{"id":3791,"date":"2024-09-12T11:20:09","date_gmt":"2024-09-12T10:20:09","guid":{"rendered":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/adroddiad-2022-23-2\/partneriaethau-ac-integreiddio\/"},"modified":"2024-09-12T11:20:11","modified_gmt":"2024-09-12T10:20:11","slug":"partneriaethau-ac-integreiddio","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/adroddiad-2023-24\/partneriaethau-ac-integreiddio\/","title":{"rendered":"Partneriaethau ac Integreiddio"},"content":{"rendered":"\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Mae partneriaethau effeithiol ar waith i gomisiynu a darparu deilliannau cwbl integredig, o ansawdd uchel, cynaliadwy i bobl<\/li>\n\n\n\n<li>Mae pobl yn cael eu hannog i gyfrannu at ddyluniad a darpariaeth eu gofal a\u2019u cefnogaeth fel partneriaid cyfartal<\/li>\n<\/ul>\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Dull partneriaeth i gomisiynu <\/h2>\n\n<p>Rydym wedi gweithio\u2019n agos gyda\u2019n darparwyr gofal cartref i newid y ffordd yr ydym yn comisiynu a darparu gwasanaethau i bobl h\u0177n.  Rydym yn hyrwyddo dull mwy cydlynol sy\u2019n seiliedig ar ganlyniadau, gan ganolbwyntio ar y pethau mae pobl yn gallu eu gwneud, yn hytrach na\u2019r pethau nad ydynt yn gallu eu gwneud.  Mae hyn yn rhoi cyfle i ddarparwyr deilwra eu gwasanaethau i\u2019r unigolion y maent yn eu cefnogi, gan ystyried eu barn, eu ffafriaeth a\u2019r pethau sy\u2019n bwysig iddyn nhw.  Rydym yn cydnabod bod newid arferion yn cymryd amser, fodd bynnag, rydym wedi gweld canlyniadau cadarnhaol iawn o ganlyniad, gan alluogi pobl h\u0177n i aros yn eu cartrefi eu hunain yn hirach.  Ein her bellach yw sicrhau fod gennym gapasiti digonol i fodloni anghenion cynyddol ein poblogaeth h\u0177n sy\u2019n mynegi eu dymuniad i dderbyn cefnogaeth yn eu cartref eu hunain yn hytrach na gofal preswyl. <\/p>\n\n<p>Gan ystyried barn pobl ag anableddau a\u2019u gofalwyr drwy weithgareddau ymgysylltu, megis cael swydd wedi\u2019i hwyluso gan Gogledd Cymru Gyda\u2019n Gilydd, rydym wedi comisiynu gwasanaethau newydd i fodloni eu hanghenion a\u2019u dyheadau.  Gan weithio mewn partneriaeth agos gydag Ymddiriedaeth HF, disgwylir i gaffi a siop Bryn Euryn ym Mae Colwyn agor ddiwedd y gwanwyn neu ddechrau\u2019r haf yn 2024.  Y nod yw darparu cyfleoedd rhagorol i bobl ag anableddau i ddatblygu eu sgiliau, ennill profiad gwerthfawr mewn arlwyo, a\u2019u helpu i ddod o hyd i waith \u00e2 th\u00e2l.  Ein gweledigaeth yw i\u2019r caffi fod yn un o hoff lefydd pobl i siopa am blanhigion a mwynhau paned, yn ogystal \u00e2 chefnogi pobl ag anableddau dysgu i ddysgu sgiliau a fydd yn eu helpu i gyflawni eu nodau cyflogaeth. <\/p>\n\n<p>Rydym yn cymryd camau i weithredu dull cydgynhyrchiol ar gyfer y ffordd yr ydym yn comisiynu ein gwasanaethau e.e. galluogi pobl a\u2019u teuluoedd i weithio gyda ni fel partneriaid cyfartal a chynnig cyfleoedd cyfartal iddynt gyfrannu\u2019n rhannol neu\u2019n llawn at y broses gomisiynu.   Mae gennym enghreifftiau da o weithio\u2019n agos gyda theuluoedd i ddylunio, comisiynu a chaffael gwasanaethau sy\u2019n canolbwyntio ar yr unigolyn, gan gynnwys y darparwyr sy\u2019n eu cefnogi nhw.  Rydym yn ymrwymo i ddatblygu dull cydgynhyrchiol ar gyfer comisiynu, gan sicrhau fod gennym ystod eang o wasanaethau yn ein hardal leol. <\/p>\n\n<p>Fel rhan o\u2019n datblygiad llety i blant, rydym yn ymgysylltu \u00e2 phlant a phobl ifanc ac yn cynnwys y gr\u0175p Lleisiau Uchel i ystyried barn, adborth ac awgrymiadau plant o ran comisiynu a datblygu gwasanaethau gofal preswyl a llety \u00e2 chymorth. <\/p>\n\n<h3 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color has-link-color wp-elements-e4cbf18973eb4fd2ea2a0a49ce3fea7b\"><strong>Sut y gallwn wella<\/strong><\/h3>\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Rydym yn cydnabod y prinder llety priodol ar gyfer pobl ifanc yn ein hardal, a bod eu hanghenion cymorth yn gallu bod yn gymhleth iawn.  Byddwn yn ymgysylltu \u00e2\u2019r gymuned leol pan fyddwn yn cynllunio i gyflwyno gwasanaethau gofal preswyl newydd yn y gymuned.