{"id":3534,"date":"2023-08-29T08:50:46","date_gmt":"2023-08-29T07:50:46","guid":{"rendered":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/adroddiad-2022-23\/sut-rydym-yn-cyflawni-ein-gwaith\/"},"modified":"2023-08-29T15:33:35","modified_gmt":"2023-08-29T14:33:35","slug":"sut-rydym-yn-cyflawni-ein-gwaith","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/adroddiad-2022-23\/sut-rydym-yn-cyflawni-ein-gwaith\/","title":{"rendered":"Sut rydym yn cyflawni ein gwaith"},"content":{"rendered":"\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Gweithio mewn partneriaeth, arweinyddiaeth wleidyddol a chorfforaethol, llywodraethu ac atebolrwydd<\/h3>\n\n\n\n<p>Daeth Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 i rym ym mis Ebrill 2016. Mae&#8217;n darparu&#8217;r fframwaith cyfreithiol ar gyfer gwella lles pobl y mae angen gofal a chymorth arnynt, a gofalwyr sydd angen cymorth, ac ar gyfer trawsnewid gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru. Egwyddorion sylfaenol y Ddeddf yw: <\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-full is-resized\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/08\/Principles-of-the-Act-cym-1.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-3558\" width=\"839\" height=\"401\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/08\/Principles-of-the-Act-cym-1.jpg 701w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/08\/Principles-of-the-Act-cym-1-300x143.jpg 300w\" sizes=\"auto, (max-width: 839px) 100vw, 839px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p>Mae <a href=\"https:\/\/gofalcymdeithasol.cymru\/adnoddau-canllawiau\/hyb-gwybodaeth-a-dysgu\/deddf-sswb\/codau-ymarfer?_gl=1*1evqda0*_ga*MTQ5OTk1NDcyMC4xNjkwODA0MTA5*_ga_N1F41E7ER2*MTY5MjcwNDIyNi4yLjAuMTY5MjcwNDIyNi4wLjAuMA..*_ga_0W13E886PZ*MTY5MjcwNDIyNi4yLjAuMTY5MjcwNDIyNi42MC4wLjA.\">Cod Ymarfer<\/a> yn nodi fframwaith ar gyfer mesur y cynnydd y mae awdurdodau lleol yn ei wneud yn erbyn eu dyletswyddau dan y Ddeddf fel cyfanwaith. Mae\u2019r broses hon hefyd yn ein galluogi i wella ein gwasanaethau\u2019n barhaus.&nbsp; Fel y nodir yn y Cod Ymarfer, mae gennym drefniadau mewn grym ar gyfer casglu ac adrodd ar ddata am fesuryddion perfformiad statudol i Lywodraeth Cymru bob blwyddyn.&nbsp; Caiff perfformiad ei fesur yn unol \u00e2 phob un o&#8217;r safonau ansawdd sy&#8217;n canolbwyntio ar bobl, atal, partneriaethau ac integreiddio a lles.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae gan Gonwy drefniadau llywodraethu mewn grym i gefnogi dulliau rheoli effeithiol ar gyfer Gofal Cymdeithasol. Mae gan y Cyngor Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd a phenododd ddau Ddeilydd Portffolio i gynrychioli Plant, Teuluoedd a Diogelu, a Gwasanaethau Oedolion a Chymunedol Integredig.  Rydym yn cyflwyno amrywiol adroddiadau i\u2019r Pwyllgor Craffu i\u2019w hadolygu a\u2019u herio ac mae gennym broses fewnol gadarn ar gyfer herio perfformiad a chael trosolwg ohono.  Cynhelir cyfarfodydd gyda\u2019n harolygiaeth drwy gydol y flwyddyn ac rydym yn mynd ati i adolygu ein harferion ein hunain yn rheolaidd fel mater o drefn er mwyn sicrhau gwelliant parhaus yn ein gwasanaeth.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae <a href=\"https:\/\/www.llyw.cymru\/llesiant-cenedlaethaur-dyfodol-cymru\">Deddf Llesiant Cenedlaethau\u2019r Dyfodol (Cymru) 2015<\/a> Llywodraeth Cymru yn amlinellu cyfres o ganlyniadau cenedlaethol ac mae\u2019n gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i roi datblygu cynaliadwy wrth wraidd eu penderfyniadau.&nbsp; Mae\u2019r Ddeddf hon yn sicrhau bod ystyriaethau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd yn ganolog i\u2019r penderfyniadau a wneir.<\/p>\n\n\n\n<p>Yng Nghonwy, rydym yn ymgorffori\u2019r amcanion hyn yn ein <a href=\"https:\/\/www.conwy.gov.uk\/cy\/Council\/Strategies-Plans-and-Policies\/Corporate-Plan\/Corporate-Plan-2022-2027.aspx\">Cynllun Corfforaethol newydd a fydd yn bodoli rhwng 2022 a 2027<\/a>. Mae ein cynllun yn nodi ein dyheadau i wneud gwahaniaeth i Bobl Conwy dros y pum mlynedd nesaf, er mwyn bodloni ein canlyniadau hirdymor ar gyfer ein dinasyddion.<\/p>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"aligncenter size-full\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"588\" height=\"776\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/08\/Welsh-Quality-Standards.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-3604\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/08\/Welsh-Quality-Standards.png 588w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/08\/Welsh-Quality-Standards-227x300.png 227w\" sizes=\"auto, (max-width: 588px) 100vw, 588px\" \/><\/figure><\/div>\n\n\n<p>Fel gwasanaeth, rydym yn myfyrio ar y modd yr ydym yn cyfrannu at y blaenoriaethau hyn drwy ein proses Adolygu Perfformiad y Gwasanaeth bob chwe mis. <\/p>\n\n\n\n<p>Mae <a href=\"https:\/\/gofalcymdeithasol.cymru\/adnoddau-canllawiau\/hyb-gwybodaeth-a-dysgu\/deddf-sswb\/trowsolwg?