{"id":3787,"date":"2024-09-12T09:27:59","date_gmt":"2024-09-12T08:27:59","guid":{"rendered":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/adroddiad-2022-23-2\/asesu-perfformiad\/"},"modified":"2024-09-12T09:28:03","modified_gmt":"2024-09-12T08:28:03","slug":"asesu-perfformiad","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/adroddiad-2023-24\/asesu-perfformiad\/","title":{"rendered":"Asesu Perfformiad"},"content":{"rendered":"\n<p>Mae\u2019r adran hon yn adrodd yn erbyn y pedwar prif faes yn y Fframwaith Gwella Perfformiad: Pobl, Atal, Partneriaeth ac Integreiddio a Lles.  Bydd pob adran yn cynnwys sylwebaeth sydd \u00e2\u2019r nod o ateb pedwar cwestiwn hunanasesu. &#13;\n&#13;\n<\/p>\n\n<p>Mae\u2019r hunanasesiad yn asesiad drwy werthuso, gan ddefnyddio amrywiaeth o ffynonellau tystiolaeth fel data perfformiad, ymchwil ac arolygon. <\/p>\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-alpha-channel-opacity is-style-dots\"\/>\n\n<h1 class=\"wp-block-heading\">Pobl<\/h1>\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Mae pob unigolyn yn bartner cyfartal gyda llais, dewis a rheolaeth dros eu bywydau ac maent yn gallu cyflawni&#8217;r hyn sy\u2019n bwysig iddyn nhw.<\/li>\n\n\n\n<li>Mae arweinyddiaeth effeithiol yn amlwg ar bob lefel gyda gweithlu medrus, cymwys, sy\u2019n cael cefnogaeth ac sy\u2019n gweithio tuag at weledigaeth a rennir.<\/li>\n<\/ul>\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-alpha-channel-opacity\"\/>\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Cynyddu ein cynnig i bobl awtistig a niwrowahanol<\/h2>\n\n<p>Yn ein hadroddiad y llynedd fe ddywedom<\/p>\n\n<p>wrthych ein bod yn recriwtio Swyddog Arweiniol Awtistiaeth ar gyfer Conwy a Sir Ddinbych. Mae Jeni Andrews bellach yn y swydd ac mae hi wedi bod yn canolbwyntio ar:<\/p>\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Datblygu a chydlynu cynlluniau gweithredu Cod Ymarfer Cyflwr y Sbectrwm Awtistiaeth (ASC) sydd wedi\u2019u gwerthuso\u2019n annibynnol; gwelwyd fod Conwy\u2019n gwneud cynnydd da.<\/li>\n\n\n\n<li>Gwella\u2019r wybodaeth sydd ar gael i\u2019r cyhoedd am awtistiaeth drwy greu <a href=\"https:\/\/www.conwy.gov.uk\/cy\/Resident\/Social-Care-and-Wellbeing\/Autism.aspx\">gwe-dudalen bwrpasol<\/a> mewn cydweithrediad \u00e2 phobl awtistig yn unol \u00e2\u2019r dyletswyddau o dan y Cod Ymarfer. Yn ychwanegol, mae cyfeiriadur lleol o weithgareddau a phrosiectau cysylltiedig ag awtistiaeth.<\/li>\n\n\n\n<li>Ail-sefydlu cyfarfodydd rheolaidd o\u2019r gr\u0175p budd-ddeiliaid ASC amlasiantaeth sy\u2019n cael ei gadeirio gan riant ofalwr.<\/li>\n\n\n\n<li>Datblygu gwasanaethau i gefnogi pobl niwrowahanol drwy gais lwyddiannus am gyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer ymchwil penodol i niwrowahaniaeth ac ar gyfer swyddi a hyfforddiant.<\/li>\n\n\n\n<li>Datblygu prosiectau a gweithgareddau yn ymwneud yn benodol ag awtistiaeth yn yr ardal leol, yn cynnwys ailsefydlu proses ar gyfer cyllido.<\/li>\n<\/ul>\n\n<p>Fe ddywedom wrthych hefyd bod y T\u00eem Awtistiaeth Cenedlaethol wedi lansio dau fodiwl hyfforddi: Deall Awtistiaeth a Deall Cyfathrebu Effeithiol ac Awtistiaeth. Mae\u2019r modiwlau ar gael ar blatfform e-ddysgu\u2019r Awdurdod Lleol ac er nad ydynt yn orfodol maent wedi cael eu hyrwyddo drwy amrywiol sianelau i annog staff mewnol a darparwyr allanol i fewngofnodi a chynyddu eu gwybodaeth a\u2019u dealltwriaeth. Hyd yma mae 94 aelod o staff Conwy wedi dilyn y modiwlau a byddwn yn parhau i\u2019w hyrwyddo a\u2019u hymwreiddio yn ein timau.<\/p>\n\n<p>Mae gr\u0175p tasg a gorffen datblygu\u2019r gweithlu sy\u2019n ymwneud yn benodol ag awtistiaeth wedi\u2019i ddatblygu ar draws Conwy a Sir Ddinbych i helpu i wneud cynnydd gyda\u2019r dyletswyddau o dan y Cod Ymarfer awtistiaeth. Mae wedi dynodi\u2019r amrywiaeth o hyfforddiant awtistiaeth sydd wedi\u2019u cynnig hyd yma a nifer y staff sydd wedi\u2019u hyfforddi; bydd y gr\u0175p yn canolbwyntio ar ddadansoddiad o anghenion hyfforddiant awtistiaeth.<\/p>\n\n<p>Rydym wedi comisiynu hyfforddiant prosesu synhwyraidd, yn cynnwys y Profiad Realiti Awtistiaeth, a hyfforddiant integreiddio synhwyraidd sydd wedi\u2019i anelu at Therapyddion Galwedigaethol. Mae dros 150 o bobl wedi manteisio ar y Profiad Realiti Awtistiaeth yn ystod y cyfnod adrodd hwn, yn cynnwys staff timau CBSC a MIND Conwy, a rhieni sydd \u00e2 chysylltiadau \u00e2\u2019r pum Canolfan Teuluoedd. Mae cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru\u2019n cael ei ddefnyddio i gaffael amrywiaeth o hyfforddiant Niwrowahaniaeth uwch i staff a theuluoedd; mae hyn yn cael ei gydlynu mewn partneriaeth \u00e2 sefydliadau trydydd sector lleol.<\/p>\n\n<h3 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color has-link-color wp-elements-5f36a5532e72fab0da83cf426e507877\">Sut y gallwn wella<\/h3>\n\n<p>Byddwn yn parhau i yrru gwelliannau a datblygiadau yn eu blaen i godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o awtistiaeth a niwrowahaniaeth yng Nghonwy. Byddwn yn ystyried gwneud y modiwlau hyfforddiant yn orfodol, fel y maent mewn Awdurdodau Lleol eraill, ac yn mynd i\u2019r afael \u00e2\u2019r bylchau mewn sgiliau a gwybodaeth o ganlyniad i gymhlethdodau cynyddol cysylltiedig ag unigolion niwrowahanol.<\/p>\n\n<p>Gwyddom fod oedi mewn asesiadau diagnostig yn achosi rhwystredigaeth i bobl awtistig a\u2019u teuluoedd, yn aml nid ydynt yn sicr o le na sut i gael cymorth cyn-diagnosis. Rydym yn gobeithio y bydd ein cyfres o weithgareddau wedi\u2019u cynllunio\u2019n dechrau chwalu\u2019r rhwystrau sy\u2019n atal pobl awtistig a niwrowahanol rhag cael y gefnogaeth briodol, yn cynnwys:<\/p>\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Hyrwyddo e-ddysgu ymhellach i staff mewnol ac allanol.<\/li>\n\n\n\n<li>Dadansoddiad o anghenion hyfforddiant awtistiaeth i hysbysu blaenoriaethau<\/li>\n\n\n\n<li>Sesiynau ymwybyddiaeth o awtistiaeth mewn digwyddiadau cyflogaeth i ddod, ynghyd \u00e2 digwyddiad cyflogaeth niwrowahanol penodol posibl.<\/li>\n\n\n\n<li>Gwell gwybodaeth, cyngor a chymorth gyda diagnosis a chysylltiadau gwell \u00e2 gwasanaethau diagnostig.<\/li>\n\n\n\n<li>Prosiectau penodol i awtistiaeth sy\u2019n cefnogi pobl cyn diagnosis.<\/li>\n<\/ul>\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-alpha-channel-opacity\"\/>\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Ailstrwythuro ein Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid<\/h2>\n\n<p>Y llynedd fe ddywedom wrthych y byddem yn adolygu\u2019r strwythur staffio yng Ngwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Conwy er mwyn darparu gwell gwasanaeth a sicrhau cydymffurfiaeth \u00e2 chanllawiau statudol ac egwyddorion arfer gorau. Rydym wedi dechrau adolygu ac ailstrwythuro rolau a chyfrifoldebau staffio a fydd yn arwain at adnoddau digonol i sicrhau trosolwg, cyngor, cymorth ac arweiniad proffesiynol. <\/p>\n\n<h3 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color has-link-color wp-elements-5f36a5532e72fab0da83cf426e507877\">Sut y gallwn wella<\/h3>\n\n<p>Mae trefniadau staffio dros dro wedi bod yn eu lle ers bron i ddwy flynedd ac nid ydynt yn gynaliadwy bellach. Yn dilyn adborth o broses arolygu ar y cyd ddiweddar rhwng Gwasanaeth Cyfiawnder yr Ifanc ac Arolygiaeth Carchardai Ei Fawrhydi, gan ystyried hefyd les cydweithwyr a recriwtio a dal gafael ar staff, roedd angen brys am strwythur rheoli parhaol i gynyddu capasiti. Yn ogystal \u00e2 chefnogi gwell gwasanaeth, bydd y strwythur newydd yn cynyddu ein gallu i gyflawni blaenoriaethau sefydliadol a phartneriaeth allweddol, yn erbyn y gwelliannau sydd wedi\u2019u hamlygu yn yr arolwg. <\/p>\n\n<p>Mae arnom angen strwythur rheoli cadarn sy\u2019n edrych tua\u2019r dyfodol i\u2019n cefnogi drwy greu rolau ymarferwyr arbenigol arweiniol i ddarparu ein cynllun gweithredu ac i gyflawni\u2019r gwaith sy\u2019n angenrheidiol i wella dull o weithredu drwy bartneriaeth yn ein gwasanaeth.<\/p>\n\n<p>Un o amcanion ein t\u00eem rheoli ar gyfer y dyfodol yw gallu darparu cymorth rheoli a throsolwg rhagorol i staff y gwasanaeth a\u2019r bartneriaeth ehangach, yn ogystal a darparu data cyfredol a dadansoddiad o berfformiad ac angen. Byddwn yn ceisio creu systemau sy\u2019n cynhyrchu data ar yr adeg iawn i\u2019r bobl iawn ac yn edrych ar sut y gall yr agenda digidol ddylanwadu ar rannu gwybodaeth, gan helpu i gefnogi\u2019r gwasanaeth, y bwrdd rheoli a\u2019r bartneriaeth ehangach.<\/p>\n\n<h3 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color has-link-color wp-elements-cc7d96394918249b24582416714eac97\">Ein cynllun gweithredu<\/h3>\n\n<p>Drwy sefydlu strwythur rheoli newydd, gwell a chyflwyno r\u00f4l Rheoli Gwybodaeth i\u2019r gwasanaeth, byddwn yn creu mwy o ddealltwriaeth ac ymwybyddiaeth gan gefnogi\u2019r bwrdd rheoli a staff i ddatblygu prosesau mwy effeithiol a syml. Fel rhan o\u2019n rhaglen ailstrwythuro dau gam byddwn yn:<\/p>\n\n<ol class=\"wp-block-list\">\n<li>Cefnogi trosolwg rheolwyr drwy alluogi datblygiad rolau Rheolwr Gweithredol pwrpasol, i arwain ar atal, ymyrraeth statudol drwy orchymyn llys, a gwaith partneriaeth ehangach. yn ogystal \u00e2 manteision y r\u00f4l Rheoli Gwybodaeth, i gefnogi ein blaenoriaethau sefydliadol.