{"id":4122,"date":"2025-10-23T17:23:38","date_gmt":"2025-10-23T16:23:38","guid":{"rendered":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/partneriaeth-ac-integreiddio\/"},"modified":"2025-10-23T17:24:30","modified_gmt":"2025-10-23T16:24:30","slug":"partneriaeth-ac-integreiddio","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/adroddiad-2024-25\/partneriaeth-ac-integreiddio\/","title":{"rendered":"Partneriaeth ac Integreiddio"},"content":{"rendered":"\n<p>Safonau ansawdd<\/p>\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Mae partneriaethau effeithiol ar waith i gomisiynu a chyflawni\u2019n llawn ganlyniadau cynaliadwy, cwbl integredig, o ansawdd uchel, i bobl<\/li>\n\n\n\n<li>Mae pobl yn cael eu hannog i gyfrannu at gynllun a darpariaeth eu gofal a chymorth fel partneriaid cyfartal<\/li>\n<\/ul>\n\n<h2 class=\"wp-block-heading has-white-color has-vivid-cyan-blue-to-vivid-purple-gradient-background has-text-color has-background has-link-color has-large-font-size wp-elements-34ad877d253aabf8b1b1dbca31796513\"><em>Gwasanaethau Plant<\/em><\/h2>\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Datblygu a darparu llety o ansawdd uchel i blant a phobl ifanc drwy drawsnewid lleoliadau preswyl a mewnol lleol. <\/h3>\n\n<p>Mae\u2019r Rhaglen ar gyfer Trawsnewid Gwasanaethau Preswyl Plant bellach ar waith ac yn ymateb i strategaeth leoliadau Conwy 2022-2027, y pwysau sylweddol ar gyllideb Lleoliadau Annibynnol, a rhaglen Dileu Elw Llywodraeth Cymru sy\u2019n anelu at ddileu elw o wasanaethau plant sy\u2019n derbyn gofal erbyn 2027. Cymeradwywyd y rhaglen gan ein Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd a\u2019r Cabinet yn 2022. <\/p>\n\n<p>Mae cartrefi gofal a lleoliadau ar gyfer plant a phobl ifanc yn sicrhau bod eu hanghenion yn cael eu bodloni pan nad ydynt yn gallu byw gyda\u2019u teulu eu hunain. Maent yn lle i blant a phobl ifanc dderbyn cefnogaeth i ddatblygu a thyfu.<\/p>\n\n<p>Ein nod yw cynyddu nifer y lleoliadau lleol i alluogi plant a phobl ifanc sydd tu allan i\u2019r sir ar hyn o bryd i ddychwelyd i\u2019r ardal, neu\u2019n nes at adref, a\u2019u galluogi i gadw eu gwreiddiau\u2019n lleol, eu hysgolion, eu diwylliant, eu ffrindiau a\u2019u rhwydweithiau cefnogi.<\/p>\n\n<p>Mae gr\u0175p gweithredol y Rhaglen Drawsnewid a\u2019r Gwasanaeth Preswyl i Blant wedi dysgu llawer dros y deuddeng mis diwethaf ac wedi penderfynu canolbwyntio ar y tri chartref sydd wrthi\u2019n cael eu datblygu, yn hytrach na dechrau unrhyw rai newydd. <\/p>\n\n<h4 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color has-link-color wp-elements-1642767b1b456a0159a4311d1aa7cb40\">Bwthyn y Dd\u00f4l<\/h4>\n\n<p>Cwblhawyd gwaith adeiladu canolfan asesu breswyl Bwthyn y Dd\u00f4l \u2013 sy\u2019n gydweithrediad rhwng Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy (CBSC) Cyngor Sir Ddinbych a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) \u2013 a\u2019i drosglwyddo\u2019n ffurfiol i CBSC ar 4 Tachwedd 2024. <\/p>\n\n<p>Cynhaliwyd arolygiad Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) ym mis Tachwedd 2024, a chyflawnwyd cofrestriad AGC ar gyfer y ganolfan asesu, sy\u2019n cynnwys pedair ystafell wely, y mis canlynol. Disgwyliwn i\u2019r ddarpariaeth frys dwy ystafell wely fod wedi ei chofrestru yn chwarter olaf 2024-2025. <\/p>\n\n<p>Prif nod y ganolfan asesu yw ailuno plant \u00e2\u2019u teuluoedd, ac, os nad yw hynny\u2019n bosibl, darparu lleoliad tymor hwy iddynt mewn gofal maeth neu ofal preswyl. Mae\u2019r holl staff preswyl a staff gweinyddol yn eu swyddi ac yn hollol weithredol, ac wedi symud gyda\u2019r plant o Ingleside (Cam 1) i\u2019r adeilad newydd (Cam 2) ym mis Rhagfyr 2024.<\/p>\n\n<figure class=\"wp-block-image size-full\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"940\" height=\"508\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/09\/image-11.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-3978\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/09\/image-11.png 940w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/09\/image-11-300x162.png 300w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/09\/image-11-768x415.png 768w\" sizes=\"auto, (max-width: 940px) 100vw, 940px\" \/><\/figure>\n\n<p><\/p>\n\n<h4 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color has-link-color wp-elements-23f7c40604dc53480908683948105031\">Hafarn y Wern<\/h4>\n\n<p>I bobl ifanc y mae angen gofal preswyl arnynt, yr ydym yn datblygu ac yn ailenwi Glan yr Afon ym Mochdre i Hafan y Wern. Mae\u2019r argraff arlunydd isod yn dangos sut y disgwyliwn iddo edrych ar \u00f4l ei gwblhau.<\/p>\n\n<figure class=\"wp-block-image size-full\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"973\" height=\"560\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/09\/image-12.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-3980\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/09\/image-12.png 973w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/09\/image-12-300x173.png 300w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/09\/image-12-768x442.png 768w\" sizes=\"auto, (max-width: 973px) 100vw, 973px\" \/><\/figure>\n\n<p><\/p>\n\n<p>Bydd Hafan y Wern yn darparu llety hirdymor i bedwar plentyn sy\u2019n derbyn gofal gan yr Awdurdod Lleol. Mae\u2019r llun isod yn dangos y cynnydd hyd yma! Cymeradwyodd y Cabinet y strwythur staffio o ddeuddeg cydweithiwr llawn amser ym mis Awst 2024, a bydd plant yn mynd i fyw yno erbyn mis Mehefin 2025. <\/p>\n\n<figure class=\"wp-block-image size-full\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"943\" height=\"436\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/09\/image-13.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-3982\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/09\/image-13.png 943w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/09\/image-13-300x139.png 300w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/09\/image-13-768x355.png 768w\" sizes=\"auto, (max-width: 943px) 100vw, 943px\" \/><\/figure>\n\n<p><\/p>\n\n<h4 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color has-link-color wp-elements-7fc73a931ba55acf015fac5c46ce3e9a\">Sylva Gardens<\/h4>\n\n<p>Datblygiad preswyl a fydd yn darparu tri rhandy dwy ystafell wely i dri phlentyn ag anableddau dysgu yw Sylva Gardens. Maent yn derbyn gofal gan yr Awdurdod Lleol, ac mae dau unigolyn ifanc yn preswylio mewn lleoliadau annibynnol y tu allan i\u2019r sir ar hyn o bryd, ymhell oddi wrth eu rhieni, eu ffrindiau a\u2019u cymunedau.