{"id":3452,"date":"2023-08-25T12:46:17","date_gmt":"2023-08-25T11:46:17","guid":{"rendered":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/adroddiad-2022-23\/safon-ansawdd-3\/"},"modified":"2023-08-25T12:52:00","modified_gmt":"2023-08-25T11:52:00","slug":"safon-ansawdd-3","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/adroddiad-2022-23\/safon-ansawdd-3\/","title":{"rendered":"Safon Ansawdd 3:"},"content":{"rendered":"\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Mae\u2019r angen am ofal a chefnogaeth yn cael ei leihau a\u2019r cynnydd o ran anghenion yn cael ei atal, tra\u2019n sicrhau bod y canlyniadau gorau posibl yn cael eu sicrhau i bobl.<\/h2>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Rhoi unigolion wrth galon ein gwasanaethau Pobl H\u0177n<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae ein prosiect Gofal Cartref Pobl H\u0177n yn mynd rhagddo, gyda\u2019r nod o sicrhau bod y gwasanaethau rydym yn eu comisiynu yn canolbwyntio\u2019n fwy ar ganlyniadau, ac yn hyrwyddo\u2019r egwyddor o lais, dewis a rheolaeth i\u2019r defnyddiwr gwasanaeth. Fel rhan o\u2019r gwaith hwn, rydym eisiau cefnogi ac adeiladu gwasanaeth cartref mwy cadarn ar gyfer y dyfodol hefyd, a galluogi dull o weithio sy\u2019n cynnwys rhagor o integreiddio a chefnogaeth gyda\u2019n darparwyr. Felly, rydym yn symud i ffwrdd o wasanaethau comisiynu sy\u2019n canolbwyntio ar amser a thasgau, i wasanaethau comisiynu sy\u2019n canolbwyntio ar ganlyniadau a\u2019r unigolyn.<\/p>\n\n\n\n<p>Er mwyn cefnogi ein timau, rydym wedi llunio dogfen canllaw i staff er mwyn esbonio a chefnogi darpariaeth y model newydd, yn ogystal \u00e2 pholisi newydd mewn perthynas \u00e2 chymryd risgiau cadarnhaol, sy\u2019n nodi ein dull o weithio tuag at ymarfer sy\u2019n canolbwyntio ar gryfderau a\u2019r unigolyn.<\/p>\n\n\n\n<p>Trefnwyd cyfres o sesiynau hyfforddiant ar y cyd i staff comisiynu mewnol a darparwyr gofal allanol i gynyddu a sicrhau cyd-ddealltwriaeth o ddull gweithio sy\u2019n canolbwyntio ar ganlyniadau. Rydym wedi cynnal adolygiad o\u2019n prosesau mewnol i gyd hefyd, o atgyfeirio i safonau ansawdd a sicrwydd. O ganlyniad, rydym wedi gwneud gwelliannau i\u2019n prosesau system gwybodaeth cleientiaid, gan eu gwneud yn fwy effeithiol, darbodus ac yn addas i\u2019r diben.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"576\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/08\/Team-of-3-1024x576.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-3342\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/08\/Team-of-3-1024x576.png 1024w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/08\/Team-of-3-300x169.png 300w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/08\/Team-of-3-768x432.png 768w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/08\/Team-of-3-1536x865.png 1536w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/08\/Team-of-3.png 1917w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p>Bydd y model comisiynu newydd hwn yn cael ei gyflwyno ar draws ein holl Dimau Adnoddau Cymunedol fesul un. Dyrennir gr\u0175p o ddarparwyr dewisol i bob ardal, a fydd yn cael eu talu ar sail contract bloc, yn hytrach na chontractau yn y fan a\u2019r lle. Bydd maint y contractau bloc yn seiliedig ar weithgarwch comisiynu presennol a byddant yn cael eu cynyddu neu eu gostwng fel bo\u2019r angen. Cafodd dogfen newydd wedi\u2019i mireinio o Fanyleb y Gwasanaeth ei llunio mewn ymgynghoriad gyda\u2019r darparwyr a fydd yn rhan hanfodol o\u2019r T\u00eem Adnoddau Cymunedol. Bydd ganddynt fynediad i\u2019r t\u00eem amlddisgyblaethol i drafod achosion, a cheisio cefnogaeth pan mae problemau neu faterion yn codi, i atal eu huwchgyfeirio. Mae\u2019r broses anfonebu nawr wedi cael ei symleiddio, gan fod darparwyr ond angen anfon un anfoneb yn wythnosol neu\u2019n fisol ar gyfer cyfanswm, nid sawl anfoneb ar gyfer pob cleient.