_gl=1*1e4f08j*_ga*MTQ5OTk1NDcyMC4xNjkwODA0MTA5*_ga_N1F41E7ER2*MTY5MjcwNDIyNi4yLjEuMTY5MjcwNDQwMy4wLjAuMA..*_ga_0W13E886PZ*MTY5MjcwNDIyNi4yLjEuMTY5MjcwNDQwMy42MC4wLjA.\">Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014<\/a> and <a href=\"https:\/\/gofalcymdeithasol.cymru\/adnoddau-canllawiau\/hyb-gwybodaeth-a-dysgu\/deddf-sswb\/codau-ymarfer?_gl=1*1clwweu*_ga*MTQ5OTk1NDcyMC4xNjkwODA0MTA5*_ga_N1F41E7ER2*MTY5MjcwNDIyNi4yLjEuMTY5MjcwNDQyMS4wLjAuMA..*_ga_0W13E886PZ*MTY5MjcwNDIyNi4yLjEuMTY5MjcwNDQyMS40Mi4wLjA.\">Codau Ymarfer<\/a> yn nodi fframwaith ar gyfer mesur y cynnydd y mae awdurdodau lleol yn ei wneud yn erbyn eu dyletswyddau dan y Ddeddf fel cyfanwaith.&nbsp; Mae\u2019r broses hon hefyd yn galluogi awdurdodau lleol i wella\u2019u gwasanaethau\u2019n barhaus.&nbsp; Fel y nodir yn y Cod Ymarfer, mae gennym drefniadau cadarn mewn grym ar gyfer casglu ac adrodd ar ddata am fesuryddion perfformiad statudol i Lywodraeth Cymru bob blwyddyn.&nbsp; Caiff perfformiad ei fesur yn unol \u00e2 phob un o&#8217;r safonau ansawdd sy&#8217;n canolbwyntio ar bobl, partneriaethau ac integreiddio ac atal.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae gan Gonwy drefniadau llywodraethu cadarn i gefnogi dulliau rheoli effeithiol ar gyfer Gofal Cymdeithasol. Mae\u2019r Cyngor wedi sefydlu Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Iechyd a Gofal Cymdeithasol.  Mae\u2019r Cyngor wedi penodi dau Ddeiliad Portffolio sy\u2019n cynrychioli Gofal Cymdeithasol Plant a Theuluoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol Oedolion a Hamdden.  Rydym hefyd yn cyflwyno amrywiol adroddiadau i\u2019r Pwyllgor Craffu i\u2019w hadolygu a\u2019u herio.  Yn ogystal, mae gennym broses fewnol gadarn i oruchwylio a herio perfformiad.  Cynhelir cyfarfodydd gyda\u2019n harolygiaeth drwy gydol y flwyddyn ac rydym yn mynd ati i adolygu ein harferion ein hunain yn rheolaidd fel mater o drefn er mwyn sicrhau gwelliant parhaus yn ein gwasanaeth.<\/p>\n\n\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-alpha-channel-opacity\"\/>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Prosiect Cyfrifoldebau Unigolyn Cyfrifol (UC) Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (RISCA)<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) yn rhoi ansawdd gwasanaethau a gwelliant wrth wraidd rheoleiddio. Mae\u2019n gwella trefniadau diogelu ar gyfer y rhai sydd ei angen, ac yn sefydlu system reoliadol sy\u2019n unol \u00e2\u2019r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014 ac yn creu system reoliadol sy\u2019n canolbwyntio ar y bobl sydd angen gofal a chefnogaeth, a\u2019r gweithlu gofal cymdeithasol.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r prosiect cysylltiedig yn cynnal gwerthusiad dewis i argymell newidiadau \/ trefniadau sefydliadol parhaol i weithredu dyletswyddau \u201cUnigolyn Cyfrifol\u201d RISCA. Mae hyn ar gyfer darpariaeth gwasanaeth mewnol cyfredol ac ar y gweill mewn perthynas \u00e2 gofal gartref, maethu a lleoliadau preswyl ar draws Gofal Cymdeithasol i gyd.  Mae dyletswyddau\u2019r Unigolyn Cyfrifol yn cael eu nodi yn Arweiniad RISCA statudol Arolygiaeth Gofal Cymru mewn perthynas \u00e2 bodloni rheoliadau safonol gwasanaeth.  Yn syml, mae cyflwyniad y r\u00f4l \u201cUnigolyn Cyfrifol\u201d uwch yn ddatblygiad pwysig iawn o ran hyrwyddo, monitro a gwella ansawdd gwasanaeth.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color\">Beth oedd yr heriau?<\/h4>\n\n\n\n<p>Drwy ein hamrywiol brosiectau a\u2019r datblygiadau gwasanaeth i ddarparu \u2018gofal yn nes at adref\u2019, sy\u2019n cynnwys cynyddu ein darpariaeth mewnol lleol o ran byw \u00e2 chymorth, tai gofal ychwanegol, seibiant a darpariaeth preswyl plant, rydym angen cynyddu ein gallu i gyflawni dyletswyddau swyddogaethau uwch yr Unigolyn Cyfrifol hefyd. Bydd hyn yn sicrhau ein bod yn parhau i hyrwyddo cynnydd a monitro parhaus a gwella ansawdd y gwasanaeth ar gyfer bob datblygiad cyfredol, sydd ar y gweill ac a fydd yn digwydd yn y dyfodol ar draws Gwasanaethau Plant, Anableddau a Phobl H\u0177n.<\/p>\n\n\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-alpha-channel-opacity\"\/>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r Gronfa Integreiddio Ranbarthol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn gronfa pum mlynedd i gyflawni rhaglen o newid o fis Ebrill 2022 tan fis Mawrth 2027.  