{"id":3547,"date":"2023-08-29T13:28:12","date_gmt":"2023-08-29T12:28:12","guid":{"rendered":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/adroddiad-2022-23\/safon-ansawdd-6\/"},"modified":"2023-08-29T15:57:57","modified_gmt":"2023-08-29T14:57:57","slug":"safon-ansawdd-6","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/adroddiad-2022-23\/safon-ansawdd-6\/","title":{"rendered":"Safon Ansawdd 6:"},"content":{"rendered":"\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Mae pobl yn cael eu hannog i gyfrannu at ddyluniad a darpariaeth eu gofal a&#8217;u cefnogaeth fel partneriaid cyfartal<\/h2>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Fforymau Plant ac Oedolion<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae Rhwydwaith Cyfranogiad Oedolion Conwy bellach wedi ailddechrau cynnal cyfarfodydd wyneb i wyneb yn dilyn pandemig Covid-19. Mae\u2019r aelodaeth yn agored i unrhyw un sydd \u00e2 diddordeb yng ngwaith Adran Gofal Cymdeithasol Conwy ac a fyddai\u2019n hoffi rhannu eu barn eu hunain neu farn unrhyw gr\u0175p cymunedol neu gymdeithasau.<\/p>\n\n\n\n<p>Ailgychwynnodd y Gr\u0175p Loud Voices ar gyfer plant ieuengach sy\u2019n derbyn gofal yn ystod haf 2022, a hwyluswyd gan y Swyddog Adolygu a Diogelu Annibynnol, WCVSC a\u2019r T\u00eem Safonau Ansawdd.  Trefnir cyfarfodydd fesul tymor neu hanner tymor ac maent yn cynnig gweithgareddau yn ogystal ag amser i ymgynghori gyda phlant am destunau fel cyflwyno ap Mind of My Own, a Beth sy\u2019n Gwneud i Mi Deimlo\u2019n Ddiogel yn ystod Wythnos Genedlaethol Diogelu.<\/p>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"aligncenter size-large is-resized\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/08\/22-Tea-n-Toast-extra-01-1024x859.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-3508\" width=\"686\" height=\"575\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/08\/22-Tea-n-Toast-extra-01-1024x859.png 1024w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/08\/22-Tea-n-Toast-extra-01-300x252.png 300w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/08\/22-Tea-n-Toast-extra-01-768x644.png 768w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/08\/22-Tea-n-Toast-extra-01-1536x1289.png 1536w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/08\/22-Tea-n-Toast-extra-01.png 1732w\" sizes=\"auto, (max-width: 686px) 100vw, 686px\" \/><\/figure><\/div>\n\n\n<p>Ni chynhaliwyd cyfarfodydd wyneb yn wyneb y Gr\u0175p Siapio\u2019r Dyfodol ar gyfer oedolion ifanc yn ystod y pandemig ac ar hyn o bryd, mae T\u00eem Pobl Ddiamddiffyn Conwy yn cydlynu ymgysylltiad gyda\u2019r rhai sy\u2019n gadael gofal drwy:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Ddefnyddio Ap Mind of my Own<\/li>\n\n\n\n<li>Wythnos i\u2019r rhai sy\u2019n gadael gofal gyda phobl ifanc ym mis Hydref<\/li>\n\n\n\n<li>Gwefan newydd ar gyfer y rhai sy\u2019n gadael gofal: <a href=\"https:\/\/camaubachdyfodoldisglair.cymru\/\">Camau Bach Dyfodol Disglair<\/a><\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color\">Beth oedd yr heriau?<\/h4>\n\n\n\n<p>Y prif her oedd hwyluso cyfarfodydd wyneb yn wyneb unwaith eto, ac annog oedolion, plant a phobl ifanc i fynychu ar \u00f4l cyfnod estynedig heb unrhyw gyfarfodydd.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color\">Beth sydd nesaf?<\/h4>\n\n\n\n<p>Yn ystod 2023, rydym yn bwriadu adolygu ein Strategaeth Gyfranogi ac Ymgysylltu gan gynnwys pobl sy\u2019n defnyddio ein gwasanaethau ac sy\u2019n mynychu ein fforymau\u2019n rheolaidd.