<\/li>\n\n\n\n<li>Rydym yn ymrwymo i ddatblygu a chomisiynu gwasanaethau newydd yn seiliedig ar dystiolaeth a gwybodaeth ystyrlon, gan ystyried barn pobl, canllawiau polisi cenedlaethol ac arferion da, er mwyn i ni sicrhau fod gennym y gwasanaethau cywir ar gael yn y lle iawn ar yr amser iawn. <\/li>\n\n\n\n<li>Byddwn yn parhau i ddatblygu\u2019r ffordd yr ydym yn ymgysylltu, casglu adborth a chwblhau gwaith ymchwil a gweithgarwch ymgynghori i asesu dewisiadau a barn y cyhoedd fel rhan o\u2019n proses gomisiynu; byddwn yn defnyddio offer megis y Panel Dinasyddion. <\/li>\n<\/ul>\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-alpha-channel-opacity\"\/>\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Cyfleoedd cyflogaeth i bobl ag anableddau dysgu<\/h2>\n\n<p>Eleni, mae Conwy a Sir Ddinbych wedi gweithio mewn partneriaeth \u00e2 Gogledd Cymru Gyda\u2019n Gilydd i lansio llwybr newydd i unigolion ag anabledd dysgu sy\u2019n agored i wasanaethau cymdeithasol.  Mae\u2019r llwybr cyflogaeth yn cynnig cefnogaeth hyfforddwr swydd dwys i bobl i\u2019w helpu i ddod o hyd i waith cyflogedig a fyddai wedi bod yn anodd iddynt ei ganfod ar eu pennau eu hunain neu\u2019n amhosibl i weithiwr cymdeithasol yn sgil cyfyngiadau capasiti.   Mae\u2019r Cydlynydd Llwybr Cyflogaeth yn derbyn pob atgyfeiriad at y gwasanaeth newydd gan weithwyr cymdeithasol, swyddogion Gyrfa Cymru a gweithwyr proffesiynol eraill.  Gallant gwrdd \u00e2\u2019r unigolyn a\u2019u teulu neu ofalwyr i benderfynu ar y llwybr cyflogaeth gorau i\u2019r unigolyn hwnnw, a ph\u2019un a fyddent yn elwa o gyfleoedd gwirfoddol \/ profiad gwaith i ddatblygu eu CV.  Rydym hefyd wedi cyfeirio pobl at gyrsiau hyfforddiant a ddarperir gan Ganolfan Gyflogaeth Conwy, rhaglen WorkFit y Gymdeithas Syndrom Down ac Amdani, gwasanaeth gwirfoddoli mewnol Conwy sy\u2019n anelu at ddarparu cyfleoedd gwirfoddoli\u2019n seiliedig ar ddiwylliant lleol.  <\/p>\n\n<p>Bydd Conwy\u2019n addasu\u2019r ffordd y mae gwasanaethau dydd yn cael eu cynnig i unigolion ar hyn o bryd.  Y nod yw, o hyn ymlaen, y bydd pobl yn mynychu gwasanaethau dydd ar sail tymor byr, ac yn gadael ar \u00f4l cyfnod byr gyda phrofiad, a chymhwyster gobeithio, y gallwn eu defnyddio i ddod o hyd i gyflogaeth \u00e2 th\u00e2l.  Bydd gwasanaethau dydd yn parhau i fod ar gael i\u2019r rheiny sydd eu hangen nhw, ond dylai unrhyw un sy\u2019n gallu gweithio eu defnyddio fel offeryn hyfforddiant yn hytrach nag opsiwn hirdymor.  Bydd y blanhigfa a chaffi newydd ym Mryn Euryn, Mochdre, yn darparu cyfleoedd profiad gwaith wedi\u2019u teilwra i bobl, eto am gyfnodau penodol, y gellir eu defnyddio i sicrhau swyddi yn y gymuned.  Byddwn hefyd yn cynnal cynllun swyddi penwythnos i 14+ o ddisgyblion yn Ysgol y Gogarth i ennill profiad gwaith, gyda\u2019r nod o newid y diwylliant mewn ysgolion a cholegau anghenion ychwanegol i ganolbwyntio mwy ar gyflogaeth.  Yn y dyfodol, bydd ein Cydlynydd Llwybr Cyflogaeth hefyd yn bresennol mewn ysgolion a cholegau arbennig lleol, lle byddant yn gweithio gyda staff i ddarparu gwybodaeth i ddysgwyr am ein gwasanaeth newydd, a chyflogaeth yn gyffredinol. <\/p>\n\n<p>Mae gwaith wedi cael ei gwblhau i ddarparu dewis gwirioneddol i bobl ag anableddau dysgu am eu dymuniadau.  Mae rhai pobl bellach yn gallu ennill cyflog yn hytrach na dibynnu ar wasanaethau dydd traddodiadol, gwirfoddoli mewn siopau elusen neu fod yn NEET (ddim mewn cyflogaeth, addysg, na hyfforddiant). Yn flaenorol, roedd yn anodd iawn i rywun ag anableddau dysgu gael mynediad at waith \u00e2 th\u00e2l, gan na fyddai gan Weithwyr Cymdeithasol amser i ymgymryd \u00e2\u2019r dasg ddwys o ddod o hyd i waith i rywun ag anabledd dysgu.  Yn aml iawn hefyd, heb gefnogaeth gychwynnol yn y swydd gan ein hyfforddwyr swyddi, byddai\u2019r rhwystr a wynebir gan y cyflogwr o hyfforddi rhywun ag anabledd dysgu mewn r\u00f4l newydd yn ormod o waith.  Drwy greu\u2019r rolau newydd hyn, Cydlynwyr Llwybrau Cyflogaeth a hyfforddwyr swyddi, y nod yw pontio\u2019r bylchau yn y maes hwn a galluogi pobl ag anabledd dysgu i ddod o hyd i waith \u00e2 th\u00e2l.  <\/p>\n\n<p>Gan fod y swyddi hyn wedi cael eu llenwi ym mis Hydref 2023, mae dal yn rhy gynnar i fesur cyflawniadau, ond hyd yma, rydym wedi cael ambell i lwyddiant da.  Mae pump o bobl wedi dechrau gweithio mewn swyddi \u00e2 th\u00e2l gan ddefnyddio\u2019r gwasanaeth newydd, ac mae disgwyl i un arall ddechrau ym mis Ionawr 2024.  Mae pobl wedi cael mynediad at gyfleoedd hyfforddiant na fyddent wedi bod yn ymwybodol ohonynt fel arall.  Mae lleoliadau gwirfoddol wedi cael eu nodi ar gyfer pobl i wella eu CV ac ennill profiad.  