{"id":3520,"date":"2023-08-25T15:35:03","date_gmt":"2023-08-25T14:35:03","guid":{"rendered":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/adroddiad-2022-23\/safon-ansawdd-5\/"},"modified":"2023-08-25T15:38:54","modified_gmt":"2023-08-25T14:38:54","slug":"safon-ansawdd-5","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/adroddiad-2022-23\/safon-ansawdd-5\/","title":{"rendered":"Safon Ansawdd 5:"},"content":{"rendered":"\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Mae partneriaethau effeithiol ar waith i gomisiynu a darparu deilliannau cwbl integredig, o ansawdd uchel, cynaliadwy i bobl<\/h2>\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Cefnogi a monitro ein cartrefi preswyl<\/h3>\n\n<p>Yn Sir Conwy, mae gennym y nifer uchaf o gartrefi gofal yng Ngogledd Cymru ac mae angen rhaglen fonitro barhaus i sicrhau ansawdd y gofal a chefnogi\u2019r ddarpariaeth. Mae ein Gwasanaeth Monitro wedi ailgychwyn rhaglen o ymweliadau \u00e2 chartrefi gofal, asiantaethau gofal yn y cartref a phrosiectau byw \u00e2 chymorth cymunedol, sydd wedi bod yn cael cefnogaeth reolaidd gennym dros y ff\u00f4n. Mae\u2019r ymweliadau monitro\u2019n canolbwyntio ar ansawdd y ddarpariaeth gofal a chymorth yn y cartrefi. Gallant hefyd dynnu sylw at unrhyw bryderon sydd yn y cartref, a gwneud argymhellion i wella\u2019r sefyllfa.<\/p>\n\n<h4 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color\">Beth oedd yr heriau?<\/h4>\n\n<p>Yn anffodus, rydym ni\u2019n dal i weld \u00f4l-effeithiau\u2019r pandemig Covid-19 yn y sector hwn, sydd yn waeth oherwydd yr argyfwng costau byw, costau uwch a heriau recriwtio parhaus. <\/p>\n\n<p>Rydym yn cydnabod bod gennym r\u00f4l i ddarparu cefnogaeth ac arweiniad ymarferol i gartrefi yng Nghonwy yn barhaus er mwyn iddynt allu darparu gwasanaethau o ansawdd dan amgylchiadau heriol. Fe welwch fwy o wybodaeth am bethau rydym wedi\u2019u gwneud i helpu mwy arnynt yn yr adroddiad hwn.<\/p>\n\n<h4 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color\">Beth nesaf?<\/h4>\n\n<p>Yn ogystal ag ymweliadau monitro ddwywaith y flwyddyn, rydym yn parhau i gael cyfarfodydd rheolaidd ar-lein yn fisol gyda rheolwyr cartrefi gofal Conwy i rannu gwybodaeth a thrafod materion, yn cynnwys datblygu\u2019r gweithlu. Rydym hefyd yn cynnig cefnogaeth dros y ff\u00f4n i\u2019r cartrefi bob pythefnos.<\/p>\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-alpha-channel-opacity\"\/>\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Y Panel Trais Domestig<\/h3>\n\n<p>Prosiect peilot oedd y Panel Trais Domestig i ddechrau, oedd yn ceisio sefydlu partneriaeth amlasiantaeth i ddarparu cyngor, cefnogaeth ac ymyraethau therapiwtig i ddioddefwyr trais domestig sydd fwyaf mewn perygl i\u2019w plant fynd i\u2019r system ofal.