{"id":3785,"date":"2024-09-11T08:15:27","date_gmt":"2024-09-11T07:15:27","guid":{"rendered":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/adroddiad-2022-23-2\/gosod-y-llwyfan\/"},"modified":"2024-09-11T08:15:30","modified_gmt":"2024-09-11T07:15:30","slug":"gosod-y-llwyfan","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/adroddiad-2023-24\/gosod-y-llwyfan\/","title":{"rendered":"Gosod y Llwyfan"},"content":{"rendered":"\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Arweinyddiaeth<\/h2>\n\n<p>Yma rydym yn edrych ar sut y mae arweinyddiaeth wleidyddol, llywodraethiant a threfniadau craffu a herio\u2019r awdurdod lleol yn helpu i osod blaenoriaethau a hyrwyddo lles ar draws swyddogaethau\u2019r awdurdod lleol.<\/p>\n\n<p>Daeth Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 i rym ym mis Ebrill 2016. Mae&#8217;r Ddeddf yn rhoi fframwaith cyfreithiol ar gyfer gwella lles pobl ag anghenion gofal a chymorth a gofalwyr sydd angen cefnogaeth, ac ar gyfer trawsnewid gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru. Egwyddorion sylfaenol y Ddeddf yw: <\/p>\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>llais a rheolaeth<\/li>\n\n\n\n<li>Atal ac ymyrraeth gynnar<\/li>\n\n\n\n<li>Lles<\/li>\n\n\n\n<li>Cyd-gynhyrchu<\/li>\n<\/ul>\n\n<p>Mae\u2019r <a href=\"https:\/\/gofalcymdeithasol.cymru\/adnoddau-canllawiau\/hyb-gwybodaeth-a-dysgu\/deddf-sswb\/codau-ymarfer?_gl=1*1wqkun*_ga*NDAxMTQxNTAxLjE3MjI0MzIxMjg.*_ga_NZV6WMW0HJ*MTcyNDk0MTQyMC4zLjAuMTcyNDk0MTQyNS4wLjAuMA..\">Cod Ymarfer<\/a> cysylltiedig yn nodi fframwaith ar gyfer mesur y cynnydd y mae awdurdodau lleol yn ei wneud yn erbyn eu dyletswyddau o dan y Ddeddf yn ei chyfanrwydd. Mae\u2019r broses hon hefyd yn ein galluogi i wella ein gwasanaethau\u2019n barhaus.\u00a0 Fel y nodir yn y Cod Ymarfer, sefydlwyd trefniadau ar gyfer casglu ac adrodd ar ddata am fesuryddion perfformiad statudol i Lywodraeth Cymru bob blwyddyn.\u00a0 Caiff perfformiad ei fesur yn unol \u00e2 phob un o&#8217;r safonau ansawdd sy&#8217;n canolbwyntio ar bobl, atal, partneriaethau ac integreiddio a lles.<\/p>\n\n<p>Mae gan Gonwy drefniadau llywodraethu cryf sy\u2019n cynnwys swyddogaeth trosolwg a chraffu a arweinir gan yr Aelodau sydd ag ethos cadarnhaol ac adeiladol o gydnabod arfer da ac argymell gwelliannau lle bo angen.  Wrth graffu ceisir ymgysylltu \u00e2\u2019r gymuned ble bynnag bosib er mwyn gwella ansawdd bywyd a lles pobl sy\u2019n byw, yn gweithio neu\u2019n ymweld \u00e2\u2019r ardal.  Caiff hyn ei gyflawni drwy graffu ar bolis\u00efau, y gwasanaethau a ddarperir gan y Cyngor a gwaith partneriaeth gyda sefydliadau allanol.<\/p>\n\n<p>Mae\u2019r trefniadau llywodraethu a sefydlwyd hefyd yn cynnal rheolaeth effeithiol o Ofal Cymdeithasol. Mae\u2019r Cyngor wedi sefydlu Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd ac wedi penodi dau Ddeilydd Portffolio i gynrychioli Plant, Teuluoedd a Diogelu, a\u2019r Gwasanaethau Oedolion a Chymunedol Integredig.  Rydym yn cyflwyno amrywiol adroddiadau i\u2019r Pwyllgor Craffu i\u2019w hadolygu a\u2019u herio ac mae gennym broses fewnol gadarn ar gyfer herio perfformiad a chael trosolwg ohono.  Cynhelir cyfarfodydd gyda\u2019n harolygiaeth drwy gydol y flwyddyn ac rydym yn mynd ati i adolygu ein harferion ein hunain yn rheolaidd fel mater o drefn er mwyn sicrhau gwelliannau parhaus yn ein gwasanaethau.<\/p>\n\n<p>Mae <a href=\"https:\/\/www.llyw.cymru\/llesiant-cenedlaethaur-dyfodol-cymru?_gl=1*4ew6c7*_ga*MTkzODQ1Mjk1LjE3MjM2Mzg5MTA.*_ga_L1471V4N02*MTcyNDk0MTQ4Mi4zLjAuMTcyNDk0MTQ4Mi4wLjAuMA..\">Deddf Llesiant Cenedlaethau\u2019r Dyfodol (Cymru) 2015<\/a> Llywodraeth Cymru yn amlinellu cyfres o ganlyniadau cenedlaethol ac mae\u2019n gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i roi datblygu cynaliadwy wrth wraidd eu penderfyniadau.\u00a0 Mae\u2019r Ddeddf hon yn sicrhau bod ystyriaethau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd yn ganolog i\u2019r penderfyniadau a wneir.<\/p>\n\n<p>Yng Nghonwy rydym wedi cynnwys yr amcanion hyn yn ein <a href=\"https:\/\/www.conwy.gov.uk\/cy\/Council\/Strategies-Plans-and-Policies\/Corporate-Plan\/Corporate-Plan-2022-2027.aspx\">Cynllun Corfforaethol 2022-2027<\/a>. Mae ein cynllun yn nodi ein dyheadau i wneud gwahaniaeth i bobl Conwy dros y pum mlynedd nesaf, er mwyn bodloni ein canlyniadau hirdymor ar gyfer ein dinasyddion.