Mae gennym ddau o bobl yn dechrau treial gwaith yn nh\u00eem glanhau Venue Cymru ym mis Ionawr, a fydd yn datblygu cysylltiad rhwng dau wasanaeth yng Nghonwy.  Mae pobl sydd wedi cael eu hatgyfeirio at y gwasanaeth wedi nodi gwelliant yn eu lles, rhagolygon a sefyllfaoedd cymdeithasol. <\/p>\n\n<p>Yn ogystal \u00e2\u2019r gwelliant o ran lles preswylwyr, bydd hyn yn sicrhau arbediad ariannol hirdymor i Gonwy. Mae\u2019r costau sydd ynghlwm \u00e2 chefnogi rhywun i ddod o hyd i waith yn llawer llai na\u2019r costau sydd ynghlwm \u00e2 darparu gofal cartref cyson, mynediad at wasanaethau dydd, cludiant, staff ac ati, a fyddai\u2019n angenrheidiol pe na bai\u2019r gefnogaeth hon ar gael i\u2019r unigolyn.  Mae sgyrsiau\u2019n mynd rhagddynt ynghylch sut i wneud swyddi Awdurdod Lleol yn fwy cynhwysol, gan ddarparu ymgeiswyr posibl ar gyfer swyddi gwag yng Nghonwy a fyddai fel arall yn wag am gyfnod hir o bosibl. <\/p>\n\n<h3 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color has-link-color wp-elements-e4cbf18973eb4fd2ea2a0a49ce3fea7b\"><strong>Sut y gallwn wella<\/strong><\/h3>\n\n<p>Offeryn a ddefnyddir mewn cyflogaeth \u00e2 chymorth i gael gymaint o wybodaeth \u00e2 phosibl am yr unigolyn yr ydych yn eu cefnogi yw proffilio galwedigaethol, ac fe\u2019i defnyddir i baru\u2019r unigolion mwyaf addas gyda swyddi i gyflogwyr.  Y mwyaf o wybodaeth berthnasol y gallwn ei chynnwys ar broffil galwedigaethol, y mwyaf tebygol yw\u2019r ymgeisydd llwyddiannus o lwyddo yn eu swydd newydd.  Wrth i ni ddarparu\u2019r gwasanaeth, rydym yn darganfod pa wybodaeth sy\u2019n berthnasol a pha wybodaeth nad yw\u2019n berthnasol, ac yn addasu ein proffiliau galwedigaethol yn gyson.  Bydd y broses hon yn parhau i\u2019r flwyddyn nesaf.  Er nad yw\u2019n bosibl creu proffil galwedigaethol perffaith ar unrhyw bryd, byddwn yn parhau i\u2019w ddatblygu wrth i ni ddysgu mwy am y beth sy\u2019n bwysig i\u2019w ddarganfod am hanes cyn cyflogaeth ceiswyr swyddi.  <\/p>\n\n<p>Mae arnom ni angen gwella ein cyfraddau llwyddiant wrth gysylltu \u00e2 chyflogwyr.  Yn amlwg, dim ond hyn a hyn fedrwn ni ei wneud, ac ni fydd gan nifer o gyflogwyr ddiddordeb mewn defnyddio\u2019r gwasanaeth.  Fodd bynnag, drwy ddefnyddio\u2019r dull cywir, credwn y bydd modd ennyn rhagor o ddiddordeb gan gyflogwyr sydd ychydig yn ansicr ar hyn o bryd o bosibl.  Byddwn yn addasu ac yn newid ein dull o ran cysylltu \u00e2 chyflogwyr yn y dyfodol ac yn dysgu am y pethau sy\u2019n gweithio a\u2019r pethau nad ydynt yn gweithio. <\/p>\n\n<p>Nid yw cysylltiadau \u00e2 swyddi a chyfleoedd awdurdod lleol yn gryf iawn ar hyn o bryd ac mae angen gweithio ar hyn. <\/p>\n\n<h3 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color has-link-color wp-elements-b1811291ededc4b161d549020f2a8f36\"><strong>Ein cynllun gweithredu<\/strong><\/h3>\n\n<p>Mae rhai elfennau o\u2019r proffil galwedigaethol sydd eisoes wedi cael eu hychwanegu a\u2019u gwaredu, a bydd hyn yn parhau.  Os ydym ni\u2019n gweld bod rhai darnau o wybodaeth yn amherthnasol, byddwn yn eu tynnu o\u2019r proffil.  Yn yr un modd, os byddwn ni\u2019n nodi bod unrhyw ddarn perthnasol o wybodaeth ar goll, byddwn yn ei ychwanegu neu\u2019n dysgu hyn yn gynt yn y broses.  Gallwn siarad \u00e2 chyflogwyr am bethau sydd wedi gweithio a phethau nad ydynt wedi gweithio, a gweld a oes unrhyw ffordd y gallwn fod wedi darganfod hyn ar y cam proffilio galwedigaethol.  <\/p>\n\n<p>Gallwn siarad \u00e2 chyflogwyr am ba wybodaeth yr hoffen nhw ei wybod am y gwasanaeth er mwyn tawelu eu meddyliau.  Wrth i amser fynd yn ei flaen, byddwn yn datblygu cyfres o dystiolaeth llysgennad cyflogwr.  Gall clywed gan gyflogwr arall am brofiadau llwyddiannus o ddefnyddio\u2019r gwasanaeth fod yn ffordd dda o dawelu eu meddyliau a datblygu hyder yn ein gwasanaeth.  <\/p>\n\n<p>Mae dau dreial gwaith wedi cael eu sefydlu yn Venue Cymru sy\u2019n ddechrau da, ond mae opsiynau eraill y gallwn eu hystyried.  Sut fedrwn ni fynd allan i\u2019r byd a gofyn i gyflogwyr roi cyfle i\u2019n hymgeiswyr pan nad ydym ni\u2019n gwneud hynny\u2019n fewnol?  Mae sgyrsiau\u2019n mynd rhagddynt ar hyn o bryd ynghylch sut y gellir gwneud y broses recriwtio\u2019n fwy cynhwysol i bobl ag anableddau dysgu.  