{"id":3543,"date":"2023-08-29T13:07:45","date_gmt":"2023-08-29T12:07:45","guid":{"rendered":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/adroddiad-2022-23\/safon-ansawdd-7\/"},"modified":"2023-08-29T15:48:56","modified_gmt":"2023-08-29T14:48:56","slug":"safon-ansawdd-7","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/adroddiad-2022-23\/safon-ansawdd-7\/","title":{"rendered":"Safon Ansawdd 7:"},"content":{"rendered":"\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Mae pobl yn cael eu diogelu rhag camdriniaeth ac esgeulustod a mathau eraill o niwed<\/h2>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Y Dull Gweithredu Safe and Together<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r dull gweithredu Safe and Together wedi\u2019i gyflwyno yng Nghonwy dan arweiniad y t\u00eem Pobl Ddiamddiffyn.  Mae\u2019n ddull ymarfer sydd \u00e2\u2019r nod o wella\u2019r ffordd y mae systemau lles plant ac ymarferwyr yn ymateb i gam-drin domestig.  Mae\u2019r dull yn ymdrin ag achosion o gam-drin domestig sy\u2019n cynnwys plant ar sail patrymau ymddygiad troseddwyr, ac yn canolbwyntio ar fynd i\u2019r afael ag ymddygiad y camdriniwr yn hytrach na dilyn y patrwm arferol o weld y dioddefwr fel rhywun na fedr amddiffyn eu plentyn. <\/p>\n\n\n\n<p>Cyflwynodd y Safe and Together Institute orolwg o\u2019r dull Safe and Together dros ddeuddydd ym mis Mawrth 2022.  Rhoddwyd gwybodaeth i gyfranogwyr am greu system lles plant sy\u2019n ymwybodol o drais domestig, ac esboniwyd egwyddorion a chydrannau\u2019r dull gweithredu.  Rhoddwyd rhagflas hefyd o\u2019r fframwaith ar gyfer meithrin cymhwysedd ym maes trais domestig.  Bu nifer o asiantaethau partner yn bresennol yn y sesiynau hynny, gan gynnwys yr Heddlu, Addysg, Iechyd a\u2019r Uned Diogelwch Trais Teuluol.  Daeth cyfanswm o 110 o bobl.   Cafwyd ymateb cadarnhaol dros ben a gofynnodd nifer o asiantaethau partner am gael mynd ymlaen i\u2019r cam nesaf o\u2019r hyfforddiant (Hyfforddiant Craidd).  Rhoddwyd blaenoriaeth i ddarparu\u2019r elfen hon o\u2019r hyfforddiant i Weithwyr Cymdeithasol a Gweithwyr Ymyriadau, a gwnaed hynny ar-lein rhwng mis Ebrill a mis Mehefin 2022.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r T\u00eem Cryfhau Teuluoedd wedi defnyddio\u2019r dull ymarfer a\u2019r technegau i gyflawni canlyniadau da i blant. Maent wedi ymgysylltu \u00e2 throseddwyr, dod i ddeall eu patrymau ymddygiad camdriniol ac effaith yr ymddygiad ar blant. <\/p>\n\n\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-alpha-channel-opacity\"\/>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Fforwm Amlasiantaethol Cam-drin Plant yn Rhywiol<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae Fforwm Amlasiantaethol Cam-drin Plant yn Rhywiol Conwy yn dal i dyfu.  Gydol y flwyddyn rydym wedi gallu croesawu mwy o weithwyr proffesiynol o dimau amrywiol i\u2019r Fforwm, megis y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid a Gwasanaethau Ieuenctid.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color\">Beth sydd wedi cael ei wneud?<\/h4>\n\n\n\n<p>Mae ein prif waith yn canolbwyntio ar gynllun gweithredu Cam-drin Plant yn Rhywiol Llywodraeth Cymru a chreu Llwybr Ymddygiad Rhywiol Niweidiol i bob asiantaeth gael mynediad ato yng Nghonwy.  Rydym wrthi\u2019n ceisio sicrhau bod ein gwe-dudalennau a\u2019r fewnrwyd yn cynnig adnoddau effeithiol i weithwyr proffesiynol yn ogystal \u00e2 rhieni a gofalwyr.  Byddwn hefyd yn ymgynghori\u2019n gyson \u00e2 staff sydd angen cymorth ag achosion cymhleth sydd ag elfennau o gam-drin plant yn rhywiol.