<\/li>\n\n\n\n<li>Byddwn yn alinio ymarfer \u00e2 chread rolau ymarfer arbenigol, i arwain ar them\u00e2u fel rhianta, ymddygiad rhywiol niweidiol a chamfanteisio rhywiol a throseddol, gyda chysylltiad agos \u00e2 meysydd ymarfer perthnasol i ymyrraeth gynnar, atal, ymyrraeth y tu allan i\u2019r llys a statudol.<\/li>\n<\/ol>\n\n<p>Mae cam un yr ailstrwythuro wedi dechrau. Cytunodd y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid  \u00e2\u2019r cynigion i ailstrwythuro\u2019r trefniadau rheoli yn ei gyfarfod ar Ebrill 2024, ac mae hyn yn mynd drwy ein prosesau adnoddau dynol. Unwaith y bydd cam un wedi\u2019i gwblhau a\u2019r rheolwyr yn eu lle, bydd cam dau yn cynnwys alinio ac adolygu\u2019r rolau staff presennol i hwyluso cread y rolau arweiniol i fynd i\u2019r afael ag amrywiaeth o them\u00e2u.<\/p>\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-alpha-channel-opacity\"\/>\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Cofnodi \u2018Llais y Plentyn\u2019<\/h2>\n\n<p>Mae Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Conwy a Sir Ddinbych yn casglu adborth gan blant mewn amrywiaeth o wahanol ffyrdd, gan gynnwys:<\/p>\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Holiaduron hunanasesu sy\u2019n cael eu cwblhau gan y plentyn ac ar wah\u00e2n gan eu rhiant, gofalwr neu warcheidwad ar ddechrau, wrth adolygu ac ar ddiwedd gorchmynion, sy\u2019n cael eu defnyddio i gasglu data i helpu i hysbysu asesiad ac i ddatblygu cynllun ymyrryd sy\u2019n cael ei greu gyda\u2019r plentyn.<\/li>\n\n\n\n<li>Arolygon Mind of My Own i gasglu adborth cyffredinol gan y plentyn ar ansawdd y gwasanaethau maen nhw\u2019n eu cael gennym ni, yn cynnwys amseroldeb, lleoliad y ddarpariaeth ac a wnaeth y gwasanaethau wahaniaethi ddyn nhw.<\/li>\n\n\n\n<li>Cynnwys plant mewn cynhyrchu gwybodaeth a thaflenni dwyieithog ar gyfer plant a phobl ifanc sy\u2019n defnyddio\u2019r gwasanaeth gan ddefnyddio iaith sy\u2019n addas ar gyfer plant.<\/li>\n\n\n\n<li>Gweithio gyda Chomisiynydd Plant Cymru i sicrhau ein bod yn cydymffurfio\u2019n llwyr \u00e2 deddfwriaeth ac egwyddorion arfer gorau; byddwn yn dynodi hyrwyddwr hawliau plant o fewn y gwasanaeth i fentora staff ac arwain ar ddatblygu a gwella cyfranogiad.<\/li>\n\n\n\n<li>Cynnwys plant a phobl ifanc yn y broses o recriwtio a dethol staff a gwirfoddolwyr y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid.<\/li>\n<\/ul>\n\n<h3 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color has-link-color wp-elements-5f36a5532e72fab0da83cf426e507877\">Sut y gallwn wella<\/h3>\n\n<p>Rydym yn cydnabod bod arnom angen gwella cysondeb adborth gan blant a\u2019r defnydd ohono i wella darpariaeth gwasanaeth ac i roi gwybodaeth reolaidd i staff a\u2019r Bwrdd Rheoli Strategol. Er mwyn symud pethau yn eu blaen, rydym yn awyddus i ddatblygu a sefydlu prosesau adborth gwell am mwy ymatebol er mwyn hwyluso a deall, o safbwynt pobl ifanc, beth y gellid ei wneud i wella eu profiad.  Rydym yn awyddus i adolygu\u2019r prosesau canmol a chwyno ar gyfer plant a phobl ifanc i sicrhau bod un o Reolwyr y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid yn ymateb i\u2019r holl faterion a godir, er mwyn hwyluso a datblygu dysgu a hyrwyddo datblygiad parhaus. Ein nod yw sicrhau ein bod yn cydgasglu adborth ac yn adrodd i Fwrdd Rheoli Lleol y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid yn flynyddol. <\/p>\n\n<h3 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color has-link-color wp-elements-cc7d96394918249b24582416714eac97\">Ein cynllun gweithredu<\/h3>\n\n<p>Yr ydym wedi sefydlu gweithgor bach i wella strwythurau a phrosesau rhoi adborth am y gwasanaeth, ac yn gwneud cynnydd cyson. Cytunwyd ar Strategaeth Gyfranogi ac Ymgysylltu newydd a\u2019i chyflwyno i\u2019r Bwrdd Rheoli, ac rydym ar hyn o bryd yn ymwreiddio egwyddorion y Strategaeth ym mhob agwedd o ymgysylltiad y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid gyda phlant a phobl ifanc. Mae ein nod o ddynodi Cefnogwr Hawliau Plant wedi\u2019i oedi o ganlyniad i drefniadau rheoli dros dro a\u2019r diffyg capasiti staffio o fewn y gwasanaeth yn sgil hynny. <\/p>\n\n<p>Er gwaethaf hyn rydym wedi ceisio ymgysylltu \u00e2 phlant a phobl ifanc eleni wrth ddatblygu\u2019r Cynllun Cyfiawnder Ieuenctid. Yn dilyn trafodaeth gyda\u2019r rhai hynny sy\u2019n agored i\u2019r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid, cytunwyd ar restr o feysydd i ganolbwyntio arnynt, a chynhaliwyd arolwg  ymysg plant a phobl ifanc er mwyn cael eu safbwyntiau am y prif flaenoriaethau. Defnyddiwyd eu safbwyntiau i siapio\u2019r Cynllun Cyfiawnder Ieuenctid a blaenoriaethau ar gyfer y t\u00eem am y flwyddyn i ddod.<\/p>\n\n<p>Mae gennym hefyd enghreifftiau pellach o adborth yn cael ei ddarparu i\u2019r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid gyda\u00a0 hynny wedi arwain at newid neu ddatblygiad. Drwy amrywiaeth o ddulliau ymgysylltu dywedodd pobl ifanc eu bod eisiau cymorth ychwanegol gyda gweithgareddau cadarnhaol oherwydd yn aml iawn nid ydynt yn teimlo\u2019n gyfforddus yn mynd i ddarpariaeth mynediad agored. Mewn ymateb sefydlodd y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid raglen o weithgareddau yn ystod gwyliau\u2019r ysgol a thros yr haf i ymgysylltu \u00e2, a chefnogi plant i gymryd rhan mewn gweithgareddau hamdden, roedd hyn hefyd yn cynnwys rhywfaint o ddarpariaeth yn ystod yr wythnos. Nodwyd angen clir am y gefnogaeth hon, ac rydym ar hyn o bryd wrthi\u2019n trafod gyda\u2019r Gwasanaeth Ieuenctid yr angen am Weithiwr Ieuenctid penodol yn y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid i arwain a chefnogi pobl ifanc i gael mynediad at weithgareddau cadarnhaol.<\/p>\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-alpha-channel-opacity\"\/>\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Defnyddio\u2019r ap Mind of My Own<\/h2>\n\n<p>Mae Mind of My Own yn system ar y we\/ap sy\u2019n cynnig ffordd ychwanegol i blant a phobl ifanc ymgysylltu \u00e2\u2019r gweithwyr yn eu bywydau a rhannu\u2019r hyn sy\u2019n bwysig iddyn nhw. Yn strategol rydym wedi bod yn defnyddio Mind of My Own (MOMO) i wella\u2019r broses adolygu ar gyfer plant sy\u2019n byw gyda gofalwr maeth, er ei fod hefyd yn cael ei ddefnyddio mewn ffyrdd cadarnhaol eraill ar draws y  gwasanaethau plant.<\/p>\n\n<p>Yr hyn sy\u2019n hanfodol bwysig wrth sicrhau ymgysylltiad effeithiol gyda\u2019r amrediad ehangaf bosib o bobl ifanc yw hyblygrwydd, a gwneud hynny yn y ffordd sydd orau ganddyn nhw. Rydym hefyd eisiau cynnig y dulliau diweddaraf o gyfathrebu, ac mae MOMO yn un ohonyn nhw.<\/p>\n\n<p>Roedd adborth gan bobl ifanc a fynychodd gr\u0175p ymgynghori yn 2023 yn awgrymu nad yw\u2019r rhan fwyaf eisiau adolygiadau wyneb yn wyneb felly mae platfform fel MOMO yn ffordd ddelfrydol iddyn nhw rannu eu safbwyntiau.<\/p>\n\n<p>Defnyddir yr ap yn fwyaf aml ar gyfer paratoi ar gyfer cyfarfod\/adolygiad, yna adolygiadau gan ofalwyr maeth, datrys problemau cyffredinol (lle gall unigolyn ifanc rannu unrhyw beth sy\u2019n peri pryder gyda\u2019u gweithiwr a gofyn am help), yn ogystal \u00e2 datganiadau \u2018dyma fi\u2019 a \u2018fy lles\u2019 sy\u2019n rhoi ciplun a mewnwelediad defnyddiol i fywyd yr unigolyn ifanc. Mae\u2019r rhain yn ddefnyddiol ar gyfer hysbysu prosesau asesu ac adolygu parhaus.<\/p>\n\n<p>Mae\u2019r ap wedi bod yn ennill ei blwyf yn ara\u2019 deg gyda 95 o bobl ifanc a 163 o\u2019n gweithwyr wedi creu cyfrif iddyn nhw eu hunain.<\/p>\n\n<p>Mae cyfleoedd i gefnogi plant a phobl ifanc a\u2019u rhieni\/gofalwyr wedi digwydd yn y sesiynau Lleisiau Uchel rheolaidd, sydd wedi cynnwys gwahoddiad estynedig i deuluoedd plant ag anableddau. Caiff gofalwyr maeth hefyd eu cefnogi i ddod yn fwy cyfarwydd \u00e2\u2019r ap drwy foreau coffi gofalwyr maeth rheolaidd.&#13;\nMae tudalen Mind of My Own ar y fewnrwyd ac erthygl ar y wefan \u2018Camau Bach, Dyfodol Disglair\u2019 sy\u2019n hyrwyddo\u2019r ap. Cynhelir cyfarfodydd gweithredol misol gyda chynrychiolwyr o dimau allweddol (yn cynnwys cynrychiolydd gofalwyr maeth) i rannu datblygiadau, adborth i\/gan dimau, a mentrau i hyrwyddo\u2019r ap ar draws y gwasanaeth. Cynhyrchir ffeithlun misol a\u2019i rannu drwy gyfarfodydd t\u00eem i amlygu defnydd a\u2019r gweithwyr hynny sydd wedi gwneud y defnydd mwyaf ohono. Mae Mind of My Owen yn eitem sefydlog ar raglen cyfarfodydd pob t\u00eem.&#13;\n<\/p>\n\n<h3 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color has-link-color wp-elements-b9497805ab7ba44b454fd1f2e810462f\"><strong>Cynnydd yn erbyn blaenoriaethau\u2019r llynedd<\/strong><\/h3>\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Mae sesiynau hyfforddi wedi\u2019u cynnal ar gyfer staff.<\/li>\n\n\n\n<li>Bydd y T\u00eem Maethu\u2019n datblygu eu blychau croeso ar gyfer plant sy\u2019n dod i ofal pan fydd y Swyddog Recriwtio newydd wedi\u2019i benodi.<\/li>\n\n\n\n<li>Mae cysylltiadau wedi\u2019u gwneud gyda\u2019r gr\u0175p gofalwyr maeth.<\/li>\n\n\n\n<li>Mae\u2019r canolfannau teuluoedd wedi datblygu strategaeth ymgynghori sydd yn awr yn cynnwys Mind of My Own fel teclyn i helpu i gael mewnwelediad i bersbectifau\u2019r plant.<\/li>\n<\/ul>\n\n<h3 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color has-link-color wp-elements-e4cbf18973eb4fd2ea2a0a49ce3fea7b\"><strong>Sut y gallwn wella<\/strong><\/h3>\n\n<p>Er gwaethaf y defnydd cadarnhaol o Mind of My Owen, mae teimlad y gallai mwy o staff wneud defnydd ohono gyda\u2019r plant a\u2019r bobl ifanc maen nhw\u2019n gweithio \u00e2 nhw. Mae\u2019n rhaid cydnabod fodd bynnag mai dim ond un teclyn yn y pecyn cymorth ehangach yw Mind of My Own a bod ymarferwyr yn ymgysylltu \u00e2 phobl ifanc ar eu telerau eu hunain ac yn unol \u00e2\u2019u hoffterau nhw.