{"id":4031,"date":"2025-10-22T13:28:35","date_gmt":"2025-10-22T12:28:35","guid":{"rendered":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/?page_id=4031"},"modified":"2025-10-22T13:30:45","modified_gmt":"2025-10-22T12:30:45","slug":"cyd-destun-cyflwynor-cefndir","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/adroddiad-2024-25\/cyd-destun-cyflwynor-cefndir\/","title":{"rendered":"Cyd-destun: Cyflwyno\u2019r Cefndir"},"content":{"rendered":"\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Arweinyddiaeth<\/h2>\n\n\n\n<p>Mae gan Gonwy drefniadau llywodraethu cryfion, yn cynnwys <a href=\"https:\/\/www.conwy.gov.uk\/cy\/Council\/Scrutiny\/About-Scrutiny.aspx\">swyddogaeth trosolwg a chraffu a arweinir gan yr Aelodau<\/a>, sydd ag ethos cadarnhaol ac adeiladol o gydnabod arferion da ac argymell gwelliannau lle bo angen.&nbsp; Wrth graffu ceisir ymgysylltu \u00e2\u2019r gymuned ym mha le bynnag bosibl er mwyn gwella ansawdd bywyd a lles pobl sy\u2019n byw, yn gweithio neu\u2019n ymweld \u00e2\u2019r ardal.&nbsp; Caiff hyn ei gyflawni drwy graffu ar bolis\u00efau, y gwasanaethau a ddarperir gan y Cyngor a gwaith partneriaeth gyda sefydliadau allanol.<\/p>\n\n\n\n<p>Yr ydym yn cyflwyno amrywiol adroddiadau i\u2019r Pwyllgor Craffu i\u2019w hadolygu a\u2019u herio ac mae gennym broses fewnol gadarn ar gyfer herio perfformiad a chael trosolwg ohono. Cynhaliwn gyfarfodydd gyda\u2019n harolygiaeth drwy gydol y flwyddyn ac yr ydym yn mynd ati i adolygu ein harferion ein hunain yn rheolaidd fel mater o drefn er mwyn sicrhau gwelliannau parhaus yn ein gwasanaethau.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-full\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"568\" height=\"508\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/10\/image.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-4033\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/10\/image.png 568w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/10\/image-300x268.png 300w\" sizes=\"auto, (max-width: 568px) 100vw, 568px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p>Ar lefel reoli, mae Cyfarwyddwr Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol ac Addysg yn adrodd yn uniongyrchol i Brif Weithredwr y Cyngor, ac fe\u2019u cefnogir gan ein t\u00eem rheoli adrannol. Yn eu tro, cefnogir Penaethiaid Gwasanaeth Plant, Teuluoedd a Diogelu, a Gwasanaethau Oedolion a Chymunedol Integredig gan Reolwyr Gwasanaeth sy\u2019n ymdrin \u00e2 deng maes darpariaeth.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-full\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"660\" height=\"428\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/10\/Heads-of-Service-Cymraeg.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-4037\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/10\/Heads-of-Service-Cymraeg.jpg 660w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/10\/Heads-of-Service-Cymraeg-300x195.jpg 300w\" sizes=\"auto, (max-width: 660px) 100vw, 660px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r trefniadau llywodraethu sydd mewn grym yn ategu rheolaeth effeithiol ar Ofal Cymdeithasol. Mae\u2019r Cyngor yn hwyluso Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd, ac mae wedi penodi dau Ddeiliad Portffolio i gynrychioli dau faes gwasanaeth Gofal Cymdeithasol. Y Cynghorydd Penny Andow yw deiliad portffolio Gwasanaethau Oedolion a Chymunedol Integredig, ac ym mis Tachwedd 2024, daeth y Cynghorydd Cathy Augustine yn ddeiliad portffolio Plant, Teuluoedd a Diogelu. Wrth dderbyn y r\u00f4l, dywedodd y Cynghorydd Augustine:<\/p>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p><em>\u201cMae hi wir yn anrhydedd ymgymryd \u00e2\u2019r r\u00f4l hon ac rydw i\u2019n cydnabod ei bod hi\u2019n gyfrifoldeb enfawr helpu CBSC i gyflawni ein dyletswydd tuag at rai o\u2019n plant ac oedolion ifanc mwyaf diamddiffyn. Ond rydw i\u2019n gwybod y bydda\u2019 i\u2019n gweithio gyda chydweithwyr gwych \u2013 aelodau etholedig a swyddogion \u2013 yn rhan o d\u00eem ymroddedig a phrofiadol.<\/em><\/p>\n\n\n\n<p><em>\u201cAr lefel bersonol, dros y pum mlynedd ddiwethaf, rwyf wedi bod yn rhan o nifer o brosesau sy\u2019n gysylltiedig \u00e2 phlant sy\u2019n derbyn gofal. Dyna pam rydw i wir yn edrych ymlaen at weithio ar y cyd \u00e2 chydweithwyr ar draws timau gofal cymdeithasol, tai ac addysg, sydd yn rhannu ffocws o sicrhau bod llais y plant yn ganolog i\u2019n hamcanion a gwaith ar y cyd. Rydw i\u2019n gwbl ymwybodol o\u2019r heriau \u2013 ac wrth gwrs y cyd-destun ariannol presennol. Rydw i\u2019n cydnabod bod y Cabinet yn gweithio ar y cyd, yn darparu ar draws pob maes gwasanaeth ac i\u2019n holl breswylwyr, ac rydw i\u2019n edrych ymlaen at fod yn aelod o\u2019r t\u00eem ehangach hwnnw hefyd.\u201d<\/em><\/p>\n<\/blockquote>\n\n\n\n<p>Bydd y Cynghorwyr Augustine ac Andow yn gweithio\u2019n agos gyda deiliaid portffolio Addysg, a Thai, Digartrefedd a Newid Gwasanaeth i sicrhau yr ymdrinnir \u00e2\u2019n hamcanion cyffredin ar y cyd:<\/p>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p><em>\u201cFel Aelodau Cabinet Tai, Gofal Cymdeithasol ac Addysg, rydym wedi ymrwymo i gydweithio ar draws ein hadrannau i gyflawni blaenoriaethau corfforaethol y Cyngor. Rydym yn cydnabod y r\u00f4l hanfodol sydd gan bob un o\u2019r meysydd hyn wrth siapio lles ein cymunedau, ac rydym wedi ymrwymo i ddefnyddio dull gweithredu cydgysylltiedig i gyflawni canlyniadau cadarnhaol i\u2019n holl breswylwyr.<\/em><\/p>\n\n\n\n<p><em>Drwy gryfhau integreiddiad gwasanaethau gofal cymdeithasol, tai, ac addysg, ein nod yw creu system gefnogaeth gydlynol sy\u2019n mynd i\u2019r afael ag anghenion amrywio unigolion a theuluoedd yng Nghonwy. Byddwn yn cydweithio i wella mynediad at dai diogel a fforddiadwy, sicrhau cyfleoedd addysgol o ansawdd uchel, a darparu gofal cymdeithasol cynhwysfawr sy\u2019n cefnogi pobl ym mhob cam o\u2019u bywyd.