{"id":3420,"date":"2023-08-25T11:34:22","date_gmt":"2023-08-25T10:34:22","guid":{"rendered":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/adroddiad-2022-23\/safon-ansawdd-1\/"},"modified":"2023-08-25T11:55:22","modified_gmt":"2023-08-25T10:55:22","slug":"safon-ansawdd-1","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/adroddiad-2022-23\/safon-ansawdd-1\/","title":{"rendered":"Safon Ansawdd 1:"},"content":{"rendered":"\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Mae pob unigolyn yn bartner cyfartal sydd \u00e2 llais, dewis a rheolaeth dros eu bywydau ac maent yn gallu cyflawni&#8217;r hyn sy&#8217;n bwysig iddyn nhw<\/h2>\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\"><strong>Trefniadau Diogelu Rhag Colli Rhyddid \/\u00a0 Trefniadau Amddiffyn Rhyddid<\/strong><\/h3>\n\n<p>Mae\u2019r broses Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid (DoLS) yn parhau er bod y newid cenedlaethol i Drefniadau Amddiffyn Rhyddid yn parhau i gael ei ragweld yn y dyfodol. Nid oes dyddiad cychwyn wedi cael ei gadarnhau eto. <\/p>\n\n<p>Erbyn hyn, mae\u2019r t\u00eem DoLS bron yn \u00f4l i\u2019w gryfder llawn yn dilyn cyfnod o newid, a defnyddiwyd staff asiantaeth ychwanegol i reoli\u2019r rhestr aros. Gan fod y rhan waethaf o bandemig Covid wedi pasio erbyn hyn, bu modd i ymarferwyr ddychwelyd i ymweliadau wyneb yn wyneb yn hytrach nag asesiadau dros y we. Mae\u2019r t\u00eem yn parhau i ddatblygu perthnasau gwaith cadarnhaol gyda gwasanaethau eirioli ac asiantaethau partner eraill. Mae adborth yn awgrymu bod gan y t\u00eem DoLS enw da o ran eiriolaeth. <\/p>\n\n<p>Drwy ymgynghori a hyfforddiant gr\u0175p am achosion unigol, mae ymarferwyr DoLS (Aseswyr Budd Pennaf) yn parhau i gefnogi staff rheng-flaen (timau gwaith cymdeithasol a chartrefi gofal) i wella\u2019r ffordd y defnyddir y Ddeddf Galluedd Meddyliol a\u2019r Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid er budd yr unigolyn. Maen nhw hefyd wedi bwydo mewn i\u2019r broses ymgynghori cenedlaethol mewn perthynas \u00e2 Ch\u00f4d Ymarfer y Ddeddf Galluedd Meddyliol newydd (sy\u2019n ymgorffori\u2019r Trefniadau Amddiffyn Rhyddid sydd i ddod.<\/p>\n\n<h4 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color\">Pa wahaniaeth y mae hyn wedi\u2019i wneud i bobl?<\/h4>\n\n<p>Mae gweithredu\u2019r broses DoLS yn golygu bod hawliau nifer gynyddol o unigolion wedi\u2019u diogelu, mae haen ychwanegol o graffu dros eu trefniadau gofal, mynediad at eiriolaeth, ac yn gallu dod \u00e2 her i\u2019r llys petaent yn dymuno gwneud hynny. Mae\u2019r DoLS yn helpu sicrhau bod cynllunio gofal yn gyfreithlon ac yn cael ei gyflawni yn unol ag egwyddorion y Ddeddf Galluedd Meddyliol sef er budd pennaf yr unigolyn a\u2019r opsiwn gyda\u2019r lleiaf o gyfyngiadau. Mae hyn yn cynnwys cynllunio mwy cadarn, ymgynghori a dogfennau mewn perthynas \u00e2 materion fel eiriolaeth, teilwra lleoliadau, mynediad i\u2019r gymuned, y defnydd o feddyginiaeth cudd a gwrth-seicotig a gweithgareddau dyddiol ystyrlon.<\/p>\n\n<h4 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color\">Beth oedd yr  heriau?<\/h4>\n\n<p>Mae yna restr aros hir ar gyfer atgyfeiriadau. Mae\u2019r nifer uchel o bobl h\u0177n a chartrefi gofal yn yr ardal o ganlyniad i nifer uwch na\u2019r cyfartaledd o bobl wedi\u2019u hamddifadu o\u2019u rhyddid. Yn ogystal \u00e2 hyn, mae\u2019n rhaid adnewyddu awdurdodiadau DoLS bob deuddeg mis o leiaf ac mae\u2019r asesiadau\u2019n hir ac yn gyfreithiol gymhleth. Mae\u2019r ffactorau hyn yn effeithio ar y rhestr aros. O ganlyniad i hyn, mae risg i bobl gael eu hamddifadu o\u2019u rhyddid yn anghyfreithlon, nid oes ganddynt fynediad llawn at eu hawliau ac efallai nad ydynt yn y sefyllfa o\u2019r budd pennaf iddynt, neu sy\u2019n cynnwys gormod o gyfyngiadau. <\/p>\n\n<p>Rydym yn disgwyl am ddyddiad cychwyn cyflwyno Trefniadau Amddiffyn Rhyddid, ond rydym yn gwybod y bydd rhai o\u2019r cyfrifoldebau dan y Trefniadau Amddiffyn Rhyddid yn trosglwyddo o\u2019r t\u00eem DoLS i ymarferwyr gwaith cymdeithasol rheng-flaen. Bydd angen gwaith paratoi sylweddol ar gyfer hyn yn ogystal \u00e2 hyfforddiant digonol yn y timau hynny. Gan nad ydym yn gwybod dyddiad na ffurf derfynol y Trefniadau Amddiffyn Rhyddid, mae\u2019n ei gwneud yn anodd cynllunio a datblygu model cyflawni gwasanaeth.