{"id":3444,"date":"2023-08-25T12:17:30","date_gmt":"2023-08-25T11:17:30","guid":{"rendered":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/adroddiad-2022-23\/safon-ansawdd-2\/"},"modified":"2023-08-25T12:41:26","modified_gmt":"2023-08-25T11:41:26","slug":"safon-ansawdd-2","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/adroddiad-2022-23\/safon-ansawdd-2\/","title":{"rendered":"Safon Ansawdd 2:"},"content":{"rendered":"\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Mae arweinyddiaeth effeithiol yn amlwg ar bob lefel gyda gweithlu medrus, cymwys, sy\u2019n cael cefnogaeth ac sy\u2019n gweithio tuag at weledigaeth a rennir.<\/h2>\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Ymyrraeth Gynnar &#8211; Ffiniau Gofal<\/h3>\n\n<p>Mae\u2019r T\u00eem Cryfhau Teuluoedd yn arwain ar Baneli Ffiniau Gofal, Ymyrraeth Gynnar a\u2019r Cham-drin Domestig.  Pwrpas y paneli amlasiantaethol hyn yw rhannu gwybodaeth a chynllunio ar gyfer cefnogaeth amserol, wedi\u2019i thargedu i gynyddu diogelwch, lleihau risgiau a gwella swyddogaeth a lles teuluoedd.<\/p>\n\n<p>Mae\u2019r Panel Ffiniau Gofal yn ymgynnull yn wythnosol ac yn cynnwys mynychwyr o Wasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc (CAMHS) Cynadledda Gr\u0175p Teulu, Gwasanaethau Ieuenctid, Iechyd, Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid, a Gofalwyr Ifanc fel aelodau hirsefydlog.  Mae\u2019n gyfarfod deinamig lle mae dull Arwyddion Diogelwch yn cael ei ddefnyddio fel ffordd o ystyried dangosyddion diogelwch o fewn teulu.  Mae cynllun yn cael ei drafod ac adnoddau\u2019n cael eu dyrannu, os oes angen, i helpu sefydlogi a chryfhau sefyllfa\u2019r plentyn a\u2019r teulu.<\/p>\n\n<p>Rhwng mis Ebrill a mis Rhagfyr 2022, trafodwyd cyfanswm o 57 o deuluoedd yng nghyfarfodydd y Panel Ffiniau Gofal.   Trafodwyd 23 teulu pellach yng nghyfarfodydd y Panel Ymyrraeth Gynnar.<\/p>\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-alpha-channel-opacity\"\/>\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Y Prosiect Turnaround<\/h3>\n\n<p>Mae Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Conwy a Sir Ddinbych wedi bod yn paratoi i ddarparu Prosiect Turnaround y Weinyddiaeth Gyfiawnder o 1 Ebrill 2023 ymlaen. Mae\u2019r rhaglen wedi cael ei dylunio drwy ddefnyddio dull Cymorth Cynnar er mwyn galluogi\u2019r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid i wella canlyniadau i blant ar ymylon y system gyfiawnder. Nod pennaf y rhaglen yw atal pobl ifanc rhag troseddu neu ail-droseddu drwy:<\/p>\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Gyflawni canlyniadau cadarnhaol i blant, gyda\u2019r nod o\u2019u hatal rhag troseddu<\/li>\n\n\n\n<li>Adeiladu ar y gwaith sydd eisoes wedi\u2019i gynnal i sicrhau fod plant sydd ar ffin y system gyfiawnder ieuenctid yn cael cynnig asesiad o anghenion yn rheolaidd, yn ogystal \u00e2\u2019r cyfle am gefnogaeth<\/li>\n\n\n\n<li>Gwella iechyd meddwl a lles cymdeithasol-emosiynol plant <\/li>\n\n\n\n<li>Gwella integreiddiad a gwaith partneriaeth rhwng y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid a gwasanaethau statudol eraill i gefnogi plant<\/li>\n<\/ul>\n\n<p>Bydd y model darpariaeth Turnaround yn defnyddio dull gweithredu Cymorth Cynnar sydd wedi bod yn llwyddiant gyda rhaglenni ymyrraeth gynnar tebyg, megis Cefnogi Teuluoedd.  