{"id":4052,"date":"2025-10-23T15:36:24","date_gmt":"2025-10-23T14:36:24","guid":{"rendered":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/?page_id=4052"},"modified":"2025-10-23T15:36:28","modified_gmt":"2025-10-23T14:36:28","slug":"pobl","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/adroddiad-2024-25\/pobl\/","title":{"rendered":"Pobl"},"content":{"rendered":"\n<p>Safonau ansawdd<\/p>\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Mae pawb yn bartneriaid cyfartal sydd \u00e2 llais, dewis a rheolaeth dros eu bywydau ac maent yn gallu cyflawni&#8217;r hyn sy\u2019n bwysig iddyn nhw<\/li>\n\n\n\n<li>Mae arweinyddiaeth effeithiol yn amlwg ar bob lefel gyda gweithlu medrus, cymwys, sy\u2019n cael cefnogaeth ac sy\u2019n gweithio tuag at weledigaeth a rennir<\/li>\n<\/ul>\n\n<h2 class=\"wp-block-heading has-white-color has-vivid-cyan-blue-to-vivid-purple-gradient-background has-text-color has-background has-link-color has-x-large-font-size wp-elements-aca043b931eba8fc6a3114ef2c92fd87\" style=\"font-style:italic;font-weight:700\">Gwasanaethau Plant<\/h2>\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">T\u00eem Teuluoedd Integredig Lleol<\/h3>\n\n<p>Mae ein gwaith yn cwmpasu tri dull gweithredu:<\/p>\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Asesu a fformiwleiddio: gweithio gyda theuluoedd i ddeall yr ymddygiadau sy\u2019n herio a nodi ffactorau yn yr unigolion neu\u2019r amgylchedd sy\u2019n cynnal   neu\u2019n achosi ymddygiadau, a\u2019r hyn sydd angen newid<\/li>\n\n\n\n<li>Ymyriadau: gall hyn fod ar ffurf cynlluniau cymorth ymddygiad cadarnhaol, asesu a phroffilio, arweiniad rhyngweithiol, grwpiau gwytnwch teuluoedd a gweithdai<\/li>\n\n\n\n<li>Cyngor a chyfeirio: os na allwn gefnogi teuluoedd, byddwn yn ymdrechu i archwilio dewisiadau eraill<\/li>\n<\/ul>\n\n<p>Yn ystod y ddeuddeng mis hyd at fid Tachwedd 2024, derbyniasom 217 o atgyfeiriadau, ac yr oedd 66 o\u2019r rheiny o Sir Conwy. Wrth i ni weithio gyda theuluoedd byddwn yn mesur faint o broblem yw\u2019r ymddygiadau heriol cyn ymyrraeth ac wedi ymyrraeth. Mae\u2019r canlyniadau\u2019n dangos bod 65% o\u2019r teuluoedd a gefnogir gan y Gwasanaeth Teuluoedd Integredig Lleol wedi gweld gwelliant sylweddol, a chafwyd adborth ardderchog gan deuluoedd:<\/p>\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p>Diolch yn fawr i chi am eich amser \u2013 mae wedi bod yn fuddiol iawn cael rhywun i siarad ag o. Roeddwn i eisiau dweud wrthych chi hefyd eich bod yn gwneud gwaith anhygoel. Rydych yn amlwg yn gwneud gwahaniaeth enfawr i fywydau llawer o blant a\u2019u teuluoedd. All o ddim bod yn hawdd, ond mae pobl fel chi yn gwneud y byd yn lle gwell. <\/p>\n<\/blockquote>\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p>Gwych! Diolch i chi am ei roi o yng nghanol hyn i gyd bob amser, ac am ymdrechu.  Rwyf wir yn teimlo fy mod yn cael fy nghefnogi gennych chi.<\/p>\n<\/blockquote>\n\n<p>Yr ydym yn profi heriau, fodd bynnag, ac mae\u2019r galw\u2019n uchel, ac yn cynyddu, am y math hwn o wasanaeth. Mae llawer o deuluoedd yn teimlo eu bod yn colli rheolaeth yn emosiynol, eu bod yn ddigyswllt ac anniogel, ac mae\u2019r capasiti ar gyfer asiantaethau eraill fel Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc, y Gwasanaethau Cymdeithasol a chefnogaeth addysgol arbenigol yn gyfyngedig, gydag amseroedd aros hir. Yr ydym wedi dysgu\u2019r canlynol:<\/p>\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Mae cydweithio \u00e2 theuluoedd, gan ddefnyddio dull sy\u2019n seiliedig ar gryfderau, yn allweddol<\/li>\n\n\n\n<li>Mae\u2019n bwysig gweithio gyda theuluoedd ar yr amser iawn \u2013 pan fyddant yn barod ac yn fodlon ymgysylltu \u00e2 ni a chyflawni newid.<\/li>\n\n\n\n<li>Er bod t\u00eem amlddisgyblaethol yn amlwg yn fuddiol \u2013 ar gyfer momentwm gweithredol ac i brofiad y teuluoedd o gefnogaeth \u2013 gall ymdrin \u00e2 gwahanol bolis\u00efau, gweithdrefnau a phrosesau gan wahanol sefydliadau fod yn her.<\/li>\n\n\n\n<li>Mae lleoedd gwag hirdymor ymysg ein rolau arbenigol yn cael effaith ar effeithiolrwydd y t\u00eem a chyflymder y broses, sy\u2019n profi bod y rolau hyn yn allweddol ar gyfer llwyddiant y model.