{"id":3536,"date":"2023-08-29T09:33:03","date_gmt":"2023-08-29T08:33:03","guid":{"rendered":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/adroddiad-2022-23\/safon-ansawdd-8\/"},"modified":"2023-08-29T15:36:24","modified_gmt":"2023-08-29T14:36:24","slug":"safon-ansawdd-8","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/adroddiad-2022-23\/safon-ansawdd-8\/","title":{"rendered":"Safon Ansawdd 8:"},"content":{"rendered":"\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Mae pobl yn cael eu cefnogi i reoli eu lles a gwneud eu penderfyniadau deallus eu hunain fel eu bod yn gallu cyflawni eu llawn botensial a byw\u2019n annibynnol am gyn hired \u00e2 phosibl<\/h2>\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Sesiynau a Grwpiau Cymunedol<\/h3>\n\n<p>Mae ein T\u00eem Cadw\u2019n Iach yn trefnu ac yn hyrwyddo gweithgareddau yn y gymuned ledled Sir Conwy er mwyn i bobl h\u0177n wella eu lles corfforol a meddyliol. Caiff unigolion eu hannog i gysylltu gyda\u2019u cymunedau a dysgu sgiliau newydd. Eleni, fe wnaethom nodi bod angen nifer o sesiynau gweithgareddau newydd, ac mae\u2019r rhain bellach wedi\u2019u sefydlu ac yn hunangynaliadwy:<\/p>\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Sesiynau canu llawn hwyl yn Llanrwst, mewn partneriaeth gyda Chartrefi Conwy<\/li>\n\n\n\n<li>Sesiwn ymarfer corff o\u2019ch sedd yn Llandrillo-yn-Rhos,, gyda darparwr lleol &#8211; Matt Freeman<\/li>\n\n\n\n<li>Sesiynau natur a mynd am dro ym Mae Colwyn, mewn partneriaeth gyda Coed Lleol<\/li>\n\n\n\n<li>Prynhawn llawn celf yn Llandudno, mewn partneriaeth gydag Oriel Gelf Mostyn<\/li>\n<\/ul>\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"aligncenter size-large is-resized\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/08\/Elderly-Exercise-1024x575.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-3489\" width=\"834\" height=\"468\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/08\/Elderly-Exercise-1024x575.png 1024w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/08\/Elderly-Exercise-300x169.png 300w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/08\/Elderly-Exercise-768x432.png 768w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/08\/Elderly-Exercise-1536x863.png 1536w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/08\/Elderly-Exercise.png 1920w\" sizes=\"auto, (max-width: 834px) 100vw, 834px\" \/><\/figure><\/div>\n<p>Un o\u2019n prif amcanion eleni oedd hyrwyddo ein darpariaeth gyfredol felly fe wnaethom ail-lansio ein hamserlenni a byddwn yn parhau i\u2019w diweddaru bob chwarter. Rhwng mis Ebrill a mis Rhagfyr 2022 fe gynhaliom 74 o sesiynau gwahanol a fynychwyd gan 682 o bobl. Cynigom ystod o ddigwyddiadau cymdeithasol, teithiau cerdded addysgol, sesiynau celf a chrefft, sesiynau yn ymwneud yn benodol \u00e2 dementia, sesiynau rhwng cenedlaethau a sesiynau i ofalwyr, i enwi ond rhai.