<\/p>\n\n<h4 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color\">Beth nesaf?<\/h4>\n\n<p>Bydd y t\u00eem DoLS yn parhau i reoli a blaenoriaethu\u2019r rhestr aros. Bydd hyfforddiant o\u2019r newydd a hyfforddiant gloywi cyfreithiol o ansawdd uchel yn cael ei ddarparu i staff newydd a chyfredol, mewn perthynas \u00e2 Threfniadau Diogelu Rhag Colli Rhyddid a Threfniadau Amddiffyn Rhyddid, er mwyn paratoi ar gyfer y newidiadau mewn arferion. Bydd Aseswyr Budd Pennaf (ymarferwyr DoLS) yn paratoi i drosglwyddo i swyddogaeth Gweithiwr Proffesiynol Galluedd Meddyliol Cymeradwy dan y Trefniadau Amddiffyn Rhyddid. Fodd bynnag, ni all hyn ddigwydd nes bod sefydliadau hyfforddiant achrededig a gofynion trawsnewid y swydd hon wedi cael ei chyhoeddi.<\/p>\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-alpha-channel-opacity\"\/>\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Lleisiau Uchel<\/h3>\n\n<p>Gr\u0175p i blant a phobl ifanc sy\u2019n derbyn gofal gan yr Awdurdod Lleol sy\u2019n cael ei hwyluso gan y Swyddogion Diogelu ac Adolygu Annibynnol yw Loud Voices.  Bwriad Loud Voices yw gwrando ar brofiadau a barn plant a phobl ifanc i sicrhau bod ganddynt lais.  Mae hyn yn galluogi gweithwyr proffesiynol i ddysgu am yr hyn sy\u2019n mynd yn dda, a\u2019r hyn allwn ni fel gweithwyr proffesiynol ei wneud yn wahanol.   &#13;\n<\/p>\n\n<p>Yn dilyn terfyn pandemig Covid, rydym wedi ailddechrau\u2019r gr\u0175p hwn.  Mae\u2019r sesiynau\u2019n cael eu cynllunio bob amser er mwyn sicrhau bod plant yn cael amser i gael hwyl yn ogystal \u00e2 chymryd rhan mewn ymgynghoriad gyda\u2019r oedolion sy\u2019n bresennol. <\/p>\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-alpha-channel-opacity\"\/>\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Datblygu ein gwasanaethau dementia<\/h3>\n\n<p>Rydym wedi sefydlu Fforwm Gwasanaethau Dementia Conwy i gefnogi datblygiad a darpariaeth gwasanaethau dementia yn lleol.  Gr\u0175p gweithredol yw hwn sydd \u00e2\u2019r bwriad o ennyn trafodaethau agored a chydweithredol rhwng y rhai sy\u2019n ymwneud \u00e2 datblygu, gweithredu ac adrodd ar ofal dementia yng Nghonwy. Bydd y gr\u0175p hefyd yn datblygu ac yn goruchwylio gweithredu a chyflawni\u2019r Strategaeth Dementia arloesol yn y Sir. Mae cynrychiolwyr o\u2019r Cyngor, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a\u2019r Trydydd Sector yn rhan o\u2019r fforwm.<\/p>\n\n<p>Mae swyddogion o Ofal Cymdeithasol i Oedolion wedi sefydlu gweithgor gyda chynrychiolwyr o amrywiaeth o wahanol adrannau yn y Cyngor i\u2019n cefnogi ni gyda llwyddo i gael cydnabyddiaeth gan Gymdeithas Alzheimer fel sefydliad sy\u2019n deall dementia. Ar hyn o bryd, rydym yn gweithio ar gynllun gweithredu i gefnogi cadw\u2019r statws hwnnw. Mae hyn wedi cael ei gydnabod yng Nghynllun Corfforaethol Conwy bellach.  <\/p>\n\n<p>Rydym yn cymryd rhan weithgar mewn amrywiaeth o grwpiau tasg a gorffen newydd a reolir gan y T\u00eem Cydweithio Rhanbarthol mewn perthynas \u00e2 chefnogi gweithredu \u2018Llwybr Safonau Gofal Dementia ar gyfer Cymru Gyfan\u2019. Mae\u2019r rhain wedi cael eu llunio dros y ddwy flynedd ddiwethaf, gyda dros 1800 o bobl, yn amrywio o\u2019r rheiny sy\u2019n byw gyda dementia i sefydliadau sector gwirfoddol ac ymarferwyr ledled Cymru a\u2019r DU yn rhan o\u2019r gwaith. Gwelliant Cymru fu\u2019n arwain ar y gwaith hwn fel rhan o\u2019r Rhaglen Gofal Dementia, gyda gofynion Cynllun Gweithredu Dementia ar gyfer Cymru yn llywio\u2019r gwaith, a Gr\u0175p ar Oruchwylio Gweithrediad ac Effaith ym maes Dementia Llywodraeth Cymru yn goruchwylio\u2019r gwaith.<\/p>\n\n<p>Mae 20 o safonau (wedi\u2019u crynhoi o dros 100 o ddarpar safonau), ac maen nhw\u2019n nodi\u2019r manylion y mae pobl yn credu a fydd yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i ofal dementia yng Nghymru.