<\/li>\n<\/ul>\n\n<p>Oherwydd y swyddi iechyd gweigion, oedwyd atgyfeiriadau ym mis Awst 2024 a buom yn canolbwyntio ar adolygu\u2019r rhestr aros a blaenoriaethu atgyfeiriadau. Gobeithiwn recordio\u2019r gweithdai yr ydym yn eu cynnal a\u2019u rhannu gydag asiantaethau eraill a theuluoedd drwy <a href=\"https:\/\/www.denbighshire.gov.uk\/cy\/iechyd-a-gofal-cymdeithasol\/plant-pobl-ifanc-a-theuluoedd\/tim-integredig-teuluoedd-lleol.aspx\">dudalen we Gwasanaeth Teuluoedd Integredig Lleol<\/a>.<\/p>\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-alpha-channel-opacity\"\/>\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid: ein cynllun gweithredu \u00f4l-arolygiad<\/h3>\n\n<p>Yn dilyn arolygiad ar y cyd gan Arolygiaeth Prawf EF ym mis Ionawr 2024, lluniwyd Cynllun Gwella Cyfiawnder Ieuenctid Conwy a Sir Ddinbych gennym i roi sylw i\u2019r argymhellion a wnaed. Mae\u2019r cynllun yn canolbwyntio ar gryfhau trefniadau llywodraethu, arweinyddiaeth a threfniadau gweithio mewn partneriaeth Bwrdd Rheoli Cyfiawnder Ieuenctid i sicrhau bod y gwasanaeth yn gallu bodloni anghenion plant a phobl ifanc, wrth amddiffyn y cyhoedd hefyd.<\/p>\n\n<p>Cafwyd saith argymhelliad o\u2019r arolygiad, ar draws amryfal sefydliadau. Mae Bwrdd Rheoli Cyfiawnder Ieuenctid wedi gwneud gwelliannau sylweddol yn chwim dros yr 11 mis diwethaf, gan ymrannu i fwrdd gweithredol a bwrdd strategol, gyda chefnogaeth y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid Cenedlaethol. Diweddarwyd Cynllun Gwella Arolygiaeth Prawf EF yn sgil y cynnydd a wnaed, ac mae\u2019n ffurfio cyfran sylweddol o\u2019r Cynllun Cyfiawnder Ieuenctid Strategol blynyddol, a gafodd ei gyflwyno a\u2019i gymeradwyo gan Fwrdd Cyfiawnder Ieuenctid ym mis Mehefin 2024.<\/p>\n\n<p>Ar wah\u00e2n i\u2019r argymhellion yn ymwneud \u00e2 Phrawf ac Iechyd, rhoddwyd yr holl argymhellion ar waith, ac mae llwybrau a strwythurau newydd yn bodoli i ategu\u2019r gwaith o ddarparu gwasanaethau Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid. Yr ydym wedi adlewyrchu hyn yn ymarferol, gyda chytundebau partneriaeth a llwybrau newydd y cytunwyd arnynt yn sail.<\/p>\n\n<p>Gwyddom fod gwelliannau pellach yn angenrheidiol, fodd bynnag, gan nad yw\u2019r argymhellion yn ymwneud ag Iechyd a Phrawf wedi eu rhoi ar waith, er gwaethaf uwchgyfeirio ar lefel y Prif Weithredwr, Rheoleiddwyr a Gweinidogion. Parhawn i fonitro cynnydd a gweithio gyda\u2019n partneriaid i sicrhau bod yr holl argymhellion yn derbyn sylw.<\/p>\n\n<p>Gellwch ddarllen mwy am yr arolygiad hwn ar <a href=\"https:\/\/www.justiceinspectorates.gov.uk\/hmiprobation\/inspections\/cd2024\/\">wefan Arolygiaeth Prawf EF<\/a>.<\/p>\n\n<h2 class=\"wp-block-heading has-white-color has-vivid-cyan-blue-to-vivid-purple-gradient-background has-text-color has-background has-link-color has-x-large-font-size wp-elements-f3ce5ded6711d59ac6c016154693d947\" style=\"font-style:italic;font-weight:700\">Gwasanaethau Oedolion<\/h2>\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Gwella ein cynnig i bobl awtistig a niwrowahanol<\/h3>\n\n<p>Yn adroddiad y llynedd trafodwyd ein Swyddog Arweiniol Cyflwr Sbectrwm Awtistig newydd, a\u2019i gynlluniau i gael gwared \u00e2 rhwystrau i unigolion dderbyn cefnogaeth briodol. Mae llawer o weithgarwch wedi bod yn y maes hwn yn ystod y misoedd diwethaf, ac mae rhan fawr o\u2019r gweithgarwch hwnnw wedi bod yn mynd i\u2019r afael \u00e2\u2019r cynllun gweithredu yr ydym wedi ei osod i ni\u2019n hunain.<\/p>\n\n<h4 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color has-link-color wp-elements-a746ecc0f08f9a5cbaaa5d5b3d816f8f\">Gwella ymwybyddiaeth a gwybodaeth staff<\/h4>\n\n<p>Buom yn gweithio gyda\u2019r T\u00eem Niwrowahaniaeth Cenedlaethol i drefnu a hyrwyddo gweminarau 30 munud i\u2019r holl staff yn canolbwyntio ar niwrowahaniaeth, a gweminarau gwybodaeth, cyngor a chymorth yn ymwneud \u00e2 niwrowahaniaeth i staff yn ein timau cyswllt cyntaf. Mae\u2019r e-ddysgu\u2019n orfodol i holl staff Gofal Cymdeithasol CBSC. Mae cyfraddau cwblhau wedi cynyddu\u2019n sylweddol; hyd yma mae 624 aelod o staff wedi cwblhau hyfforddiant ymwybyddiaeth o awtistiaeth, a 94 oedd wedi ei gwblhau yr amser hwn y llynedd.