{"id":4066,"date":"2025-10-23T15:34:36","date_gmt":"2025-10-23T14:34:36","guid":{"rendered":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/?page_id=4066"},"modified":"2025-10-23T15:34:40","modified_gmt":"2025-10-23T14:34:40","slug":"gwybodaeth-arall-2","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/adroddiad-2024-25\/gwybodaeth-arall-2\/","title":{"rendered":"Gwybodaeth arall"},"content":{"rendered":"\n<p>Arolygon ac adolygiadau<\/p>\n\n\n\n<p>Yn y flwyddyn 2024\/25 cafwyd chwe arolygiad allanol o wasanaethau gofal cymdeithasol, a restrir yn y tabl isod. <\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-table\"><table class=\"has-fixed-layout\"><tbody><tr><td><strong>Teitl<\/strong><\/td><td><strong>Corff Archwilio<\/strong><\/td><td><strong>Dyddiad<\/strong><\/td><td><strong>Nifer yr argymhellion<\/strong><\/td><td><strong>Cyflwynwyd i\u2019r pwyllgor craffu<\/strong><\/td><\/tr><tr><td>Arolygiad Llys Gogarth<\/td><td>AGC<\/td><td>Ebrill 2024<\/td><td>0<\/td><td>Pwyllgor Craffu Gofal Cymdeithasol 27\/11\/24<\/td><\/tr><tr><td>Arolygiad Bron y Nant<\/td><td>AGC<\/td><td>Ebrill 2024<\/td><td>0<\/td><td>Pwyllgor Craffu Gofal Cymdeithasol 27\/11\/24<\/td><\/tr><tr><td>Arolygiad ar y Cyd o Gyfiawnder Ieuenctid yng Nghonwy a Sir Ddinbych<\/td><td>Arolygiaeth Prawf EF, AGC, Estyn<\/td><td>Mai 2024<\/td><td>7 argymhelliad dros 5 thema eang<\/td><td>Pwyllgor Craffu Gofal Cymdeithasol 27\/11\/24<\/td><\/tr><tr><td>Arolygiad Llys Elian<\/td><td>AGC<\/td><td>Medi 2024<\/td><td>1 cam blaenoriaeth 2 faes i\u2019w wella<\/td><td>I\u2019w gadarnhau<\/td><\/tr><tr><td>Trefniadau ar gyfer comisiynu  gwasanaethau <\/td><td>Archwilio Cymru<\/td><td>Tachwedd 2024<\/td><td>Adroddiad terfynol heb ei dderbyn eto<\/td><td>I\u2019w gadarnhau<\/td><\/tr><tr><td>Arolygiad o Wasanaethau Maethu Conwy<\/td><td>AGC<\/td><td>Tachwedd 2024<\/td><td>Adroddiad terfynol heb ei dderbyn eto<\/td><td>I\u2019w gadarnhau<\/td><\/tr><\/tbody><\/table><\/figure>\n\n\n\n<p class=\"has-vivid-cyan-blue-color has-text-color has-link-color wp-elements-fdd8ae0e005f0a7a11a6ee7ccd233d31\"><strong>Gwnaed argymhellion ar gyfer gwella yn yr adroddiadau canlynol<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Ym mis Mai 2024, cynhaliodd Arolygiaeth Prawf EF arolygiad ar y cyd o Wasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Conwy a Sir Ddinbych. Mae hwn yn wasanaeth ar y cyd ar gyfer y ddwy sir. Arolygwyd y gwasanaeth a dod i farn yngl\u0177n \u00e2 thri o feysydd cyffredinol: trefniadau\u2019r sefydliad ar gyfer darparu\u2019r gwasanaeth, ansawdd y gwaith a wnaed \u00e2 phant a ddedfrydwyd gan y llysoedd, ac ansawdd y gwaith ar ddatrysiadau y tu allan i\u2019r llys. Yr oedd amseriad yr arolygiad hwn yn heriol gan ei fod yng nghanol newidiadau sylweddol i\u2019r gwasanaeth. Er gwaethaf hynny, canfu\u2019r arolygwyr d\u00eem arwain cryf a gwybodus, a oedd wedi bod yn allweddol wrth weithio gyda staff i ddarparu gwasanaeth i blant a phobl ifanc. <\/p>\n\n\n\n<p>Dywedodd yr arolygwyr fod y t\u00eem wedi cyflawni hyn er gwaethaf prinder staff sylweddol, a hefyd wedi rhoi polis\u00efau a ffyrdd newydd o weithio ar waith. Canfu\u2019r arolygwyr hefyd enghreifftiau cadarnhaol o waith sy\u2019n cael ei ddarparu i blant, a dywedwyd bod hyn yn dyst i ymrwymiad a gwytnwch y t\u00eem arweinyddiaeth a\u2019r gr\u0175p staff. Canfu\u2019r arolygwyr fod angen datblygu arweinyddiaeth strategol a threfniadau llywodraethu\u2019r gwasanaeth yn sylweddol, a nodwyd bod y gwasanaeth \u201cAngen Gwella\u201d.  <\/p>\n\n\n\n<p>Ym mis Medi 2024, arolygwyd Llys Elian, ein cartref gofal preswyl ar gyfer pobl h\u0177n sy\u2019n byw gyda dementia, gan AGC. Rhoddodd yr arolygydd hysbysiad blaenoriaeth yn ymwneud \u00e2\u2019r trefniadau yn y cartref ar gyfer rheoli meddyginiaeth. Cynhaliwyd adolygiad trylwyr, a rhoddwyd nifer o welliannau ar waith yn y cartref. Nododd AGC ddau faes i\u2019w gwella hefyd. Mae un yn ymwneud \u00e2\u2019r man yn yr awyr agored ar gyfer preswylwyr yn y cartref, a gafodd sylw ar unwaith. Yr ail oedd adolygu\u2019r lefelau staffio i sicrhau eu bod yn ddigonol i ddiwallu anghenion y preswylwyr. Mae\u2019r adolygiad hwn wedi digwydd a gwnaed rhai newidiadau.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading has-black-color has-text-color has-link-color has-medium-font-size wp-elements-6daf9ec5b052d3e0c0727b8d43dfb15a\"><h2><a name=\"_Toc211605574\"><\/a>Cwynion a sylwadau<\/h2><\/h2>\n\n\n\n<p>Mae hawl gan bawb sy\u2019n gwneud cwyn am y Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghymru i gael eu clywed. Rhaid i\u2019w barn, eu dymuniadau a\u2019u teimladau gael eu clywed, a dylai eu pryderon gael eu datrys yn gyflym ac yn effeithiol.<\/p>\n\n\n\n<p>Gall cwynion dynnu sylw at y newidiadau sydd eu hangen yn y gwasanaethau. Mae\u2019n bwysig bod Awdurdodau Lleol yn dysgu o gwynion i nodi lle y dylid newid a gwella\u2019r gwasanaethau.<\/p>\n\n\n\n<p>Credwn fod delio\u2019n effeithiol \u00e2 chwynion yn rhan hollbwysig o\u2019n cyfrifoldebau, ac mae system gadarn i ddelio \u00e2 chwynion yn elfen hanfodol o sicrhau bod unigolion yn derbyn y gwasanaethau y mae ganddynt hawl iddynt. <\/p>\n\n\n\n<p>Mae hyn yn ein galluogi i:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Gydnabod pan fo camgymeriadau wedi eu gwneud<\/li>\n\n\n\n<li>Eu cywiro yn effeithiol ac ymddiheuro pan fo hynny&#8217;n briodol<\/li>\n\n\n\n<li>Sicrhau ein bod yn dysgu gwersi o gwynion <\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Y rhesymau mwyaf cyffredin dros wneud cwyn yw:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Eisiau cael eu clywed<\/li>\n\n\n\n<li>Eisiau sicrhau bod pryderon yn cael eu cydnabod a\u2019u cymryd o ddifrif<\/li>\n\n\n\n<li>Eisiau sicrhau bod camau priodol yn cael eu cymryd i ddatrys problemau ac i osgoi digwyddiadau tebyg yn y dyfodol<\/li>\n\n\n\n<li>I gael ymddiheuriad<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Yn ystod 2023\/2024, derbyniasom 15 o gwynion ffurfiol. Yr oedd naw ohonynt yn ymwneud \u00e2 Gwasanaethau Oedolion a Chymunedol Integredig a chwech yn ymwneud \u00e2 Gwasanaethau Plant, Teuluoedd a Diogelu. Yr oedd y mwyafrif (7) o ganlyniad i anghytuno \u00e2 chamau gweithredu yr oedd y Gwasanaethau