{"id":3793,"date":"2024-09-13T11:32:36","date_gmt":"2024-09-13T10:32:36","guid":{"rendered":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/adroddiad-2022-23-2\/lles\/"},"modified":"2024-09-13T11:32:38","modified_gmt":"2024-09-13T10:32:38","slug":"lles","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/adroddiad-2023-24\/lles\/","title":{"rendered":"Lles"},"content":{"rendered":"\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Mae pobl yn cael eu diogelu rhag camdriniaeth ac esgeulustod a mathau eraill o niwed.<\/li>\n\n\n\n<li>Mae pobl yn cael eu cefnogi i reoli eu lles a gwneud eu penderfyniadau eu hunain, yn seiliedig ar wybodaeth dda, er mwyn iddynt gyrraedd eu llawn botensial a byw\u2019n annibynnol cyhyd \u00e2 phosibl.<\/li>\n<\/ul>\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Pythefnos Diogelu &#8211; Tachwedd 2023<\/h2>\n\n<p>Mae Diogelu yn ganolog i\u2019r Gwasanaethau Cymdeithasol ac yn tanategu ein harferion a gwaith dydd i ddydd. Er mwyn gwella ymwybyddiaeth mae angen ymrwymiad i ddulliau amrywiol i hyfforddi a rhannu gwybodaeth.  Yn ystod Pythefnos Diogelu o 13 i 24 Tachwedd 2023, fe gynhaliom ystod o ddigwyddiadau, gan gynnwys sesiynau briffio saith munud amser cinio, a oedd yn trafod pynciau megis rhieni\u2019n camddefnyddio canabis, y cynnydd mewn brathiadau c\u0175n, a cham-drin ariannol.   Cynhaliom gynhadledd hefyd, gyda 150 o bobl yn bresennol. <\/p>\n\n<p>Digwyddiadau eraill yn ystod y bythefnos:<\/p>\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Prosiect celf wedi\u2019i drefnu gyda\u2019r Gwasanaeth Ieuenctid lle cafodd y bobl ifanc greu posteri a darnau creadigol o waith.  Ymunodd tri Aelod Etholedig yr Uned Diogelu ynghyd \u00e2\u2019r Gwasanaeth Ieuenctid i feirniadu\u2019r ceisiadau.  Bydd y tri chais uchaf yn cael eu hargraffu\u2019n broffesiynol a\u2019u harddangos o fewn lleoliadau cymunedol lleol, gan gynnwys Coed Pella.<\/li>\n\n\n\n<li>Darparodd y staff hyfforddiant yn rhanbarthol ar Gaethwasiaeth Fodern mewn Cartrefi Gofal, oedd yn canolbwyntio ar recriwtio diogel.<\/li>\n\n\n\n<li>Cafwyd 2 sesiwn ar Gamfanteisio Troseddol; un ar gyfer staff mewnol ac un allanol ar lefel rhanbarthol.  Roedd y sesiynau\u2019n boblogaidd ac mae rhwydweithiau proffesiynol wedi\u2019u sefydlu.  Hefyd, mae staff wedi derbyn y wybodaeth ddiweddaraf ar Linellau Sirol a Chamfanteisio Troseddol.<\/li>\n\n\n\n<li>Hyfforddiant un diwrnod lle rhannodd dau o\u2019n Plant sy\u2019n Derbyn Gofal eu profiadau byw gyda\u2019r gynulleidfa.  Canmolwyd y sesiwn gan y gweithwyr proffesiynol a fynychodd.<\/li>\n\n\n\n<li>Mae grwpiau cyfranogi wedi cael eu cynnal o fewn ein huned diogelu gyda phlant a phobl ifanc sy\u2019n derbyn gofal neu\u2019n gadael gofal.  O fewn y sesiynau hyn, mae plant a phobl ifanc yn cael hwyl rhannu eu profiadau a chymryd rhan mewn ymgynghoriadau.<\/li>\n<\/ul>\n\n<p style=\"font-style:italic;font-weight:700\">Dyma rai ffigyrau am ddiogelu:<\/p>\n\n<div class=\"wp-block-buttons is-layout-flex wp-block-buttons-is-layout-flex\">\n<div class=\"wp-block-button\"><a class=\"wp-block-button__link has-text-align-left wp-element-button\">1,158 &#8211; Cyfanswm yr adroddiadau a dderbyniwyd o oedolion a amheuir o fod mewn risg yn ystod y flwyddyn&#13;\n<\/a><\/div>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-button\"><a class=\"wp-block-button__link has-text-align-left wp-element-button\">96.29% &#8211; Y ganran o ymholiadau diogelu oedolion a gwblhawyd o fewn 7 diwrnod gwaith o dderbyn adroddiad am gamdriniaeth honedig&#13;\n<\/a><\/div>\n<\/div>\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-alpha-channel-opacity\"\/>\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Mynd i\u2019r afael \u00e2 throsedd cyllyll yn ein cymunedau<\/h2>\n\n<p>Yn anffodus, mae trosedd cyllyll yn parhau yn gyffredin ac mae wedi bod yn faes o bryder cynyddol ar gyfer ein Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid. Mewn ymateb, fe nodom yr angen i ymgysylltu\u2019n gadarnhaol gyda phobl ifanc i fynd i\u2019r afael \u00e2\u2019r broblem a gwella ymwybyddiaeth. Ymgasglodd cydweithwyr o\u2019r gwasanaeth gr\u0175p o bobl ifanc ynghyd a oedd yn hysbys i ni, ac wedi derbyn Rhybudd Amodol Ieuenctid, i lunio adnodd trosedd cyllyll. Fe wnaethom gomisiynu TAPE, elusen leol, i\u2019w cefnogi nhw i greu fideo, ac fe wnaeth y bobl ifanc gynllunio, actio, cynhyrchu a golygu\u2019r fersiwn derfynol. Bydd y fideo ar gael fel adnodd, i\u2019w ddefnyddio o fewn sesiynau un i un a gr\u0175p, mewn ysgolion ar draws Conwy a Sir Ddinbych er mwyn amlygu pryderon trosedd cyllyll. Fe\u2019i lansiwyd o fewn digwyddiad TAPE ar 9 Tachwedd 2023, a gallwch ei <a href=\"https:\/\/vimeo.com\/813230266\/3660d4fffe?share=copy\">weld yma<\/a>.<\/p>\n\n<h3 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color has-link-color wp-elements-b1811291ededc4b161d549020f2a8f36\"><strong>Ein cynllun gweithredu<\/strong><\/h3>\n\n<p>Dros y deuddeg mis nesaf rydym yn bwriadu comisiynu mwy o wasanaethau ar gyfer pobl ifanc er mwyn sicrhau ein bod yn galluogi a darparu cyfleoedd i ddysgu sgiliau newydd mewn perthynas \u00e2\u2019r celfyddydau, megis sinematograffi, cerddoriaeth, effeithiau arbennig ac yn y blaen. Mae tystiolaeth bod darparu cefnogaeth o\u2019r fath yn llwyddiannus, a dangosir hyn gan y ffaith, allan o 11 o\u2019r bobl ifanc a gymerodd ran yn y prosiect hwn, nid yw 10 ohonynt wedi ail-droseddu. Mae\u2019r prosiect penodol hwn hefyd yn gweithio\u2019n dda ar gyfer y Strategaeth Troseddau Difrifol a fydd ar waith ar draws y rhanbarth. Ar hyn o bryd mae 119 o\u2019r atgyfeiriadau ar draws y gwasanaeth yn ystod y chwarter diwethaf a adroddwyd yn ymwneud \u00e2 throseddau o natur dreisgar.