<\/em><\/p>\n\n\n\n<p><em>Bydd ein hymdrechion ar y cyd yn canolbwyntio ar ymyrraeth gynnar, cefnogi unigolion diamddiffyn, a meithrin amgylchedd sy\u2019n galluogi pawb yng Nghonwy i fyw bywydau boddhaus ac iach. Drwy gydweithio\u2019n agos, rydym yn ymroddedig i ddarparu gwasanaethau sy\u2019n fwy ymatebol, effeithlon ac effeithiol, gan sicrhau bod Conwy\u2019n parhau i ffynnu fel rhywle lle gall pobl fyw\u2019n dda, dysgu, a datblygu.<\/em><\/p>\n\n\n\n<p><em>Gyda\u2019n gilydd byddwn yn ymdrechu i gyflawni\u2019r amcanion hyn a gwneud gwahaniaeth ystyrlon i\u2019n cymunedau.\u201d<\/em><\/p>\n<\/blockquote>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-full\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"687\" height=\"407\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/10\/Portfolio-Holders-Cymraeg.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-4035\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/10\/Portfolio-Holders-Cymraeg.jpg 687w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/10\/Portfolio-Holders-Cymraeg-300x178.jpg 300w\" sizes=\"auto, (max-width: 687px) 100vw, 687px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-alpha-channel-opacity\"\/>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color has-link-color wp-elements-3a809757dadb6c470fbe201613faf627\">Deddfwriaeth a chynlluniau<\/h3>\n\n\n\n<p>Daeth Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 i rym ym mis Ebrill 2016. Mae\u2019r Ddeddf yn darparu\u2019r fframwaith cyfreithiol ar gyfer gwella lles pobl sydd ag anghenion gofal a chymorth, a gofalwyr y mae angen cefnogaeth arnynt, ac ar gyfer trawsnewid gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru. Egwyddorion sylfaenol y Ddeddf yw:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Llais a rheolaeth<\/li>\n\n\n\n<li>Atal ac ymyrraeth gynnar<\/li>\n\n\n\n<li>Lles<\/li>\n\n\n\n<li>Cydgynhyrchu<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r <a href=\"https:\/\/gofalcymdeithasol.cymru\/adnoddau-canllawiau\/hyb-gwybodaeth-a-dysgu\/deddf-sswb\/codau-ymarfer\">Cod Ymarfer<\/a> cysylltiedig yn nodi fframwaith ar gyfer mesur y cynnydd y mae awdurdodau lleol yn ei wneud o ran eu dyletswyddau dan y Ddeddf yn ei chyfanrwydd. Mae\u2019r broses hon hefyd yn ein galluogi i wella ein gwasanaethau\u2019n barhaus.&nbsp; Fel y nodir yn y Cod Ymarfer, sefydlwyd trefniadau ar gyfer casglu ac adrodd ar ddata am fesuryddion perfformiad statudol i Lywodraeth Cymru bob blwyddyn.&nbsp; Caiff perfformiad ei fesur yn unol \u00e2 phob un o\u2019r safonau ansawdd, sy\u2019n canolbwyntio ar bobl, atal, partneriaethau ac integreiddio, a lles.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae <a href=\"https:\/\/gofalcymdeithasol.cymru\/adnoddau-canllawiau\/hyb-gwybodaeth-a-dysgu\/rheoleiddio-ac-arolygu\/trosolwg\">Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016<\/a> yn gosod ansawdd gwasanaethau a gwelliant wrth wraidd rheoleiddio, ac mae\u2019n darparu\u2019r fframwaith statudol ar gyfer rheoleiddio ac arolygu gofal cymdeithasol yng Nghymru.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae <a href=\"https:\/\/www.llyw.cymru\/llesiant-cenedlaethaur-dyfodol-cymru\">Deddf Llesiant Cenedlaethau\u2019r Dyfodol (Cymru) 2015<\/a> Llywodraeth Cymru yn amlinellu cyfres o ganlyniadau cenedlaethol ac mae\u2019n gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i roi datblygu cynaliadwy wrth wraidd eu penderfyniadau. Mae\u2019r Ddeddf hon yn sicrhau bod ystyriaethau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd yn ganolog i\u2019r penderfyniadau a wneir.<\/p>\n\n\n\n<p>Yng Nghonwy yr ydym wedi cynnwys yr amcanion hyn yn ein <a href=\"https:\/\/www.conwy.gov.uk\/cy\/Council\/Strategies-Plans-and-Policies\/CorporatePlan\/Home.aspx\">Cynllun Corfforaethol ar gyfer 2022-2027<\/a>. Mae\u2019n disgrifio\u2019r nodau hirdymor sy\u2019n bwysig yn \u00f4l ein cymunedau ac yn gosod ein cyfeiriad strategol fel sefydliad dros gyfnod o bum mlynedd. Fel gwasanaeth, yr ydym yn myfyrio ar y modd yr ydym yn cyfrannu at y blaenoriaethau hyn drwy ein proses o gynnal Adolygiadau Perfformiad Gwasanaeth.<\/p>\n\n\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-alpha-channel-opacity\"\/>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color has-link-color wp-elements-cc7742fd5882e8cd4a116f68d415fafd\">Datblygu cymuned a gweithle cynhwysol<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae un o\u2019r egwyddorion allweddol ar gyfer cyflawni\u2019r Cynllun Corfforaethol yn ymwneud \u00e2 chynhwysiant:<\/p>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p><em>Hoffem i\u2019r dyfodol newid er gwell, gan greu cymdeithas fwy cynhwysol sy\u2019n mynd ati i hyrwyddo tegwch ac amrywiaeth ac yn mynd i\u2019r afael \u00e2 gwahaniaethu.<\/em><\/p>\n<\/blockquote>\n\n\n\n<p>Nod <a href=\"https:\/\/www.conwy.gov.uk\/cy\/Council\/Strategies-Plans-and-Policies\/Equality-and-diversity\/Strategic-Equality-Plan\/Inclusive-Conwy-Plan-2024-2028.aspx\">Cynllun Conwy Gynhwysol 2024-2028<\/a> yw canolbwyntio ar bobl a\u2019u profiadau mewn bywyd, yn hytrach na\u2019n rhwymedigaeth i gydymffurfio \u00e2 deddfwriaeth. \u2018Conwy Gynhwysol\u2019 yw\u2019r nod, sy\u2019n golygu y gellwch fyw, gweithio ac ymweld \u00e2 sir lle\u2019r ydych yn cael eich croesawu ac yn teimlo eich bod yn cael eich derbyn ac yn perthyn \u2013 ni waeth beth fo\u2019ch cefndir.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r cynllun hefyd yn nodi\u2019r prif flaenoriaethau y bydd yr awdurdod lleol yn canolbwyntio arnynt am y pedair blynedd nesaf, ac mae\u2019n cynnwys camau gweithredu o <a href=\"https:\/\/www.llyw.cymru\/cynllun-gweithredu-cymru-wrth-hiliol-2022\">Gynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol<\/a> a <a href=\"https:\/\/www.llyw.cymru\/cynllun-gweithredu-lhdtc-cymru\">Chynllun Gweithredu LHDTC+<\/a> Llywodraeth Cymru.