{"id":3504,"date":"2023-08-25T15:12:17","date_gmt":"2023-08-25T14:12:17","guid":{"rendered":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/adroddiad-2022-23\/safon-ansawdd-4\/"},"modified":"2023-08-25T15:17:15","modified_gmt":"2023-08-25T14:17:15","slug":"safon-ansawdd-4","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/adroddiad-2022-23\/safon-ansawdd-4\/","title":{"rendered":"Safon Ansawdd 4:"},"content":{"rendered":"\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Mae cadernid o fewn ein cymunedau yn cael ei hybu ac mae pobl yn cael eu cefnogi i gyflawni eu potensial drwy annog a chefnogi pobl sydd angen gofal a chefnogaeth, gan gynnwys gofalwyr, i ddysgu, datblygu a chyfrannu at gymdeithas<\/h2>\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Mynd yn \u00f4l i\u2019r awyr agored<\/h3>\n\n<p>Mae pandemig Covid-19 wedi cael effaith negyddol ar iechyd meddwl a hyder oedolion h\u0177n gan adael nifer ohonynt yn profi cynnydd mewn arwahanrwydd cymdeithasol ac unigrwydd. Er mwyn mynd i\u2019r afael \u00e2 hyn yng Nghonwy, mae\u2019r t\u00eem Lles Cymunedol wedi cynnig <a href=\"https:\/\/www.conwy.gov.uk\/cy\/Resident\/Leisure-sport-and-health\/Community-wellbeing\/Community-Activity-Timetables.aspx\">cefnogaeth i helpu unigolion ailgysylltu gyda\u2019u cymunedau<\/a> gyda hyder drwy drefnu amrywiaeth o weithgareddau awyr agored fel teithiau cerdded gyda them\u00e2u a rhai cymdeithasol.<\/p>\n\n<p>Bu\u2019r sesiynau hyn yn llwyddiannus iawn, a rhwng mis Ebrill a mis Rhagfyr 2022, fe gynhaliom 17 taith gerdded wahanol ledled y sir. Rydym yn parhau i weithio gyda darparwyr lleol i sicrhau bod y ddarpariaeth yn parhau, oherwydd mae\u2019r adborth rydym ni wedi\u2019i gael yn dangos bod unigolion yn ystyried bod y sesiynau cerdded hyn yn fuddiol iawn ac yn awyddus iddynt barhau bob mis.<\/p>\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"625\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/08\/Conwy-Valley-01-1024x625.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-3350\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/08\/Conwy-Valley-01-1024x625.png 1024w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/08\/Conwy-Valley-01-300x183.png 300w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/08\/Conwy-Valley-01-768x469.png 768w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/08\/Conwy-Valley-01.png 1429w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Bws Teithiol yn rhoi Profiad Rhithiol o Ddementia<\/h3>\n\n<p>Ym mis Awst 2022, cynhaliodd ein T\u00eem Cadw\u2019n Iach daith Bws Dementia Rhithiol yng Nghanolfan Fusnes Conwy. Drwy ddarparu dull sydd wedi\u2019i brofi o roi profiad i unigolyn sydd \u00e2 meddwl iach o\u2019r teimlad o fod yn dioddef \u00e2 dementia, mae\u2019r profiad yn gadael i gyfranogwyr dreiddio mewn i fyd yr unigolyn, a deall pa newidiadau syml ellir eu gwneud i\u2019w harferion a\u2019u hamgylchedd i wella bywydau pobl \u00e2 dementia.  Cafodd 36 o gyfranogwyr yr hyfforddiant a chawsom adborth gwych ar \u00f4l y sesiynau. <\/p>\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p>Byddwn yn argymell yr hyfforddiant hwn i unrhyw un sydd ag aelod o\u2019r teulu \u00e2 dementia, felly rydw i\u2019n falch fy mod wedi dod heddiw<\/p>\n<\/blockquote>\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p>Diolch i chi gyd am drefnu\u2019r hyfforddiant hwn, roedd o\u2019n wych, rydw i wedi dysgu gymaint.<\/p>\n<\/blockquote>\n\n<h4 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color\">Beth nesaf?<\/h4>\n\n<p>Rydym wedi trefnu bod y bws yn dychwelyd ym mis Mawrth 2023 i ddarparu\u2019r Daith Dementia Rhithiol \u2018cynhwysol\u2019 newydd. Mae hyn yn cynnwys symud drwy\u2019r daith arferol i amgylchedd newydd. Yma, mae darparwr yr hyfforddiant yn arddangos sut allai bywyd fod petai\u2019r holl newidiadau angenrheidiol yn cael eu gwneud er mwyn sicrhau bod yr amgylchedd mor gyfforddus \u00e2 phosib i\u2019r person sy\u2019n byw gyda dementia.