<\/p>\n\n<p>Rydym yn gofyn am adborth gan bobl sy\u2019n mynychu ein sesiynau, ac ar gyfer y rheiny a gynhaliwyd rhwng mis Ebrill a mis Rhagfyr:<\/p>\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Dywedodd 55% ohonynt eu bod yn fwy egn\u00efol o ganlyniad i fynychu un o\u2019n rhaglenni<\/li>\n\n\n\n<li>Dywedodd 97% eu bod wedi cysylltu ag eraill o ganlyniad i fynychu un o\u2019n rhaglenni<\/li>\n\n\n\n<li>Dywedodd 75% ohonynt eu bod yn fwy tebygol o roi amser i eraill o ganlyniad i fynychu un o\u2019n rhaglenni<\/li>\n\n\n\n<li>Dywedodd 93% eu bod wedi dysgu rhywbeth newydd o ganlyniad i fynychu un o\u2019n rhaglenni<\/li>\n\n\n\n<li>Dywedodd 85% eu bod wedi cymryd fwy o sylw o\u2019u hunain, ac eraill o\u2019u cwmpas, o ganlyniad i fynychu un o\u2019n rhaglenni<\/li>\n\n\n\n<li>Dywedodd 75% eu bod wedi gwella eu lles cyffredinol o ganlyniad i fynychu un o\u2019n rhaglenni<\/li>\n\n\n\n<li>Dywedodd 53% eu bod wedi gwella cyflwr eu hiechyd o ganlyniad i fynychu un o\u2019n rhaglenni<\/li>\n\n\n\n<li>Dywedodd 32% ohonynt eu bod yn teimlo\u2019n llai unig o ganlyniad i fynychu un o\u2019n rhaglenni<\/li>\n\n\n\n<li>Dywedodd 81% eu bod wedi cyflawni\u2019r hyn sydd wirioneddol yn bwysig iddynt o ganlyniad i fynychu un o\u2019n rhaglenni<\/li>\n\n\n\n<li>Dywedodd 98% y byddent yn argymell ein gwasanaeth i eraill<\/li>\n<\/ul>\n\n<h4 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color\">Beth oedd yr heriau?<\/h4>\n\n<p>Roedd gennym ddiffyg staff wrth ddisgwyl am ganlyniad cynigion nawdd i recriwtio i swyddi gweigion. Gostyngodd gallu ein t\u00eem o 59% am dros chwe mis wnaeth gael effaith fawr ar ein gallu i gyflawni ein hamcanion a\u2019n nodau a llesteiriodd ein gallu i wneud cynlluniau tymor hir.<\/p>\n\n<h4 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color\">Beth sydd nesaf?<\/h4>\n\n<p>Erbyn hyn, mae gennym dri Swyddog Lles llawn amser sydd wedi cael eu dyrannu i\u2019w hardaloedd canolbwynt newydd sef Bae Cinmel a Thowyn, Llandrillo-yn-Rhos a Dwygyfylchi a Phenmaenmawr. Mae\u2019r gwaith eisoes wedi cychwyn yn yr ardaloedd hyn ac rydyn yn canolbwyntio ar hyn o bryd ar gyflawni sesiynau ymgynghori anffurfiol, fel boreau lles, stondinau ymwybyddiaeth a theithiau cerdded. Bydd y sesiynau hyn yn ein galluogi ni i hyrwyddo ein darpariaeth gyfredol a chysylltu \u00e2 phobl h\u0177n sy\u2019n byw yn yr ardaloedd hyn er mwyn gweld a oes unrhyw fylchau yn y ddarpariaeth. Yna, rydym yn gobeithio cefnogi sefydlu gweithgareddau newydd, cynaliadwy i gefnogi iechyd a lles oedolion h\u0177n sy\u2019n byw yn yr ardaloedd hyn.<\/p>\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-alpha-channel-opacity\"\/>\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Cynllun peilot incwm sylfaenol i\u2019r rhai sy\u2019n gadael gofal<\/h3>\n\n<p>Ym mis Gorffennaf 2022, lansiodd Llywodraeth Cymru \u2018Gynllun Peilot Incwm Sylfaenol\u2019. Cynllun yw hwn ar gyfer pobl ifanc sydd wedi bod mewn gofal, sy\u2019n troi\u2019n 18 oed mewn cyfnod penodol o amser. Mae\u2019r Cynllun Peilot Incwm Sylfaenol yn darparu \u00a31600 bob mis am gyfnod o ddwy flynedd.  Mae\u2019n cael ei drethu ar y dechrau ac mae\u2019n cael ei dalu yn lle budd-daliadau.