<\/p>\n\n<p>Sicrhawyd cyllid grant o\u2019r Gronfa Tai \u00e2 Gofal gan Lywodraeth Cymru a\u2019n partner, y Landlord Cymdeithasol Cofrestredig Cymdeithas Dai Dewis Cyntaf sydd wedi ariannu\u2019r datblygiad yn rhannol. Bryn Build oedd y contractwr a benodwyd, a chwblhawyd y datblygiad erbyn diwedd mis Ionawr 2025, chwe mis yn hwyrach na\u2019r hyn a ddywedwyd y llynedd, o ganlyniad i nifer o broblemau isadeiledd a gododd yn ystod y gwaith adeiladu. <\/p>\n\n<p>Cymeradwyodd y Cabinet y strwythur staffio o 32 aelod o staff llawn amser ym mis Mawrth 2024. Yr ydym wedi penodi Rheolwr Cofrestredig ac wyth Gweithiwr Gofal Plant Preswyl, a byddwn yn recriwtio ar gyfer mwy o swyddi i baratoi ar gyfer y dyddiad agor.<\/p>\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-alpha-channel-opacity\"\/>\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Gwella ein Cynnig Gofal Maeth <\/h3>\n\n<p>Ar ddechrau 2024 yr oeddem ddigon lwcus o allu creu pedair swydd ychwanegol o gyllid gant Dileu Elw fel a ganlyn: <\/p>\n\n<p class=\"has-vivid-cyan-blue-color has-text-color has-link-color wp-elements-364ea547387ea8f8e8d423a4f905a213\"><strong>Swyddog ar Ddyletswydd<\/strong><\/p>\n\n<p>Fe\u2019i bwriadwyd i ddargyfeirio tasgau oddi wrth y Gweithiwr Cymdeithasol Goruchwyliol a chynyddu capasiti, ond mae newidiadau staffio yn fewnol wedi ei hatal rhag cymryd mantais lawn o\u2019r penodiad hwn.<\/p>\n\n<p class=\"has-vivid-cyan-blue-color has-text-color has-link-color wp-elements-bd6eace9be3fe6e5d89f719b2d9879a4\"><strong>Cydlynydd Unigolion Cysylltiedig<\/strong><\/p>\n\n<p>Mae r\u00f4l Cydlynydd Unigolion Cysylltiedig yn gwella\u2019r gefnogaeth i\u2019r Gwarcheidwad Arbennig, i annog gofalwyr maeth i geisio Gwarcheidiaeth Arbennig, ac i atal methiant lleoliadau trefniadau presennol.  <\/p>\n\n<p>Gan fod un aelod o staff eisoes yn cyflawni\u2019r r\u00f4l hon, rhoddodd y swydd ychwanegol hon gynnydd o 100% i ni, ac yr oedd hyn yn bendant yn llwyddiant. Yr oedd y ddau aelod o staff yn gallu cefnogi\u2019r Gwarcheidwaid Arbennig, a galluogodd y capasiti ychwanegol hwy i gynnig r\u00f4l fwy uniongyrchol a chefnogol. <\/p>\n\n<p>Un enghraifft o\u2019r llwyddiant hwn oedd bod unigolyn ifanc a oedd yn gwrthod mynd i\u2019r ysgol wedi dychwelyd i\u2019r ysgol yn llawn amser yn dilyn cefnogaeth benodol, a sefydlogwyd ei fywyd gartref. <\/p>\n\n<p class=\"has-vivid-cyan-blue-color has-text-color has-link-color wp-elements-04117bca40b0de670175d1da277516fc\"><strong>Swyddog Recriwtio<\/strong><\/p>\n\n<p>Recriwtiwyd Swyddog Recriwtio ychwanegol gennym ym mis Mawrth 2024. <\/p>\n\n<p>Yr oedd cael dau Swyddog Recriwtio\u2019n beth cadarnhaol, ac yr oedd gan y ddau set sgiliau wahanol, a\u2019r gallu i ganolbwyntio ar Farchnata a Recriwtio ar wah\u00e2n. Cawsom fudd o ddeunydd marchnata ychwanegol, digwyddiadau recriwtio a diwrnod gwerthfawrogi ar gyfer gofalwyr maeth o ganlyniad i\u2019r cyllid ychwanegol. <\/p>\n\n<p>Yr oedd y Swyddog Recriwtio\u2019n gallu cynyddu presenoldeb mewn digwyddiadau, mynd i sesiynau \u2018Paned a Sgwrs\u2019 mewn llyfrgelloedd lleol, a chreu mwy o ymwneud a chysylltiad yn y gymuned drwy godi ymwybyddiaeth, arddangos posteri mewn ffenestri siopau, a baneri yn y mwyafrif o ysgolion cynradd y sir.<\/p>\n\n<p class=\"has-vivid-cyan-blue-color has-text-color has-link-color wp-elements-c3dc1dba68b52505930e5879681f2799\"><strong>Gweithiwr Cymdeithasol Seibiant Byr<\/strong><\/p>\n\n<p>Mae ein Gweithiwr Cymdeithasol Seibiant Byr wedi bod yn gweithio\u2019n agos gyda\u2019r Swyddogion Recriwtio i greu cynnwys am Seibiannau Byrion ar y cyfryngau cymdeithasol a bod yn bresennol mewn digwyddiadau er mwyn hyrwyddo\u2019r gwasanaeth hwn. <\/p>\n\n<p>Yn dilyn misoedd o waith paratoi, cyflwyno a thrafodaeth, daeth cymelliadau ar gyfer gofalwyr maeth i rym. Daeth rhyddhad Treth y Cyngor, trwyddedau parcio a pholisi Cyflogwr sy\u2019n Cefnogi Maethu i rym erbyn mis Awst 2024.<\/p>\n\n<p class=\"has-vivid-cyan-blue-color has-text-color has-link-color wp-elements-17e812cd6726929400bf82c077bb39be\"><strong>Gweithgarwch arall yn y gwasanaeth maethu<\/strong><\/p>\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Cawsom arolygiad maethu gan Arolygiaeth Gofal Cymru ym mis Tachwedd 2024; yr oedd yr adborth llafar, a\u2019r adroddiad arolygu drafft, yn gadarnhaol iawn. <\/li>\n\n\n\n<li>Yr ydym wedi gweld cynnydd bach yn nifer y gofalwyr maeth, ynghyd \u00e2 chyfradd gadw uwch eleni.    <\/li>\n\n\n\n<li>Os bydd cyllid grant Dileu Elw\u2019n cael ei ymestyn i 2025\/26, byddwn yn recriwtio Swyddog ar Ddyletswydd a Chydlynwyr Unigolion Cysylltiedig, oherwydd nodwyd bod eu hangen.<\/li>\n\n\n\n<li>Bydd y Swyddog Recriwtio a\u2019r Swyddog Marchnata yn parhau i ganolbwyntio ar feysydd o angen, fel canolbwyntio ar seibiannau byrion, cadw brodyr a chwiorydd gyda\u2019i gilydd a phobl ifanc yn eu harddegau. <\/li>\n\n\n\n<li>Gyda diffyg twf ym maes Anabledd o ran Seibiannau Byrion, mae\u2019n rhaid i ni ddeall y sector hwn yn llawn ac archwilio sut mae awdurdodau lleol eraill yn diwallu\u2019r angen hwn y tu allan i\u2019w hadnoddau maethu traddodiadol.  <\/li>\n<\/ul>\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-alpha-channel-opacity\"\/>\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Ap Mind of My Own<\/h3>\n\n<p>Yr ydym wedi crybwyll ap Mind of My Own (MOMO) mewn adroddiadau blaenorol gan ei fod yn darparu ffordd gyfleus ac atyniadol i blant a phobl ifanc rannu eu safbwyntiau gyda ni drwy borth ar-lein. Er bod hyn bellach yn nodwedd reolaidd o\u2019n gwaith gyda Phlant sy\u2019n Derbyn Gofal, parhawn i hyrwyddo\u2019r ap er mwyn cynnwys mwy o weithwyr proffesiynol a chynnal brwdfrydedd dros ei ddefnyddio.