{"id":3795,"date":"2024-09-13T11:43:41","date_gmt":"2024-09-13T10:43:41","guid":{"rendered":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/gwybodaeth-arall\/"},"modified":"2024-09-17T10:05:23","modified_gmt":"2024-09-17T09:05:23","slug":"gwybodaeth-arall","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/gwybodaeth-arall\/","title":{"rendered":"Gwybodaeth Arall"},"content":{"rendered":"\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Arolygon ac adolygiadau<\/h2>\n\n\n\n<p>Ym Mawrth 2023 cymerodd ein Gwasanaeth Plant, Teuluoedd a Diogelu ran mewn adolygiad cenedlaethol o gynllunio gofal ar gyfer plant a phobl ifanc yn destun cyn-achosion Amlinelliad Cyfraith Gyhoeddus (PLO). Pan mae\u2019r gwasanaethau cymdeithasol yn bryderus am les plentyn, gallent gynnal cyfarfod PLO neu gyfarfod cyn-achosion. Os na wneir newidiadau neu welliannau digonol yn dilyn y cyfarfod, yna gall yr Awdurdod Lleol wneud cais i\u2019r llys a gofyn am orchmynion i ddiogelu\u2019r plentyn.<\/p>\n\n\n\n<p>Pwrpas adolygiad AGC oedd darparu craffu allanol, sicrwydd ac i hyrwyddo gwelliant o ran cynllunio gofal i blant a phobl ifanc sy\u2019n destun cyn-achosion amlinelliad cyfraith gyhoeddus.<\/p>\n\n\n\n<p>Roedd yr adolygiad yn amlygu ein bod yn elwa o d\u00eem rheoli profiadol a sefydlog o fewn y gwasanaethau plant, sy\u2019n goruchwylio gweithdrefnau mewn perthynas \u00e2 PLO yn effeithiol. Roedd yr adolygiad yn amlygu dull cyson i arferion gorau mewn perthynas \u00e2 chanllawiau statudol, a thystiolaeth hefyd o ddull clir gan reolwyr ac aelodau staff ymhob cam o\u2019r broses.<\/p>\n\n\n\n<p>O ran gwelliannau, roedd yr adolygiad yn cynnwys argymhellion ar gyfer arferion yn y dyfodol i sicrhau:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Proses asesu amserol sy\u2019n osgoi oedi<\/li>\n\n\n\n<li>Rhannu gwybodaeth yn gyson gyda rhieni a phlant, a chyfathrebu clir gyda rhieni fel blaenoriaeth<\/li>\n\n\n\n<li>Dulliau o gael adborth gan rieni a theuluoedd o ran ein gwaith<\/li>\n\n\n\n<li>Bod llais y plentyn yn cael ei gipio yn y broses<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Yn dilyn yr adolygiad rydym wedi cyflwyno system sicrhau ansawdd gwell sy\u2019n olrhain proses asesu PLO o ddiwrnod 1 i ddiwrnod 42. Yn ogystal \u00e2\u2019r taflennu gwybodaeth rydym yn ei roi i deuluoedd, rydym hefyd yn defnyddio Mind of My Own, sy\u2019n ein galluogi ni i gipio llais y plentyn yn uniongyrchol trwy\u2019r ap.\r\n\r\nGallwch <a href=\"https:\/\/www.arolygiaethgofal.cymru\/cynllunio-gofal-ar-gyfer-plant-phobl-ifanc-syn-destun-proses-cyn-achos-yr-amlinelliad-cyfraith-2\">weld canfyddiadau ac argymhellion yr adolygiad ar wefan AGC<\/a>.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Cwynion a sylwadau<\/h2>\n\n\n\n<p>Mae hawl gan bawb sy&#8217;n gwneud cwyn am y Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghymru i gael eu clywed. Rhaid i\u2019w barn, eu dymuniadau a&#8217;u teimladau gael eu clywed, a dylai eu pryderon gael eu datrys yn gyflym ac yn effeithiol. Gall gwynion amlygu lle mae angen i wasanaethau newid, felly mae\u2019n bwysig fel Awdurdod Lleol, ein bod yn dysgu ohonynt, er mwyn canfod lle gallwn wneud newidiadau a gwelliannau.