<\/p>\n\n<p>Yng Nghonwy, mae gennym naw o bobl ifanc sy\u2019n gymwys ar gyfer y cynllun.  Ar hyn o bryd, roedd pedwar o bobl ifanc yn gymwys i gofrestru ar gyfer y cynllun ac fe wnaeth tri ohonynt dderbyn y cyfle.  Mae un ohonynt wedi gallu canolbwyntio ar ddechrau busnes, sydd wedi bod yn gam cadarnhaol.<\/p>\n\n<h4 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color\">Beth oedd yr heriau?<\/h4>\n\n<p>Cyfnod lansio byr iawn oedd yna ar gyfer y cynllun peilot ac fe wnaeth hynny effeithio ar ein gallu i gynllunio i weithredu\u2019r cynllun.&#13;\nOherwydd yr ansicrwydd o ran yr argyfwng economaidd, nid oes unrhyw warant y bydd hyn yn parhau tu hwnt i\u2019r cyfnod peilot cychwynnol.<\/p>\n\n<h4 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color\">Beth sydd nesaf?<\/h4>\n\n<p>Bydd pobl ifanc yn cael eu hannog i gymryd rhan mewn ymchwil i ystyried effeithiolrwydd y Cynllun Peilot Incwm Sylfaenol. <\/p>\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-alpha-channel-opacity\"\/>\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Cronfa Dydd G\u0175yl Dewi<\/h3>\n\n<p>Mae Cronfa Dydd G\u0175yl Dewi yn nawdd cymharol fechan, \u00a333,205 y flwyddyn, sy\u2019n anelu at gefnogi plant sy\u2019n derbyn gofal, a\u2019r rhai sy\u2019n gadael gofal rhwng 16 a 25 oed. <\/p>\n\n<p>Pwrpas y grant yw rhoi cefnogaeth ychwanegol tuag at fyw\u2019n annibynnol, gan ganolbwyntio ar feysydd fel:<\/p>\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Helpu gyda chyflogaeth, er enghraifft gwiriadau y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, teithio, trwyddedau.<\/li>\n\n\n\n<li>Hyfforddiant ac addysg; er enghraifft, gliniaduron a llyfrau cwrs.<\/li>\n\n\n\n<li>Anghenion llety fel nwyddau\u2019r t\u0177 a chefnogaeth gyda blaendaliadau a symud t\u0177. <\/li>\n\n\n\n<li>Iechyd a lles cyffredinol fel dillad a byw\u2019n iach.<\/li>\n<\/ul>\n\n<p>Yn ogystal \u00e2 chefnogi rhaglenni unigol, defnyddiwyd cronfa Dydd G\u0175yl Dewi i ddatblygu gwefan yn benodol ar gyfer y rhai sy\u2019n gadael gofal yng Nghonwy, o\u2019r enw Camau Bach Dyfodol Disglair.  Hyd yn hyn, rydym wedi cael 53 cais drwy\u2019r wefan ar gyfer cronfa Dydd G\u0175yl Dewi.<\/p>\n\n<h4 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color\">Beth oedd yr heriau?<\/h4>\n\n<p>Yr her parhaus ac allweddol wrth reoli\u2019r grant yw sicrhau ein bod cyn deced \u00e2 phosib a bod y nawdd yn cael ei ddefnyddio i roi\u2019r budd gorau i bob unigolyn. Mae gennym banel wythnosol, sy\u2019n cynnwys unigolyn ifanc, fel bod penderfyniadau\u2019n cael eu gwneud yn gyflym a bod bob cais yn cael ei adolygu yn unol \u00e2\u2019i rinweddau ac yng nghyd-destun ceisiadau blaenorol. Roeddem ni\u2019n falch iawn o gael sicrwydd uchel yn ystod yr arolwg archwilio diwethaf.<\/p>\n\n<h4 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color\">Beth sydd nesaf?