Mae\u2019n adeiladu ar y ddysg a\u2019r cynnydd a wnaed o dan y Gronfa Trawsnewid a\u2019r Gronfa Gofal Integredig flaenorol ac yn ceisio gwneud newid cynaliadwy i\u2019r system drwy integreiddio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Y nod erbyn 2027 yw ein bod wedi sefydlu a phrif-ffrydio o leiaf chwe model cenedlaethol newydd o ofal integredig er mwyn i bobl yng Nghonwy, a ledled Cymru, allu bod yn sicr o wasanaeth effeithiol a di-dor, mewn perthynas \u00e2:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Gofal yn y gymuned<\/li>\n\n\n\n<li>Iechyd a lles emosiynol<\/li>\n\n\n\n<li>Cefnogi teuluoedd i aros gyda\u2019i gilydd yn ddiogel, a chymorth therapiwtig i blant \u00e2 phrofiad o ofal<\/li>\n\n\n\n<li>Gwasanaeth gartref o&#8217;r ysbyty<\/li>\n\n\n\n<li>Atebion yn seiliedig ar lety<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Bydd defnyddio\u2019r Gronfa Integreiddio Ranbarthol yn alinio\u2019n agos gyda deddfwriaeth a rhaglenni, gan gynnwys Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, Deddf Llesiant Cenedlaethau\u2019r Dyfodol a Cymru Iachach.<\/p>\n\n\n\n<p>Yng Nghonwy, rydym wedi cael \u00a33.2 miliwn o arian nawdd a byddwn yn ei ddefnyddio i gefnogi 21 gwahanol prosiect ledled ein meysydd gwasanaeth mewn partneriaeth \u00e2 Chyngor Sir Ddinbych, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a\u2019r Trydydd Sector. Mae\u2019r rhain yn cynnwys:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Canolfan Asesu Breswyl Plant Bwythyn y Dd\u00f4l<\/li>\n\n\n\n<li>T\u00eem Cryfhau Teuluoedd<\/li>\n\n\n\n<li>T\u00eem Teuluoedd Integredig Lleol (LIFT)<\/li>\n\n\n\n<li>T\u00eem Un Pwynt Mynediad Conwy<\/li>\n\n\n\n<li>T\u00eem Lles Cymunedol<\/li>\n\n\n\n<li>Gweithwyr Cefnogi Anableddau<\/li>\n\n\n\n<li>Timau Cefnogi Dementia<\/li>\n\n\n\n<li>T\u00eem Adnoddau Cymunedol<\/li>\n\n\n\n<li>Gweithio, Byw, Gwneud: cefnogi pobl gydag anableddau cymhleth<\/li>\n\n\n\n<li>Camu i fyny \/ camu i lawr &#8211; gwelyau i gefnogi pobl h\u0177n<\/li>\n\n\n\n<li>Uwch fodel gofal maeth camu i fyny \/ camu i lawr<\/li>\n\n\n\n<li>Grantiau Trydydd Sector drwy CGGC<\/li>\n\n\n\n<li>Prosiectau Trydydd Sector sy\u2019n cefnogi plant gydag anableddau<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-alpha-channel-opacity\"\/>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC)<\/h3>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color\">Cartref Preswyl Llys Elian:<\/h4>\n\n\n\n<p>Ym mis Awst 2022, cynhaliodd AGC archwiliad o gartref preswyl Llys Elian, sef cartref preswyl ar gyfer henoed \u00e2 salwch meddwl, ym Mae Colwyn. Fe wnaeth yr adroddiad amlygu bod y staff yn hapus yn eu gwaith, yn mwynhau eu swyddi ac yn falch o weithio yn y cartref. Fe wnaethant nodi nad yw\u2019r gofal yn cael ei ruthro, ei fod yn ddigynnwrf ac yn barchus.&nbsp; Mae\u2019r gweithgareddau yn amrywiol ac yn cael eu trefnu bob dydd. Mae staff gofal yn cael digon o hyfforddiant ym maes gofal dementia ac maent yn cael eu cefnogi gan d\u00eem rheoli sy\u2019n rhagweithiol wrth ddod o hyd i ffyrdd i wella\u2019r gwasanaeth. Roeddem ni\u2019n falch iawn o glywed nad oedd unrhyw argymhellion ar gyfer gwella yn dilyn arolwg Llys Elian.\n\nRoedd canfyddiadau arolwg AGC yn gadarnhaol iawn, ac roedd yn adlewyrchu\u2019r ymatebion a gawsom i arolwg staff Llys Elian a gynhaliom ym mis Mawrth 2023. Roedd y sgoriau a\u2019r sylwadau\u2019n cadarnhau bod y staff yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi ac wedi\u2019u hyfforddi\u2019n briodol i wneud eu swyddogaethau, ac fel t\u00eem eu bod yn cefnogi preswylwyr i fyw bywydau cyflawn mewn amgylchedd diogel a pharchus. Fe wnaeth yr ymatebwyr i gyd roi sg\u00f4r uchel i Lys Elian o ran perfformiad a rhoddodd nifer ohonynt enghreifftiau o sut mae hyn yn cael ei gyflawni.<\/p>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p>Mae Llys Elian yn llwyddo mewn sawl ffordd. Mae cryfder y rheolwyr yn sicrhau bod bob mater sy\u2019n codi yn cael ei ddatrys yn gyflym. Mae\u2019r ffordd y maen nhw\u2019n gofalu am unigolion a\u2019u staff wedi arwain ataf [i\u2019n] rhoi sg\u00f4r pum seren iddynt. Mae\u2019r ffaith bod y preswylwyr yn mynd i\u2019r swyddfa am sgwrs gyda nhw yn dweud y cyfan.<\/p>\n<\/blockquote>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p>Rydw i\u2019n meddwl bod Llys Elian yn gwneud gwaith anhygoel wrth gefnogi preswylwyr i wneud eu dewisiadau eu hunain.<\/p>\n<\/blockquote>\n\n\n\n<p>Cafodd arolwg tebyg ei anfon at gydweithwyr yn y Cyngor a\u2019r Bwrdd Iechyd er mwyn cael eu barn am weithio gyda th\u00eem Llys Elian. Roedden nhw hefyd yn cytuno bod y cartref preswyl yn darparu lefel wych o wasanaeth i\u2019w preswylwyr, gan fynd \u201cy filltir ychwanegol i ddarparu ar gyfer anghenion unigol y preswylwyr i gyd\u201d. Roedden nhw i gyd yn cytuno bod preifatrwydd ac urddas y preswylwyr yn cael eu parchu, maent yn cael eu hamddiffyn rhag camdriniaeth ac esgeulustod ac mae\u2019r t\u00eem rheoli yn darparu gwybodaeth gywir ac amserol i fudd-ddeiliaid.<\/p>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p>Nid wyf wedi gweld cartref yr un fath erioed, mae o\u2019n anhygoel ym mhob ffordd. Mae\u2019r amgylchedd yn gartref oddi cartref ac yn gyfforddus.