<\/p>\n\n<p>Roedd y Panel Trais Domestig yn beilot tri mis o hyd a gyflwynwyd ym mis Ebrill 2021 yn sgil y Fforwm Trais Domestig a sefydlwyd gan y T\u00eem Pobl Ddiamddiffyn. O ganlyniad i\u2019r fforwm, dechreuodd yr <a href=\"https:\/\/dasunorthwales.co.uk\/#\">Uned Diogelwch Trais Teuluol<\/a> a\u2019r T\u00eem Cryfhau Teuluoedd gynnal trafodaethau am gydweithio gyda dioddefwyr cam-drin domestig o safbwyntiau sy\u2019n deall trawma ac sy\u2019n canolbwyntio ar y plentyn, gan integreiddio\u2019r model Safe and Together a\u2019i egwyddorion. Ers y peilot cychwynnol hwn, mae\u2019r panel wedi parhau i gyfarfod pob deufis ac mae\u2019n darparu sesiynau ymgynghori gyda\u2019r Uned Diogelwch Trais Teuluol i rannu gwybodaeth am y dioddefwyr hynny sydd yn y perygl mwyaf, y plant a\u2019r troseddwyr a gwneud cynlluniau i wella diogelwch.<\/p>\n\n<p>Mae\u2019r cydweithio hwn gyda\u2019r Uned Diogelwch Trais Teuluol wedi helpu i integreiddio arbenigeddau o\u2019r Gwasanaethau Plant, yr Uned ei hun, y Bont ac aelodau Canolfannau Teuluoedd i ddatblygu cynlluniau ymyrraeth yn seiliedig ar ganlyniadau i rai dioddefwyr a\u2019u plant. O\u2019r panel hwn, mae\u2019r T\u00eem Cryfhau Teuluoedd wedi darparu cefnogaeth therapiwtig i rai sy\u2019n cam-drin, i helpu i newid ymddygiad a gwella diogelwch i ddioddefwyr a\u2019u plant. <\/p>\n\n<p>Ers mis Chwefror 2023, mae cynrychiolwyr o d\u00eem yr Uned Diogelwch Trais Teuluol wedi bod yn gweithio o\u2019n swyddfeydd ym Mae Colwyn unwaith bob pythefnos, yn y gwasanaethau Plant, Oedolion a Diogelu. Maent ar gael i roi cyngor cyffredinol os yw neu os gallai cam-drin domestig fod yn broblem i unigolion a theuluoedd rydym yn eu cefnogi.<\/p>\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-alpha-channel-opacity\"\/>\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Canolfan Ddiogelu Amlasiantaethol<\/h3>\n\n<p>Rydym wedi s\u00f4n am d\u00eem ein Canolfan Ddiogelu Amlasiantaethol mewn adroddiadau blaenorol a gallwn bellach gadarnhau ei fod yn ail gam y peilot. Rydym wedi gwahodd asiantaethau ychwanegol i fod yn rhan o\u2019r Ganolfan, yn cynnwys y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol, Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc (CAMHS), y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid ac Addysg. Rydym wedi gweld bod cael asiantaethau ychwanegol wrth y bwrdd wedi rhoi cyfle i rannu gwybodaeth a gwneud penderfyniadau\u2019n well.<\/p>\n\n<p>Mae gwaith wedi\u2019i gwblhau gyda Heddlu Gogledd Cymru i edrych ar y broses CID16 ac i wella\u2019r cynnwys o fewn yr adroddiadau hyn. Mae adborth wedi\u2019i roi i swyddogion am y wybodaeth y dylid ei chofnodi pan maent yn llenwi CID16. O ganlyniad, mae\u2019r adroddiadau wedi gwella ac mae tystiolaeth bod staff yr Heddlu\u2019n datblygu gwell dealltwriaeth o ddiffiniad Oedolyn mewn Perygl, Amddiffyn Plant a Chymorth Cynnar. <\/p>\n\n<p>Rydym wedi gweld mwy o Weithwyr Cymdeithasol yn dod i gyfarfodydd dyddiol y Ganolfan Ddiogelu Amlasiantaethol i drafod pryderon diogelu, cael cyngor a chael eglurhad ar gamau gweithredu i reoli pryderon. <\/p>\n\n<p>Rydym wedi gweithio\u2019n agos gydag ein T\u00eem Asesu a Chefnogi mewnol a thimau eraill i reoli\u2019r garfan o unigolion a gyrhaeddodd westy\u2019r Hilton i sicrhau bod ymdriniaeth ac ymateb priodol i bob pryder diogelu. <\/p>\n\n<p>Yn ddiweddar, rydym wedi cymryd rhan mewn adolygiad annibynnol a wnaed gan Brifysgol John Moore Lerpwl. Roedd yr adolygiad yn ceisio edrych ar ddarpariaeth \u2018drws ffrynt\u2019 ar hyd a lled Cymru, ac rydym yn disgwyl am adborth ffurfiol yn benodol i Gonwy. <\/p>\n\n<p>Mae gwaith yn cael ei wneud i wella ymatebion i rai sy\u2019n gwneud adroddiadau (yn unol \u00e2\u2019r gweithdrefnau). Bydd hyn yn sicrhau bod pob un sy\u2019n gwneud adroddiadau\u2019n deall canlyniadau\u2019r adroddiadau diogelu sy\u2019n cael eu cyflwyno.