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-full\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"661\" height=\"500\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/10\/EDI-Infographic-Cymraeg.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-4039\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/10\/EDI-Infographic-Cymraeg.jpg 661w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/10\/EDI-Infographic-Cymraeg-300x227.jpg 300w\" sizes=\"auto, (max-width: 661px) 100vw, 661px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p>Fel awdurdod lleol, yr ydym wedi gwneud llawer iawn o waith yn y maes hwn. Dyma rai o\u2019r uchafbwyntiau:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Datblygu Cynllun Conwy Gynhwysol ar gyfer 2024-28, sydd wedi ein hysgogi i fyfyrio ar ein dull gweithredu parthed Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant a mabwysiadu dull sy\u2019n canolbwyntio ar yr unigolyn<\/li>\n\n\n\n<li>Ehangu ein cynnig hyfforddiant i staff, gyda sesiynau rhagarweiniol am ymwybyddiaeth o hil, hyfforddiant <em>Cyflwyniad i Gonwy Gynhwysol<\/em> wyneb yn wyneb a modiwl e-ddysgu newydd<\/li>\n\n\n\n<li>Dod yn aelodau o <em>Inclusive Employers<\/em>, sy\u2019n rhoi mynediad i ni at ystod eang o adnoddau, gweminarau ac arferion da i ategu diwylliant cynhwysol yn ein gweithle<\/li>\n\n\n\n<li>Bod y sir gyntaf yng Nghymru lle mae pob ysgol uwchradd yn cymryd rhan yn rhaglen gwrthfwlio <em>KiVa<\/em><\/li>\n\n\n\n<li>Cynnal ymgyrch gwrando parhaus dan arweiniad Gofal Cymdeithasol yn Llanfairfechan i wella gofal dementia ac annog datblygiad cymunedau sy\u2019n deall dementia ledled Cymru<\/li>\n\n\n\n<li>Datblygu a chydlynu cynlluniau gweithredu Cod Ymarfer Cyflyrau ar y Sbectrwm Awtistig, gan gynnwys gwella\u2019r wybodaeth sydd ar gael i\u2019r cyhoedd yngl\u0177n \u00e2 niwroamrywiaeth, a datblygu prosiectau a gweithgareddau yn benodol ar niwroamrywiaeth yn yr ardal leol.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Ym maes Gofal Cymdeithasol, yr ydym yn gweithio gyda chydweithwyr corfforaethol i ddatblygu canlyniadau mesuradwy i gyflawni\u2019r camau gweithredu a\u2019r argymhellion a nodir yng <a href=\"https:\/\/www.adss.cymru\/cy\/blog\/post\/delivering-social-care-in-an-anti-racist-wales-eliminating-racism-in-the-workplace-report\">Nghynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol: Dileu hiliaeth yn y gweithle<\/a>, dan arweiniad ADSS Cymru ac a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru. Mae\u2019r cynllun hwn yn gosod her i Gyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol i fynd i\u2019r afael \u00e2 hiliaeth yng ngweithlu Gofal Cymdeithasol a meithrin gweithle cynhwysol a theg i\u2019r holl weithwyr Gofal Cymdeithasol a\u2019r cymunedau y maent yn eu cefnogi. Gwnaed yr argymhellion canlynol:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Sicrhau bod pob aelod o staff yn deall hiliaeth a\u2019r effaith y gall ei gael<\/li>\n\n\n\n<li>Datgan ein hymrwymiad i beidio \u00e2 bod yn oddefgar o gwbl mewn perthynas \u00e2 hiliaeth, gan godi llais yn ei erbyn pan fo\u2019n digwydd<\/li>\n\n\n\n<li>Adolygu ein polis\u00efau a gweithdrefnau ar gyfer rhoi gwybod, ymchwilio a monitro adroddiadau o hiliaeth i sicrhau eu bod yn effeithiol ac yn sicrhau canlyniad clir a boddhaol bob tro<\/li>\n\n\n\n<li>Treialu fframwaith gwerthuso ar gyfer ymdrin ag achosion o hiliaeth<\/li>\n\n\n\n<li>Sicrhau bod digon o gefnogaeth ar gael i unrhyw un sy\u2019n profi hiliaeth<\/li>\n\n\n\n<li>Gweithio gyda phartneriaid cenedlaethol i ddatblygu a gweithredu rhaglen ddysgu i rannu profiad ac arferion da ledled Cymru<\/li>\n\n\n\n<li>Adrodd ar gynnydd yn flynyddol<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Mae\u2019n rhaid i Gyfarwyddwr Gofal Cymdeithasol weithredu ar ganfyddiadau\u2019r astudiaeth drwy wneud y canlynol:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Rhannu canfyddiadau\u2019r astudiaeth gyda\u2019r Prif Swyddog Gweithredol a\u2019i gydgyfarwyddwyr er mwyn nodi beth yn fwy y gellir ei wneud i gael gwared \u00e2 hiliaeth ymysg gwasanaethau\u2019r Awdurdod Lleol.<\/li>\n\n\n\n<li>Sicrhau bod pob aelod o baneli recriwtio a dethol wedi derbyn hyfforddiant ymwybyddiaeth ddiwylliannol cyn rhoi ymgeiswyr ar restr fer a\u2019u cyf-weld.<\/li>\n\n\n\n<li>Gweithio gyda chydweithwyr Adnoddau Dynol i fynd i\u2019r afael ag unrhyw fylchau yn y data sydd eu hangen i fonitro a chymharu ystadegau recriwtio a dyrchafu ymgeiswyr o gefndiroedd ethnig gydag ystadegau aelodau eraill o staff.<\/li>\n\n\n\n<li>Trefnu i holl staff Gofal Cymdeithasol dderbyn hyfforddiant ar ymwybyddiaeth ddiwylliannol a materion eraill sy\u2019n berthnasol i fynd i\u2019r afael \u00e2 hiliaeth.<\/li>\n\n\n\n<li>Adolygu a chynyddu\u2019r gefnogaeth a ddarperir i staff newydd a phresennol o gefndiroedd ethnig lleiafrifol yn ystod y broses recriwtio ac yn y gwaith.<\/li>\n\n\n\n<li>Rhannu ei brofiadau o recriwtio a chefnogi staff o gefndiroedd ethnig lleiafrifol gydag awdurdodau lleol eraill a\u2019i fwriadau ar gyfer gwneud mwy o welliannau yn y maes hwn.<\/li>\n\n\n\n<li>Defnyddio\u2019r adroddiad blynyddol i ddangos cynnydd yn \u00f4l canfyddiadau\u2019r astudiaeth.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Ym mis Medi 2024 comisiynwyd yr Athro Prospera Tedam gennym i gyflwyno tri gweithdy, gyda 111 o aelodau o staff yn bresennol. Amcanion y gweithdai oedd:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Deall diffiniad gormes a gwrthormes yn llwyr<\/li>\n\n\n\n<li>Archwilio pryd a sut y gallai ein harferion fod yn ormesol tuag at eraill <\/li>\n\n\n\n<li>Darparu adnoddau a gwybodaeth i ni er mwyn mynd i\u2019r afael \u00e2 phob math o ormes<\/li>\n\n\n\n<li>Gwella dealltwriaeth o b\u0175er a diffyg p\u0175er.