<\/p>\n\n<p>Yr ydym wedi darparu cefnogaeth i Ofalwyr Maeth i gynyddu eu cynefindra a\u2019u hyder gyda\u2019r ap, gan ddefnyddio eu cyfarfodydd bore coffi rheolaidd a chynnal sesiynau hyfforddi ar Teams. Ers mis Ebrill 2024 yr ydym wedi cynnig sesiynau ar-lein bob chwe mis i Ofalwyr Maeth a Gofalwyr sy\u2019n Berthynas, ac mae cynrychiolydd sy\u2019n Ofalwr Maeth yn bresennol yn ein cyfarfodydd gweithredol misol. <\/p>\n\n<p>Yr ydym wedi darparu hyfforddiant i asiantaethau maethu annibynnol, ac mae cynlluniau i drefnu mwy. Ers mis Tachwedd 2024, mae MOMO wedi cynnig sesiynau cefnogaeth newydd bob yn ail wythnos, gyda sesiynau ar wah\u00e2n ar gyfer staff, a rhieni a gofalwyr.<\/p>\n\n<p>Er gwaethaf llwyddiant MOMO, yr ydym yn ymwybodol bod dulliau ymgynghori ar waddol yn parhau i gael eu defnyddio. Teimla ein Swyddogion Diogelu ac Adolygu Annibynnol fod y ffurflenni gwaddol yn casglu mwy o ddyfnder o ran gwybodaeth i fwydo i brosesau cynllunio ac adolygu gofal. Mae mwy o drafodaethau wedi ein harwain i deimlo mai ymgysylltiad ystyrlon yw\u2019r flaenoriaeth, ni waeth beth fo\u2019r dulliau a ddefnyddiwyd; felly, er y byddwn yn hyrwyddo\u2019r ap, byddwn yn gadael ffurflenni \/ llyfrynnau ar-lein amgen fel dewis ar gyfer y rheiny y mae\u2019n well ganddynt eu defnyddio.<\/p>\n\n<p>Y llynedd trafodwyd cynnal arolwg i ddarparu mwy o fewnwelediad a chynorthwyo gyda gwneud y mwyaf o fanteision MOMO. Dywedodd cyfranogwyr wrthym:<\/p>\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p>Rydw i\u2019n teimlo bod cael hwn fel ap yn ddefnyddiol iawn, oherwydd mae\u2019r rhan fwyaf o bobl ifanc yn ymgysylltu\u2019n well gyda dyfeisiau electronig.<\/p>\n<\/blockquote>\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p>Mae\u2019n darparu rhyddid iddyn nhw fynegi eu safbwyntiau pan fo\u2019r amser yn gyfleus iddyn nhw.<\/p>\n<\/blockquote>\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p>Mae Gweithwyr Cymdeithasol wedi eu gorlwytho ar hyn o bryd a dydyn nhw ddim yn teimlo bod ganddyn nhw amser i ddefnyddio hwn gyda\u2019u plant neu mae\u2019r plant yn gwrthod.<\/p>\n<\/blockquote>\n\n<p>Yn dilyn yr arolwg yr ydym wedi darparu neu drefnu sesiynau hyfforddi ychwanegol ar gyfer gwasanaethau fel Kickstart a\u2019r ganolfan asesu plant newydd, Bwthyn y Dd\u00f4l. Mae enghreifftiau o arferion da wedi dod i\u2019r amlwg, fel defnyddio\u2019r apiau fel ffordd o asesu llythrennedd digidol, a byddwn yn rhannu\u2019r rhain fel enghreifftiau i ysbrydoli aelodau eraill o\u2019r gweithlu.  <\/p>\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-alpha-channel-opacity\"\/>\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Ymgysylltu \u00e2 phobl sy\u2019n gadael gofal<\/h3>\n\n<p>Yr ydym wedi parhau i gyflwyno model ymarfer newydd ar gyfer ymgysylltu \u00e2 phobl ifanc sydd \u00e2 phrofiad o fod mewn gofal, drwy weithio mewn partneriaeth \u00e2 hwy a\u2019u hannog i gymryd rhan mewn ymchwil gyda Phrifysgol Bangor. Yr ydym wedi gallu canolbwyntio ar yr hyn sy\u2019n bwysig i bobl ifanc a sicrhau bod y pecyn gwaith a ddyfeisiwyd yn diwallu\u2019r anghenion hynny. <\/p>\n\n<p>Cynhaliwyd symposiwm ym mis Medi 2024, lle rhannwyd canlyniad yr ymchwil a\u2019r pecyn gwaith yn eang. Gobeithiwn y bydd hyn yn arwain at ddull gweithredu cyson ar gyfer pob unigolyn ifanc sydd \u00e2 phrofiad o\u2019r system ofal.<\/p>\n\n<p>Eleni yr ydym wedi ymroi amser a oedd ei angen yn fawr i gasglu adborth gan bobl ifanc sy\u2019n defnyddio ein gwasanaeth. Gwnaed darn o waith gyda rhai Plant ar eu Pen eu Hunain yn Ceisio Lloches yn ymwneud \u00e2 disgwyliadau a rolau staff. Lluniodd myfyrwyr o fewn y t\u00eem daflenni ar gyfer y bobl ifanc yn ymwneud \u00e2\u2019r hyn y gallant ei ddisgwyl gan wasanaethau a phwy fydd yn ymwneud yn eu gofal. Lluniwyd taflen ar gyfer staff hefyd, yn rhoi gwybodaeth iddynt am eu rolau a\u2019u cyfrifoldebau wrth weithio gyda Phlant ar eu Pen eu Hunain yn Ceisio Lloches.<\/p>\n\n<p>Datgelodd ymgynghoriad \u00e2 Rhai sy\u2019n Gadael Gofal yngl\u0177n \u00e2 gwefan Camau Bach Dyfodol Disglair nad oeddent eisiau rheoli\u2019r wefan eu hunain, felly ni fydd hwn yn adnodd cynaliadwy mwyach. Byddwn, yn lle hynny, yn ceisio trosglwyddo rhywfaint o\u2019r wybodaeth fwyaf perthnasol i wefan yr Awdurdod Lleol.<\/p>\n\n<p>Dywedodd Rhai sy\u2019n Gadael Gofal wrthym nad oedd Wythnos y Rhai sy\u2019n Gadael Gofal yn rhywbeth yr oeddent yn dymuno cymryd rhan ynddo mwyach, gan eu bod yn teimlo bod y digwyddiad yn eu harwahanu ac nad oedd yn gynhwysol. Yn hytrach nag Wythnos y Rhai sy\u2019n Gadael Gofal byddwn yn canolbwyntio ar bob person ifanc fel unigolyn. Er enghraifft, byddwn yn dathlu pob digwyddiad arwyddocaol a gwyliau crefyddol drwy anfon arwydd o gydnabyddiaeth o\u2019r digwyddiad, e.e. y Nadolig, Eid a phenblwyddi.<\/p>\n\n<p>I sicrhau ein bod yn parhau i drafod gyda phobl ifanc sy\u2019n defnyddio ein gwasanaeth yr ydym wedi ychwanegu sesiynau adborth i\u2019n cynllun archwilio blynyddol.<\/p>\n\n<h2 class=\"wp-block-heading has-white-color has-vivid-cyan-blue-to-vivid-purple-gradient-background has-text-color has-background has-link-color has-large-font-size wp-elements-e0af05eeab170e07f95151b226dcbe2a\"><em>Gwasanaethau Oedolion<\/em><\/h2>\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Datblygu llwybr lles meddyliol gyda\u2019r Bwrdd Iechyd<\/h3>\n\n<p>Y llynedd trafodwyd gweithio\u2019n agosach \u00e2\u2019r Bwrdd Iechyd Lleol a chydweithwyr mewnol i sicrhau bod llwybrau cefnogaeth iechyd meddwl yn llyfnach rhwng sefydliadau ac ar gyfer unigolion sy\u2019n dod yn oedolion.<\/p>\n\n<p>Mae Rheolwyr y Bwrdd Iechyd a\u2019r Awdurdod Lleol yn cyfarfod yn rheolaidd i sicrhau bod defnyddwyr gwasanaeth yn derbyn y gofal cywir ar yr amser cywir, ac yr ydym yn lliniaru unrhyw broblemau a nodir. Yr ydym hefyd yn cael cyfarfod ar y cyd i ddarparu dull amlbroffesiwn ar gyfer y rheiny sydd \u00e2 phroblemau iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau. <\/p>\n\n<p>Yr oedd cyfres o sesiynau galw heibio hanner diwrnod bob mis gyda staff Mind Conwy yn ddefnydd cynhyrchiol o amser; sicrhaodd fod ymarferwyr yn deall beth allai Mind ei gynnig a rhoddodd le i drafod achosion ac atgyfeiriadau mewn manylder. Datblygodd hyn wedyn yn gyfarfod wythnosol i sicrhau ein bod yn defnyddio\u2019r gefnogaeth sydd gan Mind i\u2019w chynnig, a bod yna, pan fo\u2019r angen, ddull gweithredu ar y cyd ar gyfer achosion, sy\u2019n rhan werthfawr a rheolaidd o\u2019n harferion.  <\/p>\n\n<p>Yr ydym wedi dechrau datblygu llwybr i bontio T\u00eem Lles Meddyliol, T\u00eem Iechyd Meddwl Cymunedol a gwasanaethau camddefnyddio sylweddau, sy\u2019n datblygu ac yn meithrin perthnasoedd i wella\u2019r dull amlddisgyblaethol a chyfoethogi\u2019r profiad ar gyfer pobl a gefnogir gennym. Drwy\u2019r meithrin perthnasoedd yma yr ydym hefyd wedi gallu creu clinig seicoleg misol, sy\u2019n rhoi\u2019r cyfle i weithwyr cymdeithasol drafod achosion a derbyn cyngor o safbwynt seicolegol i wella\u2019r ffordd yr ydym yn gweithio gyda phobl sydd ag anghenion cymhleth.<\/p>\n\n<p>Mae angen gwelliant parhaus o ran cyflymdra\u2019r gwaith o ddatblygu a sefydlu\u2019r llwybr ar gyfer continwwm gofal gyda\u2019r Bwrdd Iechyd Lleol a\u2019r T\u00eem Iechyd Meddwl Cymunedol, yn benodol. Fodd bynnag, mae\u2019r cyfarfod misol rhwng rheolwyr y T\u00eem Lles Meddyliol a\u2019r T\u00eem Iechyd Meddwl Cymunedol yn hwyluso gwell cyfathrebu a dull gweithredu ar y cyd, lle bo\u2019r angen. <\/p>\n\n<p>Yr ydym yn adolygu darpariaeth y Gwasanaeth Lles Meddyliol gan ganolbwyntio ar gynaliadwyedd wrth symud ymlaen, yn arbennig o ystyried y cynnydd yn nifer yr atgyfeiriadau ac effaith ddeng mlynedd ddisgwyliedig y pandemig. Bydd y gwaith a wneir o fewn rhaglen Adferiad Creadigol Hadau Newid yn allweddol wrth hwyluso\u2019r newid hwn o ran darparu agwedd ataliol ar ein darpariaeth gwasanaeth. Bydd astudiaethau achos yn rhan bwerus a phwysig o\u2019r ffordd yr ydym yn mesur hyn wrth symud ymlaen.<\/p>\n\n<p>Mae\u2019r T\u00eem wedi nodi ein huchelgais a\u2019n cynllun gweithredu, dan y teitl Y Nod Driphlyg. Fodd bynnag, ein nod ar gyfer y flwyddyn nesaf yw ailadrodd ein harolygon boddhad gwreiddiol ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth a staff, a byddwn yn eu cyfuno \u00e2\u2019n data perfformiad, ac yn eu defnyddio i ddylanwadu ar newid.<\/p>\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-alpha-channel-opacity\"\/>\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Ymgyrch Gwrando ar Ddementia<\/h3>\n\n<p>Yn dilyn ymgyrch y llynedd cynhaliwyd digwyddiad cymunedol gennym yn Llanfairfechan i gyflwyno\u2019r adroddiad terfynol; daeth amryfal aelodau o\u2019r gymuned a sefydliadau eraill yno sydd \u00e2 diddordeb mewn dementia yn y gymuned ac sy\u2019n darparu gwasanaethau yng Nghonwy.<\/p>\n\n<p>Gan ddefnyddio\u2019r gwaith a wnaed yn Llanfairfechan a siroedd eraill yng ngogledd Cymru, nodwyd wyth blaenoriaeth allweddol, a bydd y rhain yn llywio gwaith y Gydweithredfa Dementia Ranbarthol ar gyfer y dyfodol:<\/p>\n\n<ol class=\"wp-block-list\">\n<li>Mynediad at ofal a chefnogaeth<\/li>\n\n\n\n<li>Gofal sy\u2019n canolbwyntio ar yr unigolyn<\/li>\n\n\n\n<li>Cefnogaeth i ofalwyr di-d\u00e2l<\/li>\n\n\n\n<li>Mynediad hawdd at wasanaethau<\/li>\n\n\n\n<li>Grwpiau a gweithgareddau<\/li>\n\n\n\n<li>Cymunedau sy\u2019n deall dementia<\/li>\n\n\n\n<li>Gwell mynediad at gludiant<\/li>\n\n\n\n<li>Darparu gwasanaethau dementia yn y Gymraeg<\/li>\n<\/ol>\n\n<p>Drwy ganolbwyntio ar yr amcanion allweddol hyn a\u2019r argymhellion ynddynt, gobeithir y gall yr holl bartneriaid sefydlu fframwaith mwy cefnogol ac effeithiol ar gyfer gofal dementia yn eu cymunedau. Bydd hyn yn gwella ansawdd gofal, yn sicrhau bod unigolion sy\u2019n byw \u00e2 dementia, a\u2019u teuluoedd, yn derbyn y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt. Bydd y dull hwn o weithredu yn gwella ansawdd bywyd y bobl hynny sy\u2019n byw \u00e2 dementia, a\u2019u gofalwyr, gan hybu diwylliant o ddealltwriaeth a chynwysoldeb. Bydd cydweithio ymysg darparwyr gofal iechyd, sefydliadau cymunedol, y Bwrdd Iechyd a llywodraeth leol yn hanfodol i gyflawni\u2019r nodau hyn a chreu cymdeithas sy\u2019n deall dementia.<\/p>\n\n<p>Mae Adroddiad Ymgyrch Gwrando ar Ddementia yn cynnwys mwy o wybodaeth am yr ymgyrch yn Llanfairfechan a\u2019r newidiadau y dywedodd pobl wrthym eu bod eisiau eu gweld. <a href=\"https:\/\/www.cydweithredfagogleddcymru.cymru\/engagement\/ymgyrch-wrando-ar-ddementia-conwy\/\">Gellwch weld yr adroddiad ar wefan Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru<\/a>.<\/p>\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-alpha-channel-opacity\"\/>\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Cyfranogiad ac Ymgysylltiad ar gyfer Gwasanaethau Oedolion<\/h3>\n\n<p>Mae ein Swyddog Cyfranogiad Oedolion wedi cyflawni sawl darn o waith ymgysylltu dros y flwyddyn adrodd hon, gan gynnwys: <\/p>\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Siarad \u00e2 phreswylwyr ac aelodau o\u2019r teulu mewn dau leoliad Byw \u00e2 Chymorth ar bymtheg yngl\u0177n ag ansawdd y gofal y maent yn ei dderbyn<\/li>\n\n\n\n<li>Ymgynghori ag unigolion sy\u2019n derbyn gofal sy\u2019n canolbwyntio ar ganlyniadau gan asiantaethau gofal cartref <\/li>\n\n\n\n<li>Ymgynghori \u00e2 phreswylwyr Cynllun Tai Gofal Ychwanegol sy\u2019n derbyn gofal a chymorth gan wasanaethau mewnol a gwasanaethau a gomisiynir yn allanol<\/li>\n\n\n\n<li>Ymgynghori ag unigolion sy\u2019n defnyddio menter gymdeithasol PSS<\/li>\n\n\n\n<li>Ymgysylltu\u2019n flynyddol ag unigolion sy\u2019n defnyddio gwasanaethau Cefnogaeth Gymunedol Anabledd<\/li>\n\n\n\n<li>Ymgynghoriad yn ymwneud \u00e2 gwasanaeth dydd anabledd<\/li>\n<\/ul>\n\n<p>Cynllunnir gwaith cyfranogiad ac ymgysylltiad yn y dyfodol o fewn lleoliadau cartref gofal.<\/p>\n\n<p>Mae un Gweithiwr Cyfranogiad Oedolion llawn amser yn ymgysylltu \u00e2 gwahanol gyrff cymunedol yng Nghonwy, fel y Rhwydwaith Cyfranogi, Age Connects a fforymau eraill ar gyfer oedolion, gan roi gwybodaeth iddynt yngl\u0177n \u00e2 gweithgareddau\u2019r awdurdod lleol a chyfeirio at yr adrannau o fewn y Cyngor y mae pobl yn ymholi yn eu cylch.<\/p>\n\n<p>Yn ogystal, mae\u2019r swyddog yn cynnal sesiynau Ffrindiau Dementia yn rheolaidd ar gyfer gweithwyr Cyngor Conwy, ysgolion Conwy a sefydliadau\u2019r Trydydd Sector.