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color\">Pa wahaniaeth y mae hyn wedi\u2019i wneud?<\/h4>\n\n\n\n<p>Bu modd inni sefydlu gr\u0175p o weithwyr proffesiynol sy\u2019n cynorthwyo \u00e2\u2019r cynllun gweithredu cenedlaethol.  Mae\u2019r gwaith sy\u2019n mynd yn ei flaen ar y wefan yn golygu fod gan weithwyr proffesiynol a rhieni adnodd ar-lein yn rhad ac am ddim.  Mae\u2019r staff wedi magu hyder a chael cefnogaeth wrth gymryd rhan mewn ymgyngoriadau ynghylch achosion cymhleth o gam-drin plant yn rhywiol. <\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color\">Beth oedd yr heriau?<\/h4>\n\n\n\n<p>Mae gan holl aelodau\u2019r Fforwm ddyletswyddau beunyddiol eraill a gall fod yn anodd sicrhau presenoldeb pawb mewn cyfarfodydd.  Bu\u2019n heriol hyrwyddo\u2019r Fforwm.  Er inni ddefnyddio amryw gyfryngau cyfathrebu fel newyddlenni a siarad mewn cynadleddau mawr, rhaid oedd gwneud hyn hefyd ar ben ein prif ddyletswyddau.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color\">Beth sydd nesaf?<\/h4>\n\n\n\n<p>Byddwn yn gweithio ar fwy o hyfforddiant a hyrwyddo ein gwaith drwy amryw gyfryngau.  Byddwn hefyd yn gweithredu\u2019r Llwybr Ymddygiad Rhywiol Niweidiol. <\/p>\n\n\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-alpha-channel-opacity\"\/>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Mynd i\u2019r afael \u00e2 chamfanteisio mewn partneriaethau<\/h3>\n\n\n\n<p>Yn ystod y pandemig gwelsom gynnydd mawr yn nifer y plant y camfanteisiwyd arnynt yn droseddol ac yn rhywiol, neu a wynebodd fygythiad o hynny. Gweithiodd ein Canolfannau i Deuluoedd gydag Addysg, Heddlu Gogledd Cymru, Cyfiawnder Ieuenctid a\u2019r Bwrdd Iechyd Lleol i sefydlu gweithgor bach i fynd i\u2019r afael \u00e2\u2019r cynnydd hwn.<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Lluniom fap o\u2019r sir i ddangos ym mha ardaloedd y gwelwyd problemau mynych, gan gyfuno gwybodaeth gan amryw asiantaethau i greu darlun cyflawn.<\/li>\n\n\n\n<li>Cynhaliom gyfarfodydd amlasiantaethol rheolaidd yng nghyd-destun camfanteisio ar blant, er mwyn rhannu gwybodaeth a hysbysu gwasanaethau o\u2019r datblygiadau diweddaraf.<\/li>\n\n\n\n<li>Cynhaliom sesiynau ar-lein ym mis Medi 2022 ar gyfer rhieni, pobl ifanc a gweithwyr proffesiynol yn s\u00f4n am ddiwylliant gangiau a llinellau sirol, yng nghwmni Matthew o 1 Message. Bu Matthew\u2019n s\u00f4n am ei brofiad o gael ei fagu mewn diwylliant o gangiau a llinellau sirol a sut lwyddodd i gefnu ar y bywyd hwnnw a dechrau cefnogi pobl ifanc eraill i beidio ag ymh\u00e9l yn yr un diwylliant, neu drawsnewid eu bywydau.<\/li>\n\n\n\n<li>Ym mis Hydref 2022 bu Matthew\u2019n ymweld \u00e2 phedair o ysgolion uwchradd i siarad \u00e2 phobl ifanc, dweud ei hanes ac ateb unrhyw gwestiynau. Rhannodd nifer o bobl ifanc eu profiadau mewn ymateb i hyn, ac maent bellach yn derbyn cefnogaeth.<\/li>\n\n\n\n<li>Ym mis Hydref hefyd cynhaliom weithdy diogelu ar-lein i rieni. Roedd hynny\u2019n ategu\u2019r sesiynau a ddarparwyd mewn ysgolion, ac rydym yn bwriadu dal i gynnig y sesiynau i rieni yn y dyfodol.<\/li>\n\n\n\n<li>Hwylusodd Heddlu Gogledd Cymru sesiynau yngl\u0177n \u00e2 chamfanteisio mewn Canolfannau i Deuluoedd ledled Conwy er mwyn helpu cymunedau i ddeall yr arwyddion i gadw golwg amdanynt a sut i roi gwybod am unrhyw beth sy\u2019n ymddangos yn rhyfedd neu\u2019n amheus. Byddwn yn dal i ddarparu\u2019r sesiynau hyn mewn cymunedau.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color\">Beth oedd yr heriau?