<\/p>\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Mae pobl yng Nghonwy\u2019n gwerthfawrogi ac yn edrych ar \u00f4l yr amgylchedd<\/li>\n\n\n\n<li>Mae pobl yng Nghonwy yn byw mewn sir gydag economi lewyrchus \u00e2 diwylliant yn ganolog iddi&#13;\n<\/li>\n\n\n\n<li>Mae pobl yng Nghonwy wedi\u2019u haddysgu ac yn fedrus<\/li>\n\n\n\n<li>Mae gan bobl yng Nghonwy fynediad at lety fforddiadwy ac addas o safon uchel sy\u2019n gwella safon eu bywyd.&#13;\n<\/li>\n\n\n\n<li>Mae pobl yng Nghonwy&#8217;n ddiogel ac yn teimlo&#8217;n ddiogel<\/li>\n\n\n\n<li>Mae pobl yng Nghonwy yn iach<\/li>\n\n\n\n<li>Mae pobl yng Nghonwy yn byw mewn sir lle mae\u2019r Gymraeg yn ffynnu, a gall pobl gymryd rhan mewn pob agwedd ar fywyd cymunedol yn Gymraeg&#13;\n<\/li>\n\n\n\n<li>Mae pobl yng Nghonwy yn cael gwybodaeth, yn cael eu cynnwys ac yn cael llais a gallant gyfrannu at gymuned lle mae eu cefndir a\u2019u hunaniaeth yn cael ei werthfawrogi a\u2019i barchu.&#13;\n<\/li>\n\n\n\n<li>Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn wydn<\/li>\n<\/ul>\n\n<p>Fel gwasanaeth rydym yn ystyried ac yn rhoi sylw i sut yr ydym yn cyfrannu at y blaenoriaethau hyn drwy ein proses o gynnal Adolygiadau Perfformiad bob chwe mis. <\/p>\n\n<p>Mae <a href=\"https:\/\/gofalcymdeithasol.cymru\/adnoddau-canllawiau\/hyb-gwybodaeth-a-dysgu\/deddf-sswb\/trowsolwg?_gl=1*1wdzpen*_ga*NDAxMTQxNTAxLjE3MjI0MzIxMjg.*_ga_NZV6WMW0HJ*MTcyNDk0MTQyMC4zLjEuMTcyNDk0MTc4OC4wLjAuMA..\">Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014\u00a0<\/a>a\u2019r <a href=\"https:\/\/gofalcymdeithasol.cymru\/adnoddau-canllawiau\/hyb-gwybodaeth-a-dysgu\/deddf-sswb\/codau-ymarfer?_gl=1*1vk6g3f*_ga*NDAxMTQxNTAxLjE3MjI0MzIxMjg.*_ga_NZV6WMW0HJ*MTcyNDk0MTQyMC4zLjEuMTcyNDk0MTgxOS4wLjAuMA..\">Cod Ymarfer<\/a> yn nodi fframwaith ar gyfer mesur y cynnydd y mae awdurdodau lleol yn ei wneud yn erbyn eu dyletswyddau o dan y Ddeddf yn ei chyfanrwydd.\u00a0 Mae\u2019r broses hon hefyd yn galluogi awdurdodau lleol i wella\u2019u gwasanaethau\u2019n barhaus.\u00a0 Fel y nodir yn y Cod Ymarfer, sefydlwyd trefniadau cadarn ar gyfer casglu ac adrodd ar ddata am fesuryddion perfformiad statudol i Lywodraeth Cymru bob blwyddyn.\u00a0 Caiff perfformiad ei fesur yn unol \u00e2 phob un o&#8217;r safonau ansawdd sy&#8217;n canolbwyntio ar bobl, partneriaethau ac integreiddio, atal. a lles.<\/p>\n\n<h3 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color has-link-color wp-elements-95e9c4d07939bc423cdddfc37ff61640\">Cydraddoldeb ac Amrywiaeth<\/h3>\n\n<p>Un o\u2019r Canlyniadau i Ddinasyddion a amlinellir yng Nghynllun Corfforaethol 2022-2027 yw:<\/p>\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p><em>\u201dMae pobl yng Nghonwy yn cael gwybodaeth, yn cael eu cynnwys ac yn cael llais a gallant gyfrannu at gymuned lle mae eu cefndir a\u2019u hunaniaeth yn cael ei werthfawrogi a\u2019i barchu.\u201d<\/em><\/p>\n<\/blockquote>\n\n<p>Drwy Gynllun Conwy Gynhwysol 2024-2028 rydym am i\u2019r dyfodol newid er gwell. Nod ein cynllun newydd yw canolbwyntio ar bobl a\u2019u profiadau bywyd, yn hytrach na\u2019n rhwymedigaeth i gydymffurfio \u00e2 deddfwriaeth. \u2018Conwy Gynhwysol\u2019 yw ein nod, sy\u2019n golygu waeth beth fo\u2019ch cefndir, rydych yn gallu byw, gweithio ac ymweld \u00e2 sir lle rydych yn cael eich croesawu ac yn teimlo eich bod yn cael eich derbyn ac yn perthyn.<\/p>\n\n<p>Beth mae cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn ei olygu?  <\/p>\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Mae Cydraddoldeb yn ymwneud \u00e2 chydnabod a gwerthfawrogi gwahaniaethau a thrin pobl yn \u00f4l eu hanghenion. Mae\u2019n ymwneud \u00e2 chreu cymdeithas decach lle gall pawb gymryd rhan a chael cyfle i gyflawni eu gwir botensial, waeth beth fo\u2019u hunaniaeth.<\/li>\n\n\n\n<li>Amrywiaeth yw deall bod pob unigolyn yn unigryw. Mae\u2019n golygu croesawu gwahaniaethau pobl, gan gynnwys credoau, gallu, dewisiadau, cefndiroedd, gwerthoedd a hunaniaeth. <\/li>\n\n\n\n<li>Mae Cynhwysiant yn estyniad i gydraddoldeb ac amrywiaeth. Mae\u2019n golygu bod gan bob unigolyn, heb eithriad, yr hawl i gael ei gynnwys, ei barchu a\u2019i werthfawrogi fel aelod gwerthfawr o\u2019r gymuned. <\/li>\n<\/ul>\n\n<p>Mae cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant felly\u2019n ymwneud \u00e2 gwerthfawrogi pawb fel unigolyn, trin pawb yn deg a darparu cyfleoedd cyfartal gan barchu gwahaniaethau pobl.