<\/p>\n\n<p>Yn yr Adran Gofal Cymdeithasol, rydym hefyd wedi defnyddio arian y <a href=\"https:\/\/www.llyw.cymru\/y-gronfa-integreiddio-rhanbarthol-ar-gyfer-iechyd-gofal-cymdeithasol\">Gronfa Integreiddio Ranbarthol<\/a> i benodi Gweithiwr Cefnogi Dementia ym mhob un o\u2019n pum t\u00eem ardal. Maen nhw\u2019n cefnogi staff Gofal Iechyd a Chymdeithasol sy\u2019n gweithio yn y Timau Adnoddau Cymunedol, gan wella ein dull aml-ddisgyblaethol i gefnogi pobl i fyw\u2019n dda gyda dementia ac aros yn eu cartrefi eu hunain. Yn ei dro, mae hyn yn cefnogi datblygu\u2019r t\u00eem o amgylch y dull unigol y cyfeirir ato yn y Cynllun Gweithredu Dementia ac yn darparu gofal wedi\u2019i gydlynu ac sy\u2019n canolbwyntio ar yr unigolyn, yn ogystal \u00e2 chefnogaeth a thriniaeth fel bo angen. Mae\u2019r Gweithwyr Cefnogi Dementia yn darparu man cyswllt allweddol i deuluoedd i\u2019w helpu gyda chymhlethdodau\u2019r system Gofal Cymdeithasol, ac hefyd yn rhoi:<\/p>\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Cefnogaeth estyn allan hyblyg a phersonol, gan ddefnyddio dull gweithredu \u2018t\u00eem o amgylch yr unigolyn\u2019 o\u2019r diagnosis cyntaf.<\/li>\n\n\n\n<li>Cyfeirio cymunedol (cyfeirio pobl at wasanaethau eraill) a chefnogaeth eirioli ar gyfer pobl gyda dementia a\u2019u gofalwyr.<\/li>\n\n\n\n<li>Cefnogaeth sy\u2019n ymateb i angen, yn hytrach na chefnogaeth yn dibynnu ar amserlenni.<\/li>\n\n\n\n<li>Cefnogaeth i gael mynediad at wasanaethau seibiant dros nos ac yn y dydd yng nghartref gofal Llys Elian fel bo anghenion yn dwys\u00e1u.<\/li>\n\n\n\n<li>Cefnogaeth ychwanegol i\u2019r rhai lle bydd gofal cartref traddodiadol yn methu, a bod angen cefnogaeth mwy hyblyg i gynnal annibyniaeth.<\/li>\n\n\n\n<li>Cefnogaeth a hyfforddiant i deuluoedd a gofalwyr, gan gynnwys hyrwyddo technoleg ddigidol.<\/li>\n\n\n\n<li>Cysylltiadau gyda nyrsio ardal o ran gofal diwedd bywyd a\u2019r T\u00eem Adnoddau Cymunedol ehangach.<\/li>\n<\/ul>\n\n<p>Drwy\u2019r T\u00eem Cefnogi Dementia (a ariennir drwy\u2019r Gronfa Integreiddio Ranbarthol hefyd) rydym wedi gallu profi\u2019r cysyniad o gael ffordd fwy hyblyg i ddarparu gofal a chefnogaeth yn y gymuned ar gyfer pobl sy\u2019n byw gyda dementia, a\u2019u gofalwyr di-d\u00e2l.<\/p>\n\n<p>Mae\u2019r t\u00eem wedi galluogi pobl sy\u2019n byw gyda dementia i gynnal eu hannibyniaeth ac aros gartref, ac osgoi gorfod anfon pobl i\u2019r ysbyty neu i ofal preswyl yn ddiangen, neu ohirio\u2019r angen am wasanaethau o\u2019r fath. Maen nhw hefyd wedi lleihau\u2019r oedi pan fo angen anfon rhywun adref o\u2019r ysbyty. Yn y cyd-destun lleol, mae hyn yn golygu llai o achosion Oedi wrth Drosglwyddo Gofal o\u2019r ysbyty seiciatrig, a defnyddio llai o leoliadau y tu allan i&#8217;r dalgylch, ac felly amharu llai ar deuluoedd ac achosi llai o boen meddwl iddyn nhw, yn ogystal \u00e2\u2019r arbedion ariannol o ran costau lleoliadau. Credir y bydd y gefnogaeth fwy effeithiol hon ar gyfer gofalwyr pobl gyda dementia yn effeithio\u2019n gadarnhaol ar wytnwch gofalwyr a bydd yn lleihau achosion argyfyngus. Yn anffodus, mae recriwtio i\u2019r t\u00eem wedi parhau i fod yn heriol iawn, ac nid ydym wedi gallu penodi i bob swydd erioed. <\/p>\n\n<p>Oherwydd pwysau\u2019r gwasanaeth, nid yw\u2019n cynlluniau i dreialu gwasanaeth mwy hyblyg yn ein cartref preswyl i\u2019r Henoed sydd \u00e2 Salwch Meddyliol (Llys Elian) a\u2019i gysylltu gyda gwaith y t\u00eem hwn wedi gallu mynd rhagddo hyd yn hyn. Roeddem wedi gobeithio y gallai\u2019r t\u00eem ddefnyddio gwasanaethau seibiant Llys Elian dros nos ac yn ystod y dydd, wrth i anghenion pobl ddwys\u00e1u, ond oherwydd cyfyngiadau Covid a materion yn ymwneud \u00e2 chynhwysedd ar draws y sector cartrefi gofal, nid ydym wedi gallu bwrw ymlaen gyda hyn o gwbl.  Heb ystyried hyn, mae\u2019r t\u00eem ei hun wedi cael effaith gadarnhaol ar fywydau rhai unigolion. <\/p>\n\n<p style=\"font-style:italic;font-weight:600\">Mae\u2019r astudiaeth achos a ganlyn yn dangos sut mae\u2019r T\u00eem Dementia yn gweithio\u2019n agos gydag unigolion a\u2019u hanwyliaid i greu\u2019r canlyniadau gorau posib.