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Dywedodd yr Athro Prospera Tedam: <\/p>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p><em>\u201cMwynheais gyflwyno\u2019r gweithdai hyn dros y tri diwrnod gyda\u2019ch ymarferwyr yn fawr. Yr oedd hyn wedi ei drefnu a\u2019i gydlynu\u2019n dda iawn. Teimlwn fod y cyfranogwyr wedi ymwneud yn dda \u00e2\u2019r rhannau a oedd weithiau\u2019n anghyfforddus. Gobeithio y byddant yn parhau i fyfyrio ar y cynnwys.\u201d<\/em><\/p>\n<\/blockquote>\n\n\n\n<p>Yr oedd adborth gan gyfranogwyr yn gadarnhaol:<\/p>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p><em>\u201cByddaf yn dechrau cael sgyrsiau gyda staff yn rheolaidd yngl\u0177n \u00e2 sut mae ein hymddygiad yn effeithio ar eraill, ac yn parhau i herio pan fo angen.\u201d<\/em><\/p>\n<\/blockquote>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p><em>\u201cCofiwch y gall bwriad fod yn amherthnasol \u2013 efallai nad ydw i\u2019n bwriadu tramgwyddo unrhyw un, ond os ydw i\u2019n gwneud hynny, mae\u2019n rhaid i mi gymryd cyfrifoldeb dros hynny.\u201d<\/em><\/p>\n<\/blockquote>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p><em>\u201cMae\u2019n rhaid sicrhau bod hyn bob amser ar ein hagenda, ac nid yn rhywbeth er mwyn sioe\u2019n unig. Rhaid sicrhau ei fod bob amser yn llinyn drwy bopeth a wnawn.\u201d<\/em><\/p>\n<\/blockquote>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color has-link-color wp-elements-7cf0ecb6b5716eaa9e0d17e92a13c537\">Edrych ymlaen<\/h3>\n\n\n\n<p>Yr ydym yn awyddus i sicrhau ein bod yn parhau i ganolbwyntio ar bobl a\u2019u profiadau bywyd, yn hytrach nag ar ein rhwymedigaeth yn unig i gydymffurfio \u00e2 deddfwriaeth. Fel Awdurdod Lleol gwyddom fod gennym lawer o waith i\u2019w wneud i sicrhau bod ein gweithleoedd a\u2019n gwasanaethau yn deg a chynhwysol i bawb. Dyma rai o\u2019r meysydd a nodwyd gennym:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Ymwreiddio diwylliant o ymwybyddiaeth a chyfrifoldeb unigol ymysg staff fel bod pawb yn deall \u2018nad oes rhaid iddo ddigwydd i chi, i fod o bwys i chi\u2019<\/li>\n\n\n\n<li>Cynyddu ein gallu i gyflawni\u2019r uchod (mae mwy am hyn isod)<\/li>\n\n\n\n<li>Gwrando ar brofiadau bywyd pobl a gweithredu ar yr hyn a ddysgwn er mwyn cyflawni newidiadau ystyrlon<\/li>\n\n\n\n<li>Dathlu amrywiaeth ledled y rhanbarth yn ein gohebiaeth a digwyddiadau<\/li>\n\n\n\n<li>Parhau i ddatblygu ein cynnig hyfforddiant, gan gynnwys cyfleoedd dysgu hunangyfeiriedig<\/li>\n\n\n\n<li>Parhau i ddarparu gwasanaethau pwysig a chynhwysol i breswylwyr, er gwaethaf pwysau cyllidebol sylweddol<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Bydd ein datblygiad sefydliadol yn dylanwadu ac yn cryfhau ein hymgysylltiad a rhyngweithiad ar draws sectorau ac yn ein cymuned, gan adlewyrchu a chyfathrebu ein gwerthoedd craidd a\u2019n hymrwymiad i gynhwysiant. <\/p>\n\n\n\n<p>Mae sefydlu ein gweithgor gwrth-hiliaeth newydd yn un fenter a fydd yn hwyluso gwaith ffocws i herio\u2019r gwahaniaethau a brofir gan aelodau o staff ac unigolion Du, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol sy\u2019n darparu ac yn derbyn ein gwasanaethau, ac i ddenu gweithlu\u2019r dyfodol.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color has-link-color wp-elements-5450989f9787169c6f8a85dd62aa3c6c\">Penodiad newydd i sbarduno newid<\/h3>\n\n\n\n<p>Yr ydym yn falch iawn o fod wedi creu swydd llawn amser newydd i gryfhau ein hymrwymiad i fod yn awdurdod mwy cynhwysol a theg, ac i ddatblygu gwytnwch sefydliadol ar gyfer ein dyfodol.  Ym mis Ionawr 2025 croesawom Reolwr newydd Conwy Gynhwysol yn rhan o Wasanaeth Pobl a Pherfformiad. Bydd y r\u00f4l ddatblygiadol newydd hon yn arwain ein gweledigaeth i gael mwy o gynwysoldeb, ac fe fydd, gyda chefnogaeth gr\u0175p llywio Conwy Gynhwysol, yn ysgogi ac yn cyflawni newid ystyrlon a chadarnhaol.  <\/p>\n\n\n\n<p>Bydd Rheolwr Conwy Gynhwysol yn amcanu i wella\u2019r broses wrando a dysgu sefydliadol, gan ganolbwyntio ar brofiad personol grwpiau sydd ar y cyrion.  Bydd deiliad y swydd yn cynllunio ac yn gweithredu polis\u00efau cynhwysiant effeithiol a deallus wedi eu seilio ar egwyddorion clir, a bydd yn arwain mentrau i feithrin amgylchedd o barch.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae Strategaeth Conwy Gynhwysol yn amlinellu ein hymrwymiad i greu gweithle mwy diogel a theg sy\u2019n adlewyrchu a deall y gymuned ehangach ac yn dathlu\u2019r holl fuddion y mae ein gwahaniaethau yn eu rhoi.  Ein gweledigaeth yw bod yn sefydliad o gyfle, dealltwriaeth ac ymddiriedaeth, ac, ynghyd ag ymrwymiad a buddsoddiad uwch reolwyr, bydd Rheolwr Conwy Gynhwysol yn hanfodol wrth ategu\u2019r newid strategol hwn.  Yr ydym ar siwrnai o drawsnewid diwylliannol i sicrhau ein bod yn sefydliad lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn, yn cael eu gwerthfawrogi, ac yn deall y rhan sydd ganddynt wrth gyflawni hyn.<\/p>\n\n\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-alpha-channel-opacity\"\/>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Y Gweithlu<\/h2>\n\n\n\n<p>Yma byddwn yn dweud mwy wrthych am ein gweithlu Gofal Cymdeithasol, y cyfleoedd yr ydym yn eu creu i bobl ddatblygu eu gyrfaoedd gyda ni, a\u2019r heriau anochel a wynebwn ar y ffordd.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r siart isod yn dangos nifer swyddi a swyddi gweigion Gofal Cymdeithasol, yn ogystal \u00e2\u2019n defnydd o weithwyr asiantaeth yn y ddau faes gwasanaeth:<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-full\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"668\" height=\"317\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/10\/Workforce-Data-Cymraeg.