<\/p>\n\n<p>Mae\u2019r Cynllun Cydraddoldeb Strategol drafft yn nodi\u2019r prif flaenoriaethau y bydd y Cyngor yn canolbwyntio arnynt dros y pedair blynedd nesaf, ac mae\u2019n cynnwys camau gweithredu o <a href=\"https:\/\/www.llyw.cymru\/cynllun-gweithredu-cymru-wrth-hiliol?_gl=1*1878z0p*_ga*MTkzODQ1Mjk1LjE3MjM2Mzg5MTA.*_ga_L1471V4N02*MTcyNDk0MTQ4Mi4zLjEuMTcyNDk0MTg2Mi4wLjAuMA..\">Gynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol<\/a> a <a href=\"https:\/\/www.llyw.cymru\/cynllun-gweithredu-lhdtc-cymru?_gl=1*laydwa*_ga*MTkzODQ1Mjk1LjE3MjM2Mzg5MTA.*_ga_L1471V4N02*MTcyNDk0MTQ4Mi4zLjEuMTcyNDk0MTg5My4wLjAuMA..\">Chynllun Gweithredu LHDTC+<\/a> Llywodraeth Cymru.<\/p>\n\n<p>Yn y Gwasanaethau Cymdeithasol rydym yn dangos ein hymrwymiad i,  a\u2019n cyfraniad at Gynllun Cynhwysiant Conwy yn ogystal \u00e2 Chynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol.  Er enghraifft rydym yn gweithio gyda sefydliadau cymunedol, y trydydd sector a\u2019r GIG i sicrhau bod anghenion pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifol Ethnig yn cael eu hystyried wrth ddatblygu strategaethau a deddfwriaeth newydd ar gyfer Iechyd Meddwl, cynigion i fynd i\u2019r afael ag anghenion iechyd meddwl ceiswyr lloches, ffoaduriaid a mudwyr a chynigion i leihau anghydraddoldebau iechyd ymysg cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr  Byddwn hefyd yn gweithredu Safon Cydraddoldeb Hiliol y Gweithlu Iechyd a Gofal Cymdeithasol y cyfeirir ati yn y Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol. <\/p>\n\n<p>I nodi Diwrnod Gwaith Cymdeithasol Rhyngwladol comisiynwyd yr Athro Prospera Tedam o Goleg Prifysgol Dulyn i roi sgwrs am ymarfer gwaith cymdeithasol gwrth-ormesol a pha mor bwysig ydi hi bod gweithwyr cymdeithasol yn adnabod ac yn herio ymddygiadau, gwerthoedd a strwythurau sy\u2019n bytholi hiliaeth. Yn 2024 byddwn yn gwahodd yr Athro i gyflwyno tri gweithdy i\u2019n gweithwyr cymdeithasol i\u2019n cefnogi ni i archwilio\u2019r them\u00e2u hyn yng Nghonwy.<\/p>\n\n<p>Rydym yn sicrhau bod ein gofalwyr maeth yn cael hyfforddiant cydraddoldeb fel rhan o\u2019r dysgu a datblygu o dan y Fframwaith Maethu Cenedlaethol. Mae hyfforddiant Cydraddoldeb ac Amrywiaeth a Hunaniaeth Rywiol yn gyrsiau hyfforddi gorfodol i bob gofalwr maeth ac unigolion cysylltiedig.   Darperir yr hyfforddiant i sicrhau ein bod yn deall y them\u00e2u hyn o safbwynt yr unigolyn ifanc er mwyn creu amgylcheddau lle caiff amrywiaeth ei ddathlu. Bydd gofalwyr maeth wedyn mewn sefyllfa i ddeall a chefnogi unigolion LHDTC+.<\/p>\n\n<p>Rydym wedi bod yn llwyr ymrwymedig i annog gweithwyr i gymryd rhan yn y Cynllun Gweithredu  Cymru Wrth-hiliol. Cysylltodd y Cyfarwyddwr Strategol Gofal Cymdeithasol ac Addysg yn uniongyrchol \u00e2 phob aelod o staff i bwysleisio pwysigrwydd yr arolwg ac i fynegi ein hymrwymiad cadarn i fod yn weithle lle rydym yn dathlu gwahaniaethau ac yn croesawu cynwysoldeb. Rydym wedi defnyddio ein cyfarfodydd cyswllt gyda\u2019r gwasanaethau a gomisiynir i hyrwyddo\u2019r arolwg ymwybyddiaeth ymysg darparwyr gofal cymdeithasol a\u2019u gweithwyr.<\/p>\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Y Gweithlu<\/h2>\n\n<h3 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color has-link-color wp-elements-a3fd47381dea114faba5a3e5d4449621\">Heriau o ran recriwtio a dal gafael ar staff.<\/h3>\n\n<p>Mae\u2019r tabl isod yn rhoi data allweddol am ein gweithlu Gofal Cymdeithasol fel yr oedd ar 12 Chwefror 2024<\/p>\n\n<figure class=\"wp-block-table\"><table><tbody><tr><td>Gwasanaeth<\/td><td>Cyfanswm Swyddi<\/td><td>Gweithiwr Cymdeithasol<\/td><td>Cyfanswm Swyddi Gwag<\/td><td>Swyddi Gweithwyr Cymdeithasol Gwag<\/td><td>Cyfanswm Gweithwyr Asiantaeth<\/td><td>Gweithiwr Cymdeithasol Asiantaeth<\/td><\/tr><tr><td>Plant, Teuluoedd a Diogelu<\/td><td>199<\/td><td>52<\/td><td>17<\/td><td>10<\/td><td>8<\/td><td>8<\/td><\/tr><tr><td>Gwasanaethau Oedolion a Chymunedol Integredig<\/td><td>654<\/td><td>60<\/td><td>38<\/td><td>3<\/td><td>14<\/td><td>4<\/td><\/tr><tr><td>Cyfanswm Staff Gofal Cymdeithasol<\/td><td>853<\/td><td>112<\/td><td>55<\/td><td>13<\/td><td>22<\/td><td>12<\/td><\/tr><\/tbody><\/table><\/figure>\n\n<p>Ym mis Ebrill adroddwyd fod gennym:<\/p>\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>57 swydd wag ar draws y gwasanaethau Gofal Cymdeithasol<\/li>\n\n\n\n<li>13 swydd Gwaith Cymdeithasol wag gydag 11 o\u2019r rhain yn y Gwasanaethau Plant.