<\/p>\n\n<h4 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color has-link-color wp-elements-6308b31984dfb12ddd7a38eef08e4024\">Gwella ymwybyddiaeth a gwybodaeth y cyhoedd<\/h4>\n\n<p>Mae rhaglen o ddigwyddiadau codi ymwybyddiaeth wedi annog mwy o weithwyr i recriwtio pobl awtistig. Yr oedd bws profiad realaeth awtistiaeth mewn digwyddiad i gyflogwyr Conwy ym Mharc Eirias er mwyn i gyflogwyr ac aelodau o\u2019r cyhoedd gael profiad rhithwir. Yn ogystal, yr ydym wedi trefnu a chynnal dau ddigwyddiad arall gyda\u2019n partneriaid: digwyddiad yn benodol ar niwrowahaniaeth ar gyfer cyflogwyr mewn partneriaeth \u00e2 Chanolbwynt Cyflogaeth Conwy a Sir Ddinbych yn Gweithio, a digwyddiad i gyflogwyr mewn partneriaeth \u00e2 phartner lleol yn y Trydydd Sector. Yr oedd y ddau ddigwyddiad yn cynnwys cyflwyniadau wedi eu llunio ar y cyd yn benodol ar awtistiaeth a gweithdy. Lluniwyd canllawiau i gyflogwyr lleol ar niwrowahaniaeth yn dilyn adborth o un o\u2019r digwyddiadau.<br\/><br\/><\/p>\n\n<p>Daeth llawer i\u2019r digwyddiadau, a dywedodd cyflogwyr wrthym y byddent yn gwneud y canlynol:<\/p>\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p>Bod yn fwy ystyriol ac agored i niwrowahaniaeth ymhlith fy ngwirfoddolwyr a staff<\/p>\n<\/blockquote>\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p>Ailfeddwl cwestiynau cyfweliadau a sesiynau i fod yn fwy cynhwysol<\/p>\n<\/blockquote>\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p>Ystyried y pethau a godwyd gan y siaradwyr gwadd<\/p>\n<\/blockquote>\n\n<h4 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color has-link-color wp-elements-7de903cfe1dacfd483a2253b9139719d\">Gwella gwybodaeth, cyngor a chymorth<\/h4>\n\n<p>Mae gennym <a href=\"https:\/\/www.conwy.gov.uk\/cy\/Resident\/Social-Care-and-Wellbeing\/Autism.aspx\">dudalen we yn benodol ar awtistiaeth<\/a>, sy\u2019n cynnwys gwybodaeth yngl\u0177n \u00e2 sut i gael diagnosis a chefnogaeth yn lleol. Yr ydym hefyd wedi creu tudalen we newydd ar gyfer <a href=\"https:\/\/www.conwy.gov.uk\/cy\/Resident\/Social-Care-and-Wellbeing\/Carers\/Parent-carers.aspx\">rhieni sydd hefyd yn ofalwyr<\/a> i blentyn, unigolyn ifanc neu oedolyn dibynnol; gwyddom fod llawer o rieni\u2019n teimlo\u2019n unig ac ynysig, gyda chyfleoedd cyfyngedig i gael mynediad at gefnogaeth.<\/p>\n\n<p>Mae grwpiau i rieni sy\u2019n ofalwyr yn cael eu cynnal gan ddarparwr Trydydd Sector lleol yng Nghanolfannau Teuluoedd Conwy. Cynhelir hefyd sesiynau \u2018galw heibio\u2019 rheolaidd gyda\u2019r gwasanaeth diagnostig lleol i oedolion (Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig Gogledd Cymru). Cynhaliwyd digwyddiad gwybodaeth a dathlu niwrowahaniaeth gennym hefyd yn swyddfeydd Coed Pella, a oedd yn cynnwys cynrychiolwyr o wasanaethau diagnostig lleol a gwybodaeth amdanynt, ynghyd ag ystod o ddarparwyr Trydydd Sector a thimau\u2019r Cyngor.<\/p>\n\n<p>Dywedodd rhieni sydd wedi cael mynediad at gefnogaeth yn ymwneud \u00e2 niwrowahaniaeth yng Nghanolfannau Teuluoedd Conwy:<\/p>\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p>Fe wnaeth [cefnogaeth gan Weithiwr Teulu Anableddau] fy helpu o ddifrif gyda threfn a theimlo llai o straen drwy wahanol ffyrdd o ymdopi, ac rwy\u2019n teimlo y gallaf i symud ymlaen yn hyderus.<\/p>\n<\/blockquote>\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p>Dywedodd [Gweithiwr Teulu Anableddau] wrthyf i am glwb ieuenctid lleol ar gyfer fy merch sydd ag anhwylder ar y sbectrwm awtistig, ac mae hi\u2019n mwynhau mynd.<\/p>\n<\/blockquote>\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p>Mae\u2019n braf mynd o\u2019r t\u0177 a helpu fy mab i gymdeithasu.