<\/p>\n\n<p>Eleni, gyda chymorth Swyddog Cefnogi Prosiect, mae\u2019r Swyddog Cyfranogiad ac Ymgysylltiad wedi sefydlu Rhwydwaith Cefnogi Gofalwyr, digwyddiad ar gyfer sefydliadau gofalwyr yng Nghonwy i ddod at ei gilydd, gan ddod \u00e2\u2019u syniadau a gwybodaeth gyda hwy a rhwydweithio gyda sefydliadau eraill na fyddent o reidrwydd yn dod i gysylltiad \u00e2 hwy. Cynhelir y gr\u0175p rhwydweithio hwn bob chwe mis; cynhaliwyd y cyntaf ym mis Hydref 2024 ac yr oedd yn llwyddiannus iawn. Mae\u2019r holl sefydliadau a oedd yn bresennol wedi cofrestru ar gyfer sesiynau yn y dyfodol.<\/p>\n\n<p>Yr ydym wedi ymweld ac ymgysylltu \u00e2 phreswylwyr ac aelodau o deuluoedd pobl sy\u2019n byw mewn lleoliadau gofal yng Nghonwy. Hyd yma, cafwyd dau ymweliad i gartrefi gofal, 17 o ymweliadau i eiddo Byw \u00e2 Chymorth ac ymweliadau i\u2019r pedwar cyfleuster Tai Gofal Ychwanegol ledled y sir.  <\/p>\n\n<p>Yr ydym wedi gofyn am adborth ar ein gwasanaethau comisiynu ac anabledd, gan gynnwys ymgynghori ag unigolion sy\u2019n defnyddio gwasanaeth PSS, ein gwasanaeth gofal dydd a\u2019r rheiny sy\u2019n derbyn gwasanaethau gofal cartref gan asiantaethau, gan ddefnyddio gofal sy\u2019n canolbwyntio ar ganlyniadau.<\/p>\n\n<h4 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color has-link-color wp-elements-6b54850e90e1565424024c4db760fe7a\">Sut ydym yn defnyddio\u2019r adborth a dderbyniwn<\/h4>\n\n<p>Sicrhawn fod unrhyw adborth a dderbyniwn yn cael ei ddefnyddio i fonitro a gwella\u2019r gwasanaethau\u2019r ydym yn eu darparu ein hunain ac yn eu comisiynu\u2019n allanol. Gall hyn fod ar ffurf adroddiadau mewnol, trafodaethau a chynlluniau gweithredu, a bydd unrhyw argymhellion ar gyfer gwella yn derbyn sylw gan y Swyddog Cyfranogiad ac Ymgysylltiad ac \/ neu Unigolyn Cyfrifol gyda\u2019r gwasanaethau eu hunain.<\/p>\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-alpha-channel-opacity\"\/>\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Strategaeth Anableddau Dysgu Gogledd Cymru<\/h3>\n\n<p>Datblygwyd Strategaeth Anableddau Dysgu Gogledd Cymru yn 2017 a 2018, gyda chefnogaeth Uned Cydweithio Rhanbarthol Gogledd Cymru. Cafodd ei chymeradwyo gan chwe awdurdod lleol y gogledd a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr fis Mawrth 2019.<\/p>\n\n<p>Mae\u2019r strategaeth yn nodi pum pecyn gwaith sydd ei angen i fwrw ymlaen \u00e2\u2019r gwaith yma a sefydlwyd \u201cGogledd Cymru gyda\u2019n Gilydd\u201d \u2013 t\u00eem Trawsnewid Anableddau Dysgu Gogledd Cymru \u2013 i ddatblygu agweddau ar y strategaeth a allai gael budd o gael eu darparu\u2019n rhanbarthol. Cafodd y rhaglen ei hariannu\u2019n wreiddiol am 18 mis gan Lywodraeth Cymru, ac mae\u2019n cyd-fynd \u00e2 menter \u2018Cymru Iachach\u2019. <\/p>\n\n<p>Yr oedd y prif feysydd a amlygwyd yn y strategaeth wreiddiol yn canolbwyntio ar y canlynol: <\/p>\n\n<p class=\"has-vivid-cyan-blue-color has-text-color has-link-color wp-elements-1d1224540a48b6419445de6d9d74128a\"><strong>Llety \/ gweithlu \/ cam i fyny, cam i lawr<\/strong><\/p>\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Cefnogaeth i nodi\u2019r angen am dai<\/li>\n\n\n\n<li>Gweithio gyda phartneriaid (yn \u00f4l yr angen) i ddatblygu achosion busnes Cronfa Tai \u00e2 Gofal<\/li>\n\n\n\n<li>Rhaglen barhaus o hyfforddiant Cymorth Ymddygiad Cadarnhaol<\/li>\n\n\n\n<li>Datblygu cyfleusterau cam i fyny \/ cam i lawr, sy\u2019n cyd-fynd \u00e2 gwaith ailgomisiynu gwasanaethau i leihau derbyniadau a hyd arosiadau mewn lleoliadau ysbyty arbenigol ar gyfer anableddau dysgu.<\/li>\n<\/ul>\n\n<p class=\"has-vivid-cyan-blue-color has-text-color has-link-color wp-elements-b3014018d9469a4413fdc4d39944d0d7\"><strong>Technoleg<\/strong><\/p>\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Hyfforddiant technolegol ar gyfer unigolion, teuluoedd a\u2019r gweithlu<\/li>\n\n\n\n<li>Cyfeirio \/ darparu cyfarpar<\/li>\n\n\n\n<li>1 i 1, cefnogaeth canolbwynt a gr\u0175p i ddatblygu sgiliau<\/li>\n\n\n\n<li>Datblygu a hyrwyddo apiau (e.e. Paincheck a PBAS)<\/li>\n<\/ul>\n\n<p class=\"has-vivid-cyan-blue-color has-text-color has-link-color wp-elements-b985c060d9d5a3ffadd7787b7139e727\"><strong>Cyflogaeth<\/strong><\/p>\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Datblygu strategaeth cyflogaeth \u00e2 chymorth<\/li>\n\n\n\n<li>Ymchwilio i gyfleoedd gwaith a dydd<\/li>\n\n\n\n<li>Model cyflogaeth \u00e2 chymorth<\/li>\n<\/ul>\n\n<p class=\"has-vivid-cyan-blue-color has-text-color has-link-color wp-elements-17816a99ffe5e174c87a5175b009c15e\"><strong>Newid Cymunedol a Diwylliannol <\/strong><\/p>\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Comisiynu gweithgareddau trydydd sector. Dan arweiniad aelodau ac wedi\u2019u cydgynhyrchu<\/li>\n\n\n\n<li>Hyrwyddo ymarfer sy\u2019n canolbwyntio ar yr unigolyn<\/li>\n\n\n\n<li>Hyrwyddo taliadau uniongyrchol<\/li>\n<\/ul>\n\n<p class=\"has-vivid-cyan-blue-color has-text-color has-link-color wp-elements-86d5cded6269898ec272df376eb406bb\"><strong>Iechyd<\/strong><\/p>\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Sefydlu a chael arian cyfatebol ar gyfer Cefnogwyr Gwiriadau Iechyd. Canolbwyntio ar wella iechyd corfforol oedolion gydag anableddau dysgu yng ngogledd Cymru<\/li>\n\n\n\n<li>Datblygu llwybrau arferion da ar gyfer pontio, llety ac anawsterau dysgu dwys a lluosog<\/li>\n\n\n\n<li>Cefnogi\u2019r Gyllideb Gyfun gydag Ynys M\u00f4n<\/li>\n\n\n\n<li>Sicrhau llwybrau cymunedol cadarn ar gyfer anableddau dysgu gydag asiantaethau partner<\/li>\n<\/ul>\n\n<p class=\"has-vivid-cyan-blue-color has-text-color has-link-color wp-elements-da5e948409aa1e821050e331501edaf7\"><strong>Plant a Phobl Ifanc<\/strong><\/p>\n\n<p>A hithau\u2019r set fwyaf newydd o flaenoriaethau yn y rhaglen, bydd ffrwd waith Plant a Phobl Ifanc yn parhau i ddatblygu\u2019r meysydd gwaith a amlygwyd.