<\/p>\n\n<p>Cyn i ni fod yn rhan o\u2019r gofal, roedd M yn byw yn annibynnol gartref, gyda chefnogaeth ei lys-ferch ofalgar. Yn dilyn ein ddiagnosis dementia, fe wnaeth ein T\u00eem Ail-alluogi ei gefnogi yn ystod cyfnod asesu cychwynnol ac yna cawson nhw eu disodli gan D\u00eem Dementia oedd yn galw bedair gwaith y diwrnod ar gyfer gofal personol, prydau bwyd a meddyginiaeth. Mae M yn \u0175r bonheddig dymunol sydd fel arfer yn derbyn y gofal, ond ar brydiau, ni fydd yn derbyn cymorth i wisgo\u2019n barod am ei wely. Roedd hyn yn her ar y dechrau, gan fod ei lys-ferch yn pryderu nad oedd o\u2019n mynd i\u2019w wely yn y nos gan nad oedd hi\u2019n edrych fel bod unrhyw un wedi cysgu yn y gwely. Roeddem yn pryderu, ymhen amser, y byddai\u2019n datblygu briwiau pwyso, felly fe wnaethom weithio gyda M i sefydlu trefn gyda\u2019r nos, a chafwyd amrywiaeth o lwyddiant gyda hyn.<\/p>\n\n<p>Pan fo hi\u2019n braf, bydd M yn hoffi cerdded i\u2019r siop leol, ac nid yw gartref weithiau pan fo rhywun yn galw amser cinio. Rydym yn gweithio gyda M a byddwn yn mynd yn \u00f4l ato yn ddiweddarach.<\/p>\n\n<p>Rydym hefyd yn gweithio\u2019n agos gyda llys-ferch M, sy\u2019n mynd ag o i\u2019w apwyntiadau iechyd i gyd ac yn rhoi gwybod i\u2019r t\u00eem am unrhyw wybodaeth berthnasol. Rydym yn gweithio gyda\u2019n gilydd ar hyn o bryd i wella deiet M oherwydd ei fod wedi colli pwysau a bod ganddo ffigwr platennau isel drwy gwblhau siartiau bwyd a diod. Mae ei bwysau\u2019n cael eu monitro yn y clinig.<\/p>\n\n<p>Mae M yn parhau i fyw\u2019n dda gyda dementia yn y gymuned gyda phedwar galwad y diwrnod.<\/p>\n\n<h4 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color\">Beth oedd yr heriau?<\/h4>\n\n<p>Mae sicrhau bod unigolion sy\u2019n byw gyda dementia a\u2019u hanwyliaid yn cael eu cynnwys ar y Fforwm Gwasanaethau Dementia wedi bod yn heriol, felly rydym yn treialu dull gweithredu gwahanol i ymgysylltu ac ymgynghori ag unigolion sy\u2019n defnyddio\u2019r Ganolfan Dementia, a reolir gan Cynnal Gofalwyr. Drwy drafod materion gwasanaeth a phynciau llosg yn rheolaidd, bydd y llwybr hwn yn golygu bod modd i ni hysbysu datblygu gwasanaeth a\u2019i gyflawni.<\/p>\n\n<p>Roedd y Gweithwyr Cefnogi Dementia yn swydd newydd i ni, ac ar y dechrau, nid oeddem yn rhy si\u0175r beth fyddai\u2019r swyddogaeth yn gynnwys. Fodd bynnag, mae\u2019r swydd wedi newid dros amser, ac erbyn hyn, teimlir bod deiliaid y swydd yn rhan annatod a gwerthfawr iawn o\u2019r Timau Adnoddau yn Cymunedol.<\/p>\n\n<h4 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color\">Beth nesaf?<\/h4>\n\n<p>Byddem yn hoffi cynyddu nifer y swyddi Gweithiwr Cefnogi Dementia sydd gennym gan fod y swydd wedi dod yn allweddol i alluogi\u2019r T\u00eem Adnoddau Cymunedol i gefnogi unigolion sy\u2019n byw \u00e2 dementia yn eu hardal. Petai arian pellach ar gael i ni, mae\u2019n bendant yn adnodd y byddem yn hoffi ei ddatblygu oherwydd y newid cadarnhaol maen nhw\u2019n ei gyflawni.<\/p>\n\n<p>Dros y deuddeg mis nesaf, rydym yn gobeithio cynyddu ein cynlluniau i feithrin cysylltiadau rhwng y t\u00eem dementia a\u2019r adnoddau sydd ar gael yng nghartref preswyl Llys Elian.<\/p>\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-alpha-channel-opacity\"\/>\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Ymgysylltu gyda rhaglen ymchwil y rhai sy\u2019n gadael gofal<\/h3>\n\n<p>Mewn cydweithrediad \u00e2 Phrifysgol Bangor, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi llwyddo gyda chais am \u00a3234,000 gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru i gynnal darn o ymchwil dros ddwy flynedd sy\u2019n edrych yn benodol ar ymgysylltu \u00e2 phobl ifanc sydd \u00e2 phrofiad o fod mewn gofal.  Ar hyn o bryd, mae cais moeseg wedi cael ei gyflwyno ac mae\u2019r adnoddau llenyddiaeth ar y gweill.<\/p>\n\n<h4 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color\">Beth oedd yr heriau?