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-4041\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/10\/Workforce-Data-Cymraeg.jpg 668w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/10\/Workforce-Data-Cymraeg-300x142.jpg 300w\" sizes=\"auto, (max-width: 668px) 100vw, 668px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p>Ymysg ein gweithlu plant:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>22% yw cyfradd y swyddi gweigion ar draws y meysydd gwasanaeth<\/li>\n\n\n\n<li>16% yw cyfradd y swyddi gweigion ym maes gwaith cymdeithasol<\/li>\n\n\n\n<li>Contractiwyd un gweithiwr cymdeithasol asiantaeth ar ddeg i lenwi bylchau staffio<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Ymysg ein gweithlu oedolion:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>7% yw cyfradd y swyddi gweigion ar draws y meysydd gwasanaeth<\/li>\n\n\n\n<li>7% yw cyfradd y swyddi gweigion ym maes gwaith cymdeithasol<\/li>\n\n\n\n<li>Contractiwyd pedwar gweithiwr cymdeithasol asiantaeth i lenwi bylchau staffio<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Mae cyfraddau swyddi gweigion yn amrywio ar wahanol gyfnodau yn \u00f4l pwysau gwaith, achosion sy\u2019n cael sylw cenedlaethol a ffactorau eraill fel pobl yn ymddeol, newid swyddi neu\u2019n gadael yr ardal. Mae\u2019n arferol bod yna fwy o swyddi gweigion yn y Gwasanaethau Plant ac er bod yno wasgfeydd ymhob gr\u0175p cleientiaid, mae angen gwneud mwy o ymdrech wrth farchnata a denu ymgeiswyr i wneud cais am swyddi yng Ngwasanaeth Plant, Teuluoedd a Diogelu.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color has-link-color wp-elements-076490ab4e518672d16d7512311c20e3\">Recriwtio Gwaith Cymdeithasol<\/h3>\n\n\n\n<p>Un o\u2019n prif amcanion yw cael gweithlu gwaith cymdeithasol cynaliadwy. Er mwyn cyflawni hyn, cydnabyddwn yr angen i agor llwybrau amrywiol i waith cymdeithasol a sicrhau bod ein gweithlu\u2019n wydn. Mae gennym fodel cymysg ar gyfer cyflenwi gweithlu gwaith cymdeithasol; yn ogystal \u00e2 recriwtio\u2019n uniongyrchol i swyddi gwaith cymdeithasol, mae gennym lwybr llwyddiannus ar gyfer datblygu ein gweithlu ein hunain ar gyfer gweithwyr presennol. Dros y tair blynedd nesaf bydd y llwybr hwn yn cyflenwi chwe gweithiwr a fydd yn cymhwyso yn 2025, pedwar yn 2026, a phedwar arall yn 2027.<\/p>\n\n\n\n<p>Ym mis Medi 2024 cyflwynwyd ein swyddi Hyfforddeion Graddedig Gwaith Cymdeithasol. Mae yna ddwy swydd llawn amser ar gontractau cyfnod penodol o ddwy flynedd, a bydd y ddau unigolyn a benodir i\u2019r swyddi yn cwblhau Gradd Meistr yn y Celfyddydau (MA) mewn Gwaith Cymdeithasol ym Mhrifysgol Bangor. Drwy gydol y ddwy flynedd bydd Gwasanaeth y Gweithlu\u2019n cefnogi\u2019r unigolion hynny sydd i\u2019w lleoli o fewn timau gwaith cymdeithasol ac fe\u2019u goruchwylir gan Reolwr T\u00eem gwaith cymdeithasol. Wedi iddynt gymhwyso, cynigir swydd gwaith cymdeithasol barhaol iddynt yn yr Awdurdod Lleol.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae parchu gwaith cymdeithasol fel galwedigaeth yn allweddol i gadw\u2019r Gweithwyr Cymdeithasol yr ydym yn eu cyflogi. Bob blwyddyn byddwn yn nodi Diwrnod Gwaith Cymdeithasol y Byd, ac yn cynnwys ymarferwyr, rheolwyr, myfyrwyr, hyfforddeion, ac unigolion sy\u2019n cychwyn ar eu taith tuag at yrfa mewn gwaith cymdeithasol, yn ogystal \u00e2\u2019r rheiny sy\u2019n cefnogi ac yn hwyluso\u2019r siwrnai honno. Ym mis Mawrth 2025 cynhaliwyd digwyddiad gennym yn swyddfeydd Coed Pella i archwilio thema\u2019r flwyddyn: cryfhau undod rhwng cenedlaethau ar gyfer lles parhaus. Yr oedd hyn yn gyfle delfrydol i Weithwyr Cymdeithasol yng ngwasanaethau oedolion a phlant i ddod at ei gilydd o gwmpas pwnc sy\u2019n adeiladu pontydd dros y grwpiau oedran. <\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-full\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"650\" height=\"247\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/08\/World-Social-Work-Day.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-3893\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/08\/World-Social-Work-Day.jpg 650w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/08\/World-Social-Work-Day-300x114.jpg 300w\" sizes=\"auto, (max-width: 650px) 100vw, 650px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color has-link-color wp-elements-a5d582369de9f954a9ef181de753c81c\">Recriwtio ym maes Therapi Galwedigaethol<\/h3>\n\n\n\n<p>Yr ydym wedi bod yn gweithio ar y cyd \u00e2 Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC), Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) a Phrifysgol Wrecsam i fynd i\u2019r afael \u00e2 recriwtio Therapyddion Galwedigaethol ers tro i Ofal Cymdeithasol. O ganlyniad, mae AaGIC wedi cydnabod yr angen i gynyddu cyllid ar gyfer lleoedd gradd ym Mhrifysgol Wrecsam ac i unrhyw leoedd ychwanegol gael eu neilltuo ar gyfer hyfforddeiaethau awdurdodau lleol. Ar hyn o bryd yr ydym yn recriwtio ar gyfer ein swydd Hyfforddeiaeth Therapi Galwedigaethol Conwy.  <\/p>\n\n\n\n<p>Cam nesaf y gwaith hwn ar y cyd fydd mynd i\u2019r afael \u00e2 dysgu ar \u00f4l cymhwyso, gyda\u2019r nod o sefydlu rhaglen ddysgu \u00f4l-gymhwyso ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar y cyd, wedi ei hariannu gan AaGIC.  <\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color has-link-color wp-elements-3776b6abc755de24cedeead1779f64f4\">Llwybr Preswyl Plant<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae cynnal twf cyflym ein darpariaeth breswyl i blant yn gofyn am weithlu hyblyg sydd wedi ei hyfforddi\u2019n addas. Yr ydym felly wedi datblygu llwybr cynnydd i gefnogi, datblygu ac annog pobl i ymuno \u00e2\u2019n gweithlu. Gan gyd-fynd \u00e2 Fframwaith Cymwysterau Cymru a gofynion cofrestru gweithlu Gofal Cymdeithasol Cymru, mae\u2019r llwybr yn cynnig ffordd glir tuag at gynnydd o fewn ein darpariaeth breswyl i blant a thu hwnt.<\/p>\n\n\n\n<p>Ers mis Ionawr 2025, yr ydym yn recriwtio deg Gweithiwr Preswyl Plant Lefel 1 llawn amser. Gan gydnabod bod y swyddi hyn yn rhai lefel mynediad i\u2019r gweithlu, byddant yn mynychu coleg am ddau ddiwrnod yr wythnos i ennill eu cymhwyster craidd City &amp; Guilds ac yn derbyn cefnogaeth i weithio ledled ein sefydliadau preswyl. Ar \u00f4l ennill y cymhwyster a chwblhau cofrestriad y gweithlu, byddant yn awtomatig yn dod yn Weithwyr Gofal Plant Preswyl Lefel 2 a byddwn yn eu cefnogi i gael r\u00f4l Lefel 3 yn un o\u2019n lleoliadau preswyl.