Gobeithiwn yn 2024 y bydd pobl ag anableddau a gaiff eu hatgyfeirio drwy\u2019r gwasanaeth hwn yn gallu cwblhau treial gwaith yn hytrach na mynychu cyfweliad ffurfiol i ddangos eu bod yn gallu cyflawni\u2019r r\u00f4l, er nad ydynt o bosibl wedi gallu cyfleu hynny\u2019n defnyddio\u2019r arddull recriwtio presennol (ffurflen gais\/cyfweliad). <\/p>\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-alpha-channel-opacity\"\/>\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Gwella ein cynnig gofal maeth <\/h2>\n\n<p>Er mwyn gwella cynnig Conwy i ofalwyr maeth, rydym wedi cynyddu\u2019r lwfans y maent yn ei dderbyn, yn ogystal \u00e2\u2019r swm sy\u2019n daladwy i ail a thrydydd plant yn eu gofal.  Rydym hefyd wedi ail-gyflwyno ad-daliadau i ofalwyr maeth er mwyn talu am y 50 milltir cyntaf wrth gludo plant i ac o\u2019r ysgol ac amser teulu.  Rydym yn ystyried opsiynau i gynnig gostyngiadau Treth y Cyngor i ofalwyr maeth, gyda\u2019r nod o\u2019u gweithredu yn ystod blwyddyn ariannol 2024-2025.  Mae\u2019r mentrau hyn yn alinio \u00e2 rhaglen Maethu Cymru i gysoni taliadau ar draws Cymru, yn ein rhoi mewn gwell sefyllfa i ddenu gofalwyr maeth newydd, ac yn cynnig opsiwn amgen hyfyw i\u2019r sector preifat. <\/p>\n\n<p>Mae Conwy wedi datblygu Polisi Cefnogi Maethu i weithwyr Conwy sy\u2019n Ofalwyr Maeth neu\u2019n dymuno bod yn Ofalwyr Maeth.   Mae\u2019r polisi hwn, sy\u2019n mynd drwy\u2019r broses ddemocrataidd ar hyn o bryd, yn anelu at ddarparu pum diwrnod ychwanegol o wyliau arbennig i weithwyr presennol a newydd i fynychu hyfforddiant neu gyfarfodydd i gefnogi eu r\u00f4l maethu.  Bydd hyn yn cefnogi ein strategaeth recriwtio a chadw staff mewn blwyddyn heriol.   Heb Swyddog Recriwtio, rydym wedi cael trafferth denu gofalwyr maeth newydd, fodd bynnag, mae\u2019r t\u00eem wedi parhau i fynychu digwyddiadau cyhoeddus a rhannu ymgyrchoedd cyfryngau cymdeithasol i ennyn diddordeb ac ymholiadau.  Erbyn diwedd 2023, roedd pedwar aelwyd maeth newydd wedi cael eu cymeradwyo, a disgwylir i ddau arall gael eu cymeradwyo erbyn diwedd Mawrth 2024. <\/p>\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"477\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/image-1024x477.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-3729\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/image-1024x477.png 1024w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/image-300x140.png 300w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/image-768x358.png 768w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/image.png 1090w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n<p>Roedd penodi Gweithiwr Cymdeithasol Seibiant Byr ym mis Rhagfyr 2023 yn ddatblygiad cadarnhaol, yn dilyn misoedd o recriwtio.  Nodwyd y swydd hon fel angen yn ein Strategaeth Lleoli 2022 a sicrhawyd cyllid ar gyfer y swydd drwy gais llwyddiannus i\u2019r Rhaglen Dileu Elw.  Gan ddefnyddio\u2019r un llwybr, llwyddwyd i recriwtio Swyddog Dyletswydd ym mis Tachwedd 2023 i gefnogi\u2019r Gweithwyr Cymdeithasol Goruchwyliol i gynyddu ein capasiti asesu. <\/p>\n\n<p>Mae cadw gofalwyr maeth presennol yn parhau i fod yn un o gryfderau\u2019r gwasanaeth, a dengys hyn yn sefydlogrwydd ein teuluoedd maeth.  Mae presenoldeb gofalwyr maeth mewn boreau coffi\u2019n parhau i fod yn gadarnhaol, gyda chyfle i gyfoedion dderbyn cymorth, cyngor a chanllawiau gan staff, a chynnal ymdeimlad y gofalwyr maeth o berthyn a hunaniaeth o fewn yr Awdurdod Lleol.  Mae ein Diwrnod Gwasanaeth blynyddol yn y gwanwyn a\u2019n Diwrnod Gwerthfawrogi yn y gaeaf wedi dod yn ddigwyddiadau sefydlog yn y calendr ac yn boblogaidd iawn gan gefnogi ymdeimlad teuluol Maethu Cymru Conwy. <\/p>\n\n<p>Eleni, yn sgil yr argyfwng costau byw, mae\u2019r gwasanaeth yn parhau i ariannu cardiau Maxx (cynllun gostyngiadau), tocynnau Ffit Conwy ac mae gofalwyr maeth yn ddiolchgar iawn o unrhyw ddigwyddiadau am ddim. Rydym yn gwybod bod y cynigion hyn yn effeithiol, gan fod gofalwyr maeth yn cefnogi digwyddiadau recriwtio ac yn cymryd rhan mewn negeseuon cyfryngau cymdeithasol. <\/p>\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"445\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/image-1-1024x445.