<\/p>\n\n\n\n<p>Gan fod cam cyntaf cyflwyno\u2019r prosiect ond wedi digwydd ar 29 Ionawr, 2023, mae\u2019n rhy gynnar i adrodd ar astudiaethau achos penodol, ond bydd cynnydd y cyflwyniad cyntaf yn destun monitro ac adolygiadau cyson a chadarn.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color\">Beth oedd yr heriau?<\/h4>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r pwysau staffio presennol ar draws yr holl sector gofal wedi gwneud y prosiect hwn yn heriol iawn, ac mae\u2019r dyddiad \u2018mynd yn fyw\u2019 ar gyfer y newidiadau arfaethedig wedi newid sawl gwaith o ganlyniad i hynny.<\/p>\n\n\n\n<p>Er bod llawer o gefnogaeth a brwdfrydedd ar gyfer y newidiadau arfaethedig i\u2019r sector gofal cartref yn lleol, mae\u2019n deg dweud, er gwaethaf honiadau pawb eu bod eisoes yn gweithio mewn modd sy\u2019n canolbwyntio ar ganlyniadau, bydd rhoi\u2019r theori ar waith yn heriol, i staff comisiynu a darparwyr.    <\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color\">Beth nesaf?<\/h4>\n\n\n\n<p>Fel y cyfeiriwyd ato\u2019n flaenorol, y cynllun yw cyflwyno\u2019r model mewn dull fesul cam, ar sail bob T\u00eem Adnoddau Cymunedol unigol. <\/p>\n\n\n\n<p>Aeth T\u00eem Adnoddau Cymunedol Abergele\u2019n fyw ar 29 Ionawr, 2023 a bydd cynnydd yn cael ei adolygu\u2019n gyson. Unwaith sefydlwyd y model, yna byddwn yn symud ymlaen i ardal y T\u00eem Adnoddau Cymunedol nesaf.<\/p>\n\n\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-alpha-channel-opacity\"\/>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Gwaith atal o fewn ein Gwasanaeth Lles Cymunedol<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r gwasanaeth hwn yn cynnwys nifer o dimau sy\u2019n gweithio gydag unigolion ar gam cynnar i\u2019w helpu i barhau i fod yn annibynnol, manteisio ar wasanaethau a gweithgareddau cymunedol a chadw\u2019n ddiogel yn eu cartrefi.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae ein <a href=\"https:\/\/www.conwy.gov.uk\/cy\/Resident\/Social-Care-and-Wellbeing\/Adults\/Support-at-home\/Occupational-Therapy-Intake-Team-within-Information-Advice-and-Assistance.aspx\">T\u00eem Derbyn Therapi Galwedigaethol<\/a> wedi parhau i ymweld \u00e2 phobl sydd ag anghenion llai dwys gartref, i ddarparu cyfarpar a m\u00e2n addasiadau, fel canllawiau. Mae\u2019r eitemau hyn yn helpu i atal codymau ac yn cefnogi pobl i barhau i fyw\u2019n annibynnol gartref, gan leihau\u2019r tebygolrwydd y byddant yn dibynnu ar wasanaethau hirdymor.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r <a href=\"https:\/\/www.conwy.gov.uk\/cy\/Resident\/Social-Care-and-Wellbeing\/Adults\/Support-at-home\/Conwy-Telecare-Service-Formerly-Conwy-Careline.aspx\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">gwasanaeth Teleofal<\/a> bellach yn darparu ffurflen ar-lein i bobl allu cofrestru i gael y gwasanaeth yn hawdd a chyflym. Mae gwasanaeth Teleofal sydd wedi\u2019i gysylltu \u00e2\u2019r gwasanaeth monitro, Galw Gofal, yn rhoi tawelwch meddwl i bobl, a\u2019u teuluoedd, eu bod yn gallu galw am help os oes angen.