n\n\n<li>Byddai creu a chyhoeddi cofrestr o feicro-asiantaethau a gofalwyr yn ategu\u2019r broses diwydrwydd dyladwy, ond mae adroddiad canfyddiadau cychwynnol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn parhau\u2019n ochelgar yngl\u0177n ag unrhyw argymhellion.<\/li>\n\n\n\n<li>Byddwn yn parhau i gymryd rhan yng ngweithgor cenedlaethol Llywodraeth Cymru i sicrhau\u2019r canlyniadau gorau i unigolion. Mae\u2019n rhaid i ni gynyddu\u2019r ymgysylltiad \u00e2&#8217;r gymuned yn y maes hwn i greu cofrestr o ddarparwyr (a\u2019u capasiti) y mae eu gwiriadau diogelu wedi eu cwblhau.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color has-link-color wp-elements-75caf03b394ddcb4d85a328b2d3262e0\">Data allweddol<\/h3>\n\n\n\n<p>Ar 31 Mawrth 2024, yr oedd nifer yr oedolion \u00e2 chynllun gofal a chymorth lle diwallwyd anghenion drwy daliad uniongyrchol yn dal yn debyg i\u2019r ddwy flynedd flaenorol, gyda 215 yn 2023-24, o gymharu \u00e2 212 yn 2022-23.*<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-full\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"524\" height=\"209\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/10\/CASP-with-Direct-Payment-Cymraeg.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-4136\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/10\/CASP-with-Direct-Payment-Cymraeg.jpg 524w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/10\/CASP-with-Direct-Payment-Cymraeg-300x120.jpg 300w\" sizes=\"auto, (max-width: 524px) 100vw, 524px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p class=\"has-small-font-size\"><em>*Data o Ddatganiad Cenedlaethol Gofal Cymdeithasol, ar gyfer data 2023\/2024, a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2025.<\/em><\/p>\n\n\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-alpha-channel-opacity\"\/>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">T\u00eem Ailalluogi Conwy<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae ein T\u00eem Ailalluogi\u2019n hwyluso ac yn cefnogi unigolion i gael eu rhyddhau o\u2019r ysbyty mewn modd amserol, a gweithio i osgoi derbyniadau i\u2019r ysbyty drwy ddarparu cefnogaeth i bobl yn eu cartrefi eu hunain i adennill sgiliau yn dilyn salwch, cwymp, neu ddirywiad yn eu lles.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r swyddogaeth ailalluogi\u2019n gweithredu fel rhan o\u2019r timau amlddisgyblaethol mewn pum T\u00eem Adnoddau Cymunedol ledled y sir. Maent yn gweithio ochr yn ochr \u00e2 Therapyddion Galwedigaethol, Ffisiotherapyddion, Fferyllwyr, Gweithwyr Cymdeithasol, Nyrsys Ardal, Meddygon Teulu, Nyrsys Seiciatrig ac eraill, gan gynnig dull di-dor a chyfannol o weithredu wrth ddarparu cefnogaeth yn y gymuned.<\/p>\n\n\n\n<p>Hwylusir rhyddhadau o\u2019r ysbyty yn effeithlon, gyda\u2019r T\u00eem Ailalluogi a Therapyddion Galwedigaethol yr Ysbyty\u2019n cydweithio, heb gyfranogiad Gweithiwr Cymdeithasol. Cynhelir asesiadau yng nghartref yr unigolyn, gan roi\u2019r cyfle gorau iddynt adennill eu hiechyd a\u2019u sgiliau. Hyfforddir Swyddogion a Gweithwyr Cefnogi Ailalluogi i ddarparu cyngor a chefnogi unigolion i fyw\u2019n annibynnol; gall hyn amrywio o drefnu offer a chymhorthion bychain i gynorthwyo gyda thasgau yn y cartref, i nodiadau atgoffa am feddyginiaeth ac apwyntiadau, a chyfeirio at asiantaethau eraill a all ddarparu cefnogaeth. Yn ogystal, gall Swyddogion Ailalluogi gynorthwyo unigolion i gynyddu eu hincwm i\u2019r eithaf drwy gynnal gwiriad budd-daliadau a gwneud atgyfeiriad at ein t\u00eem Hawliau Lles; gall hyn alluogi pobl sydd ag anghenion cefnogaeth isel i fod yn greadigol a chanfod eu cefnogaeth gofal eu hunain.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color has-link-color wp-elements-b1c84122801ba44cb7028c25391e1fc3\">Pa mor effeithiol yw\u2019r t\u00eem?