<\/p>\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-alpha-channel-opacity\"\/>\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Cefnogi pobl ifanc mewn risg o gam-fanteisio<\/h2>\n\n<p>Mae\u2019r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid yn cydnabod yr angen i ddatblygu ein hoffer ymyrraeth er mwyn hwyluso gwaith gr\u0175p ac un i un gyda phobl ifanc sydd wedi cael eu cam-fanteisio yn droseddol ac yn rhywiol. Mae hyn wedi bod yn ymateb uniongyrchol i\u2019r nifer cynyddol o ddynion ifanc yn dod yn hysbys i\u2019r gwasanaeth, ar \u00f4l profi cam-fanteisio. Yn hanesyddol ac yn arferol, mae dynion ifanc yn cael eu gweld fel cyflawnwyr camdriniaeth, gan arwain at ychydig iawn o ymchwil am effaith cam-fanteisio\u2019n rhywiol ar blant a cham-drin plant yn rhywiol ar fechgyn a dynion ifanc. O\u2019r llenyddiaeth sydd ar gael, y dylanwadau allweddol ar gyfer risg a diamddiffyniad yw:<\/p>\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Anawsterau o ran hunanhyder<\/li>\n\n\n\n<li>Anawsterau unigrwydd emosiynol neu gysylltiad gydag eraill<\/li>\n\n\n\n<li>Ffyrdd afresymegol ac eithafol o feddwl a all gynnal problemau meddyliol ac emosiynol, a enwir yn \u2018gamgymeriadau meddwl\u2019<\/li>\n\n\n\n<li>Diffyg gwybodaeth rywiol<\/li>\n\n\n\n<li>Anabledd<\/li>\n\n\n\n<li>Pyliau o iselder<\/li>\n<\/ul>\n\n<p>Hefyd fe ganfuwyd nodweddion yn ymwneud ag ymddygiad cymryd risg, gweithredoedd amhriodol neu anghyfreithlon, anableddau dysgu ac Anhwylder ar y Sbectrwm Awtistiaeth. <\/p>\n\n<p>Fe wnaethom gysylltu \u00e2 Better Futures Cymru a rannodd wybodaeth ac offer gwaith mewn perthynas \u00e2\u2019u hadnoddau Boys 2. Roedd hwn yn brosiect 2 flynedd, wedi\u2019i ariannu ar y cyd rhwng y Swyddfa Gartref a Barnardos. Arweiniodd canfyddiadau\u2019r prosiect at ddatblygu gweithlyfr Boys 2, a gafodd ei gyd-gynhyrchu gyda\u2019r bechgyn a dynion ifanc a gymerodd rhan yn yr ymchwil. Mae holl feysydd y gweithlyfr wedi\u2019u cefnogi gan eglurhad ymchwil clir ar gyfer eu cynnwys, ac wedi\u2019u dylunio i gefnogi gweithwyr proffesiynol i ymgysylltu gyda bechgyn a dynion ifanc er mwyn lleihau\u2019r risg o Gamfanteisio\u2019n Rhywiol ar Blant a chefnogi hunaniaeth iach. Rydym wedi cyflwyno\u2019r gweithlyfr hwn i\u2019n rheolwyr achos a staff atal er mwyn eu cyflawni gyda bechgyn a dynion ifanc pan fydd yn addas a phriodol i wneud hynny.<\/p>\n\n<p>Rydym hefyd wedi caffael adnodd \u2018Girls Talk\u2019 sy\u2019n adnodd ar gyfer gweithwyr proffesiynol sy\u2019n gweithio gyda genethod a merched ifanc sydd wedi ymgysylltu mewn ymddygiad rhywiol niweidiol. Mae\u2019n helpu i leihau risg a\u2019u galluogi nhw i symud ymlaen tuag at berthnasau aeddfed iach.<\/p>\n\n<p>Fel gwasanaeth rydym hefyd yn gweithio ar brosiect ymchwil gyda Chanolfan Ymchwil a Datblygiad Gofal Cymdeithasol Plant CASCADE, yn gysylltiedig \u00e2 Phrifysgol Caerdydd, ynghyd \u00e2 Th\u00eem Diogelu Conwy a\u2019r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid a Th\u00eem Diogelu Casnewydd.  CASCADE yw\u2019r prif ganolfan ar gyfer ymchwil gwerthusol i Ofal Cymdeithasol Plant yn y DU, a\u2019u nod yw \u2018gwella lles, diogelwch a hawliau plant a\u2019u teuluoedd\u2019. Mae\u2019r ymchwil yr ydym yn rhan ohono yn canolbwyntio ar ganlyniadau gwasanaeth ar gyfer plant sydd wedi profi cam-fanteisio troseddol, ac mae\u2019n astudiaeth achos o siwrnai gwasanaeth plant sydd wedi profi cam-fanteisio troseddol mewn dwy ardal Awdurdod Lleol yng Nghymru: Conwy a Chasnewydd. Bydd y prosiect dwy flynedd yn creu astudiaethau achos manwl o brofiadau pobl ifanc sydd wedi\u2019u camfanteisio\u2019n droseddol o\u2019r llwybrau, darpariaeth a chanlyniadau gwasanaeth, pum mlynedd cyn derbyn atgyfeiriad a hyd at ddwy flynedd wedi hynny.<\/p>\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-alpha-channel-opacity\"\/>\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Diogelu pobl ifanc pan maent allan<\/h2>\n\n<p>Yn ystod y pandemig Covid, fe ddaeth gweithgor aml-asiantaeth ynghyd i edrych ar wahanol ffyrdd o leihau camfanteisio ar blant yn ystod y cyfnod anodd hwnnw. Mae\u2019r gr\u0175p yn parhau ac yn cynnwys cynrychiolwyr o:<\/p>\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Ganolfannau Teuluoedd<\/li>\n\n\n\n<li>Gwasanaethau Ieuenctid<\/li>\n\n\n\n<li>Gwasanaethau Addysg<\/li>\n\n\n\n<li>Gofal Cymdeithasol i Blant<\/li>\n\n\n\n<li>Gwasanaethau Iechyd Plant<\/li>\n\n\n\n<li>Heddlu Gogledd Cymru<\/li>\n<\/ul>\n\n<p>Eleni fe ganfuom fwlch mewn gwasanaeth ar gyfer pobl ifanc i ofyn am gymorth yn gyfrinachol wrth fod allan yn y gymuned. Rydym wedi edrych ar wasanaethau sydd eisoes ar gael i bobl ifanc i ofyn yn dawel am gymorth, ac mae\u2019r mwyafrif ohonynt yn dibynnu ar ffonau neu gysylltiad \u00e2\u2019r rhyngrwyd, nad ydynt bob amser ar gael i\u2019r bobl ifanc mwyaf diamddiffyn yn ein cymunedau.<\/p>\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"640\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/image-4-1024x640.