<\/p>\n\n\n\n<p>Yn sgil yr argyfwng costau byw, mae\u2019r <a href=\"https:\/\/www.conwy.gov.uk\/cy\/Resident\/Benefits-and-grants\/Welfare-Rights\/Welfare-Rights-Benefits-Advice.aspx\">T\u00eem Hawliau Lles<\/a> wedi bod mewn digwyddiadau Croeso Cynnes ac wedi bod yn gweithio i gynghori pobl yngl\u0177n \u00e2 thaliadau tanwydd y gaeaf a budd-daliadau eraill er mwyn ceisio helpu pobl i achub y blaen a chael cymaint o incwm ag y gallant.&nbsp; Mae\u2019r t\u00eem hefyd wedi helpu pobl \u00e2 cheisiadau grant gofalwyr di-d\u00e2l, yn enwedig rhai sy\u2019n methu mynd ar y we pan mai ceisiadau ar-lein oedd yr unig ddewis. Mae\u2019r t\u00eem yn parhau i gynorthwyo trigolion Conwy i gael cymaint o incwm ag y gallant trwy sicrhau eu bod yn hawlio\u2019r budd-daliadau lles mae ganddynt hawl iddynt.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r <a href=\"https:\/\/www.conwy.gov.uk\/cy\/Resident\/Leisure-sport-and-health\/Community-wellbeing\/Community-wellbeing.aspx\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">T\u00eem Lles Cymunedol<\/a> wedi parhau i weithio yn ein cymunedau i sicrhau bod ein preswylwyr sydd dros 65 oed yn gallu lleisio barn am y gwaith o ddatblygu gweithgareddau sydd ar gael yn eu hardal nhw.\u00a0 Mae\u2019r t\u00eem yn parhau i gynorthwyo pobl i wneud mwy o weithgareddau a chyfarfod \u00e2 phobl yn fwy aml, sy\u2019n eu galluogi i fyw\u2019n fwy hapus ac iach.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r Storfeydd Cyfarpar Cymunedol wedi parhau i ddarparu gwasanaeth pum diwrnod yr wythnos i breswylwyr Conwy, gan gynnwys trwy gydol y pandemig, sydd wedi helpu i leihau neu ohirio achosion o orfod mynd i\u2019r ysbyty a galluogi pobl i adael yr ysbyty.  Mae hon yn un o brif swyddogaethau\u2019r t\u00eem i sicrhau bod yr Awdurdod yn ymateb i bwysau rhanbarthol ar wasanaethau ysbyty, gwasanaethau iechyd ehangach a gwasanaethau ambiwlans.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae ein <a href=\"https:\/\/www.conwy.gov.uk\/cy\/Resident\/Social-Care-and-Wellbeing\/Contact-us\/Information-Advice-and-Assistance\/Single-Point-of-Access.aspx\">T\u00eem Un Pwynt Mynediad<\/a> yn parhau i ddarparu gwasanaeth drws ffrynt ar gyfer Gofal Cymdeithasol i Oedolion.&nbsp; Mae prosesau\u2019n cael eu harfarnu a\u2019u haddasu drwy\u2019r amser i ddiwallu gofynion ar draws nifer o ffynonellau atgyfeirio. Eleni, mae\u2019r rhain wedi cynnwys newid i sut mae ceisiadau am asesiadau gofalwyr yn cael eu rheoli i leihau\u2019r pwysau ar ein T\u00eem Gofalwyr mewnol.&nbsp; Rydym hefyd wedi treulio amser yn asesu\u2019r tasgau dyddiol hanfodol o fewn y t\u00eem i leihau\u2019r perygl o waith yn pentyrru yn unrhyw faes gwaith penodol. Rydym wedi addasu ein rota dyddiol i sicrhau bod gweithwyr ar gyfer pob tasg a phennu pa dasgau i\u2019w blaenoriaethu pan mae capasiti staffio yn is na\u2019r isafswm angenrheidiol.&nbsp; Mae\u2019r newidiadau hyn wedi arwain at allu rheoli\u2019r cyfrif e-bost a\u2019r llinellau ff\u00f4n yn well.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color\">Beth oedd yr heriau?<\/h4>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r galw ar ein gwasanaeth a\u2019n timau yn aml yn fwy na\u2019r hyn y gallwn ei ddarparu. Pan mae rhestr aros o bobl sy\u2019n dymuno defnyddio ein gwasanaethau, rydym bob amser yn blaenoriaethu\u2019r rhai mwyaf diamddiffyn.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae capasiti staffio yn yr adain oherwydd absenoldebau hirdymor a byrdymor wedi rhoi pwysau sylweddol ar staff a rheolwyr oedd yn parhau i weithio, ac rydym wedi cynyddu\u2019r gefnogaeth gan reolwyr atebol ac adnoddau dynol yn ystod y cyfnod.