<\/p>\n\n\n\n<p>Byddwn yn cynnal dwy sesiwn wybodaeth yng Ngholeg Llandrillo yn ystod 2025 i godi ymwybyddiaeth a hyrwyddo gwaith preswyl fel dewis gyrfaol. Byddwn hefyd yn datblygu cynllun recriwtio, cynefino a hyfforddi i sicrhau bod Rheolwyr Cofrestredig a gweithwyr cymorth yn cael eu recriwtio\u2019n gyflym ac yn effeithiol ar gyfer pob datblygiad.<\/p>\n\n\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-alpha-channel-opacity\"\/>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Mwy Na Geiriau <\/h2>\n\n\n\n<p>Cynllun Pum Mlynedd Mwy Na Geiriau (2022-2027) yw fframwaith strategol Llywodraeth Cymru i gryfhau darpariaeth y Gymraeg ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Ei nod yw cefnogi siaradwyr Cymraeg i dderbyn gwasanaethau yn eu hiaith gyntaf, ac mae\u2019r cynllun yn seiliedig ar y them\u00e2u canlynol:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Diwylliant ac arweinyddiaeth<\/li>\n\n\n\n<li>Polis\u00efau a chynlluniau ar gyfer y Gymraeg<\/li>\n\n\n\n<li>Cefnogi a datblygu sgiliau Cymraeg y gweithlu<\/li>\n\n\n\n<li>Rhannu arferion gorau a datblygu dull o alluogi<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Parhawn i ddarparu sesiynau hyfforddi Mwy Na Geiriau yn fisol i\u2019r sector Gofal Cymdeithasol i gyd. Cynnwys yr hyfforddiant:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Cyflwyniad i \u2018Fwy na Geiriau\u2019<\/li>\n\n\n\n<li>Y fframwaith ar gyfer gwasanaethau Cymraeg ym maes iechyd, gwasanaethau cymdeithasol a gofal cymdeithasol<\/li>\n\n\n\n<li>Polisi Cyhoeddus a Deddfwriaeth: Safonau\u2019r Gymraeg a\u2019r hyn y maent yn ei olygu i\u2019n sefydliadau<\/li>\n\n\n\n<li>Anghenion iaith, a\u2019r cynnig rhagweithiol mewn perthynas \u00e2 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru)<\/li>\n\n\n\n<li>Profiadau defnyddwyr gwasanaeth<\/li>\n\n\n\n<li>Arwain a gweithredu newid <\/li>\n\n\n\n<li>Iaith ac iechyd meddwl<\/li>\n\n\n\n<li>Iaith, diwylliant a dementia<\/li>\n\n\n\n<li>Cyfnewid arferion da<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r cynnwys wedi ei adolygu i gynnwys plant a\u2019r blynyddoedd cynnar, ac mae\u2019r hyfforddiant yn gwrs gorfodol yn llwybr dysgu ein gwasanaethau maethu.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae cyfanswm o 261 o weithwyr gofal cymdeithasol ledled y sector gofal wedi cwblhau\u2019r cwrs, ac, o\u2019r rheiny, cyflogir 190 gan Gonwy, sy\u2019n 21% o\u2019n gweithlu. Mae\u2019r rhan fwyaf o\u2019r rhai sy\u2019n mynychu\u2019r cyrsiau yn gweithio o fewn gwasanaethau pobl h\u0177n ac yn bennaf mewn lleoliadau preswyl. Ein bwriad, fodd bynnag, yw i holl weithwyr CBSC fod wedi cwblhau\u2019r hyfforddiant erbyn 2027, sef hyd oes ein Cynllun Pum Mlynedd Mwy Na Geiriau. <\/p>\n\n\n\n<p>Yn ogystal \u00e2 chynnig hyfforddiant:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Yr ydym yn parhau i gefnogi a buddsoddi yn y rhaglen MA Gwaith Cymdeithasol ddwyieithog a ddarperir ym Mhrifysgol Bangor.<\/li>\n\n\n\n<li>Yr ydym yn cryfhau Polisi Goruchwylio Gofal Cymdeithasol i gynnwys amcanion strategaeth <a href=\"https:\/\/www.conwy.gov.uk\/cy\/Resident\/Cymraeg-in-Conwy\/Ein-Llais-Cymraeg-Welsh-Language-Promotion-Strategy-2024-2029.aspx\">Ein Llais Cymraeg<\/a> Conwy (Strategaeth Hyrwyddo\u2019r Gymraeg); golyga hyn y byddwn yn cefnogi ac annog staff i gydnabod a defnyddio eu gallu presennol parthed y Gymraeg.<\/li>\n\n\n\n<li>Pan fyddwn yn trosglwyddo i\u2019n system gwybodaeth cleientiaid newydd yn 2026, gobeithiwn ddarparu gwybodaeth ystadegol am ein Cynnig Rhagweithiol.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Ein cynllun yw bod cytundeb t\u00eem yn ymwneud \u00e2\u2019r Gymraeg yn bodoli ar gyfer pob t\u00eem mewnol, sy\u2019n nodi sut fyddant yn cefnogi ac annog aelodau i ddefnyddio\u2019r Gymraeg yn y gweithle. Mae hyn yn cael ei dreialu ar hyn o bryd yn ein Gwasanaeth Lles Cymunedol.<\/p>\n\n\n\n<p>Parthed gwasanaethau a gomisiynir, mae gan ddarparwyr gofal gyfrifoldeb i sicrhau bod eu gwasanaeth yn creu\u2019r amgylchedd iawn ar gyfer diwallu anghenion pobl. Mae ganddynt gyfrifoldeb fel gwasanaeth rheoledig gydag Arolygiaeth Gofal Cymru i hybu\u2019r Gymraeg a diwylliant Cymru, felly mae Mwy Na Geiriau yn berthnasol iddynt hwythau hefyd. Mae gwybodaeth a gasglwyd yn ddiweddar yn dangos bod gan 78% o asiantaethau gofal cartref siaradwyr Cymraeg rhugl ymysg eu gweithwyr. Byddwn yn parhau i roi pwyslais ar ddarpariaeth Gymraeg drwy ymweliadau ein T\u00eem Monitro, ac annog gweithwyr i ymgymryd \u00e2\u2019r hyfforddiant sydd ar gael.<\/p>\n\n\n\n<p>Yn 2025 byddwn yn parhau \u00e2\u2019r gwaith a amlinellir uchod ac yn gweithio gyda Gwasanaeth y Gymraeg a Chyfieithu i ddatblygu\u2019r camau gweithredu hyn o fewn gweithlu Gofal Cymdeithasol:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Cefnogi staff i fod \u00e2 Chymraeg ar lefel cwrteisi, yn cynnwys ynganu enwau lleoedd a chyfarchion sylfaenol<\/li>\n\n\n\n<li>Cynyddu faint o Gymraeg a gaiff ei siarad yn y gweithle<\/li>\n\n\n\n<li>Cynyddu\u2019r defnydd o eiriau Cymraeg wrth i ni gyfathrebu yn Saesneg er mwyn helpu pobl i ddysgu Cymraeg<\/li>\n\n\n\n<li>Cefnogi staff gyda\u2019u hyder i ddefnyddio eu Cymraeg yn y gweithle<\/li>\n\n\n\n<li>Hyrwyddo cyrsiau Dysgu Cymraeg a ffyrdd eraill o ddysgu Cymraeg<\/li>\n\n\n\n<li>Cynnig mynediad i staff i adroddiadau Cymraeg a chyfieithu ar y pryd mewn cyfarfodydd<\/li>\n\n\n\n<li>Defnyddio cortyn gwddf Cymraeg a Dysgu Cymraeg i annog staff i ddefnyddio\u2019r Gymraeg yn y gweithle.