<\/p>\n\n<h3 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color has-link-color wp-elements-b1811291ededc4b161d549020f2a8f36\"><strong>Ein cynllun gweithredu<\/strong><\/h3>\n\n<p>Bydd arolwg i geisio adborth staff am Mind of My Own yn rhoi mewnwelediad pellach i helpu i wneud y mwyaf o fanteision posibl yr ap. Mae\u2019r T\u00eem Teuluoedd Integredig Lleol yn gweithio ar draws Conwy a Sir Ddinbych ac yn helpu teuluoedd i reoli ymddygiad heriol plant a phobl ifanc hyd at 18 oed yn y cartref. Byddant yn dechau manteisio o ddefnyddio Mind of My Own yn fuan.<\/p>\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-alpha-channel-opacity\"\/>\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Sicrhau bod pobl ag anableddau dysgu yn cael llais<\/h2>\n\n<p>Mae Strategaeth Anableddau Dysgu Gogledd Cymru yn canolbwyntio ar anghenion pobl ag anableddau dysgu yn yr ardal a chafodd ei ddatblygu ar y cyd \u00e2\u2019r chwe chyngor a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Yn seiliedig ar yr hyn a ddywedodd pobl sy\u2019n bwysig iddyn nhw, cafodd gweledigaeth ei hamlinellu:<\/p>\n\n<div class=\"wp-block-buttons is-layout-flex wp-block-buttons-is-layout-flex\">\n<div class=\"wp-block-button\"><a class=\"wp-block-button__link wp-element-button\">Bydd gan bobl ag anableddau dysgu well ansawdd bywyd; byddant yn byw\u2019n lleol lle maent yn teimlo\u2019n \u201cddiogel ac yn iach\u201d, lle maent yn cael eu gwerthfawrogi a\u2019u cynnwys yn eu cymunedau ac yn gallu cael gafael ar gymorth personol effeithiol sy\u2019n hyrwyddo annibyniaeth, dewis a rheolaeth.<\/a><\/div>\n<\/div>\n\n<p><\/p>\n\n<p>Mae llais a rheolaeth unigolion dros gyflawni canlyniadau sy\u2019n eu helpu nhw i sicrhau eu lles eu hunain yn hanfodol bwysig ac yn ganolog i\u2019w gofal.  Yng Nghonwy rydym eisiau i\u2019r holl wasanaethau ar gyfer pobl ag anableddau dysgu helpu i wneud i hyn ddigwydd, ac fel rhan o\u2019r nod hon, ochr yn ochr \u00e2\u2019n partneriaid, rydym wedi comisiynu cymorth gan North Wales Flyers (gr\u0175p cyfranogiad Gogledd Cymru) o Cyswllt Conwy ar gyfer Anableddau Dysgu, Cyngor ac Eiriolaeth Gogledd Cymru a Phobl yn Gyntaf Cymru Gyfan. <\/p>\n\n<p>Mae\u2019r Ymgynghorydd Hunan-eiriolaeth Rhanbarthol yn hyrwyddo dealltwriaeth o hunan-eiriolaeth ar draws y rhanbarth gan annog unigolion ag anableddau dysgu i fod yn rhan o rwydwaith hunan-eiriolaeth Gogledd Cymru. Maen nhw\u2019n cefnogi\u2019r contract gyda\u2019r sefydliadau a restrir uchod i ddarparu The Flyers sydd wedi\u2019u comisiynu i sicrhau cyfranogiad ystyrlon ar gyfer pobl ag anableddau dysgu mewn materion sy\u2019n effeithio arnyn nhw. Mae\u2019r r\u00f4l hefyd yn darparu cymorth gwirioneddol angenrheidiol ar gyfer unigolion sydd \u00e2 diddordeb mewn dechrau, cymryd rhan yn a datblygu grwpiau hunan-eiriolaeth yng Nghonwy. Mae\u2019r contract The Flyers yn amlinellu\u2019r hyn maen nhw am i\u2019r contract ei wireddu a\u2019r hyn y bydd yn  galluogi\u2019r gr\u0175p i\u2019w wneud.<\/p>\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Rhoi mwy o lais i bobl ag anableddau dysgu yng Ngogledd Cymru a sicrhau bod rhywun yn gwrando arnynt a bod rhywbeth yn cael ei wneud ynghylch yr hyn maen nhw\u2019n ei ddweud. <\/li>\n\n\n\n<li>Rhoi lle i drafod materion lleol pwysig a chefnogi\u2019r naill a\u2019r llall. <\/li>\n\n\n\n<li>Gwneud yn si\u0175r fod pobl ag anableddau dysgu yn gwybod beth yw eu hawliau ac yn cael eu trin gyda pharch ac yn gyfartal. <\/li>\n\n\n\n<li>Dweud wrth y cynghorau, y Bwrdd Iechyd a sefydliadau eraill beth yr ydym ei eisiau ac ysgogi newid. <\/li>\n\n\n\n<li>Gweithio mewn partneriaeth gyda sefydliadau a phobl eraill ar draws Gogledd Cymru. <\/li>\n\n\n\n<li>Siarad am faterion fel cludiant, rhianta, byw&#8217;n annibynnol, newidiadau i fudd-daliadau a theimlo\u2019n ddiogel ac ymgyrchu i wella pethau drwy gysylltu \u00e2\u2019r bobl gywir. <\/li>\n\n\n\n<li>Datblygu\u2019r gr\u0175p fel ei fod yn ariannol ddiogel ac yn cael ei redeg yn dda.<\/li>\n<\/ul>\n\n<p>Mae\u2019r r\u00f4l wedi helpu i fynd i\u2019r afael \u00e2 than-gynrychioliad pobl ag anableddau dysgu yn rhanbarthol drwy helpu dinasyddion, a\u2019r bobl sy\u2019n eu cefnogi, i ddeall pwysigrwydd hunan-eiriolaeth, eu grymuso i gael eu lleisiau wedi\u2019u clywed, eu helpu nhw i leisio a mynegi eu pryderon, a darparu llwybr clir drwodd at y rhai hynny a fydd yn gallu eu cefnogi i fynd i\u2019r afael \u00e2\u2019r pryderon hynny. Yn \u00f4l y Cadeirydd:<\/p>\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Mae mwy o bobl yn dod i\u2019r gr\u0175p erbyn hyn ac mae\u2019r rhai sy\u2019n mynychu yn teimlo\u2019n fwy parod i siarad.<\/li>\n\n\n\n<li>Mae manteision i gynnal y gr\u0175p ar Zoom a wyneb yn wyneb.<\/li>\n\n\n\n<li>Caiff The Flyers eu cefnogi ymhellach drwy gynrychioliad yn yr ardaloedd sirol.<\/li>\n\n\n\n<li>Mae bod ag un cydlynydd cyffredinol yn helpu i gynnal cysondeb a pharhad.<\/li>\n\n\n\n<li>Yn ystod cyfarfodydd does dim rhaid i bobl siarad, nhw biau\u2019r dewis.<\/li>\n\n\n\n<li>Mae\u2019r cyfarfodydd wedi\u2019u trefnu\u2019n dda ac mae cynrychiolwyr wedi gallu siarad yn uniongyrchol gyda rheolwyr yr Awdurdod Lleol am y pynciau sy\u2019n bwysig iddyn nhw.<\/li>\n\n\n\n<li>Mae\u2019r gr\u0175p The Flyers bellach yn fwy strwythuredig o ran ei bwrpas ac mae hynny\u2019n rhaeadru i lawr i\u2019r grwpiau hunan-eiriolaeth yn y yr ardaloedd lleol.<\/li>\n\n\n\n<li>Mae The Flyers wedi gallu rhoi mewnbwn i sut y caiff cyllid Gogledd Cymru Gyda\u2019i Gilydd ei glustnodi.<\/li>\n<\/ul>\n\n<h3 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color has-link-color wp-elements-e4cbf18973eb4fd2ea2a0a49ce3fea7b\"><strong>Sut y gallwn wella<\/strong><\/h3>\n\n<p>Wynebwyd heriau yn ystod cyfnod y contract hwn, yn cynnwys ceisio sicrhau bod holl siroedd Gogledd Cymru wedi ymrwymo i\u2019r un graddau, paratoi aelodau\u2019r gr\u0175p ar gyfer y cyfarfod, trefnu cludiant i\u2019r cyfarfodydd, rheoli\u2019r gyllideb a marchnata\u2019r gr\u0175p, fel y gall timau staff a dinasyddion fel ei gilydd gael gwybod beth sydd ar gael, a beth y gallai eu helpu i\u2019w wireddu. Byddai The Flyers wrth eu bodd yn helpu i ddatblygu gwefan ond bydd angen mwy o arian a chefnogaeth i wneud i hynny ddigwydd.<\/p>\n\n<h3 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color has-link-color wp-elements-b1811291ededc4b161d549020f2a8f36\"><strong>Ein cynllun gweithredu<\/strong><\/h3>\n\n<p>I liniaru rhai o\u2019r heriau hyn rydym yn gobeithio sicrhau:<\/p>\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Cyllid parhaus i sicrhau parhad y prosiect a dechrau rhoi cyhoeddusrwydd ehangach iddo.<\/li>\n\n\n\n<li>Unigolyn cyswllt ym mhob sir i sicrhau llwybrau clir ar gyfer  rhannu gwybodaeth; byddai\u2019n rhaid i\u2019r unigolyn hwn fod yn rhywun brwdfrydig sy\u2019n deall pwrpas hunan-eiriolaeth a r\u00f4l The Flyers.<\/li>\n\n\n\n<li>Cynllun datblygu i amlinellu cyfeiriad The Flyers.<\/li>\n\n\n\n<li>Parhad a datblygiad y swydd Ymgynghorydd Hunan-eiriolaeth Rhanbarthol fel partner cwbl gyfartal yng nghydlyniad y gwasanaethau.<\/li>\n<\/ul>\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-alpha-channel-opacity\"\/>\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Bodloni anghenion llety pobl ddiamddiffyn<\/h2>\n\n<p>Mae\u2019r Gwasanaeth Pobl Ddiamddiffyn wedi amlinellu ei strategaeth llety i fodloni anghenion y defnyddwyr gwasanaeth.<\/p>\n\n<div class=\"wp-block-buttons is-layout-flex wp-block-buttons-is-layout-flex\">\n<div class=\"wp-block-button\"><a class=\"wp-block-button__link wp-element-button\">Ein huchelgais a\u2019n gweledigaeth ar gyfer pawb yw bod ganddynt gartref \u2018am byth\u2019 sydd yn fan sefydlog a diogel lle gellir rhoi sylw i faterion eraill. Bydd hyn yn cael ei alluogi drwy ddarparu cymorth amlapio sy\u2019n canolbwyntio ar yr unigolyn ac wedi\u2019i arwain gan anghenion gydag ymdriniaeth aml-broffesiynol\/asiantaeth wedi\u2019i gydlynu\u2019n effeithiol sy\u2019n darparu cynllun cydlynol o  gefnogaeth wedi\u2019i gynhyrchu ar y cyd \u00e2\u2019r unigolyn.<\/a><\/div>\n<\/div>\n\n<p><\/p>\n\n<p>Er mwyn gwireddu hyn mae\u2019n rhaid i ni ail-bwrpasu tai\u2019r prosiect sydd eisoes ar gael, sydd yn eiddo a rennir nad ydynt bellach yn addas ar gyfer anghenion y gwasanaeth.<\/p>\n\n<p>Rydym felly wedi gweithio gyda Chymdeithas Tai Gogledd Cymru a\u2019n Hadran Tai i roi un eiddo gwag yn \u00f4l fel y gellir ei ddefnyddio\u2019n fwy priodol ar gyfer teulu ag anghenion tai cyffredinol. Mae gwaith wedi\u2019i wneud gyda phreswylwyr i ganolbwyntio ar eu helpu i symud ymlaen, mae un mewn gofal preswyl oherwydd eu hanghenion iechyd corfforol ac mae un yn eu fflat eu hunain gyda chymorth ar y safle.<\/p>\n\n<h3 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color has-link-color wp-elements-e4cbf18973eb4fd2ea2a0a49ce3fea7b\"><strong>Sut y gallwn wella<\/strong><\/h3>\n\n<p>Rhaid cynyddu cydweithredu gyda landlordiaid cymdeithasol cofrestredig (RSL), ac o bosibl gyda darparwyr cartrefi gofal, i ddatblygu model newydd o lety \u2018symud ymlaen\u2019. Byddai angen iddo ddarparu\u2019r amgylcheddau diogel a fforddiadwy y bydd ar defnyddwyr gwasanaeth eu hangen i adeiladu bywydau annibynnol.