<\/li>\n\n\n\n<li>15 Gweithiwr Cymdeithasol asiantaeth gyda 9 o\u2019r rhain yn y Gwasanaethau Plant.<\/li>\n<\/ul>\n\n<p>Drwy\u2019r flwyddyn ar gyfartaledd roedd 12% o\u2019r swyddi Gwaith Cymdeithasol y wag, gan olygu ei bod yn fwy o her i weithwyr cymdeithasol ddiwallu eu dyletswyddau statudol. Fel ateb tymor byr, fel y gwelir yn y data, mae\u2019r ddibyniaeth ar Weithwyr Cymdeithasol asiantaeth i lenwi swyddi gwag yn parhau.<\/p>\n\n<p>Yn 2019 fe wnaethom lansio rhaglen Gweithiwr Cymdeithasol dan Hyfforddiant sydd ar agor i staff sy\u2019n gweithio yn y maes gofal cymdeithasol gyda Chyngor Conwy. Yn ystod eu hastudiaethau bydd staff yn aros yn eu swyddi arferol ac ar \u00f4l cymhwyso\u2019n cael eu cyflogi fel Gweithiwr Cymdeithasol.<\/p>\n\n<p>Hyd yma mae\u2019r rhaglen wedi cefnogi 19 aelod o staff gyda 12 yn cael eu cefnogi ar hyn o bryd. O\u2019r cohort presennol, bydd dau yn cymhwyso ym mis Hydref eleni, 6 ym mis Hydref 2025 a phedwar ym mis Hydref 2026.<\/p>\n\n<p>Yn 2024 byddwn yn cynnig pedair hyfforddeiaeth. Yn ychwanegol rydym yn archwilio\u2019r posibilrwydd o ddatblygu rhaglen Gweithiwr Cymdeithasol dan Hyfforddiant i raddedigion er mwyn denu graddedigion sy\u2019n siarad Cymraeg i ennill chymhwyster MA Gwaith Cymdeithasol Prifysgol Bangor.<\/p>\n\n<p>Mae recriwtio Therapyddion Galwedigaethol yn her barhaus ac mae ein profiad ni ein hunain wedi\u2019i adlewyrchu ar draws awdurdodau lleol eraill y rhanbarth ac yn y bwrdd iechyd . Mae cydweithwyr Gofal Cymdeithasol ac Iechyd yn gweithio drwy\u2019r Bwrdd Gweithlu Rhanbarthol i ddatblygu Cynllun Gweithlu Therapi Galwedigaethol rhanbarthol i ddiwallu anghenion Therapi Galwedigaethol ein gweithlu r\u0175an ac yn y dyfodol.<\/p>\n\n<p>Yng Nghonwy rydym yn datblygu llwybr gyrfa Therapi Galwedigaethol i gefnogi therapyddion galwedigaethol sydd newydd gymhwyso i ddatblygu eu sgiliau, eu gwybodaeth a\u2019u profiad gan ddilyn y fframwaith dysgu a datblygu <a href=\"https:\/\/gofalcymdeithasol.cymru\/cms-assets\/documents\/Therapyddion-galwedigaethol-ym-maes-gofal-cymdeithasol_fframwaith-dysgu-a-datblygu-002.pdf\">Therapyddion Galwedigaethol Mewn Gofal Cymdeithasol <\/a>a gyhoeddwyd gan Gofal Cymdeithasol Cymru.<\/p>\n\n<h3 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color has-link-color wp-elements-1d2b1641de91622662e8d28fc1a1af22\">Hyfforddiant diogelu a safonau dysgu a datblygu Cymru<\/h3>\n\n<p>Mae swyddogion diogelu a\u2019r gweithlu Gofal Cymdeithasol wedi cefnogi Rheolwyr Diogelu Dynodedig corfforaethol i alinio\u2019r holl rolau ar draws yr awdurdod yn briodol \u00e2\u2019r grwpiau perthnasol fel y maent wedi\u2019u dynodi yn y safonau. Mae\u2019r gwaith hwn wedi ein galluogi ni i fynd ati fel awdurdod i ystyried ac adolygu rolau a chyfrifoldebau diogelu pob swydd yn yr awdurdod. Roedd hwn yn ymarfer gwerthfawr sydd wedi dangos yr angen i gynyddu lefelau o hyfforddiant diogelu ar draws y gweithlu cyfan. <\/p>\n\n<p>Lansiwyd y <a href=\"https:\/\/gofalcymdeithasol.cymru\/adnoddau-canllawiau\/diogelu-rhestr\/safonau-hyfforddiant-dysgu-a-datblygu-cenedlaethol?_gl=1*10jdn2e*_ga*MTE3ODQwNTMzNC4xNzI0MDUyNTg2*_ga_NZV6WMW0HJ*MTcyNDA3NjcyNy4yLjAuMTcyNDA3NjcyNy4wLjAuMA..\">fframwaith cenedlaethol i gefnogi\u2019r safonau<\/a> ym mis Hydref 2023. Ein tasg nesaf fydd datblygu rhaglen dysgu a datblygu wedi\u2019i halinio \u00e2\u2019r safonau diogelu ar gyfer gwasanaethau gofal cymdeithasol a gwasanaethau wedi\u2019u comisiynu\u2019r awdurdod.<\/p>\n\n<h3 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color has-link-color wp-elements-193785e318a88965a59f0ad7d7513c87\">Mwy Na Geiriau<\/h3>\n\n<p>Rydym wedi comisiynu Iaith Cymru i ymgymryd ag adolygiad o weithrediad Mwy na Geiriau a\u2019r Cynnig Gweithredol yng ngwasanaethau Gofal Cymdeithasol a gwasanaethau wedi\u2019u comisiynu Conwy.  Y nod fydd datblygu cynllun gweithredu i wella ein gallu i ddarparu gwasanaethau yn Gymraeg.