<\/p>\n\n\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-alpha-channel-opacity\"\/>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Gwefan Camau Bach Dyfodol Disglair<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r wefan <a href=\"https:\/\/camaubachdyfodoldisglair.cymru\/\">Camau Bach Dyfodol Disglair<\/a> ar gyfer y rhai sy\u2019n gadael gofal yng Nghonwy wedi parhau i dyfu a datblygu.&nbsp; Hyd yma mae 1,779 o ymweliadau \u00e2 thudalennau, 778 o ymweliadau a 571 o ymwelwyr \u00e2\u2019r safle.&nbsp; Mae pobl ifanc yn awr yn gallu gwneud cais i\u2019r Gronfa Dydd G\u0175yl Dewi drwy\u2019r wefan, sy\u2019n rhoi mwy o ymreolaeth a hyblygrwydd iddynt.&nbsp; Mae yna hefyd nodwedd i bobl ifanc allu rhoi sylwadau ar bob erthygl a thudalen ar y wefan.<\/p>\n\n\n\n<p>Yn y T\u00eem Ymgynghorwyr Personol, fe wnaethom lunio prosiect ar gyfer y myfyriwr yn y t\u00eem i gasglu barn y rhai sy\u2019n Gadael Gofal am ddatblygu\u2019r safle ymhellach, syniadau ar gyfer gweithgareddau ar gyfer Wythnos Gadael Gofal a sut maen nhw\u2019n dymuno cysylltu gyda\u2019u Ymgynghorydd Personol.  Bu\u2019r wybodaeth a barn y bobl ifanc a gasglwyd yn hynod werthfawr ac mae\u2019n dylanwadu ar sut mae\u2019r t\u00eem yn gweithio.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color\">Beth oedd yr heriau?<\/h4>\n\n\n\n<p>Yr her yw dod o hyd i ffyrdd i barhau i ymgysylltu gyda phobl ifanc a chadw eu diddordeb wrth weithredu gwelliannau &#8211; heb eu mewnbwn nhw, byddai\u2019n anodd iawn i ni ddatblygu\u2019r gwasanaeth.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color\">Beth sydd nesaf?<\/h4>\n\n\n\n<p>Mae gweithio ar y cyd \u00e2 phobl ifanc yn ymarfer parhaus, yn fuan, byddwn yn anfon arolwg at bobl ifanc mewn perthynas \u00e2:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Beth fyddai pobl yn hoffi ei weld ar y wefan <\/li>\n\n\n\n<li>Diddordeb mewn cerdded neu weithgareddau eraill mewn gr\u0175p<\/li>\n\n\n\n<li>Sut mae pobl eisiau dathlu wythnos gadael gofal eleni<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-alpha-channel-opacity\"\/>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Wythnos i\u2019r Rhai sy&#8217;n Gadael Gofal<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae Wythnos Genedlaethol y Rhai sy\u2019n Gadael Gofal yn ddigwyddiad blynyddol a gynhelir ym mis Hydref, sy\u2019n cynnig cyfle, nid yn unig i amlygu a chanolbwyntio ar yr heriau parhaus sy\u2019n wynebu pobl ifanc sydd wedi derbyn gofal, ond i arddangos eu cyflawniadau gwych ac i helpu i sicrhau bod eu lleisiau yn cael eu clywed.  Roedd yr wythnos yn llwyddiannus dros ben gydag oddeutu chwarter o\u2019r bobl ifanc rydym yn eu cefnogi yn galw heibio neu\u2019n cyfrannu i\u2019r digwyddiad.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color\">Beth sydd wedi cael ei wneud?<\/h4>\n\n\n\n<p>Eleni, penderfynom gynnal digwyddiad drwy\u2019r wythnos yng Nghoed Pella oedd yn rhoi cyfle i\u2019n pobl ifanc i arddangos eu sgiliau a\u2019u talentau.  Fe wnaethant gynnal arddangosfa o waith celf, arddangosfa o Ddawnsio Morris a chyflwyniad dyddiol am hanes lleol.  Daeth amrywiaeth eang o asiantaethau ynghyd gyda stondinau gwybodaeth, gan roi amrywiaeth o gefnogaeth i bobl ifanc, fel cyflogaeth, hyfforddiant, iechyd meddwl a gwirfoddoli, i enwi rhai pethau\u2019n unig, ac yn y broses, fe wnaethom ostwng y stigma sydd ynghlwm \u00e2 bod mewn gofal. Fe wnaethom weithio mewn partneriaeth \u00e2 Voel Coaches wnaeth gynnig talebau i\u2019r rhai sy\u2019n gadael gofal i archebu taith o\u2019u dewis, gan roi cyfle i bobl ifanc fwynhau teithiau arbennig gyda ffrindiau a theuluoedd, yn aml, nid ydynt wedi cael profiad o\u2019r fath o\u2019r blaen.  