<\/h4>\n\n<p>Byddwn yn parhau i reoli\u2019r gronfa grantiau mor effeithiol ac effeithlon \u00e2 phosib, ac ar yr pryd yn parhau i ddarparu amrywiaeth o gyfleoedd ar gyfer y rhai sy\u2019n gadael gofal. Rydym wedi gwneud cysylltiadau gyda Can Cook, elusen benodol ar gyfer cefnogi pobl i fwyta\u2019n dda ac o hyn ymlaen, bydd yn cynnig cwrs popty araf i\u2019r rhai sy\u2019n gadael gofal fel y gallent ddysgu sut i fwyta\u2019n iach ac yn gost-effeithiol.&#13;\n&#13;\n<\/p>\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"aligncenter size-full is-resized\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/08\/Chefs-01.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-3491\" width=\"635\" height=\"531\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/08\/Chefs-01.png 495w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/08\/Chefs-01-300x251.png 300w\" sizes=\"auto, (max-width: 635px) 100vw, 635px\" \/><\/figure><\/div>\n<hr class=\"wp-block-separator has-alpha-channel-opacity\"\/>\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Cynyddu gallu ar \u2018ddrws ffrynt\u2019 ein plant<\/h3>\n\n<p>Er mwyn cynyddu ein gallu i brosesu achosion o fewn ein T\u00eem Asesu a Chymorth, rydym wedi datblygu r\u00f4l Asesydd a Gweithiwr Cefnogi newydd i asesu, cynllunio, adolygu a darparu cynlluniau gofal a chymorth. Roedd hyn yn rhoi cyfle i ymgeiswyr heb gymwysterau Gweithiwr Cymdeithasol i ddatblygu eu sgiliau, ac yn ei hanfod, yn disodli swyddi gwag am Weithiwr Cymdeithasol a oeddem yn cael anhawster yn eu llenwi. R\u0175an, ar \u00f4l pedwar mis o\u2019r cynllun peilot, gallwn weld bod y trefniant hwn yn gweithio\u2019n dda. Mae deiliaid y swyddi yn symud achosion yn effeithiol o d\u00eem drws ffrynt gwasanaethau plant i gefnogaeth gyffredinol, neu ofal a chefnogaeth tymor hwy gan ein timau gwaith cymdeithasol. Mae\u2019r sgiliau a gynhigiwyd gan yr ymgeiswyr hyn o swyddi Ymyrraeth Deuluol blaenorol wedi bod yn werthfawr, ac mae eu mewnbwn wedi galluogi i Weithwyr Cymdeithasol Cymwys ganolbwyntio ar waith gofal a chefnogaeth, a diogelu ar lefel uwch.<\/p>\n\n<h4 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color\">Beth oedd yr heriau?<\/h4>\n\n<p>Roedd y mwyafrif o heriau yn dod yn sgil yr elfen adnoddau dynol, gan gynnwys newid mewn diwylliant a dull rheoli, y swm o waith oedd i\u2019w wneud wrth greu swyddi newydd sbon, ac echdynnu a dyrannu\u2019r gwaith, sy\u2019n addas i\u2019w graddfa, i weddill y t\u00eem. Mae recriwtio i\u2019n swyddi parhaol yn parhau i fod yn her, ac mae hyn yn rhannol yn arwain at ein penderfyniad i geisio rhywbeth newydd gyda\u2019r sgiliau sydd eisoes gennym yn ein gweithlu.<\/p>\n\n<p>Mae\u2019r newid wedi bod yn digwydd mewn cyfnod pan dderbyniodd y sir nifer o Blant ar eu Pen eu Hunain yn Ceisio Lloches, sy\u2019n gofyn am fewnbwn gan Weithwyr Cymdeithasol Cymwys. Felly, nid oedd modd i\u2019r Asesydd a\u2019r Gweithiwr Cefnogi ddarparu\u2019r arbenigedd angenrheidiol i brosesu\u2019r achosion penodol hyn.<\/p>\n\n<h4 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color\">Beth sydd nesaf?