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color has-link-color wp-elements-75caf03b394ddcb4d85a328b2d3262e0\">Data allweddol<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae Datganiad Cenedlaethol Gofal Cymdeithasol a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2025, yn ymwneud \u00e2 data 2023\/2024, yn ffordd dda o arwain perfformiad ac amlygu meysydd i\u2019w gwella. Yr oedd angen gwella cofnod cynnig rhagweithiol y Gymraeg ar asesiadau newydd ym maes gwasanaethau plant. Dangosai\u2019r data mai dim ond ar 2.6% o asesiadau newydd yr oedd cynnig rhagweithiol y Gymraeg wedi ei gofnodi. Y cyfartaledd yng Nghymru oedd 74%.*<\/p>\n\n\n\n<p>Mae hyn yn gwrthgyferbynnu \u00e2\u2019r asesiadau newydd a gynhaliwyd mewn iaith ddewisol, a oedd yn 90.1% \u2013 a oedd yn uwch na\u2019r cyfartaledd o 81.4% yng Nghymru.*<\/p>\n\n\n\n<p class=\"has-small-font-size\"><em>*Data o Ddatganiad Cenedlaethol Gofal Cymdeithasol, ar gyfer data 2023\/2024, a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2025.<\/em><\/p>\n\n\n\n<p>O\u2019r 191 o asesiadau plant newydd a gwblhawyd, dim ond ar 5 (2.6%) y cofnodwyd cynnig rhagweithiol y Gymraeg. Dyma\u2019r ganran isaf a gofnodwyd yng Nghymru, a\u2019r agosaf oedd Rhondda Cynon Taf gyda 23.2%.* O\u2019r 5 asesiad lle\u2019r oedd cynnig rhagweithiol y Gymraeg, ni dderbyniwyd unrhyw un ohonynt. <\/p>\n\n\n\n<p class=\"has-small-font-size\"><em>*Data o Ddatganiad Cenedlaethol Gofal Cymdeithasol, ar gyfer data 2023\/2024, a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2025.<\/em><\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-full is-resized\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"630\" height=\"284\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/10\/Active-Offer-Graph-Cymraeg.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-4043\" style=\"width:840px;height:auto\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/10\/Active-Offer-Graph-Cymraeg.jpg 630w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/10\/Active-Offer-Graph-Cymraeg-300x135.jpg 300w\" sizes=\"auto, (max-width: 630px) 100vw, 630px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p>Mae canran isel Cynigion Rhagweithiol yn debygol o fod oherwydd problem gyda chofnodi yn ein system gwybodaeth cleientiaid. Mae\u2019r graff isod yn cadarnhau ein bod yn cynnal dros 81% o asesiadau gan ddefnyddio iaith o ddewis yr unigolyn.* <\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-full\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"629\" height=\"278\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/10\/New-assessments-in-language-of-choice.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-4045\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/10\/New-assessments-in-language-of-choice.jpg 629w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/10\/New-assessments-in-language-of-choice-300x133.jpg 300w\" sizes=\"auto, (max-width: 629px) 100vw, 629px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-alpha-channel-opacity\"\/>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Adnoddau ariannol<\/h2>\n\n\n\n<p>Ar 29 Chwefror 2024 cymeradwyodd y Cyngor gyllideb o \u00a390.08 miliwn ar gyfer Gofal Cymdeithasol yn 2024\/25. Yn ystod y flwyddyn cynyddodd y gyllideb i \u00a391.84 miliwn, yn bennaf i gydnabod y costau ychwanegol yn deillio o\u2019r dyfarniadau cyflog y cytunwyd arnynt yn genedlaethol ar gyfer staff.<\/p>\n\n\n\n<p>Y gwir wariant yn 2024\/25 oedd \u00a398.43 miliwn, sef \u00a36.59 miliwn dros y gyllideb a hynny oherwydd pwysau costau:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Aeth costau\u2019n gysylltiedig \u00e2 Phlant sy\u2019n Derbyn Gofal \u00a34.38 miliwn dros y gyllideb oherwydd cynnydd yn nifer y lleoliadau, nifer y lleoliadau \u00e2 chost uchel, a chynnydd yng nghost gyfartalog y lleoliadau.<\/li>\n\n\n\n<li>Prif faes arall a gyfrannodd tuag at wario mwy na\u2019r gyllideb oedd cyllideb Pobl Ddiamddiffyn, lle cafwyd costau ychwanegol o \u00a32.47 miliwn o ganlyniad i leoliadau \u00e2 chost uchel.<\/li>\n\n\n\n<li>Bu cynnydd cyson yn y galw ar Wasanaethau Pobl H\u0177n dros y flwyddyn, a gostiodd \u00a31.65 miliwn yn ychwanegol.<\/li>\n\n\n\n<li>Bu tanwario mewn gwasanaethau eraill, a bu hynny o gymorth i wrthbwyso\u2019r pwysau allweddol hyn yn rhannol.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Wrth i\u2019r pwysau cyllidebol gynyddu yn ystod y flwyddyn, cymerwyd camau pellach gennym i reoli\u2019r pwysau. Parhaodd y Cyfarwyddwr Strategol a Phenaethiaid Gwasanaeth i ailadrodd wrth ddeiliaid cyllideb mai gwariant hanfodol yn unig y dylid ei wneud, a bod pob gwariant yn destun craffu manwl. Gwnaed ymdrech eang i sicrhau bod yr holl incwm a oedd yn ddyledus yn cael ei gasglu yn ystod y flwyddyn. Fodd bynnag, cafwyd oedi wrth gytuno\u2019n llwyr ar gyfraniadau incwm ag awdurdodau partner, yn arbennig Iechyd. Gwnaed y mwyaf posibl o\u2019r holl grantiau yn unol \u00e2\u2019u telerau ac amodau unigol.<\/p>\n\n\n\n<p>Cymerwyd yr ymagwedd gyfannol o fewn y gwasanaeth er mwyn lleihau gwariant lle bynnag bosibl, uchafu incwm a cheisio lleihau\u2019r pwysau nad oedd modd eu hosgoi ar y gyllideb a brofodd y gwasanaeth. Wrth i\u2019r pwysau ar y gyllideb gynyddu, rhoddwyd gwybod amdanynt drwy\u2019r adroddiadau chwarterol corfforaethol ar y gyllideb er mwyn i\u2019r Awdurdod allu rhoi sylw i\u2019r risg a chynllunio ar ei chyfer.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color has-link-color wp-elements-1245f40098fc40fec28d20a7a5c81a3b\">2025\/26<\/h3>\n\n\n\n<p>Yn ystod 2024\/25 yr ydym wedi dadansoddi ein sefyllfa ariannol ac wedi bod yn llwyddiannus gyda\u2019r achosion busnes a\u2019r meysydd pwysau canlynol i fynd i\u2019r afael \u00e2\u2019r pwysau ar gyllideb 2025\/26.