{"id":3532,"date":"2023-08-25T16:07:31","date_gmt":"2023-08-25T15:07:31","guid":{"rendered":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/adroddiad-2022-23\/edrych-ymlaen-at-2023-24-a-thu-hwnt\/"},"modified":"2023-08-29T15:17:46","modified_gmt":"2023-08-29T14:17:46","slug":"edrych-ymlaen-at-2023-24-a-thu-hwnt","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/adroddiad-2022-23\/edrych-ymlaen-at-2023-24-a-thu-hwnt\/","title":{"rendered":"Edrych ymlaen at 2023-24 a thu hwnt"},"content":{"rendered":"\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Gwasanaeth Taliadau Uniongyrchol<\/h3>\n\n<p>Mae Taliadau Uniongyrchol yn daliadau arian parod sy\u2019n cael eu talu i unigolion er mwyn iddynt allu trefnu eu cefnogaeth i ddiwallu eu hanghenion gofal cymdeithasol a aseswyd.\u00a0 Mae hyn yn rhoi hyblygrwydd, dewis a rheolaeth iddynt o ran sut mae eu gofal yn cael ei ddarparu.<\/p>\n\n<p>Bydd gwaith ailstrwythuro\u2019r adain Taliadau Uniongyrchol yn dod i ben yn 2023-2024.\u00a0\u00a0 Bydd yr adran newydd yn gyfrifol am godi proffil Taliadau Uniongyrchol ymhlith yr holl ddinasyddion cymwys sy\u2019n hysbys i Ofal Cymdeithasol sy\u2019n dymuno rheoli sut mae eu cefnogaeth yn cael ei darparu.\u00a0 Gwneir hyn drwy ddatblygu tudalennau gwe, cyfryngau cymdeithasol, sgyrsiau cymunedol a sicrhau bod staff y rheng flaen yn meddu ar y sgiliau ac yn hyderus yn trafod buddion Taliadau Uniongyrchol gyda dinasyddion.<\/p>\n\n<p>Bydd y t\u00eem yn darparu gwasanaeth cefnogaeth, gwybodaeth a chyngor i\u2019r rhai sydd \u00e2 diddordeb mewn dysgu mwy am y cynllun, rhai sy\u2019n defnyddio\u2019r cynllun, staff yr adran a chydweithwyr Iechyd sy\u2019n ymwneud \u00e2\u2019r broses.   Byddant yn dysgu am yr agenda gwleidyddol cenedlaethol sy\u2019n newid, gan sicrhau bod yr holl newidiadau\u2019n cael eu hymgorffori yn natblygiadau\u2019r cynllun. <\/p>\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-alpha-channel-opacity\"\/>\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">RISCA<\/h3>\n\n<p>Fel y nodwyd yn flaenorol yn yr adroddiad hwn, mae gwaith wedi bod ar y gweill o ran cyflwyno r\u00f4l  Unigolyn Cyfrifol uwch.  Bydd y prosiect cysylltiol yn parhau yn 2023-24, yn casglu gwybodaeth gan Awdurdodau Lleol ledled Cymru ar fodelau gwahanol ac arferion gorau ar gyfer cyflawni dyletswyddau Unigolyn Cyfrifol.   Bydd y wybodaeth a gesglir yn ffurfio rhan o werthusiad dewisiadau, a fydd yn cael ei gynnal gyda sawl budd-ddeiliad, er mwyn asesu rhestr o fodelau i benderfynu ar y dewis a ffefrir.   Gyda mwy o ganolbwyntio ar ddatblygu ein darpariaethau gofal mewnol, mae cyflwyniad y r\u00f4l Unigolyn Cyfrifol uwch yn ddatblygiad pwysig iawn o ran hyrwyddo, monitro a gwella ansawdd gwasanaeth.<\/p>\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-alpha-channel-opacity\"\/>\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Trawsnewid lleoliadau preswyl ar gyfer plant a phobl ifanc <\/h3>\n\n<p>Rhoddwyd cefnogaeth (drwy ein Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd a\u2019r Cabinet) i sefydlu rhaglen newydd o waith i drawsnewid sut yr ydym yn darparu lleoliadau preswyl ar gyfer plant a phobl ifanc.<\/p>\n\n<p>Mae cartrefi gofal a lleoliadau ar gyfer plant a phobl ifanc yn sicrhau bod eu hanghenion yn cael eu bodloni pan na allant fyw gyda\u2019u teuluoedd eu hunain. Mae modd i blant a phobl ifanc breswylio mewn cartref gofal am gyfnodau byr, gan gynnwys gofal seibiant neu gyfnod byr, neu yn y tymor hwy, gyda\u2019r bwriad i symud i fod yn oedolyn a byw\u2019n fwy annibynnol.  