<\/h4>\n\n<p>Ffactor fawr oedd cael arian ar ei gyfer yn ystod pandemig Covid-19. Yr ymchwil hwn oedd yr unig gais llwyddiannus yng Ngogledd Cymru, ac er mwyn cryfhau\u2019r cais, fe wnaethom weithio mewn partneriaeth gydag asiantaethau eraill ledled Cymru i sicrhau bod dull cenedlaethol i\u2019r ymchwil a\u2019r ffordd y bydd yn cael ei rannu.<\/p>\n\n<p>Mae\u2019r ymchwil ei hun yn canolbwyntio ar gyswllt gwael rhwng pobl ifanc sydd wedi derbyn gofal a gwasanaethau, a gall hyn greu her wrth symud ymlaen.<\/p>\n\n<h4 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color\">Beth nesaf?<\/h4>\n\n<p>Nod yr ymchwil yw:<\/p>\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Datblygu model ymarfer newydd ar gyfer ymgysylltu \u00e2 phobl ifanc sydd \u00e2 phrofiad o fod mewn gofal.<\/li>\n\n\n\n<li>Mae\u2019r bwrdd rheoli prosiect wedi cael ei sefydlu a holwyd pobl ifanc ledled Cymru i gymryd rhan yn yr ymchwil. <\/li>\n\n\n\n<li>Bydd yr ymchwil yn cael ei rannu drwy greu podlediad, TikTok a phecynnau hyfforddi ar gyfer bob Awdurdod Lleol.<\/li>\n<\/ul>\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-alpha-channel-opacity\"\/>\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Bws Profiad Realaeth Awtistiaeth<\/h3>\n\n<p>Comisiynodd Conwy Fws Profiad Realaeth Awtistiaeth yn ystod hydref a gaeaf 2022-23. Mae\u2019r Profiad Realaeth Awtistiaeth yn sesiwn hyfforddiant arloesol, ddwys ac ymarferol sydd wedi\u2019i datblygu i roi profiad rhithiol i bobl nad ydynt yn awtistig o fyw gydag awtistiaeth. Mae hwn yn brofiad ymarferol iawn sy\u2019n rhoi gwell dealltwriaeth i gyfranogwyr o awtistiaeth ac sy\u2019n eu helpu i ddechrau gweld y byd o safbwynt rhywun awtistig. <\/p>\n\n<p>Mae\u2019r Bws yn canolbwyntio ar godi ymwybyddiaeth o\u2019r anawsterau prosesu synhwyraidd y mae pobl sydd ar y sbectrwm awtistiaeth yn eu hwynebu. Gan fod hwn yn faes pwysig o ran codi ymwybyddiaeth ar draws yr Awdurdod Lleol, mae\u2019r profiad ar gael i bob gwasanaeth sy\u2019n delio \u00e2\u2019r cyhoedd ar draws Conwy, gan gynnwys Tai, Gwasanaethau Hamdden, Llyfrgelloedd a Gofal Cymdeithasol ac Addysg wrth gwrs. Anfonwyd gwahoddiad at benseiri lleol sy\u2019n gweithio gyda\u2019r Awdurdod Lleol; roedd eu hadborth yn gadarnhaol o ran eu dealltwriaeth o sut gall yr amgylchedd gael effaith gadarnhaol neu negyddol ar unigolyn ag anawsterau prosesu synhwyraidd.<\/p>\n\n<p>Dyma beth ddysgodd cyfranogwyr o\u2019r profiad:<\/p>\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p>Mae wedi gwneud i mi feddwl mwy am sut mae unigolyn ag awtistiaeth yn meddwl a gweld pethau o\u2019u hamgylch, a\u2019u ffordd o ryngweithio yn eu hamgylchedd.<\/p>\n<cite>Cyfranogwr<\/cite><\/blockquote>\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p>Bod yn fwy ymwybodol o ran cyfathrebu a bod yn ymwybodol o\u2019r amgylchedd ac unrhyw s\u0175n cefndirol cyn gofyn cwestiynau neu roi cyfarwyddiadau. Roeddwn i wedi bod yn ymwybodol o hyn o\u2019r blaen, ond llwyddodd y Bws Awtistiaeth i ddod \u00e2 hyn yn fwy byw a\u2019i wneud yn fwy greddfol.<\/p>\n<cite>Cyfranogwr<\/cite><\/blockquote>\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p>Bod yn fwy ymwybodol o pa mor llethol all mewnbwn synhwyraidd fod wrth ofyn i unigolyn gwblhau tasg neu ddilyn trefn ddyddiol.<\/p>\n<cite>Cyfranogwr<\/cite><\/blockquote>\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p>Gallwch ddarllen llyfrau neu fynychu hyfforddiant arall, ond roedd hyn yn cynnig mwy o lawer o ddealltwriaeth a dangosodd yn glir faint o effaith mae awtistiaeth yn ei chael ar fywyd bob dydd yr unigolion rydym ni\u2019n eu cefnogi a beth allent orfod delio ag ef bob dydd. Nid oeddwn i wedi sylweddoli pa mor anodd yw hi.<\/p>\n<cite>Cyfranogwr<\/cite><\/blockquote>\n\n<h4 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color\">Beth oedd yr heriau?<\/h4>\n\n<p>Mae codi ymwybyddiaeth o\u2019r ffaith fod hyn yn berthnasol ar lefel drawsbynciol i bob adran wedi bod yn her. Rydym hefyd yn ymwybodol o flaenoriaethau eraill o ran pa hyfforddiant ddylai fod yn orfodol, yn enwedig o ystyried capasiti pobl i gwblhau popeth sy\u2019n ofynnol ohonynt.