Yn ogystal \u00e2 hyn, lluniodd un dyn ifanc gyflwyniadau PowerPoint am hanes Tramffordd y Gogarth, Pier Bae Colwyn a\u2019i daith ei hun drwy ofal.  Lluniodd merch ifanc arall gyflwyniad oedd yn dangos ei llwyddiannau a sut mae hi\u2019n \u2018rhoi\u2019n \u00f4l\u2019, er enghraifft drwy ei gwaith gyda Child Line.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color\">Pa wahaniaeth y mae hyn wedi\u2019i wneud?<\/h4>\n\n\n\n<p>Drwy gydol yr wythnos, siaradodd y bobl ifanc gyda ni am sut beth yw bod yng ngofal yr Awdurdod Lleol a\u2019r stigma a\u2019r gwahaniaethu y maent wedi\u2019u profi.  Bydd eu hadborth yn awr yn cael ei ddefnyddio i\u2019n helpu ni i wella darpariaeth y gwasanaethau rydym yn eu cynnig. <\/p>\n\n\n\n<p>Roedd yr wythnos yn llawn llwyddiant a chawsom adborth cadarnhaol iawn gan y bobl ifanc, eu teuluoedd a\u2019r gwasanaethau a fynychodd y digwyddiad<\/p>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"aligncenter size-full\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"494\" height=\"496\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/08\/Care-Leavers-Week-Cymraeg-1.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-3652\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/08\/Care-Leavers-Week-Cymraeg-1.png 494w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/08\/Care-Leavers-Week-Cymraeg-1-300x300.png 300w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/08\/Care-Leavers-Week-Cymraeg-1-150x150.png 150w\" sizes=\"auto, (max-width: 494px) 100vw, 494px\" \/><\/figure><\/div>\n\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-alpha-channel-opacity\"\/>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Datblygu gwasanaethau seibiant Bron y Nant<\/h3>\n\n\n\n<p>Gyda\u2019r ganolfan seibiant newydd yn agor ym Mron y Nant eleni, cysylltom gyda theuluoedd sy\u2019n defnyddio ein gwasanaethau egwyliau byr i ofyn am eu barn am sut ddylai\u2019r ddarpariaeth weithredu yn y dyfodol, a\u2019r hyn ddylid ei gynnwys yn y llyfryn sydd ei angen yn unol ag Arolygiaeth Gofal Cymru. Gofynnom i deuluoedd, pobl sy\u2019n defnyddio\u2019r gwasanaeth, a rhieni a gofalwyr i fod yn rhan o\u2019r broses gyfweld ar gyfer staff newydd sy\u2019n cael eu recriwtio i\u2019r gwasanaeth.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color\">Beth oedd yr heriau?<\/h4>\n\n\n\n<p>Roedd hi\u2019n anodd cysylltu gyda rhai teuluoedd, ac nid oedd eraill eisiau rhoi gwybodaeth gan nad oes modd cynnig gwasanaeth iddynt ar hyn o bryd. Fodd bynnag, roedd y rhan fwyaf yn fodlon helpu gyda\u2019r ymgynghoriad a\u2019r broses gyfweld ar gyfer staff.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color\">Beth sydd nesaf?<\/h4>\n\n\n\n<p>Pan fydd y broses recriwtio wedi\u2019i chwblhau, bydd llyfryn gwasanaeth yn cael ei greu, gan gynnwys lluniau o\u2019r adeilad newydd a disgrifiad o\u2019r gwasanaethau fydd ar gael yno.