<\/p>\n\n<p>Cynhaliodd Iaith Cymru ddau weithdy i gasglu gwybodaeth i weld sut mae Mwy na Geiriau a\u2019r Cynnig Gweithredol yn cael eu rhoi ar waith ar hyn o bryd, beth sy\u2019n gweithio\u2019n dda, beth ydi\u2019r heriau a sut i\u2019w goresgyn. Roedd cymysgedd o staff o bob rhan o wasanaethau Gofal Cymdeithasol a gwasanaethau wedi\u2019u comisiynu Conwy yn bresennol. <\/p>\n\n<p>Casgliadau allweddol y gweithdy:<\/p>\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Parodrwydd i arddel ymdriniaeth sector cyfan. <\/li>\n\n\n\n<li>Iaith Cymru i gynnal arolwg ar draws y gwasanaethau gofal cymdeithasol gan ddefnyddio\u2019r holiadur \u2018Fi a\u2019r Gymraeg\u2019.<\/li>\n\n\n\n<li>Adolygu arferion recriwtio i dargedu a gwella\u2019r gallu i recriwtio pobl sy\u2019n siarad Cymraeg neu a fydd yn gallu dysgu Cymraeg ar \u00f4l cael eu penodi.<\/li>\n\n\n\n<li>Drwy hyfforddiant ymwybyddiaeth iaith bydd gweithwyr yn datblygu dealltwriaeth o sut y mae anghenion iaith pobl yn newid ac yn amrywio dan wahanol amgylchiadau.<\/li>\n\n\n\n<li>Cynnig ffyrdd mwy hyblyg o ddysgu Cymraeg. <\/li>\n\n\n\n<li>Rhoi hyfforddiant <em>\u2018Pam bod y Gymraeg yn bwysig\u2019<\/em> i Reolwyr a rhannu enghreifftiau o arfer da gan reolwyr mewn timau neu sefydliadau eraill.<\/li>\n<\/ul>\n\n<p>Bydd prosiect ffurfiol yn cael ei sefydlu, a fydd yn cynnwys y gwasanaethau a gomisiynir, i gyflawni\u2019r camau gweithredu sy\u2019n deillio o\u2019r gweithdai a\u2019r holiadur.  <\/p>\n\n<h3 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color has-link-color wp-elements-21533dd41996dfc2961210bc347b508b\">Gwasanaethau Cefnogi Cyflogaeth<\/h3>\n\n<p>Ym mis Mehefin 2022 fe wnaethom greu\u2019r Gwasanaeth Cefnogi Cyflogaeth i gefnogi unigolion i mewn i waith ar draws y sector Gofal Cymdeithasol. Cyn hynny nid oedd adnoddau staffio wedi\u2019u clustnodi\u2019n benodol i\u2019r pwrpas hwn, gan olygu: <\/p>\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Mai cyfyngedig oedd gwybodaeth Asiantaethau Cefnogi Cyflogaeth am y cyfleoedd gwaith sydd ar gael o fewn Gofal Cymdeithasol.<\/li>\n\n\n\n<li>Dim adnodd enwebedig i asiantaethau gyfeirio unigolion atynt am gefnogaeth drwy\u2019r broses gyflogi.<\/li>\n\n\n\n<li>Diffyg hyrwyddo Gofal Cymdeithasol fel gyrfa ddewisol, yn enwedig drwy Gyrfa Cymru, sydd \u00e2 rhaglen dreigl ar draws ysgolion Conwy.<\/li>\n\n\n\n<li>Canfyddiad bod Gofal Cymdeithasol yn rhywbeth ar gyfer llefydd fel cartrefi pobl h\u0177n yn unig ac mai dim ond cyfle cyfyngedig mae\u2019n ei gynnig i ddatblygu gyrfa.<\/li>\n<\/ul>\n\n<p>Mae i\u2019r swydd Mentor Cyflogaeth Gofal Cymdeithasol ddwy brif swyddogaeth, sef hyrwyddo Gofal Cymdeithasol fel gyrfa ddewisol a chefnogi pobl i mewn i waith ym maes Gofal Cymdeithasol. Rhwng mis Mehefin 2022 a mis Rhagfyr 2023 cefnogodd ein mentor, Emma Thomas, 33 o bobl i gael swyddi Gofal Cymdeithasol ac mae hi wedi cael adborth cadarnhaol.<\/p>\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p>Dwi isio diolch yn fawr iawn i chi am fy helpu i ddod o hyd i waith. Faswn i wirioneddol ddim wedi gallu gwneud hyn heb eich help chi. Faswn i ddim hyd yn oed wedi gwneud cais. Fe wnaeth eich help chi i baratoi am y cyfweliad roi hyder i mi a syniad o beth i\u2019w ddisgwyl.<\/p>\n<\/blockquote>\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p>Diolch yn fawr. \u2018Dw i wir yn gwerthfawrogi pa mor gyson a chadarnhaol \u2018da chi wedi bod drwy hyn i gyd. Mae o yn gwneud gwahaniaeth go iawn i bobl sydd ar y siwrnai hon. O lenwi\u2019r ffurflen gais, y ffug gyfweliad i\u2019r gefnogaeth barhaus, alla\u2019i ddim diolch ddigon i Emma. Mae hi bob amser ar ben arall y ff\u00f4n i roi cefnogaeth ac arweiniad. Mae\u2019r gwasanaeth wedi bod ym amhrisiadwy.<\/p>\n<\/blockquote>\n\n<p>Mae wedi dod yn amlwg bod y broses ymgeisio\u2019n codi ofn ar lawer o bobl a\u2019u bod nhw\u2019n ei chael yn anodd deall beth sydd ei angen o\u2019r ffurflen gais am y swydd. Mae eraill yn ei chael yn anodd deall sut i ddefnyddio eu sgiliau, eu gwybodaeth a\u2019u profiad i gefnogi eu ceisiadau. Yn aml iawn does gan bobl ddim digon o hyder i wneud cais am swyddi, ac yn gyffredinol hefyd mae dealltwriaeth pobl o\u2019r amrediad o swyddi a gwasanaethau sydd ar gael o fewn Gofal Cymdeithasol yn gyfyngedig.