<\/p>\n<\/blockquote>\n\n<h3 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color has-link-color wp-elements-46cd12f82a8e7f24cc17002a95b9f02c\">Cefnogi pobl cyn diagnosis<\/h3>\n\n<p>Mae Conwy a Sir Ddinbych yn gweithio mewn partneriaeth \u00e2 changen leol o Gymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth i ariannu ystod o brosiectau yn benodol ar awtistiaeth, sydd ar gael i bobl cyn iddynt gael diagnosis. Yn ogystal, defnyddiwyd cyllid Rhaglen Gwella Gwasanaethau Niwrowahaniaeth Llywodraeth Cymru i dreialu gweithgareddau a rolau newydd yn canolbwyntio ar niwrowahaniaeth; yr oedd llawer ohonynt yn cefnogi plant a theuluoedd sydd ar y rhestr aros i gael asesiad diagnostig.<\/p>\n\n<p>Mae deiliaid swyddi a ariennir drwy\u2019r Rhaglen Gwella Gwasanaethau Niwrowahaniaeth yn Nh\u00eem Cryfhau Teuluoedd a\u2019r Canolfannau Teuluoedd yn gweithio mewn partneriaeth, a darperir hyfforddiant newydd ar ymarfer niwrogadarnhaol ac iaith niwroamrywiol mewn sesiynau byrion misol. Mae\u2019r adborth gan ofalwyr ifanc awtistig yngl\u0177n \u00e2 gr\u0175p Gofalwyr Ifanc ASA wedi bod yn gadarnhaol:<\/p>\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p>Mae mynd i\u2019r grwpiau gofalwyr ifanc arferol yn ormod i mi, ond mae cael grwpiau llai yn golygu y gallaf ddal i weld fy ffrindiau a gwneud pethau difyr fel paentio crochenwaith a chrefftau eraill.<\/p>\n<\/blockquote>\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p>Mae\u2019n braf gwneud rhywbeth gyda phobl eraill yn hytrach nag eistedd yn y t\u0177 drwy\u2019r penwythnos.<\/p>\n<\/blockquote>\n\n<h3 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color has-link-color wp-elements-e58e3fdbd40aa3f22f387d58b1a67195\">Creu strategaeth awtistiaeth leol<\/h3>\n\n<p>Datblygwyd arolwg gennym i gasglu profiadau ac adborth gan bobl awtistig, teuluoedd, gofalwyr a staff. Yr ydym wedi derbyn 69 o ymatebion, a dadansoddir yr adborth gan gr\u0175p budd-ddeiliad yn cynnwys cynrychiolwyr o\u2019r Trydydd Sector, pobl awtistig a rhieni sy\u2019n ofalwyr. Byddwn yn defnyddio\u2019r adborth i siapio\u2019r strategaeth awtistiaeth.  Mae ein canfyddiadau cychwynnol yn dangos bod llwybrau at ddiagnosis yn fater allweddol i lawer o unigolion, mae cyfraddau uchel o absenoldeb o\u2019r ysgol yn effeithio ar fywyd teuluol, ac mae\u2019n bosibl bod bylchau yn y sgiliau a gwybodaeth ymysg ein gweithlu sy\u2019n effeithio ar ein gallu i ddarparu cefnogaeth effeithiol.<\/p>\n\n<h3 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color has-link-color wp-elements-45f4ebb70f661fc2ff839b9223382712\">Yr hyn yr ydym yn bwriadu ei wneud nesaf<\/h3>\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Cydlunio a chyhoeddi strategaeth a chynllun gweithredu lleol ar gyfer Conwy a Sir Ddinbych i nodi blaenoriaethau a chamau gweithredu allweddol; bydd adborth gan fudd-ddeiliaid yn llywio hyn.<\/li>\n\n\n\n<li>Cyflwyno ceisiadau am gyllid y Rhaglen Gwella Gwasanaethau Niwrowahaniaeth ar gyfer 2025\/26 i gynnwys grwpiau a gweithgareddau\u2019r Trydydd Sector; bydd ymatebion arolwg yn llywio hyn.<\/li>\n\n\n\n<li>Parhau i adolygu a gwella\u2019r wybodaeth ar y wefan ar gyfer rhieni sy\u2019n ofalwyr, a gwerthuso\u2019r llwybr asesu gofalwyr.<\/li>\n\n\n\n<li>Comisiynu hyfforddiant ar lefel uwch i staff, yn seiliedig ar anghenion a nodwyd.<\/li>\n\n\n\n<li>Darparu sesiynau byrion yn canolbwyntio ar niwrowahaniaeth, sesiynau briffio, a sesiynau mentora a chyngor, yn hyrwyddo adnoddau a hyfforddiant niwrowahaniaeth cenedlaethol.<\/li>\n<\/ul>\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-alpha-channel-opacity\"\/>\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Trefniadau Diogelu Rhag Colli Rhyddid<\/h2>\n\n<h3 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color has-link-color wp-elements-4da7e8f432415d8cacd0345abebe9211\">Mynd i\u2019r afael \u00e2\u2019r rhestr aros<\/h3>\n\n<p>Yr her fwyaf sy\u2019n ein hwynebu yw rhestr aros Trefniadau Diogelu Rhag Colli Rhyddid ar gyfer asesiadau \u2013 mae tua 240 o atgyfeiriadau gweithredol ar yr un pryd. Cydnabyddwn fod pob achos ar y rhestr aros yn cynrychioli unigolyn nad yw ei hawliau\u2019n cael eu diogelu\u2019n gyfreithlon ac sydd efallai\u2019n profi cyfyngiadau gormodol Mae hefyd yn cynrychioli risg ariannol a risg i enw da\u2019r Cyngor. Bob mis, yn gyson, mae gan d\u00eem Trefniadau Diogelu Rhag Colli Rhyddid fwy o atgyfeiriadau\u2019n dod i mewn nag y gall eu cau.