&#13;\n<\/p>\n\n<p>Byddwn yn cynnal dwy sesiwn; un yng Nghanolfan Fusnes Conwy yng Nghyffordd Llandudno ar gyfer aelodau o\u2019r cyhoedd sydd ag anwylyd yn byw \u00e2 dementia, ac un ar gyfer staff Gofal Cymdeithasol, a fydd yn cael ei gynnal yng nghartref preswyl Llys Elian.<\/p>\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-alpha-channel-opacity\"\/>\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">T\u00eem Cryfhau Teuluoedd a Chefnogaeth Cyn Geni<\/h3>\n\n<p>Mae gan y T\u00eem Cryfhau Teuluoedd adnoddau penodol i ddarparu cefnogaeth cyn geni i rieni sy\u2019n cael eu hatgyfeirio at y Gwasanaeth Plant ac sydd mewn perygl mawr o weld eu babanod yn cael eu tynnu o\u2019u gofal. Yn aml iawn mae\u2019r rhieni yma eisoes wedi profi achosion gofal a gweld eu plant yn cael eu tynnu o\u2019u gofal. Mae\u2019r merched beichiog yma\u2019n ddiamddiffyn am amryw o resymau; er enghraifft, oherwydd cyflwr iechyd meddwl, oherwydd eu bod yn rhieni yn eu harddegau, wedi dioddef trais domestig, tlodi neu ddigartrefedd, yn camddefnyddio sylweddau neu oherwydd eu bod wedi bod mewn gofal eu hunain. <\/p>\n\n<p>Gan ddefnyddio\u2019r model cymorth cyn geni nod ymyrraeth cyn geni Cryfhau Teuluoedd yw: <\/p>\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Gweithio gyda rhieni cyn gynted ag y mae\u2019r atgyfeiriad yn ein cyrraedd a phan fo\u2019r babi yn y groth yn destun asesiad cyn geni<\/li>\n\n\n\n<li>Helpu rhieni i fynd i\u2019r afael \u00e2\u2019r pryderon sydd wedi arwain at yr asesiad cyn geni<\/li>\n\n\n\n<li>Meithrin perthynas gadarnhaol sy\u2019n ganolog i ganlyniadau llwyddiannus <\/li>\n\n\n\n<li>Darparu cymorth gydag asesiadau gwaith cymdeithasol, gan gynnig cyngor ac arweiniad <\/li>\n\n\n\n<li>Atgyfeirio unigolion yn gynnar at wasanaethau cefnogaeth, er enghraifft gwasanaethau amenedigol a gwasanaethau camddefnyddio sylweddau <\/li>\n\n\n\n<li>Atgyfeirio unigolion at Gynadledda Gr\u0175p er mwyn nodi cefnogaeth briodol <\/li>\n\n\n\n<li>Darparu ymyraethau i rieni i fynd i\u2019r afael \u00e2\u2019r rhwystrau i fagu plant yn llwyddiannus <\/li>\n<\/ul>\n\n<p>Mae ymyraethau yn aml yn seiliedig ar nodi Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod, cefnogaeth i ddeall effaith Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod a datblygu gwytnwch personol a sgiliau ymdopi. Hefyd, mae ymyraethau sydd wedi\u2019u llywio gan drawma yn helpu i wella iechyd a lles y rhieni, sy\u2019n gallu effeithio ar eu gallu i roi gofal.<\/p>\n\n<p>Mae ymyraethau yn aml yn seiliedig ar nodi Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod, cefnogaeth i ddeall effaith Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod a datblygu gwytnwch personol a sgiliau ymdopi. Hefyd, mae ymyraethau sydd wedi\u2019u llywio gan drawma yn helpu i wella iechyd a lles y rhieni, sy\u2019n gallu effeithio ar eu gallu i roi gofal.<\/p>\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-alpha-channel-opacity\"\/>\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Coleg Adfer<\/h3>\n\n<p>Pwrpas Coleg Adfer yw cefnogi hunan-reolaeth pobl o anawsterau iechyd meddwl drwy addysg a dysgu. Mae\u2019r rhan fwyaf o golegau yn cael eu cyd-ddylunio gan bobl sydd \u00e2 phrofiadau bywyd a phobl gydag arbenigedd proffesiynol. <\/p>\n\n<p>Mae\u2019r T\u00eem Lles Meddyliol wedi cyflwyno cais llwyddiannus i Gronfa Adfywio Cymunedol Llywodraeth y DU, sydd wedi bod yn gyfle i gynnal prosiectau tymor byr fel cam cyntaf gweithredu Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU.<\/p>\n\n<p>Sefydlwyd y prosiect er mwyn ymgynghori a chanfod partneriaid a buddiolwyr i helpu i greu coleg adfer yng Nghonwy. Ein gweledigaeth yw:<\/p>\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p style=\"font-style:italic;font-weight:700\">Coleg adfer wedi\u2019i greu ar y cyd ar gyfer sir Conwy, sy\u2019n galluogi pobl i adfer gobaith, meithrin gwytnwch, cysylltu a chreu cymuned, a chynnal eu hunain i gael bywyd bodlon a bwriadol.<\/p>\n<\/blockquote>\n\n<p>Cynhaliwyd cyfres o weithdai a digwyddiadau gyda\u2019n partneriaid yn Mind Conwy i gyflwyno\u2019r syniad o Goleg Adfer a chyd-ddylunio, a arweiniodd at sesiwn gynllunio i fapio\u2019r camau nesaf. Mae\u2019r llun ar y dudalen nesaf wedi\u2019i greu gan artist graffig mewn amser real, gan adlewyrchu\u2019r trafodaethau a gafwyd ar y diwrnod (Saesneg yn unig). <\/p>\n\n<h4 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color\">Beth oedd yr heriau?<\/h4>\n\n<p>Yr her fwyaf oedd recriwtio Cydlynydd i\u2019r coleg, a fyddai wedi gallu canolbwyntio\u2019n benodol ar y prosiect. Gan na lwyddwyd i recriwtio cydlynydd roedd yn rhaid rheoli\u2019r prosiect ar dop gwaith arferol, a gafodd effaith ar nifer y gweithdai yr oedd modd i ni eu cynnal. <\/p>\n\n<p>Roedd yna hefyd heriau o ran cyfnod byr y cyllid. Un wers a ddysgwyd oedd bod meithrin perthynas gyda phobl a phartneriaid yn cymryd amser ond mae\u2019n hollbwysig er mwyn cael sylfeini cryf i\u2019r dyfodol.<\/p>\n\n<p>Roedd darparu sesiynau wyneb yn wyneb ar \u00f4l y pandemig hefyd yn anodd, gan fod rhai pobl heb fagu hyder i fynd i ddigwyddiad wyneb yn wyneb a COVID yn dal yn effeithio ar gapasiti. <\/p>\n\n<p>Felly penderfynwyd cynnal arolwg ar-lein, er mwyn i bobl allu mynegi eu barn. Roedd 88% yn teimlo y byddai coleg adfer yn fuddiol i gefnogi eu hiechyd meddwl, a nodwyd cyfres o gyrsiau a ffefrir ar gyfer eu datblygu a\u2019u cynnal fel rhan o\u2019r coleg. <\/p>\n\n<h4 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color\">Beth nesaf?<\/h4>\n\n<p>Rydym ni wedi cyflwyno cais i\u2019r Gronfa Ffyniant Gyffredin, sef ail ran y cyllid gan Lywodraeth y DU, i\u2019n galluogi ni i recriwtio i swyddi i helpu i ddatblygu\u2019r coleg. Rydym ni hefyd yn bwriadu cyflwyno cais am gyllid i\u2019r Loteri Fawr er mwyn comisiynu amrywiaeth o bartneriaid trydydd sector i ni allu agor y coleg. <\/p>\n\n<p>Rydym ni\u2019n gweithio mewn partneriaeth \u00e2\u2019r Gwasanaeth Llyfrgell i ailwampio llawr cyntaf Llyfrgell Bae Colwyn i greu lle diogel a chroesawgar i ni ddechrau darparu cyrsiau adfer a sesiynau lles, fel Cofnodi Creadigol a Darllen ar y Cyd.<\/p>\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"415\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/08\/Recovery-College-Artwork-1024x415.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-3474\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/08\/Recovery-College-Artwork-1024x415.png 1024w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/08\/Recovery-College-Artwork-300x122.png 300w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/08\/Recovery-College-Artwork-768x311.png 768w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/08\/Recovery-College-Artwork-1536x623.png 1536w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/08\/Recovery-College-Artwork.png 1869w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-alpha-channel-opacity\"\/>\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\"><strong>Gwasanaeth Rhandiroedd<\/strong><\/h3>\n\n<p>Mae\u2019r Gwasanaeth Pobl Ddiamddiffyn yn parhau i reoli\u2019r rhandiroedd sy\u2019n darparu gofod therapiwtig a diogel i unigolion sy\u2019n defnyddio\u2019r gwasanaeth.  