<\/p>\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Ariannu\u2019r Prosiect Pontio Teuluoedd Rhanbarthol<\/li>\n\n\n\n<li>Cydlunio adnodd Bywyd ar \u00f4l Ysgol a chyflawni argymhellion yr adroddiad hwnnw<\/li>\n\n\n\n<li>Archwilio\u2019r potensial ar gyfer datblygiadau gwyliau byrion i blant a phobl ifanc gydag anghenion cymhleth<\/li>\n\n\n\n<li>Llunio protocol Pontio Rhanbarthol<\/li>\n\n\n\n<li>Cyllid parhaus ar gyfer gweithgareddau i blant a phobl ifanc, yn cynnwys cydlunio meysydd lle ceir bylchau yn y ddarpariaeth<\/li>\n<\/ul>\n\n<p>Mae Rhaglen Gogledd Cymru Gyda\u2019n Gilydd yn parhau i fod ar waith tan 2027. O ganlyniad, comisiynwyd gwaith i ganolbwyntio ar ddatblygu strategaeth newydd ar gyfer gwasanaethau anableddau dysgu ledled gogledd Cymru. Y nod yw datblygu strategaeth pum mlynedd o fis Mai 2025 tan fis Ebrill 2030. Hwyluswyd sgyrsiau ledled y rhanbarth i ganolbwyntio ar archwilio\u2019r pwyntiau allweddol canlynol: <\/p>\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>A yw\u2019r meysydd yr ymdrinnir \u00e2 hwy yn y strategaeth wreiddiol yn dal yn berthnasol?<\/li>\n\n\n\n<li>A oes meysydd eraill y dylid eu cynnwys yn y strategaeth newydd?<\/li>\n\n\n\n<li>Beth sy\u2019n bwysig i bobl \u2019r\u0175an? <\/li>\n\n\n\n<li>Beth fydd yn bwysig i bobl yn y dyfodol? <\/li>\n<\/ul>\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-alpha-channel-opacity\"\/>\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Eiriolaeth Anableddau Dysgu<\/h3>\n\n<p>Cefnogir Ehedwyr Gogledd Cymru gan Wasanaeth Adfocatiaeth a Chynghori Gogledd Cymru, Cyswllt Conwy, a Phobl yn Gyntaf Cymru Gyfan am dair blynedd, o fis Mawrth 2025 ymlaen. Mae\u2019r chwe awdurdod lleol a BIPBC yn parhau i fod yn gefnogol i\u2019r gr\u0175p, sy\u2019n adrodd i Gr\u0175p Partneriaeth Anableddau Dysgu Gogledd Cymru a Bwrdd Gogledd Cymru Gyda\u2019n Gilydd. <\/p>\n\n<p>Mae\u2019r cynrychiolwyr wedi bod yn gweithio yn eu grwpiau ardal lleol:<\/p>\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Mae fforwm Conwy wedi ysgrifennu at yr AS mewn perthynas \u00e2 meini prawf a thaliadau\u2019r Taliad Annibyniaeth Bersonol, ac mae wedi cwblhau arolwg cludiant<\/li>\n\n\n\n<li>Mae Te am Dri Gwynedd wedi cwblhau arolwg Trafnidiaeth Cymru<\/li>\n\n\n\n<li>Mae Sir Ddinbych yn ymgynghori ar enw a logo ei gr\u0175p  <\/li>\n\n\n\n<li>Mae\u2019r Cadeirydd wedi bod mewn nifer o gyfarfodydd, yn cynnwys cyfarfod Piws \/ Ymgysylltu \u00e2 Rhanddeiliaid, Rhieni a Gofalwyr (SPACE) yn Wrecsam<\/li>\n<\/ul>\n\n<p>Mae\u2019r gr\u0175p wedi bod yn gweithio ar fideo i rannu a hyrwyddo gwaith y gr\u0175p gyda phartneriaid a phobl sydd ag anableddau dysgu ledled gogledd Cymru, ac mae wedi sefydlu tudalen Facebook: <a href=\"https:\/\/www.facebook.com\/flyersnorthwales\/\">https:\/\/www.facebook.com\/flyersnorthwales\/<\/a>.<\/p>\n\n<p>Fel y crybwyllwyd yn gynharach, mae Gogledd Cymru Gyda\u2019n Gilydd wedi comisiynu Dr Ceryl Davies, ar ran y chwe awdurdod lleol a BIPBC, i adnewyddu\u2019r Strategaeth Anableddau Dysgu bresennol. Mae Dr Ceryl wedi bod yn gweithio\u2019n agos ag Ehedwyr Gogledd Cymru i ddarparu gwybodaeth ar gyfer y strategaeth. <\/p>\n\n<p>Mae Strategaeth Cyflogaeth \u00e2 Chymorth Gogledd Cymru wedi ei chwblhau; Rheolwr Gwasanaeth Anableddau Conwy oedd Cadeirydd y gr\u0175p prosiect a oedd yn cefnogi datblygiad y strategaeth, <a href=\"https:\/\/gogleddcymrugydangilydd.org\/\">y gellir ei gweld ar wefan Gogledd Cymru Gyda\u2019n Gilydd<\/a>.<\/p>\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-alpha-channel-opacity\"\/>\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Llwybrau Cyflogaeth i Bobl ag Anableddau Dysgu<\/h3>\n\n<p>Mae r\u00f4l Cydlynydd Llwybr Cyflogaeth bellach wedi ei sefydlu o fewn ein gwasanaeth. Yr ydym wedi gwneud cynnydd da wrth gefnogi\u2019r newid mewn diwylliant, i hybu dull \u2018gwaith gyntaf\u2019 ar gyfer cefnogi pobl ag anableddau dysgu a datblygu dyheadau. Hwylusir llwybrau cyflogaeth gan Gr\u0175p Llywio Cyflogaeth \u00e2 Chymorth canolog, lle mae Cynghorau Conwy a Sir Dinbych, CoOptions (y darparwr hyfforddiant swyddi), a Gr\u0175p Llywio Rhanbarthol yn bresennol. <\/p>\n\n<p>Mae partneriaid ymchwil ym Mhrifysgol Ystrad Clud wedi creu dangosfwrdd sy\u2019n cyflwyno gwybodaeth am berfformiad, yn lleol ac yn rhanbarthol. Mae hyn yn ein galluogi i olrhain perfformiad yn lleol, ac i feincnodi yn erbyn awdurdodau lleol eraill yng ngogledd Cymru. Maent yn cynnal ymchwil i ddangos y canlyniadau a gyflawnir drwy\u2019r prosiect Cronfa Ffyniant Gyffredin, ac i wneud argymhellion. Yr ydym wedi nodi bod angen strategaeth glir ledled gwasanaethau dydd a chyfleoedd gwaith \u2013 yn fewnol ac yn allanol \u2013 i sicrhau ein bod yn parhau i ddatblygu cyflogaeth \u00e2 chymorth.<\/p>\n\n<p>Erbyn diwedd 2024 yr oeddem wedi cynorthwyo naw o bobl i gael gwaith, tri i swyddi gwirfoddol, pedwar i leoliad gwaith, ac un i dreial gwaith \u00e2 th\u00e2l.<\/p>\n\n<p>Mae Arweinydd Gogledd Cymru Gyda\u2019n Gilydd a Rheolwr y Gwasanaeth Anableddau wedi gweithio gyda Phenaethiaid Gwasanaeth Conwy i ystyried sut y gellir gwneud ein proses o ymgeisio am swydd yn fwy hygyrch. Cyflwynwyd cais IMPACT gennym a buom yn llwyddiannus. Mae\u2019r cais yn canolbwyntio ar adolygu ein prosesau i sicrhau ein bod yn fwy hygyrch a chynhwysol i bobl ag anableddau dysgu.  <\/p>\n\n<p>Mae yna ymrwymiad corfforaethol i weithio gyda\u2019n gwasanaethau i sicrhau bod pobl ag anableddau dysgu\u2019n cael mynediad cyfartal i waith \u00e2 th\u00e2l, drwy brosesau recriwtio teg a hygyrch. Yr ydym wedi cael dau dreial gwaith yn Venue Cymru, sy\u2019n gam cadarnhaol. Hoffem weld bod Conwy yn arwain y ffordd fel cyflogwr pobl ag anableddau dysgu. <\/p>\n\n<p>Gobeithiwn, yn 2025, y bydd pobl sydd ag anableddau dysgu, a atgyfeirir drwy\u2019r gwasanaeth hwn, yn gallu ymgymryd \u00e2 threial gwaith, yn lle cyfweliad ffurfiol. Nod hyn fyddai dangos eu bod yn gallu gwneud y gwaith, hyd yn oed os nad ydynt wedi gallu cyfleu hynny, gan ddefnyddio\u2019r dull recriwtio presennol o ffurflen gais neu gyfweliad.