Cymdeithasol wedi eu cymryd, a\u2019r gweddill o ganlyniad i berthynas waith yn chwalu, anfodlonrwydd gyda\u2019r gofal a ddarparwyd, pryderon ariannol, diffyg cyfathrebu gan y Gweithiwr Cymdeithasol, diffyg cefnogaeth, ac anfodlonrwydd gydag ymddygiad neu agwedd Gweithiwr Cymdeithasol. <\/p>\n\n\n\n<p>Gall fod yn anodd nodi them\u00e2u unigol mewn perthynas \u00e2 chwynion yn ymwneud \u00e2\u2019r Gwasanaethau Cymdeithasol oherwydd mae natur gymhleth i lawer ohonynt ac maent yn cynnwys mwy nag un elfen.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r graff isod yn dangos y duedd ddisgynnol yn nifer y cwynion yr ydym wedi eu derbyn o flwyddyn i flwyddyn.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"has-vivid-cyan-blue-color has-text-color has-link-color wp-elements-f9d5894f39f225a1b71968d983af38fe\"><strong>Cwynion a dderbyniwyd rhwng 2019 a 2024<\/strong><\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-full\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"476\" height=\"285\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/10\/Complaints-Graph-Cymraeg.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-4074\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/10\/Complaints-Graph-Cymraeg.jpg 476w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/10\/Complaints-Graph-Cymraeg-300x180.jpg 300w\" sizes=\"auto, (max-width: 476px) 100vw, 476px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p>Er y gallwn weld gostyngiad yn nifer y cwynion ffurfiol, mae cynnydd wedi bod mewn gweithgarwch cwynion yn gyffredinol. Mae hyn yn cynnwys dyletswyddau eraill a gyflawnir gan y Gwasanaeth Cwynion fel cyfeirio pobl at adrannau eraill, partneriaid neu asiantaethau allanol, atgyfeirio achosion at Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, cadarnhau nad yw rhai cwynion yn briodol, neu eu datrys heb ddefnyddio\u2019r broses gwynion ffurfiol.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"has-vivid-cyan-blue-color has-text-color has-link-color wp-elements-1d8d714822a9dfd5c91f870f519d6e64\"><strong>Data gweithgarwch allweddol<\/strong><\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Yn ystod 2023\/2024 cydnabuwyd pob cwyn Cam 1 gennym (pedwar ar ddeg ohonynt) drwy lythyr neu e-bost o fewn dau ddiwrnod gwaith.<\/li>\n\n\n\n<li>Cwblhawyd un ar ddeg ohonynt o fewn yr amserlen o 15 diwrnod gwaith, ac yr oedd rhesymau dilys neu anochel dros y rheiny na chwblhawyd o fewn yr amserlen.<\/li>\n\n\n\n<li>Dim ond un ymchwiliad Cam 2 a gynhaliwyd yn ystod y flwyddyn adrodd, ac, oherwydd cymhlethdod yr achos, nis cwblhawyd o fewn yr amserlen o 25 diwrnod gwaith.<\/li>\n\n\n\n<li>Costiodd penodi Ymchwilwyr Annibynnol neu Unigolion Annibynnol i gwblhau proses ymchwilio Cam 2 \u00a38,708.55, sy\u2019n is na\u2019r flwyddyn ariannol flaenorol.