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae contractau cyfnod penodol o ganlyniad i gyllid grant yn achosi straen ar staff sy\u2019n disgwyl am ganlyniad penderfyniadau am gyllid yn y dyfodol. Mae hyn yn peri risg i staff adael i fynd i swyddi parhaol.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae cyflwyno trefn gweithio\u2019n hybrid, lle mae staff yn gweithio gartref yn rhannol ac yn y swyddfa\u2019n rhannol, wedi rhoi pwysau ar reolwyr sy\u2019n ymdrin \u00e2 staff sy\u2019n anfodlon dychwelyd i\u2019r swyddfa am gyfran o\u2019u hwythnos waith. Rydym yn parhau i weithio gyda\u2019r aelodau staff hyn i\u2019w hannog i ddychwelyd. <\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color\">Beth sydd nesaf?<\/h4>\n\n\n\n<p>Byddwn yn edrych ar integreiddio ein swyddogaethau Derbyn Therapi Galwedigaethol a Theleofal ymhellach i ddatblygu mwy o wytnwch at adegau lle mae staff yn gadael, neu pan mae swyddi gwag.<\/p>\n\n\n\n<p>Byddwn yn adolygu timau eraill o fewn ein hadain Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth ac yn dynodi meysydd i\u2019w gwella, yn enwedig o ran gwytnwch.<\/p>\n\n\n\n<p>Byddwn yn parhau i gefnogi staff i reoli absenoldebau a chychwyn gweithio o\u2019r swyddfa eto.<\/p>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-buttons has-custom-font-size has-medium-font-size is-layout-flex wp-block-buttons-is-layout-flex\" style=\"font-style:normal;font-weight:600;letter-spacing:px\">\n<div class=\"wp-block-button has-custom-width wp-block-button__width-100 has-custom-font-size has-medium-font-size\"><a class=\"wp-block-button__link has-luminous-vivid-orange-background-color has-background wp-element-button\" href=\"https:\/\/www.conwy.gov.uk\/cy\/Resident\/Social-Care-and-Wellbeing\/Contact-us\/Information-Advice-and-Assistance\/Single-Point-of-Access.aspx\" style=\"border-radius:45px\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Os ydych angen gwybodaeth bellach, cyngor neu gymorth, ewch i\u2019n tudalennau gwe.<\/a><\/div>\n<\/div>\n\n\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-alpha-channel-opacity\"\/>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Diweddaru ein hoffer Teleofal<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r Gwasanaeth Teleofal wedi gweithio\u2019n agos \u00e2 Storfeydd Cyfarpar Cymunedol i ddatblygu\u2019r ddarpariaeth o unedau monitro digidol i gwsmeriaid sydd \u00e2 chysylltiadau ff\u00f4n digidol newydd. Rydym wedi parhau i ddarparu rhywfaint o gyfarpar \u2018clyfar\u2019 ac arbenigol i gynorthwyo \u00e2 chefnogi pobl gartref wrth ddefnyddio technoleg. Er enghraifft, gall dyfeisiau GPS helpu pobl gyda dementia cynnar, a gall larymau epilepsi roi tawelwch meddwl i bobl sy\u2019n byw gyda\u2019r cyflwr. Mewn nifer o achosion, gall y dyfeisiau hyn roi annibyniaeth i bobl, a\u2019r hyder i barhau i fyw gartref a chael mynediad at eu cymunedau.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color\">Beth oedd yr heriau?<\/h4>\n\n\n\n<p>Rydym wedi wynebu rhai heriau gyda diffyg staff yn ein timau gweinyddol a\u2019n timau gosod, ond rydym wedi parhau i flaenoriaethu atgyfeiriadau brys a namau i\u2019r bobl sydd fwyaf mewn perygl.<\/p>\n\n\n\n<p>Rydym angen deall sut bydd y rhaglen ddigidol yn cael ei gweithredu\u2019n llawn yng Nghonwy. Mae trafodaethau rhanbarthol a chenedlaethol yn cael eu cynnal mewn perthynas \u00e2 logisteg ac arian.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color\">Beth sydd nesaf?