<\/p>\n\n\n\n<p>Credwn fod delio\u2019n effeithiol \u00e2 chwynion yn rhan hollbwysig o\u2019n cyfrifoldebau, ac mae proses gadarn i ddelio \u00e2 chwynion yn elfen hanfodol o sicrhau bod ein dinasyddion yn derbyn y gwasanaethau y mae ganddynt hawl iddynt. Mae hyn yn ein galluogi i:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Gydnabod yn gyflym pan fydd camgymeriadau wedi cael eu gwneud<\/li>\n\n\n\n<li>Eu cywiro yn effeithiol ac ymddiheuro pan fo hynny&#8217;n briodol<\/li>\n\n\n\n<li>Sicrhau ein bod yn dysgu gwersi o gwynion<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r rhesymau mwyaf cyffredin dros wneud cwyn yn cynnwys:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Eisiau cael eu clywed<\/li>\n\n\n\n<li>Eisiau sicrhau bod pryderon yn cael eu cydnabod a\u2019u cymryd o ddifrif<\/li>\n\n\n\n<li>Eisiau sicrhau bod camau priodol yn cael eu cymryd i ddatrys problemau ac i osgoi digwyddiadau tebyg yn y dyfodol<\/li>\n\n\n\n<li>I gael ymddiheuriad<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r Fframwaith Cyfreithiol ar gyfer cwynion y Gwasanaethau Cymdeithasol o fewn <a href=\"https:\/\/www.legislation.gov.uk\/cy\/wsi\/2014\/1794\/made\/welsh\">Rheoliadau Gweithdrefn Gwynion Gwasanaethau Cymdeithasol (Cymru) 2014<\/a> a <a href=\"https:\/\/www.legislation.gov.uk\/cy\/wsi\/2014\/1795\/made\/welsh\">Rheoliadau Gweithdrefn Sylwadau (Cymru) 2014<\/a>. Mae cyfeiriad hefyd at Gwynion a phwysigrwydd Eiriolaeth yn Rhan 10 o\u2019r <a href=\"https:\/\/www.legislation.gov.uk\/anaw\/2014\/4\/pdfs\/anaw_20140004_we.pdf\">Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014<\/a>.<\/p>\n\n\n\n<p>Hefyd, dosbarthwyd Canllawiau i ymdrin \u00e2 Chwynion a Sylwadau gan Wasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol i bob Awdurdod Lleol ym mis Mai 2014 er mwyn cynllunio ar gyfer eu gweithredu\u2019n gyflawn o 1 Awst 2014 ymlaen.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r Rheoliadau a\u2019r canllawiau hyn yn cadarnhau\u2019r trefniadau ar gyfer: <\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Sefydlu gweithdrefn gwynion <\/li>\n\n\n\n<li>Dynodi Uwch Swyddog Cwynion i fod yn gyfrifol am sicrhau cydymffurfiaeth \u00e2 threfniadau a wneir gan yr Awdurdod Lleol <\/li>\n\n\n\n<li>Penodi Swyddog Cwynion i reoli&#8217;r drefn <\/li>\n\n\n\n<li>Hyfforddi staff<\/li>\n\n\n\n<li>Chynhyrchu Adroddiad Blynyddol <\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Os yw\u2019n bosibl, bydd yr Awdurdod Lleol yn ceisio ymdrin \u00e2\u2019r mater ar unwaith yn hytrach na cheisio datrys y broblem yn nes ymlaen.   Os oes gan ddinesydd bryder o ran arferion, byddwn yn ceisio datrys y mater ar unwaith neu o fewn 24 awr o godi\u2019r mater. Os yn llwyddiannus, nid oes angen cofnodi\u2019r digwyddiadau hyn fel \u2018cwyn ffurfiol\u2019, maent yn hytrach yn cael eu cofnodi fel \u2018pryder\u2019 ar ein system gwybodaeth cleientiaid.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-full\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"686\" height=\"287\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/image-2.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-3840\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/image-2.png 686w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/image-2-300x126.png 300w\" sizes=\"auto, (max-width: 686px) 100vw, 686px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p>Er mwyn deall faint o gwynion a dderbyniom yn ystod 2022-23, roeddent yn cynrychioli 0.38% y nifer o oedolion oedd yn derbyn gofal a chymorth a 1% o blant a phobl ifanc oedd yn derbyn gwasanaethau. Ar y cyfan, fe dderbyniom 22 o gwynion ffurfiol yn ystod y flwyddyn. Gall y gostyngiad mewn cwynion a dderbyniwyd dros y pum mlynedd ddiwethaf ei weld yn y graff uchod.<\/p>\n\n\n\n<p>Daeth yr effaith ariannol ar Gonwy fel Awdurdod Lleol, o ran costau penodi Ymchwilwyr Annibynnol neu Unigolion Annibynnol i gwblhau\u2019r broses Ymchwilio yng Ngham 2 i gyfanswm o \u00a39,162.77. Roedd hyn yn gynnydd o\u2019i gymharu \u00e2 \u00a35,426.00 yn 2021\/22. <\/p>\n\n\n\n<p>Er mai ond dau Ymchwiliad Annibynnol Cam 2 a wnaed yn 2022\/23, mae\u2019r gwariant hwn yn cynnwys cost Ymchwiliad Annibynnol a gwblhawyd yn 2021\/22, ond a oedd heb ei gyfrif tan y flwyddyn ariannol ddilynol. <\/p>\n\n\n\n<p>Mae cyllideb ddynodedig o \u00a320,000 ar gael er mwyn comisiynu Ymchwilwyr Annibynnol Cam 2; fodd bynnag, mae\u2019n faes anrhagweladwy oherwydd bod gan yr achwynwyr yr hawl i wneud cais am Ymchwiliad Cam 2 o dan y Rheoliadau.