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-3731\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/image-1-1024x445.png 1024w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/image-1-300x130.png 300w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/image-1-768x334.png 768w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/image-1.png 1090w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n<h3 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color has-link-color wp-elements-e4cbf18973eb4fd2ea2a0a49ce3fea7b\"><strong>Sut y gallwn wella<\/strong><\/h3>\n\n<p>O ran heriau a brofwyd a\u2019r gwelliannau y mae angen ni eu gwneud, rydym wedi cael trafferth recriwtio ar gyfer dau Swyddog Recriwtio, a fyddai wedi ein galluogi i dargedu digwyddiadau recriwtio lleol, datblygu ein presenoldeb ymhellach, a chynnal sesiynau galw heibio rheolaidd mewn clybiau, canolfannau hamdden, llyfrgelloedd, ac ati.   Mae arnom ni hefyd angen canolbwyntio ar ddatblygu ein presenoldeb ar y cyfryngau cymdeithasol a dadansoddi\u2019r gweithgarwch y mae\u2019n ei ennyn.  Rydym yn awyddus i gysylltu \u00e2 busnesau lleol a hyrwyddo ein model talu gwell a\u2019n statws fel Cyflogwr sy\u2019n Cefnogi Maethu.  Fel rhan o Faethu Cymru, yn ddelfrydol, byddwn yn datblygu ymgyrch recriwtio mwy rhanbarthol gyda\u2019n Hawdurdodau Lleol cyfagos. <\/p>\n\n<p>Mae ein meysydd o angen fel a ganlyn: <\/p>\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Seibiannau byr <\/li>\n\n\n\n<li>Cadw brodyr a chwiorydd gyda\u2019i gilydd<\/li>\n\n\n\n<li>Plant yn eu harddegau <\/li>\n<\/ul>\n\n<p>Gydag ymgyrchoedd recriwtio llwyddiannus, bydd ar y gofalwyr maeth hynny sy\u2019n gallu derbyn plant yn eu harddegau angen cymorth ychwanegol, felly bydd gweithio mewn partneriaeth \u00e2\u2019r Prif Seicolegydd ar gyfer Plant sy\u2019n Derbyn Gofal yn hanfodol ar gyfer datblygu dull gofal. <\/p>\n\n<h3 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color has-link-color wp-elements-b1811291ededc4b161d549020f2a8f36\"><strong>Ein cynllun gweithredu<\/strong><\/h3>\n\n<p>Dros y misoedd nesaf, hoffem sicrhau:<\/p>\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Fod gennym ddau Swyddog Recriwtio ar waith, yn datblygu ac yn tyfu ein strategaeth recriwtio <\/li>\n\n\n\n<li>Ein bod yn datblygu prosesau recriwtio seibiannau byr, dan arweiniad y Swyddog Recriwtio a\u2019r Gweithiwr Cymdeithasol Seibiant Byr <\/li>\n\n\n\n<li>Ein bod yn datblygu dull gofal sy\u2019n bodloni anghenion plant yn eu harddegau <\/li>\n\n\n\n<li>Ein bod yn sefydlu r\u00f4l Swyddog Dyletswydd er mwyn gwella capasiti\u2019r Gweithiwr Cymdeithasol Goruchwyliol i gynnal asesiadau. <\/li>\n<\/ul>\n\n<p>A ydych chi\u2019n ystyried bod yn ofalwr maeth?\u00a0 Ymwelwch \u00e2 <a href=\"https:\/\/fosterwales.secure.conwy.gov.uk\/static\/en\/\">gwefan Maethu Cymru Conwy <\/a>\u00a0i ddysgu mwy.<\/p>\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-alpha-channel-opacity\"\/>\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Cyfranogiad ac Ymgysylltiad: Ymgyrch Gwrando ar Ddementia<\/h2>\n\n<p>Gofynnodd Gr\u0175p Cydweithredol Rhanbarthol Gogledd Cymru i ni gyfrannu at waith parhaus yr Ymgyrch Gwrando ar Ddementia drwy gynnal ymarfer ymgysylltu \u00e2\u2019r gymuned.  Y bwriad oedd ei gynnal mewn un dref yn y sir gyda\u2019r nod o gasglu barn preswylwyr am y cyfleusterau a\u2019r gwasanaethau dementia sydd ar gael yn eu cymunedau.  Byddai unrhyw adborth yn llywio gweithgareddau Iechyd Cyhoeddus Cymru i\u2019r dyfodol. <\/p>\n\n<p>Ffurfiwyd gr\u0175p llywio, ac enwebwyd Llanfairfechan ar gyfer y digwyddiad.  Cefnogwyd y gwaith ymgysylltu gan lyfrgelloedd Conwy, yn arbennig Llyfrgell Llanfairfechan, Cyngor Tref Llanfairfechan, Gwasanaeth Lles Cymunedol Conwy, y Gwasanaeth Pobl H\u0177n a\u2019r Cynghorwyr Penny Andow a Mandy Hawkins.<\/p>\n\n<p>Cynhaliom ddiwrnod gwybodaeth ac ymgysylltu \u00e2\u2019r gymuned yn neuadd tref Llanfairfechan ym mis Medi 2023, noson goffi yn y llyfrgell gymunedol ym mis Hydref, a stondinau yn y Fforwm Pobl H\u0177n yn Llys y Coed a ffair Nadolig Llanfairfechan.  Fe wnaethom gwrdd \u00e2 grwpiau cymunedol lleol i drafod yr ymgyrch a hyrwyddo holiadur a ddyfeisiwyd ar gyfer y digwyddiad.  Siaradom hefyd \u00e2 phreswylwyr mewn siopau a chaffis lleol a thrwy unrhyw gyfleoedd eraill a gododd. <\/p>\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large is-resized\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"478\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/image-2-1024x478.