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">Achosion Busnes<\/h4>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-table\"><table><thead><tr><th>Gwasanaeth<\/th><th>Swm (\u00a3m)<\/th><\/tr><\/thead><tbody><tr><td>Trefniadau Diogelu Rhag Colli Rhyddid<\/td><td>0.243<\/td><\/tr><tr><td>Plant ar eu Pen eu Hunain yn Ceisio Lloches (staff)<\/td><td>0.101<\/td><\/tr><tr><td>T\u00eem Dyletswydd Argyfwng<\/td><td>0.069<\/td><\/tr><tr><td>Adnodd Diogelu ac Adolygu Annibynnol<\/td><td>0.040<\/td><\/tr><tr><td>Monitro Plant<\/td><td>0.027<\/td><\/tr><\/tbody><tfoot><tr><td>Cyfanswm<\/td><td>0.480<\/td><\/tr><\/tfoot><\/table><\/figure>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">Pwysau Busnes<\/h4>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-table\"><table><thead><tr><th>Gwasanaeth<\/th><th>Swm (\u00a3m)<\/th><\/tr><\/thead><tbody><tr><td>Plant sy\u2019n Derbyn Gofal<\/td><td>2.879<\/td><\/tr><tr><td>Lleoliadau Pobl Ddiamddiffyn \u00e2 chost uchel a phwysau Plant ar eu Pen eu Hunain yn Ceisio Lloches<\/td><td>1.746<\/td><\/tr><tr><td>Cynnydd mewn ffioedd gofal a gofal cartref \/ byw \u00e2 chymorth<\/td><td>4.780<\/td><\/tr><tr><td>Cynnydd yn y galw ar Wasanaeth Pobl H\u0177n<\/td><td>1.995<\/td><\/tr><\/tbody><tfoot><tr><td>Cyfanswm<\/td><td>11.400<\/td><\/tr><\/tfoot><\/table><\/figure>\n\n\n\n<p>Yr ydym wedi ymrwymo i wneud arbedion mewn gwahanol wasanaethau sy\u2019n gwneud cyfanswm o \u00a30.680 miliwn.<\/p>\n\n\n\n<p>Cymhariaeth rhwng y sefyllfa derfynol yn 2023\/24 a 2024\/25:<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-table\"><table class=\"has-fixed-layout\"><thead><tr><th>Gwasanaethau Oedolion<\/th><th>Sefyllfa derfynol 2023\/24 \u00a3\u2019000<\/th><th>Sefyllfa derfynol 2024\/25 \u00a3\u2019000<\/th><th>Amrywiant 2024\/25 \u00a3\u2019000<\/th><\/tr><\/thead><tbody><tr><td>Cymorth Busnes<\/td><td>4,383<\/td><td>4,276<\/td><td>-107<\/td><\/tr><tr><td>Lles Cymunedol<\/td><td>679<\/td><td>286<\/td><td>-393<\/td><\/tr><tr><td>Anabledd<\/td><td>25,577<\/td><td>27,061<\/td><td>1,484<\/td><\/tr><tr><td>Pobl H\u0177n<\/td><td>29,133<\/td><td>33,416<\/td><td>4,283<\/td><\/tr><tr><td>Safonau Ansawdd a Chomisiynu<\/td><td>993<\/td><td>1,123<\/td><td>130<\/td><\/tr><\/tbody><tfoot><tr><td>Cyfanswm Gwasanaethau Oedolion<\/td><td>60,765<\/td><td>66,161<\/td><td>5,396<\/td><\/tr><\/tfoot><\/table><\/figure>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-table\"><table class=\"has-fixed-layout\"><thead><tr><th>Gwasanaethau Plant<\/th><th>Sefyllfa derfynol 2023\/24 \u00a3\u2019000<\/th><th>Sefyllfa derfynol 2024\/25 \u00a3\u2019000<\/th><th>Amrywiant 2024\/25 \u00a3\u2019000<\/th><\/tr><\/thead><tbody><tr><td>Cymorth i Deuluoedd ac Ymyrraeth<\/td><td>2,728<\/td><td>3,135<\/td><td>407<\/td><\/tr><tr><td>Plant sy\u2019n Derbyn Gofal<\/td><td>16,134<\/td><td>18,696<\/td><td>2,562<\/td><\/tr><tr><td>Diogelu<\/td><td>261<\/td><td>283<\/td><td>23<\/td><\/tr><tr><td>Pobl Ddiamddiffyn<\/td><td>7,273<\/td><td>9,967<\/td><td>2,694<\/td><\/tr><tr><td>Cyfiawnder Ieuenctid<\/td><td>181<\/td><td>186<\/td><td>5<\/td><\/tr><\/tbody><tfoot><tr><td>Cyfanswm Gwasanaethau Plant<\/td><td>26,577<\/td><td>32,268<\/td><td>5,691<\/td><\/tr><\/tfoot><\/table><\/figure>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-table is-style-stripes\"><table class=\"has-fixed-layout\"><tbody><tr><td>Cyfanswm<\/td><td>87,342<\/td><td>98,429<\/td><td>11,087<\/td><\/tr><\/tbody><\/table><\/figure>\n\n\n\n<p>Noder bod yr amrywiant yn gymhariaeth o\u2019r gwir wariant yn 2023\/24 a 2024\/25 yn hytrach na chymhariaeth o wariant yn \u00f4l y gyllideb yn ystod y ddwy flynedd. Diweddarwyd y gyllideb ar gyfer 2024\/25 i adlewyrchu\u2019r pwysau costau hysbys o ganlyniad i chwyddiant cyflogau a phrisiau, yn ogystal \u00e2\u2019r galw ar wasanaethau. Mae\u2019r amrywiannau\u2019n adlewyrchu\u2019r pwysau hynny. <\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Arweinyddiaeth Mae gan Gonwy drefniadau llywodraethu cryfion, yn cynnwys swyddogaeth trosolwg a chraffu a arweinir gan yr Aelodau, sydd ag ethos cadarnhaol ac adeiladol o gydnabod arferion da ac argymell gwelliannau lle bo angen.&nbsp; Wrth graffu ceisir ymgysylltu \u00e2\u2019r gymuned ym mha le bynnag bosibl er mwyn gwella ansawdd bywyd a lles pobl sy\u2019n byw, [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":5,"featured_media":0,"parent":4148,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"_seopress_titles_title":"","_seopress_titles_desc":"","_seopress_robots_index":"","_seopress_robots_follow":"","_seopress_robots_imageindex":"","_seopress_robots_snippet":"","_seopress_robots_primary_cat":"","_seopress_robots_breadcrumbs":"","_seopress_robots_freeze_modified_date":"","_seopress_robots_custom_modified_date":"","_seopress_robots_canonical":"","_seopress_social_fb_title":"","_seopress_social_fb_desc":"","_seopress_social_fb_img":"","_seopress_social_fb_img_attachment_id":0,"_seopress_social_fb_img_width":0,"_seopress_social_fb_img_height":0,"_seopress_social_twitter_title":"","_seopress_social_twitter_desc":"","_seopress_social_twitter_img":"","_seopress_social_twitter_img_attachment_id":0,"_seopress_social_twitter_img_width":0,"_seopress_social_twitter_img_height":0,"_seopress_redirections_value":"","_seopress_redirections_enabled":"","_seopress_redirections_enabled_regex":"","_seopress_redirections_logged_status":"","_seopress_redirections_param":"","_seopress_redirections_type":0,"_seopress_analysis_target_kw":"","_genesis_hide_title":false,"_genesis_hide_breadcrumbs":false,"_genesis_hide_singular_image":false,"_genesis_hide_footer_widgets":false,"_genesis_custom_body_class":"","_genesis_custom_post_class":"","_genesis_layout":"","footnotes":""},"class_list":{"0":"post-4031","1":"page","2":"type-page","3":"status-publish","5":"entry"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/4031","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/5"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=4031"}],"version-history":[{"count":5,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/4031\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":4051,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/4031\/revisions\/4051"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/4148"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=4031"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}