<\/p>\n\n<h4 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color\">Beth nesaf?<\/h4>\n\n<p>Byddwn ni\u2019n parhau i gomisiynu\u2019r Bws Profiad Realaeth Awtistiaeth, ar sail yr adborth cadarnhaol a gafwyd gan gyfranogwyr. Roedd yr adborth yn awgrymu y byddai hyn o fudd i rieni plant ag anawsterau prosesu synhwyraidd hefyd. <\/p>\n\n<p>Mae\u2019r <a href=\"https:\/\/autismwales.org\/cy\/adnoddau\/dysgu-electronig\/\">T\u00eem Awtistiaeth Cenedlaethol<\/a> wedi lansio 2 fodiwl newydd:<\/p>\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Modiwl 1: Deall Awtistiaeth (hoffem i hwn fod yn orfodol ar draws yr Awdurdod Lleol)<\/li>\n\n\n\n<li>Modiwl 2: Deall cyfathrebu effeithiol ac Awtistiaeth <\/li>\n<\/ul>\n\n<p>Rydym wedi comisiynu Hyfforddiant Prosesu Synhwyraidd arbenigol ar gyfer Therapyddion Galwedigaethol, Cynorthwywyr Therapi Galwedigaethol a staff cefnogi mewnol yn y Gwasanaeth Anableddau.<\/p>\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-alpha-channel-opacity\"\/>\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Plant a phobl ifanc yn cael mynegi eu barn trwy ap Mind of My Own<\/h3>\n\n<p>Mae Mind of My Own yn system ar y we er mwyn i blant a phobl ifanc gyfathrebu \u00e2\u2019r gweithwyr proffesiynol yn eu bywydau. Yn strategol, y nodau yw annog lefelau uwch o gyfranogiad mewn adolygiadau Plant sy\u2019n Derbyn Gofal a Chynadleddau Amddiffyn Plant fel bod barn a dewisiadau\u2019r plentyn yn fwy amlwg. Mae sesiynau hyfforddiant misol wedi\u2019u darparu ac mae pob t\u00eem yn y Gwasanaethau Plant wedi dechrau defnyddio\u2019r apiau gyda phlant a phobl ifanc. <\/p>\n\n<p>Mae\u2019r apiau\u2019n caniat\u00e1u i bobl ifanc rannu newyddion da gyda\u2019u gweithwyr, a chreu proffiliau un dudalen gan ddefnyddio\u2019r nodwedd \u201cThis is me\u201d yn yr ap, ymhlith llawer o ddewisiadau eraill. Mae dwy fersiwn o\u2019r ap, mae un wedi\u2019i dylunio ar gyfer plant iau a rhai ag anghenion dysgu ychwanegol. Caiff ffeithlun misol ei rannu gyda thimau, i annog rhannu enghreifftiau o arfer da, ac i annog rhagor o staff i ddefnyddio\u2019r system newydd werthfawr hon fel rhan o\u2019u pecyn gwaith cyffredinol. <\/p>\n\n<p>Cynhaliwyd archwiliad ar ddiwedd haf 2022 i ganfod ansawdd \u201cllais y plentyn\u201d mewn adolygiadau Plant sy\u2019n Derbyn Gofal. Dangosodd yr archwiliad ddarlun cadarnhaol iawn.  O\u2019r 20 o achosion a archwiliwyd, barnwyd bod 16 yn \u2018Dda\u2019, 3 yn \u2018Rhagorol\u2019 ac 1 yn \u2018Ddigonol\u2019. Mae hyn yn dystiolaeth dda ein bod ni fel adran yn ymgysylltu \u00e2 phlant a phobl ifanc yn dda iawn, a bod Mind of My Own yn cyfrannu at y llwyddiant hwnnw.<\/p>\n\n<p>Mae adborth o\u2019r gr\u0175p \u201cLleisiau Uchel\u201d yn awgrymu nad yw\u2019r mwyafrif o bobl ifanc yn dymuno mynychu eu hadolygiadau Plant sy\u2019n Derbyn Gofal yn bersonol, felly mae Mind of My Own yn ffordd wych iddynt roi gwybod i bobl beth sy\u2019n bwysig iddyn nhw, yn eu geiriau eu hunain, yn eu hamser eu hunain.<\/p>\n\n<figure class=\"wp-block-image size-full\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1007\" height=\"481\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/08\/Mind-of-My-Own.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-3319\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/08\/Mind-of-My-Own.png 1007w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/08\/Mind-of-My-Own-300x143.png 300w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/08\/Mind-of-My-Own-768x367.png 768w\" sizes=\"auto, (max-width: 1007px) 100vw, 1007px\" \/><\/figure>\n\n<h4 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color\">Beth oedd yr heriau?<\/h4>\n\n<p>Mae gweithredu system newydd fel Mind of My Own yn cymryd amser, ac mae wedi bod yn heriol ar \u00f4l y pandemig, a thrwy gyfnod lle\u2019r oedd llwythi achosion staff yn uchel oherwydd problemau staffio. <\/p>\n\n<p>Mae gan staff ddulliau a dewisiadau presennol ar gyfer dulliau cyfathrebu gyda phlant a phobl ifanc, ac mae\u2019n bosibl y bydd rhai grwpiau (h\u0177n) o bobl ifanc wedi gweld yr apiau a chredu eu bod yn fwy addas ar gyfer plant iau.