<\/p>\n\n\n\n<p>O\u2019r 22 o gwynion a dderbyniom, cafodd 20 eu datrys ar lefel leol, heb yr angen i gomisiynu Ymchwilydd Annibynnol.  Aeth y ddau g\u0175yn arall yn uniongyrchol i gam 2 ar gais yr achwynwyr, yn \u00f4l eu hawl.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae nifer y cwynion a dderbynnir gan feysydd gwasanaeth unigol yn ddibynnol ar fath a natur y gwasanaethau a ddarperir.   Mae meysydd megis Gwasanaeth Cymorth i Deuluoedd ac Ymyrraeth a Phlant sy\u2019n Derbyn Gofal yn benodol emosiynol ac mae ein cyswllt \u00e2 theuluoedd yn seiliedig ar bryderon am les Plant a Phobl Ifanc.<\/p>\n\n\n\n<p>Nid oes gan feysydd eraill, megis Cymorth a Thrawsnewid Busnes a Safonau Ansawdd a Chomisiynu, yr un faint o swyddogaethau gyda\u2019r cyhoedd, felly, byddech yn disgwyl cael llai o gwynion ffurfiol mewn perthynas \u00e2\u2019r meysydd gwasanaeth penodol hyn. <\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-full\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"603\" height=\"390\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/image.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-3834\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/image.png 603w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/image-300x194.png 300w\" sizes=\"auto, (max-width: 603px) 100vw, 603px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p>O\u2019r 20 o gwynion Cam 1, cafodd 17 (85%) eu cydnabod gyda llythyr o fewn dau ddiwrnod gwaith a chwblhawyd 16 (80%) erbyn y dyddiad cau o 15 diwrnod gwaith. Yn y pedwar achos lle aethpwyd tu hwnt i\u2019r dyddiad cau, cyfathrebwyd \u00e2\u2019r achwynydd gyda chytundeb i dderbyn ymateb mwy manwl yn hwyrach, yn hytrach na brysio i lynu at y dyddiad cau swyddogol.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color has-link-color wp-elements-a31f7bc77d0d0bd39f3d4b57fe1202b2\">Am beth yr oedd pobl yn cwyno?<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae\u2019n anodd adnabod them\u00e2u unigol mewn perthynas \u00e2 chwynion y Gwasanaethau Cymdeithasol. Mae llawer ohonynt yn gymhleth eu natur ac yn cynnwys mwy nag un elfen benodol. At ddibenion yr adroddiad, rydym wedi nodi\u2019r hyn rydym yn credu yw\u2019r \u2018brif\u2019 thema ym mhob cwyn unigol. Y thema fwyaf cyffredin a nodwyd oedd rhyw fath o anghytundeb gyda gweithredoedd y Gwasanaethau Cymdeithasol. Wrth archwilio\u2019r thema hon ymhellach, datgelwyd bod pobl yn aml yn cwyno am weithredoedd a wnaed er budd pennaf aelod arall o\u2019r teulu; fodd bynnag, maent yn gwrthwynebu\u2019r hyn sydd wedi cael ei wneud. Bydd gwaith pellach yn cael ei wneud o ran categoreiddio them\u00e2u er mwyn dadansoddi tueddiadau dros amser, ac edrych ar dueddiadau sy\u2019n codi dro ar \u00f4l tro wrth edrych tua\u2019r dyfodol. <\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-full\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"886\" height=\"308\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/image-1.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-3837\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/image-1.png 886w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/image-1-300x104.png 300w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/09\/image-1-768x267.png 768w\" sizes=\"auto, (max-width: 886px) 100vw, 886px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color has-link-color wp-elements-d4a65e2dfbf932614834b4c632bce2e0\">Sut y gallwn wella<\/h3>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Er mwyn atal unrhyw oedi o ran cwynion yn cyrraedd ein t\u00eem dynodedig, byddwn yn cynnal sesiynau hyfforddi Ymwybyddiaeth o Gwynion gyda staff er mwyn codi ymwybyddiaeth.