<\/p>\n\n<p>Penodwyd Home Farm Trust fel darparwyr caffi ym Mhlanhigfa Bryn Euryn. Mae Home Farm Trust yn gweithio\u2019n agos \u00e2 Chydlynydd Llwybr Cyflogaeth a CoOptions. Mae\u2019r caffi\u2019n darparu cyfleoedd i unigolion symud ymlaen i gyflogaeth, drwy gefnogaeth CoOptions. Sicrhaodd Conwy gyllid o\u2019r Gronfa Ffyniant Gyffredin ar gyfer 2023\/2024 a 2024\/2025, ac mae wedi ei ddefnyddio i gynnal y newid mewn diwylliant ledled ein gwasanaethau. <\/p>\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-alpha-channel-opacity\"\/>\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Partneriaeth anabledd: gweithio gyda Chydlynydd Partneriaeth Bwyd Cynaliadwy, adran Ddeieteg BIPBC, a Chanolfannau Teuluoedd<\/h3>\n\n<p>Mae gan bobl ag anableddau dysgu ganlyniadau iechyd salach, sy\u2019n aml yn gysylltiedig \u00e2 deiet gwael a diffyg ymarfer corff, a byddent yn cael budd o ddysgu sut i goginio prydau iach, fforddiadwy. Yr oeddem yn teimlo ei bod yn bwysig cynnwys teuluoedd a gweithwyr cefnogi sy\u2019n aml yn dewis opsiwn pryd parod hawdd oherwydd pwysau amser a chred ei fod yn rhatach. <\/p>\n\n<p>Dechreuasom gynnal sesiynau coginio i oedolion yn yr hydref, gan weithio ag adran Ddeieteg BIPBC a defnyddio cegin y Ganolfan Deuluoedd fel lleoliad. Mae\u2019r sesiynau coginio i oedolion wedi gweithio\u2019n dda iawn, ac yr ydym \u2019r\u0175an yn bwriadu eu cynnal eto yn 2025. Mae\u2019r sesiynau wedi ennyn angerdd gwirioneddol mewn un unigolyn, sydd wedi dechrau coginio gyda chynhwysion ffres gyda\u2019i fam, ac mae eisiau mynychu cwrs coginio yn y coleg. <\/p>\n\n<p>Dywedodd unigolyn a gollodd ei g\u0175r dair blynedd yn \u00f4l wrthym fod y sesiynau yn ei chynorthwyo i ganfod ei hangerdd am goginio eto ar \u00f4l teimlo ei bod ar goll pan ddaeth yn weddw. Mae unigolyn arall, a oedd yn betrusgar am ddod i unrhyw gr\u0175p o\u2019r blaen, bellach yn edrych ymlaen at ddod bob wythnos, ac mae wedi ei gwneud yn fwy ymwybodol o\u2019i deiet yn gyffredinol. Mae rhywun arall yn hapus o fod yn gwneud rhywbeth cynhyrchiol gyda\u2019i amser, ac mae\u2019n rhoi ymdeimlad o gyflawniad iddo. <\/p>\n\n<p>Mae dyn arall wedi gallu lleihau\u2019r gefnogaeth yr oedd yn ei chael gan ei fod yn dysgu sgiliau y byddai staff cefnogi wedi ei gynorthwyo gyda hwy cynt: coginio, gwirio labeli bwyd a mynd i siopa, yn annibynnol. <\/p>\n\n<p>Yr ydym wedi nodi\u2019r angen am well ymgynghori ymlaen llaw gyda\u2019r deietegwyr yngl\u0177n \u00e2 ryseitiau a chynhwysion, fel y gallwn gael ein cynhwysion gan gyflenwyr lleol. Gallwn annog hyn, drwy addysg yn yr ysgolion ar oedran iau, a thrwy ddenu ein defnyddwyr gwasanaeth i goginio a bwyta\u2019n iach, pan f\u00f4nt yn defnyddio ein gwasanaethau seibiant. Yr ydym eisiau cymryd pob cyfle i hybu ffyrdd iach o fyw mewn ffordd gadarnhaol. <\/p>\n\n<figure class=\"wp-block-image size-full\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"940\" height=\"215\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/09\/image-14.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-3985\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/09\/image-14.png 940w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/09\/image-14-300x69.png 300w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/09\/image-14-768x176.png 768w\" sizes=\"auto, (max-width: 940px) 100vw, 940px\" \/><\/figure>\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-alpha-channel-opacity\"\/>\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Gweithio mewn partneriaeth \u00e2\u2019r Gwasanaeth Tai<\/h2>\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Gweithgor Gofal Cymdeithasol a Thai<\/h3>\n\n<p>Mae gofynion tai a llety o fewn Gofal Cymdeithasol yn amrywio ac yn pontio sawl gwasanaeth o fewn yr adran. Gall y rhain gynnwys y canlynol (ond nid ydynt wedi eu cyfyngu i\u2019r rhain):<\/p>\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Llety i bobl h\u0177n fel Tai Gofal Ychwanegol<\/li>\n\n\n\n<li>Lleoliadau unigol a gr\u0175p ar gyfer plant a phobl ifanc <\/li>\n\n\n\n<li>Pobl sydd wedi gadael gofal<\/li>\n\n\n\n<li>Pobl ddiamddiffyn<\/li>\n\n\n\n<li>Llety ar gyfer pobl ag anableddau, gan gynnwys anableddau dysgu, anableddau corfforol, amhariad ar y synhwyrau, anafiadau i\u2019r ymennydd ac awtistiaeth.<\/li>\n\n\n\n<li>Sefydlwyd Gweithgor Gofal Cymdeithasol a Thai tua diwedd 2023 i sicrhau bod yna gysylltiadau clir rhwng gofynion tai a llety Gofal Cymdeithasol a datblygiad y Prosbectws Tai a\u2019r Asesiad o\u2019r Farchnad Dai Leol a arweinir gan y Gwasanaethau Tai. <\/li>\n<\/ul>\n\n<p>Mae\u2019r gweithgor yn cyfarfod bob yn ail fis, ac mae wedi gallu rhannu cyfleoedd posibl i\u2019r gwasanaethau gymryd mantais ohonynt. Mae hyn yn cynnwys darparu cydweithwyr Tai gyda manylion eiddo o fewn portffolio Gofal Cymdeithasol a allai ddod yn wag, ac a allai o bosibl gael eu haddasu ar gyfer anghenion tai cyffredinol, ac fel arall. <\/p>\n\n<p>Un llwyddiant allweddol o ran y gwaith a wnaed gan y Gweithgor hyd yma yw cynnwys gofynion llety Gofal Cymdeithasol yn y <a href=\"https:\/\/www.conwy.gov.uk\/cy\/Resident\/HousingServices\/Policies-plans-strategies\/Home.aspx\">Prosbectws Tai<\/a> eleni, sef dogfen gyhoeddus a gyhoeddir yn flynyddol sy\u2019n nodi anghenion tai Cyngor Conwy, ac a rennir yn uniongyrchol \u00e2 Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig.<\/p>\n\n<figure class=\"wp-block-image size-full\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"940\" height=\"471\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/09\/image-15.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-3987\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/09\/image-15.png 940w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/09\/image-15-300x150.png 300w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/09\/image-15-768x385.png 768w\" sizes=\"auto, (max-width: 940px) 100vw, 940px\" \/><\/figure>\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-alpha-channel-opacity\"\/>\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Bodloni anghenion llety pobl ddiamddiffyn<\/h3>\n\n<p>Ein nod yw symud darpariaeth tai ar gyfer pobl ddiamddiffyn oddi wrth dai a rennir, a ddefnyddid yn draddodiadol; nid yw\u2019r rhain yn ddewis a ffefrir nac yn ddewis priodol mwyach ar gyfer preswylwyr, a gallant fod yn ddrud i\u2019r Cyngor os oes ystafelloedd yn wag am unrhyw gyfnod. Ar y cyd \u00e2 chydweithwyr Tai, yr ydym wedi gallu trosglwyddo dau breswylydd o d\u0177 ein prosiect Pobl Ddiamddiffyn yn Abergele i leoliad llety mwy priodol, nad yw\u2019n cael ei rannu, ac mae hyn felly yn rhoi amgylchedd tebycach i gartref iddynt. <\/p>\n\n<p>Ers hynny, mae\u2019r t\u0177 wedi ei addasu i fodloni anghenion unigolyn ifanc cymhleth iawn, y mae angen gofal 24 awr arno \/ arni. Mae hyn yn darparu amgylchedd sefydlog i reoli ymddygiad yr unigolyn, a gall y t\u00eem amlbroffesiwn sy\u2019n ymwneud \u00e2\u2019i ofal \u2019r\u0175an gynllunio tuag at leihau anghenion a staffio; ac, yn y pen draw, bydd yn cyflawni ei ddyhead i fyw\u2019n annibynnol.