<\/p>\n\n<h4 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color\">Beth oedd yr heriau?<\/h4>\n\n<p>Gan ein bod yn dal i weithredu yn y cyfnod peilot, nid ydym wedi gallu ehangu\u2019r t\u00eem i ymdopi \u00e2\u2019r galw presennol. Roedd hefyd yn rhaid i ni ryddhau ein Hymchwilydd Heddlu ym mis Ebrill 2023 ac, ar hyn o bryd, nid oes cynlluniau i gael un arall.<\/p>\n\n<h4 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color\">Beth nesaf?<\/h4>\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Rydym yn gobeithio ehangu ein t\u00eem drwy recriwtio i swyddi ychwanegol, a chynnwys Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ar ryw adeg yn y dyfodol<\/li>\n\n\n\n<li>Byddwn yn gwneud mwy o welliannau i brosesau<\/li>\n\n\n\n<li>Mae gennym gynlluniau i ddatblygu tudalen we benodol ar gyfer y Ganolfan Ddiogelu Amlasiantaethol, yn ogystal \u00e2 rhif uniongyrchol a chyfeiriad e-bost, fel bod modd rheoli a chadw\u2019r holl ymholiadau diogelu o fewn y ganolfan.<\/li>\n<\/ul>\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-alpha-channel-opacity\"\/>\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Llwybrau Cyflogaeth Gwasanaeth Anableddau Conwy<\/h3>\n\n<p>Mae Planhigfa Bryn Euryn wedi gweithredu o\u2019r safle yn Dinerth Road am tua 30 mlynedd. Mae ailddatblygu\u2019r safle i ddarparu caffi, siop ac ardal blanhigfa newydd wedi ein hysgogi i ailgynllunio ein cynnig, i ddatblygu uchelgais pobl a\u2019u cefnogi i gael gwaith cyflogedig. Mae\u2019r Cyngor wrthi\u2019n tendro\u2019r caffi i sefydliad trydydd sector a fydd yn rhoi cyfleoedd i bobl sydd ag anableddau ddeall beth yr hoffent ei wneud mewn perthynas \u00e2 gwaith a meithrin sgiliau a phrofiad yn y gweithle. Bydd darpariaeth gwasanaeth ar draws y caffi, Planhigfa Bryn Euryn, Tan Lan a\u2019r gerddi ac ati yn alinio modelau cefnogi i ganolbwyntio ar alluogi pobl sydd bellaf oddi wrth y farchnad waith i gael gwaith cyflogedig lle bo modd.<\/p>\n\n<p>Rheolwr y Gwasanaeth Anableddau sy\u2019n cadeirio gr\u0175p llywio\u2019r strategaeth cyflogaeth \u00e2 chymorth ranbarthol, sy\u2019n goruchwylio gwaith o gyd-gynhyrchu strategaeth cyflogaeth \u00e2 chymorth ranbarthol i bobl sydd ag anableddau dysgu. Mae\u2019r strategaeth yn cynnig bod gwasanaethau anableddau dysgu\u2019r chwe Chyngor Sir yn cyflwyno gwasanaeth cyflogaeth \u00e2 chymorth er mwyn galluogi mwy o bobl sydd ag anableddau dysgu i gael gwaith cyflogedig, gan gynnwys arian ar gyfer hyfforddiant swydd arbenigol. Y gyfradd gyflogaeth bresennol i bobl sydd ag anableddau dysgu y mae gwasanaethau gofal cymdeithasol i oedolion yn gwybod amdanynt yw 4.8%.