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-3733\" style=\"width:680px;height:auto\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/image-2-1024x478.png 1024w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/image-2-300x140.png 300w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/image-2-768x359.png 768w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/image-2.png 1090w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n<h3 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color has-link-color wp-elements-b1811291ededc4b161d549020f2a8f36\"><strong>Ein cynllun gweithredu<\/strong><\/h3>\n\n<p>Mae\u2019r ymateb gan breswylwyr a grwpiau cymunedol lleol wedi bod yn gadarnhaol iawn ar y cyfan.  Erbyn mis Rhagfyr 2023, roedd 178 o bobl wedi cwblhau\u2019r holiadur.  Unwaith y byddwn wedi derbyn y dadansoddiad a\u2019r adroddiad gan Gr\u0175p Cydweithredol Rhanbarthol Gogledd Cymru, byddwn yn gallu astudio\u2019r canlyniadau a nodi\u2019r gwelliannau sydd eu hangen. <\/p>\n\n<p>Yn 2024, rydym yn awyddus i drefnu digwyddiad adborth ar gyfer preswylwyr Llanfairfechan i ddiolch iddynt am eu cyfranogiad a thrafod sut mae eu barn wedi llywio\u2019r adroddiad rhanbarthol.  Mae arnom ni hefyd angen sefydlu gr\u0175p gweithredu lleol ar gyfer Llanfairfechan er mwyn rhoi\u2019r blaenoriaethau a amlygwyd yn yr adroddiad gan ac ar gyfer eu cymuned ar waith. <\/p>\n\n<p>Dechreuodd y gwaith ymgysylltu yn 2023 a bydd yn cyfrannu at waith parhaus Iechyd Cyhoeddus Cymru i wella gofal dementia ac annog datblygiad cymunedau sy\u2019n deall dementia ar draws Cymru. <\/p>\n\n<div class=\"wp-block-buttons is-layout-flex wp-block-buttons-is-layout-flex\">\n<div class=\"wp-block-button\"><a class=\"wp-block-button__link wp-element-button\" href=\"https:\/\/diwylliantconwy.com\/explore-culture\/amdani-conwy-2\">Mae Amdani! Conwy yn brosiect newydd sy\u2019n cefnogi lleoliadau diwylliannol a threfnwyr digwyddiadau ac yn gweithio gyda chymunedau i wneud diwylliant, treftadaeth a\u2019r celfyddydau yn hwyl, hygyrch ac yn gynhwysol. <\/a><\/div>\n<\/div>\n\n<p><\/p>\n\n<p>Mae\u2019r ymgynghoriadau a\u2019r ymgysylltiadau eraill yr ydym wedi\u2019u cynnal yn cynnwys: <\/p>\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Preswylwyr ac aelodau teulu mewn tri chartref gofal ac un asiantaeth gofal cartref.   <\/li>\n\n\n\n<li>Dinasyddion a theuluoedd sy\u2019n ymwneud \u00e2\u2019r cyfleuster seibiant newydd ym Mron y Nant, ac unigolion a gefnogir sy\u2019n defnyddio\u2019r gwasanaeth (a\u2019u haelodau teulu) i fod yn rhan o\u2019r broses gyfweld staff newydd. <\/li>\n\n\n\n<li>Pob preswylydd mewn cynlluniau tai gofal ychwanegol ar draws Conwy. <\/li>\n\n\n\n<li>Pobl sy\u2019n defnyddio\u2019r gwasanaethau cymorth cymunedol a ddarperir gan Wasanaeth Anableddau Conwy. <\/li>\n<\/ul>\n\n<h3 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color has-link-color wp-elements-e4cbf18973eb4fd2ea2a0a49ce3fea7b\"><strong>Sut y gallwn wella<\/strong><\/h3>\n\n<p>Byddwn yn parhau i ystyried gwahanol fathau o ddulliau ymgysylltu ac ymgynghori gan gynnwys ar-lein, dros y ff\u00f4n, arolygon a ffurflenni adborth, yn ogystal \u00e2 chwrdd \u00e2 grwpiau ac unigolion er mwyn llywio ein gwaith a chasglu barn pobl sy\u2019n cael mynediad at ein gwasanaethau.  <\/p>\n\n<h3 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color has-link-color wp-elements-b1811291ededc4b161d549020f2a8f36\"><strong>Ein cynllun gweithredu<\/strong><\/h3>\n\n<p>Sicrhau fod cynlluniau ymgynghori ar waith ar gyfer y dyfodol gyda Gwasanaethau Lles Cymunedol er mwyn ymgysylltu \u00e2 dinasyddion a\u2019r gymuned ehangach drwy: <\/p>\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Foreau coffi <\/li>\n\n\n\n<li>Cyrsiau yn y gymuned <\/li>\n\n\n\n<li>Darparu gweithgareddau mewn cartrefi gofal  <\/li>\n\n\n\n<li>Gweminarau a Facebook  <\/li>\n\n\n\n<li>Ffurflenni adborth cyffredinol  <\/li>\n\n\n\n<li>Arolygon sicrwydd ansawdd mewn Canolfannau Teulu <\/li>\n<\/ul>\n\n<p>Rydym hefyd yn awyddus i gasglu adborth gan ddinasyddion sy\u2019n derbyn gwasanaethau gofal cartref gan asiantaethau, gan ddefnyddio dull gofal sy\u2019n canolbwyntio ar ganlyniadau.<\/p>\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-alpha-channel-opacity\"\/>\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Adborth gan ffrindiau a theulu preswylwyr Llys Elian<\/h2>\n\n<p>Rydym yn cysylltu \u00e2 ffrindiau a theulu preswylwyr Llys Elian ddwywaith y flwyddyn, sef yr unig gartref preswyl a gynhelir gan y Cyngor i bobl \u00e2 dementia. Rydym yn gofyn iddynt gwblhau arolwg byr i roi adborth i ni ar y gwasanaeth y mae eu hanwylyd yn ei dderbyn.  