Mae dadansoddiad o effaith pum mlynedd o raglen ymyrraeth gynnar Cefnogi Teuluoedd yn dangos gostyngiad o 38% mewn dedfrydau o garchar ymysg yr ifanc, a gostyngiad o 15% mewn euogfarnau ymysg yr ifanc o fewn y cohort.<\/p>\n\n<h4 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color\">Beth nesaf?<\/h4>\n\n<p>Fel gwasanaeth, bydd disgwyl i ni weithio gyda 38 o bobl ifanc bob blwyddyn.  Byddwn yn darparu cefnogaeth Cymorth Cynnar wrth asesu a mynd i\u2019r afael ag anghenion sylfaenol a ffactorau risg sydd efallai wedi dod \u00e2\u2019r plentyn i gyswllt gyda\u2019r system gyfiawnder, gyda\u2019r nod o ddarparu datblygiad cadarnhaol.  Disgwylir mai\u2019r heddlu a\u2019r llysoedd fydd yn gwneud atgyfeiriadau&#8217;n bennaf i\u2019r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid, ond gall unrhyw ymarferydd sydd wedi cael cyswllt gyda\u2019r plentyn, yn ogystal \u00e2 rhieni&#8217;r plant wneud hefyd.<\/p>\n\n<p>Mewn ymateb i\u2019r fenter ddwy flynedd newydd hon, cafodd dwy swydd cyfnod penodol newydd eu creu o fewn y gwasanaeth, ac rydym yn y broses o recriwtio i\u2019r swyddi hyn ar hyn o bryd. <\/p>\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-alpha-channel-opacity\"\/>\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Ehangu\u2019r T\u00eem Lles Meddyliol<\/h3>\n\n<p>Roedd y T\u00eem Lles Meddyliol y bwriadu ehangu eu cefnogaeth ers ei gychwyn yn ystod y pandemig, ac mae eu cynlluniau wedi bod yn llwyddiannus. Rydym wedi recriwtio i swydd Gweithiwr Iechyd Meddwl Proffesiynol Cymeradwy, sy\u2019n ddarpariaeth statudol, ofynnol gan Awdurdodau Lleol, ac sy\u2019n r\u00f4l broffesiynol, arbenigol. Cyfrifoldeb allweddol Gweithiwr Iechyd Meddwl Proffesiynol Cymeradwy yw gwneud ceisiadau ar gyfer cadw unigolion yn yr ysbyty, gan sicrhau bod y Ddeddf Iechyd Meddwl a\u2019i Chod Ymarfer yn cael ei ddilyn.<\/p>\n\n<h4 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color\">Pa wahaniaeth y mae hyn wedi\u2019i wneud?<\/h4>\n\n<p>Mae\u2019r data rydym yn ei gasglu am y gwasanaeth hwn (a ddarperir yn ystod oriau swyddfa) yn dangos cynnydd sylweddol yng ngweithgarwch Gweithiwr Iechyd Meddwl Proffesiynol Cymeradwy ers y pandemig; gyda 292 atgyfeiriad yn cael eu cofnodi yn 2022, 15 yn fwy na llynedd. Mae\u2019r t\u00eem wedi cefnogi myfyriwr sy\u2019n astudio i gymhwyso fel Gweithiwr Iechyd Meddwl Proffesiynol Cymeradwy yn ystod y flwyddyn hefyd, ac wedi nodi bod y mwyafrif o Weithwyr Iechyd Meddwl Proffesiynol Cymeradwy nawr wedi\u2019u hyfforddi mewn Rheolaeth Ymddygiad Cadarnhaol i gynorthwyo gwaith gydag unigolion sydd o bosib yn dreisgar.  <\/p>\n\n<p>Fe wnaethom benodi Gweithiwr Cymdeithasol Adran 117 sy\u2019n gyfrifol am gefnogi\u2019r broses \u00f4l-ofal ar gyfer unigolion sydd wedi cael eu hanfon i\u2019r ysbyty o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl a chael eu hanfon o\u2019r ysbyty wedi hynny. Mae oddeutu 298 o bobl yng Nghonwy sy\u2019n gymwys am gymorth A117, ac mae cael gweithiwr cymdeithasol ymroddedig a phrofiadol yn y swydd hon yn hollbwysig er mwyn sicrhau bod eu hanghenion yn cael eu diwallu\u2019n briodol ac yn gymesur, a bod eu llais yn cael eu clywed, eu bod yn cael eiriolaeth, ac i ddarparu adolygiad parhaus i osgoi methiant mewn lleoliadau. <\/p>\n\n<p>Yn ogystal \u00e2 hynny, gan ddefnyddio cyllid gan y Bwrdd Gwasanaeth Integredig Ardal, fe wnaethom recriwtio Gweithiwr Ymyrryd a Gweithiwr Cefnogaeth Gymunedol ychwanegol a fydd yn darparu cefnogaeth ddwys am gyfnod byr, wedi\u2019i llunio i helpu unigolion mewn ffordd strwythuredig, dan arweiniad yr unigolyn, sy\u2019n canolbwyntio ar adfer ac osgoi argyfwng lle bo hynny\u2019n bosibl a helpu\u2019r unigolyn i adennill sefydlogrwydd. Yn y pendraw, byddai\u2019n fuddiol petai\u2019r swydd hon yn cynnig cefnogaeth i bobl sy\u2019n cofrestru gyda\u2019r Coleg Adfer, i hwyluso\u2019r cynllun gweithredu sy\u2019n canolbwyntio ar adfer, ac i\u2019w helpu i gyrraedd eu nodau a\u2019u dyheadau o fewn y lleoliad hwnnw.