<\/h3>\n\n\n\n<p>O\u2019r 289 o bobl a gwblhaodd gyfnod o ailalluogi gyda ni rhwng mis Ebrill a mis Medi 2024:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Yr oedd angen mwy o gefnogaeth ar 18 o bobl ar \u00f4l i\u2019r cyfnod ailalluogi orffen<\/li>\n\n\n\n<li>Arhosodd anghenion 82 o bobl yr un fath<\/li>\n\n\n\n<li>Yr oedd angen cefnogaeth o hyd ar 33 o bobl, ond am lai o oriau<\/li>\n\n\n\n<li>Nid oedd angen unrhyw ofal wedi ei gomisiynu mwyach ar 156 o bobl<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Felly, ar \u00f4l cyfnod o ailalluogi, yr oedd angen llai o ofal wedi ei gomisiynu, neu ddim o gwbl, ar 65% o\u2019r bobl yr oeddem yn eu cefnogi, gan eu bod yn gallu gwneud mwy drostynt eu hunain. Lle\u2019r oedd anghenion pobl wedi cynyddu, gallai hyn fod oherwydd dirywiad yn eu symudedd, rhesymau diogelwch, neu oherwydd amgylchiadau personol.<\/p>\n\n\n\n<p>Dros yr un cyfnod, yr oedd 117 o bobl na chwblhaodd gyfnod llawn o ailalluogi gyda ni. O\u2019r rheiny, derbyniwyd 55 (47%) i ysbyty neu hosbis, aeth 33 (28%) i gartref preswyl neu gartref gofal, a bu farw\u2019r gweddill neu fe benderfynasant nad oeddent eisiau parhau \u00e2\u2019r gefnogaeth a gynigid.<\/p>\n\n\n\n<p>Gyda mwy o bobl yn defnyddio\u2019r gwasanaeth eleni, mae\u2019r adborth wedi bod yn gadarnhaol:<\/p>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p>Mae\u2019r holl staff yn hynod o gefnogol a chyfeillgar<\/p>\n<\/blockquote>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p>Ymagwedd t\u00eem cydlynol<\/p>\n<\/blockquote>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p>Heb gefnogaeth a charedigrwydd y t\u00eem, fyddwn i ddim wedi gwella mor gyflym<\/p>\n<\/blockquote>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p>Heb eich help, fyddwn i ddim mor dda ag ydw i r\u0175an<\/p>\n<\/blockquote>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p>Ardderchog \u2013 ymgorfforiad o broffesiynoldeb a gofalgar<\/p>\n<\/blockquote>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color has-link-color wp-elements-edaf796d45e5bf48f2b54f10bec2a77c\">Meysydd lle mae angen gwella arnom<\/h3>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Mae\u2019n rhaid i unigolion deimlo eu bod yn cael eu clywed a\u2019u sicrhau bod rhywun yn gwrando arnynt yn ystod y broses ailalluogi, felly mae\u2019n rhaid i ni sicrhau eu bod wedi cynllunio a thrafod eu canlyniadau personol yn rhan o gynllun parhaus.<\/li>\n\n\n\n<li>Mae\u2019n rhaid i ni sicrhau bod unigolion sy\u2019n derbyn gwasanaethau yn gwybod manylion cyswllt ein gwasanaeth y tu allan i oriau.<\/li>\n\n\n\n<li>Mae angen mynediad at hyfforddiant ar ailalluogi a dementia ar staff.<\/li>\n\n\n\n<li>Mae\u2019n rhaid i ni barhau i gryfhau perthnasoedd a chydweithio o fewn T\u00eem Adnoddau Cymunedol fel bod unigolion yn cael budd o\u2019r gefnogaeth honno.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color has-link-color wp-elements-1a27813e8be79a73950e328ebd5c6220\">Ein cynllun gweithredu i gyflawni\u2019r gwelliannau hyn<\/h3>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Bydd ein Cydlynwyr yn cynllunio ymweliadau at unigolion i wneud cynlluniau personol a chytuno ar ganlyniadau personol cyn gynted ag sy\u2019n bosibl yn rhesymol.<\/li>\n\n\n\n<li>Byddwn yn adolygu\u2019r wybodaeth a roddir i unigolion sy\u2019n derbyn gwasanaethau i sicrhau bod manylion cyswllt ar gyfer y gwasanaeth y tu allan i oriau, ac unrhyw gysylltiadau pwysig eraill, wrth law ganddynt.<\/li>\n\n\n\n<li>Byddwn yn gweithio gyda Th\u00eem Dysgu a Datblygu\u2019r Gweithlu i ddarparu hyfforddiant ar ailalluogi a dementia ar gyfer staff.<\/li>\n\n\n\n<li>Byddwn yn cryfhau ein perthnasoedd \u00e2 chydweithwyr yn Nh\u00eem Adnoddau Cymunedol a sicrhau bod ein dull integredig o weithio o fudd i\u2019r unigolion a gefnogwn.