<\/p>\n\n<p>Rydym ni\u2019n gobeithio cael cyllid o\u2019r Gronfa Integreiddio Ranbarthol ar gyfer y tair blynedd nesaf i weithredu\u2019r model hwn ar draws y rhanbarth. I baratoi at y drefn newydd, mae\u2019r rhaglen drawsnewid wedi ariannu sesiynau \u2018Cyflwyniad i Gyflogaeth \u00e2 Chymorth\u2019 i\u2019r holl dimau gweithredol. Cwblhaodd saith aelod o d\u00eem Conwy yr hyfforddiant, gan roi adborth da. Yn dilyn hynny, mae\u2019r rhaglen drawsnewid yn ariannu cwrs \u2018Technegau Cyflogaeth \u00e2 Chymorth\u2019 sy\u2019n darparu\u2019r wybodaeth a\u2019r sgiliau sylfaenol i fod yn hyfforddwr swydd a bydd pum aelod o staff o D\u00eem Cyfleoedd Gwaith Conwy\u2019n mynd ar y cwrs. Mae\u2019r rhaglen drawsnewid hefyd wedi darparu cyllid i gyflogi Cydlynydd Cyflogadwyedd mewnol i arwain y gwaith hwn. Mae\u2019r penodiad ar y gweill.<\/p>\n\n<p>Mae cynnydd sylweddol wedi\u2019i wneud i gyflwyno dull \u2018gwaith yn gyntaf\u2019 o fewn y gwasanaeth. Mae gan staff well dealltwriaeth o\u2019r hyn sy\u2019n gweithio i helpu pobl sydd ag anableddau dysgu ddod o hyd i swydd, ei chael, dysgu sut i\u2019w gwneud a\u2019i chadw drwy\u2019r model cyflogaeth \u00e2 chymorth. Bydd cyllid ychwanegol drwy\u2019r Gronfa Integreiddio Ranbarthol yn galluogi\u2019r gwasanaeth i chwyddo\u2019r dull hwn a chyflwyno llwybrau \u00e2 sicrwydd ansawdd fel bod pobl yn gallu bod mewn gwaith cyflogedig os ydynt yn dymuno. Mae\u2019r Gwasanaeth Anableddau hefyd yn ymgeisio am gyllid o\u2019r Gronfa Ffyniant Gyffredin i gefnogi ein model darparu cyffredinol. <\/p>\n\n<p>Bydd y gwaith rhanbarthol hwn yn ategu ac yn gwella cynnig y Gwasanaeth Anableddau yn seiliedig ar ddatblygiadau Bryn Euryn, Tan Lan a\u2019r gerddi ac ati, gan ddarparu llwybr allweddol i gyflogaeth i\u2019r rhai sy\u2019n cael eu cefnogi yn y gwasanaeth.<\/p>\n\n<p>Mae\u2019r Gwasanaeth Anableddau hefyd wedi datblygu perthynas waith agosach gyda <a href=\"https:\/\/www.conwy.gov.uk\/cy\/Council\/Jobs-and-Careers\/Help-Getting-Into-Work\/Conwy-Employment-Hub\/conwy-employment-hub-more-information.aspx\">Chanolbwynt Cyflogadwyedd Conwy<\/a> ac maent wedi comisiynu interniaethau \u00e2 chymorth Project Search ar y cyd \u00e2 Sir Ddinbych.<\/p>\n\n<p>Y weledigaeth yw darparu amrywiaeth o lwybrau i bobl sydd ag anableddau, gan na fydd un llwybr yn gweddu i bawb. Mae\u2019r Cydlynydd Llwybrau Cyflogadwyedd yn allweddol i lwyddiant ailfodelu gwasanaethau.<\/p>\n\n<h4 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color\">Beth oedd yr heriau?<\/h4>\n\n<p>Bu oedi ar gwblhau\u2019r safle a bu pwysau cyllidebol. Mae\u2019n debygol bod diffyg ymgysylltu gan ddefnyddwyr gwasanaeth a theuluoedd mewn perthynas \u00e2 chamau cychwynnol datblygu\u2019r strategaeth oherwydd bod amserlen y prosiect yn ystod y pandemig Covid-19. <\/p>\n\n<p>Un her allweddol fu recriwtio Cydlynydd Cyflogadwyedd mewnol i arwain y gwaith hwn, ond mae cynnydd ar hyn bellach. Mae bwrw ymlaen \u00e2\u2019r trawsnewid i ddiwylliant ac agweddau gan hefyd gydlynu mynediad at y gwasanaeth cefnogi cyflogaeth mwyaf priodol (yn cynnwys Gwasanaeth Cyflogaeth Conwy) yn gofyn am ffocws ac arweinydd penodol, oherwydd pwysau gweithredol ar y t\u00eem.