<\/p>\n\n<h4 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color\">Beth oedd yr heriau?<\/h4>\n\n<p>Ar gyfer y gwasanaeth Gweithiwr Iechyd Meddwl Proffesiynol Cymeradwy, mae\u2019r gwaith ei hun yn heriol iawn, sef ymdrin \u00e2 phobl s\u00e2l iawn yn y gymuned.  Serch hynny, mae\u2019r prif heriau o ran darpariaeth y gwasanaeth yn parhau i fod yn systemig yn nhermau diffyg argaeledd Meddygon Adran 12(2) cymeradwy (a all argymell derbyniad gorfodol ar gyfer asesiad neu driniaeth dan y Ddeddf Iechyd Meddwl 1983), oedi wrth i ambiwlansys gyrraedd i gludo\u2019r unigolyn i\u2019r ysbyty, a diffyg cyffredinol o ran gwl\u00e2u priodol. Mae hyn yn golygu y gall asesiad llawn gymryd hyd at 15 awr, ac yn aml, mae\u2019n rhaid derbyn yr unigolyn tu allan i\u2019r sir. <\/p>\n\n<h4 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color\">Beth nesaf?<\/h4>\n\n<p>Byddwn yn parhau i ganolbwyntio ar atal ac ymyrraeth gynnar, yn ogystal \u00e2 siwrnai adfer yr unigolyn. Byddwn yn parhau i ddarparu gwasanaeth ymatebol ac yn gweithio gyda chydweithwyr yn y Bwrdd Iechyd i ddatblygu strategaethau i oresgyn y problemau gyda\u2019r broses, sy\u2019n creu rhai o\u2019n heriau.<\/p>\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-alpha-channel-opacity\"\/>\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Cefnogaeth Ymddygiad Cadarnhaol o fewn Gwasanaethau Anableddau<\/h3>\n\n<p>Mae Cefnogaeth Ymddygiad Cadarnhaol yn ddull gweithredu sy\u2019n canolbwyntio ar yr unigolyn wrth gefnogi pobl ag anabledd dysgu, yn enwedig os ydynt wedi\u2019u haflonyddu, ac mewn perygl o niweidio eu hunain.  Mae\u2019r dull hwn yn seiliedig ar weithio gyda phobl a\u2019u rhwydwaith cymorth i ddeall pam maent wedi\u2019u haflonyddu, yr effaith mae\u2019r amgylchedd yn ei gael arnynt, a\u2019r ffyrdd gorau i\u2019w cadw\u2019n ddiogel ac yn hapus.<\/p>\n\n<p>Rydym wedi cefnogi rhai o\u2019n haelodau staff sy\u2019n ymdrin ag anableddau i fynychu hyfforddiant er mwyn ennill cymwysterau Cefnogi Ymddygiad Cadarnhaol. Mae\u2019r hyfforddiant trosolwg wedi cael ei lunio gan Gydlynydd a Rheolwr T\u00eem mewnol, ac mae wedi cael ei beilota gyda th\u00eem o Weithwyr Cefnogaeth Sesiynol sy\u2019n gweithio gyda phlant a phobl ifanc gydag anghenion cefnogaeth cymhleth.<\/p>\n\n<p>Lluniwyd ffurflenni i alluogi\u2019r gweithwyr cefnogi ysgrifennu adroddiadau yn ystod, neu ar \u00f4l pob sesiwn cefnogaeth, gan alluogi dadansoddiad o ymddygiadau a nodi\u2019r strategaethau i gefnogi\u2019r unigolyn i deimlo\u2019n dawelach yn ystod y dydd. Sefydlwyd gweithgor Cefnogaeth Ymddygiad Cadarnhaol, sy\u2019n cynnwys Gweithwyr Cymdeithasol, rheolwyr a Gweithwyr Cefnogi, sydd wedi dechrau casglu syniadau ar sut i fewnosod Cefnogaeth Ymddygiad Cadarnhaol ar draws y <a href=\"https:\/\/www.conwy.gov.uk\/cy\/Resident\/Social-Care-and-Wellbeing\/Help-for-people-with-disabilities\/Help-for-people-with-disabilities.aspx\">Gwasanaeth Anableddau<\/a> cyfan.