Ar hyn o bryd, rydym yn gobeithio eu datblygu ymhellach, ac mae rhan o\u2019r gwaith yn cynnwys agor y rhandiroedd i bob unigolyn sy\u2019n defnyddio\u2019r gwasanaeth, gan gynnwys y rhai sy\u2019n Gadael Gofal a\u2019r Gwasanaeth Lles Meddyliol. <\/p>\n\n<h4 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color\">Beth oedd yr heriau? <\/h4>\n\n<p>Mae annog presenoldeb a chyfranogiad wedi bod yn heriol.<\/p>\n\n<h4 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color\">Beth nesaf?<\/h4>\n\n<p>Byddwn yn ymgynghori gyda\u2019r rheiny sy\u2019n defnyddio\u2019r rhandiroedd ar hyn o bryd o ran y gwasanaeth maen nhw\u2019n gael a\u2019r hyn y mae modd ei wella.  Byddwn yn cysgodi staff sy\u2019n rheoli\u2019r rhandiroedd fel ein bod yn deall y gwasanaeth.  Byddwn yn hyrwyddo\u2019r rhandiroedd i bob un o ddefnyddwyr y Gwasanaeth Pobl Ddiamddiffyn. <\/p>\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-alpha-channel-opacity\"\/>\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Haf o Hwyl 2022<\/h3>\n\n<p>Un o raglenni adfer ar \u00f4l Covid-19 Llywodraeth Cymru yw Haf o Hwyl, ac mae\u2019r gweithgareddau\u2019n cael eu hariannu er mwyn rhoi cyfleoedd i blant, pobl ifanc a\u2019u teuluoedd i ailgysylltu gyda ffrindiau ac eraill i hyrwyddo sgiliau cymdeithasu, lleferydd, iaith a chyfathrebu a gwella iechyd meddwl a lles yn dilyn y pandemig. Eleni fe ddyrannwyd dros \u00a3186,000 gan Lywodraeth Cymru ar gyfer rhaglen Haf o Hwyl Conwy.\u00a0 Cefnogwyd cyfanswm o 27 prosiect, yn cynnwys gwirfoddolwyr a busnesau lleol.\u00a0 Fe ddarparodd hyn dros 870 o sesiynau gweithgareddau am ddim dros 13 wythnos o 1 Gorffennaf i 30 Medi 2022.\u00a0 Daeth dros 10,000 o bobl i\u2019r sesiynau yn ystod y cyfnod hwn.\u00a0 Daeth dros 1,500 o blant ac 850 o oedolion i\u2019r diwrnod chwarae ym Mharc Eirias ym mis Awst 2022 a chafodd y digwyddiad hefyd ei gynnwys ar raglen ITV News am 6pm!\u00a0 Un o\u2019r prosiectau cyffrous a ddatblygwyd ar gyfer Haf o Hwyl oedd ffilm gafodd ei chreu o\u2019r gweithgareddau Haf o Hwyl:<\/p>\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><a href=\"https:\/\/vimeo.com\/754732259\/16d586ed60\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"576\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/08\/Summer-of-Fun-1024x576.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-3476\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/08\/Summer-of-Fun-1024x576.png 1024w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/08\/Summer-of-Fun-300x169.png 300w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/08\/Summer-of-Fun-768x432.png 768w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/08\/Summer-of-Fun.png 1158w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/a><\/figure>\n\n<h4 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color\">Beth oedd yr heriau?<\/h4>\n\n<p>Roedd y ceisiadau a gafwyd gan grwpiau a sefydliadau i ddarparu gweithgareddau yn fwy na\u2019r arian oedd ar gael.  Cynhaliwyd panel i asesu\u2019r ceisiadau a rhannu\u2019r arian mor gyfartal \u00e2 phosib ledled y sir, yn unol \u00e2 lleoliad a\u2019r mathau gwahanol o weithgareddau fel diwylliant, chwarae, chwaraeon a chreadigrwydd.  Cafodd rhai ceisiadau lai o arian am lai o sesiynau oherwydd faint o arian oedd ar gael.<\/p>\n\n<h4 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color\">Beth nesaf?<\/h4>\n\n<p>Ar hyn o bryd, nid yw\u2019n hysbys os bydd arian Haf o Hwyl ar gael yn 2023.  Ar hyn o bryd, nid oes dyraniad ar ei gyfer o\u2019r wybodaeth a ryddhawyd am gyllideb Llywodraeth Cymru.  