<\/p>\n\n<p>Ein hamcanion ar gyfer y misoedd i ddod yw:<\/p>\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Adolygu a symleiddio ffurflenni asesu.<\/li>\n\n\n\n<li>Treialu dull newydd o flaenoriaethu adnewyddu asesiadau fel nad oes unrhyw fylchau rhwng awdurdodiadau.<\/li>\n\n\n\n<li>Canlyn cyllid ar gyfer aseswyr ychwanegol a chefnogaeth gyfreithiol ar gyfer achosion Trefniadau Diogelu Rhag Colli Rhyddid a Diogelu Rhag Colli Rhyddid yn y Gymuned.<\/li>\n\n\n\n<li>Treialu rhaniad gwahanol yn y llwyth gwaith i sicrhau defnydd effeithiol o amser ymarferwyr.<\/li>\n<\/ul>\n\n<h3 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color has-link-color wp-elements-7fda68d0e759790b6d9c76c865486e6a\">Datblygu\u2019r t\u00eem<\/h3>\n\n<p>Mae yna angen i fwy o staff gwblhau\u2019r asesiadau, y craffu, a\u2019r awdurdodiadau angenrheidiol. Er gwaethaf yr hinsawdd economaidd gyfredol a chyfyngiadau ariannol ar yr awdurdod lleol, yr ydym wedi sicrhau cyllid i recriwtio dau asesydd Trefniadau Diogelu Rhag Colli Rhyddid sy\u2019n siarad Cymraeg, a ymunodd \u00e2\u2019r t\u00eem yn hydref 2024. <\/p>\n\n<h3 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color has-link-color wp-elements-772cec22cf127be1210b1f5025f2afcc\"><strong>Cynyddu dealltwriaeth o Drefniadau Diogelu Rhag Colli Rhyddid<\/strong><\/h3>\n\n<p>Caiff Deddf Galluedd Meddyliol a Threfniadau Diogelu Rhag Colli Rhyddid eu camddeall yn gyffredin gan y cyhoedd ac ymarferwyr, yn benodol oherwydd gall yr eirfa gysylltiedig swnio\u2019n frawychus. Yr ydym yn mynd ati\u2019n weithredol i roi sicrwydd y gallant fod yn adnodd cadarnhaol yn hytrach nag un negyddol, ac yr ydym wedi nodi maes i\u2019w ddatblygu\u2019n barhaus, i addysgu a chanfod gwell ffyrdd o gyfleu hanfod y Trefniadau Diogelu Rhag Colli Rhyddid.<\/p>\n\n<p>Yr ydym eisoes wedi cyflwyno rhaglen o hyfforddiant mewn cartrefi gofal, ac mae adborth wedi bod yn gadarnhaol yn gyffredinol:<\/p>\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p><em>Rhagorol. Diddorol. Fe wnaeth rywbeth brawychus yn fwy dealladwy a llai dychrynllyd. Diolch.<\/em><\/p>\n<\/blockquote>\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p><em>Llawn gwybodaeth a chlir.<\/em><\/p>\n<\/blockquote>\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p><em>Byddaf yn dechrau bod yn fwy ystyriol o ddymuniadau pobl a pheidio byth \u00e2 rhagdybio nad yw\u2019r galluedd ganddynt.<\/em><\/p>\n<\/blockquote>\n\n<p>Bwriadwn ddefnyddio cyllid grant Llywodraeth Cymru i ddechrau rhaglen o hyfforddiant arbenigol ar Ddeddf Galluedd Meddyliol a materion yn ymwneud \u00e2 Threfniadau Diogelu Rhag Colli Rhyddid ar gyfer ymarferwyr rheng flaen ledled y Gwasanaethau Cymdeithasol. Y nod yw uwchsgilio detholiad o ymarferwyr fel eu bod yn gallu rhannu eu gwybodaeth \u00e2 gweddill y t\u00eem. Byddwn hefyd yn annog myfyrwyr gwaith cymdeithasol i fod mewn cysylltiad \u00e2 th\u00eem Trefniadau Diogelu Rhag Colli Rhyddid yn ystod lleoliadau.<\/p>\n\n<h3 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color has-link-color wp-elements-b20b413d875fddfe852635d3b88755e7\">Eiriolaeth<\/h3>\n\n<p>Mae eiriolaeth effeithiol yn ffordd gadarn o sicrhau bod hawliau unigolyn yn cael eu hamddiffyn ac y creffir ar y cyfyngiadau a roddir arnynt. Mae t\u00eem Trefniadau Diogelu Rhag Colli Rhyddid ar hyn o bryd yn defnyddio eiriolwyr proffesiynol mewn 55-65% o achosion, er mwyn atgyfnerthu hawliau. Gwasanaeth Eiriolaeth Iechyd Meddwl Conwy a Sir Ddinbych (CADMHAS) yw\u2019r prif ddarparwr ledled gogledd Cymru, a Chonwy yw ei gwsmer mwyaf ar gyfer eiriolaeth yn ymwneud \u00e2 Threfniadau Diogelu Rhag Colli Rhyddid. <\/p>\n\n<p>Byddwn yn gweithio i sicrhau bod eiriolaeth ar gael fel mater o drefn i unigolion y mae\u2019n well ganddynt ddefnyddio\u2019r Gymraeg.