<\/h4>\n\n\n\n<p>Yn ystod y flwyddyn nesaf, bydd T\u00eem Teleofal Conwy yn parhau i dreiglo\u2019r unedau monitro digidol mewn modd wedi\u2019i reoli ac fesul cam, gan gadw llygaid barcud ar unrhyw faterion sy\u2019n codi er mwyn darparu offer priodol yn unol ag anghenion pobl, yn unol ag arfer gorau.<\/p>\n\n\n\n<p>Ar hyn o bryd, rydym yn datblygu fflat asesu gyda\u2019r T\u00eem Atal ac Ymyrraeth Gynnar a fydd, yn y pendraw, yn fan lle gall defnyddwyr gwasanaeth yn gallu gweld technoleg Teleofal a Chlyfar yn cael ei arddangos mewn amgylchedd \u2018tebyg i gartref\u2019.   Bydd hyn yn rhoi cyfle i bobl brofi\u2019r offer a gweld a fyddai\u2019r offer yn eu helpu nhw gartref; mewn gwirionedd, dull \u2018profi cyn prynu\u2019.<\/p>\n\n\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-alpha-channel-opacity\"\/>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Helpu pobl gydag anableddau dysgu i fyw\u2019n annibynnol<\/h3>\n\n\n\n<p>Yn 2017, fe wnaethom lansio prosiect dilyniant, wedi\u2019i ariannu gan y Gronfa Gofal Integredig, i roi asesiad therapi galwedigaethol arbenigol i unigolion ag anableddau dysgu. Roedd y pwyslais ar gefnogaeth gyda datblygu sgiliau a datblygu tuag at fyw\u2019n fwy annibynnol a hunan-werth, gartref ac yn y gymuned. Yr amcan oedd helpu i ostwng dibynadwyedd tymor hir ar wasanaethau gofal traddodiadol a\/neu ofalwyr teulu, ac ymgorffori dull sy\u2019n canolbwyntio ar ddilyniant a chefnogi\u2019r unigolyn i oresgyn rhwystrau wrth gwblhau tasgau maen nhw eisiau eu gwneud, mor annibynnol \u00e2 phosib. <\/p>\n\n\n\n<p>Roedd yn golygu bod yr unigolyn a\u2019u rhwydwaith gefnogi yn cymryd cyfrifoldeb dros eu canlyniadau eu hunain, o fewn amserlen a gytunwyd arni, ac mewn rhai achosion, ar gyfer datblygu eu hyder gyda chymryd risg cadarnhaol.<\/p>\n\n\n\n<p>Roedd y prosiect yn cefnogi unigolion i sylweddoli eu llawn botensial, datblygu eu hannibyniaeth yn eu cartrefi eu hunain, a dod yn fwy annibynnol ac yn weithgar yn eu cymunedau. Mewn sawl achos, fe wnaeth y prosiect alluogi unigolion i symud i fyw yn fwy annibynnol gyda\u2019r gofal a\u2019r gefnogaeth gywir. Mae hyn wedi golygu bod dinasyddion wedi datblygu eu hyder wrth fyw yn annibynnol a chael mwy o reolaeth dros sut maen nhw\u2019n byw eu bywydau, gan ddefnyddio technoleg cynorthwyol ac offer ac addasiadau eraill i reoli risgiau.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color\">Beth oedd yr heriau?<\/h4>\n\n\n\n<p>Weithiau, roedd hi\u2019n anodd cynnal canolbwynt ar ddilyniant unwaith roedd y Therapydd Galwedigaethol wedi cwblhau eu hasesiad a\u2019r cynllun gofal a chefnogaeth. Oherwydd pandemig Covid-19, roedd yn golygu nad oeddem yn gallu cynnig asesiadau wyneb yn wyneb bellach, ac fe wnaeth newid pwysau\u2019r gwasanaeth yn sylweddol, gan olygu bod y gwasanaeth dilyniant wedi dod i ben ar ddechrau\u2019r pandemig.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color\">Beth sydd nesaf?<\/h4>\n\n\n\n<p>Rydym yn falch o ddweud ein bod yn ail-lansio\u2019r Gwasanaeth Dilyniant, a fydd bellach yn cael ei ariannu o\u2019r Gronfa Integreiddio Rhanbarthol. Mae swydd Cynorthwy-ydd Therapi Galwedigaethol wedi cael ei chyflwyno i hwyluso\u2019r gwaith o fonitro cynnydd ar \u00f4l asesiad, ac i ddatblygu arbenigedd yn y gwasanaeth.