Petai arian ar gael, byddem yn parhau \u00e2\u2019r un prosesau yr ydym wedi\u2019u datblygu a\u2019u defnyddio dros y ddwy flynedd ddiwethaf er mwyn dyrannu arian a gwahodd ceisiadau gan amrywiaeth o bartneriaid allanol a mewnol i ddarparu gweithgareddau. <\/p>\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-alpha-channel-opacity\"\/>\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Datblygiadau yn ein Canolfannau Teuluoedd<\/h3>\n\n<p>Mae bob un o\u2019n pum T\u00eem Cefnogi Teuluoedd, sy\u2019n gweithio yn ein Canolfannau Teuluoedd, yn parhau i weithio gyda theuluoedd i ddarparu cymorth cynnar, ac er mwyn datblygu gweithgareddau a mentrau i fodloni anghenion y cymunedau lleol. Eleni rydym wedi bod yn:<\/p>\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Gweithio gydag ymchwilydd o Brifysgol Bangor i ddatblygu llwybr o gefnogaeth, pecyn gwaith o ymyriadau, a hyfforddiant ar gamdriniaeth plentyn-rhiant\/gofalwr o\u2019r enw \u2018Pennod Newydd\u2019<\/li>\n\n\n\n<li>Sefydlu pum Gweithiwr Teulu Anableddau; un ym mhob ardal leol<\/li>\n\n\n\n<li>Ymateb i batrwm o ymddygiadau rhywiol niweidiol mewn cymuned drwy gynnal sesiwn Prosiect Rhieni gyda\u2019r Lucy Faithful Foundation<\/li>\n\n\n\n<li>Gweithio gydag ysgolion a gwasanaethau cefnogi ieuenctid i ddarparu sesiynau ymwybyddiaeth am gamfanteisio, diwylliant gangiau a diogelwch ar y rhyngrwyd<\/li>\n<\/ul>\n\n<p>Mae Canolfan Ffordd Douglas ym Mae Colwyn wedi bod ar agor ers blwyddyn ac mae nifer fawr o ddatblygiadau cyffrous wedi bod, ac agorodd Canolfan Teuluoedd Eryl Wen yn Llandudno ei drysau ar \u00f4l gwaith adnewyddu eleni hefyd. Ceir rhagor am hynny isod.<\/p>\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">Adnewyddu Eryl Wen<\/h4>\n\n<p>Yn dilyn ymgynghoriad yn 2019-20, fe wnaethom ddefnyddio Arian Nawdd Cyfalaf Dechrau&#8217;n Deg Llywodraeth Cymru ar gyfer adnewyddu ein Canolfan Teuluoedd yn ardal y gogledd, sef Eryl Wen yn Llandudno. <\/p>\n\n<p>Caeodd y drysau ym mis Chwefror 2022 ac ailagor i\u2019r cyhoedd ym mis Hydref 2022. Erbyn hyn, mae gennym fwy o le i groesawu teuluoedd, gan gynnwys:<\/p>\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Ardal groesawu <\/li>\n\n\n\n<li>Ystafelloedd un i un<\/li>\n\n\n\n<li>Ystafell Chwarae<\/li>\n\n\n\n<li>\u2022\tCegin ar gyfer gweithgareddau coginio i\u2019r teulu<\/li>\n\n\n\n<li>Ystafelloedd cyfarfod aml-asiantaeth<\/li>\n\n\n\n<li>Ystafelloedd hyfforddi<\/li>\n\n\n\n<li>Ardal wych i chwarae\u2019r tu allan<\/li>\n\n\n\n<li>Gardd hyfryd gyda choed ffrwythau<\/li>\n\n\n\n<li>Maes parcio<\/li>\n<\/ul>\n\n<p>Fe wnaethom gynnwys nodweddion er mwyn gostwng y costau cynnal a chadw a gostwng ein h\u00f4l-troed carbon, fel inswleiddio o safon uchel, system wresogi effeithlon o ran ynni a golau sy\u2019n arbed ynni. <\/p>\n\n<figure class=\"wp-block-image size-full\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"641\" height=\"376\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/08\/Eryl-Wen.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-3478\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/08\/Eryl-Wen.png 641w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/08\/Eryl-Wen-300x176.png 300w\" sizes=\"auto, (max-width: 641px) 100vw, 641px\" \/><\/figure>\n\n<h4 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color\">Beth oedd yr heriau?<\/h4>\n\n<p>Cymerodd y gwaith adnewyddu fwy o amser nag a ddisgwyliwyd oherwydd problemau gyda\u2019r gadwyn gyflenwi ac anawsterau yn cael contractwyr i wneud y gwaith.&#13;\n<\/p>\n\n<p>Roedd hi\u2019n anodd annog teuluoedd yn \u00f4l i\u2019r ganolfan ar gyfer gweithgareddau gr\u0175p, yn dilyn cyfyngiadau Covid-19. Dechreuom ein grwpiau gyda llai yn bresennol i godi hyder, a chan bod teuluoedd yn fwy hyderus bellach, mae\u2019r nifer sy\u2019n mynychu\u2019n cynyddu.<\/p>\n\n<h4 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color\">Beth nesaf?<\/h4>\n\n<p>Byddwn yn cysylltu gyda\u2019r gymuned leol i ganfod yr hyn sydd ei angen ar deuluoedd. Yna, fe wnawn weithio gyda phartneriaid lleol i ddatblygu sesiynau i deuluoedd, yn seiliedig ar yr hyn wnaethon nhw ei ddweud wrthym.