<\/p>\n\n<p>Mae llawer o ofalwyr maeth wedi croesawu\u2019r system newydd gan ddweud bod y plant yn eu gofal wedi mwynhau ei defnyddio. Mae rhai wedi\u2019i chael yn anodd delio \u00e2\u2019r agweddau technoleg, ac mae sesiynau ac arddangosiadau ychwanegol wedi\u2019u darparu. Mae sesiynau wedi\u2019u darparu ar gyfer Asiantaethau Maethu Annibynnol hefyd. <\/p>\n\n<p>Yr her wrth symud ymlaen fydd hyrwyddo defnydd parhaus o\u2019r ap ochr yn ochr \u00e2 ffyrdd ystyrlon eraill o ymgysylltu ac ymgynghori \u00e2 phlant a phobl ifanc sy\u2019n defnyddio ein gwasanaethau.<\/p>\n\n<h4 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color\">Beth nesaf?<\/h4>\n\n<p>Mae Mind of My Own wedi\u2019i ariannu ar gyfer y tair blynedd nesaf, sy\u2019n cynnig cyfle gwych i barhau i gynyddu buddion y system. Rydym yn parhau i ddarparu sesiynau hyfforddiant misol i staff, a chefnogi gofalwyr maeth trwy fynychu eu boreau coffi bob deufis. Mae\u2019r t\u00eem maethu yn addasu eu \u2018blychau croeso\u2019 i gynnwys deunyddiau i gefnogi defnyddio Mind of My Own, yn enwedig pan fydd plant yn dod i mewn i\u2019r system ofal am y tro cyntaf. Mae\u2019r Canolfannau Teuluoedd yn dechrau ei ddefnyddio hefyd.  Yng Nghonwy, byddwn ni\u2019n parhau i ddefnyddio Mind of My Own er mwyn annog plant a phobl ifanc i rannu eu llais, er mwyn eu cadw\u2019n ddiogel, gwirio eu lles a gwella ein gwasanaethau iddyn nhw\u2019n barhaus.<\/p>\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-alpha-channel-opacity\"\/>\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Swyddog Arweiniol Awtistiaeth Conwy a Sir Ddinbych<\/h3>\n\n<p>Yn 2020-21, cytunodd Gr\u0175p Budd-ddeiliad Anhwylderau\u2019r Sbectrwm Awtistig Conwy a Sir Ddinbych i gefnogi cynnig i gyflogi Arweinydd Awtistiaeth i weithio ar draws y ddau Awdurdod Lleol. Cychwynnodd swyddog newydd ym mis Mawrth 2023, a bydd yn arwain ar yrru gweithrediad <a href=\"https:\/\/www.gov.wales\/code-practice-delivery-autism-services\">Cod Ymarfer<\/a> Sbectrwm Awtistig Llywodraeth Cymru ar draws Conwy a Sir Ddinbych. Byddant hefyd yn gweithio\u2019n agos gyda\u2019r Gr\u0175p Budd-ddeiliad i ddatblygu cynllun gweithredu lleol ar y cyd a fydd yn adeiladu ar Gynlluniau Gweithredu Cod Ymarfer yr Awdurdod Lleol a chael ei gyd-gynhyrchu gyda phobl sydd \u00e2 phrofiad go iawn. Byddan nhw\u2019n gweithio ochr yn ochr \u00e2\u2019r swyddog Cydweithio Rhanbarthol sydd \u00e2 chyfrifoldeb dros gydlynu gweithredu\u2019r Cod yn rhanbarthol.<\/p>\n\n<h4 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color\">Beth oedd yr heriau?<\/h4>\n\n<p>Ar hyn o bryd, mae Awtistiaeth yn effeithio ar 1-2% o boblogaeth y DU; sef 1 o bob 100 o blant a 2 o bob 100 o oedolion. Ar sail y boblogaeth bresennol o 118,184 a bod 16.7% rhwng 0 a 15 oed, byddwn yn amcangyfrif bod 198 o blant ag Awtistiaeth yng Nghonwy a 2,359 o oedolion (dogfen ymchwil proffil poblogaeth Conwy Hydref 21). Poblogaeth Sir Ddinbych yw 98,800, ac mae 16.5% dan 16 oed, felly mae tua 163 o blant ag Awtistiaeth a thua 1,973 o bobl ag Awtistiaeth. Ar draws y ddau Awdurdod Lleol, mae hon yn boblogaeth bosibl sylweddol (4,963) i ddarparu cefnogaeth iddynt o ran bwriad y Cod Ymarfer ar gyfer darparu Gwasanaethau Awtistiaeth. Ni fydd angen cefnogaeth Gofal Cymdeithasol ar lawer ohonynt, ond bydd angen i\u2019r Awdurdod Lleol ystyried eu hanghenion fel dinasyddion lleol sy\u2019n cael amrywiaeth eang o wasanaethau gan y Cyngor.   <\/p>\n\n<p>Bydd angen i\u2019r Arweinydd Awtistiaeth ystyried sut mae angen i bolis\u00efau a gweithdrefnau\u2019r Awdurdod Lleol gael eu haddasu neu eu diwygio i sicrhau eu bod yn ystyried anghenion amrywiol pobl ag Awtistiaeth a chyflyrau niwroddatblygol, gan wneud argymhellion fel bo\u2019n briodol. Lle bo angen, mae\u2019n bosibl y bydd angen i\u2019r Arweinydd Awtistiaeth weithio gyda swyddogion i greu polis\u00efau a gweithdrefnau newydd sy\u2019n benodol i anghenion pobl ag Awtistiaeth.  