<\/p>\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-alpha-channel-opacity\"\/>\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Cyfleoedd newydd am waith a hyfforddiant yn seiliedig ar waith yn lleol<\/h2>\n\n<p>Gyda chynlluniau i greu cyfleuster Tai Gofal Ychwanegol newydd yn Llandrillo-yn-Rhos, mae\u2019r cyfle wedi codi i ni weithio\u2019n agos \u00e2 Gr\u0175p Llandrillo Menai a darparu lleoliad lleol i fyfyrwyr ennill profiad gwaith a hyfforddiant gwerthfawr yn eu maes astudiaeth. <\/p>\n\n<p>Bydd y bartneriaeth hon yn creu cyfleoedd hyfforddiant yn seiliedig ar waith a chyfleoedd sy\u2019n pontio\u2019r cenedlaethau ar draws y cynllun, a dyma\u2019r cyntaf o\u2019i fath i gael ei gyflwyno yng Nghonwy, a Chymru. Mae\u2019r bartneriaeth hon yn arloesi\u2019n barhaus, ac yn gwella ei chynigion, er mwyn annog myfyrwyr i gofrestru ar gyrsiau Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Fel partneriaeth, yr ydym yn cynllunio cyfres o weithgareddau i hyrwyddo\u2019r canolbwynt a chynnig lleoliadau o\u2019r ansawdd gorau sy\u2019n addas ar gyfer anghenion dysgwyr. <\/p>\n\n<p>Byddwn hefyd yn amlygu\u2019r cyfle i ddysgwyr roi cynnig ar wahanol fathau o waith o fewn eu maes diddordeb, nad oeddent efallai wedi eu hystyried, fel gwaith ailalluogi a chefnogi pobl h\u0177n. <\/p>\n\n<p>Dyma fuddion y cydweithio hwn:<\/p>\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Bydd recriwtio a chadw staff yn well yn arwain at weithlu mwy medrus ac ymroddgar, sy\u2019n arwain yn ei dro at ofal o ansawdd uwch i\u2019r rheiny sydd mewn angen.<\/li>\n\n\n\n<li>Bydd llai o drosiant staff yn sicrhau amgylchedd gofal mwy sefydlog a chyson, sy\u2019n hollbwysig ar gyfer gofal hirdymor.<\/li>\n\n\n\n<li>Bydd gweithlu sy\u2019n fwy ymroddgar a medrus yn cyflwyno arferion a gwasanaethau arloesol sydd o fudd i\u2019r bobl y darperir gofal iddynt.<\/li>\n<\/ul>\n\n<p>Y buddion a ddisgwylir yn ehangach fydd sector sy\u2019n cyfrannu at yr economi leol drwy greu swyddi a mwy o alw am nwyddau a gwasanaethau; iechyd, lles a chydlyniad cymunedol gwell yn gyffredinol; llai o faich ar deuluoedd unigolion sy\u2019n derbyn gofal a chymorth; ac ein gallu i ddenu talent i\u2019r ardal.<\/p>\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-alpha-channel-opacity\"\/>\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Hyfforddiant Cymorth Ymddygiad Cadarnhaol<\/h2>\n\n<p>Ein nod yw codi ymwybyddiaeth o Gymorth Ymddygiad Cadarnhaol wrth gefnogi pobl ag anableddau, yn arbennig y rheiny sy\u2019n gallu ymddwyn yn heriol. Mae hyn yn ein cynorthwyo i ganfod yr hyn y mae\u2019r unigolyn yn ceisio ei gyfathrebu drwy ei ymddygiad, newid ei amgylchedd, ac addysgu sgiliau newydd i\u2019r unigolyn a chynyddu cyfleoedd i wella ansawdd bywyd. Dros y flwyddyn ddiwethaf yr ydym wedi dechrau codi proffil cymorth ymddygiad cadarnhaol gyda\u2019n darparwyr cefnogaeth mewnol ac allanol drwy ddechrau Cymuned Ymarfer Conwy.<\/p>\n\n<p>Yr ydym wedi sicrhau cyllid gan Raglen Drawsnewid Gogledd Cymru Gyda\u2019n Gilydd i gynnal cwrs Ymarferwyr Cymorth Ymddygiad Cadarnhaol am ddau ddiwrnod ar gyfer staff sydd bellach \u00e2 gwell dealltwriaeth o gymorth ymddygiad cadarnhaol ac sy\u2019n cefnogi unigolion yn llwyddiannus. Hoffem sicrhau mwy o gyllid i ddarparu mwy o hyfforddiant. Yr ydym wedi canfod bod angen hyfforddiant ar deuluoedd, i\u2019w cynorthwyo i ddeall a defnyddio model cymorth ymddygiad cadarnhaol.<\/p>\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-alpha-channel-opacity\"\/>\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Gweithgarwch yng nghartref preswyl Llys Elian<\/h2>\n\n<p>Llys Elian yw\u2019r unig gartref preswyl a redir gan y Cyngor ar gyfer oedolion h\u0177n, yn darparu cefnogaeth i unigolion \u00e2 dementia ac ymddygiadau cymhleth. Cawsom arolygiad gan Arolygiaeth Gofal Cymru y llynedd, a pharhawn i gynnwys preswylwyr a\u2019u teuluoedd yn y ffordd y mae Llys Elian yn cael ei redeg, fel ei fod yn parhau i deimlo fel cartref.<\/p>\n\n<p>Mae adborth gan aelodau o deuluoedd y preswylwyr yn dangos bod y cartref preswyl yn uchel ei barch ac yn cael ei werthfawrogi:<\/p>\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p>Cartref arbennig. Mae Mam yn hapus ac yn derbyn gofal da. Mae\u2019r staff bob amser yn gyfeillgar ac yn hawdd mynd atynt.<\/p>\n<\/blockquote>\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p>Rwy\u2019n meddwl bod staff Llys Elian i gyd yn dda iawn ac yn rhoi croeso i mi a\u2019m teulu. Mae\u2019r cyfathrebu rhyngof i a llawer o aelodau o staff yn gadarnhaol iawn.