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-3752\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/image-4-1024x640.png 1024w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/image-4-300x187.png 300w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/image-4-768x480.png 768w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/image-4.png 1090w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n<p>Felly rydym wedi bod yn gweithio gyda Chyngor yr Ifanc a\u2019r gymuned gyffredinol o bobl ifanc yng Nghonwy i benderfynu os fydd gwasanaeth math \u2018Ask for Angela\u2019 yn fuddiol iddyn nhw mewn sefyllfa anodd. Cyflawnwyd arolwg yn 2023 yn gofyn i bobl ifanc a oedden nhw neu bobl ifanc yr oeddent yn eu hadnabod yn gorfod gwneud pethau nad oeddent eisiau eu gwneud, ac roedd eu hymatebion yn dweud wrthym ni fod hyn yn wir. Sylwch y gallai\u2019r ymatebwyr ddewis mwy nac un dewis, felly nid yw\u2019r canlyniadau yn dod i gyfanswm o 100%.<\/p>\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>44% cymryd cyffuriau<\/li>\n\n\n\n<li>48% dwyn<\/li>\n\n\n\n<li>33% gweithredoedd rhywiol<\/li>\n\n\n\n<li>56% bygwth pobl <\/li>\n\n\n\n<li>55% trais<\/li>\n\n\n\n<li>50% fandaliaeth <\/li>\n<\/ul>\n\n<p>O\u2019r rhai a ymatebodd, dywedodd 40% eu bod wedi bod mewn sefyllfa lle roeddent eisiau gofyn am gymorth ar gyfer eu hunain, ffrindiau neu aelod o\u2019r teulu, ond nid oeddent wedi gallu gwneud hyn. Dywedodd 88% y byddent yn hoffi gallu gofyn am gymorth heb fod yn rhy amlwg i\u2019r bobl o\u2019u hamgylch.<\/p>\n\n<p>Pan ofynnwyd ble yr hoffent fynd i gael cymorth, ymatebwyd:<\/p>\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>72% siopau<\/li>\n\n\n\n<li>72% canolfan ieuenctid<\/li>\n\n\n\n<li>49% siop trin gwallt<\/li>\n\n\n\n<li>30% salon ewinedd <\/li>\n\n\n\n<li>18% gorsaf betrol<\/li>\n\n\n\n<li>45% sefydliadau bwyd brys<\/li>\n\n\n\n<li>79% ysgol neu goleg<\/li>\n<\/ul>\n\n<h3 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color has-link-color wp-elements-b1811291ededc4b161d549020f2a8f36\"><strong>Ein cynllun gweithredu<\/strong><\/h3>\n\n<p>Dros y misoedd nesaf bwriadwn sefydlu grwpiau ffocws o bobl ifanc o sectorau gwahanol yn y gymuned, i sicrhau ein bod yn cipio safbwyntiau cynifer o bobl ifanc \u00e2 phosibl; wrth gwrs byddwn hefyd yn parhau i gynnwys Cyngor yr Ifanc. Byddwn hefyd yn cyflwyno syniad prosiect i weithgor rhanbarthol gyda\u2019r golwg o weithio ar draws y rhanbarth.<\/p>\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Dull trosiannol i ddiogelu<\/h2>\n\n<p>Mae\u2019r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid yn awyddus i ddatblygu dull trosiannol mewn perthynas \u00e2 diogelu, gan gydnabod fod pobl ifanc yn wynebu risg y tu allan i\u2019w cartref, er enghraifft, cyffuriau, gangiau a thrais ieuenctid, a cham-fanteisio rhywiol a throseddol.  Gall bobl ifanc fod yn fwy diamddiffyn i\u2019r ffynonellau o niwed tu allan i\u2019r teulu, wrth iddynt ddod yn fwy annibynnol a mwynhau mwy o ryddid, ac wrth iddynt gael eu dylanwadu\u2019n fwy gan eu cyfoedion a ffrindiau yn hytrach na\u2019u teuluoedd. Yn erbyn cefndir o newidiadau corfforol, emosiynol a gwybyddol, gall bobl ifanc fod yn fwy agored i ymddygiad peryglus. Rydym o\u2019r farn:<\/p>\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Bod gan bobl ifanc anghenion diogelu penodol o\u2019i gymharu \u00e2 phlant iau, ac mae peryglon, niwed a llwybrau ar ddiogelu yn cael eu tanategu gan ffactorau datblygiadol a chymdeithasol cymhleth<\/li>\n\n\n\n<li>Mae bod yn ifanc a\u2019r trosglwyddiad i fod yn oedolyn yn cynnwys nifer o heriau o fewn bywydau pobl ifanc, gan wneud hwn yn gyfnod heriol a bregus pan mae cymdeithas eisoes yn eu gweld nhw fel \u2018trafferth\u2019<\/li>\n\n\n\n<li>Tra bod systemau diogelu a chefnogi gwasanaethau plant fel arfer yn dod i ben yn 18 oed, gall y profiadau o niwed a thrawma yn ystod plentyndod, ieuenctid a throi\u2019n oedolyn barhau i effeithio ar bobl ifanc, gydag anghenion heb eu diwallu angen ymyrraeth gymhleth yn ddiweddarach mewn bywyd.<\/li>\n<\/ul>\n\n<p>Rydym yn gweithio\u2019n agos gyda\u2019r timau Diogelu Oedolion a Phobl Ddiamddiffyn yng Nghonwy i edrych ar ddatblygu llwybr a pholisi diogelu trosiannol i bobl ifanc.  Bydd hyn yn adeiladu ar y gwaith diogelu cyd-destunol sydd eisoes yn mynd rhagddo. <\/p>\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Awgrymiadau yn hytrach na tharo plant<\/h2>\n\n<p>Ar 21 Mawrth 2022 newidiodd y gyfraith yng Nghymru, mae hi bellach yn anghyfreithlon i gosbi plant yn gorfforol. Ar \u00f4l cyhoeddi\u2019r ddeddfwriaeth newydd ar ein gwefan a thrwy ein Canolfannau i Deuluoedd, fe luniom <a href=\"https:\/\/www.conwy.gov.uk\/cy\/Resident\/Social-Care-and-Wellbeing\/Children-and-families\/Conwy-Family-Centres\/assets\/documents\/MakingItPositive.pdf\">daflen wybodaeht dulliau cadarnhaol<\/a> i gefnogi rhieni i ddod o hyd i ffyrdd amgen o ddehongli ac ymateb i ymddygiad plant. Mae\u2019n darparu canllawiau adeiladol ar gydweithio fel teulu, pethau i rieni roi cynnig arnynt pan maent ar ddiwedd eu tennyn, a dangos pam fod taro plentyn yn syniad gwael. Darperir cysylltiadau ar gyfer cymorth yn lleol, yn ogystal \u00e2 chysylltiadau i adnoddau defnyddiol ar-lein.\u00a0 Mae Llywodraeth Cymru wedi dangos diddordeb mewn defnyddio\u2019r daflen wybodaeth ledled Cymru.<\/p>\n\n<p style=\"font-style:italic;font-weight:700\">Dyma rai ffigyrau:<\/p>\n\n<p>Mae\u2019r mesur hwn wedi cael ei ddylunio i gipio effaith ar y gyfraith newydd yng Nghymru.