<\/p>\n\n<p>I\u2019r sawl sydd wedi cwblhau cymwysterau a hyfforddiant, dechreuwyd defnyddio Cefnogaeth Ymddygiad Cadarnhaol fel ymarfer bob dydd i wella bywydau\u2019r sawl sy\u2019n derbyn gwasanaethau. Bellach rydym yn:<\/p>\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Cynnal cyfarfodydd t\u00eem wythnosol sy\u2019n canolbwyntio ar un unigolyn, gan nodi beth sy\u2019n mynd yn dda, beth sydd angen newid, a chyfleoedd newydd<\/li>\n\n\n\n<li>Adnabod dangosyddion cynnar bod unigolyn yn symud i ffwrdd o\u2019u \u2018llinell sylfaen\u2019, ac yn gallu gweithredu strategaethau i leihau\u2019r angen iddynt arddangos ymddygiadau i gyfathrebu eu hanghenion<\/li>\n\n\n\n<li>Rhoi mwy o ddewisiadau i\u2019r sawl rydym yn eu cefnogi, mewn perthynas \u00e2\u2019r gweithgareddau yr hoffant eu gwneud<\/li>\n\n\n\n<li>Cymryd risgiau cadarnhaol, sydd yn ei dro\u2019n creu cyfleoedd newydd ac yn adeiladau sgiliau ar gyfer y bobl rydym yn eu cefnogi <\/li>\n<\/ul>\n\n<p>O ganlyniad i weithredu\u2019r Gefnogaeth Ymddygiad Cadarnhaol, rydym wedi gweld:<\/p>\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Gostyngiad mewn ffurflenni digwyddiadau<\/li>\n\n\n\n<li>Gwell cyfathrebu rhwng y gwasanaeth a theuluoedd<\/li>\n\n\n\n<li>Gwelliant i fywydau pobl ag anableddau<\/li>\n\n\n\n<li>Gostyngiad yn yr angen am leoliadau arbenigol tu allan i\u2019r sir, gan alluogi pobl sy\u2019n derbyn gwasanaethau i aros yn agos i deulu a ffrindiau<\/li>\n\n\n\n<li>Llai o alw am fewnbwn gan wasanaethau Iechyd<\/li>\n\n\n\n<li>Gwelliant i waith amlasiantaethol<\/li>\n\n\n\n<li>Gostyngiad i ddefnydd \u2018ymarfer cyfyngol\u2019<\/li>\n<\/ul>\n\n<h4 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color\">Beth oedd yr heriau?<\/h4>\n\n<p>Mae\u2019r cymwysterau\u2019n fanwl, ac yn gofyn bod aseiniadau a gwaith papur sy\u2019n gysylltiedig \u00e2 Chefnogaeth Ymddygiad Cadarnhaol yn cael eu cwblhau. Mae\u2019n cynnwys sylwadau\u2019r unigolyn, siarad \u00e2 phawb sy\u2019n ymwneud \u00e2 hwy i gasglu gwybodaeth, rhoi\u2019r addysg ar waith, a hyfforddi eraill i roi\u2019r addysg ar waith.  Mae hyn yn ychwanegol at brif swyddi aelodau staff, rheoli amser eu llwyth gwaith ac ymrwymiadau eraill.  <\/p>\n\n<p>Nid pawb sydd eisiau cymryd rhan yn y Gefnogaeth Ymddygiad Cadarnhaol, efallai oherwydd diffyg dealltwriaeth am beth mae\u2019n ei olygu, a pheidio gweld y newidiadau cadarnhaol all hyn ei wneud, a\u2019r amser sydd ei angen i wneud y newidiadau cadarnhaol hynny.<\/p>\n\n<p>Mae ymrwymiadau eraill o ran llwyth gwaith y gweithgor Cefnogaeth Ymddygiad Cadarnhaol yn lleihau\u2019r amser sydd ganddynt i allu ymrwymo i\u2019r fenter hon a symud y newidiadau ymlaen.<\/p>\n\n<h4 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color\">Beth nesaf?<\/h4>\n\n<p>Rydym yn gobeithio cyflwyno\u2019r cymhwyster Cefnogaeth Ymddygiad Cadarnhaol i staff rheng flaen, a datblygu hyfforddiant i nodi\u2019r prif egwyddorion. Hoffwn ddatblygu hyfforddiant ar gyfer teuluoedd hefyd, i\u2019w helpu i ddeall cynlluniau Cefnogaeth Ymddygiad Cadarnhaol, y derminoleg gysylltiedig, a pha newidiadau all eu helpu yn eu cartrefi.<\/p>\n\n<p>Byddwn yn cefnogi darparwyr cymorth i uwchsgilio eu gweithlu gydag ymarfer Cefnogaeth Ymddygiad Cadarnhaol, ac yn ei dro, cynyddu cyfleoedd i bobl gydag anableddau sy\u2019n byw yng Nghonwy.