<\/p>\n\n<h4 class=\"wp-block-heading has-pale-cyan-blue-color has-text-color has-link-color wp-elements-ae8d85b481e176ec739763d524389a46\">Ein cynllun gweithredu<\/h4>\n\n<p>Byddwn yn cynnal digwyddiadau gwybodaeth i gynyddu dealltwriaeth o:<\/p>\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>yr amrywiaeth o rolau sydd ar gael yng Ngofal Cymdeithasol<\/li>\n\n\n\n<li>y broses ymgeisio<\/li>\n\n\n\n<li>sut y gellir defnyddio gwybodaeth a sgiliau trosglwyddadwy i gefnogi cais<\/li>\n<\/ul>\n\n<p>Byddwn yn sefydlu cysylltiadau agosach \u00e2 cholegau Addysg Bellach i gefnogi myfyrwyr i mewn i waith ym maes Gofal Cymdeithasol.<\/p>\n\n<h3 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color has-link-color wp-elements-7997439b7fb896e21e3d4a2a161eda37\">Cyflwyno dysgu digidol i\u2019r gweithlu gofal<\/h3>\n\n<p>Eleni canfuom fod manteisio ar hyfforddiant wyneb yn wyneb wedi dod yn fwy o broblem i ddarparwyr gofal mewnol ac allanol fel ei gilydd, gyda rheolwyr yn ei chael yn anodd rhyddhau gweithwyr oherwydd prinder staff ac oherwydd bod costau teithio i\u2019r canolfannau hyfforddi yn uchel. Daeth y dysgu ar-lein oedd ar gael yn rhy heriol oherwydd diffyg technoleg a diffyg hyder a chymhelliant ar ran staff i gwblhau\u2019r hyfforddiant yn y ffordd yma.<\/p>\n\n<p>O ganlyniad i hyn daeth ein cynllun llechen ddigidol i fodolaeth gyda chyrsiau ar gael ar ffurf modiwlau ar-lein drwy Care Tutor BVS yn rhoi sylw i bynciau y mae ar y gweithlu Gofal Cymdeithasol angen gwybod amdanynt. Cawsom drafodaethau gyda rheolwyr t\u00eem i weld beth yw\u2019r anghenion hyfforddi, y dewis o fodiwlau, a dyddiadau a lleoliadau ar gyfer eu darparu. Ym mhob sesiwn mae 12 llechen ar gael i staff eu defnyddio i ddilyn y modiwlau. Mae staff Dysgu a Datblygu\u2019r Gweithlu ar gael i helpu gydag unrhyw broblemau e.e. mewngofnodi, pryderon am defnyddio technoleg, ofn methu, gorbryder, disgwyliadau isel pobl ohonyn nhw eu hunain, problemau agor a chau\u2019r modiwlau ac i helpu pobl i ddod yn fwy hyddysg yn y defnydd o\u2019r llechen yn gyffredinol.<\/p>\n\n<p>Gwelwyd manteision niferus i\u2019r ymdriniaeth hon  gydag unigolion yn:<\/p>\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Magu hyder wrth ddefnyddio technoleg.<\/li>\n\n\n\n<li>Ennill hyder oherwydd eu llwyddiannau unigol.<\/li>\n\n\n\n<li>Ennill tystysgrif ar ddiwedd y modiwl<\/li>\n\n\n\n<li>Goresgyn yr ofn y byddant yn methu fel unigolyn<\/li>\n\n\n\n<li>Ennill ymdeimlad o fuddsoddiad personol a gwerthfawrogiad o gyfle<\/li>\n\n\n\n<li>Gallu cwblhau\u2019r dysgu sy\u2019n addas ar gyfer eu hanghenion<\/li>\n\n\n\n<li>Ennill digon o hyder i gwblhau modiwlau ychwanegol yn \u00f4l eu pwysau eu hunain gyda llai o gefnogaeth<\/li>\n<\/ul>\n\n<p>O ganlyniad i hyn bu modd i reolwyr ac arweinwyr timau:<\/p>\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Sicrhau dysgu mewn pynciau allweddol fel rhan o ymdrech ar y cyd<\/li>\n\n\n\n<li>Cadw llygad ar gyraeddiadau staff<\/li>\n\n\n\n<li>Cael gwybod am unrhyw heriau unigol y llwyddwyd i\u2019w goresgyn<\/li>\n\n\n\n<li>Manteisio ar gwblhad sawl pwnc i safon ansoddol, yn cynnwys ardystiad<\/li>\n\n\n\n<li>Rhoi\u2019r hyfforddiant ar y safle lle mae gofal yn cael ei ddarparu (darpariaeth fewnol ac allanol)<\/li>\n<\/ul>\n\n<h4 class=\"wp-block-heading has-pale-cyan-blue-color has-text-color has-link-color wp-elements-5ad40315006c18f7c0bb2d81c18a03bd\">Yr heriau yr ydym wedi\u2019u hwynebu<\/h4>\n\n<p>Rydym wedi gweld bod rhai aelodau o staff yn dioddef lefelau uchel o orbryder ar y dechrau ac mae hyn yn cymryd amser i\u2019w oroesi. Ochr yn ochr \u00e2 rhwystrau eraill a allai eu hatal rhag cwblhau modiwlau, rydym wedi gorfod ymateb yn briodol ac mewn modd amserol. Rydym wedi gosod uchafswm o ran nifer y modiwlau i\u2019w cwblhau mewn un sesiwn ddysgu e.e. tri neu bedwar modiwl fesul unigolyn, sydd yn gyfwerth a phum awr o amser sgr\u00een, yn cynnwys amser egwyl.<\/p>\n\n<p>Rydym hefyd wedi gorfod gweithio i rymuso rheolwyr i gynnig cyfleoedd dysgu ar-lein gyda chefnogaeth yn ystod oriau gwaith gyda\u2019r teclynnau llechen sydd ganddynt yn eu meddiant ar hyn o bryd.<\/p>\n\n<h4 class=\"wp-block-heading has-pale-cyan-blue-color has-text-color has-link-color wp-elements-ae8d85b481e176ec739763d524389a46\">Ein cynllun gweithredu<\/h4>\n\n<p>Mae\u2019r gwaith wedi amlygu\u2019r angen i gynyddu sgiliau digidol y gweithlu ac, yn bwysig iawn, cynyddu hyder pobl i ddefnyddio platfformau digidol. Bydd hyn yn cael sylw yng nghynllun dysgu 2024-25.