<\/p>\n<\/blockquote>\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p>Mae Llys Elian yn gartref gofal hyfryd. Mae Dad wedi bod yno ers naw mlynedd. Fyddwn i ddim eisiau iddo fod yn unlle arall. Mae\u2019n dyled ni\u2019n fawr i\u2019r staff a\u2019u perthynas \u00e2 Dad.<\/p>\n<\/blockquote>\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p>Bob amser yn groesawgar iawn pan fyddwn yn ymweld. Awyrgylch hapus a thwymgalon braf. Mae\u2019r holl staff yn gweithio\u2019n galed a phob amser yn hawddgar iawn. Mae\u2019r gofal a roir i\u2019r gwaith o ofalu am fy mherthynas o\u2019r radd flaenaf.<\/p>\n<\/blockquote>\n\n<p>Bwriadwn wella ein cyfathrebu \u00e2 theuluoedd drwy gyflwyno porth electronig i deuluoedd. Mae ardal yr ardd yn bwysig i breswylwyr, a byddwn yn sicrhau ei bod yn daclus ac ar gael i bawb ei mwynhau. Parhawn i ddatblygu ein rhaglen weithgareddau, yn arbennig i unigolion sydd yng nghamau olaf eu siwrnai gyda dementia, ac yr ydym yn adolygu gofynion staffio yn rheolaidd gan fod anghenion unigolion yn newid dros amser.<\/p>\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"928\" height=\"1024\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/09\/image-5-928x1024.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-3951\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/09\/image-5-928x1024.png 928w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/09\/image-5-272x300.png 272w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/09\/image-5-768x847.png 768w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/09\/image-5.png 947w\" sizes=\"auto, (max-width: 928px) 100vw, 928px\" \/><\/figure>\n\n<p>Dros gyfnod y Nadolig, cododd y staff dros \u00a31,000.00 drwy weithgareddau codi arian. Bydd yr arian a godwyd yn mynd tuag at adloniant, deunyddiau crefftau, profiadau braf a gweithgareddau ar gyfer y preswylwyr. Daeth y gweithgareddau codi arian \u00e2 phawb ynghyd i ddathlu, ac yr oedd yr adborth a gawsom gan deuluoedd yn gadarnhaol:<\/p>\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p>Rydych chi\u2019n mynd i drafferth drostyn nhw \u2013 rydych chi i gyd yn gwneud gymaint o ymdrech i roi amser da i\u2019n hanwyliaid! Diolch yn fawr iawn! X<\/p>\n<\/blockquote>\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p>Roedd Mam wrth ei bodd efo\u2019r gerddoriaeth ac fe gawso\u2019 ni amser hyfryd gyda phawb.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r holl ymdrech rydych chi\u2019n ei wneud dros y preswylwyr yn anhygoel. Dydw i ddim wedi gweld fy mam yng nghyfraith yn mwynhau ei hun ers amser maith, ac mae\u2019n braf ei gweld hi\u2019n cymryd rhan. Xx<\/p>\n<\/blockquote>\n\n<p>Amlygodd arolygiad diweddar gan AGC feysydd i ni ganolbwyntio arnynt; byddwn yn crybwyll y rhain yn ddiweddarach yn yr adroddiad hwn. Yr ydym eisoes wedi cymryd camau gwella ac mae gennym gynlluniau pellach ar gyfer 2025\/26.<\/p>\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-alpha-channel-opacity\"\/>\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Cymorth cartref i bobl h\u0177n<\/h2>\n\n<p>Parhawn i fonitro ein gwasanaethau ar gyfer pobl h\u0177n, ac yr ydym wedi creu arolwg i ofyn am adborth gan unigolion sydd wedi derbyn cefnogaeth ailalluogi. Rhwng mis Ebrill a mis Rhagfyr 2024, derbyniasom dros 180 o ymatebion.<\/p>\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Teimlai 87% eu bod hwy a\u2019u teulu a\u2019u ffrindiau yn rhan o\u2019r gwaith o gytuno a chynllunio canlyniadau neu nodau ar ddechrau\u2019r gwasanaeth.<\/li>\n\n\n\n<li>Nododd 93% eu bod wedi cyflawni\u2019r canlyniadau neu nodau a nodwyd ar eu cyfer erbyn yr amser y daeth y gwasanaeth i ben.<\/li>\n\n\n\n<li>Cytunai 100% fod y gefnogaeth yr oeddynt yn ei derbyn yn eu galluogi i gynnal eu hiechyd a lles cyffredinol.<\/li>\n\n\n\n<li>Yr oeddem yn cyfathrebu \u00e2 100% yn eu hiaith ddewisol.<\/li>\n\n\n\n<li>Teimlai 98% fod y gefnogaeth yn hyblyg o ran faint o\u2019r gloch yr oeddem yn ymweld, a pha mor hir oedd yr ymweliad yn ei bara.