<\/h4>\n\n\n\n<p>Fe gymerodd amser i ddod \u00e2\u2019r asiantaethau iawn ynghyd, er eu bod oll yn gefnogol ac yn awyddus i gydweithio er mwyn gwneud gwahaniaeth. Bu\u2019n fuddiol canolbwyntio ar graidd bychan o gyfranogwyr wrth gynnal gweithgorau\u2019n gyson, a gwahodd asiantaethau sy\u2019n arbenigo yn y maes dan sylw i bob cyfarfod. Fe\u2019i cawsom yn anodd hefyd i chwalu\u2019r mythau, sicrhau bod y wybodaeth iawn yn cyrraedd cymunedau a\u2019r plant a phobl ifanc mwyaf diamddiffyn.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color\">Beth sydd nesaf?<\/h3>\n\n\n\n<p>Byddwn yn dal i gwrdd fel gr\u0175p amlasiantaethol bach i drafod dulliau newydd o fodloni anghenion pobl ifanc yn ein cymunedau, a byddwn yn llunio cynllun ar gyfer darparu\u2019r wybodaeth briodol iddynt. Byddwn yn gofyn i bobl ifanc a\u2019u teuluoedd pa bethau y dymunant wybod mwy amdanynt, er mwyn sicrhau ein bod yn darparu cyngor penodol a pherthnasol.<\/p>\n\n\n\n<p>Byddwn yn ystyried a fyddai ymgyrch debyg i \u2018Ask for Angela\u2019 yn addas i blant a phobl ifanc, lle byddant yn gallu galw am help mewn sefyllfaoedd anodd.<\/p>\n\n\n\n<p>Byddwn yn ymgynghori \u00e2 chymunedau lleol, gan fod ymagwedd gymunedol tuag at atal camfanteisio yn allweddol.<\/p>\n\n\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-alpha-channel-opacity\"\/>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Proses Pryderon Cynnar ac Uwchgyfeirio Pryderon<\/h3>\n\n\n\n<p>Cynhaliodd ein T\u00eem Safonau Ansawdd dros 100 o ymweliadau monitro i gartrefi gofal, darparwyr gofal cartref a sefydliadau byw \u00e2 chymorth dros y deuddeg mis diwethaf. Cynhaliwyd rhai o\u2019r ymweliadau hyn ar y cyd gyda\u2019n partneriaid ar Fwrdd Iechyd Lleol Betsi Cadwaladr ac eraill gyda\u2019n timau gwaith cymdeithasol. Pwrpas yr ymweliadau yw adolygu ansawdd y gwasanaeth sy\u2019n cael ei ddarparu, gan roi ystyriaeth i faterion megis staffio, hyfforddiant, diogelu, lles personol ac ansawdd yr amgylchedd. Mae canlyniadau\u2019r ymweliadau monitro hyn yn cael eu rhannu gyda\u2019r darparwr a gyda\u2019n gilydd, os oes angen, rydym yn cytuno ar gynllun gweithredu priodol. <\/p>\n\n\n\n<p>Pob mis rydym yn cynnal cyfarfod \u2018cylch ansawdd\u2019 lle bo swyddogion o\u2019n Gwasanaethau Safonau Ansawdd a Diogelu a Gweithwyr Cymdeithasol yn cyfarfod \u00e2 phartneriaid o BIPBC, Arolygiaeth Gofal Cymru ac Awdurdodau Lleol cyfagos i rannu gwybodaeth am y gwahanol ddarparwyr yr ydym ni i gyd yn eu comisiynu ac er mwyn cydlynu ein gweithgarwch a\u2019n hymyriadau.<\/p>\n\n\n\n<p>Dros y deuddeg mis diwethaf, rydym wedi cefnogi pedwar cartref gofal gwahanol drwy\u2019r broses Pryderon Cynyddol. Gweithdrefn ledled Gogledd Cymru yw hon sy\u2019n galluogi Awdurdodau Lleol a Byrddau Iechyd Lleol i weithio gyda darparwyr gofal a gomisiynwyd i ymdrin \u00e2 meysydd pryder cynyddol ac arwyddocaol. Bu\u2019r t\u00eem Safonau Ansawdd yn gweithio\u2019n agos gyda\u2019r darparwyr hyn, ynghyd \u00e2\u2019n partneriaid yn BIPBC ac AGC i sicrhau bod y meysydd pryder yn cael eu datrys a\u2019r safonau\u2019n gwella.<\/p>\n\n\n\n<p>Ynghyd \u00e2 hyn, mae\u2019r T\u00eem Datblygu&#8217;r Gweithlu a Dysgu wedi parhau i gefnogi\u2019r sector cartrefi gofal a\u2019r sector gofal gartref er mwyn cael hyfforddiant hanfodol, ac yn enwedig dros y deuddeg mis diwethaf, wedi\u2019u cefnogi nhw gyda chofrestru gweithwyr cartrefi gofal preswyl oedolion gyda Gofal Cymdeithasol Cymru drwy aelod penodol o staff.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color\">Beth oedd yr heriau?