<\/p>\n\n<h3 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color has-link-color wp-elements-44af3e5b8d02a2040789e3a7e9b88c71\">Profiad y Bws Dementia<\/h3>\n\n<p>Mae\u2019r Bws Dementia yn efelychydd symudol sy\u2019n trochi\u2019r dysgwr ym myd rhywun sy\u2019n byw \u00e2 dementia. Bydd synhwyrau\u2019r cyfranogwr wedi\u2019u hamharu arnynt yn yr un ffordd ag y maent i rywun gyda\u2019r afiechyd. &#13;\nRydym wedi darparu 24 o sesiynau dysgu gyda\u2019r bws ac mae dysgwyr wedi dweud bod yr hyfforddiant wedi cynyddu eu hymwybyddiaeth o effaith dementia ar unigolion. Dywedodd un o\u2019r cyfranogwyr: &#13;\n<\/p>\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p>Fe wnaeth y profiad i mi sylweddoli bod dementia yn ymwneud \u00e2 mwy na dim ond y cof &#8211; dwi\u2019n gweld r\u0175an sut y mae\u2019n effeithio ar synhwyrau pobl a\u2019r ffordd maen nhw\u2019n gweld y byd.<\/p>\n<\/blockquote>\n\n<p>Rydym eisiau cynyddu mynediad at yr hyfforddiant ar gyfer gofalwyr a theuluoedd felly rydym ar hyn o bryd yn edrych ar sut y gallwn weithio gydag asiantaethau eraill i gynnal digwyddiadau Bws Dementia penodol ar eu cyfer nhw.<\/p>\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Adnoddau Ariannol<\/h2>\n\n<p>Ar 2 Mawrth 2023\/24 cymeradwyodd y Cyngor gyllideb refeniw o \u00a382.75 miliwn ar gyfer Gofal Cymdeithasol yn 2023\/24. Yn ystod y flwyddyn cynyddodd y gyllideb i \u00a384.4m yn bennaf i gydnabod costau ychwanegol yn deillio o\u2019r dyfarniadau cyflog a gytunwyd yn genedlaethol ar gyfer staff. <\/p>\n\n<p>Y gwir wariant yn 2023\/24 oedd \u00a387.34m, sef \u00a32.94m dros y gyllideb a hynny oherwydd pwysau costau. Yn benodol:<\/p>\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Aeth costau cysylltiedig \u00e2 phlant sy\u2019n derbyn gofal \u00a33 miliwn dros y gyllideb oherwydd cynnydd yn nifer y lleoliadau, nifer y lleoliadau safon uchel a chost cyfartalog y lleoliadau.<\/li>\n\n\n\n<li>Fe wnaeth y Cyngor addasu ei ffioedd ar gyfer darparwyr gofal preswyl a nyrsio ran o\u2019r ffordd drwy\u2019r flwyddyn mewn cydnabyddiaeth o\u2019r pwysau ar y sector, ac arweiniodd hynny at gostau ychwanegol o tu \u00a31 miliwn.<\/li>\n\n\n\n<li>Bu addasiad cyfrifyddu unwaith yn unig o \u00a31.2 miliwn cysylltiedig \u00e2 chost gofal preswyl a nyrsio nad oedd wedi\u2019i gyllidebu.<\/li>\n\n\n\n<li>Fe wnaeth arbedion mewn meysydd eraill wrthbwyso\u2019r pwysau hwn<\/li>\n<\/ul>\n\n<p>Wrth i\u2019r pwysau ar y gyllideb ddod yn amlwg yn ystod y flwyddyn cymerodd y Gwasanaeth ymagwedd gyfannol wrth fynd i\u2019r afael \u00e2 hyn.  Rhoddodd y Cyfarwyddwr Strategol a\u2019r Penaethiaid Gwasanaeth gyfarwyddyd clir i ddeiliaid cyllideb na ddylid gwario ar unrhyw beth nad oedd yn hanfodol a gwnaed pob ymdrech i sicrhau y derbyniwyd incwm mewn modd amserol, bod taliadau a ailgodir wedi\u2019u cytuno\u2019n llawn gydag asiantaethau partner, yn enwedig iechyd, a bod y defnydd gorau\u2019n cael ei wneud o grantiau yn unol \u00e2 gwariant cymwys. <\/p>\n\n<p>Fe wnaeth yr ymagwedd gyfannol a gymerwyd o fewn y gwasanaeth i leihau gwariant ac uchafu incwm lle bynnag bosib helpu i leddfu\u2019r pwysau cyllidebol nad oedd modd ei osgoi a brofodd y gwasanaeth.  Pan ddaeth y pwysau ar y gyllideb yn hysbys fe\u2019i adroddwyd drwy\u2019r adroddiadau ariannol chwarterol corfforaethol er mwyn i\u2019r Awdurdod cyfan allu rhoi sylw i, a chynllunio ar gyfer y risg.<\/p>\n\n<h3 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color has-link-color wp-elements-c9957356eda8d396040c68cebd3fa8df\">2024-25<\/h3>\n\n<p>Yn ystod 2023-24 rydym wedi dadansoddi ein sefyllfa ariannol ac wedi bod yn llwyddiannus gyda\u2019r achosion busnes canlynol i fynd i\u2019r afael \u00e2\u2019r pwysau ar gyllideb 2024-25.<\/p>\n\n<figure class=\"wp-block-table is-style-regular\"><table><tbody><tr><td>Gwasanaeth<\/td><td>Swm \u00a3m<\/td><\/tr><tr><td>Plant sy\u2019n Derbyn Gofal<\/td><td>2.00<\/td><\/tr><tr><td>Trefniadau Diogelu Wrth Amddifadu o Ryddid  (DoLS) <\/td><td>0.18<\/td><\/tr><tr><td>Ffioedd Gofal Preswyl<\/td><td>4.88<\/td><\/tr><tr><td>Ffioedd Gofal yn y Cartref\/Byw \u00e2 Chymorth<\/td><td>2.24<\/td><\/tr><tr><td>Cyfanswm<\/td><td>9.30<\/td><\/tr><\/tbody><\/table><\/figure>\n\n<p>Mae\u2019r gwasanaeth wedi ymrwymo i sicrhau arbedion o wahanol wasanaethau gwerth cyfanswm o \u00a33.1 miliwn ac wedi cyfrannu \u00a30.38 miliwn yn ychwanegol ar gyfer pwysau corfforaethol.