<\/li>\n\n\n\n<li>Byddwn yn darparu mwy o gefnogaeth i staff sy\u2019n delio \u00e2 chwynion di-baid a blinderus gyda pholisi newydd Rheoli Cyswllt Cwsmeriaid mewn Gofal Cymdeithasol.<\/li>\n\n\n\n<li>Rydym wedi cydnabod pwysigrwydd olrhain unrhyw gamau gweithredu cytunedig mewn cyfarfodydd amlddisgyblaeth ac iechyd a diogelwch, felly byddwn yn sicrhau bod cyfarfodydd adolygu yn cael eu cynnal nes i\u2019r holl gamau gweithredu cytunedig gael eu cwblhau a\u2019u llofnodi.<\/li>\n\n\n\n<li>Byddwn yn cyflawni digwyddiadau dysgu a myfyrio ar \u00f4l Ymchwiliadau Annibynnol Cam 2 cymhleth er mwyn rhoi cyfle i\u2019r holl staff ynghlwm \u00f4l-drafod a defnyddio dysgeidiaeth i wella arferion ar gyfer y dyfodol.<\/li>\n\n\n\n<li>Byddwn yn sicrhau bod ein trefniadau polisi codi t\u00e2l yn cael eu rhannu cyn gynted \u00e2 phosibl gydag unigolion, fel bod unrhyw anfonebau a dderbynnir yn rhai disgwyliedig ac felly ddim yn cael eu herio.<\/li>\n\n\n\n<li>Rydym angen sefydlu proses glir ar gyfer ymdrin \u00e2 thaliadau Lwfans Byw i\u2019r Anabl, lle mae\u2019r plentyn neu berson ifanc mewn lleoliad preswyl.<\/li>\n\n\n\n<li>Gan ei fod yn destun mor gymhleth, rydym angen creu canllawiau ar gyfer teuluoedd a gofalwyr ar lety diogel ar gyfer pobl ifanc. <\/li>\n\n\n\n<li>Pan dderbynnir pryderon diogelu fel rhan o g\u0175yn mwy, byddwn yn eu gwahanu er mwyn osgoi dryswch a dyblygu proses.<\/li>\n\n\n\n<li>Rydym angen creu proses apeliadau ar wah\u00e2n lle nad yw Rheoliadau Gweithdrefn Gwynion y Gwasanaethau Cymdeithasol (Cymru) 2014 yn berthnasol.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color has-link-color wp-elements-83805f2a9f81689b5d747eee29c65dfb\">Yn ogystal, ein prif nodau ar gyfer 2023-24 yw:<\/h3>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Datrys cwynion o fewn 24 awr o\u2019u derbyn, fel eu bod yn cael eu datrys fel pryderon cwyn yn hytrach na chwynion ffurfiol.<\/li>\n\n\n\n<li>Annog datrysiad lleol yng Ngham 1 er mwyn osgoi amser a chostau sy\u2019n gysylltiedig ag Ymchwilwyr Annibynnol Cam 2.<\/li>\n\n\n\n<li>Parhau i hybu cyfathrebu effeithiol rhwng staff a dinasyddion.<\/li>\n\n\n\n<li>Pwysleisio pwysigrwydd terfynau amser trwy sesiynau hyfforddi cynlluniedig.<\/li>\n\n\n\n<li>Cyflwyno ffurflenni newydd i gofnodi data cwynion yn gywir ar ein system gwybodaeth cleientiaid.<\/li>\n\n\n\n<li>Cyflawni ymgyrch recriwtio er mwyn cynyddu nifer yr Ymchwilwyr Annibynnol Cam 2 sydd ar gael i ymdopi \u00e2\u2019r galw ar draws Gogledd Cymru.<\/li>\n\n\n\n<li>Hwyluso Ymchwiliadau Annibynnol o bell mwy esmwyth, trwy dechnoleg gwybodaeth fwy dibynadwy.<\/li>\n\n\n\n<li>Diweddaru ein Cytundeb Lefel Gwasanaeth gydag Ymchwilwyr Annibynnol, er mwyn adlewyrchu\u2019r ddeddfwriaeth diogelu data diweddaraf.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Gwaith Cefnogi Partneriaeth \/ Monitro Gwasanaethau a Gomisiynir<\/h2>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r T\u00eem Sicrhau Ansawdd yn cynnwys pedwar Swyddog Cefnogi Partneriaeth, un Swyddog Cefnogi Partneriaeth Cynorthwyol, Rheolwr T\u00eem a Rheolwr Adain.<\/p>\n\n\n\n<p>Ers Ebrill 2023, mae\u2019r t\u00eem wedi cynnal 107 o ymweliadau monitro i Gartrefi Gofal, 45 ymweliad i gynlluniau byw \u00e2 chymorth cymunedol a 14 o ymweliadau i asiantaethau gofal cartref yng Nghonwy.