<\/p>\n<\/blockquote>\n\n\n\n<p>Ar hyn o bryd, rydym yn paratoi ar gyfer arolwg thematig gan AGC am gynllunio gofal a chefnogaeth yn ein Gwasanaeth Plant, Teuluoedd a Diogelu. Bydd yr arolwg yn mesur cynnydd ac ansawdd arferion mewn perthynas \u00e2 chynllunio gofal a chefnogaeth ar gyfer plant a phobl ifanc yn amodol ar gyn-drafodion yn unol ag Amlinelliad Cyfraith Gyhoeddus.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color\">Llety Llys Gogarth i blant a phobl ifanc ag anableddau<\/h4>\n\n\n\n<p>Ym mis Mehefin 2022, cynhaliodd AGC archwiliad o Lys Gogarth yn Llandudno, sy\u2019n darparu llety, gofal a chefnogaeth i blant a phobl ifanc. Roedd yr adroddiad am yr archwiliad yn gadarnhaol iawn ac yn cynnwys y sylwadau a ganlyn:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Mae\u2019r cyfleuster yn cefnogi pobl ifanc i gyflawni canlyniadau cadarnhaol ac i wneud cynnydd. <\/li>\n\n\n\n<li>Caiff pobl ifanc eu hannog i wneud dewisiadau, i fod yn weithgar ac iach ac i fod yn annibynnol pan fo\u2019n bosibl.<\/li>\n\n\n\n<li>Mae staff gofal yn frwdfrydig ac yn brofiadol ac yn glir am sut i ofalu am y bobl ifanc maen nhw\u2019n eu cefnogi.<\/li>\n\n\n\n<li>Mae\u2019r berthynas weithio agos gyda\u2019r ysgol ar y safle yn golygu bod anghenion pobl ifanc yn cael eu hasesu\u2019n drylwyr cyn iddynt gael eu derbyn. <\/li>\n\n\n\n<li>Mae\u2019n lleoliad croesawgar ac mae yna ddigon o ofod y tu mewn a thu allan i fodloni anghenion pobl ifanc. <\/li>\n\n\n\n<li>Mae arweinwyr a rheolwyr yn darparu safon uchel o lywodraethu a chyfeiriad i\u2019r gwasanaeth, ac o ganlyniad, mae\u2019r canlyniadau i bobl ifanc yn gadarnhaol ac mae staff cymorth yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi. <\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r adroddiad llawn yn manylu ar feysydd o arfer da, megis gwaith amlasiantaeth, gweithdrefnau diogelu effeithiol, staff a rheolwyr wedi\u2019u hyfforddi\u2019n dda, a diwylliant cadarnhaol o sicrhau fod pobl ifanc yn ganolog i bopeth a wnawn o fewn y gwasanaeth. Ni nodwyd unrhyw feysydd o ddiffyg cydymffurfio yn ystod yr arolygiad hwn.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color\">Adborth gan staff a budd-ddeiliaid<\/h4>\n\n\n\n<p>Ym mis Chwefror, gofynnom i staff sy\u2019n gweithio yn Llys Gogarth a staff o dimau CBSC eraill ac Iechyd am eu hadborth am y cyfleuster, ac ansawdd y gwasanaethau a gyflwynir.<\/p>\n\n\n\n<p>Gan adlewyrchu ar yr adborth gan AGC, roedd yr ymatebion cyffredinol yn gadarnhaol iawn.                                                                                                                                                                                                                                                                                       Mae staff yn teimlo eu bod yn cael digon o hyfforddiant i wneud eu swyddi, ac maent yn cael cyfarfodydd goruchwylio rheolaidd gyda rheolwyr atebol i drafod eu lles, eu hiechyd a\u2019u llwyth achosion. Roedd bob aelod o staff wnaeth lenwi\u2019r arolwg yn cytuno eu bod, fel t\u00eem: <\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>yn gwrando ar blant a phobl ifanc, a\u2019u teuluoedd, gan sicrhau bod ganddynt hawliau a dewisiadau<\/li>\n\n\n\n<li>yn cefnogi plant a phobl ifanc i ddatblygu a chefnogi eu lles a\u2019u hiechyd<\/li>\n\n\n\n<li>yn cefnogi plant a phobl ifanc i gadw\u2019n ddiogel a\u2019u hamddiffyn rhag camdriniaeth ac esgeulustod<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Fe wnaeth yr ymatebwyr i gyd nodi bod y gwasanaeth yn Llys Gogarth yn bedwar neu bump allan o bump, ac roedd y sylwadau cefnogol yn dangos faint o feddwl oedd gan staff o\u2019u cydweithwyr a\u2019r amgylchedd. Mae yna deimlad bod Llys Gogarth ar y trywydd iawn i adfer, ar \u00f4l Covid, a bod cyfle newydd i wella a datblygu\u2019r gwasanaeth ymhellach fel t\u00eem.<\/p>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p>Rydym i gyd yn frwdfrydig am ein swyddi ac mae gennym angerdd gwirioneddol am y plant sydd yn ein gofal. Rydym yn ceisio rhoi 100% iddyn nhw bob amser.<\/p>\n<\/blockquote>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p>[Mae\u2019r plant a phobl ifanc] yn cael prydau bwyd iach\u2026\u2026 maen nhw\u2019n mynd am dro hyfryd ac yn cyfrannu mewn gweithgareddau ar \u00f4l ysgol.<\/p>\n<\/blockquote>\n\n\n\n<p>Roedd budd-ddeiliaid o\u2019r T\u00eem Anabledd Dan 25 oed a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn cytuno\u2019n unfrydol bod Llys Gogarth:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>yn gwrando ar y bobl ifanc mae\u2019n nhw\u2019n eu cefnogi, ac yn eu galluogi i wneud dewisiadau am y gofal a\u2019r gefnogaeth y maen nhw\u2019n ei gael a\u2019r cyfleoedd sydd ar gael iddyn nhw<\/li>\n\n\n\n<li>yn ymateb mewn modd amserol pan fo budd-ddeiliaid yn cysylltu \u00e2 nhw gydag ymholiad<\/li>\n\n\n\n<li>yn ymateb ar unwaith pan fo pryderon yn cael eu codi am y bobl ifanc sy\u2019n defnyddio\u2019r gwasanaeth<\/li>\n\n\n\n<li>yn cefnogi pobl ifanc i gadw\u2019n hapus ac yn iach<\/li>\n\n\n\n<li>yn cefnogi pobl ifanc i gadw\u2019n ddiogel a\u2019u hamddiffyn rhag camdriniaeth ac esgeulustod<\/li>\n\n\n\n<li>yn hyblyg ac yn gallu addasu i fodloni anghenion y bobl ifanc y maen nhw\u2019n eu cefnogi<\/li>\n\n\n\n<li>yn cynnig amgylchedd diogel ac addas i\u2019r plant a\u2019r bobl ifanc sy\u2019n defnyddio\u2019r gwasanaeth<\/li>\n\n\n\n<li>yn trin y plant a phobl ifanc gydag urddas a pharch<\/li>\n\n\n\n<li>yn cyflogi staff sy\u2019n broffesiynol ac sy\u2019n hawdd mynd atynt gyda phryderon neu ymholiadau<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Roedd 44% yn nodi bod Llys Gogarth yn dda iawn am fodloni deilliannau i bobl ifanc ac fe wnaeth 56% ei nodi fel da.