{"id":4027,"date":"2025-10-27T12:05:00","date_gmt":"2025-10-27T12:05:00","guid":{"rendered":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/?page_id=4027"},"modified":"2025-10-27T12:05:08","modified_gmt":"2025-10-27T12:05:08","slug":"crynodeb-y-cyfarwyddwr","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/adroddiad-2024-25\/crynodeb-y-cyfarwyddwr\/","title":{"rendered":"Crynodeb y Cyfarwyddwr"},"content":{"rendered":"\n<p>Yr wyf unwaith eto\u2019n falch o gael cyflwyno adroddiad llawn arall yn dangos ein hymrwymiad i ddarparu gwasanaethau o ansawdd, ac eleni hoffwn nodi a chanolbwyntio ar y prif gyflawniadau.<\/p>\n\n<p>Mae datblygu Cynllun Conwy Gynhwysol ar gyfer 2024-28 wedi bod yn ateg i\u2019r gwasanaeth. Mae hyn yn canolbwyntio ar hybu tegwch, amrywiaeth a chynhwysiant yn y gymuned a\u2019r gweithle, ac yr ydym wedi ymrwymo\u2019n llwyr fel gwasanaeth i uchelgais y cynllun. Yr ydym wedi adeiladu sylfaen gref o gynhwysiant ym maes Gofal Cymdeithasol ar egwyddorion diwylliant o garedigrwydd a thosturi. Mae rhai enghreifftiau yn cynnwys ehangu hyfforddiant yn y maes hwn ar gyfer staff, gan gynnwys sesiynau ymwybyddiaeth o hil, hyfforddiant \u2018Cyflwyniad i Gonwy Gynhwysol\u2019, a modiwl e-ddysgu newydd. Mae ein rhaglen integreiddio yn datblygu wrth i ni ategu ein Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol ac Addysg a, gan gysylltu \u00e2 thema cynhwysiant, daeth Conwy y sir gyntaf yng Nghymru lle mae pob ysgol uwchradd yn cymryd rhan yn rhaglen gwrthfwlio KiVa.<\/p>\n\n<p>Mae Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol yn allweddol i ni eleni ac yr ydym wrthi\u2019n cyflawni camau gweithredu ac argymhellion a nodir yn y cynllun, gan gynnwys fersiynau pellach o hyfforddiant ymwybyddiaeth ddiwylliannol a chefnogaeth i staff o gefndiroedd ethnig lleiafrifol gyda recriwtio, cadw swyddi a phrofiadau o hiliaeth yn y gweithle. <\/p>\n\n<p>Parhawn i ddatblygu ein huchelgais ddiamod i fod y gwasanaeth gofal cymdeithasol gorau i weithio ynddo. Mae ffyniant wedi bod yn ein menter sefydledig i ddatblygu ein gweithwyr ein hunain ac mae ymrwymiad i gael mwy o staff sy\u2019n siarad Cymraeg \u2013 recriwtiwyd aseswyr Trefniadau Diogelu Rhag Colli Rhyddid sy\u2019n siarad Cymraeg eleni. Yn ogystal, mae cyflwyno ein swyddi Hyfforddeion Graddedig Gwaith Cymdeithasol cyntaf wedi bod yn ddatblygiad cyffrous.<\/p>\n\n<p>Mae ein darpariaeth gofal ar gyfer plant sy\u2019n derbyn gofal wedi dwyn ffrwyth, a chyda hynny daeth ystod o gyfleoedd gwaith sy\u2019n cynnwys cefnogaeth i weithwyr preswyl dan hyfforddiant i ddysgu a datblygu i ddod yn fwy profiadol yn y maes ymarfer gwerth chweil hwn. Ynghyd \u00e2 hyn cyflwynwyd y Gwasanaeth Cefnogaeth Uwch yng Ngwasanaeth Plant sy\u2019n Derbyn Gofal, i ddarparu arbenigedd iechyd meddwl i gynyddu sefydlogrwydd lleoliadau, a Hyfforddiant Cymorth Ymddygiad Cadarnhaol, ac yr ydym hefyd wedi sicrhau cyllid ar gyfer datblygu Ymarferwyr Cymorth Ymddygiad Cadarnhaol.<\/p>\n\n<p>Er mai\u2019r hyn sy\u2019n gefndir i arloesedd yw hinsawdd ariannol anodd, mae ymroddiad ac ymrwymiad y timau i ansawdd yn amlwg. Mae angen ystyried cyfleoedd darparu rhanbarthol er mwyn lliniaru cyfyngiadau ariannol yn ogystal \u00e2 phwysigrwydd ymyrraeth gynnar ac atal i reoli a lleihau\u2019r cynnydd mewn anghenion. <\/p>\n\n<p>Mae gweithio\u2019n effeithiol mewn partneriaeth yn hanfodol, ac mae\u2019r adroddiad yn pwysleisio\u2019r angen i gydweithio \u00e2 sefydliadau Iechyd a\u2019r Trydydd Sector i gyflawni canlyniadau integredig o ansawdd uchel. Gall cynnal cefnogaeth gyson ledled sefydliadau partner fod yn heriol, felly mae arweinyddiaeth effeithiol a phartneriaethau cryfion yn hanfodol.