Dyma gipolwg o ganlyniadau\u2019r arolwg a gynhaliwyd ym mis Medi 2023. <\/p>\n\n<p>Nododd y cyfranogwyr lefel boddhad o 100% ar gyfer bob cwestiwn a ofynnwyd iddynt. <\/p>\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Roedd yr holl ymatebwyr yn cytuno fod rheolwyr a staff Llys Elian yn gwrando ar eu hanwylyd, a\u2019u bod yn gallu gwneud dewisiadau am y gofal a\u2019r gefnogaeth y maent yn eu derbyn a\u2019r cyfleoedd sydd ar gael iddynt. <\/li>\n\n\n\n<li>Roedd pawb yn cytuno fod eu hanwylyd yn gallu cymryd rhan mewn gwaith a gweithgareddau ystyrlon a\u2019u bod yn hapus am eu hiechyd a\u2019u lles cyffredinol. <\/li>\n\n\n\n<li>Roedd pawb yn fodlon fod eu ffrind neu aelod o deulu\u2019n teimlo\u2019n ddiogel a\u2019u bod yn cael eu gwarchod rhag camdriniaeth ac esgeulustod. <\/li>\n\n\n\n<li>Roedd pawb yn teimlo bod y gwasanaeth yn cynnal preifatrwydd, urddas a chyfrinachedd eu hanwylyd. <\/li>\n\n\n\n<li>Ystyrir Llys Elian fel amgylchedd cyfforddus, sy\u2019n rhoi cyfle i\u2019w hanwyliaid bersonoli eu gofod.<\/li>\n\n\n\n<li>Mae ymwelwyr yn derbyn croeso ac yn gallu cyfrannu at ofal a chefnogaeth eu hanwyliaid. <\/li>\n<\/ul>\n\n<p>Mae\u2019r sylwadau a dderbyniwyd yn yr arolwg yn dangos mor werthfawr yw Llys Elian i ffrindiau a theulu\u2019r preswylwyr:<\/p>\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p>Mae\u2019n gartref arbennig.  Mae\u2019r rheolwyr a\u2019r holl staff ym mhob ardal o\u2019r cartref yn ofalgar ac yn gl\u00ean.  Ni allwn ddymuno am gartref mwy diogel a gofalgar.  Bydd y teulu yn fythol ddiolchgar am y gofal arbennig y mae ein hanwylyd wedi\u2019i dderbyn yn Llys Elian.  Diolch\/Thank you.<\/p>\n<\/blockquote>\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p>Fel teulu rydym mor hapus i weld mam wedi setlo mewn amgylchedd sy\u2019n siwtio ei hanghenion meddyliol a chorfforol. Mae\u2019r ffaith ei bod hi r\u0175an yn gallu cymdeithasu yn Gymraeg wedi gwneud gwahaniaeth aruthrol i mam ac wedi codi ei hwyliau.  Diolch.<\/p>\n<\/blockquote>\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p>Mae\u2019r rhyngweithiad gyda\u2019m tad a\u2019r gofal y mae\u2019n ei dderbyn o safon uchel bob amser.  Mae Llys Elian fel teulu i ni. <\/p>\n<\/blockquote>\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"834\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/image-3-1024x834.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-3735\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/image-3-1024x834.png 1024w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/image-3-300x244.png 300w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/image-3-768x626.png 768w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/image-3.png 1090w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-alpha-channel-opacity\"\/>\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Canolfan Ddiogelu Amlasiantaethol<\/h2>\n\n<p>Rydym wedi s\u00f4n am d\u00eem ein Canolfan Ddiogelu Amlasiantaeth mewn adroddiadau blaenorol a gallwn bellach gadarnhau fod y t\u00eem wedi symud ymlaen o gam peilot i fusnes fel arfer.   Mae\u2019r t\u00eem hefyd wedi ymestyn ac wedi penodi Gweithiwr Cymdeithasol ychwanegol i asesu atgyfeiriadau diogelu plant.   Mae Swyddog Cefnogi Busnes bellach yn rhan o d\u00eem y Ganolfan Ddiogelu Amlasiantaeth hefyd.   Mae hyn wedi ein galluogi i wella prosesau, gan gynnwys sut caiff cyfarfodydd y Ganolfan Ddiogelu Amlasiantaeth eu cofnodi a\u2019n cyfranogiad mewn prosesau diogelu eraill megis Trefniadau Gwarchod y Cyhoedd Amlasiantaeth a\u2019r Gynhadledd   Asesu Risg Amlasiantaeth. Rydym bellach yn derbyn mewnbwn rheolaidd gan y Gwasanaeth Prawf, Iechyd ac Addysg yn ein cyfarfodydd.   Mae presenoldeb asiantaethau eraill wedi arwain at broses fwy cadarn o wneud penderfyniadau. <\/p>\n\n<p class=\"has-black-color has-text-color has-link-color wp-elements-bafdcbb064ddf311f2d95547e687b6ee\" style=\"font-style:italic;font-weight:700\">Dyma rai ffigurau am gysylltiadau: <\/p>\n\n<p>Lluniwyd y mesur hwn i nodi\u2019r cyfanswm a\u2019r galw am wybodaeth, cyngor a chymorth fel y diffinnir yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.