<\/p>\n\n<p>Rydym yn bwriadu datblygu ardal rhandir fechan i dyfu ein ffrwythau a\u2019n llysiau ein hunain er mwyn eu rhannu a\u2019u coginio gyda theuluoedd.<\/p>\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-alpha-channel-opacity\"\/>\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Cefnogaeth i Ofalwyr<\/h3>\n\n<p>Un o flaenoriaethau strategaeth Llywodraeth Cymru i ofalwyr di-d\u00e2l yw gwella asesiadau gofalwyr, yn arbennig er mwyn galluogi awdurdodau lleol i ddarparu asesiadau statudol yn effeithiol ac ar amser sy\u2019n ymateb i anghenion unigol gofalwyr di-d\u00e2l.<\/p>\n\n<p>Mae cynllun \u201cYmwybodol o Ofalwyr\u201d cenedlaethol Gofalwyr Cymru wedi darparu cyfle gwerthfawr i weithio gyda staff ar bobl lefel o\u2019r systemau Iechyd a Gofal Cymdeithasol ledled Cymru i greu newid diwylliannol ystyrlon i elwa gofalwyr di-d\u00e2l yng Nghymru.  Hyd yma mae 17 o staff Conwy wedi cymryd rhan yn eu sesiynau hyfforddiant.  Mae gan y cynllun gyllid ar gyfer dwy flynedd arall ac felly\u2019n parhau i ddylanwadu\u2019n gadarnhaol ar staff i roi cefnogaeth fwy effeithiol i ofalwyr.<\/p>\n\n<p>Yn wahanol i awdurdodau eraill mae gan Gonwy D\u00eem o Ofalwyr yn fewnol sy\u2019n gallu cyflawni asesiadau gofalwyr mewn achosion lle gall fod yn fuddiol i rywun arall ei wneud yn hytrach na\u2019r Gweithiwr Cymdeithasol sydd wedi cael ei benodi ar gyfer y person sy\u2019n derbyn y gofal.  Mae\u2019r system hon wedi bod yn fanteisiol yng Nghonwy, ac yn cael ei gydnabod gan bartneriaid trydydd sector sy\u2019n gweithio ar draws y rhanbarth i fod yn gryfder penodol o fewn Conwy o ran y gefnogaeth sy\u2019n cael ei roi i ofalwyr.  Rydym hefyd yn comisiynu Hafal (sydd bellach yn rhan o Adferiad) i gyflawni asesiadau gofalwyr ac i ddarparu cefnogaeth o ran lles meddyliol, a Credu i wneud yr asesiadau ac i ddarparu cefnogaeth i ofalwyr ifanc. <\/p>\n\n<p>Fodd bynnag, mae galw wedi bod yn cynyddu\u2019n raddol ac mae ein t\u00eem mewnol yn rheoli\u2019n ofalus y rhestr aros sy\u2019n tyfu ers pandemig Covid-19 , ac wedi dechrau cynllun peilota i weithio\u2019n fwy agos gyda\u2019r Timau Adnoddau Cymunedol aml-asiantaeth.   Bydd hyn yn cynyddu\u2019r pwysigrwydd o gefnogi gofalwyr, a darparu ymateb mwy cyfannol. Mae darganfyddiadau yn y lle cyntaf yn gadarnhaol, ac mae ystod ehangach o staff cymwys bellach yn cyflawni mwy o asesiadau gofalwyr, mae ein t\u00eem Lles Cymunedol yn cefnogi drwy roi cefnogaeth lefel is a chyfeirio at y gefnogaeth briodol, ac yn sgil hynny mae\u2019r rhestr aros wedi lleihau i fod yn un rhan o dair mewn dim ond ychydig fisoedd.  <\/p>\n\n<p>Cyn y pandemig roedd dadansoddi yn dangos fod mwy o ofalwyr ar gyfartaledd yn gwrthod y cynnig o asesiad na\u2019r rheiny oedd yn derbyn y cynnig.  Yn aml y rheswm dros hynny yw\u2019r anhawster sydd gan bobl o weld eu hunain fel gofalwyr yn y lle cyntaf, mi fyddan nhw\u2019n hytrach yn syml yn gweld eu hunain fel aelod o\u2019r teulu ac yn cyflawni\u2019r disgwyliadau o \u2018ddyletswydd\u2019 fel gwraig neu \u0175r, mab neu ferch ayb.  Mae\u2019n ymddangos fod hynny wedi newid rhywfaint ac yn ystod 2022 cafodd 330 o asesiadau eu cwblhau gyda dim ond 198 yn cael eu gwrthod.  Mae\u2019n debyg fod y galw ar \u00f4l y pandemig wedi cam-ystumio\u2019r duedd i ryw raddau.  <\/p>\n\n<p>Mae cael asesiad gofalwr yn gallu eich helpu i drafod y cymorth sydd ei angen arnoch fel gofalwr ac arwain at gefnogaeth ychwanegol ar eich cyfer.