<\/h4>\n\n\n\n<p>Rydym yn parhau i weld \u00f4l-effeithiau pandemig Covid, sy\u2019n cael eu dwysau gan y sefyllfa economaidd fyd-eang a\u2019r argyfwng costau byw. Mae darparwyr gofal yn parhau i frwydro gyda recriwtio a chadw staff, gyda nifer fechan o ddarparwyr yn dibynnu\u2019n sylweddol ar weithwyr asiantaeth, sy\u2019n gallu bod yn gostus iawn ac hefyd, nid ydynt yn darparu\u2019r gofal cyson sydd ei angen. Mae\u2019r argyfwng costau byw wedi golygu cynnydd sylweddol yng nghostau bwyd, gwasanaethau a thanwydd y darparwyr gofal. Ar \u00f4l cael cynrychiolaeth gan y sector gofal gartref am effaith chwyddiant sy\u2019n codi, fe wnaethom y penderfyniad i gynnal adolygiad canol blwyddyn o\u2019n lefelau ffioedd ac fe wnaethom ymgorffori cynnydd bychan yn ein ffioedd cartrefi gofal i gydnabod y chwyddiant ar lefel uwch o 10.1%. Fe wnaethom adolygu ein ffioedd sy\u2019n cael eu talu i ddarparwyr gofal gartref hefyd a defnyddiom arian Llywodraeth Cymru i roi \u00a31 yr awr yn ychwanegol i gefnogi costau tanwydd a staffio cynyddol sy\u2019n effeithio ar y sector hwn.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color\">Beth sydd nesaf?<\/h4>\n\n\n\n<p>Rydym yn falch iawn gyda\u2019r ffordd y mae\u2019r prosesau hyn yn gweithio yng Nghonwy a\u2019r bartneriaeth waith sydd gennym gyda BIPBC, AGC a\u2019r darparwyr gofal annibynnol.<\/p>\n\n\n\n<p>Rydym wedi ymrwymo i gynnal ymgynghoriad ystyrlon ac ymgysylltu gyda phreswylwyr cartrefi gofal a\u2019u teuluoedd yn barhaus. Rydym wedi cychwyn cynllunio prosiect therapi atgofion newydd ar gyfer 2023, gyda Cyngor Sir Ddinbych a bookofyou.co.uk a fydd yn cynnwys mwy o wirfoddolwyr, preswylwyr a\u2019u teuluoedd wrth greu straeon bywyd gan ddefnyddio geiriau, lluniau, cerddoriaeth a ffilm. <\/p>\n\n\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-alpha-channel-opacity\"\/>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid a Diogelu<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid wedi mabwysiadu Dull Graddedig gyda phob achos er mwyn gwneud yn si\u0175r bod ymyriadau yn cael eu teilwra i\u2019r unigolyn, ac yn seiliedig ar asesiad o\u2019u risgiau a\u2019u anghenion.  Y canlyniadau arfaethedig yw gostwng y tebygolrwydd o\u2019r unigolyn ifanc yn aildroseddu drwy deilwra dwysedd yr ymyriad yn yr asesiad, a rheoli\u2019r risg o niwed difrifol iddyn nhw eu hunain ac eraill.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Pennod Newydd<\/h3>\n\n\n\n<p>Eleni, sefydlwyd ymyrraeth newydd yng Nghonwy i gefnogi teuluoedd sy\u2019n profi ymddygiad ymosodol gan eu plant.  Mae camdriniaeth rhwng plentyn a rhiant \/ gofalwr yn fater sy\u2019n cynyddu, ac er ei fod yn parhau i gael ei guddio ac yn llawn stigma, mae mwy o deuluoedd yn ceisio cymorth.<\/p>\n\n\n\n<p>Buom yn gweithio gyda Dr Ceryl Davies o Brifysgol Bangor i addasu ei rhaglen sy\u2019n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer Conwy.  Erbyn hyn, mae gennym becyn gwaith gyda llwybr pendant ar gyfer cael cefnogaeth, teclyn sgrinio, templed cynllun diogelwch a rhaglen naw wythnos o ymyriadau sy\u2019n gallu cael ei ddarparu mewn gr\u0175p neu un i un.  Erbyn diwedd mis Mawrth 2023, mae mwy nag 80 o staff yng Nghonwy wedi cael eu hyfforddi i gyflwyno\u2019r ymyriadau gyda rhieni a gofalwyr, a chyda phobl ifanc.  Mae amrywiaeth o weithwyr proffesiynol aml-asiantaeth bellach yn gallu cyflwyno\u2019r ymyriadau, gan gynnwys Gweithwyr Teuluoedd, Gweithwyr Cymdeithasol, Gweithwyr Therapiwtig, Gweithwyr Ieuenctid, y T\u00eem TRAC, Cyfiawnder Ieuenctid, Gwasanaeth Cam-drin Domestig, Unedau Cyfeirio Disgyblion, Swyddogion Addysg a mwy.  <\/p>\n\n\n\n<p>Enw\u2019r rhaglen yw \u2018Pennod Newydd\u2019 i adlewyrchu\u2019r cychwyn cadarnhaol newydd i\u2019r teuluoedd hyn.  Cychwynnodd yr ymyrraeth gr\u0175p cyntaf ym mis Mawrth ar gyfer gr\u0175p o rieni a gofalwyr a gr\u0175p o bobl ifanc ar wah\u00e2n.   Mae digonedd o gefnogaeth ar gael i ymarferwyr sy\u2019n defnyddio\u2019r ymyraethau, gyda sesiynau myfyrio rheolaidd gyda Dr Ceryl Davies.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-full is-resized\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/08\/Pennod-Newydd-New-Chapter-poster-Cymraeg.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-3563\" width=\"796\" height=\"1130\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/08\/Pennod-Newydd-New-Chapter-poster-Cymraeg.png 528w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/08\/Pennod-Newydd-New-Chapter-poster-Cymraeg-211x300.png 211w\" sizes=\"auto, (max-width: 796px) 100vw, 796px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-alpha-channel-opacity\"\/>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Wythnos Ddiogelu 2022<\/h3>\n\n\n\n<p>Cynhaliwyd Wythnos Genedlaethol Diogelu rhwng 14 a 18 Tachwedd 2022 ac unwaith eto fe wnaethom gydlynu gweithgareddau i godi ymwybyddiaeth o ddiogelu oedolion a phlant dan fygythiad. Fe wnaethom ddefnydd penodol o sesiynau briffio 7 munud Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru, a ddosbarthwyd i staff ar draws holl wasanaethau\u2019r Cyngor bob dydd yn ystod yr wythnos. Bob dydd fe aethom ati i archwilio them\u00e2u newydd, megis diogelu mewn chwaraeon, bwlio ar-lein, chwilfrydedd proffesiynol a rheolaeth drwy orfodaeth.<\/p>\n\n\n\n<p>Rydym yn credu bod diogelu yn fusnes i bawb, felly os oes gennych bryderon am unigolyn, <a href=\"https:\/\/www.conwy.gov.uk\/cy\/Resident\/Social-Care-and-Wellbeing\/Im-worried-about-somebody\/I-am-worried-about-somebody.aspx\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">rhowch wybod i ni<\/a>.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae pobl yn cael eu diogelu rhag camdriniaeth ac esgeulustod a mathau eraill o niwed Y Dull Gweithredu Safe and Together Mae\u2019r dull gweithredu Safe and Together wedi\u2019i gyflwyno yng Nghonwy dan arweiniad y t\u00eem Pobl Ddiamddiffyn. Mae\u2019n ddull ymarfer sydd \u00e2\u2019r nod o wella\u2019r ffordd y mae systemau lles plant ac ymarferwyr yn ymateb [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":9,"featured_media":0,"parent":3288,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"_seopress_robots_primary_cat":"","_seopress_titles_title":"","_seopress_titles_desc":"","_seopress_robots_index":"","_genesis_hide_title":false,"_genesis_hide_breadcrumbs":false,"_genesis_hide_singular_image":false,"_genesis_hide_footer_widgets":false,"_genesis_custom_body_class":"","_genesis_custom_post_class":"","_genesis_layout":"","footnotes":""},"class_list":{"0":"post-3543","1":"page","2":"type-page","3":"status-publish","5":"entry"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/3543","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/9"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=3543"}],"version-history":[{"count":6,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/3543\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":3645,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/3543\/revisions\/3645"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/3288"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=3543"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}