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r prosiect yn symud ymaith o wasanaethau tymor hir, sy\u2019n canolbwyntio ar gefnogaeth. Byddwn yn canolbwyntio ar ymyriadau tymor byr, yn cadw at gynllun manwl, ac yn cefnogi unigolion i ddatblygu sgiliau newydd i gyflawni canlyniadau a gytunwyd ymlaen llaw. <\/p>\n\n\n\n<p>Mae lleoliad newydd wedi cael ei nodi lle gellir cynnal asesiadau gweithredol am fyw bob dydd mewn amgylchedd addas. Bydd offer arbenigol ar gael i gefnogi dinasyddion ddatblygu cynllun a sut i gyflawni eu canlyniadau personol mor annibynnol \u00e2 phosib. Rydym yn bwriadu hyrwyddo\u2019r defnydd o dechnoleg gynorthwyol fodern i fodloni amcanion personol, hyrwyddo annibyniaeth a rheoli risgiau yn y cartref. <\/p>\n\n\n\n<p>Bydd arddangos y defnydd o offer modern a thechnoleg gynorthwyol yn helpu hysbysu dinasyddion a gweithwyr proffesiynol am ffyrdd arloesol o fodloni canlyniadau a rheoli risgiau, mewn ffordd sy\u2019n manteisio i\u2019r eithaf ar gryfderau unigolion, sy\u2019n gostwng y ddibyniaeth ar gefnogaeth anffurfiol a chefnogaeth \u00e2 th\u00e2l, a phan fo angen cefnogaeth tymor hir, bydd yn hysbysu\u2019r asesiadau er mwyn sicrhau ein bod yn hyrwyddo\u2019r gefnogaeth ar y lefel gywir.<\/p>\n\n\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-alpha-channel-opacity\"\/>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Datblygu ein T\u00eem Unigolion Cysylltiedig<\/h3>\n\n\n\n<p>Yn ystod 2022, rydym wedi ehangu ein T\u00eem Unigolion Cysylltiedig, gyda phump o unigolion wedi cael eu penodi, eu sefydlu, eu hyfforddi a\u2019u huwchsgilio i ddarparu ar gyfer anghenion gofalwyr unigolion cysylltiedig. Yn ystod pandemig Covid-19, hwyluswyd grwpiau cefnogi unigolion cysylltiedig gan elusen annibynnol a unodd Conwy, Gwynedd ac Ynys M\u00f4n \u00e2\u2019i gilydd. Yn dilyn adborth gan ofalwyr maeth sy\u2019n gysylltiedig \u00e2 Chonwy, fe wnaethom sefydlu gr\u0175p ar gyfer Conwy yn unig, gyda chymorth rheolwr t\u00eem newydd, a sefydlwyd Gr\u0175p Cydnabod a Pherthnasau.<\/p>\n\n\n\n<p>Gwarcheidwaid Arbennig yw unigolion sy\u2019n gallu gwneud cais i ofalu am blentyn pan na allant fyw gyda\u2019u rhieni biolegol ac na fyddai mabwysiadu yn addas ar eu cyfer. Yng Nghonwy, mae ein cynnig Gwarcheidwaeth Arbennig yn parhau i ffynnu gyda chefnogaeth gan gydlynydd penodol sy\u2019n monitro Cynllun Gweithredu Gwarcheidwaeth Arbennig. Gyda pherthynas wedi\u2019i sefydlu bellach, maen nhw\u2019n gallu darparu cefnogaeth ymyrraeth gynnar, cynlluniau cefnogi adolygiadau a thaliadau adolygiad, sy\u2019n helpu i atal toriad mewn trefniadau ac sy\u2019n cryfhau\u2019r gwasanaeth sy\u2019n cael ei gynnig drwy Warcheidwaeth Arbennig.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae Unigolion Cysylltiedig yn elfen o\u2019r rhaglen \u2018dileu elw\u2019 a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru hefyd.  Drwy gryfhau\u2019r gwasanaeth maethu Unigolion Cysylltiedig a darparu cefnogaeth effeithiol o ran Gwarcheidwaeth Arbennig, rydym yn hwyluso cynllun symud ymlaen llwyddiannus a realistig o ofal maeth i Gwarcheidwaeth Arbennig. Yn ein cais am grant, fe wnaethom nodi y byddai Cydlynydd Gwarcheidwaeth Arbennig yn cefnogi\u2019r rhaglen \u2018cael gwared ar elw\u2019, y Gwarchodwyr Arbennig eu hunain, ac yn cryfhau\u2019r cynnig craidd yn rhagweithiol i gynlluniau\u2019r Gwarcheidwaeth Arbennig.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color\">Beth oedd yr heriau?<\/h4>\n\n\n\n<p>Roedd yn gyfnod heriol gan fod bob un o\u2019r pum aelod staff wedi cychwyn gweithio yn yr un mis.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color\">Beth sydd nesaf?