<\/p>\n\n<h4 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color\">Beth nesaf?<\/h4>\n\n<p>Gweithdy i\u2019r gr\u0175p llywio rhanbarthol adolygu\u2019r Strategaeth Cyflogaeth \u00e2 Chymorth ddrafft a chyfrannu at y cynllun gweithredu. Y t\u00eem trawsnewid rhanbarthol sy\u2019n arwain ar hyn a byddant yn gweithio gyda Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan i wneud hyn gyda dinasyddion.<\/p>\n\n<p>Ar \u00f4l y gweithdy, byddwn yn gwybod a fydd adnoddau ychwanegol ar gael drwy\u2019r Gronfa Integreiddio Ranbarthol ar gyfer y model gwasanaeth cyflogaeth \u00e2 chymorth ai peidio. Os yw\u2019n llwyddiannus, y nod yw i\u2019r model Cyflogaeth \u00e2 Chymorth fod ar waith o fis Medi 2023 ymlaen a chael ei werthuso\u2019n annibynnol.<\/p>\n\n<p>Mewn perthynas \u00e2 Bryn Euryn, Tan Lan a\u2019r gerddi ac ati, byddwn yn cynnal peilot ar gyfer y Cydlynydd Llwybrau Cyflogaeth, gan gynnal adolygiad o\u2019r disgrifiadau swydd presennol, ac ailstrwythuro\u2019r gwasanaeth i ddarparu ein model newydd cyffredinol.<\/p>\n\n<p>Rydym ni\u2019n cyfrif darparu cyfleoedd i bobl ifanc sydd ag anableddau i gael swyddi dydd Sadwrn \u00e2 chyflog yn agwedd allweddol i ddatblygu uchelgeisiau. O ganlyniad, byddwn yn cynnal peilot o hyn yn y caffi ac ym Mhlanhigfa Bryn Euryn ar \u00f4l i\u2019r gwasanaeth gael ei sefydlu. <\/p>\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-alpha-channel-opacity\"\/>\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Canolfan Seibiant Bron y Nant<\/h3>\n\n<p>Mae dwy elfen i\u2019r prosiect ar y safle hwn, sef adeilad seibiant yn Bron y Nant, a\u2019r blanhigfa, siop a chaffi yn Bryn Euryn. Mae Bron y Nant yn datblygu\u2019n dda, ond mae wedi bod ychydig yn fwy araf na\u2019r disgwyl ac rydym yn disgwyl cael y goriadau yn ystod wythnos gyntaf mis Ebrill, bum mis yn hwyrach na\u2019r bwriad.<\/p>\n\n<p>Yn Bryn Euryn, mae\u2019r safle wedi bod ar gael i d\u00eem Planhigfa Bryn Euryn er mwyn iddynt baratoi i agor i\u2019r cyhoedd yn y gwanwyn. Byddant yn rhedeg y siop a\u2019r ganolfan arddio pan maent ar agor, ac rydym ni\u2019n gweithio ar hyn o bryd ar osod y silffoedd, y cownter a\u2019r peiriant arian. Bydd y caffi\u2019n cael ei dendro yn dilyn digwyddiad \u2018cwrdd \u00e2\u2019r prynwr\u2019 llwyddiannus.<\/p>\n\n<p>Rydym wedi bod yn gweithio gyda phartneriaid yn yr amlosgfa a\u2019r fynwent i greu mynedfa ar y cyd \u00e2 Phlanhigfa Bryn Euryn, ac rydym yn falch o ddweud bod y blanhigfa wedi\u2019i throsglwyddo i\u2019r t\u00eem ddechrau mis Mawrth 2023.<\/p>\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-alpha-channel-opacity\"\/>\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Maethu Cymru Conwy<\/h3>\n\n<p>Ym mis Medi 2021, lansiwyd Maethu Cymru; undeb y 22 Awdurdod Lleol yn cydweithio, yn rhannu gwybodaeth ac yn recriwtio gofalwyr maeth lleol i ofalu am blant yn lleol. Mae\u2019r flwyddyn gyntaf wedi canolbwyntio ar addysgu a darparu gwybodaeth i unrhyw rai sy\u2019n ystyried bod yn ofalwyr maeth yngl\u0177n \u00e2 pham mae maethu i\u2019ch Awdurdod Lleol o fantais i blant a phobl ifanc. Rydym ni wedi bod yn rhannu negeseuon lleol a negeseuon Maethu Cymru ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol.<\/p>\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"577\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/08\/Maethu-Conwy-1024x577.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-3376\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/08\/Maethu-Conwy-1024x577.jpg 1024w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/08\/Maethu-Conwy-300x169.jpg 300w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/08\/Maethu-Conwy-768x433.jpg 768w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/08\/Maethu-Conwy-1536x865.jpg 1536w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/08\/Maethu-Conwy.jpg 1640w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n<p>Mae gwaith recriwtio wyneb yn wyneb wedi ailgychwyn, ac mae angen ymgysylltu \u00e2\u2019r gymuned eto ar \u00f4l y gwaith ail-frandio. Mae\u2019r digwyddiadau recriwtio cymunedol hyn wedi bod yn llwyddiannus i ymgysylltu \u00e2\u2019r cyhoedd, hyrwyddo cefnogaeth gymunedol a chael pobl i siarad am <a href=\"https:\/\/fosterwales.secure.conwy.gov.uk\/static\/cy\/\">Faethu Cymru Conwy<\/a>.<\/p>\n\n<p>Mae dal gafael ar ofalwyr maeth yr un mor bwysig, gan mai\u2019r ffordd orau o recriwtio o hyd yw lledaenu\u2019r neges ar lafar. Mae ein digwyddiadau wyneb yn wyneb wedi ailgychwyn dros y flwyddyn ddiwethaf ac roedd croeso mawr i hynny, ac mae llawer yn dod i\u2019n gr\u0175p cefnogi bob deufis i ofalwyr maeth cyffredinol. Mae\u2019r rhain yn gyfle i gynnig cefnogaeth anffurfiol, datblygu cefnogaeth rhwng y naill a\u2019r llall a rhwydweithio gyda chydweithwyr eraill, fel Cydlynwyr Addysg ac Iechyd Plant sy\u2019n Derbyn Gofal, y Prif Seicolegydd a\u2019r T\u00eem Dysgu a Datblygu\u2019r Gweithlu.<\/p>\n\n<p>Ym mis Hydref 2022, cynhaliom ein Diwrnod Gwerthfawrogi cyntaf erioed i gydnabod cyflawniadau a chyfraniadau ein gofalwyr maeth ar ddiwrnod i adlewyrchu a dathlu. Roedd y Cynghorydd Liz Roberts, Aelod Cabinet Plant, Teuluoedd a Diogelu, yn bresennol i ddiolch i\u2019r gofalwyr maeth am eu hymroddiad a\u2019u gofal i blant a phobl ifanc Conwy.<\/p>\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"480\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/08\/Foster-carer-appreciation-day-1024x480.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-3378\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/08\/Foster-carer-appreciation-day-1024x480.png 1024w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/08\/Foster-carer-appreciation-day-300x141.png 300w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/08\/Foster-carer-appreciation-day-768x360.png 768w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/08\/Foster-carer-appreciation-day.png 1381w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n<p>Mae Maethu Cymru wedi datblygu Fframwaith Dysgu a Datblygu, ac yn 2022, fe wnaeth ein swyddogion gweithlu ddyfeisio cynllun dysgu i