<\/p>\n\n<h3 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color has-link-color wp-elements-b1811291ededc4b161d549020f2a8f36\"><strong>Ein cynllun gweithredu<\/strong><\/h3>\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Cwblhau trosglwyddiad un prosiect tai arall a symud y ddau breswylydd i lety mwy priodol.<\/li>\n\n\n\n<li>Parhau \u00e2\u2019r broses o adolygu Grant Cymorth Tai.<\/li>\n\n\n\n<li>Datblygu a rhannu ein bwriad o ran comisiynu gyda Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig a dod o hyd i atebion cydweithredol ac arloesol.<\/li>\n<\/ul>\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-alpha-channel-opacity\"\/>\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Datblygu llwybr lles meddyliol gyda\u2019r Bwrdd Iechyd<\/h2>\n\n<p>Ffurfiwyd y T\u00eem Lles Meddyliol yn ystod y pandemig Covid-19 yn 2020. Ers hynny rydym wedi bod yn gweithio i sefydlu t\u00eem cryf gyda phrosesau cadarn i fodloni anghenion ein defnyddwyr gwasanaeth ac i reoli\u2019r galw sy\u2019n tyfu o hyd a chymhlethdod cynyddol cyflyrau iechyd meddwl. Mae\u2019n amlwg iawn bod cynnydd mewn achosion o gelcio a hunanesgeulustod, sydd, mae\u2019n ymddangos, wedi digwydd o ganlyniad uniongyrchol i\u2019r pandemig.<\/p>\n\n<p>Mae\u2019r t\u00eem yn cefnogi 225 o bobl yn uniongyrchol ynghyd \u00e2 310 sy\u2019n cael adolygiad statudol a\/neu gefnogaeth o ganlyniad i\u2019r cynnydd yn y niferoedd sydd wedi\u2019u dal o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl. Mae hyn yn golygu bod ganddynt hawl i \u00f4l-ofal o dan Adran 117, sydd yn gofyn eu bod yn cael eu cadw dan adolygiad parhaus ac yn cael  cefnogaeth ariannol.<\/p>\n\n<p>I feithrin dull cryf o weithio mewn partneriaeth mae\u2019r t\u00eem yn cydweithio gydag Awdurdodau Lleol eraill fel y Gwasanaeth Pobl H\u0177n, Tai ac asiantaethau allanol e.e. gwasanaethau camddefnyddio sylweddau, Prawf, timau iechyd meddwl cymunedol a\u2019r trydydd sector.<\/p>\n\n<h3 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color has-link-color wp-elements-e4cbf18973eb4fd2ea2a0a49ce3fea7b\"><strong>Sut y gallwn wella<\/strong><\/h3>\n\n<p>Rydym eisiau datblygu llwybrau cyfathrebu cryf rhwng Gofal Cymdeithasol a chydweithwyr yn Nh\u00eem Iechyd Meddwl Cymunedol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, i sicrhau y gellir cael at y gwasanaeth cywir ar yr adeg iawn i\u2019r unigolyn e.e. ymateb meddygol neu ofal cymdeithasol. Mae angen ymdriniaeth ar y cyd o ran adolygu achosion 117 fel mater o arfer gorau, yn ogystal \u00e2 datblygu proses ar gyfer rhyddhau pobl o statws Adran 117 fel sy\u2019n briodol.<\/p>\n\n<p>Rydym eisiau datblygu gweledigaeth glir, o dan y teitl \u2018Y Nod Driphlyg\u2019 ar gyfer y Gwasanaeth Pobl Ddiamddiffyn, sy\u2019n cwmpasu\u2019r T\u00eem Lles Meddyliol. Bydd hyn yn ei dro yn arwain at sefydlu proses fesur effeithiol a synhwyrol i ddangos ein gwelliannau a\u2019n harfer da.<\/p>\n\n<p>Rydym eisiau datblygu mwy o gysylltiadau gyda\u2019r gymuned a\u2019r trydydd sector fel y gellir rhyddhau neu arallgyfeirio defnyddwyr o\u2019r gwasanaethau statudol.<\/p>\n\n<p>Rydym hefyd eisiau gweld gwelliant parhaus mewn prosesau gweithredol, megis y system ddyletswydd, a rheolaeth achosion Adran 117 a Gofal Iechyd Parhaus a ariennir ar y cyd.<\/p>\n\n<h3 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color has-link-color wp-elements-b1811291ededc4b161d549020f2a8f36\"><strong>Ein cynllun gweithredu<\/strong><\/h3>\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Rydym  yn sefydlu gweithgor gyda chydweithwyr BIPBC i sicrhau y datblygir llwybrau lleol er mwyn sicrhau parhad gofal, i gydnabod arbenigeddau proffesiynol a hwyluso trosglwyddiad esmwyth rhwng sefydliadau.<\/li>\n\n\n\n<li>Byddwn yn datblygu perthnasoedd gwaith agosach drwy gyfarfodydd ymgynghori wythnosol gyda\u2019r gwasanaethau plant, eto i sicrhau trosglwyddiad didrafferth o\u2019r gwasanaethau plant i\u2019r gwasanaethau oedolion.<\/li>\n\n\n\n<li>Rydym yn parhau i ddarparu ac esblygu sesiynau galw heibio i helpu staff Mind Conwy i fod yn rhagweithiol yn y broses atgyfeirio ac i gamu unigolion i lawr i ddarpariaeth trydydd sector.<\/li>\n<\/ul>\n\n<p>Byddwn yn parhau i ddatblygu a chywreinio cynllun gweithredu i ddiwallu\u2019r Nod Driphlyg, er enghraifft drwy gynnal yr arolwg boddhad defnyddwyr gwasanaeth eto, rhannu holiadur boddhad staff, casglu a defnyddio mwy o astudiaethau achos, a sicrhau bod data perfformiad yn dylanwadu ar berfformiad.<\/p>\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-alpha-channel-opacity\"\/>\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Yn \u00f4l at y Trefniadau Diogelu Wrth Amddifadu o Ryddid<\/h2>\n\n<p>Ym mis Ebrill 2023 cyhoeddwyd yn genedlaethol y byddai\u2019r Diogeliadau Amddiffyn Rhyddid (LPS) yn cael eu gohirio am gyfnod amhenodol (tu hwnt i oes y senedd hon). Er bod y mesurau\u2019n dal wedi\u2019u hysgrifennu yn Neddf Galluedd Meddyliol (diwygiad) 2019,  nid oes dyddiad ar gyfer eu rhoi ar waith. Fel awdurdodau lleol eraill mae Conwy wedi bod yn gweithio tuag at weithredu\u2019r model newydd hwn felly rydym wedi gorfod ail-ymgynnull, adolygu ac ail-addasu gwaith o dan fodel presennol y Trefniadau Diogelu Wrth Amddifadu o Ryddid.<\/p>\n\n<p>Mae egwyddorion yr LPS a\u2019r Ddeddf Galluedd Meddyliol ehangach yn parhau i fod yn berthnasol. I baratoi ar gyfer gweithrediad arfaethedig yr LPS roedd yn rhaid darparu hyfforddiant ac ymwreiddio athroniaeth ac egwyddorion y Ddeddf o fewn y t\u00eem DoLS\/LPS <em>ac<\/em> ar draws Gofal Cymdeithasol .Nid oedd yr amser a dreuliwyd ar yr LPS yn amser wedi\u2019i wastraffu.<\/p>\n\n<p>Byddai cyflwyniad yr LPS wedi dod \u00e2 phawb sydd angen awdurdodiad DoL o dan un broses gyffredin i\u2019w hawdurdodi\u2019n fewnol. Yn hytrach, rydym wedi gorfod mynd yn \u00f4l at y broses ddeuol flaenorol. Ar un llaw mae gennym y broses awdurdodi DoLS fewnol ar gyfer y rhai hynny sydd mewn cartrefi gofal. Ar y llaw arall mae gennym y broses o wneud cais i\u2019r llys ar gyfer pobl sydd mewn unrhyw leoliad arall (y broses DoL gymunedol). Mae rhestrau aros ar gyfer y ddau. <\/p>\n\n<h3 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color has-link-color wp-elements-e4cbf18973eb4fd2ea2a0a49ce3fea7b\"><strong>Sut y gallwn wella<\/strong><\/h3>\n\n<h4 class=\"wp-block-heading has-pale-cyan-blue-color has-text-color has-link-color wp-elements-4454a347d7d516b501ef4fd637e7eaff\"><strong>Lleihau Rhestrau Aros<\/strong><\/h4>\n\n<p>Bydd y t\u00eem DoLS yn parhau i flaenoriaethu\u2019r rhestr aros. Bob mis caiff cyfuniad o\u2019r atgyfeiriadau mwyaf brys a\u2019r rhai sydd wedi bod yn aros hiraf eu clustnodi. Mae\u2019r rhestr aros yn un dreigl gan na all atgyfeiriadau barhau am fwy na 12 mis ac wedi hynny rhaid eu hail-wneud yn gyfan gwbl. Dylid nodi hefyd bod gan y t\u00eem DoLS bob amser fwy o atgyfeiriadau\u2019n dod i mewn bob mis nag y gall eu cau. Ym mis Rhagfyr 2022 roedd 245 ar y rhestr aros. Ym mis Rhagfyr 2023 roedd 185 ar y rhestr aros.<\/p>\n\n<p>Er bod rhestr aros mae yna fodel gwasanaeth a phroses  wedi\u2019i diffinio\u2019n glir ar gyfer yr achosion hyn. Nid yw\u2019r broses ar gyfer achosion DoL cymunedol wedi\u2019i diffinio mor glir, a\u2019r disgwyliad oedd y byddai\u2019r LPS yn datrys hyn ac yn dod yn fodel ar gyfer awdurdodi.  Gan nad yw\u2019r LPS yn cael ei gyflwyno r\u0175an, mae angen gwneud penderfyniad yngl\u0177n \u00e2 sut orau i fynd i\u2019r afael ag achosion DoL Cymunedol.<\/p>\n\n<p>Mae darn o waith yn cael ei wneud ar hyn o bryd ar draws pob gwasanaeth i weld beth yw\u2019r sefyllfa o ran niferoedd achosion DoL Cymunedol a dod o hyd i atebion ymarferol. Un o\u2019r atebion posibl y gellid ei ystyried yw cyflwyno model tebyg i\u2019r LPS, gyda staff rheng flaen yn cwblhau\u2019r prif asesiadau ac Asesydd Lles Gorau Annibynnol yn darparu haen o graffu diduedd ar y gwaith cyn iddo gael ei anfon at y Llys Diogelu. Felly er nad yw LPS yn cael eu cyflwyno rydym yn dal i ddefnyddio\u2019r wybodaeth a gawsom i sicrhau ein bod yn dilyn arfer gorau. <\/p>\n\n<p>Er mwyn helpu i fynd i\u2019r afael \u00e2\u2019r \u00f4l groniad o achosion DoLS ac i helpu i edrych ar yr achosion DoL cymunedol, cyflwynwyd achos busnes ar gyfer pedwar Aseswr Lles Gorau ychwanegol a chyllid i ddarparu\u2019r asesiadau meddyg ychwanegol. Gobeithir y bydd canlyniad hyn yn hysbys yn gynnar yn 2024.