<\/p>\n\n<p>Cymhariaeth rhwng  y sefyllfa derfynol yn 2022\/23 a 2023\/24<\/p>\n\n<figure class=\"wp-block-table\"><table><tbody><tr><td>Gwasanaethau<\/td><td>Sefyllfa derfynol 2022\/23 (\u00a3\u2019000)<\/td><td>Sefyllfa derfynol 2023\/24 (\u00a3\u2019000)<\/td><td>Amrywiant 2023\/24 (\u00a3\u2019000)<\/td><\/tr><tr><td>Gwasanaethau Oedolion<\/td><td>4,469<\/td><td>4,383<\/td><td>-86<\/td><\/tr><tr><td>Y Gymuned a Lles<\/td><td>682<\/td><td>679<\/td><td>-3<\/td><\/tr><tr><td>Anabledd<\/td><td>24,988<\/td><td>25,577<\/td><td>588<\/td><\/tr><tr><td>Pobl H\u0177n<\/td><td>23,630<\/td><td>29,133<\/td><td>5,503<\/td><\/tr><tr><td>Safonau Ansawdd a Chomisiynu<\/td><td>1,087<\/td><td>993<\/td><td>-94<\/td><\/tr><tr><td>Cyfanswm Gwasanaethau Oedolion<\/td><td>54,857<\/td><td>60,765<\/td><td>5,908<\/td><\/tr><tr><td>Cymorth i Deuluoedd ac Ymyrraeth<\/td><td>2,587<\/td><td>2,728<\/td><td>141<\/td><\/tr><tr><td>Plant sy\u2019n Derbyn Gofal<\/td><td>14,742<\/td><td>16,134<\/td><td>1,392<\/td><\/tr><tr><td>Diogelu<\/td><td>237<\/td><td>261<\/td><td>24<\/td><\/tr><tr><td>Pobl Ddiamddiffyn<\/td><td>6,481<\/td><td>7,273<\/td><td>792<\/td><\/tr><tr><td>Y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid <\/td><td>186<\/td><td>181<\/td><td>-5<\/td><\/tr><tr><td>Cyfanswm Gwasanaethau Plant<\/td><td>24,232<\/td><td>26,577<\/td><td>2,344<\/td><\/tr><tr><td>Cyfanswm<\/td><td>79,089<\/td><td>87,342<\/td><td>8,253<\/td><\/tr><\/tbody><\/table><\/figure>\n\n<p>Noder fod yr amrywiant yn gymhariaeth o\u2019r gwir wariant yn 2022\/23 a 2023\/24 yn hytrach na chymhariaeth o wariant yn erbyn y gyllideb yn ystod y ddwy flynedd. Diweddarwyd y gyllideb ar gyfer 2023\/24 i adlewyrchu\u2019r pwysau costau hysbys o ganlyniad i chwyddiant t\u00e2l a chwyddiant cyffredinol yn ogystal \u00e2\u2019r galw ar wasanaethau. Mae\u2019r amrywiadau\u2019n adlewyrchu\u2019r pwysau hwnnw.  <\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Arweinyddiaeth Yma rydym yn edrych ar sut y mae arweinyddiaeth wleidyddol, llywodraethiant a threfniadau craffu a herio\u2019r awdurdod lleol yn helpu i osod blaenoriaethau a hyrwyddo lles ar draws swyddogaethau\u2019r awdurdod lleol. Daeth Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 i rym ym mis Ebrill 2016. Mae&#8217;r Ddeddf yn rhoi fframwaith cyfreithiol ar gyfer gwella [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":5,"featured_media":0,"parent":3670,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"_seopress_titles_title":"","_seopress_titles_desc":"","_seopress_robots_index":"","_seopress_robots_follow":"","_seopress_robots_imageindex":"","_seopress_robots_snippet":"","_seopress_robots_primary_cat":"","_seopress_robots_breadcrumbs":"","_seopress_robots_freeze_modified_date":"","_seopress_robots_custom_modified_date":"","_seopress_robots_canonical":"","_seopress_social_fb_title":"","_seopress_social_fb_desc":"","_seopress_social_fb_img":"","_seopress_social_fb_img_attachment_id":0,"_seopress_social_fb_img_width":0,"_seopress_social_fb_img_height":0,"_seopress_social_twitter_title":"","_seopress_social_twitter_desc":"","_seopress_social_twitter_img":"","_seopress_social_twitter_img_attachment_id":0,"_seopress_social_twitter_img_width":0,"_seopress_social_twitter_img_height":0,"_seopress_redirections_value":"","_seopress_redirections_enabled":"","_seopress_redirections_enabled_regex":"","_seopress_redirections_logged_status":"","_seopress_redirections_param":"","_seopress_redirections_type":0,"_seopress_analysis_target_kw":"","_genesis_hide_title":false,"_genesis_hide_breadcrumbs":false,"_genesis_hide_singular_image":false,"_genesis_hide_footer_widgets":false,"_genesis_custom_body_class":"","_genesis_custom_post_class":"","_genesis_layout":"","footnotes":""},"class_list":{"0":"post-3785","1":"page","2":"type-page","3":"status-publish","5":"entry"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/3785","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/5"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=3785"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/3785\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":3786,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/3785\/revisions\/3786"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/3670"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=3785"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}