<\/p>\n\n<div class=\"wp-block-buttons is-layout-flex wp-block-buttons-is-layout-flex\">\n<div class=\"wp-block-button\"><a class=\"wp-block-button__link has-text-align-left wp-element-button\">402 &#8211; Nifer y cysylltiadau am blant a dderbyniwyd yn ytod y flwyddyn lle roedd cosbi&#8217;n gorfforol yn ffactor&#13;\n<\/a><\/div>\n<\/div>\n\n<p><\/p>\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-alpha-channel-opacity\"\/>\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Gweithio mewn partneriaeth gyda Phrifysgol Bangor<\/h2>\n\n<p>Eleni rydym wedi bod yn gweithio\u2019n agos gyda Dr Cheryl Davies o Brifysgol Bangor ar rai rhaglenni hyfforddi. Cafodd y cyntaf, Pennod Newydd\/New Chapter, ei grybwyll yn yr adroddiad y llynedd, ac wedi\u2019i anelu at fynd i\u2019r afael \u00e2 chamdriniaeth plentyn i riant. Rydym yn falch o adrodd fod 45 o staff wedi cael eu hyfforddi o ystod o wasanaethau ar draws y Gwasanaethau Cymdeithasol, Addysg a\u2019r Sector Gwirfoddol. Yn bwysicach, mae\u2019r rhaglen wedi cael ei gyflwyno i ddau gohort o deuluoedd dros y misoedd diwethaf ac mae\u2019r adborth yn gadarnhaol iawn. Mae\u2019r ddau gohort wedi gofyn am sesiynau dilynol, ac rydym bellach yn hwyluso sesiynau \u2018aros mewn cyswllt\u2019 yn ein Canolfannau i Deuluoedd.<\/p>\n\n<p>Yn sgil ystod oedran y plant a phobl ifanc sy\u2019n cael eu hatgyfeirio i ni, byddwn yn adolygu sut ydym yn hwyluso sesiynau ar eu cyfer, er mwyn sicrhau bod y cynnwys yn briodol ar gyfer eu hoedran. Byddwn hefyd yn cydlynu sesiwn myfyrio ar gyfer staff sydd wedi derbyn hyfforddiant Pennod Newydd\/New Chapter gyda Cheryl, gyda\u2019r golwg o hyfforddi mwy o staff yn y dyfodol.<\/p>\n\n<p>Fe wnaethom hefyd weithio gyda Cheryl ar Hyfforddiant Oxford Brain Story, peilot rhanbarthol i staff ddeall effaith trawma yn ystod plentyndod ar yr ymennydd sy\u2019n datblygu, a sut i adeiladu ymennydd cryfach. Derbyniodd chwe aelod o staff o bob sir yng Ngogledd Cymru\u2019r hyfforddiant fel rhan o\u2019r gweithgor trawsnewid rhanbarthol ar gyfer gwasanaethau sy\u2019n gweithio gyda phlant rhwng 0 a 7 oed. Mae\u2019r hyfforddiant yn cael ei werthuso gyda\u2019r golwg o gyflwyno\u2019r rhaglen i holl staff yr Awdurdod Lleol. Bydd yr adborth a gesglir trwy holiaduron cyn ac ar \u00f4l yr hyfforddiant yn cael ei fwydo i\u2019r gr\u0175p rhanbarthol.<\/p>\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-alpha-channel-opacity\"\/>\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Fforwm Amlasiantaethol Cam-drin Plant yn Rhywiol (MACSAF)<\/h2>\n\n<p>Y llynedd fe wnaethom drafod ein trefniadau MACSAF, a\u2019r nod o\u2019u datblygu ymhellach, hyrwyddo\u2019r gr\u0175p a sefydlu hyfforddiant ar gyfer grwpiau staff ehangach. Yn anffodus mae hi wedi bod yn flwyddyn anodd i ni, gyda nifer o aelodau\u2019n symud i swyddi eraill tu allan i ardal yr Awdurdod Lleol. Allan o tua 20 o aelodau, mae pedwar neu bump o aelodau craidd sydd bob amser yn mynychu cyfarfodydd ac yn cynnig cefnogaeth ymgynghori a hyfforddi. Fodd bynnag, mae\u2019n llawer mwy anodd i\u2019r gr\u0175p ehangach ymrwymo, ac o ganlyniad i leihad mewn niferoedd, rydym wedi cynnal arolwg i archwilio\u2019r rhesymau. Roedd y canlyniadau\u2019n dangos fod yr holl aelodau yn gweld manteision MACSAF ac yn dymuno gwneud mwy oni bai am bwysau eu swyddi dyddiol.<\/p>\n\n<p>Er hyn, rydym wedi cynnig oddeutu dwsin o ymgynghoriadau trwy gydol y flwyddyn, ac wedi bwydo i mewn i nifer o ddigwyddiadau hyfforddi. Rydym yn parhau i gadw mewn cysylltiad gyda Chanolfan Arbenigol Cam-drin Plant yn Rhywiol ac yn mynychu hyfforddiant gloywi. Rydym wedi cynghori Awdurdodau Lleol eraill megis Caerdydd, ar sut i ddefnyddio\u2019r cwrs a sefydlu MACSAF eu hunain.<\/p>\n\n<h3 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color has-link-color wp-elements-e4cbf18973eb4fd2ea2a0a49ce3fea7b\"><strong>Sut y gallwn wella<\/strong><\/h3>\n\n<p>Er gwaethaf nifer o ymdrechion mae\u2019n anodd iawn parhau i gynnal y gr\u0175p MACSAF. Rydym yn bwriadu gweithio gyda\u2019n T\u00eem Dysgu a Datblygu\u2019r Gweithlu i gael eu cefnogaeth i gadw\u2019r adnodd gwerthfawr hwn i fynd.<\/p>\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-alpha-channel-opacity\"\/>\n\n<h2 class=\"wp-block-heading has-black-color has-text-color has-link-color wp-elements-dc71fbca19c5f14c6906ac0dd45b3983\">Cynyddu capasiti ar flaen drws ein plant<\/h2>\n\n<p>Yn yr adroddiad y llynedd fe wnaethom drafod y rolau Gweithiwr Cefnogi ac Asesu newydd yr oeddem wedi\u2019u cyflwyno er mwyn cynyddu ein capasiti o fewn y gwasanaethau plant. Gallwn adrodd fod y peilot wedi bod yn llwyddiannus ar y cyfan. Mae lefel uchel o foddhad swydd, gyda\u2019r pedwar gweithiwr yn mwynhau eu rolau ac yn teimlo eu bod yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. Mae\u2019r Gweithwyr Cefnogi ac Asesu yn gallu asesu, cynllunio, adolygu a chario achosion Cynllun Gofal a Chymorth; mae eu profiad wedi tyfu yn y flwyddyn ddiwethaf ac maent oll yn weithwyr cymwys.<\/p>\n\n<p>Mae\u2019r cyfle hwn wedi darparu cynnydd mewn cyflog o\u2019u rolau blaenorol, ac fe ystyrir hyn yn ddatblygiad mewn gyrfa ar gyfer rhai o\u2019r gweithwyr, nad oedd wedi gwneud cynnydd yn ffurfiol ers rhai blynyddoedd. Gan fod recriwtio Gweithwyr Cymdeithasol yn parhau o fod yn broblem, mae\u2019r peilot hwn wedi ein galluogi ni i gyflogi gweithwyr medrus i lenwi\u2019r bwlch hwnnw. Pe na fyddai\u2019r Gweithwyr Cefnogi ac Asesu mewn lle, byddai 80 o achosion CASP wedi cael eu rhoi i weithlu Gofal Cymdeithasol sydd wedi lleihau. Mae ein Gweithwyr Cymdeithasol hefyd wedi elwa o gael math gwahanol o weithwyr medrus o fewn yr adran, ac mae hyn wedi cynyddu\u2019r sgiliau a gwybodaeth o fewn y t\u00eem.