<\/p>\n\n<p>Yn olaf, mae ffocws yn yr adroddiad ar <strong>Ddiogelu ac Amddiffyn<\/strong> plant ac oedolion diamddiffyn, ac mae\u2019r adroddiad yn nodi\u2019r angen am weithgareddau diogelu effeithiol a phwysigrwydd goruchaf amddiffyn unigolion rhag camdriniaeth ac esgeulustod.<\/p>\n\n<p>Hoffwn ddiweddu drwy ddiolch i\u2019r bobl y darparwn wasanaethau iddynt, eu teuluoedd a\u2019u gofalwyr, ac, wrth gwrs, i\u2019n staff ardderchog sy\u2019n gwneud Gofal Cymdeithasol Conwy mor arbennig. Gobeithio y byddwch yn mwynhau darllen yr adroddiad.<\/p>\n\n<figure class=\"wp-block-image size-full is-resized\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"359\" height=\"490\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/09\/image-24.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-4020\" style=\"width:229px;height:auto\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/09\/image-24.png 359w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2025\/09\/image-24-220x300.png 220w\" sizes=\"auto, (max-width: 359px) 100vw, 359px\" \/><\/figure>\n\n<p class=\"has-medium-font-size\"><strong><em>Jenny Williams<\/em><\/strong><\/p>\n\n<p>Cyfarwyddwr Strategol Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol ac Addysg<\/p>\n\n<p>Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy<\/p>\n\n<p><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Yr wyf unwaith eto\u2019n falch o gael cyflwyno adroddiad llawn arall yn dangos ein hymrwymiad i ddarparu gwasanaethau o ansawdd, ac eleni hoffwn nodi a chanolbwyntio ar y prif gyflawniadau. Mae datblygu Cynllun Conwy Gynhwysol ar gyfer 2024-28 wedi bod yn ateg i\u2019r gwasanaeth. Mae hyn yn canolbwyntio ar hybu tegwch, amrywiaeth a chynhwysiant yn [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":5,"featured_media":0,"parent":4148,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"_seopress_titles_title":"","_seopress_titles_desc":"","_seopress_robots_index":"","_seopress_robots_follow":"","_seopress_robots_imageindex":"","_seopress_robots_snippet":"","_seopress_robots_primary_cat":"","_seopress_robots_breadcrumbs":"","_seopress_robots_freeze_modified_date":"","_seopress_robots_custom_modified_date":"","_seopress_robots_canonical":"","_seopress_social_fb_title":"","_seopress_social_fb_desc":"","_seopress_social_fb_img":"","_seopress_social_fb_img_attachment_id":0,"_seopress_social_fb_img_width":0,"_seopress_social_fb_img_height":0,"_seopress_social_twitter_title":"","_seopress_social_twitter_desc":"","_seopress_social_twitter_img":"","_seopress_social_twitter_img_attachment_id":0,"_seopress_social_twitter_img_width":0,"_seopress_social_twitter_img_height":0,"_seopress_redirections_value":"","_seopress_redirections_enabled":"","_seopress_redirections_enabled_regex":"","_seopress_redirections_logged_status":"","_seopress_redirections_param":"","_seopress_redirections_type":0,"_seopress_analysis_target_kw":"","_genesis_hide_title":false,"_genesis_hide_breadcrumbs":false,"_genesis_hide_singular_image":false,"_genesis_hide_footer_widgets":false,"_genesis_custom_body_class":"","_genesis_custom_post_class":"","_genesis_layout":"","footnotes":""},"class_list":{"0":"post-4027","1":"page","2":"type-page","3":"status-publish","5":"entry"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/4027","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/5"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=4027"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/4027\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":4030,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/4027\/revisions\/4030"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/4148"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=4027"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}