<\/p>\n\n<div class=\"wp-block-buttons is-layout-flex wp-block-buttons-is-layout-flex\">\n<div class=\"wp-block-button has-custom-width wp-block-button__width-100 has-custom-font-size has-medium-font-size\"><a class=\"wp-block-button__link has-vivid-green-cyan-background-color has-background wp-element-button\" href=\"https:\/\/www.conwy.gov.uk\/cy\/Resident\/Social-Care-and-Wellbeing\/Carers\/What-is-a-Carers-Needs-Assessment\/What-is-a-Carers-Assessment.aspx\" style=\"border-radius:51px\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Darganfod mwy am sut i gael asesiad gofalwr<\/a><\/div>\n<\/div>\n\n<h4 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color\">Ymgynghoriad gyda gofalwyr ynghylch cefnogaeth i\u2019r rheiny sy\u2019n byw gyda dementia<\/h4>\n\n<p>Mae gan Gonwy Fforwm Dementia sydd ag aelodau allweddol o Ofal Cymdeithasol, Iechyd a phartneriaid trydydd sector.   Yn ddiweddar mae\u2019r gr\u0175p wedi dechrau cyfres o gyfarfodydd rheolaidd gyda gr\u0175p o ofalwyr, mewn perthynas i\u2019w profiadau o ofalu am rywun yn byw gyda dementia. Un o\u2019r problemau wnaeth y gr\u0175p dynnu sylw ato yn ein cyfarfod cyntaf oedd y gefnogaeth sy\u2019n cael ei ddarparu ar \u00f4l diagnosis o ddementia.  Mae\u2019r problemau hyn yn cael eu harchwilio a\u2019u defnyddio i ddylanwadu ar y ffordd y mae gwasanaethau (yn lleol a rhanbarthol) yn cael eu cyflawni, gyda\u2019r gobaith o gael y balans cywir rhwng darparu\u2019r wybodaeth gywir ar yr amser cywir, a hynny mewn ffordd sy\u2019n teimlo\u2019n iawn ar gyfer bob gofalwr unigol.<\/p>\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-alpha-channel-opacity\"\/>\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Cynhwysiant digidol o fewn rhwydweithiau cefnogi anabledd<\/h3>\n\n<p>Datblygwyd y Strategaeth Technoleg a Digidol Gogledd Cymru Gyda\u2019i Gilydd yn 2021 ac mae\u2019n cael ei gyflwyno ar draws y rhanbarth. Mae\u2019r strategaeth yn adnabod y rhwystrau i gynhwysiant digidol a\u2019r camau sydd angen eu cymryd i fynd i\u2019r afael \u00e2\u2019r rhwystrau hynny. Yn fyr, mae cynhwysiant digidol yn cael ei effeithio gan fynediad i offer a chysylltedd, mynediad i gefnogaeth i ddefnyddio offer, a lefelau isel o hyder ymysg y rheiny sy\u2019n cefnogi pobl gydag anableddau dysgu a\u2019u teuluoedd a\u2019u gofalwyr. <\/p>\n\n<p>Mae Paul Mazurek, Swyddog Cynllunio a Datblygu wedi gweithio gyda Cyswllt Conwy (sydd wedi cael ei ariannu trwy wasanaethau gweithredol a thrwy\u2019r rhaglen) i hyrwyddo defnydd o dechnoleg a mynediad i ddulliau technolegol.  Mae o wedi gweithio gyda Chyswllt Conwy i roi benthyg cyfarpar i unigolion neu maent wedi eu cael fel rhodd ar sail un-i-un i ddatblygu sgiliau a magu hyder, a chefnogi unigolion i gael mynediad at adnoddau a gweithgareddau ar-lein. <\/p>\n\n<p>Mae Paul yn y broses o weithio gyda Th\u00eem Datblygu Gweithlu Conwy i gyflwyno hyfforddiant sy\u2019n mynd i\u2019r afael, er enghraifft: \u00e2 phobl ddiamddiffyn ar-lein, radicaleiddio. Mae\u2019r mater hwn wedi cael ei adnabod fel problem a phryder ar draws y rhanbarth. Mae\u2019n dechrau ym mis Mawrth yn Sir y Fflint a bydd yn cael ei gyflwyno i bawb arall yn fuan wedi hynny.  Mi fyddan nhw\u2019n edrych ar greu hyfforddiant pellach o ganlyniad i\u2019r gyfres hon o sesiynau. <\/p>\n\n<p>Nod y gweithdy \u2018Niwed, Meithrin Perthynas Amhriodol, Anableddau Dysgu ac Awtistiaeth\u2019 yw codi ymwybyddiaeth o niwed ar-lein (yn enwedig meithrin perthynas amhriodol) o ran pobl gydag anableddau dysgu ac awtistiaeth.  Bydd yn edrych ar sut i ymyrryd a chefnogi pobl mewn risg o niwed.  Mae modiwlau ar-lein yn cael eu cyflwyno ar Zoom gyda thiwtor profiadol. Mae\u2019r sesiynau ar-lein yn rhyngweithiol iawn ac yn cynnwys mewnbwn tiwtor, trafodaethau, astudiaethau achos, pleidleisiau, gweithio mewn grwpiau bychain ac adlewyrchu ar aseiniadau. <\/p>\n\n<p>Mae Prosiect Pontio Cyswllt Conwy wedi gweithio gydag unigolion drwy gyflwyno:<\/p>\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Dau sesiwn clwb ieuenctid hybrid y mis i annog cynhwysiant digidol<\/li>\n\n\n\n<li>Chwech o sesiynau gwybodaeth ar-lein gyda phobl broffesiynol yn trafod pynciau pontio<\/li>\n\n\n\n<li>Hyfforddiant Stop it Now gan y Lucy Faithfull Foundation, yn edrych ar gadernid digidol ar gyfer rhieni a gofalwyr<\/li>\n\n\n\n<li>Mae dau reolwr anabledd wedi hyfforddi ar apiau Cefnogaeth Weithgar ac wedi trafod eu bod nhw gyflwyno nhw i ddau brosiect.