<\/p>\n\n<p>Mae\u2019r Gwasanaeth Pobl Ddiamddiffyn yn cymryd rhan yng Ngweithgor Gofal Cymdeithasol a Thai, i gael budd o\u2019i allu i gyrraedd Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig ac i sicrhau bod defnyddwyr gwasanaeth sy\u2019n agored i ni yn cael eu hystyried mewn unrhyw gynlluniau tai sydd ar ddod.  Dros y flwyddyn i ddod byddwn yn parhau i adolygu cyfleoedd tai ac anghenion ein defnyddwyr gwasanaeth drwy banel Llety Pobl Ddiamddiffyn amlddisgyblaethol.<\/p>\n\n<p>Yr ydym, felly, yn parhau i eiriol dros unigolion ac ymdrechu tuag at ein nod o ddarparu ar gyfer y rheiny y mae arnynt angen cartref diogel, sefydlog a fforddiadwy. <\/p>\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-alpha-channel-opacity\"\/>\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Strategaeth Llety ar gyfer Oedolion Anabl<\/h3>\n\n<p>Yn adroddiad y llynedd dywedwyd y byddem yn creu strategaeth llety sy\u2019n canolbwyntio ar ddarparu llety priodol ar gyfer anghenion oedolion anabl sydd hefyd yn cynnal eu lles. Mae ein Swyddog Datblygu Gwasanaeth yn arwain y gwaith hwn, a bydd yn ymgysylltu \u00e2 defnyddwyr gwasanaeth i greu cynllun gweithredu ar gyfer y bum mlynedd nesaf. Gobeithiwn y bydd ar gael yn gynnar yng nghyfnod adrodd 2025\/26. <\/p>\n\n<p>Parhawn i ddarparu gwasanaethau Byw \u00e2 Chymorth yng Nghonwy. Erbyn mis Ebrill 2025 yr ydym wedi agor pum lleoliad mewn deuddeng mis. Mae un o\u2019r rhain yn disodli eiddo arall nad yw\u2019n addas mwyach, ond mae\u2019n darparu capasiti ychwanegol. Ar hyn o bryd mae cyllid wedi ei gymeradwyo ar gyfer un prosiect arall, a fydd yn darparu chwe fflat yn Llandudno ar gyfer pobl ddiamddiffyn ac anabl. Yr ydym wedi derbyn cyllid gan Ogledd Cymru Gyda\u2019n Gilydd i adolygu ein gwasanaethau Byw \u00e2 Chymorth dros y ddwy flynedd nesaf.<\/p>\n\n<p>Mae\u2019r adolygiad yn canolbwyntio ar ystod o faterion, yn cynnwys:<\/p>\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Ansawdd y gwasanaethau a ddarperir o ran y sail gwerthoedd ac ethos Byw \u00e2 Chymorth<\/li>\n\n\n\n<li>Y canlyniadau a gyflawnir ar gyfer unigolion<\/li>\n\n\n\n<li>Sicrhau bod Cynlluniau Cefnogi Personol yn canolbwyntio ar yr unigolyn ac yn cael eu cydlunio \u00e2 phobl<\/li>\n\n\n\n<li>Sicrhau bod pobl yn rhan o\u2019r broses o adolygu eu Cynlluniau Cefnogi Personol<\/li>\n\n\n\n<li>Sicrhau bod darparwyr yn canolbwyntio ar gymryd risgiau cadarnhaol<\/li>\n\n\n\n<li>Bod darparwyr yn defnyddio dulliau sy\u2019n canolbwyntio ar yr unigolyn er mwyn cefnogi pobl<\/li>\n\n\n\n<li>Deall sut mae darparwyr yn cefnogi pobl i wneud dewisiadau yngl\u0177n \u00e2\u2019r hyn y maent yn ei wneud i gyflawni eu canlyniadau<\/li>\n\n\n\n<li>Deall y ffordd y mae cefnogaeth yn cael ei darparu<\/li>\n\n\n\n<li>Sicrhau\u2019r gwerth gorau<\/li>\n\n\n\n<li>Archwilio dewisiadau amgen posibl i gefnogi annibyniaeth unigolyn; er enghraifft, Teleofal, neu gefnogaeth a rennir gyda gwasanaethau eraill<\/li>\n\n\n\n<li>Gwneud argymhellion i\u2019r gr\u0175p prosiect gweithredol yn ymwneud ag unrhyw aildendro gwasanaethau y nodwyd eu bod yn angenrheidiol<\/li>\n\n\n\n<li>Cefnogi\u2019r newid i gomisiynu gan ganolbwyntio ar ganlyniadau yn hytrach na dull amser a thasg wrth ddarparu gwasanaeth o\u2019r maint cywir i fodloni canlyniadau\u2019r holl denantiaid<\/li>\n\n\n\n<li>Datblygu proses i sicrhau bod unigolion yn profi adolygiad cyfannol o\u2019u canlyniadau lles, fel creu rhestr wirio o gwestiynau i ategu dadansoddiad o\u2019r dystiolaeth er mwyn cefnogi darpariaeth gwasanaeth a chanlyniadau<\/li>\n\n\n\n<li>Cyfrannu at y Strategaeth Llety mewn perthynas \u00e2 gwasanaethau presennol ac angen yn y dyfodol <\/li>\n\n\n\n<li>Cefnogi\u2019r newid i wasanaeth sy\u2019n canolbwyntio fwy ar ddatblygiad, sy\u2019n cefnogi pobl i fynd rhagddynt i fwy o annibyniaeth<\/li>\n<\/ul>\n\n<p>Mae argaeledd gofal preswyl yng Nghonwy a ledled y rhanbarth a all gefnogi pobl sydd ag anghenion cymhleth iawn yn gyfyngedig; byddem yn cael budd o fwy o gapasiti o fewn gofal preswyl yn rhan o lwybr unigolion tuag at fwy o annibyniaeth drwy ddarpariaeth Byw \u00e2 Chymorth. <\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Safonau ansawdd Gwasanaethau Plant Datblygu a darparu llety o ansawdd uchel i blant a phobl ifanc drwy drawsnewid lleoliadau preswyl a mewnol lleol. Mae\u2019r Rhaglen ar gyfer Trawsnewid Gwasanaethau Preswyl Plant bellach ar waith ac yn ymateb i strategaeth leoliadau Conwy 2022-2027, y pwysau sylweddol ar gyllideb Lleoliadau Annibynnol, a rhaglen Dileu Elw Llywodraeth Cymru [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":5,"featured_media":0,"parent":4148,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"_seopress_robots_primary_cat":"","_seopress_titles_title":"","_seopress_titles_desc":"","_seopress_robots_index":"","_genesis_hide_title":false,"_genesis_hide_breadcrumbs":false,"_genesis_hide_singular_image":false,"_genesis_hide_footer_widgets":false,"_genesis_custom_body_class":"","_genesis_custom_post_class":"","_genesis_layout":"","footnotes":""},"class_list":{"0":"post-4122","1":"page","2":"type-page","3":"status-publish","5":"entry"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/4122","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/5"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=4122"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/4122\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":4125,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/4122\/revisions\/4125"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/4148"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=4122"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}