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color has-link-color wp-elements-75caf03b394ddcb4d85a328b2d3262e0\">Data allweddol<\/h3>\n\n\n\n<p>O\u2019r 748 o becynnau ailalluogi, cafwyd lleihad yn yr angen am gefnogaeth mewn 75 o achosion, parhaodd yr angen am yr un lefel o gefnogaeth mewn 164 o achosion, bu 311 o\u2019r pecynnau ailalluogi yn gyfrifol am liniaru\u2019r angen am gefnogaeth, ac ni wnaeth 198 ohonynt leihau, cynnal na lliniaru\u2019r angen am gefnogaeth.* <\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-full\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"543\" height=\"239\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/10\/Reablement-Outcomes-Cymraeg.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-4138\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/10\/Reablement-Outcomes-Cymraeg.jpg 543w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/10\/Reablement-Outcomes-Cymraeg-300x132.jpg 300w\" sizes=\"auto, (max-width: 543px) 100vw, 543px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p class=\"has-small-font-size\"><em>*Data o Ddatganiad Cenedlaethol Gofal Cymdeithasol, ar gyfer data 2023\/2024, a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2025.<\/em><\/p>\n\n\n\n<p><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Safonau ansawdd Gwasanaethau Plant Gweithgarwch diogelu Amddiffyn Plant yn Effeithiol Yr ydym wedi cyflwyno model newydd ar gyfer Amddiffyn Plant yn Effeithiol, sy\u2019n canolbwyntio ar: Cynhaliwyd adolygiad sicrhau ansawdd gennym ar oddeutu deg achos, gan ganolbwyntio ar y siwrnai amddiffyn plant lawn. Yr ydym wedi diweddaru dogfennau sy\u2019n gysylltiedig ag ymholiadau Adran 47 (ymchwiliadau amddiffyn [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":5,"featured_media":0,"parent":4148,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"_seopress_titles_title":"","_seopress_titles_desc":"","_seopress_robots_index":"","_seopress_robots_follow":"","_seopress_robots_imageindex":"","_seopress_robots_snippet":"","_seopress_robots_primary_cat":"","_seopress_robots_breadcrumbs":"","_seopress_robots_freeze_modified_date":"","_seopress_robots_custom_modified_date":"","_seopress_robots_canonical":"","_seopress_social_fb_title":"","_seopress_social_fb_desc":"","_seopress_social_fb_img":"","_seopress_social_fb_img_attachment_id":0,"_seopress_social_fb_img_width":0,"_seopress_social_fb_img_height":0,"_seopress_social_twitter_title":"","_seopress_social_twitter_desc":"","_seopress_social_twitter_img":"","_seopress_social_twitter_img_attachment_id":0,"_seopress_social_twitter_img_width":0,"_seopress_social_twitter_img_height":0,"_seopress_redirections_value":"","_seopress_redirections_enabled":"","_seopress_redirections_enabled_regex":"","_seopress_redirections_logged_status":"","_seopress_redirections_param":"","_seopress_redirections_type":0,"_seopress_analysis_target_kw":"","_genesis_hide_title":false,"_genesis_hide_breadcrumbs":false,"_genesis_hide_singular_image":false,"_genesis_hide_footer_widgets":false,"_genesis_custom_body_class":"","_genesis_custom_post_class":"","_genesis_layout":"","footnotes":""},"class_list":{"0":"post-4126","1":"page","2":"type-page","3":"status-publish","5":"entry"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/4126","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/5"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=4126"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/4126\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":4140,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/4126\/revisions\/4140"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/4148"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=4126"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}