gefnogi gofalwyr maeth i gyflawni\u2019r fframwaith. Mae gofalwyr maeth Conwy\u2019n cael cynllun trylwyr sy\u2019n darparu ar gyfer yr 16 maes dysgu craidd mae Maethu Cymru wedi\u2019u pennu. Mae gofalwyr maeth yn parhau i gael eu cefnogi drwy sesiynau goruchwylio bob wyth wythnos, a fydd yn cael eu cynnal dros y we ac wyneb yn wyneb ar \u00f4l cael adborth gan y gofalwyr maeth eu hunain. Mae ymweliadau cefnogi ychwanegol yn cael eu darparu wyneb yn wyneb ar gais.<\/p>\n\n<p>Mae\u2019r argyfwng costau byw wedi effeithio\u2019n fawr ar ein gofalwyr maeth. Gwneir pob ymgais i gael adnoddau ychwanegol i\u2019w helpu, boed hynny ar ffurf tocynnau rhatach i Venue Cymru, tocynnau am ddim i gyngherddau neu docynnau i gemau rygbi dan 20 y Chwe Gwlad. Mae gofalwyr maeth yn parhau i gael cerdyn Hamdden Ffit, cerdyn gostyngiadau Max (yn benodol ar gyfer plant maeth neu blant ag anabledd), ac aelodaeth CADW, ac mae pob un yn amhrisiadwy yn ystod y cyfnod ariannol anodd hwn.<\/p>\n\n<p>Yn 2022, <a href=\"https:\/\/www.llyw.cymru\/newid-i-fodelau-gofal-nid-er-elw-ar-gyfer-plant-syn-derbyn-gofal-yng-nghymru\">rhannodd Llywodraeth Cymru eu hagenda \u2018dileu elw\u2019<\/a> ac fe wnaethom ni lunio Strategaeth Lleoli a Chomisiynu yn ymateb i hynny. Mae un elfen yn trafod recriwtio a chadw gofalwyr maeth, gan ganolbwyntio ar dargedau a chanlyniadau sydd eu hangen erbyn 2026. Mae\u2019r agenda \u2018dileu elw\u2019 wedi creu cyfle am gyllid grant i gyflawni ein strategaeth, gan na fyddai hyn yn bosib\u2019 heb gymorth ariannol ychwanegol.<\/p>\n\n<h4 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color\">Beth oedd yr heriau?<\/h4>\n\n<p>Yr her fwyaf sydd wedi bod eleni yw\u2019r argyfwng costau byw. Mae gofalwyr maeth wedi lleisio eu barn am yr effaith mae wedi\u2019i gael ar eu bywydau bob dydd, ac wedi gofyn am fwy o gefnogaeth ariannol. Mae rheoli\u2019r adborth wedi bod yn dra heriol, ac mae\u2019r sefyllfa wedi effeithio ar ysbryd gofalwyr maeth yn ystod grwpiau cefnogi, eu hawydd i fynd ar hyfforddiant, a\u2019r negeseuon maent yn eu rhannu ar lafar i recriwtio gofalwyr maeth newydd. Mae cynnal cefnogaeth gyson ac undod gan y staff wedi bod yn hollbwysig yn ystod y cyfnod hwn.<\/p>\n\n<h4 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color\">Beth nesaf?<\/h4>\n\n<p>Mae cyflwyno\u2019r cyllid grant \u2018dileu elw\u2019 i ymateb i agenda Llywodraeth Cymru wedi ein galluogi i ystyried cynnydd i ffioedd gofalwyr maeth. Mae\u2019r Taliad Uwch newydd yn caniat\u00e1u i Faethu Cymru Conwy fod yn ddewis amgen go iawn i\u2019r asiantaethau maethu annibynnol sy\u2019n ceisio gwneud elw.<\/p>\n\n<p>Byddwn yn cynnal ymgyrchoedd recriwtio wedi\u2019u targedu mewn ymateb i\u2019n model talu gwell a\u2019r agenda \u2018dileu elw\u2019.<\/p>\n\n<p>Byddwn yn parhau \u00e2\u2019n strategaethau cefnogi, dysgu a chadw gofalwyr cyson i ddal gafael ar y gofalwyr maeth sydd gennym.