<\/p>\n\n<h3 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color has-link-color wp-elements-e4cbf18973eb4fd2ea2a0a49ce3fea7b\"><strong>Sut y gallwn wella<\/strong><\/h3>\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Ni all Weithwyr Cefnogi ac Asesu brosesu archwiliadau Adran 47, achosion Amddiffyn Plant, achosion Plant sy\u2019n Derbyn Gofal nac asesiadau achosion cyfraith preifat, felly mae\u2019r llwyth gwaith cynyddol hwn wedi gorfod cael ei gwblhau gan nifer gostyngol o Weithwyr Cymdeithasol.<\/li>\n\n\n\n<li>Gan nad all Weithwyr Cefnogi ac Asesu gael eu cynnwys ar y rota Adran 47, mae Gweithwyr Cymdeithasol ar ddyletswydd yn llawer mwy aml.<\/li>\n\n\n\n<li>Cafodd y Gweithwyr Cefnogi ac Asesu daliad honorariwm yn hytrach na chynnydd mewn graddfa, felly mae angen adolygu hyn i wneud yn r\u00f4l yn fwy apelgar.<\/li>\n\n\n\n<li>Mae\u2019r Gweithwyr Cefnogi ac Asesu yn teimlo bod eu swyddi yn fregus, wrth i\u2019r peilot barhau i gael ei ymestyn.<\/li>\n<\/ul>\n\n<p>Mewn ymateb i\u2019r materion hyn, rydym yn cysylltu yn rheolaidd gydag Adnoddau Dynol, gyda\u2019r golwg o greu sefydlogrwydd a pharhad yn y r\u00f4l. Fodd bynnag, mae prosiect ehangach, ar wah\u00e2n, yn edrych ar r\u00f4l Ymarferydd Gofal Cymdeithasol, a fydd yn cynnwys dyletswyddau Gweithiwr Cefnogi ac Asesu. Mae\u2019r gwaith hwn wedi arwain at oedi o ran creu unrhyw fath o barhad yn y r\u00f4l.<\/p>\n\n<p>Y ogystal \u00e2 hyn, nid oes penderfyniad terfynol wedi cael ei wneud o ran a fydd newid parhaol yn cael ei wneud o ganlyniad i\u2019r peilot. Yn sicr, mae recriwtio yn parhau i fod yn broblem sylweddol, ac yn gyson nid oes unrhyw ymgeiswyr ar gyfer swyddi gwag Gwaith Cymdeithasol.<\/p>\n\n<h3 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color has-link-color wp-elements-b1811291ededc4b161d549020f2a8f36\"><strong>Ein cynllun gweithredu<\/strong><\/h3>\n\n<p>Byddwn yn parhau i weithio gyda\u2019r T\u00eem Dysgu a Datblygu\u2019r Gweithlu o ran datblygu r\u00f4l Ymarferydd Gofal Cymdeithasol, a sut all y Gweithwyr Cefnogi ac Asesu lywio hynny. Bydd angen i\u2019r gwasanaeth wneud penderfyniad o ran cadw r\u00f4l y Gweithwyr Cefnogi ac Asesu, neu fynd yn \u00f4l i swyddi Gwaith Cymdeithasol a cheisio recriwtio i rolau cymwys.<\/p>\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-alpha-channel-opacity\"\/>\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Sicrhau bod gweithgareddau yn y gymuned yn hygyrch i bawb<\/h2>\n\n<h3 class=\"wp-block-heading has-pale-cyan-blue-color has-text-color has-link-color wp-elements-877e7c257c3be28e118840412dea50b5\">Dwygyfylchi<\/h3>\n\n<p>Cyflawnodd ein T\u00eem Lles Cymunedol ymarfer mapio a phroffilio cymuned, a daeth i\u2019r amlwg yn Nwygyfylchi, oni bai am gr\u0175p rhandir, gr\u0175p bowlio a gr\u0175p rhedeg, nid oedd llawer o ddarpariaeth ar gael yn yr ardal. I\u2019r gwrthwyneb, ym Mhenmaenmawr, roedd ystod o weithgareddau ar gael, felly fe benderfynom ganolbwyntio ar Ddwygyfylchi fel blaenoriaeth.<\/p>\n\n<p>Yn dilyn mwy o ymgysylltiad gyda busnesau lleol, pobl allweddol ac aelodau\u2019r gymuned, fe nodom mai ein prif flaenoriaeth oedd helpu i godi ymwybyddiaeth o gr\u0175p rhandir presennol y pentref a oedd angen gwirfoddolwyr newydd.<\/p>\n\n<p>Roedd \u2018Wythnos Genedlaethol y Tyfwyr\u2019 yn gyfle gwych i wahodd pobl draw i\u2019r gr\u0175p rhandir i weld beth maent yn ei gynnig ac i annog mwy o wirfoddolwyr i ymuno \u00e2\u2019r gr\u0175p. Hyd yn hyn rydym wedi bod yn llwyddiannus yn eu helpu i recriwtio chwe gwirfoddolwr newydd, gan ddyblu capasiti gwirfoddoli\u2019r gr\u0175p. Mae\u2019r gr\u0175p hefyd wedi adrodd fod nifer yr ymwelwyr hefyd wedi cynyddu dros draean, felly mae\u2019r neges yn lledaenu.<\/p>\n\n<p>Fe wnaethom gynnig cefnogaeth i helpu hyrwyddo\u2019r gr\u0175p trwy greu poster, eu hyrwyddo trwy ein rhaglenni cymunedol lleol a chanllawiau \u2018beth sydd \u2018mlaen\u2019, ac ariannu baner i fynd ar y rheiliau yng nghanol y pentref.<\/p>\n\n<h3 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color has-link-color wp-elements-e4cbf18973eb4fd2ea2a0a49ce3fea7b\"><strong>Sut y gallwn wella<\/strong><\/h3>\n\n<p>Mae\u2019r ymarfer wedi amlygu diffyg canolfan gymunedol neu leoliadau amgen hyfyw i gynnal gweithgareddau megis dosbarthiadau ymarfer corff yn Nwygyfylchi. Er y gallwn ddewis cynnal sesiynau yn y cymunedau gerllaw, megis Penmaenmawr neu Bensychnant, nid oes gan bawb y gallu i deithio yno, ac mae\u2019r gwasanaeth bysiau lleol yn afreolaidd. Er ein bod wedi cynnal bore coffi yn Nhafarn y Gladstone, yn anffodus ni chafwyd llawer o fynychwyr, ac roedd prynhawn lles yng Nghanolfan Gadwraeth Pensychnant yn profi\u2019n anodd i bobl heb gludiant i fynychu. Mae Neuadd Gymunedol Capelulo yn parhau i gael ei adnewyddu, fodd bynnag, hyd yn oed pan fydd ar gael fel lleoliad ar gyfer gweithgareddau lles, nid yw\u2019n hawdd i bobl fynychu os nad ydynt yn gyrru.<\/p>\n\n<h3 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color has-link-color wp-elements-b1811291ededc4b161d549020f2a8f36\"><strong>Ein cynllun gweithredu<\/strong><\/h3>\n\n<p>Wrth symud ymlaen, byddwn yn defnyddio\u2019r Neuadd Gymunedol unwaith y bydd ar agor ac ar gael i ni. Yn ystod y digwyddiadau a gynhaliom eleni, mynegodd nifer o bobl ddiddordeb mewn dosbarthiadau ymarfer corff yn y gadair, felly byddwn yn ail-ymweld \u00e2 hynny yng Ngwanwyn 2024. Wrth ddisgwyl am y neuadd i agor, efallai gallwn ddefnyddio\u2019r mannau gwyrdd tu allan wrth i\u2019r tywydd gynhesu. Byddwn hefyd yn parhau i gefnogi a hyrwyddo gr\u0175p rhandir Dwygyfylchi pan fydd angen.