<\/p>\n\n\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-alpha-channel-opacity\"\/>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Cartref Preswyl Llys Elian: Casglu barn aelodau\u2019r teulu<\/h3>\n\n\n\n<p>Ym mis Mawrth, cynhaliom arolwg gyda theulu a ffrindiau yr unigolion sy\u2019n byw yng nghartref preswyl Llys Elian. Gofynnom gwestiynau am ansawdd y gefnogaeth yr oedd eu hanwyliaid yn ei chael yn y cartref, a faint o ran yr oeddent yn ei chwarae wrth gynllunio a darparu gofal a chefnogaeth. Roedd yr ymatebion yn gadarnhaol iawn, gyda 100% o\u2019r ymatebwyr yn cytuno:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Bod rheolwyr a staff Llys Elian yn gwrando arnynt, ac yn eu galluogi i wneud penderfyniadau am y gofal a\u2019r gefnogaeth a roddir a\u2019r cyfleoedd sydd ar gael i\u2019w hanwyliaid<\/li>\n\n\n\n<li>Mae eu hanwyliaid yn gallu cymryd rhan mewn gweithgareddau ystyrlon yn Llys Elian petaen nhw\u2019n dymuno hefyd<\/li>\n\n\n\n<li>Mae eu hanwyliaid yn hapus ac yn cael cefnogaeth gyda\u2019u hiechyd a\u2019u lles cyffredinol ac mae ganddynt fynediad i wasanaethau iechyd a phrydau bwyd maethlon<\/li>\n\n\n\n<li>Mae pobl yn teimlo\u2019n ddiogel ac wedi\u2019u hamddiffyn rhag camdriniaeth ac esgeulustod<\/li>\n\n\n\n<li>Mae\u2019r gwasanaeth yn cynnal preifatrwydd, urddas a chyfrinachedd eu preswylwyr<\/li>\n\n\n\n<li>Mae Llys Elian yn amgylchedd cyfforddus lle gall preswylwyr roi eu heitemau eu hunain yn eu gofod eu hunain<\/li>\n\n\n\n<li>Pan fo ffrindiau a theuluoedd yn ymweld \u00e2\u2019u hanwyliaid yn Llys Elian, maent yn cael eu croesawu yno<\/li>\n\n\n\n<li>Mae ffrindiau a theuluoedd yn teimlo eu bod yn gallu cyfrannu at ofal a chefnogaeth eu hanwyliaid.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Mae sylwadau ychwanegol a wnaed gan ymatebwyr yn dangos eu bod yn fodlon iawn gyda\u2019r gefnogaeth o ansawdd uchel y mae Llys Elian yn ei roi i ffrindiau a theuluoedd:<\/p>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p>Mae Llys Elian yn sefydliad ardderchog gyda staff anhygoel sy\u2019n rhoi 100% i ofalu.<\/p>\n<\/blockquote>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p>Mae\u2019r staff mor gl\u00ean a gofalgar bob amser, rydym yn ddiolchgar iawn am yr hyn maen nhw\u2019n ei wneud i mam. Mae\u2019n amlwg nad ydyn nhw\u2019n ystyried mam fel \u2018defnyddiwr gwasanaeth\u2019 yn unig, ac mae hynny\u2019n golygu rhywbeth i ni gyd.<\/p>\n<\/blockquote>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p>Mae nhw fel teulu ac yn ei drin felly hefyd. Rydw i mor ddiolchgar iddyn nhw.<\/p>\n<\/blockquote>\n\n\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-alpha-channel-opacity\"\/>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Cael adborth am y Gwasanaeth Lles Meddyliol<\/h3>\n\n\n\n<p>Eleni, cynhaliodd ein T\u00eem Lles Meddyliol arolwg o unigolion sy\u2019n defnyddio\u2019r gwasanaeth, gan eu dewis ar hap i roi adborth iddynt am y gefnogaeth maen nhw\u2019n ei gael. Cynhaliwyd yr arolwg dros y ff\u00f4n a rhoddwyd y cyfle i gyfranogwyr ateb neu beidio. Roedd y lefel o gyswllt oedd ganddynt gyda\u2019r t\u00eem yn amrywio, gyda rhai wedi cael gweithiwr cymdeithasol, ac eraill wedi cael gweithiwr ymyrryd.<\/p>\n\n\n\n<p>O\u2019r 13 unigolyn wnaethon ni gysylltu \u00e2 nhw, cytunodd 11 i roi adborth. Ar y cyfan roedd eu sylwadau yn gadarnhaol ac yn llawn canmoliaeth.<\/p>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p>Mae o wedi fy helpu i i gyflawni gymaint. Gallaf wneud yr hyn ydw i eisiau ei wneud, o\u2019i herwydd.<\/p>\n<\/blockquote>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p>Wel, mae hi\u2019n dda iawn i fod yn onest. Mae hi\u2019n fy nghefnogi, ac mae hi bob amser yno i mi gael siarad \u00e2 hi.<\/p>\n<\/blockquote>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p>Mae fy mywyd wedi newid. Yn syml, rydw i\u2019n byw bywyd arferol. Mae o cystal \u00e2 hynny. Siaradais gyda [fy ngweithiwr achos] yn ddiweddar a dywedais wrthi nad oeddwn ei hangen hi bellach. Gall helpu rhywun arall r\u0175an.