<\/p>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p>Rydw i\u2019n teimlo\u2019n gryf bod Llys Gogarth yn gwrando ar y bobl ifanc yn eu gofal a\u2019u galluogi i ddweud eu dweud am y ffordd y gofalir amdanynt. Maent hefyd yn rhoi cyfle i bobl ifanc lesio barn am y math o weithgareddau y byddent yn hoffi eu gwneud.<\/p>\n<\/blockquote>\n\n\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-alpha-channel-opacity\"\/>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Mwy na Geiriau: Darparu\u2019r \u2018Cynnig Gweithredol\u2019<\/h3>\n\n\n\n<p>Daeth Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2011 yn gyfraith a rhoddodd hyn statws swyddogol i\u2019r Gymraeg ac mae\u2019n tanategu Fframwaith Mwy na Geiriau.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r Fframwaith Mwy Na Geiriau yn gynllun pum mlynedd rhwng 2022 a 2027. Mae\u2019r fframwaith yn pwysleisio bod y Gymraeg yn perthyn i ni gyd, a\u2019n bod yn cydnabod cysyniad o anghenion ieithyddol.  Dylai bod derbyn gwasanaethau yn Gymraeg, yn enwedig pan rydym yn ddiamddiffyn, fod yn gydran annatod o ofal sy\u2019n canolbwyntio ar yr unigolyn. Mae safonau proffesiynol gyda gwasanaethau iechyd a gofal yn nodi bod cyfathrebu effeithiol yn allweddol, gan amlygu\u2019r angen i gynnal parch ac urddas. Felly, dylai mabwysiadu a chyflawni Mwy Na Geiriau helpu i wella ansawdd y gofal ar gyfer unigolion sy\u2019n byw mewn gwlad ddwyieithog.  <\/p>\n\n\n\n<p>Gweledigaeth gyffredinol y fframwaith yw: \u201cMae Mwy Na Geiriau yn anelu at gael y Gymraeg yn perthyn ac wedi\u2019i ymgorffori mewn gwasanaethau gofal cymdeithasol ac iechyd ledled Cymru fel bod unigolion yn derbyn y gofal sy\u2019n bodloni eu hanghenion ieithyddol, gan arwain at well canlyniadau, heb orfod gofyn amdano. Bydd y rhai sy\u2019n gweithio mewn gwasanaethau gofal cymdeithasol ac iechyd yn gwerthfawrogi bod ganddynt ran weithgar i\u2019w chwarae wrth wireddu\u2019r weledigaeth hon.\u201d<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r fframwaith yn nodi sut y byddwn yn gwireddu cynnydd o dan them\u00e2u penodol, sef cynllunio\u2019r Gymraeg, cefnogi a datblygu sgiliau Cymraeg gyda\u2019r gweithlu cyfredol a\u2019r dyfodol a rhannu arfer gorau a dull gweithredu sy\u2019n galluogi. <\/p>\n\n\n\n<p>Mae gr\u0175p llywio wedi cael ei sefydlu ar gyfer paratoi ar gyfer lansio\u2019r fframwaith a bydd yn asesu sefyllfa\u2019r gofal cymdeithasol yn erbyn 7 amcan allweddol, mae rhai ohonynt yn cynnwys hyrwyddo a Chymraeg yn y gweithle.  <\/p>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-columns is-layout-flex wp-container-core-columns-is-layout-9d6595d7 wp-block-columns-is-layout-flex\">\n<div class=\"wp-block-column is-layout-flow wp-block-column-is-layout-flow\" style=\"flex-basis:100%\"><div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"aligncenter size-full is-resized\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/08\/Cymraeg-Speech-Bubble.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-3459\" width=\"233\" height=\"293\"\/><\/figure><\/div><\/div>\n<\/div>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color\">Beth oedd yr heriau?<\/h4>\n\n\n\n<p>Yr her oedd sicrhau bod y gweithlu cyfan, yn cynnwys gwasanaethau a gomisiynir, yn cael y cyfle i siapio ein cynllun gweithredu. <\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color\">Beth sydd nesaf?<\/h4>\n\n\n\n<p>Byddwn yn parhau i weithredu cynllun pum mlynedd Mwy Na Geiriau.  Ein nod yw sicrhau bod ein cynllun gweithredu yn parhau i ddatblygu a bod y gwasanaethau a\u2019r gweithlu yn ei weithredu. <\/p>\n\n\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-alpha-channel-opacity\"\/>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Asesiad o Boblogaeth Gogledd Cymru<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae adroddiad Asesiad o Boblogaeth Gogledd Cymru yn asesiad o anghenion gofal a chymorth y boblogaeth yng Ngogledd Cymru, yn cynnwys anghenion cymorth gofalwyr. Y bwriad oedd cael gwell dealltwriaeth o\u2019n poblogaeth a sut y gallai newid dros y blynyddoedd nesaf er mwyn ein cynorthwyo i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus gwell yn yr ardal. Wedi\u2019u creu gan <a href=\"https:\/\/www.cydweithredfagogleddcymru.cymru\/\">Gydweithredfa Gwella Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol a Llesiant Gogledd Cymru<\/a>, maen nhw\u2019n adolygu ystadegau, siarad gyda chymunedau a defnyddio ystod eang o wybodaeth a gesglir gan gynghorau lleol, gwasanaethau iechyd, elusennau a sefydliadau eraill sy\u2019n darparu gwasanaethau.