<\/p>\n\n<h3 class=\"wp-block-heading has-pale-cyan-blue-color has-text-color has-link-color wp-elements-2d5425e253dce6bf1cc3b6e07b23b4ef\">Bae Cinmel<\/h3>\n\n<p>Penderfynodd y t\u00eem ddynodi Swyddog Lles i gyflawni gwaith ym Mae Cinmel. Roeddem wedi canfod diffyg darpariaeth o weithgareddau yn yr ardal ar gyfer oedolion h\u0177n, ac mae un ardal ym Mae Cinmel yn un o\u2019r 10-20% o\u2019r ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru.<\/p>\n\n<p>Cyflawnodd y t\u00eem ymarfer mapio a phroffilio cymunedol yn yr ardal gan gynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau i\u2019n helpu ni ymgysylltu gydag aelodau\u2019r gymuned sy\u2019n byw ym Mae Cinmel. Roedd y rhain yn cynnwys taith gerdded, digwyddiad cymunedol a stondinau codi ymwybyddiaeth yn y feddygfa leol ac archfarchnad Asda.<\/p>\n\n<p>O ganlyniad i\u2019r daith gerdded, mynegodd tri o\u2019r mynychwyr ddiddordeb mewn cwrdd ar gyfer taith gerdded gymdeithasol yn fwy rheolaidd. Fe wnaethom hyrwyddo\u2019r daith gerdded ymysg y bobl a fynychodd ein digwyddiad lles, a dywedodd chwe unigolyn arall yr hoffent gymryd rhan. Roedd un ddynes yn awyddus i wirfoddoli ei hamser i arwain a threfnu\u2019r teithiau, a gyda chaniat\u00e2d eraill, mae hi wedi creu gr\u0175p sgwrsio i drefnu dyddiadau ac amseroedd. Ar hyn o bryd rydym yn gweithio gyda hi i drefnu\u2019r daith gyntaf a byddwn yn parhau i roi mewnbwn tan fydd y teithiau cerdded yn ddigwyddiad sy\u2019n cynnal ei hun.<\/p>\n\n<h3 class=\"wp-block-heading has-pale-cyan-blue-color has-text-color has-link-color wp-elements-d89e9251ec4c35e6e2fd5b7dd2e57ab5\">Llandrillo-yn-Rhos<\/h3>\n\n<p>Fe sylwom fod cynnydd wedi bod mewn atgyfeiriadau i\u2019r t\u00eem gan bobl yn byw yn Llandrillo-yn-Rhos, ac fe sylwom fod un o\u2019r eglwysi lleol wedi cau. Roedd hyn yn golygu nad oedd rhai darpariaethau yn yr ardal ar gael bellach; a bod rhai wedi dod i ben yn gyfan gwbl, tra bod eraill wedi symud i leoliadau gwahanol ym Mae Penrhyn. Felly fe gyflawnom mwy o waith i ganfod a oedd Llandrillo-yn-Rhos angen bod yn ardal o ganolbwynt ar gyfer y t\u00eem. Wrth edrych ar amrywiaeth o ddata a gwybodaeth, nodom fod y ddarpariaeth yn brin iawn, gyda nifer o weithgareddau yn digwydd unwaith y mis yn unig. Gan fod yr ardal \u00e2\u2019r boblogaeth uchaf o bobl h\u0177n yn y sir, yn ogystal \u00e2\u2019r nifer uchaf o bobl dros 65 oed yn byw ar eu pen eu hunain, fe benderfynom ei fod yn ardal ar gyfer blaenoriaeth.<\/p>\n\n<p>Fe drefnom ystod o ddigwyddiadau ymgysylltu, gan gynnwys stondinau yn yr archfarchnad co-op leol, taith gerdded ar hyd y promen\u00e2d a digwyddiad lles. Fe ddefnyddiom y rhain fel cyfle i hyrwyddo\u2019r ddarpariaeth bresennol ar gael yn yr ardal, ac i sgwrsio gydag oedolion h\u0177n sy\u2019n byw yn lleol i weld a oedd unrhyw beth yr hoffent gymryd rhan ynddynt, nad oedd ar gael ar hyn o bryd. O ganlyniad, awgrymwyd sesiynau canu am hwyl, felly fe gysylltom \u00e2 Goldies Cymru i sefydlu prosiect partneriaeth i ddarparu sesiynau canu a gwenu misol yn yr Eglwys Ddiwygiedig Unedig leol.<\/p>\n\n<p>Mae\u2019r sesiynau misol wedi cael eu harwain gan y t\u00eem ers Ebrill 2023 ac mae presenoldeb yn dda iawn. Yn ddiweddar rydym wedi canfod rhywun a hoffai wirfoddoli fel arweinydd sesiwn ar gyfer y gr\u0175p, a gobeithiwn y byddent yn ei gynnal o fis Mawrth 2024 er mwyn parhau gyda\u2019r sesiynau yn hunangynaliadwy.<\/p>\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-alpha-channel-opacity\"\/>\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Gwasanaeth Taliadau Uniongyrchol<\/h2>\n\n<p>Mae Taliadau Uniongyrchol (TU) yn daliadau arian parod sy\u2019n cael eu talu i unigolion er mwyn iddynt allu trefnu eu cefnogaeth i ddiwallu eu hanghenion Gofal Cymdeithasol a aseswyd. Mae hyn yn rhoi hyblygrwydd, dewis a rheolaeth iddynt o ran sut mae eu gofal yn cael ei ddarparu.<\/p>\n\n<p>Fe grybwyllom yn yr adroddiad y llynedd fod y gwasanaeth yn cael ei ail-strwythuro ychydig, ac mae hyn wedi ei gwblhau bellach.  Yn ystod 2022-2023, mae\u2019r t\u00eem wedi cyflawni\u2019r canlynol:<\/p>\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Yn dilyn ymgynghoriad \u00e2 derbynwyr presennol TU, rydym wedi datblygu a sefydlu rhaglen hyfforddiant i sicrhau fod staff rheng flaen yn hyderus i godi ymwybyddiaeth a darparu cefnogaeth i unigolion cymwys sy\u2019n dymuno derbyn eu cefnogaeth drwy TU.  <\/li>\n\n\n\n<li>Rydym wedi sefydlu Cynllun Hunan-ariannu ar gyfer unigolion, na fyddai\u2019n gymwys am y cynnig TU yn \u00f4l canlyniad yr Asesiad Ariannol, ac yn teimlo dan anfantais.  <\/li>\n\n\n\n<li>Rydym wedi peilota cynllun ar gyfer unigolion sydd ag asesiad o anghenion sy\u2019n nodi angen i fynd i ofal preswyl, ond yn dymuno aros adref gyda chefnogaeth wedi\u2019i deilwra. Ar \u00f4l ymateb cyhoeddus cadarnhaol, mae\u2019r cynllun wedi cael ei fabwysiadu fel dewis model darpariaeth gwasanaeth. <\/li>\n\n\n\n<li>Wedi dechrau proses o godi proffil TU yn gyhoeddus a chreu cysylltiadau gweithio agosach gyda\u2019r sector gwirfoddol a grwpiau cymunedol trwy gyflwyniadau a digwyddiadau cyhoeddus.<\/li>\n\n\n\n<li>Wedi dechrau proses o godi proffil cyfleoedd gwaith trwy TU, trwy fynychu ffeiriau swyddi, canolfan waith Bae Colwyn a Llandudno bob yn ail wythnos, digwyddiadau mewn ysgolion a cholegau, gweithio gyda Chanolbwynt Cyflogaeth Conwy a Mentor Cyflogaeth Gofal Cymdeithasol a chymryd rhan mewn sesiynau Radio Bae Colwyn.    <\/li>\n\n\n\n<li>Wedi cymryd rhan mewn amryw o weithgorau Llywodraeth Cymru mewn perthynas \u00e2 datblygiad parhaus TU ar draws Cymru.<\/li>\n\n\n\n<li>Dyfarnu contract newydd i ddarparwr cefnogi allanol, gyda\u2019r r\u00f4l o weithio gydag unigolion sy\u2019n dymuno cyflogi eu staff eu hunain wrth iddynt fynd trwy\u2019r broses recriwtio.<\/li>\n<\/ul>\n\n<h3 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color has-link-color wp-elements-e4cbf18973eb4fd2ea2a0a49ce3fea7b\"><strong>Sut y gallwn wella<\/strong><\/h3>\n\n<p>Mae\u2019r t\u00eem wedi ymgysylltu gyda nifer o bartneriaid, yn fewnol ac allanol, yn ystod y flwyddyn.  Trwy\u2019r gwaith ymgysylltu hwn, rydym yn cydnabod bod meysydd i ganolbwyntio arnynt ar gyfer derbynwyr, staff mewnol, sefydliadau allweddol, a\u2019r cyhoedd. <\/p>\n\n<p>Roedd rhai derbynyddion yn teimlo bod y broses sefydlu gychwynnol yn gymhleth. Er mwyn gwella hyn, mae adolygiad llawn wedi\u2019i gyflawni ac mae\u2019r broses wedi ei symleiddio. Yn ogystal, mae holl rannau mewnol y broses wedi symud er mwyn bod o dan y t\u00eem TU.  <\/p>\n\n<p>Mae rhai derbynyddion sydd eisiau cyflogi staff yn uniongyrchol, wedi teimlo rhwystredigaeth o ran yr amser y gall gymryd i recriwtio staff. Er mwyn cydnabod hyn, rydym wedi datblygu cylched o hyrwyddo cyfleoedd cyflogaeth, wedi cynnwys dewisiadau cofrestru ar gyfer y rhai sydd \u00e2 diddordeb mewn gweithio o dan TU ond lle nad oedd swydd addas ar gael pan oeddent yn edrych.<\/p>\n\n<p>Mae staff newydd, yn benodol, wedi adrodd nad ydynt bob amser yn hyderus i drafod TU gydag unigolion fel rhan o\u2019r broses asesu.  Er mwyn gwella hyder staff mewn perthynas \u00e2\u2019r testun, mae rhaglen hyfforddiant hanner diwrnod anffurfiol mewn lle, a ddarperir bob dau fis, i holl staff fynychu.  Rydym hefyd wedi cyflawni adolygiad proses llawn er mwyn symleiddio camau o\u2019r broses ac i sicrhau fod staff yn glir ar beth yw eu r\u00f4l a\u2019r broses i ddilyn.  Mae\u2019r arferion gweithio newydd wedi cael eu sefydlu i\u2019r rhaglen hyfforddiant ac mae llif gwaith staff wedi\u2019i gyhoeddi.<\/p>\n\n<p>Rydym yn weithgar o ran mynychu digwyddiadau cyhoeddus ac mae\u2019r adborth a dderbyniwyd mewn perthynas \u00e2 gweithredu TU yng Nghonwy yn gadarnhaol.  Mewn rhai achosion, nid yw unigolion yn ymwybodol o TU.  Os yw unigolion yn hysbys i Ofal Cymdeithasol a\/neu gefnogaeth y Sector Gwirfoddol ai peidio, rydym yn gweithio i gau\u2019r bwlch hwn.<\/p>\n\n<p>Ar lefel genedlaethol, mae Llywodraeth Cymru yn dymuno gweld cynnydd yn nefnyddwyr TU ar draws Cymru.  Rydym yn sicrhau ein bod yn aelodau gweithredol o weithgorau Llywodraeth Cymru er mwyn cefnogi\u2019r canlyniad hwn.<\/p>\n\n<h3 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color has-link-color wp-elements-b1811291ededc4b161d549020f2a8f36\"><strong>Ein cynllun gweithredu<\/strong><\/h3>\n\n<p>R\u00f4l y t\u00eem yw parhau i ddatblygu Taliadau Uniongyrchol er mwyn sicrhau ei fod yn fodel darpariaeth gwasanaeth hyfyw ar gyfer cynifer o unigolion \u00e2 phosibl, yn unol \u00e2 dymuniadau, disgwyliadau a deddfwriaethau newidiol. Ar gyfer y flwyddyn nesaf, bwriadwn:<\/p>\n\n<p class=\"has-pale-cyan-blue-color has-text-color has-link-color wp-elements-5179d32b13c57265d57909012444a2b7\"><strong>Codi proffil<\/strong><\/p>\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Parhau i godi proffil TU i unigolion fel dull cefnogi a\/neu gyfleoedd cyflogaeth a chreu cysylltiadau\/cyfleoedd newydd i ymestyn o fewn cymunedau lleol. <\/li>\n<\/ul>\n\n<p class=\"has-pale-cyan-blue-color has-text-color has-link-color wp-elements-d87046e5680b6f7eff875d8c4f55ff21\">Sicrhau mynediad hawdd i Daliadau Uniongyrchol ar gyfer unigolion<\/p>\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Os yw unigolyn eisoes yn hysbys i\u2019r adran ac yn derbyn cymorth cymwys, y nod yw galluogi unigolion i gyfeirio eu hunain i\u2019r T\u00eem TU yn hytrach na gorfod gwneud hyn trwy Weithiwr Cymdeithasol.<\/li>\n\n\n\n<li>Cwblhau trosglwyddiad staff a gyflogir trwy TU i\u2019r gwasanaeth diweddaru GDG, gan dynnu\u2019r angen am wiriadau adnewyddu a chyflymu\u2019r amserlen recriwtio yn y dyfodol.  <\/li>\n<\/ul>\n\n<p class=\"has-pale-cyan-blue-color has-text-color has-link-color wp-elements-6bdb76ec3c2d5dd85392ff3a89bc6b1c\"><strong>Ei gwneud yn haws rheoli Taliad Uniongyrchol<\/strong><\/p>\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Cyflwyno taliadau anuniongyrchol, ar gyfer yr unigolion hynny sydd eisiau\u2019r dewis a\u2019r rheolaeth o ran TU, ond nid y cyfrifoldeb o reoli arian.<\/li>\n\n\n\n<li>Byddwn yn ehangu mynediad i ddogfennau a thempledi electroneg ar gyfer derbynyddion TU er mwyn eu cefnogi i gynnal eu cyfrifoldebau.<\/li>\n\n\n\n<li>Byddwn yn cynyddu nifer yr ymweliadau cartref gan y T\u00eem TU ar gyfer yr unigolion hynny sy\u2019n dymuno cael rhyngweithiad wyneb yn wyneb yn ystod sefydlu a gweithredu <\/li>\n<\/ul>\n\n<p class=\"has-pale-cyan-blue-color has-text-color has-link-color wp-elements-4fdbd036da985ddc9af6287e4787fefd\"><strong>Monitro diogelwch<\/strong><\/p>\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Byddwn yn gweithredu fel yr awdurdod arweiniol yn natblygiad gwasanaeth GDG rhanbarthol, i hwyluso gwiriadau staff gofal a gyflogir trwy TU.   <\/li>\n<\/ul>\n\n<p class=\"has-pale-cyan-blue-color has-text-color has-link-color wp-elements-d8a91835b4c6727f03747f38c5520828\"><strong>Cysylltu gyda\u2019r Bwrdd Iechyd Lleol<\/strong><\/p>\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Byddwn yn gweithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i ddatblygu\u2019r defnydd o TU ar gyfer anghenion iechyd. <\/li>\n<\/ul>\n\n<p class=\"has-pale-cyan-blue-color has-text-color has-link-color wp-elements-e6711550510fb7bab0f456cca1901bbd\"><strong>Gwerthfawrogi staff gofal<\/strong><\/p>\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Byddwn yn adolygu\u2019r hyfforddiant sydd ar gael i ofalwyr a gyflogir o dan y cynllun, er mwyn cynnwys sut, beth a ble caiff ei ddarparu er mwyn ei wneud yn effeithiol.<\/li>\n\n\n\n<li>Cydnabod r\u00f4l staff gofal TU i gefnogi recriwtio a chadw, gan gynnwys mynediad at wasanaethau iechyd a lles a chynlluniau gwobrwyo allanol. <\/li>\n\n\n\n<li>Byddwn yn cynyddu gwaith hyrwyddo\u2019r cynllun cyfleoedd cyflogaeth ar draws y sir.   <\/li>\n<\/ul>\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-alpha-channel-opacity\"\/>\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Peilot incwm sylfaenol i\u2019r rhai sy\u2019n gadael gofal<\/h2>\n\n<p>Mae\u2019r Peilot Incwm Sylfaenol yng Nghymru yn darparu pobl ifanc cymwys sydd wedi bod mewn gofal, a\u2019r cyfle i dderbyn \u00a31600 (cyn treth) y mis am gyfnod o ddwy flynedd. Ledled Cymru mae 635 o bobl ifanc yn cymryd rhan yn y cynllun, sy\u2019n gyfradd o 97%. Mae wyth o\u2019r rhain o Gonwy, ac o\u2019r rhain mae pedwar cyfranogwr wedi cael profiad cadarnhaol gyda\u2019r Peilot. Mae tri o\u2019r pedwar yn gweithio llawn amser ac yn gallu cynilo caran mawr o\u2019u taliad Peilot Incwm Sylfaenol. Mae\u2019r pedwerydd person ifanc yn gweithio rhan amser, ond mae bod yn rhan o\u2019r peilot yn golygu y gallent rentu eu fflat eu hun, talu\u2019r holl filiau cyfleustodau a dodrefnu eu t\u0177.<\/p>\n\n<p>Mae\u2019r Peilot Incwm Sylfaenol wedi rhoi cyfle i rai cyfranogwyr gynilo arian ar gyfer unrhyw ddyheadau ar gyfer y dyfodol, megis prynu t\u0177 eu hunain, a chael heddwch meddwl fod ganddynt arian tu \u00f4l iddynt.<\/p>\n\n<h3 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color has-link-color wp-elements-e4cbf18973eb4fd2ea2a0a49ce3fea7b\"><strong>Sut y gallwn wella<\/strong><\/h3>\n\n<p>Roedd y broses gyfathrebu i ledaenu gwybodaeth hanfodol i\u2019r Awdurdod Lleol a gweithwyr proffesiynol eraill sy\u2019n cefnogi pobl ifanc sydd wedi bod mewn gofal, angen gwella, gan nad oedd cyfnod o rybudd clir yn arwain at y cynllun ar gael. Byddai arfer da hefyd wedi golygu rhoi cyfle i gyfranogwyr, boed yn weithwyr proffesiynol neu bobl ifanc, ymgynghori ar y cynllun.<\/p>\n\n<p>Yn ogystal, mae\u2019r cynllun wedi bod yn llai llwyddiannus ar gyfer y pedwar cyfranogwr arall, ac mewn gwirionedd wedi achosi eu sefyllfa i ddirywio yn hytrach na gwella. Mae un o\u2019r cyfranogwyr wedi bod yn defnyddio\u2019r arian i ariannu eu camddefnydd o sylweddau, ac mae un arall wedi cael eu targedu gan ffrindiau sydd wedi camfanteisio arnynt yn sgil eu bregusrwydd a mynediad at arian bob mis. Mae cyfranogwr arall wedi colli pob cymhelliant ers derbyn yr arian Peilot Incwm Sylfaenol ac yn byw ar fwyd cyflym, ac yn amharod i ymgysylltu ag addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth, sydd bellach yn rhoi eu cytundeb trwydded mewn risg. Felly, dysgeidiaeth allweddol o\u2019r peilot yw bod angen proffilio\u2019r unigolyn ifanc sy\u2019n gymwys, er mwyn sicrhau y gallent ddefnyddio\u2019r cyfle hwn i ffynnu yn hytrach nac amlygu eu gwendidau.<\/p>\n\n<h3 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color has-link-color wp-elements-b1811291ededc4b161d549020f2a8f36\"><strong>Ein cynllun gweithredu<\/strong><\/h3>\n\n<p>Mae rhai o\u2019r cyfranogwyr bellach wedi mynd i\u2019w hail flwyddyn yn y cynllun. Mae\u2019r Ymgynghorwyr Personol yno i gefnogi\u2019r wyth, ac yn cysylltu\u2019n rheolaidd \u00e2 nhw. Maent yn cynnig cyngor ac arweiniad ar ystod o faterion a bob amser yno i gynnig cymorth gyda chyllidebu, atgyfeiriadau i asiantaethau perthnasol os oes angen, ac unrhyw gymorth emosiynol sydd ei angen.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Pythefnos Diogelu &#8211; Tachwedd 2023 Mae Diogelu yn ganolog i\u2019r Gwasanaethau Cymdeithasol ac yn tanategu ein harferion a gwaith dydd i ddydd. Er mwyn gwella ymwybyddiaeth mae angen ymrwymiad i ddulliau amrywiol i hyfforddi a rhannu gwybodaeth. Yn ystod Pythefnos Diogelu o 13 i 24 Tachwedd 2023, fe gynhaliom ystod o ddigwyddiadau, gan gynnwys sesiynau [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":5,"featured_media":0,"parent":3670,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"_seopress_robots_primary_cat":"","_seopress_titles_title":"","_seopress_titles_desc":"","_seopress_robots_index":"","_genesis_hide_title":false,"_genesis_hide_breadcrumbs":false,"_genesis_hide_singular_image":false,"_genesis_hide_footer_widgets":false,"_genesis_custom_body_class":"","_genesis_custom_post_class":"","_genesis_layout":"","footnotes":""},"class_list":{"0":"post-3793","1":"page","2":"type-page","3":"status-publish","5":"entry"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/3793","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/5"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=3793"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/3793\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":3794,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/3793\/revisions\/3794"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/3670"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=3793"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}