<\/p>\n<\/blockquote>\n\n\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-alpha-channel-opacity\"\/>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Cael adborth am ymyriadau ein Canolfannau Teuluoedd<\/h3>\n\n\n\n<p>Rydym yn cynnal arolwg parhaus, sy\u2019n gofyn i bobl sydd wedi cael cefnogaeth gan y pum Canolfan Teuluoedd rannu eu profiadau a\u2019r barn. Mae\u2019r cwestiynau yn gysylltiedig \u00e2\u2019n <a href=\"https:\/\/www.conwy.gov.uk\/en\/Resident\/Social-Care-and-Wellbeing\/Children-and-families\/Conwy-Family-Centres\/Our-Family-Support-Standards.aspx\">Safonau Cefnogi Teuluoedd<\/a> ac rydym yn annog cyfranogwyr i helpu i lunio ein gwasanaethau. Dyma rywfaint o\u2019r adborth a gawsom eleni:<\/p>\n\n\n\n<p>Cytunodd 88% ein bod yn cysylltu \u00e2 phobl sydd angen cefnogaeth gennym o fewn wythnos o\u2019r cyswllt cyntaf. Mae adborth yn awgrymu, hyd yn oed os nad ydym yn gallu pennu Gweithiwr Teulu ar unwaith, ein bod yn cadw mewn cysylltiad \u00e2 theuluoedd i wirio eu lles, nes ein bod yn gallu eu cysylltu \u00e2 gweithiwr penodol.<\/p>\n\n\n\n<p>Dywedodd 98% ein bod yn gyfeillgar, yn onest, yn barchus ac yn broffesiynol:<\/p>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p>Mae hi\u2019n hawdd i siarad \u00e2 hi ac yn gyfeillgar iawn ond yn 100% proffesiynol.<\/p>\n<\/blockquote>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p>Mae pawb mor gyfeillgar ac yn hawdd mynd atynt. Maen nhw i weld fel petaent yn gofalu amdanaf i a\u2019m merch.<\/p>\n<\/blockquote>\n\n\n\n<p>Teimlai 90% o\u2019r ymatebwyr bod eu llais yn bwysig, ein bod yn gwrando arnynt, ac yn gallu ystyried gwahanol feysydd o\u2019u bywyd teuluol gyda\u2019u Gweithiwr Teulu<\/p>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p>I fod yn onest, yn y dechrau, roeddwn i ar goll, ac nid oeddwn yn gwybod beth ddylwn i ei wneud er gorau. Ond unwaith wnes i siarad \u00e2\u2019m gweithiwr cefnogi, roedd hi\u2019n fy sicrhau fy mod yn gwneud y peth cywir, ac mae hi\u2019n fy helpu i adeiladu pontydd a rheoli fy mywyd.<\/p>\n<\/blockquote>\n\n\n\n<p>Roedd 95% yn cytuno, pan fyddant yn teimlo fel bod ganddynt reolaeth dros bethau, ein bod yn eu helpu i symud ymlaen gyda\u2019u bywyd teuluol.<\/p>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p>Rydw i\u2019n teimlo ein bod ar y trywydd cywir, ac mae gennym dipyn i fynd, ond gan edrych ar yr ochr gadarnhaol yn hytrach na\u2019r negyddol.<\/p>\n<\/blockquote>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p>Ni fyddwn yn meddwl ddwywaith cyn cysylltu \u00e2\u2019r gwasanaeth petawn i angen gwneud hynny. Maen deimlad braf gwybod y gallaf gael y gefnogaeth yma eto.<\/p>\n<\/blockquote>\n\n\n\n<p>Mae\u2019n amlwg o\u2019r sylwadau ychwanegol bod y Canolfannau Teuluoedd yn parhau i gynnig cefnogaeth werthfawr i deuluoedd yng Nghonwy sy\u2019n ei chael hi\u2019n anodd. Byddwn yn parhau i ofyn am adborth gan bobl sy\u2019n defnyddio ein gwasanaethau er mwyn ceisio bodloni ein safonau uchel, ac yn datblygu gwasanaethau sy\u2019n darparu cefnogaeth ystyrlon.<\/p>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p>Mewn byd lle mae\u2019n rhaid i chi sgrechian i gael eich clywed, rydw i\u2019n ddiolchgar bod systemau cefnogi fel hyn ar gael, lle maen nhw\u2019n sgrechian gyda chi ac yn eich helpu i ddatrys y broblem yn well ac yn gynt. Diolch yn fawr iawn!