<\/p>\n\n<h4 class=\"wp-block-heading has-pale-cyan-blue-color has-text-color has-link-color wp-elements-35b850077da3bb66314f9274843124c8\"><strong>Hyfforddiant a Datblygu<\/strong><\/h4>\n\n<p>Ganol 2023 sefydlwyd amserlen hyfforddi ar gyfer cartrefi gofal. Mae\u2019r t\u00eem DoLs yn awr yn rhoi hyfforddiant mewn parau i ddau gartref gofal y mis. Hyd yma mae sesiynau hyfforddi wedi\u2019u cyflwyno i ddeg cartref gofal a chafwyd adborth cadarnhaol. Y nod yw ennill gwybodaeth, rhoi gofal o safon, diogelu hawliau pobl a datblygu perthnasoedd cadarnhaol. <\/p>\n\n<p>Mae\u2019r sesiynau amser cinio hyn wedi\u2019u cyflwyno i reolwyr ac uwch ymarferwyr ar draws Gofal Cymdeithasol Oedolion. Mae sgwrs hefyd wedi\u2019i rhoi i Therapyddion Galwedigaethol (ThG) ar y Ddeddf Galluedd Meddyliol a materion ataliaeth perthnasol i DoL sy\u2019n ymwneud \u00e2 nhw. <\/p>\n\n<p>Rhoddir cefnogaeth reolaidd i staff gan dimau eraill sydd yn ymgymryd ag asesiadau galluedd cymhleth. Er enghraifft rhoddwyd cymorth mewn tri achos cymhleth yn yr wythnos ddiwethaf. <\/p>\n\n<p>Mae\u2019r t\u00eem DoLs yn parhau i ddatblygu ei sylfaen sgiliau a gwybodaeth ei hun. Mae hyfforddiant gloywi gwybodaeth o\u2019r gyfraith blynyddol yn ofyniad cyfreithiol i gynnal cymhwyster Aseswr Lles Gorau. Ers mis Ebrill 2023 mae pob aelod o staff wedi mynychu o leiaf ddau sesiwn diwrnod llawn yn ogystal a nifer o weminarau a sesiynau byrrach am ddim. Er mwyn ceisio cwrdd \u00e2 her achosion DoL cymunedol, mynychodd y t\u00eem hyfforddiant penodol ar hyn ym mis Ionawr 2024. <\/p>\n\n<p>Mae taflenni gwybodaeth wedi\u2019u eu datblygu i gefnogi gwaith y timau DoLS ac i hyrwyddo ymwybyddiaeth o hawliau. Maen nhw\u2019n berthnasol i\u2019r Diogeliadau Amddiffyn Rhyddid, Amddifadu o Ryddid Cymunedol a hefyd yr hawl i Gynrychiolydd Unigolyn Perthnasol (eiriolwr). Mae\u2019r rhain wedi\u2019u cynhyrchu\u2019n ddwyieithog a hefyd fel fersiwn hawdd ei ddarllen.<\/p>\n\n<p>Mae\u2019r t\u00eem DoLS wedi comisiynu gwaith gan Safonau Ansawdd (T\u00eem Monitro) i ymgymryd ag ymweliadau \u00e2 chartrefi gofal i archwilio achosion DoLS, cydymffurfiaeth cartrefi gofal a hefyd i ddynodi unrhyw faterion hyfforddiant neu weithredol perthnasol i DoLS. <\/p>\n\n<p>Mae\u2019r holl Aseswyr Lles Gorau ar y t\u00eem DoLs wedi ymgymryd \u00e2 hyfforddiant rheolaidd i sicrhau bod ymarfer a gwybodaeth yn gyfredol. Mae rhagor o hyfforddiant wedi\u2019i gynllunio ar gyfer 2024. <\/p>\n\n<h4 class=\"wp-block-heading has-pale-cyan-blue-color has-text-color has-link-color wp-elements-2f7720464f1968d5855ff9c9bc571dea\">Staffio<\/h4>\n\n<p>Ar \u00f4l cyfnod o newid pan ymddeolodd\/adawodd nifer o aelodau hirsefydlog y t\u00eem, mae\u2019r t\u00eem yn awr wedi\u2019i staffio\u2019n llawn. Mae tri asesydd llawn amser (un ohonynt ar secondiad drwy gyllid grant) ac un sy\u2019n gweithio bedwar diwrnod yr wythnos. Mae\u2019r t\u00eem hwn wedi\u2019i reoli gan gydlynydd llawn amser. <\/p>\n\n<p>Ar hyn o bryd mae gennym un asesydd sy\u2019n rhugl yn y Gymraeg. Rydym yn parhau i weithio\u2019n agos \u00e2 meddygon sydd wedi cyfrannu at bob asesiad. Mae gennym un meddyg sy\u2019n siarad Cymraeg y gallwn gyfeirio atynt yn gyson. Mae gennym berthynas gadarnhaol dros ben gyda\u2019n prif ddarparwr eiriolaeth (Gwasanaeth  Eiriolaeth Iechyd Meddwl Conwy a Sir Ddinbych) ac mae ganddynt siaradwyr Cymraeg ymysg eu niferoedd. Mae hyn yn golygu y gallwn gyflawni ein hymrwymiad i\u2019r Cynnig Gweithredol.<\/p>\n\n<h3 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color has-link-color wp-elements-b9124fbdb3692ee242c8ceabee13dd7f\"><strong>Sut i gael gwybod mwy<\/strong><\/h3>\n\n<p>Os hoffech wybod mwy am y trefniadau diogelu wrth amddifadu o ryddid ledled Cymru, mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) ac Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) wedi cyd-gyhoeddi adroddiad monitro ar y defnydd o DoLS yng Nghymru yn ystod 2022-23. Gallwch <a href=\"https:\/\/www.agic.org.uk\/adolygiad-ar-y-cyd-trefniadau-diogelu-wrth-amddifadu-o-ryddid-dols-wedii-gyhoeddi-0\">ddarllen yr adroddiad yma<\/a><\/p>\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-alpha-channel-opacity\"\/>\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Lledaenu Hyfforddiant Ymddygiad Cadarnhaol<\/h2>\n\n<p>Yn adroddiad y llynedd fe ddywedom wrthych am y cyllid sydd ar gael i rai o\u2019r staff Adnoddau Anabledd mewnol i ymgymryd \u00e2 chymhwyster BTEC achrededig Bae Abertawe mewn Cefnogi Ymddygiad Cadarnhaol (CYC). Cytunwyd ar beilot gyda staff allweddol o bob adran o\u2019r gwasanaeth yn naill ai ymgymryd \u00e2 Thystysgrif Uwch (Lefel 3), Diploma Uwch (Lefel 4) neu Ddiploma Proffesiynol Uwch (Lefel 5) ac yna roi\u2019r dysgu ar waith yn eu maes gwasanaeth.<\/p>\n\n<p>Barnwyd fod y peilot yn llwyddiannus ar draws y meysydd gwasanaeth, er enghraifft roedd ymddygiadau heriol wedi lleihau ac roedd unigolion wedi ennill sgiliau newydd i\u2019w galluogi i ddweud beth yw eu hanghenion. Fe wnaeth unigolion nad oeddent wedi cymryd rhan mewn fawr ddim gweithgareddau cyn hynny ddechrau coginio, defnyddio offer\/peiriannau yn y cartref yn ogystal a chymryd rhan mewn gweithgareddau hamdden a diwylliannol rheolaidd. Fe wnaeth adborth a gafwyd gan aelodau teuluoedd ategu effaith gadarnhaol yr ymdriniaeth hon:<\/p>\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p>Mae\u2019r staff yn wych! Rydym yn hapus iawn \u00e2\u2019r gwasanaeth. Roedd y cyfathrebu, y cynllunio a\u2019r addasiadau a wnaed yn rhagorol.<\/p>\n<\/blockquote>\n\n<p>Mae\u2019r dysgu o\u2019r peilot wedi ein galluogi i ddechrau lledaenu egwyddorion Cefnogi Ymddygiad Cadarnhaol (CYC) i\u2019r gwasanaeth ehangach. Ym Mron y Nant bu modd i staff allweddol roi mewnbwn i ddyluniad yr adeilad a fyddai\u2019n caniat\u00e1u i unigolion ag anghenion cymorth ymddygiad cymhleth gael mynediad at wasanaethau mewn amgylchedd sy\u2019n bodloni eu hanghenion, yn enwedig o ran prosesu synhwyraidd. Mae unigolion sy\u2019n defnyddio gwasanaethau bellach wedi trosglwyddo\u2019n llwyddiannus i\u2019r gwasanaeth dydd cynhwysol ar y safle.<\/p>\n\n<p>O ran recriwtio, rydym wedi symud at hysbysebion swyddi seiliedig ar werthoedd i ddenu ymgeiswyr gyda\u2019r gwerthoedd a\u2019r sgiliau trosglwyddadwy cywir i weithio gydag ymddygiadau sy\u2019n herio, yn hytrach na\u2019r rhai hynny sydd \u00e2 phrofiad uniongyrchol. Gwelwyd cynnydd mewn ceisiadau a chafwyd llwyddiant yn recriwtio, sydd yn ei dro wedi galluogi\u2019r gwasanaeth i gynnig mwy o wasanaethau i bobl ag anghenion cymhleth.<\/p>\n\n<p>Datblygiadau eraill:<\/p>\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Mae un aelod o staff wedi cwblhau eu cymhwyster Lefel 5 ac o ganlyniad i hynny fe wnaethant ymgymryd ag asesiad swyddogaethol llawn a chynllun CYC ar gyfer un person ag anghenion ymddygiad cymhleth, gan ei gyflwyno mewn sesiwn hyfforddi i\u2019r t\u00eem o staff sy\u2019n gweithio gyda\u2019r unigolyn hwnnw. Mae hyn wedi lleddfu\u2019r pwysau ar y gwasanaethau iechyd.<\/li>\n\n\n\n<li>Oherwydd bod ganddynt fwy o wybodaeth mae staff yn teimlo\u2019n fwy hyderus wrth gefnogi pobl ag ymddygiadau cymhleth gan gynnig mwy o weithgareddau a chyfleoedd yn y gymuned iddyn nhw.<\/li>\n\n\n\n<li>Gwahoddir yr holl ddarparwyr gofal yn y cartref allanol i fynychu\u2019r Fforwm Darparwyr Gofal yn y Cartref Byw \u00e2 Chymorth misol, ac mae\u2019r swyddog arweiniol CYC wedi mynychu\u2019r fforwm hwn fel siaradwr gwadd.<\/li>\n\n\n\n<li>Yn dilyn cyflwyniad Fframwaith Lleihau Arferion Cyfyngol Llywodraeth Cymru, mae hyfforddiant mewnol wedi\u2019i ddarparu i\u2019r holl staff Adnoddau Anabledd, ac o ganlyniad i\u2019w lwyddiant mae wedi\u2019i ledaenu i wasanaethau ehangach.<\/li>\n\n\n\n<li>Mae gofynion hyfforddi CYC yn cael eu mapio ar draws y Gwasanaethau Anabledd i gynyddu dealltwriaeth, lleihau sefyllfaoedd argyfyngus posibl a leddfu\u2019r pwysau ar y gwasanaethau Iechyd.<\/li>\n\n\n\n<li>Cynhaliwyd trafodaethau gyda Th\u00eem Trawsnewid Anabledd Gogledd Cymru Gyda\u2019n Gilydd i drafod ffynonellau o gyllid i alluogi staff i ennill cymwysterau a\u2019r posibilrwydd y gallai Conwy sefydlu Cymuned Ymarfer.<\/li>\n\n\n\n<li>Rydym yn edrych ar sut y gall CYC ffurfio rhan o\u2019r broses dendro wrth gomisiynu darparwyr gofal newydd lle bo hynny\u2019n briodol, gan ein galluogi  i ddewis y darparwr cywir ar gyfer ein prosiectau byw \u00e2 chymorth 24 awr.<\/li>\n\n\n\n<li>Mae staff cymwys wedi cofrestru \u00e2 Bwrdd Iechyd Bae Abertawe fel mentoriaid ar gyfer cydweithwyr yng Nghonwy sy\u2019n gweithio i ennill y cymhwyster CYC.<\/li>\n\n\n\n<li>Mae\u2019r swyddog CYC arweiniol yn mynychu Gwasanaeth Hyfforddiant Aroloesedd a ddarperir gan Gofal Cymdeithasol Cymru gyda\u2019r nod o ddatblygu syniadau i ymwreiddio a newid safbwyntiau diwylliannol o CYC ar draws y gwasanaethau anabledd mewnol ac allanol.<\/li>\n<\/ul>\n\n<h3 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color has-link-color wp-elements-b9497805ab7ba44b454fd1f2e810462f\"><strong>Cynnydd yn erbyn blaenoriaethau\u2019r llynedd<\/strong><\/h3>\n\n<p>O ran cyflawni\u2019r blaenoriaethau a ddynodwyd y llynedd, rydym wedi ymestyn y cymhwyster CYC i staff ac wedi codi ymwybyddiaeth o\u2019r cynllun ymysg aelodau teuluoedd. Byddwn yn parhau i leihau\u2019r angen am leoliadau tu allan i\u2019r sir ac yn dod \u00e2 phobl yn \u00f4l i Gonwy drwy ddatblygu llety sy\u2019n addas ar gyfer anghenion yr unigolyn. Fe welwch ragor o wybodaeth am ein strategaeth llety yn yr adroddiad hwn.<\/p>\n\n<h3 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color has-link-color wp-elements-e4cbf18973eb4fd2ea2a0a49ce3fea7b\"><strong>Sut y gallwn wella<\/strong><\/h3>\n\n<p>O safbwynt gwelliannau mae angen i ni ddarparu pecynnau hyfforddi CYC wedi\u2019u teilwra\u2019n arbennig ar gyfer teuluoedd yn hytrach na defnyddio dull \u2018mae un maint yn ffitio pawb\u2019. Mae\u2019n rhaid i ni hefyd weithio gyda darparwyr allanol i\u2019w hannog i ddefnyddio CYC a lleihau arferion cyfyngol; er gwaethaf ein gweithgaredd ymgysylltu mae\u2019r ymateb a gafwyd wedi bod yn gyfyngedig. Mae\u2019r amser sydd gennym i fentora cydweithwyr sy\u2019n gweithio tuag at eu cymhwyster CYC hefyd yn gyfyngedig oherwydd pwysau amser.