<\/h4>\n\n\n\n<p>Mae hyfforddiant Unigolion Cysylltiedig wedi cael ei ddatblygu, ac mae angen rhannu hwn gyda\u2019r timau gofal plant ehangach er mwyn cryfhau eu dealltwriaeth o\u2019r broses asesu, rhannu gwybodaeth a sgiliau a sicrhau ymwybyddiaeth well o\u2019r gefnogaeth Gwarcheidwaeth Arbennig a ddarparwyd. Bydd hyn i gyd yn cryfhau ein cynnig am gefnogaeth.<\/p>\n\n\n\n<p>Byddwn hefyd yn recriwtio i\u2019r swydd Cydlynydd Unigolion Cysylltiedig newydd.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large is-resized\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/08\/Family-Image-01-1024x882.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-3344\" width=\"512\" height=\"441\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/08\/Family-Image-01-1024x882.png 1024w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/08\/Family-Image-01-300x259.png 300w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/08\/Family-Image-01-768x662.png 768w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/08\/Family-Image-01-1536x1324.png 1536w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/08\/Family-Image-01.png 1642w\" sizes=\"auto, (max-width: 512px) 100vw, 512px\" \/><\/figure>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae\u2019r angen am ofal a chefnogaeth yn cael ei leihau a\u2019r cynnydd o ran anghenion yn cael ei atal, tra\u2019n sicrhau bod y canlyniadau gorau posibl yn cael eu sicrhau i bobl. Rhoi unigolion wrth galon ein gwasanaethau Pobl H\u0177n Mae ein prosiect Gofal Cartref Pobl H\u0177n yn mynd rhagddo, gyda\u2019r nod o sicrhau bod [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":5,"featured_media":0,"parent":3288,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"_seopress_titles_title":"","_seopress_titles_desc":"","_seopress_robots_index":"","_seopress_robots_follow":"","_seopress_robots_imageindex":"","_seopress_robots_snippet":"","_seopress_robots_primary_cat":"","_seopress_robots_breadcrumbs":"","_seopress_robots_freeze_modified_date":"","_seopress_robots_custom_modified_date":"","_seopress_robots_canonical":"","_seopress_social_fb_title":"","_seopress_social_fb_desc":"","_seopress_social_fb_img":"","_seopress_social_fb_img_attachment_id":0,"_seopress_social_fb_img_width":0,"_seopress_social_fb_img_height":0,"_seopress_social_twitter_title":"","_seopress_social_twitter_desc":"","_seopress_social_twitter_img":"","_seopress_social_twitter_img_attachment_id":0,"_seopress_social_twitter_img_width":0,"_seopress_social_twitter_img_height":0,"_seopress_redirections_value":"","_seopress_redirections_enabled":"","_seopress_redirections_enabled_regex":"","_seopress_redirections_logged_status":"","_seopress_redirections_param":"","_seopress_redirections_type":0,"_seopress_analysis_target_kw":"","_genesis_hide_title":false,"_genesis_hide_breadcrumbs":false,"_genesis_hide_singular_image":false,"_genesis_hide_footer_widgets":false,"_genesis_custom_body_class":"","_genesis_custom_post_class":"","_genesis_layout":"","footnotes":""},"class_list":{"0":"post-3452","1":"page","2":"type-page","3":"status-publish","5":"entry"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/3452","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/5"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=3452"}],"version-history":[{"count":4,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/3452\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":3457,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/3452\/revisions\/3457"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/3288"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=3452"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}