<\/p>\n<\/blockquote>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color\">Gweithgareddau gr\u0175p anffurfiol<\/h4>\n\n\n\n<p>Mae ein Canolfannau Teuluoedd wedi bod yn cynnal gweithgareddau gr\u0175p anffurfiol ym mhob ardal, gan gynnwys grwpiau chwarae, maethu, panad a sgwrs a grwpiau babanod. Maen nhw wedi gofyn i gyfranogwyr roi gwybod i ni pa sesiynau maen nhw wedi\u2019u mynychu a sgorio eu profiadau. <\/p>\n\n\n\n<p>Hyd yn hyn, mae 100% o gyfranogwyr wedi mwynhau cymryd rhan mewn gweithgareddau, ac yn y sylwadau ychwanegol a gafwyd, cafwyd clod brwdfrydig iawn i drefnwyr a hwyluswyr y digwyddiadau.<\/p>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p>Beth allaf i ei ddweud? Mae\u2019r t\u00eem yn y ganolfan yn wych ym mhob ffordd. Mae\u2019r gefnogaeth a\u2019r cymorth maen nhw wedi\u2019i roi i mi a\u2019m mab, yn ogystal \u00e2\u2019r teuluoedd eraill yn anhygoel, ac maen nhw\u2019n gwneud gymaint o weithgareddau i deuluoedd gael cymryd rhan ynddynt ac mae gallu codi\u2019r ff\u00f4n neu alw mewn am sgwrs sydyn yn wych. T\u00eem hollol wych.<\/p>\n<\/blockquote>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"aligncenter size-full is-resized\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/08\/cuppaandachat-rotated.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-3527\" width=\"564\" height=\"752\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/08\/cuppaandachat-rotated.jpg 480w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/08\/cuppaandachat-225x300.jpg 225w\" sizes=\"auto, (max-width: 564px) 100vw, 564px\" \/><\/figure><\/div>\n\n\n<p>Nododd 71% bod y gr\u0175p wedi gwneud gwahaniaeth mawr i fywyd eu teulu, gyda 26% pellach yn nodi ei fod wedi cael effaith gadarnhaol. I rai rhieni, mae\u2019r gweithgareddau gr\u0175p yn eu helpu i deimlo\u2019n llai unig, ac mae eraill wedi gwneud ffrindiau yn y sesiynau.<\/p>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p>Mae hi wedi bod mor ddefnyddiol cael rhywle i fynd gyda rhieni eraill sy\u2019n deall eich bywyd bob dydd.<\/p>\n<\/blockquote>\n\n\n\n<p>Mae mynychwyr wedi rhoi rhai syniadau ar gyfer gweithgareddau gr\u0175p i\u2019r dyfodol i ni hefyd a byddwn yn ystyried y rheiny y flwyddyn nesaf.<\/p>\n\n\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-alpha-channel-opacity\"\/>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Cael adborth am ein Gwasanaeth Ail-alluogi<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae ein Gwasanaeth Ail-alluogi yn darparu cyfnodau byr o gefnogaeth dwys i bobl sydd wedi cael eu rhyddhau o\u2019r ysbyty ac angen cymorth i godi hyder, sgiliau ac annibyniaeth yn eu cartrefi. Ar ddiwedd bob cyfnod o ail-alluogi, rydym yn gofyn i unigolion yr ydym ni wedi\u2019u cefnogi am eu barn a\u2019u profiadau. Mae hyn yn ein helpu ni i sicrhau bod y gwasanaeth yn addas i\u2019r diben ac yn parhau i fodloni canlyniadau personol pobl.<\/p>\n\n\n\n<p>Dyma flas o\u2019r canlyniadau o 2022-23.<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Cytunai 91% eu bod nhw, eu teulu, eu ffrindiau a\u2019u gweithiwr cymdeithasol yn rhan o\u2019r drafodaeth i gynllunio a chytuno ar eu cefnogaeth.<\/li>\n\n\n\n<li>Teimlai 99% y bodlonwyd eu disgwyliadau o\u2019r gwasanaeth <\/li>\n\n\n\n<li>Dywedodd 91% eu bod wedi cytuno ar eu canlyniadau personol gyda nhw ar gychwyn y gwasanaeth.