<\/p>\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-alpha-channel-opacity\"\/>\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid \u2013 gweithio mewn partneriaeth<\/h3>\n\n<p>Mae Bwrdd Rheoli Lleol yn craffu ar y <a href=\"https:\/\/www.conwy.gov.uk\/cy\/Resident\/Social-Care-and-Wellbeing\/Children-and-families\/Youth-Offending.aspx\">Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid<\/a> yn rheolaidd. Mae aelodau\u2019r Bwrdd yn cynnwys Prif Swyddogion pob sefydliad a\u2019r cadeirydd yw Cyfarwyddwr Strategol Gofal Cymdeithasol Conwy. Mae dau aelod etholedig ar y Bwrdd Rheoli Lleol, sef arweinwyr cynrychioladol Plant a Diogelu o Awdurdodau Lleol Conwy a Sir Ddinbych.<\/p>\n\n<p>Bwrdd Rheoli Conwy a Sir Ddinbych sy\u2019n gyfrifol am sicrhau bod digon o adnoddau gan y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid a\u2019i fod yn gallu bodloni gofynion statudol yr awdurdod lleol a\u2019n huchelgeisiau i gefnogi plant a phobl ifanc yn y ddwy sir i gyflawni eu potensial a byw bywydau di-drosedd.<\/p>\n\n<p>Mae cyllid ar gyfer Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Conwy a Sir Ddinbych yn cynnwys cyfraniadau gan bartneriaid statudol, Gwasanaethau Plant, y Gwasanaeth Prawf, y GIG, yr Heddlu, y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid a Chronfa Diogelwch Cymunedol Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd. Mae adnoddau\u2019r Gwasanaeth Prawf, yr Heddlu a\u2019r GIG yn cael eu dyrannu mewn egwyddor, ar sail staff sydd wedi\u2019u secondio i\u2019r gwasanaeth. Mae telerau ac amodau grant Ymarfer Effeithiol y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid a chyllid Llywodraeth Cymru\u2019n pennu\u2019n glir sut mae disgwyl i\u2019r dyraniad gael ei ddefnyddio.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae partneriaethau effeithiol ar waith i gomisiynu a darparu deilliannau cwbl integredig, o ansawdd uchel, cynaliadwy i bobl Cefnogi a monitro ein cartrefi preswyl Yn Sir Conwy, mae gennym y nifer uchaf o gartrefi gofal yng Ngogledd Cymru ac mae angen rhaglen fonitro barhaus i sicrhau ansawdd y gofal a chefnogi\u2019r ddarpariaeth. Mae ein Gwasanaeth [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":5,"featured_media":0,"parent":3288,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"_seopress_robots_primary_cat":"","_seopress_titles_title":"","_seopress_titles_desc":"","_seopress_robots_index":"","_genesis_hide_title":false,"_genesis_hide_breadcrumbs":false,"_genesis_hide_singular_image":false,"_genesis_hide_footer_widgets":false,"_genesis_custom_body_class":"","_genesis_custom_post_class":"","_genesis_layout":"","footnotes":""},"class_list":{"0":"post-3520","1":"page","2":"type-page","3":"status-publish","5":"entry"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/3520","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/5"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=3520"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/3520\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":3523,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/3520\/revisions\/3523"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/3288"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=3520"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}