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p class=\"has-vivid-cyan-blue-color has-text-color has-link-color wp-elements-4a9564b194564f4feba2f1650a888bcd\"><strong>Gwersi a ddysgwyd<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Dyma\u2019r gwersi mwyaf arwyddocaol a ddeilliodd o\u2019r cwynion yn ystod y flwyddyn ddiwethaf:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Deall y pwysau ar aelodau staff wrth ddelio ag achwynwyr di-baid ac annifyr, sy\u2019n aml yn defnyddio iaith fychanol a lefel ormodol o gyfathrebu emosiynol (yr ydym yn gweithio ar gynnig mwy o amddiffyniad yn y dyfodol)<\/li>\n\n\n\n<li>Cynnal digwyddiadau dysgu a myfyrio yn dilyn yr Ymchwiliadau Annibynnol Cam 2 cymhleth er mwyn gwella arferion yn y dyfodol<\/li>\n\n\n\n<li>Rhannu polisi t\u00e2l Conwy a thaflenni gydag unigolion mewn modd amserol a sicrhau eu bod yn eu deall<\/li>\n\n\n\n<li>Gwahanu pryderon diogelu a godwyd yn rhan o gwynion mwy er mwyn osgoi dryswch a dyblygu gwaith<\/li>\n\n\n\n<li>Cyfarfod wyneb yn wyneb wrth geisio datrys cwynion, gan fod hyn yn fwy llwyddiannus nag ymateb ysgrifenedig<\/li>\n\n\n\n<li>Rheoli disgwyliadau yngl\u0177n \u00e2\u2019r hyn y gall y broses gwynion ei gyflawni a\u2019r hyn na all ei gyflawni<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p class=\"has-vivid-cyan-blue-color has-text-color has-link-color wp-elements-6c27b500be1fea7455817617424203a3\"><strong>Canmoliaeth<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Yn ogystal \u00e2 chwynion, yr ydym hefyd yn derbyn llawer o ganmoliaeth gan unigolion sy\u2019n derbyn gofal a chymorth, a\u2019u hanwyliaid. Ystyrir canmoliaeth hefyd yn wybodaeth bwysig y gellir ei defnyddio i ganfod meysydd lle mae gennym arferion da. Yr ydym yn eu cofnodi ac adrodd amdanynt wrth reolwyr i\u2019w rhannu \u00e2\u2019r staff fel adborth cadarnhaol. <\/p>\n\n\n\n<p>Yn ystod 2023\/2024, cawsom gyfanswm o 189 o ganmoliaethau: 172 i Wasanaethau Oedolion a Chymunedol Integredig, a 17 i Wasanaethau Plant, Teuluoedd a Diogelu. Mae hyn yn gynnydd o 38 ers y flwyddyn adrodd flaenorol.<\/p>\n\n\n\n<p>Dyma ddetholiad o\u2019r canmoliaethau a dderbyniwyd:<\/p>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p><em>Diolch o waelod fy nghalon am eich gofal anhygoel dros fy mam. Rydych i gyd mor hyfryd a gofalgar. Fe roesoch chi nerth i mi ddal i fynd a rhoi cymaint o help i Mam a\u2019i gwneud hi i chwerthin.<\/em><\/p>\n<\/blockquote>\n\n\n\n<p><strong>T\u00eem Ailalluogi, Llandudno<\/strong><\/p>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p><em>I bawb yn Llys Elian, diolch yn fawr am helpu a gofalu am \u2018A\u2019 dros y misoedd diwethaf. Roedd hi mewn dwylo da, ac, mewn gwirionedd, fe wnaeth hi fwynhau ei hamser gyda chi i gyd. Rydych chi\u2019n gwneud gwaith ardderchog ac yn helpu lle mae angen.<\/em><\/p>\n<\/blockquote>\n\n\n\n<p><strong>Cartref preswyl Llys Elian ar gyfer yr henoed bregus eu meddwl<\/strong><\/p>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p><em>Fe hoffwn i ddweud bod \u2018B\u2019 yn weithiwr cymdeithasol rhagorol. \u201cRoedd yn broffesiynol iawn, ac ar yr un pryd roeddwn i\u2019n teimlo\u2019n gyfforddus dweud popeth. Roedd llawer o hynny yn ymwneud \u00e2 chyfnodau anodd yn fy ngorffennol. Ches i ddim fy marnu \u2013 dim unwaith. Roedd yn gwrando\u2019n amyneddgar, gyda pharch, ac fe wnaeth hynny i mi deimlo\u2019n well.