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r adroddiad yn cynnwys plant a phobl ifanc, pobl h\u0177n, anabledd iechyd a chorfforol, anabledd dysgu, awtistiaeth, iechyd meddwl, gofalwyr di-d\u00e2l a grwpiau eraill, gan ddarparu negeseuon allweddol ac argymhellion mewn perthynas \u00e2 bob testun yn seiliedig ar y dystiolaeth a gasglwyd.<\/p>\n\n\n\n<p>Gallwch <a href=\"https:\/\/www.cydweithredfagogleddcymru.cymru\/asesiad-poblogaeth-gogledd-cymru\/\">ddarllen yr adroddiadau diweddaraf a\u2019r rhai blaenorol, yma<\/a>.<\/p>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"aligncenter size-full is-resized\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/08\/Population-Assessment-Speech-Bubbles.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-3464\" width=\"771\" height=\"355\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/08\/Population-Assessment-Speech-Bubbles.png 641w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/08\/Population-Assessment-Speech-Bubbles-300x138.png 300w\" sizes=\"auto, (max-width: 771px) 100vw, 771px\" \/><\/figure><\/div>\n\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-alpha-channel-opacity\"\/>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Adroddiad ar sefydlogrwydd y farchnad yng Ngogledd Cymru<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae <a href=\"https:\/\/www.cydweithredfagogleddcymru.cymru\/comisiynu\/asf2022\/\">Adroddiad ar Sefydlogrwydd y Farchnad Gogledd Cymru (2022)<\/a> yn cynnwys gwybodaeth am argaeledd gofal a chefnogaeth ar draws y rhanbarth ac yn argymell ffyrdd o wneud yn si\u0175r bod digon o gefnogaeth ar gael yn y dyfodol. Mae hyn yn cynnwys cartrefi gofal, gofal cartref, cartrefi plant, maethu, mabwysiadu, eirioli a chymorth i ofalwyr di-d\u00e2l.<\/p>\n\n\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-alpha-channel-opacity\"\/>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru<\/h3>\n\n\n\n<p>Yn Rhan 9 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 mae gan Awdurdodau Lleol ddyletswydd i wneud trefniadau i hyrwyddo cydweithrediad partneriaid ac eraill, mewn perthynas ag oedolion sydd ag anghenion gofal a chefnogaeth, gofalwyr a phlant. Ei ddiben yw gwella canlyniadau a lles pobl yn ogystal \u00e2 gwella effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd o ddarparu gwasanaethau. Felly, gellir disgrifio amcanion allweddol cydweithredu, partneriaeth ac integreiddio fel a ganlyn:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Gwella gofal a chymorth, gan sicrhau bod gan bobl fwy o lais a rheolaeth;<\/li>\n\n\n\n<li>Gwella canlyniadau ac iechyd a lles<\/li>\n\n\n\n<li>Darparu gofal a chymorth cydlynol sy\u2019n canolbwyntio ar yr unigolyn <\/li>\n\n\n\n<li>Defnyddio adnoddau sgiliau ac arbenigedd yn fwy effeithiol<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Mae\u2019n rhaid i Awdurdodau Lleol a Byrddau Iechyd Lleol sefydlu Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol i reoli a datblygu gwasanaethau i sicrhau cynllunio strategol a gweithio mewn partneriaeth rhwng Awdurdodau Lleol a Byrddau Iechyd Lleol ac i sicrhau bod gwasanaethau, gofal a chefnogaeth effeithiol ar waith i ddiwallu anghenion y boblogaeth. Mae Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru (BPRhGC) yn anelu i \u2018weithio gyda\u2019n gilydd i wella lles pobl a chymunedau\u2019 yn yr ardal, ac mae\u2019n cynnwys cydweithwyr o\u2019r awdurdodau lleol, y gwasanaethau brys, y Bwrdd Iechyd a sefydliadau\u2019r Trydydd Sector. Cewch <a href=\"https:\/\/www.cydweithredfagogleddcymru.cymru\/bwrdd-partneriaeth-rhanbarthol-gogledd-cymru\/\">fwy o wybodaeth am waith BPRhGC yma<\/a>.<\/p>\n\n\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-alpha-channel-opacity\"\/>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Strategaeth Gomisiynu Lleoliadau ar gyfer Plant sy\u2019n derbyn Gofal<\/h3>\n\n\n\n<p>Yn 2022, fe wnaethom greu strategaeth i nodi sut y byddwn yn darparu lleoliadau digonol ac o ansawdd uchel i ddiwallu anghenion amrywiol ac unigol y plant yn ein gofal. Dros y pum mlynedd nesaf rydym yn anelu i leihau ein dibyniaeth ar gomisiynu lleoliadau annibynnol, ac yn hytrach buddsoddi canran o\u2019r arian yr ydym yn ei arbed er mwyn cynyddu nifer yr adnoddau lleol a mewnol. Bydd hyn o fudd i\u2019r plant sy\u2019n derbyn gofal drwy eu cadw yn yr ardal leol, eu lleoli nhw\u2019n briodol, a\u2019u cysylltu gyda gofalwyr sy\u2019n gallu bodloni eu anghenion, yn enwedig yn ystod y cyfnod pontio i fod yn oedolyn. <\/p>\n\n\n\n<p>Rydym yn anelu i ostwng nifer y plant yng Nghonwy sy\u2019n derbyn gofal, ac yn unol \u00e2 Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru 2022-2027, <a href=\"https:\/\/www.llyw.cymru\/newid-i-fodelau-gofal-nid-er-elw-ar-gyfer-plant-syn-derbyn-gofal-yng-nghymru?