<\/h4>\n\n<p>Rydym yn bwriadu gwneud swydd yr Asesydd a\u2019r Gweithiwr Cefnogi\u2019n un barhaol, a\u2019i chyfuno i swydd ymarferydd gofal cymdeithasol ehangach. Mae angen i ni ystyried a fyddant yn disodli\u2019r Gweithwyr Cymdeithasol Cymwys yn barhaol, felly byddwn yn parhau i fonitro\u2019r galw ar y t\u00eem yn ei gyfanrwydd er mwyn gwneud y penderfyniad hwnnw.<\/p>\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-alpha-channel-opacity\"\/>\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Darparu llety addas i blant a phobl ifanc ag anableddau<\/h3>\n\n<p>Rydym wedi ymrwymo i alluogi plant a phobl ifanc sy\u2019n derbyn gofal gan yr Awdurdod Lleol i barhau i fyw yng Nghonwy mewn llety addas gyda\u2019r gefnogaeth iawn.  Gweledigaeth y Gwasanaeth Anableddau yw bod darpariaeth llety a gofal yn ddi-d\u00f4r yn ystod y cyfnod pontio i fod yn oedolyn. O ganlyniad, rydym wedi gweithio gyda Thai First Choice i ganfod eiddo sy\u2019n hyblyg, ac a fydd yn ein caniat\u00e1u i ddarparu llety parhaus ar \u00f4l 18 mlwydd oed drwy ddadgofrestru a chreu gwasanaethau Byw \u00e2 Chymorth wrth i bob person ifanc ddod yn oedolyn. <\/p>\n\n<p>Mae Cymdeithas Tai First Choice wedi canfod, a chwblhau\u2019r broses gaffael ar eiddo yn Llandudno ar gyfer tri o blant ag anableddau sy\u2019n byw mewn lleoliadau preswyl tu allan i\u2019r sir ar hyn o bryd.  Mae Llywodraeth Cymru wedi dyfarnu cyllid i Dai gyda Gofal i werth o \u00a3741,048 ar gyfer costau caffael ac adeiladu, a chyllid preifat FCH o \u00a3399,027.<\/p>\n\n<p>Mae cynlluniau pensaern\u00efol wedi cael eu llunio, gan wneud y mwyaf o\u2019r gofod yn yr eiddo i letya tri rhandy ar wah\u00e2n, ardal staffio a gofod addas tu allan ar gyfer chwarae synhwyraidd.  Cynhaliwyd ymgynghoriad gyda\u2019r Adran Gynllunio, ac mae cynlluniau terfynol wedi cael eu cyflwyno i\u2019w cadarnhau.<\/p>\n\n<p>Mae dogfen \u2018Cynllunio Fy Nghartref\u2019 wedi cael ei chwblhau erbyn hyn sy\u2019n dangos sut edrychiad ddylai\u2019r rhandai gael, sy\u2019n bwrpasol ar gyfer pob plentyn sy\u2019n byw yno, ac mae ymholiadau wedi cael eu cadarnhau ar gyfer y pensaer i roi\u2019r fanyleb allan i dendr er mwyn i gontractwr gwblhau\u2019r gwaith. Mae\u2019r gwaith o lunio dogfennau prosiect yn mynd rhagddo, ac mae\u2019r bwrdd prosiect a\u2019r grwpiau wedi cael eu nodi.<\/p>\n\n<p>Mae Arolygiaeth Gofal Cymru wedi cadarnhau y bydd angen cofrestru\u2019r eiddo fel cartref preswyl plant, ac wrth i bob plentyn droi\u2019n 18 oed, gellir dadgofrestru ac ailgofrestru\u2019r eiddo fel lleoliad gofal cartref, gan ganiat\u00e1u i\u2019r plentyn neu berson ifanc cael tenantiaeth ar eu rhandy. <\/p>\n\n<p>Ymgynghorwyd gyda phob teulu, ac maent i gyd yn cytuno i\u2019r plant ddychwelyd i Gonwy.  Ymgynghorwyd \u00e2 darparwyr preswyl presennol hefyd; maent yn cefnogi\u2019r camau gweithredu a byddant yn cymryd rhan mewn nodi a gweithredu cynlluniau pontio. Mae ymgysylltiad \u00e2\u2019r adran Addysg yn nhermau darpariaeth lleoedd ysgol ar gyfer y tri phlentyn ar \u00f4l iddynt ddychwelyd i\u2019r Sir.<\/p>\n\n<h4 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color\">Beth oedd yr heriau?