<\/p>\n\n<h3 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color has-link-color wp-elements-b1811291ededc4b161d549020f2a8f36\"><strong>Ein cynllun gweithredu<\/strong><\/h3>\n\n<p>Mae ein cynllun gweithredu ar gyfer y cyfnod adrodd nesaf yn cynnwys:<\/p>\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Cyfarfod gwasanaethau iechyd i ddeall sut y gall CYC fod yn fenter ar y cyd.<\/li>\n\n\n\n<li>Sefydlu Cymuned Ymarfer Conwy gyda budd-ddeiliaid allweddol o dimau mewnol a darparwyr a sefydliadau allanol.<\/li>\n\n\n\n<li>Cynyddu nifer y staff \u00e2 chymwysterau CYC er mwyn iddynt allu mynd ymlaen i fentora eraill a lleihau\u2019r pwysau ar y rhai sydd eisoes yn fentoriaid.<\/li>\n\n\n\n<li>Staff allweddol yn cael eu hyfforddi i fod yn Hyfforddwyr er mwyn ymwreiddio newid mewn diwylliant.<\/li>\n\n\n\n<li>Datblygu arbenigedd mewnol o ran gweithio gydag ymddygiadau sy\u2019n herio drwy  Gynllunio sy\u2019n Canolbwyntio ar yr Unigolyn a Chymorth Gweithredol.<\/li>\n\n\n\n<li>Cyd-gynhyrchu pecynnau hyfforddi gyda theuluoedd.<\/li>\n<\/ul>\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-alpha-channel-opacity\"\/>\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Hyfforddiant Prosesu Synhwyraidd<\/h2>\n\n<p>Rydym wedi gweld nifer cynyddol o geisiadau am ymyrraeth ar gyfer plant a phobl ifanc \u00e2 heriau prosesu synhwyraidd. Yn y gorffennol Therapydd Galwedigaethol yn uned pediatreg y Bwrdd Iechyd Lleol fyddai wedi ymdrin \u00e2 hyn gan roi cyngor cadarn ar gynllunio gofal a dylunio\u2019r amgylchedd ac offer. Pan ddaeth y swydd hon yn wag ni chafodd ei llenwi ac mae hynny wedi gadael bwlch mewn gwybodaeth a gwasanaeth.<\/p>\n\n<h3 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color has-link-color wp-elements-e4cbf18973eb4fd2ea2a0a49ce3fea7b\"><strong>Sut y gallwn wella<\/strong><\/h3>\n\n<p>Oherwydd y galw ychwanegol  a\u2019r effaith mae hyn wedi\u2019i gael ar ein t\u00eem Therapi Galwedigaethol Anabledd ein hunain, roeddem yn bryderus nad oedd gan ein t\u00eem yr arbenigedd, y profiad na\u2019r hyfforddiant i bontio\u2019r bwlch ers i\u2019r swydd iechyd fynd yn wag. Cytunwyd felly y byddai hyfforddiant Prosesu Synhwyraidd yn cael ei gomisiynu ac y byddai pump o\u2019r Therapyddion Galwedigaethol yn mynd i sesiwn un diwrnod lle byddai\u2019r canlynol yn cael sylw:<\/p>\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Deall y systemau synhwyraidd a\u2019r hyn maen nhw\u2019n ei wneud.<\/li>\n\n\n\n<li>Deall beth sy\u2019n digwydd pan nad yw prosesu synhwyraidd yn gweithio fel y dylai a sut mae hyn yn dangos ei hun.<\/li>\n\n\n\n<li>Archwilio sut y gallwn gefnogi plant a phobl ifanc ag anawsterau prosesu synhwyraidd (APS).<\/li>\n\n\n\n<li>Archwilio\u2019r cysylltiadau rhwng ASP, trawma ac ADHD.<\/li>\n<\/ul>\n\n<p>Roedd adborth gan y rhai a fynychodd yn awgrymu bod yr hyfforddiant yn rhoi trosolwg cyffredinol o\u2019r pynciau perthnasol ond ar lefel sylfaenol iawn. Er ei fod yn fuddiol, nid oedd yn mynd yn agos at ddatblygu\u2019r mathau o sgiliau a gwybodaeth sydd eu hangen i gwblhau asesiadau ac ymyriadau arbenigol ar gyfer pobl ag anawsterau cymhleth oherwydd problemau prosesu synhwyraidd a fyddent yn flaenorol wedi cael eu darparu gan gan ddeiliad y r\u00f4l arbenigol yn BIPBC.<\/p>\n\n<h3 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color has-link-color wp-elements-b1811291ededc4b161d549020f2a8f36\"><strong>Ein cynllun gweithredu<\/strong><\/h3>\n\n<p>Mae Rheolwr Adain y t\u00eem yn ymwybodol o hyd o\u2019r bwlch yn y gwasanaeth ac wedi gofyn am fynegiannau o ddiddordeb gan ymarferwyr sydd \u00e2 diddordeb mewn datblygu eu sgiliau yn y maes hwn. Bydd angen trafodaethau ar pa fath o hyfforddiant a datblygiad fyddai\u2019n angenrheidiol a sut y byddai hyn yn cael ei hwyluso a\u2019i gomisiynu ar y camau cynharaf. Efallai y byddwn yn ei gweld yn fuddiol gweithio gyda chydweithwyr ThG yn y Gwasanaeth Pobl Ddiamddiffyn sydd hefyd yn debygol o dderbyn atgyfeiriadau ar gyfer pobl ag awtistiaeth ac anawsterau prosesu synhwyraidd.<\/p>\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-alpha-channel-opacity\"\/>\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Cyd-gynhyrchu gyda phobl sy\u2019n gadael gofal<\/h2>\n\n<p>Un o\u2019r egwyddorion allweddol ein T\u00eem o Ymgynghorwyr Personol yw y dylid cyd-gynhyrchu lle bynnag bosibl gyda\u2019r bobl ifanc yr ydym yn gweithio \u00e2 nhw er mwyn iddyn nhw allu dylanwadu ar y gwasanaeth maen nhw\u2019n ei gael.  Yn ddiweddar fe wnaethom greu gwefan wedi\u2019i dylunio\u2019n benodol, o\u2019r enw Camau Bach, Dyfodol Disglair i roi gwybodaeth berthnasol i bobl ifanc sy\u2019n gadael gofal yng Nghonwy. Er mwyn cael adborth ar y wefan fe wnaethom ddosbarthu arolwg.<\/p>\n\n<p>Roedd y canlyniadau\u2019n dangos bod 62% o\u2019r ymatebwyr yn defnyddio\u2019r wefan yn llai aml nag unwaith y mis, ac mae\u2019r mwyafrif yn ei defnyddio i gyflwyno ceisiadau am grant Dydd G\u0175yl Dewi sy\u2019n darparu cyllid ar gyfer pobl ifanc sy\u2019n gadael gofal. Fe wnaethom hefyd ofyn am sylwadau ar gynnwys a fformat y wefan a syniadau ar sut i wella. O\u2019r ymatebion a gafwyd, roedd yr adborth yn bennaf gadarnhaol.<\/p>\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p>Mae\u2019r categoriau hyn yn ddefnyddiol iawn i mi, mae\u2019r safle\u2019n wych fel mae o.<\/p>\n<\/blockquote>\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p>Dwi\u2019n eu gweld nhw\u2019n ddefnyddiol iawn i  fy helpu i ddod o hyd i\u2019r hyn dwi angen ac maen nhw wedi\u2019u trefnu\u2019n berffaith felly mae pawb yn gallu dod o hyd i beth maen nhw ei angen.<\/p>\n<\/blockquote>\n\n<p>Mewn ymateb i beth arall fydden nhw\u2019n hoffi ei weld ar y wefan fe wnaethant awgrymu:<\/p>\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p>Cyngor ar gyfer byw<\/p>\n<\/blockquote>\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p>Gallai\u2019r safle fod o help i bobl ifanc eraill pe bai gwybodaeth am sut i fyw yn eu cartref eu hunain e.e. defnyddio boeler, prisiau d\u0175r ac ynni a sut i dalu, sut i arbed arian ar filiau ynni.<\/p>\n<\/blockquote>\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p>Fforwm ar gyfer pobl ifanc sy\u2019n gadael gofal i ofyn am help er mwyn i bobl ifanc eraill yn yr un sefyllfa allu helpu? Fel cyfaill ar-lein sy\u2019n gwybod beth maen nhw\u2019n mynd drwyddo.<\/p>\n<\/blockquote>\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p>Rhifau cyswllt pwysig: Shelter Cymru, Tai Gogledd Cymru, elusen dyledion Step-Change, llinell genedlaethol atal hunanladdiad ac ati.<\/p>\n<\/blockquote>\n\n<figure class=\"wp-block-gallery has-nested-images columns-default is-cropped wp-block-gallery-1 is-layout-flex wp-block-gallery-is-layout-flex\">\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"722\" data-id=\"3687\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/Youth-Park-1024x722.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-3687\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/Youth-Park-1024x722.png 1024w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/Youth-Park-300x212.png 300w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/Youth-Park-768x541.png 768w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/Youth-Park-1536x1083.png 1536w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/Youth-Park-2048x1444.png 2048w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n<\/figure>\n\n<p>Mae\u2019r t\u00eem hefyd yn defnyddio\u2019r arolwg i gael gwybod beth fyddai\u2019r bobl ifanc yn ei hoffi ar gyfer Wythnos Pobl sy\u2019n Gadael Gofal. Roedd consensws am dripiau allan a gweithgareddau nad ydynt yn aml yn gallu eu profi na\u2019u fforddio a\u2019r cyfle i ddod at ei gilydd yn anffurfiol. Mewn ymateb, rydym wedi neilltuo cyllid grant i gynnig y cyfleoedd hynny ac rydym yn mynd i fynd \u00e2 nhw ar dripiau i\u2019r sinema, Sw Bae Colwyn a Zip World, yn ogystal \u00e2 mynd allan i Hickory\u2019s am fwyd a chael prydau bwyd drwy Just Eat.  Mae\u2019r t\u00eem hefyd wedi sefydlu cyfarfodydd anffurfiol mewn lleoliadau diogel lle gall y bobl ifanc sgwrsio a dal i fyny dros bizza.<\/p>\n\n<h3 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color has-link-color wp-elements-e4cbf18973eb4fd2ea2a0a49ce3fea7b\"><strong>Sut y gallwn wella<\/strong><\/h3>\n\n<p>Mae cynnwys y wefan yn cael ei adolygu a\u2019i ddiweddaru\u2019n gyson ac rydym wedi cynnwys yr awgrymiadau a gafwyd yn yr ymatebion i\u2019r arolwg, yn enwedig ers yr argyfwng costau byw, i roi cyngor a gwybodaeth ar lle i fynd am gyngor yngl\u0177n \u00e2 chostau rhedeg cartref. Roedd y wybodaeth gyswllt bwysig eisoes wedi\u2019i darparu; mae dros hanner cant o ddolenni at amrywiaeth o asiantaethau cymorth, sy\u2019n awgrymu bod angen gwella gosodiad y wefan i wneud pethau\u2019n fwy amlwg ac yn haws i ddod o hyd iddynt.<\/p>\n\n<p>Byddai cynyddu nifer y defnyddwyr ac amlder yr ymweliadau \u00e2 Camau Bach, Dyfodol Disglair hefyd yn un o\u2019r nodau ar gyfer gwelliant, fel y byddai rhoi mwy o reolaeth i\u2019r bobl ifanc dros ddatblygu\u2019r wefan eu hunain, er enghraifft drwy ysgrifennu blogiau, dod o hyd i\u2019r wybodaeth angenrheidiol a chadw\u2019r gosodiad yn ffres ac yn ddiddorol.