<\/p>\n\n<p>Byddwn yn parhau i leihau\u2019r angen am leoliadau tu allan i\u2019r sir, a dychwelyd pobl i\u2019r sir drwy ddatblygu llety sy\u2019n addas i anghenion yr unigolyn.<\/p>\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-alpha-channel-opacity\"\/>\n\n<h3 class=\"wp-block-heading has-black-color has-text-color\">Adborth gan staff ar \u00f4l mynychu cyrsiau a hyfforddiant<\/h3>\n\n<p>Mae\u2019r T\u00eem Gweithlu a Datblygu wedi cwblhau gwerthusiad o gyrsiau hyfforddiant, sydd wedi amlygu rhwystrau sylweddol i weithwyr Gofal Cymdeithasol a gweithwyr sy\u2019n derbyn hyfforddiant yn yr ystafell ddosbarth, ac ar-lein. <\/p>\n\n<h4 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color\">Beth oedd yr heriau?<\/h4>\n\n<p>Mae cynyddu hygyrchedd i hyfforddiant ar gyfer y gweithlu Gofal Cymdeithasol wedi bod yn heriol.  Yn ogystal \u00e2 hynny, mae heriau mewn perthynas \u00e2 recriwtio wedi effeithio ar allu cyflogwr yn y maes Gofal Cymdeithasol i ryddhau ei weithwyr i fynd i hyfforddiant yn yr ystafell ddosbarth.<\/p>\n\n<p>Mae hyfforddiant ar-lein yn cynnig rhagor o gyfleoedd o ran mynediad, gan ei fod yn osgoi amser teithio i ystafell ddosbarth.  Serch hynny, mae angen dyfais ddigidol addas ar weithwyr i gael mynediad i\u2019r hyfforddiant.  Mae angen sgiliau a hyder arnynt i ddefnyddio\u2019r fath ddyfais hefyd. <\/p>\n\n<h4 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color\">Beth nesaf?<\/h4>\n\n<p>Rydym yn gweithio ar fodel darparu hyfforddiant newydd i gynyddu hygyrchedd.  Bydd hyn yn cynnwys darparu hyfforddiant craidd yn y gweithle.  Yn ogystal \u00e2 hynny, bydd yn cynyddu mynediad at addysg ar-lein drwy ddarpariaeth llechen ddigidol a chefnogi gweithwyr i ddefnyddio\u2019r dyfeisiau.<\/p>\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-alpha-channel-opacity\"\/>\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Ymgynghori \u00e2\u2019n staff rheng flaen<\/h3>\n\n<p>Rydym yn gofyn i\u2019r staff sy\u2019n gweithio yn ein timau cefnogaeth rheng flaen yn rheolaidd am eu barn am eu rolau, ac ansawdd y gofal sy\u2019n cael ei ddarparu ganddyn nhw a\u2019u gwasanaethau. Rydym wedi nodi rhai o\u2019r ymatebion a\u2019r adborth isod.<\/p>\n\n<h4 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color\">Gweithwyr gofal cartref sy\u2019n helpu unigolion ag anableddau<\/h4>\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Roedd 100% o ymatebwyr yn teimlo eu bod wedi\u2019u hyfforddi\u2019n ddigonol i gyflawni eu rolau<\/li>\n\n\n\n<li>Roedd 96% yn cytuno, fel t\u00eem, ein bod yn gwrando ar yr unigolion yr ydym yn eu cefnogi ac yn sicrhau bod ganddynt hawliau ac yn gallu gwneud dewisiadau<\/li>\n\n\n\n<li>Roedd 100% yn teimlo, fel t\u00eem, ein bod yn cefnogi unigolion i fyw bywydau llawn ac yn cefnogi eu hiechyd a\u2019u lles<\/li>\n\n\n\n<li>Roedd 96% yn teimlo, fel t\u00eem, ein bod yn helpu unigolion i amddiffyn eu hunain a chadw\u2019n ddiogel rhag camdriniaeth ac esgeulustod<\/li>\n\n\n\n<li>Sgoriodd pob ymatebwr berfformiad cyffredinol eu t\u00eem yn dda iawn neu\u2019n rhagorol<\/li>\n<\/ul>\n\n<p>Gofynnwyd i gyfranogwyr am yr hyn y mae eu gwasanaeth yn ei wneud yn dda:<\/p>\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p>Mae\u2019r gwasanaeth yn agor drysau i roi cyfleoedd i unigolion gyflawni \/ cyrraedd eu hamcanion, breuddwydion a dymuniadau. Mae\u2019r gwasanaeth yn cynnig pecynnau gofal gwych ar gyfer unigolion ac yn trin pawb fel unigolyn ac yn gweithio\u2019n galed i gyflawni\u2019r gefnogaeth gywir ar gyfer yr unigolyn hwnnw.