<\/p>\n\n<div class=\"wp-block-buttons is-layout-flex wp-block-buttons-is-layout-flex\">\n<div class=\"wp-block-button\"><a class=\"wp-block-button__link has-text-align-left wp-element-button\">10,536 &#8211; Nifer y cysylltiadau i blant a dderbyniwyd gan wasanaethau cymdeithasol statudol yn ystod y flwyddyn&#13;\n<\/a><\/div>\n<\/div>\n\n<p><\/p>\n\n<h3 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color has-link-color wp-elements-e4cbf18973eb4fd2ea2a0a49ce3fea7b\"><strong>Sut y gallwn wella<\/strong><\/h3>\n\n<p>Rydym wedi dechrau gweithio ar ddatblygu tudalennau we cyhoeddus a mewnrwyd arbennig i\u2019r t\u00eem.   Fodd bynnag, mae angen gwneud rhagor o waith ar hyn er mwyn i ni fedru cwblhau\u2019r cynnwys.   Rydym yn awyddus i barhau i wella presenoldeb partneriaid allweddol yn ein cyfarfodydd Canolfan Ddiogelu Amlasiantaethol.   Gall presenoldeb fod ar sail ad-hoc.   Byddwn yn parhau i weithio gyda\u2019n partneriaid allweddol mewn ymgais i sicrhau presenoldeb mwy parhaol yn ein cyfarfod.   Bydd hyn yn galluogi cysondeb ychwanegol yn ein proses o wneud penderfyniadau. <\/p>\n\n<h3 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color has-link-color wp-elements-b1811291ededc4b161d549020f2a8f36\"><strong>Ein cynllun gweithredu<\/strong><\/h3>\n\n<p>Dros y flwyddyn nesaf, byddwn yn: <\/p>\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Parhau i ddatblygu tudalennau we cyhoeddus a mewnrwyd y Ganolfan Ddiogelu Amlasiantaethol<\/li>\n\n\n\n<li>Parhau i ddatblygu a gwella prosesau o fewn y Ganolfan Ddiogelu Amlasiantaethol i weld defnydd mwy cyson o sgoriau Coch, Oren a Gwyrdd wrth wneud penderfyniadau diogelu. <\/li>\n\n\n\n<li>Gweithio gyda\u2019n t\u00eem gwybodaeth rheoli mewnol i sicrhau ein bod yn cynyddu\u2019r defnydd o\u2019n data i ddadansoddi them\u00e2u adroddiadau diogelu er mwyn datblygu ymateb ac ymyrraeth fwy cadarn.<\/li>\n<\/ul>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Dull partneriaeth i gomisiynu Rydym wedi gweithio\u2019n agos gyda\u2019n darparwyr gofal cartref i newid y ffordd yr ydym yn comisiynu a darparu gwasanaethau i bobl h\u0177n. Rydym yn hyrwyddo dull mwy cydlynol sy\u2019n seiliedig ar ganlyniadau, gan ganolbwyntio ar y pethau mae pobl yn gallu eu gwneud, yn hytrach na\u2019r pethau nad ydynt yn gallu [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":5,"featured_media":0,"parent":3670,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"_seopress_titles_title":"","_seopress_titles_desc":"","_seopress_robots_index":"","_seopress_robots_follow":"","_seopress_robots_imageindex":"","_seopress_robots_snippet":"","_seopress_robots_primary_cat":"","_seopress_robots_breadcrumbs":"","_seopress_robots_freeze_modified_date":"","_seopress_robots_custom_modified_date":"","_seopress_robots_canonical":"","_seopress_social_fb_title":"","_seopress_social_fb_desc":"","_seopress_social_fb_img":"","_seopress_social_fb_img_attachment_id":0,"_seopress_social_fb_img_width":0,"_seopress_social_fb_img_height":0,"_seopress_social_twitter_title":"","_seopress_social_twitter_desc":"","_seopress_social_twitter_img":"","_seopress_social_twitter_img_attachment_id":0,"_seopress_social_twitter_img_width":0,"_seopress_social_twitter_img_height":0,"_seopress_redirections_value":"","_seopress_redirections_enabled":"","_seopress_redirections_enabled_regex":"","_seopress_redirections_logged_status":"","_seopress_redirections_param":"","_seopress_redirections_type":0,"_seopress_analysis_target_kw":"","_genesis_hide_title":false,"_genesis_hide_breadcrumbs":false,"_genesis_hide_singular_image":false,"_genesis_hide_footer_widgets":false,"_genesis_custom_body_class":"","_genesis_custom_post_class":"","_genesis_layout":"","footnotes":""},"class_list":{"0":"post-3791","1":"page","2":"type-page","3":"status-publish","5":"entry"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/3791","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/5"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=3791"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/3791\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":3792,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/3791\/revisions\/3792"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/3670"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=3791"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}