_ga=2.163059252.901266879.1692694473-1508976943.1685124191&amp;_gl=1*q2jfaf*_ga*MTUwODk3Njk0My4xNjg1MTI0MTkx*_ga_L1471V4N02*MTY5MjcwNTM1MC4zLjAuMTY5MjcwNTM1MC4wLjAuMA..\">gael gwared ar elw o ofal plant sy\u2019n derbyn gofal<\/a>. Yng Nghonwy, rydym wedi cytuno y byddwn yn:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Siapio ein gwasanaethau mewnol i wella buddion darpariaeth y sector cyhoeddus o ran ansawdd, gwerth am arian, a gweithredu a monitro cynllun gofal.<\/li>\n\n\n\n<li>Gweithio ar y cyd \u00e2 phartneriaid sector cyhoeddus ledled y rhanbarth, pan fo hyn yn cynnig manteision penodol.<\/li>\n\n\n\n<li>Cynyddu\u2019r nifer a\u2019r dewis o leoliadau sydd ar gael i sicrhau bod opsiynau ar gael bob amser sy\u2019n addas i anghenion y plant.<\/li>\n\n\n\n<li>Cynhyrchu gwasanaethau ar y cyd sy\u2019n canolbwyntio ar ddeilliannau gan gydnabod bod amrywiaeth o wahanol ddulliau ar gyfer comisiynu strategol gyda nifer o bartneriaid sy\u2019n gallu bod yn gwmn\u00efau cydweithredol, elusennau neu bartneriaid masnachol.<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Canlyniad trosfwaol dymunol y strategaeth hon yw cyflawni canlyniadau gwell i\u2019r plant sy\u2019n derbyn gofal gan Gonwy, a chyflawni arferion gorau ein swyddogaethau Rhianta Corfforaethol, gan ddarparu lleoliadau o ansawdd uchel i blant, sy\u2019n cynnig gwerth am arian, ac sy\u2019n diogelu ac yn hyrwyddo eu lles, yn hyrwyddo gwytnwch ac yn galluogi perthnasoedd cadarnhaol.<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Fe ddylai\u2019r broses o wneud penderfyniadau gynnwys plant yn hytrach na\u2019u drysu<\/li>\n\n\n\n<li>Fe ddylai cyfnodau mewn llety fod yn brofiad cadarnhaol i blant<\/li>\n\n\n\n<li>Ni ddylai plant fod dan anfantais yn sgil y gofal y maent yn ei dderbyn<\/li>\n\n\n\n<li>Fe ddylai plant adael gofal gyda\u2019r un cyfleoedd \u00e2\u2019r boblogaeth gyffredinol<\/li>\n<\/ul>\n\n\n\n<p>Bwriad ac egwyddor y strategaeth yw datblygu digon o adnoddau lleoliad i sicrhau\u2019r canlyniadau gorau posibl i\u2019r plentyn.  Mae paru lleoliadau a chynnig dewis o leoliadau\u2019n hanfodol ar gyfer cyflawni\u2019r nod hwn.<\/p>\n\n\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-alpha-channel-opacity\"\/>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Dim Drws Anghywir<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r Comisiynydd Plant wedi creu\u2019r dull Dim Drws Anghywir i blant, pobl ifanc a\u2019u teuluoedd wrth lywio\u2019r hyn a ganfyddir fel system gymhleth wrth geisio cefnogaeth.  Mae\u2019r Comisiynydd yn credu y dylai gwasanaethau fod yn ofal estynedig i deuluoedd a chynnig cymorth yn gynnar i atal gwaethygu i wasanaethau. O fewn y Gwasanaethau Plant yng Nghonwy rydym wedi creu ein gweledigaeth ar egwyddorion y dull Dim Drws Anghywir.   Bydd hwn yn ddull cydweithredol, gan weithio gyda phartneriaid i symud ymlaen \u00e2 gweithredu strategaeth \u201cDim Drws Anghywir\u201d Gogledd Cymru.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color\">Beth nesaf?<\/h4>\n\n\n\n<p>Mae bob Is-Gr\u0175p Ardal Plant Integredig yn paratoi \u201cCynllun Gwaith Arfaethedig\u201d, a allai gynnwys ehangu prosiectau neu ganfod prosiectau newydd, i sicrhau bod trefniadau mynediad sengl effeithiol a chanolfannau canolbwynt yn gweithredu yn eu hardal leol, gan gefnogi siwrnai plentyn at wasanaethau.<\/p>\n\n\n\n<p>Byddwch yn rhannu eich profiadau o sut mae plant a phobl ifanc yn cymryd rhan ac yn rhyngweithio gyda gwasanaethau a\u2019r sefydliadau sy\u2019n cefnogi plant a phobl ifanc.<\/p>\n\n\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-alpha-channel-opacity\"\/>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Rheoli\u2019r gyllideb a chynllunio ar gyfer y dyfodol<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r Cynllun Ariannol Tymor Canolig (CATC) yn nodi dull strategol y Cyngor o reoli ei gyllid ac yn amlinellu rhai o\u2019r problemau ariannol a fydd yn wynebu\u2019r Cyngor dros y pedair blynedd nesaf.  Mae cyflawni\u2019r strategaeth yn ddibynnol ar yr adnoddau sydd ar gael drwy setliadau Llywodraeth Cymru ac ar lwyddiant y Cyngor wrth alinio adnoddau \u00e2\u2019i nodau a blaenoriaethau. <\/p>\n\n\n\n<p>Yn 2022-23, rhagamcanir y bydd y sefyllfa derfynol ar gyfer y Gwasanaethau Cymdeithasol yn dangos gorwariant o \u00a33,097,831. Ar gyfer 2022-23, mae\u2019r Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cyflwyno cais llwyddiannus, drwy\u2019r broses achosion busnes, am arian ychwanegol ar gyfer cynnydd mewn costau a ragwelwyd yn ymwneud \u00e2 Ffioedd Gofal (\u00a32,730k), Gofal Cartref (\u00a32,070k), Taliadau Uniongyrchol (\u00a3285k), Byw \u00e2 Chymorth (\u00a3620k) a Phlant Sy&#8217;n Derbyn Gofal (\u00a32,990). Mae\u2019r adran hefyd wedi gorfod dod o hyd i arbedion o \u00a31,919k.