<\/p>\n\n\n\n<p>Yn 2023, cefnogodd y t\u00eem waith Ymarferwyr Trefniadau Diogelu Rhag Colli Rhyddid, trwy gyflawni ymweliadau dilynol i leoliadau er mwyn monitro ac archwilio sampl o awdurdodiadau Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid er mwyn sicrhau eu bod yn parhau i fod yn gyfreithiol ac ystyrlon ac i helpu cynnal ansawdd o ran cymhwyso egwyddorion y Ddeddf Galluoedd Meddyliol. <\/p>\n\n\n\n<p>Mae saith o ymweliadau wedi cael eu cwblhau i Gynlluniau Byw \u00e2 Chymorth Cymunedol er mwyn monitro cadw cofnodion ariannol.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae Gweithdrefn Uwchgyfeirio Pryderon Gogledd Cymru yn bodoli er mwyn sicrhau gwasanaethau o ansawdd ac ymateb i\u2019r cynnydd mewn risgiau neu bryderon mewn perthynas \u00e2 darparwyr gwasanaeth.  Y llynedd, cyflawnwyd gwaith gyda phump cartref gofal yng Nghonwy o dan y Weithdrefn Uwchgyfeirio Pryderon.  Cynhelir ymweliadau monitro manwl mewn lleoliadau er mwyn cefnogi\u2019r cartref i reoli\u2019r broses cynllun gweithredu cytunedig.  Cwblheir ymweliadau dilynol mis, tri mis a chwe mis, ar \u00f4l i\u2019r broses Uwchgyfeirio Pryderon ddod i ben. \r\n\r\nYn y flwyddyn nesaf bwriadwn gyflwyno ffurflen adborth ar gyfer darparwyr i wneud sylwadau ar ein hymweliadau monitro.  Byddwn hefyd yn datblygu ein gwaith monitro ymhellach er mwyn gallu cefnogi cyfleusterau preswyl i blant sy\u2019n cael eu creu o fewn Conwy ar hyn o bryd.\r\n<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Arolygon ac adolygiadau Ym Mawrth 2023 cymerodd ein Gwasanaeth Plant, Teuluoedd a Diogelu ran mewn adolygiad cenedlaethol o gynllunio gofal ar gyfer plant a phobl ifanc yn destun cyn-achosion Amlinelliad Cyfraith Gyhoeddus (PLO). Pan mae\u2019r gwasanaethau cymdeithasol yn bryderus am les plentyn, gallent gynnal cyfarfod PLO neu gyfarfod cyn-achosion. Os na wneir newidiadau neu welliannau [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":9,"featured_media":0,"parent":0,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"_seopress_titles_title":"","_seopress_titles_desc":"","_seopress_robots_index":"","_seopress_robots_follow":"","_seopress_robots_imageindex":"","_seopress_robots_snippet":"","_seopress_robots_primary_cat":"","_seopress_robots_breadcrumbs":"","_seopress_robots_freeze_modified_date":"","_seopress_robots_custom_modified_date":"","_seopress_robots_canonical":"","_seopress_social_fb_title":"","_seopress_social_fb_desc":"","_seopress_social_fb_img":"","_seopress_social_fb_img_attachment_id":0,"_seopress_social_fb_img_width":0,"_seopress_social_fb_img_height":0,"_seopress_social_twitter_title":"","_seopress_social_twitter_desc":"","_seopress_social_twitter_img":"","_seopress_social_twitter_img_attachment_id":0,"_seopress_social_twitter_img_width":0,"_seopress_social_twitter_img_height":0,"_seopress_redirections_value":"","_seopress_redirections_enabled":"","_seopress_redirections_enabled_regex":"","_seopress_redirections_logged_status":"","_seopress_redirections_param":"","_seopress_redirections_type":0,"_seopress_analysis_target_kw":"","_genesis_hide_title":false,"_genesis_hide_breadcrumbs":false,"_genesis_hide_singular_image":false,"_genesis_hide_footer_widgets":false,"_genesis_custom_body_class":"","_genesis_custom_post_class":"","_genesis_layout":"","footnotes":""},"class_list":{"0":"post-3795","1":"page","2":"type-page","3":"status-publish","5":"entry"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/3795","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/9"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=3795"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/3795\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":3843,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/3795\/revisions\/3843"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=3795"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}