<\/p>\n<\/blockquote>\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p>Gwrando ar a gweithredu ar anghenion y plant \/ bobl ifanc yr ydym ni\u2019n eu cefnogi. Cefnogi staff a gwneud iddynt deimlo\u2019n werthfawr. Mynd yr ail filltir!<\/p>\n<\/blockquote>\n\n<p>Gofynnont hefyd beth yw rhan orau eu swydd:<\/p>\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p>Pan fydd pethau\u2019n llwyddo; sylwi ar newid mewn cyfathrebu, gweld y rhwystr hwnnw rhwng staff a\u2019r unigolyn yn dod lawr wrth i\u2019r ymddiriedolaeth gynyddu\u2026<\/p>\n<\/blockquote>\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p>Gwybod eich bod wedi cael effaith gadarnhaol ar ddiwrnod rhywun.<\/p>\n<\/blockquote>\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p>Gweld pobl ifanc yn cyflawni rhywbeth, dim ots pa mor fach. Gweld pobl ifanc yn mwynhau gwneud rhywbeth. Ffurfio perthnasau cadarnhaol gyda\u2019r bobl ifanc yr ydw i\u2019n eu cefnogi.<\/p>\n<\/blockquote>\n\n<p>Gofynnom i bobl ifanc sy\u2019n gweithio ar y cyd \u00e2\u2019r timau anabledd mewnol am eu barn am ansawdd y gwasanaeth. Cawsom ymatebion gan y timau ymarferwyr sy\u2019n gweithio gydag unigolion dan 25 oed, dros 25 oed ac yn y gwasanaethau dydd.<\/p>\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Roedd 100% yn teimlo ein bod yn gwrando ar y bobl ifanc rydym yn eu cefnogi, ac yn eu galluogi i wneud dewisiadau am y gofal a\u2019r gefnogaeth y maen nhw\u2019n ei gael a\u2019r cyfleoedd sydd ar gael iddyn nhw.<\/li>\n<\/ul>\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p>Mae\u2019r t\u00eem yn canolbwyntio\u2019n arw ar yr unigolyn a\u2019r unigolyn sydd wrth wraidd y gofal a\u2019r gefnogaeth. Maent yn meddwl yn greadigol a \u2018thu hwnt i\u2019r ffiniau\u2019. Mae hyn yn amlwg yn y t\u00eem rheoli ac rydw i\u2019n teimlo ei fod yn treiddio lawr i\u2019r staff i gyd hefyd.<\/p>\n<\/blockquote>\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Roedd 94% yn teimlo bod y t\u00eem yn ymateb mewn ffordd amserol pan fyddant yn cysylltu \u00e2 nhw gydag ymholiad<\/li>\n\n\n\n<li>Roedd 100% ohonynt yn teimlo bod y t\u00eem yn ymateb ar unwaith i geisiadau pan fo pryderon am unigolion yn defnyddio\u2019r gwasanaeth yn codi.<\/li>\n\n\n\n<li>Roedd 100% ohonynt yn teimlo bod y t\u00eem yn ymateb yn briodol i geisiadau pan fo pryderon am unigolion yn defnyddio\u2019r gwasanaeth yn codi<\/li>\n\n\n\n<li>Mae 100% yn cytuno bod y gwasanaeth yn cefnogi unigolion i aros yn hapus ac yn iach<\/li>\n<\/ul>\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p>Mae cefnogaeth gan y t\u00eem yn galluogi teuluoedd a phlant i gael mynediad at wasanaethau a chyfleoedd na fyddai ar gael iddynt fel arall, gan gynnig cyfnodau o seibiant i rieni, a chynnig perthnasau proffesiynol a gofalgar i\u2019r plant.<\/p>\n<\/blockquote>\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Roedd 100% yn teimlo bod y gwasanaeth yn helpu pobl ifanc i\u2019w hamddiffyn eu hunain a chadw\u2019n ddiogel rhag camdriniaeth ac esgeulustod.<\/li>\n<\/ul>\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p>Roeddwn i\u2019n rhan o achos penodol\u2026lle aeth y t\u00eem yr ail filltir wrth ddarparu gofal i\u2019r plentyn. Fe wnaethant godi pryderon pan roeddent yn teimlo nad oedd asiantaethau eraill yn darparu\u2019r gofal priodol.  