<\/p>\n\n\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-alpha-channel-opacity\"\/>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Llwybr Cyflogaeth Gofal Cymdeithasol<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae Gofalwn.Cymru Conwy (gwasanaeth cefnogaeth cyflogaeth) yn parhau i hyrwyddo Gofal Cymdeithasol fel llwybr gyrfa y gellir ei ddewis.  Maent yn cynnal ffeiriau swyddi ar-lein ac mae pob digwyddiad yn canolbwyntio ar y sgiliau a\u2019r wybodaeth sydd eu hangen ar gyfer Gofal Cymdeithasol a\u2019r rolau sydd ar gael o fewn y sector.  Mae cyfranogwyr yn cwrdd \u00e2\u2019n Mentor Cyflogaeth Gymunedol ac yn clywed am y gefnogaeth y gallant ei chynnig i unigolion sy\u2019n gweithio ym maes Gofal Cymdeithasol. <\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r dull hwn wedi bod yn llwyddiannus o ran cefnogi unigolion drwy\u2019r broses gyflogaeth.  Mae cyfranogwyr wedi croesawu cefnogaeth un-i-un y mentor, sy\u2019n teilwra\u2019r gefnogaeth yn \u00f4l anghenion y cyfranogwr. Rydym wedi cael adborth gadarnhaol gan ein cyfranogwyr.<\/p>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p>Ar \u00f4l cyfarfod gyda\u2019m Mentor Cyflogaeth dros rai wythnosau, fe wnaeth hi fy helpu a\u2019m harwain i wneud cais llwyddiannus gyda\u2019r T\u00eem Anableddau, o lenwi\u2019r ffurflen gais, i gynnal cyfweliadau a rhoi cefnogaeth barhaus a chyson. Ni allaf ddiolch iddi ddigon, mae hi bob amser ar ochr arall y ff\u00f4n gyda chefnogaeth ac arweiniad.<\/p>\n<\/blockquote>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p>Roedd y broses gyfan o ymgeisio am swydd newydd yn llai poenus o lawer oherwydd y ffordd y cefais fy helpu a\u2019m cefnogi.  Ar \u00f4l penderfynu ymgeisio, fe wnaeth fy Mentor Cyflogaeth fy helpu gyda fy nghais gydag awgrymiadau a\u2019r wybodaeth orau i amlygu fy nghryfderau a\u2019m galluoedd yn fy swyddogaeth ofal fy hun, wnaeth fy helpu i\u2019n arw iawn. Fe wnaeth y pethau bychain helpu\u2019n arw hefyd &#8211; pethau fel neges lwc dda ar gyfer fy nghyfweliad a\u2019m llongyfarch ar \u00f4l i mi gael cynnig y swydd.<\/p>\n<\/blockquote>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p>Rydw i\u2019n sylweddoli ar \u00f4l siarad \u00e2 chi nad yw fy ffurflen gais yn cynnwys hanner digon o fanylion a\u2019i fod yn rhy anffurfiol. Mae\u2019r cyngor rydych chi wedi\u2019i roi i mi yn onest ac yn amhrisiadwy, rydw i\u2019n meddwl y gallaf lwyddo gyda hyn, gyda\u2019ch.<\/p>\n<\/blockquote>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large is-resized\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/08\/CV-01-1024x576.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-3470\" width=\"878\" height=\"493\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/08\/CV-01-1024x576.png 1024w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/08\/CV-01-300x169.png 300w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/08\/CV-01-768x432.png 768w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/08\/CV-01-1536x865.png 1536w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/08\/CV-01.png 1917w\" sizes=\"auto, (max-width: 878px) 100vw, 878px\" \/><\/figure>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Gweithio mewn partneriaeth, arweinyddiaeth wleidyddol a chorfforaethol, llywodraethu ac atebolrwydd Daeth Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 i rym ym mis Ebrill 2016. Mae&#8217;n darparu&#8217;r fframwaith cyfreithiol ar gyfer gwella lles pobl y mae angen gofal a chymorth arnynt, a gofalwyr sydd angen cymorth, ac ar gyfer trawsnewid gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru. Egwyddorion sylfaenol [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":9,"featured_media":0,"parent":3288,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"_seopress_robots_primary_cat":"","_seopress_titles_title":"","_seopress_titles_desc":"","_seopress_robots_index":"","_genesis_hide_title":false,"_genesis_hide_breadcrumbs":false,"_genesis_hide_singular_image":false,"_genesis_hide_footer_widgets":false,"_genesis_custom_body_class":"","_genesis_custom_post_class":"","_genesis_layout":"","footnotes":""},"class_list":{"0":"post-3534","1":"page","2":"type-page","3":"status-publish","5":"entry"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/3534","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/9"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=3534"}],"version-history":[{"count":6,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/3534\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":3606,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/3534\/revisions\/3606"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/3288"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=3534"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}