<\/li>\n\n\n\n<li>Teimlai 92% eu bod wedi cyflawni\u2019r canlyniadau a bennwyd erbyn diwedd y cyfnod ymyrraeth<\/li>\n\n\n\n<li>Teimlai 97% o bobl oedd \u00e2 dymuniadau diwylliannol neu grefyddol bod hynny wedi\u2019i ystyried a bod y gwasanaeth wedi darparu ar eu cyfer yn ystod yr ymyrraeth<\/li>\n\n\n\n<li>Teimlai 95% bod y gefnogaeth a gawsant yn hyblyg, e.e. amseroedd ymweld a\u2019u hyd<\/li>\n\n\n\n<li>Teimlai 94% bod y gefnogaeth a gawsant yn gyson, h.y. fe wnaeth yr un t\u00eem o weithwyr cefnogi ymweld \u00e2 nhw<\/li>\n\n\n\n<li>Teimlai 99% fod y cymorth a gawsant wedi\u2019u galluogi i wneud cymaint ag y gallent drostynt eu hunain<\/li>\n\n\n\n<li>Roedd 100% yn cytuno fod ein staff yn ddymunol, yn garedig ac yn gwrtais <\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Yn ogystal \u00e2\u2019r sgoriau cadarnhaol, cawsom lawer o sylwadau llawn anogaeth am y gwasanaeth ail-alluogi:<\/p>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p>Ni allwn fod yn hapusach nac yn fwy balch. Fe wnaeth y staff wneud byd o wahaniaeth i mi, roedden nhw bob amser yn ddefnyddiol ac ar gael.<\/p>\n<\/blockquote>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p>Roedd y gefnogaeth yn y bore yn ddefnyddiol, gan fy ngalluogi i gryfhau wrth i\u2019r wythnosau fynd yn eu blaenau.<\/p>\n<\/blockquote>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p>Roedden nhw i gyd mor gl\u00ean, yn enwedig yn ystod y diwrnodau cyntaf pan roedd angen llawer o gymorth arnaf.<\/p>\n<\/blockquote>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"aligncenter size-large is-resized\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/08\/Elderly-Tea-Time-1009x1024.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-3529\" width=\"566\" height=\"574\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/08\/Elderly-Tea-Time-1009x1024.png 1009w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/08\/Elderly-Tea-Time-296x300.png 296w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/08\/Elderly-Tea-Time-768x779.png 768w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/08\/Elderly-Tea-Time.png 1295w\" sizes=\"auto, (max-width: 566px) 100vw, 566px\" \/><\/figure><\/div>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae pobl yn cael eu hannog i gyfrannu at ddyluniad a darpariaeth eu gofal a&#8217;u cefnogaeth fel partneriaid cyfartal Fforymau Plant ac Oedolion Mae Rhwydwaith Cyfranogiad Oedolion Conwy bellach wedi ailddechrau cynnal cyfarfodydd wyneb i wyneb yn dilyn pandemig Covid-19. Mae\u2019r aelodaeth yn agored i unrhyw un sydd \u00e2 diddordeb yng ngwaith Adran Gofal Cymdeithasol [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":9,"featured_media":0,"parent":3288,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"_seopress_robots_primary_cat":"","_seopress_titles_title":"","_seopress_titles_desc":"","_seopress_robots_index":"","_genesis_hide_title":false,"_genesis_hide_breadcrumbs":false,"_genesis_hide_singular_image":false,"_genesis_hide_footer_widgets":false,"_genesis_custom_body_class":"","_genesis_custom_post_class":"","_genesis_layout":"","footnotes":""},"class_list":{"0":"post-3547","1":"page","2":"type-page","3":"status-publish","5":"entry"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/3547","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/9"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=3547"}],"version-history":[{"count":4,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/3547\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":3654,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/3547\/revisions\/3654"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/3288"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=3547"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}