Maent yn lle i blant a phobl ifanc dderbyn cefnogaeth i ddatblygu a thyfu.<\/p>\n\n<p>Ein nod yw cynyddu\u2019r nifer o leoliadau lleol, i alluogi plant a phobl ifanc sydd tu allan i\u2019r sir ar hyn o bryd i ddychwelyd i\u2019r ardal, neu\u2019n nes at adref, a\u2019u galluogi i gadw eu gwreiddiau\u2019n lleol, eu hysgolion, eu diwylliant, eu ffrindiau a\u2019u rhwydweithiau cefnogi. Bydd hyn hefyd yn cynyddu\u2019r cyfleoedd i staff gefnogi plant a phobl ifanc yn lleol, er mwyn datblygu perthnasoedd gwell gyda phlant a phobl ifanc. <\/p>\n\n<p>Mae\u2019r rhaglen drawsnewid yn cefnogi darpariaeth ein \u2018Strategaeth Comisiynu Lleoliad 2022-2027\u2019, sydd \u00e2\u2019r nod i \u201cddarparu lleoliadau digonol i fodloni anghenion unigol ac amrywiol plant sy\u2019n derbyn gofal.\u201d<\/p>\n\n<p>Rydym eisoes wedi dechrau ar ein taith drwy ddatblygiadau lleol sydd eisoes ar y gweill, megis Canolfan Asesu isranbarthol newydd &#8211; Bwthyn y Dd\u00f4l (menter ar y cyd rhwng Cyngor Conwy a Sir Ddinbych a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr), sy\u2019n creu lleoliadau seibiant a gofal byr dymor wedi\u2019i gynllunio, a chartref preswyl Sylva Gardens, yn creu fflatiau newydd a gwasanaeth cefnogi ar gyfer tri o blant ag anghenion gofal cymhleth.     Mae cynigion wedi\u2019u cefnogi\u2019n ddiweddar hefyd i ailddatblygu ein darpariaeth breswyl fewnol, Glan yr Afon, i gynyddu capasiti i ddarparu llety ar gyfer hyd at 4 unigolyn.  Bydd hyn yn cynnwys dymchwel yr adeilad presennol ac adeiladu cyfleuster pwrpasol. <\/p>\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"722\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/08\/YP-at-Bench-1024x722.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-3431\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/08\/YP-at-Bench-1024x722.png 1024w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/08\/YP-at-Bench-300x212.png 300w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/08\/YP-at-Bench-768x541.png 768w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/08\/YP-at-Bench-1536x1083.png 1536w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/08\/YP-at-Bench.png 1600w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n<p>Mae amrywiaeth o ffactorau sy\u2019n dylanwadu ar y pwysau a\u2019r heriau y mae ein gwasanaethau yn eu hwynebu, nad ydynt i\u2019w gweld yng Nghonwy\u2019n unig, ond yn genedlaethol: <\/p>\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Mwy o alw am leoliadau <\/li>\n\n\n\n<li>Twf a chymhlethdod anghenion gofal<\/li>\n\n\n\n<li>Diffyg lleoliadau maeth mewnol a lleoliadau preswyl lleol <\/li>\n\n\n\n<li>Costau cynyddol fesul plentyn fesul wythnos yn y sector gofal annibynnol<\/li>\n\n\n\n<li>Targed arbedion adrannol<\/li>\n\n\n\n<li>Pwysau o fewn Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a phartneriaid eraill, sydd wedi gwaethygu yn sgil pandemig Covid-19. <\/li>\n<\/ul>\n\n<p>I gefnogi\u2019r gwasanaeth gyda\u2019r rhaglen waith sylweddol hon, rydym yn penodi Arweinydd y Rhaglen Drawsnewid (gyda chefnogaeth cyllid Llywodraeth Cymru). Y nod yw cael un rhaglen waith gydlynol i ddatblygu datblygiadau presennol ac ystyried modelau newydd a gwahanol ar gyfer darparu lleoliadau lleol. Bydd ymgysylltu ag ystod o fudd-ddeiliaid megis awdurdodau lleol eraill a sefydliadau\u2019r sector cyhoeddus, sefydliadau nad er elw, darparwyr annibynnol, a phobl ifanc sy\u2019n derbyn