Fe wnaethant drin y plentyn gyda pharch, trugaredd ac empathi. <\/p>\n<\/blockquote>\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Roedd 100% yn teimlo bod y gwasanaeth yn hyblyg ac yn addasadwy er mwyn bodloni anghenion yr unigolyn a gynorthwyir.<\/li>\n\n\n\n<li>Ceisiwyd enghreifftiau o weithio\u2019n effeithiol mewn partneriaeth, ac ymatebodd y cyfranogwyr gyda llawer o enghreifftiau, rhwng unigolion, timau mewnol, gwybodaeth a rhannu sgiliau a sefydliadau partner, megis Iechyd.<\/li>\n<\/ul>\n\n<h4 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color\">Gweithwyr gofal gartref Pobl H\u0177n<\/h4>\n\n<p>Fel rhan o\u2019n cyfres o arolygon, gofynnom i weithwyr gofal gartref pobl h\u0177n am eu barn am y gwasanaeth maen nhw\u2019n ei ddarparu a\u2019r gefnogaeth maen nhw\u2019n gael gan y rheolwyr. <\/p>\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Roedd 90% yn teimlo eu bod yn cael yr hyfforddiant a\u2019r gefnogaeth oruchwyliol angenrheidiol gan eu rheolwr i wneud eu swyddi<\/li>\n\n\n\n<li>Roedd 100% yn cytuno, fel t\u00eem, eu bod yn gwrando ar yr unigolion yr ydym yn eu cefnogi ac yn sicrhau bod ganddynt hawliau ac yn gallu gwneud dewisiadau<\/li>\n\n\n\n<li>Roedd 94% yn teimlo, fel t\u00eem, eu bod yn cefnogi unigolion i fyw bywydau llawn ac yn cefnogi eu hiechyd a\u2019u lles<\/li>\n<\/ul>\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p>Rydw i\u2019n ymweld \u00e2\u2019r rhai sy\u2019n rhan o\u2019m llwyth achosion yn ddyddiol neu\u2019n wythnosol i\u2019w monitro, eu cefnogi, eu helpu a\u2019u cyfeirio i hwyluso eu hanghenion a gwrando arnynt a phawb o\u2019u cwmpas. <\/p>\n<\/blockquote>\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p>Drwy annog unigolion i wneud gymaint ag y gallent eu hunain, datblygu eu hunan-barch a chodi eu hunan-hyder. Hefyd, annog unigolion i fynychu clybiau cinio a digwyddiadau cymdeithasol eraill fel y gallent ddatblygu cyfeillgarwch gyda\u2019u grwpiau oedran eu hunain a chael pethau i edrych ymlaen atynt.<\/p>\n<\/blockquote>\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Roedd 97% yn teimlo bod y gwasanaeth yn helpu unigolion i amddiffyn eu hunain a chadw\u2019n ddiogel rhag camdriniaeth ac esgeulustod<\/li>\n\n\n\n<li>Mae 54% yn rhoi sg\u00f4r o bump allan o pump a 34% yn rhoi sg\u00f4r o bedwar<\/li>\n<\/ul>\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p>Rydw i\u2019n hapus iawn gyda\u2019r gwasanaeth yr ydw i\u2019n gweithio ynddo. Rydw i\u2019n mwynhau cael mynediad agored a llawn i bob gwasanaeth sy\u2019n fy ngalluogi i atgyfeirio unigolion ar garlam i\u2019r cymorth a\u2019r gofal.<\/p>\n<\/blockquote>\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p>Yn yr amgylchedd yma sy\u2019n gweithredu\u2019n gyflym, rydw i\u2019n gweld bod rhannu gwybodaeth yn beth da iawn a gwrandewir a gweithredir ar unrhyw bryderon \/ newidiadau ar unwaith.<\/p>\n<\/blockquote>\n\n<p>Mae\u2019r sylwadau ychwanegol yn awgrymu, er gwaethaf yr heriau cyfredol yn y maes gofal cymdeithasol, bod y timau\u2019n parhau\u2019n gadarnhaol ac yn benderfynol o ddarparu\u2019r gofal gorau posib i bobl h\u0177n yng Nghonwy. <\/p>\n\n<p>Holom gydweithwyr o\u2019r Cyngor, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Chymdeithasau Tai am eu barn am berfformiad y gwasanaeth hwn. Unwaith eto, roedd yr adborth yn gadarnhaol ar y cyfan, gyda chydnabyddiaeth bod y galw ar y timau gofal gartref yn uchel. <\/p>\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Roedd 