<\/p>\n\n<h3 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color has-link-color wp-elements-b1811291ededc4b161d549020f2a8f36\"><strong>Ein cynllun gweithredu<\/strong><\/h3>\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Creu fforwm a arweinir gan gymheiriaid fel bod cynnwys y wefan yn cael ei gyd-gynhyrchu gan y bobl ifanc.<\/li>\n\n\n\n<li>Cyd-gynhyrchu\u2019r digwyddiad Wythnos Pobl Ifanc sy\u2019n Gadael  Gofal fel ei fod yn ystyrlon ac yn ymatebol i\u2019r unigolion hynny.<\/li>\n<\/ul>\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-alpha-channel-opacity\"\/>\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\"><strong>Ymgysylltu \u00e2 phobl sy&#8217;n gadael gofal<\/strong><\/h2>\n\n<p>Y llynedd fe wnaethom siarad am gyflwyno  model ymarfer newydd ar gyfer ymgysylltu \u00e2 phobl ifanc sydd \u00e2 phrofiad o ofal ac enwebu unigolion i gymryd rhan yn yr ymchwil. Ers i\u2019r ymchwil ddechrau rydym wedi cynnwys 20 o bobl ifanc o bob rhan o Ogledd Cymru ac mae wyth ohonynt o Gonwy. Rydym wedi cynnal grwpiau ffocws a grwpiau llywio ar gyfer pobl ifanc a\u2019r bobl broffesiynol sy\u2019n gweithio efo nhw. Yng Nghonwy hyd yma rydym wedi recordio dau bodlediad sydd ar gael ar  Spotify; mae\u2019r cyntaf yn cynnwys trafodaeth rhwng pobl sy\u2019n gadael gofal am eu profiadau ymgysylltu, ac unrhyw rwystrau y maent wedi\u2019u hwynebu, ac mae\u2019r ail yn canolbwyntio ar adborth ar yr ymchwil hyd yma. <\/p>\n\n<h3 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color has-link-color wp-elements-e4cbf18973eb4fd2ea2a0a49ce3fea7b\"><strong>Sut y gallwn wella<\/strong><\/h3>\n\n<p>Mae\u2019r holl bobl ifanc sy\u2019n rhan o\u2019r prosiect ymchwil wedi cael cyfleoedd i drafod yr hyn maen nhw\u2019n feddwl sydd ei angen arnynt ar eu siwrnai drwy\u2019r gwasanaethau a\u2019r pethau sydd neu sydd ddim wedi gweithio iddyn nhw. Bydd y wybodaeth hon yn cael ei defnyddio i helpu Awdurdodau Lleol i ddatblygu gwasanaethau sydd yn ystyrlon ar gyfer y bobl ifanc yr ydym yn gweithio gyda nhw ac yn darparu sylfaen o ran ymagwedd ac adnoddau i wella\u2019r ffordd y mae pobl ifanc sy\u2019n gadael gofal yn ymgysylltu yn y gwasanaeth maen nhw\u2019n ei dderbyn.<\/p>\n\n<h3 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color has-link-color wp-elements-b1811291ededc4b161d549020f2a8f36\"><strong>Ein cynllun gweithredu<\/strong><\/h3>\n\n<p>Mae hwn yn brosiect dwy flynedd felly mae\u2019n rhy fuan i ddweud os bydd angen unrhyw welliannau, fodd bynnag gallwn fod yn sicr bod pobl ifanc yn cael llais ac yn cael eu clywed.<\/p>\n\n<p class=\"has-black-color has-text-color has-link-color wp-elements-97fd0afc47fa5658ebf63c74b5141d1c\" style=\"font-style:italic;font-weight:700\"><strong>Dyma rai ffigyrau am bobl sydd wedi gadael gofal:<\/strong><\/p>\n\n<p>Mae\u2019r dangosyddion perfformiad hyn yn anelu at fesur pa mor dda yr ydym yn cefnogi\u2019r plant yr ydym yn darparu gofal ar eu cyfer wrth iddyn nhw symud tuag at adael y gwasanaethau gofal.<\/p>\n\n<div class=\"wp-block-buttons is-layout-flex wp-block-buttons-is-layout-flex\">\n<div class=\"wp-block-button\"><a class=\"wp-block-button__link has-text-align-left wp-element-button\">98.51% &#8211; canran y plant sydd \u00e2  Chynlluniau Llwybr yn \u00f4l yr angen<\/a><\/div>\n<\/div>\n\n<p><\/p>\n\n<div class=\"wp-block-buttons is-layout-flex wp-block-buttons-is-layout-flex\">\n<div class=\"wp-block-button\"><a class=\"wp-block-button__link has-text-align-left wp-element-button\">97.04% &#8211; canran y plant sydd wedi cael Ymgynghorydd Personol <\/a><\/div>\n<\/div>\n\n<p><\/p>\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-alpha-channel-opacity\"\/>\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Y T\u00eem Gofalwyr<\/h2>\n\n<p class=\"has-black-color has-text-color has-link-color wp-elements-efd72f7b416dca63f2d7e298b3808cd1\" style=\"font-style:italic;font-weight:700\"><strong>Dyma rai ffigyrau am ofalwyr:<\/strong><\/p>\n\n<p>Mae\u2019r metrigau Llywodraeth Cymru hyn wedi\u2019u dylunio i gofnodi data am ofalwyr y gwasanaethau cymdeithasol sy\u2019n ymwneud \u00e2 chysylltiadau ac asesiadau.  Mae\u2019r wybodaeth yn fodd pwysig o fonitro maint, llif a\u2019 galw ar y gwasanaeth<\/p>\n\n<div class=\"wp-block-buttons is-layout-flex wp-block-buttons-is-layout-flex\">\n<div class=\"wp-block-button\"><a class=\"wp-block-button__link wp-element-button\">738 &#8211; nifer y cysylltiadau \u00e2&#8217;r gwasanaethau cymdeithasol statudol gan ofalwyr oedolion neu weithwyr proffesiynol ar eu rhan yn ystod y flwyddyn &#13;\n<\/a><\/div>\n<\/div>\n\n<p><\/p>\n\n<div class=\"wp-block-buttons is-layout-flex wp-block-buttons-is-layout-flex\">\n<div class=\"wp-block-button\"><a class=\"wp-block-button__link wp-element-button\">295 &#8211; cyfanswm yr asesiadau o anghenion gofalwyr newydd ar gyfer oedolion a gynhaliwyd yn ystod y flwyddyn &#13;\n<\/a><\/div>\n<\/div>\n\n<p><\/p>\n\n<p>Yng Nghonwy rydym yn ffodus i fod \u00e2 Th\u00eem Gofalwyr sy\u2019n cynnwys tri Swyddog Gofalwyr llawn amser. Maen nhw\u2019n cefnogi unigolion o 18 oed sydd \u00e2 chyfrifoldebau gofalu.  Mae ein system dyletswydd yn sicrhau bod gofalwyr yn cael siarad \u00e2 swyddog, yn absenoldeb eu gweithiwr enwebedig, am gyngor ac arweiniad uniongyrchol  Mae partneriaid a budd-ddeiliaid eraill wedi rhannu adborth cadarnhaol am y gwasanaeth a ddarperir i\u2019r t\u00eem a\u2019r rhan annatod y mae\u2019n ei chware o ran  lles a rhoi cefnogaeth i\u2019n dinasyddion.<\/p>\n\n<p>Rydym yn hyrwyddo ac yn rhannu gwybodaeth ar gyfer gofalwyr gyda\u2019n hasiantaethau partner i hyrwyddo\u2019r hawl i ofalwyr wneud cais am asesiad annibynnol ar gyfer y cymorth priodol. Enghraifft o hyn oedd yn ystod yr Wythnos Gofalwyr a\u2019r Diwrnod Hawliau Gofalwyr pan oedd ein Swyddogion Gofalwyr a\u2019n Swyddogion Taliadau Uniongyrchol ar gael i gynnig cyngor a gwybodaeth fel rhan o\u2019r ymgyrch ehangach i gydnabod r\u00f4l hollbwysig gofalwyr yng Nghonwy.<\/p>\n\n<h3 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color has-link-color wp-elements-e4cbf18973eb4fd2ea2a0a49ce3fea7b\"><strong>Sut y gallwn wella<\/strong><\/h3>\n\n<p>Ni chwblhawyd unrhyw arolygon ffurfiol ers y pandemig Covid-19  Fodd bynnag mae adborth ymarferwyr o\u2019u gwaith uniongyrchol gyda Gofalwyr yn ein helpu ni i werthuso darpariaeth gwasanaeth ac yn amlygu meysydd lle mae angen gwella, ac yn dangos yr angen i ehangu\u2019r gwasanaeth i adlewyrchu r\u00f4l arwyddocaol y gofalwr di-d\u00e2l a\u2019u hangen am gydnabyddiaeth a chefnogaeth.<\/p>\n\n<h3 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color has-link-color wp-elements-b1811291ededc4b161d549020f2a8f36\"><strong>Ein cynllun gweithredu<\/strong><\/h3>\n\n<p>Bydd arolwg cynhwysfawr yn cael ei gynnal yn 2024 a fydd yn adnabod gwelliannau a chyfleoedd datblygu pellach.<\/p>\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-alpha-channel-opacity\"\/>\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Pobl: Adborth ar ein perfformiad<\/h2>\n\n<h3 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color has-link-color wp-elements-760aa7798392d8576ed3280c5b960069\">Adborth gan staff<\/h3>\n\n<p>Ddwywaith y flwyddyn rydym yn gofyn i staff o\u2019n gwasanaethau gofal yn y cartref a phreswyl ar gyfer pobl h\u0177n a phobl ag anableddau yngl\u0177n \u00e2\u2019u profiadau yn y gweithle a\u2019r gefnogaeth y maent yn ei chael i gyflawni eu rolau, a beth yw eu barn am eu heffeithlonrwydd eu hunain wrth ddarparu gofal a chymorth i bobl h\u0177n a phobl ag anableddau yng Nghonwy. Mae peth o\u2019r adborth a gawsom ym mis Awst a mis Medi 2023 i\u2019w weld isod.<\/p>\n\n<p>Staff yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi drwy sesiynau goruchwylio un i un rheolaidd a hyfforddiant parhaus i gyflawni eu rolau\u2019n hyderus. Mae\u2019r holl staff ar draws y timau yn teimlo eu bod nhw, fel t\u00eem, yn gwrando ar yr unigolion maen nhw\u2019n eu cefnogi ac yn sicrhau eu bod nhw\u2019n gallu gwneud dewisiadau am eu bywydau. Fel unigolion, mae staff gofal yn y cartref yn amlwg yn deall pwysigrwydd rhoi\u2019r unigolyn wrth galon cynllunio eu gofal, cefnogi eu hiechyd a\u2019u lles a pharchu eu safbwyntiau a\u2019u dymuniadau.<\/p>\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p>\u2026\u2026.canolbwyntio ar yr unigolyn, gwrando ar yr hyn maen nhw eisiau a gwneud ein gorau i gyflawni eu dymuniadau.<\/p>\n<\/blockquote>\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p>Rydw i\u2019n gwrando ar unrhyw bryderon sydd gan gleientiaid ac yn eu codi gyda rheolwyr neu deuluoedd os oes angen, ac yn eu hannog i ddweud sut yr hoffent i\u2019w gofal gael ei ddarparu.<\/p>\n<\/blockquote>\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p>\u2026\u2026gwrando ar a gweithredu ar yr hyn mae unigolion yn ei ddweud wrthym. Rydym yn eu cefnogi gydag apwyntiadau Iechyd, yn annog ffyrdd iach o fyw ac yn hyrwyddo annibyniaeth fel bod ganddynt reolaeth dros eu bywydau.<\/p>\n<\/blockquote>\n\n<p>Yn yr un modd, o safbwynt diogelu, roedd 100% o\u2019r staff a ymatebodd yn cytuno eu bod yn cefnogi unigolion i aros yn ddiogel a\u2019u bod yn eu hamddiffyn rhag camdriniaeth ac esgeulustod. Mae sylwadau ychwanegol yn awgrymu bod staff mewn cytgord \u00e2\u2019r unigolion maen nhw\u2019n eu cefnogi, a\u2019u bod yn sylwi\u2019n gyflym os oes unrhyw newid yn eu hymarweddiad neu eu hymddygiad ac yn gallu meithrin digon o ffydd fel bod yr unigolyn sy\u2019n derbyn gofal yn teimlo\u2019n barod i siarad am unrhyw broblemau y gallant fod yn eu profi. Mae hyfforddiant diogelu cadarn yn cyfrannu at hyn, fel y mae polis\u00efau a gweithdrefnau clir i staff eu dilyn.