gofal yn nodwedd allweddol i ddatblygu\u2019r dewisiadau i ddiwallu\u2019r heriau hyn. <\/p>\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-alpha-channel-opacity\"\/>\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Cyfiawnder Ieuenctid: dull gweithredu plentyn yn gyntaf a nodi trawma<\/h3>\n\n<p>Byddwch wedi darllen am y gwaith rydym ni wedi\u2019i wneud hyd yn hyn yn y maes hwn yn gynharach yn yr adroddiad hwn. Yn ystod y misoedd nesaf byddwn yn adolygu\u2019r strwythur staffio o fewn y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid i greu swyddi arbenigol, er mwyn datblygu a symud ymlaen ag agweddau o\u2019r gwaith ymhellach.  Gallwn hefyd gynllunio i ganfod adeilad o fewn yr awdurdod i greu Canolbwynt Cymunedol lle gall plant a phobl ifanc:<\/p>\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Alw i mewn i ddatblygu sgiliau byw\u2019n annibynnol drwy brosiectau \u2018coginio a bwyta\u2019 <\/li>\n\n\n\n<li>Mynychu apwyntiadau gyda\u2019r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid ac asiantaethau partner<\/li>\n\n\n\n<li>Mynychu cyfarfodydd ymyrraeth arbenigol yn unigol neu fel gr\u0175p<\/li>\n\n\n\n<li>Cael lle diogel a chynnes i ymgynnull<\/li>\n<\/ul>\n<div class=\"wp-block-image is-style-rounded\">\n<figure class=\"aligncenter size-large is-resized\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/08\/Young-Man-in-Beanie-Hat-748x1024.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-3433\" width=\"273\" height=\"373\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/08\/Young-Man-in-Beanie-Hat-748x1024.png 748w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/08\/Young-Man-in-Beanie-Hat-219x300.png 219w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/08\/Young-Man-in-Beanie-Hat-768x1051.png 768w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/08\/Young-Man-in-Beanie-Hat.png 1013w\" sizes=\"auto, (max-width: 273px) 100vw, 273px\" \/><\/figure><\/div>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Gwasanaeth Taliadau Uniongyrchol Mae Taliadau Uniongyrchol yn daliadau arian parod sy\u2019n cael eu talu i unigolion er mwyn iddynt allu trefnu eu cefnogaeth i ddiwallu eu hanghenion gofal cymdeithasol a aseswyd.\u00a0 Mae hyn yn rhoi hyblygrwydd, dewis a rheolaeth iddynt o ran sut mae eu gofal yn cael ei ddarparu. Bydd gwaith ailstrwythuro\u2019r adain Taliadau [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":9,"featured_media":0,"parent":3288,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"_seopress_robots_primary_cat":"","_seopress_titles_title":"","_seopress_titles_desc":"","_seopress_robots_index":"","_genesis_hide_title":false,"_genesis_hide_breadcrumbs":false,"_genesis_hide_singular_image":false,"_genesis_hide_footer_widgets":false,"_genesis_custom_body_class":"","_genesis_custom_post_class":"","_genesis_layout":"","footnotes":""},"class_list":{"0":"post-3532","1":"page","2":"type-page","3":"status-publish","5":"entry"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/3532","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/9"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=3532"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/3532\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":3584,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/3532\/revisions\/3584"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/3288"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=3532"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}