100% yn teimlo ein bod yn gwrando ar yr unigolion rydym ni\u2019n eu cefnogi, ac yn eu galluogi i wneud dewisiadau am y gofal a\u2019r gefnogaeth y maen nhw\u2019n ei gael a\u2019r cyfleoedd sydd ar gael iddyn nhw <\/li>\n\n\n\n<li>Roedd 96% yn teimlo ein bod yn ymateb mewn modd amserol i ymholiadau ac mae 100% yn teimlo ein bod yn ymateb yn brydlon ac yn briodol i bryderon am unigolion yn cael mynediad at y gwasanaeth<\/li>\n\n\n\n<li>Mae 100% yn teimlo ein bod yn cefnogi unigolion i aros yn hapus ac yn iach<\/li>\n\n\n\n<li>Roedd 100% yn teimlo bod y gwasanaeth yn helpu unigolion i\u2019w hamddiffyn eu hunain a chadw\u2019n ddiogel rhag camdriniaeth ac esgeulustod<\/li>\n\n\n\n<li>Mae 91% yn teimlo bod y gwasanaeth yn hyblyg ac yn gallu addasu er mwyn bodloni anghenion yr unigolion yr ydym yn eu cefnogi, gyda sylwadau ychwanegol sy\u2019n gwerthfawrogi bod hyn yn digwydd pan fo pwysau o ran staffio a gallu ac amser yn codi<\/li>\n<\/ul>\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p>Rydw i wedi gweithio mewn partneriaeth gyda\u2019r T\u00eem Ail-alluogi sawl gwaith ac rydw i\u2019n ystyried eu staff yn gefnogol ac maent yn ymgysylltu\u2019n dda gyda defnyddwyr gwasanaeth a\u2019u teuluoedd.  Maen nhw\u2019n darparu gwasanaeth lefel uchel o ansawdd, maen nhw\u2019n gallu ymdrin ag argyfyngau pan fyddant yn codi, ac [maen nhw\u2019n] adnodd gwych yn y gymuned.<\/p>\n<\/blockquote>\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p>Yn ystod un o\u2019r streiciau ambiwlansys, ni wnaeth un o\u2019r uwch ofalwyr betruso dim rhag fy nghefnogi gyda defnyddiwr gwasanaeth. Yn ystod Covid, y gofalwyr oedd ein llygaid a\u2019n clustiau ac os oedd ganddyn nhw bryderon am ddefnyddiwr gwasanaeth, roeddent yn rhoi gwybod i mi ar unwaith.<\/p>\n<\/blockquote>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae arweinyddiaeth effeithiol yn amlwg ar bob lefel gyda gweithlu medrus, cymwys, sy\u2019n cael cefnogaeth ac sy\u2019n gweithio tuag at weledigaeth a rennir. Ymyrraeth Gynnar &#8211; Ffiniau Gofal Mae\u2019r T\u00eem Cryfhau Teuluoedd yn arwain ar Baneli Ffiniau Gofal, Ymyrraeth Gynnar a\u2019r Cham-drin Domestig. Pwrpas y paneli amlasiantaethol hyn yw rhannu gwybodaeth a chynllunio ar gyfer [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":5,"featured_media":0,"parent":3288,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"_seopress_robots_primary_cat":"","_seopress_titles_title":"","_seopress_titles_desc":"","_seopress_robots_index":"","_genesis_hide_title":false,"_genesis_hide_breadcrumbs":false,"_genesis_hide_singular_image":false,"_genesis_hide_footer_widgets":false,"_genesis_custom_body_class":"","_genesis_custom_post_class":"","_genesis_layout":"","footnotes":""},"class_list":{"0":"post-3444","1":"page","2":"type-page","3":"status-publish","5":"entry"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/3444","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/5"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=3444"}],"version-history":[{"count":7,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/3444\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":3451,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/3444\/revisions\/3451"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/3288"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=3444"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}