<\/em><\/p>\n<\/blockquote>\n\n\n\n<p><strong>Gwasanaeth Plant sy\u2019n Derbyn Gofal<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Mae hyn yn rhoi blas yn unig o weithgarwch cwynion a chanmoliaethau yng nghyfnod 2023\/2024. Cyflwynwyd yr adroddiad blynyddol llawn i\u2019r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar 22 Gorffennaf 2024, ac mae i\u2019w weld o dudalen 76 ymlaen yn y <a href=\"https:\/\/modgovpub-cym.secure.conwy.gov.uk\/documents\/g10418\/Pecyn%20adroddiadau%20cyhoeddus%20Dydd%20Llun%2022-Gorff-2024%2010.00%20Pwyllgor%20Llywodraethu%20ac%20Archwilio.pdf?T=10\">pecyn dogfennau cyhoeddus<\/a>.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Arolygon ac adolygiadau Yn y flwyddyn 2024\/25 cafwyd chwe arolygiad allanol o wasanaethau gofal cymdeithasol, a restrir yn y tabl isod. Teitl Corff Archwilio Dyddiad Nifer yr argymhellion Cyflwynwyd i\u2019r pwyllgor craffu Arolygiad Llys Gogarth AGC Ebrill 2024 0 Pwyllgor Craffu Gofal Cymdeithasol 27\/11\/24 Arolygiad Bron y Nant AGC Ebrill 2024 0 Pwyllgor Craffu Gofal [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":11,"featured_media":0,"parent":4148,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"_seopress_titles_title":"","_seopress_titles_desc":"","_seopress_robots_index":"","_seopress_robots_follow":"","_seopress_robots_imageindex":"","_seopress_robots_snippet":"","_seopress_robots_primary_cat":"","_seopress_robots_breadcrumbs":"","_seopress_robots_freeze_modified_date":"","_seopress_robots_custom_modified_date":"","_seopress_robots_canonical":"","_seopress_social_fb_title":"","_seopress_social_fb_desc":"","_seopress_social_fb_img":"","_seopress_social_fb_img_attachment_id":0,"_seopress_social_fb_img_width":0,"_seopress_social_fb_img_height":0,"_seopress_social_twitter_title":"","_seopress_social_twitter_desc":"","_seopress_social_twitter_img":"","_seopress_social_twitter_img_attachment_id":0,"_seopress_social_twitter_img_width":0,"_seopress_social_twitter_img_height":0,"_seopress_redirections_value":"","_seopress_redirections_enabled":"","_seopress_redirections_enabled_regex":"","_seopress_redirections_logged_status":"","_seopress_redirections_param":"","_seopress_redirections_type":0,"_seopress_analysis_target_kw":"","_genesis_hide_title":false,"_genesis_hide_breadcrumbs":false,"_genesis_hide_singular_image":false,"_genesis_hide_footer_widgets":false,"_genesis_custom_body_class":"","_genesis_custom_post_class":"","_genesis_layout":"","footnotes":""},"class_list":{"0":"post-4066","1":"page","2":"type-page","3":"status-publish","5":"entry"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/4066","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/11"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=4066"}],"version-history":[{"count":6,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/4066\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":4076,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/4066\/revisions\/4076"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/4148"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=4066"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}