<\/li>\n<\/ul>\n\n<h4 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color\">Beth oedd yr heriau?<\/h4>\n\n<p>Mae pobl yn awyddus i gymryd rhan ond o fewn gwasanaethau yn arbennig mae staff yn ei chael yn anodd cael digon o amser a chymhwysedd i ddatblygu sgiliau a hyder. Mae pwysau ar y gweithlu yn golygu fod gweithwyr, yn ddealladwy, yn gorfod blaenoriaethu tasgau gofal uniongyrchol sy\u2019n golygu bod datblygiad technegol yn mynd i lawr y rhestr o\u2019r tasgau sydd angen eu gwneud.  Mae cyrraedd a chael mynediad i staff a rhwydweithiau cefnogi yn her oherwydd lleoliadau gwasgaredig. Mae\u2019n cael effaith ar ymrwymiad a gallu pobl i wneud y mwyaf ac i ddefnyddio technoleg gan na fyddan nhw bob tro yn ymwybodol o\u2019r rhaglen a\u2019i adnoddau. Mynediad cynyddol i dechnoleg yn golygu risg o ymddygiad amhriodol ar-lein a chynnydd mewn cam-fanteisio a radicaleiddio unigolion diamddiffyn, ac felly\u2019r angen am yr hyfforddiant a amlygir uchod.  <\/p>\n\n<p>Unwaith y bydd mynediad digidol yn cael ei ddarparu, mae angen cynnig cefnogaeth yn barhaus i helpu unigolion i gadw i fyny gyda\u2019r defnydd o dechnoleg. Bydd offer yn cael ei roi fel rhodd neu\u2019n cael ei osod. Y tro cyntaf y bydd yn stopio gweithio mae yna berygl o ddadymgysylltu. <\/p>\n\n<h4 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color\">Beth nesaf?<\/h4>\n\n<p>Mae\u2019r rhaglen yn peilota cyfres o gyfleoedd hyfforddiant i unigolion, teuluoedd ac i gefnogi\u2019r gweithlu. Bydd hynny\u2019n cael ei gyflwyno yng Nghonwy&#8217;r flwyddyn nesaf.<\/p>\n\n<p>Bydd Paul yn ail-ymweld \u00e2\u2019r syniad o sefydlu gr\u0175p digidol yng Nghonwy. Mae Cyswllt Conwy wedi dod o hyd i unigolyn i wneud y gwaith technoleg ar gyfer y prosiect pontio (wedi\u2019i ariannu gan y rhaglen). Mae Cyswllt Conwy yn alluogwr allweddol i gael y gwaith hwn wedi\u2019i wneud oherwydd eu cysylltiad cymunedol. <\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae cadernid o fewn ein cymunedau yn cael ei hybu ac mae pobl yn cael eu cefnogi i gyflawni eu potensial drwy annog a chefnogi pobl sydd angen gofal a chefnogaeth, gan gynnwys gofalwyr, i ddysgu, datblygu a chyfrannu at gymdeithas Mynd yn \u00f4l i\u2019r awyr agored Mae pandemig Covid-19 wedi cael effaith negyddol ar [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":5,"featured_media":0,"parent":3288,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"_seopress_robots_primary_cat":"","_seopress_titles_title":"","_seopress_titles_desc":"","_seopress_robots_index":"","_genesis_hide_title":false,"_genesis_hide_breadcrumbs":false,"_genesis_hide_singular_image":false,"_genesis_hide_footer_widgets":false,"_genesis_custom_body_class":"","_genesis_custom_post_class":"","_genesis_layout":"","footnotes":""},"class_list":{"0":"post-3504","1":"page","2":"type-page","3":"status-publish","5":"entry"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/3504","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/5"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=3504"}],"version-history":[{"count":7,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/3504\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":3515,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/3504\/revisions\/3515"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/3288"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=3504"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}