<\/p>\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p>\u2026\u2026chwilio am arwyddion o unrhyw gamdriniaeth a bod yn ymwybodol o unrhyw newid mewn ymddygiad. Gwneud iddynt deimlo y gallant ymddiried ynom ni, ein bod yn hawdd dod atom ac y gallwn helpu.<\/p>\n<\/blockquote>\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p>Rydym yn dilyn yr asesiadau risg sydd wedi\u2019u sefydlu ac yn rhoi gwybod i\u2019n rheolwyr am unrhyw bryderon iechyd a diogelwch neu bryderon eraill. Rydym yn mynychu ac yn cadw i fyny \u00e2 hyfforddiant diogelu ac yn rhoi gwybod am unrhyw bryderon yn y modd priodol. Rydym yn dod i adnabod yr unigolion yr ydym yn eu cefnogi, yn sylwi ar unrhyw newidiadau ac yn gwrando arnyn nhw.<\/p>\n<\/blockquote>\n\n<p>Yn ogystal \u00e2 gofyn iddyn nhw ddweud beth mae eu gwasanaeth yn ei wneud yn dda, gofynnir i staff hefyd adnabod unrhyw welliannau y gellid eu gwneud. Rhywbeth sy\u2019n codi dro ar \u00f4l tro yw\u2019r angen i recriwtio mwy o staff parhaol a chynyddu capasiti. Fel y trafodwyd mewn rhan arall o\u2019r adroddiad, mae recriwtio i lawer o rolau yng Ngofal Cymdeithasol, yn cynnwys gofal a chymorth rheng flaen, yn her barhaus. Rydym yn aml yn dibynnu ar staff asiantaeth i lenwi swyddi ac yn cael trafferth denu ymgeiswyr. <\/p>\n\n<p>Er gwaethaf teimlo\u2019n brin o staff ar adegau, mae staff rheng flaen yn mwynhau eu swyddi a\u2019r boddhad maen nhw\u2019n ei gael o ddarparu gwasanaeth effeithiol.  Pan ofynnwyd i bobl beth yw\u2019r rhan o\u2019r r\u00f4l maen nhw\u2019n eu hoffi fwyaf, dywedwyd:<\/p>\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p>Gwybod fy mod yn gwneud gwahaniaeth a gweld y plant yn rhyngweithio efo fi ydi\u2019r teimlad gorau.<\/p>\n<\/blockquote>\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p>Bob dim, dwi\u2019n deffro bob bore efo gw\u00ean ar fy wyneb ac yn edrych ymlaen at ddod i\u2019r gwaith.<\/p>\n<\/blockquote>\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p>Bod yn falch o fod yn rhan o d\u00eem llwyddiannus a chefnogi unigolion diamddiffyn gydag anghenion cymhleth gan wybod fy mod wedi gwneud gwahaniaeth.<\/p>\n<\/blockquote>\n\n<p><\/p>\n\n<h3 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color has-link-color wp-elements-fa3617be2f0b9dc735562dd25088721a\"><strong>Adborth budd-ddeiliaid<\/strong><\/h3>\n\n<p>Rydym hefyd yn gofyn ddwywaith y flwyddyn i fudd-ddeiliaid am eu barn nhw ar ein gwasanaethau gofal cartref mewnol a\u2019n cartref preswyl, Llys Elian.  Cydweithwyr yw\u2019r rhain sy\u2019n asesu ac yn cyfeirio unigolion at ein gwasanaethau rheng-flaen ac sy\u2019n gweithio mewn timau gwaith cymdeithasol, cymdeithasau tai, y sector gwirfoddol a lleoliadau iechyd. Rydym yn holi yngl\u0177n ag ansawdd y gwasanaethau, ein prydlondeb mewn delio ag ymholiadau ac am enghreifftiau o waith partneriaeth effeithiol.<\/p>\n\n<p>O ran gwasanaethau rheng-flaen, roedd 100% yn teimlo ein bod yn gwrando ar yr unigolion yr ydym yn eu cefnogi, ac yn eu galluogi i wneud dewisiadau am y gofal a\u2019r gefnogaeth y maen nhw\u2019n ei gael a\u2019r cyfleoedd sydd ar gael iddyn nhw. Mae sylwadau ychwanegol yn cydnabod y cyfyngiadau ar adnoddau\u2019r t\u00eem, ond hefyd yn cydnabod yr hyblygrwydd a\u2019r atebolrwydd a ddangosir i gyflawni dyheadau\u2019r bobl maen nhw\u2019n eu cefnogi.<\/p>\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p>T\u00eem cefnogol iawn ac rydym bob amser yn cael adborth cadarnhaol gan gleifion.<\/p>\n<\/blockquote>\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p>Mae\u2019r t\u00eem bob amser yn agored i sgwrs am anghenion unigolion ac yn ceisio addasu\u2019r gwasanaeth er mwyn gallu ymateb iddynt.<\/p>\n<\/blockquote>\n\n<p>Eto, nodir prinder staffio yn aml iawn fel rhwystr rhag darparu mwy o wasanaethau neu rhag gallu rhoi pecynnau gofal at ei gilydd yn gyflym. Fodd bynnag mae tystiolaeth glir o waith traws sefydliadol effeithiol boed hynny drwy gyfarfodydd clwstwr, dros y ff\u00f4n neu dros e-bost.<\/p>\n\n<h3 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color has-link-color wp-elements-6e1e5290cef27dd409431a6cd45f7908\">Adborth defnyddwyr gwasanaeth<\/h3>\n\n<p class=\"has-black-color has-text-color has-link-color wp-elements-e1a708d31a8c8f7a91c6d23d70628ac2\" style=\"font-style:italic;font-weight:700\">Dyma rai ffigyrau am y gwasanaeth:<\/p>\n\n<p>Nod y mesurau hyn yw cofnodi a monitro\u2019r gwasanaethau a ddarperir i oedolion fel y nodir yn eu cynllun gofal a chymorth.  Mae\u2019r mesurau hyn, yn ogystal \u00e2 mecanweithiau adrodd eraill yn ein helpu ni i fonitro\u2019r galw a maint y gwasanaethau a ddarperir.<\/p>\n\n<p>Cyfanswm y gwasanaethau i oedolion a ddechreuwyd yn ystod y flwyddyn:<\/p>\n\n<figure class=\"wp-block-table is-style-stripes\"><table><tbody><tr><td>Cartref Gofal Oedolion<\/td><td>351<\/td><\/tr><tr><td>Gofal yn y cartref<\/td><td>683<\/td><\/tr><tr><td>Gofal Seibiant<\/td><td>196<\/td><\/tr><\/tbody><\/table><\/figure>\n\n<p>Fel cartref preswyl ar gyfer pobl \u00e2 dementia, mae\u2019r lleoliad, lefelau o gysur a\u2019r croeso ar y safle i gyd yn elfennau pwysig o brofiad Llys Elian i breswylwyr ac ymwelwyr. Mae\u2019r mwyafrif helaeth o fudd-ddeiliaid yn dweud bod y safonau hyn yn rhagorol, gyda 100% yn cytuno bod unigolion yn cael cyfle i gymryd rhan mewn gweithgareddau ystyrlon, yn ddiogel ac yn cael eu hamddiffyn rhag esgeulustod a chamdriniaeth, bod eu preifatrwydd, eu hurddas a\u2019u cyfrinachedd yn cael eu cynnal a\u2019u bod yn byw mewn amgylchedd cyfforddus sy\u2019n cael ei wneud yn bersonol iddyn nhw.  Mae\u2019r holl ymatebwyr yn dweud eu bod yn teimlo\u2019u bod yn cael eu croesawu yn ystod eu hymweliad ac y gall staff roi gwybodaeth gywir ac amserol am y bobl maen nhw\u2019n eu cefnogi.<\/p>\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p>Mae pawb mor dda a mor barod i helpu, t\u00eem gwych, yn gwneud i bobl deimlo\u2019n gyfforddus, sydd yn ffactor mawr i bob efo dementia.<\/p>\n<\/blockquote>\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p>Mae\u2019n gartref gofal hyfryd a dylai cartrefi gofal eraill ddefnyddio Llys Elian fel enghraifft o sut i greu amgylchedd gwaith gofalgar, caredig ac effeithiol mewn lle sy\u2019n cael ei barchu fel cartref y bobl maen nhw\u2019n gofalu amdanynt, gan ddangos caredigrwydd go iawn i\u2019r preswylwyr, safonau uchel o ofal ac ansawdd.<\/p>\n<\/blockquote>\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p>Rydwi i wedi ymweld (\u00e2 Llys Elian) nifer o weithiau ac mae\u2019n amlwg bod pwyslais mawr ar ddarparu profiad cadarnhaol i hyrwyddo deilliannau cadarnhaol i bawb. Mae wedi bod yn fraint fawr cael cymryd rhan yn y dyddiau gweithgareddau sy\u2019n cael eu cynnal gan Llys Elian ar gyfer defnyddwyr y gwasanaeth, rydym yn gwerthfawrogi\u2019r ymdriniaeth gydweithredol hon.<\/p>\n<\/blockquote>\n\n<figure class=\"wp-block-gallery has-nested-images columns-default is-cropped wp-block-gallery-2 is-layout-flex wp-block-gallery-is-layout-flex\">\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"768\" height=\"1024\" data-id=\"3690\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/Llys-Elian-Resident-768x1024.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-3690\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/Llys-Elian-Resident-768x1024.jpg 768w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/Llys-Elian-Resident-225x300.jpg 225w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/Llys-Elian-Resident-1152x1536.jpg 1152w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2024\/07\/Llys-Elian-Resident.jpg 1536w\" sizes=\"auto, (max-width: 768px) 100vw, 768px\" \/><\/figure>\n<\/figure>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae\u2019r adran hon yn adrodd yn erbyn y pedwar prif faes yn y Fframwaith Gwella Perfformiad: Pobl, Atal, Partneriaeth ac Integreiddio a Lles. Bydd pob adran yn cynnwys sylwebaeth sydd \u00e2\u2019r nod o ateb pedwar cwestiwn hunanasesu. &#13; &#13; Mae\u2019r hunanasesiad yn asesiad drwy werthuso, gan ddefnyddio amrywiaeth o ffynonellau tystiolaeth fel data perfformiad, ymchwil [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":5,"featured_media":0,"parent":3670,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"_seopress_robots_primary_cat":"","_seopress_titles_title":"","_seopress_titles_desc":"","_seopress_robots_index":"","_genesis_hide_title":false,"_genesis_hide_breadcrumbs":false,"_genesis_hide_singular_image":false,"_genesis_hide_footer_widgets":false,"_genesis_custom_body_class":"","_genesis_custom_post_class":"","_genesis_layout":"","footnotes":""},"class_list":{"0":"post-3787","1":"page","2":"type-page","3":"status-publish","5":"entry"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/3787","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/5"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=3787"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/3787\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":3788,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/3787\/revisions\/3788"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/3670"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=3787"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}