<\/h4>\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Getting the project started, as no dedicated Project Manager was in place to lead on this.\u00a0 The Project Manager later identified is managing this in addition to their current job role.<\/li>\n\n\n\n<li>Architects have had to be creative to maximise the space of the property to accommodate all of the needs required for the children, but equally some compromises have had to be reached between the Wish List versus the Must-Have List.<\/li>\n\n\n\n<li>Timescales are tight on completing some of the work streams to ensure the home becomes operational by January 2024.<\/li>\n<\/ul>\n\n<h4 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color\">Beth sydd nesaf?<\/h4>\n\n<p>Rydym wedi nodi\u2019r meysydd canlynol fel blaenoriaeth:<\/p>\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Cwblhau gwerthusiad dewis i benderfynu a ddylai\u2019r darparwr cefnogi fod yn fewnol neu\u2019n allanol<\/li>\n\n\n\n<li>Aros i\u2019r Adran Gynllunio gymeradwyo cynlluniau ar gyfer y gwaith adeiladu<\/li>\n\n\n\n<li>Dyfarnu\u2019r gwaith adeiladu i gontractwr yn dilyn proses dendr<\/li>\n\n\n\n<li>Nodi cynlluniau pontio ar gyfer pob plentyn<\/li>\n\n\n\n<li>Ymgynghori gyda phob budd-ddeiliad allweddol nad ydynt yn rhan o\u2019r Bwrdd Prosiect neu\u2019r grwpiau\u2019r prosiect&#13;\n&#13;\n<\/li>\n<\/ul>\n\n<p>Rydym yn anelu at gael y llety\u2019n weithredol o fis Ionawr 2024, a byddwn yn rhoi\u2019r wybodaeth ddiweddaraf am hyn yn ein hadroddiad nesaf.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae pobl yn cael eu cefnogi i reoli eu lles a gwneud eu penderfyniadau deallus eu hunain fel eu bod yn gallu cyflawni eu llawn botensial a byw\u2019n annibynnol am gyn hired \u00e2 phosibl Sesiynau a Grwpiau Cymunedol Mae ein T\u00eem Cadw\u2019n Iach yn trefnu ac yn hyrwyddo gweithgareddau yn y gymuned ledled Sir Conwy [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":9,"featured_media":0,"parent":3288,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"_seopress_robots_primary_cat":"","_seopress_titles_title":"","_seopress_titles_desc":"","_seopress_robots_index":"","_genesis_hide_title":false,"_genesis_hide_breadcrumbs":false,"_genesis_hide_singular_image":false,"_genesis_hide_footer_widgets":false,"_genesis_custom_body_class":"","_genesis_custom_post_class":"","_genesis_layout":"","footnotes":""},"class_list":{"0":"post-3536","1":"page","2":"type-page","3":"status-publish","5":"entry"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/3536","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/9"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=3536"}],"version-history":[{"count":5,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/3536\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":3629,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/3536\/revisions\/3629"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/3288"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=3536"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}