<\/li>\n\n\n\n<li>Yr oedd 100% yn dweud bod ein staff yn ddymunol, yn garedig ac yn gwrtais.<\/li>\n\n\n\n<li>Dywedodd 100% fod y gwasanaeth yn eu gwneud i deimlo\u2019n ddiogel a\u2019u hamddiffyn rhag niwed.<\/li>\n\n\n\n<li>Dywedodd 98% fod y gwasanaeth yn rhagorol neu\u2019n dda.<\/li>\n<\/ul>\n\n<p>Gofynnwyd i unigolion beth oeddynt yn ei werthfawrogi fwyaf am y gwasanaeth, a dywedasant wrthym:<\/p>\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p>\u2026 yr anogaeth i fod yn annibynnol.<\/p>\n<\/blockquote>\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p>Effeithlonrwydd ac amynedd y gofalwyr. Eu sirioldeb hefyd. Roedden nhw fel pelydrau o heulwen.<\/p>\n<\/blockquote>\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p>Cael siarad a gweld pobl, a gallu aros gartref.<\/p>\n<\/blockquote>\n\n<p>Yr oedd sylwadau ychwanegol yn dangos yr effaith yr oedd y gwasanaeth yn ei gael ar bobl yn ystod cyfnodau o fod yn ddiamddiffyn a llesg.<\/p>\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p>Roedd pawb a ddaeth i\u2019m helpu i\u2019n bobl hyfryd, garedig a llawn gwybodaeth\u2026<\/p>\n<\/blockquote>\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p>Fe fyddaf yn colli pawb, mae\u2019r gefnogaeth wedi bod yn amhrisiadwy.<\/p>\n<\/blockquote>\n\n<p>Mae\u2019r ddau ohonom yn ddiolchgar iawn am y gefnogaeth, sydd wedi fy ngalluogi i gael fy annibyniaeth yn \u00f4l.<\/p>\n\n<p>Rwy\u2019n teimlo bod y staff yn fwy fel ffrindiau na gofalwyr<\/p>\n\n<p>Pan ddois o\u2019r ysbyty ddiwedd mis Awst, roeddwn yn teimlo\u2019n wan a llesg a dihyder, ond drwy gefnogaeth y gofalwyr rwyf bellach lawer gwell a gallaf wneud popeth sydd ei angen arnaf heb help!<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Safonau ansawdd Gwasanaethau Plant T\u00eem Teuluoedd Integredig Lleol Mae ein gwaith yn cwmpasu tri dull gweithredu: Yn ystod y ddeuddeng mis hyd at fid Tachwedd 2024, derbyniasom 217 o atgyfeiriadau, ac yr oedd 66 o\u2019r rheiny o Sir Conwy. Wrth i ni weithio gyda theuluoedd byddwn yn mesur faint o broblem yw\u2019r ymddygiadau heriol cyn [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":5,"featured_media":0,"parent":4148,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"_seopress_titles_title":"","_seopress_titles_desc":"","_seopress_robots_index":"","_seopress_robots_follow":"","_seopress_robots_imageindex":"","_seopress_robots_snippet":"","_seopress_robots_primary_cat":"","_seopress_robots_breadcrumbs":"","_seopress_robots_freeze_modified_date":"","_seopress_robots_custom_modified_date":"","_seopress_robots_canonical":"","_seopress_social_fb_title":"","_seopress_social_fb_desc":"","_seopress_social_fb_img":"","_seopress_social_fb_img_attachment_id":0,"_seopress_social_fb_img_width":0,"_seopress_social_fb_img_height":0,"_seopress_social_twitter_title":"","_seopress_social_twitter_desc":"","_seopress_social_twitter_img":"","_seopress_social_twitter_img_attachment_id":0,"_seopress_social_twitter_img_width":0,"_seopress_social_twitter_img_height":0,"_seopress_redirections_value":"","_seopress_redirections_enabled":"","_seopress_redirections_enabled_regex":"","_seopress_redirections_logged_status":"","_seopress_redirections_param":"","_seopress_redirections_type":0,"_seopress_analysis_target_kw":"","_genesis_hide_title":false,"_genesis_hide_breadcrumbs":false,"_genesis_hide_singular_image":false,"_genesis_hide_footer_widgets":false,"_genesis_custom_body_class":"","_genesis_custom_post_class":"","_genesis_layout":"","footnotes":""},"class_list":{"0":"post-4052","1":"page","2":"type-page","3":"status-publish","5":"entry"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/4052","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/5"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=4052"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/4052\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":4053,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/4052\/revisions\/4053"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/4148"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=4052"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}