Er enghraifft, mae\u2019r Bwrdd Diogelu wedi drafftio polisi \u2018Arfer Diogelu gyda Phobl Awtistig\u2019 yn ddiweddar y bydd angen ei weithredu yng Nghonwy a Sir Ddinbych a gallai effeithio ar bolis\u00efau a gweithdrefnau presennol yr Awdurdod Lleol. Gallai hyn hefyd gynnwys polis\u00efau corfforaethol, er enghraifft mewn perthynas \u00e2 derbynfeydd a chyngor am gyfathrebu effeithiol gyda chwsmeriaid sy\u2019n Awtistig neu sydd \u00e2 Chyflyrau Niwroddatblygol. Byddai angen i ni ystyried sut mae angen addasu ein ffurflenni a\u2019n systemau gwybodaeth hefyd er mwyn diwallu anghenion amrywiol dinasyddion Conwy.<\/p>\n\n<h4 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color\">Beth nesaf?<\/h4>\n\n<p>Bydd angen i\u2019r Swyddog Arweiniol gymryd cyfrifoldeb dros weithredu cynlluniau gweithredu lleol Awtistiaeth mewnol unigol Conwy a Sir Ddinbych. Mae strwythurau mewnol Conwy a Sir Ddinbych wedi\u2019u trefnu\u2019n eithaf gwahanol, a bydd angen i\u2019r Arweinydd ymgyfarwyddo \u00e2\u2019r ddau er mwyn gweithredu\u2019r cynlluniau\u2019n effeithiol. Bydd y rhain yn canolbwyntio ar<\/p>\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Godi ymwybyddiaeth o Gyflyrau\u2019r Sbectrwm Awtistig ymhlith staff<\/li>\n\n\n\n<li>Sicrhau bod llwybr atgyfeirio di-dor rhwng Conwy a Sir Ddinbych<\/li>\n\n\n\n<li>Nodi bylchau o ran darpariaeth a chomisiynu\u2019n briodol i fynd i\u2019r afael \u00e2 nhw<\/li>\n\n\n\n<li>Creu Cynllun Gweithredu Cyflyrau\u2019r Sbectrwm Awtistig Conwy a Sir Ddinbych mewn partneriaeth ag amrywiaeth o wasanaethau a phartneriaid<\/li>\n\n\n\n<li>Cyfrannu at ddatblygu gwasanaethau i gefnogi pobl ag amrywiaeth o gyflyrau niwroddatblygol<\/li>\n<\/ul>\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-alpha-channel-opacity\"\/>\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid<\/h3>\n\n<p>Yn y <a href=\"https:\/\/www.conwy.gov.uk\/cy\/Resident\/Social-Care-and-Wellbeing\/Children-and-families\/Youth-Offending.aspx\">Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid<\/a>, mae gennym brosesau a gweithdrefnau diogelu mewn grym i gefnogi plant a phobl ifanc i\u2019w dysgu sut i wneud dewisiadau.\u00a0 Credwn fod hyn yn rhan hanfodol o\u2019u datblygiad.\u00a0 Rydym yn ceisio\u2019n barhaus i roi\u2019r rhyddid iddynt wneud penderfyniadau am leoliadau, pwy sy\u2019n rhan o gyfarfodydd a chynlluniau ymyrraeth er mwyn meithrin eu hyder.\u00a0 Rydym yn deall a chydnabod y gallai pobl ifanc \u00e2 hanes o drawma ei chael hi\u2019n heriol gwneud dewisiadau.\u00a0 Rydym yn gweithio gyda phobl ifanc i ganfod eu dewisiadau, er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu trin gydag urddas.<\/p>\n\n<p>Mae ein hymyrraeth wedi\u2019i threfnu yn cefnogi ac annog cyfranogiad teuluoedd a gofalwyr ym mhob agwedd ar ein gwaith hefyd, pan fo\u2019n ddiogel a phriodol i wneud hynny. Trwy ein hymyrraeth wedi\u2019i threfnu a systemau adborth, rydym yn cefnogi teuluoedd i ddatblygu dealltwriaeth o\u2019r hyn sy\u2019n bwysig i\u2019w gilydd, a gweithio mewn partneriaeth gyda gwasanaethau a gweithwyr proffesiynol eraill i ddarparu newid cadarnhaol. Ar hyn o bryd, rydym yn eirioli dros greu Swyddog Rhianta yn y gwasanaeth i ddatblygu\u2019r agwedd hon o waith ymhellach.<\/p>\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\">Dull gweithredu plentyn yn gyntaf a nodi trawma<\/h4>\n\n<p>Fel gwasanaeth, rydym wedi mabwysiadu a gweithredu dulliau sy\u2019n rhoi\u2019r plentyn yn gyntaf ac sy\u2019n ystyriol o drawma wrth ddarparu gwasanaeth sy\u2019n canolbwyntio ar greu perthnasoedd cadarnhaol gyda phlant a phobl ifanc, eu teuluoedd a\u2019u gofalwyr drwy ddarparu diogelwch, ymddiriedaeth, dewis, cydweithrediad a grym.<\/p>\n\n<p>Trwy\u2019r dull sy\u2019n ystyriol o drawma, rydym wedi cefnogi ymarferwyr i fabwysiadu&#8217;r arfer hon ar gyfer yr holl waith gyda phlant a phobl ifanc sy\u2019n agored i\u2019r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid.<\/p>\n\n<h4 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color\">Pa wahaniaeth y mae hyn wedi\u2019i wneud?<\/h4>\n\n<p>Trwy weithredu\u2019r dull hwn, rydym wedi gallu:<\/p>\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Cyflwyno prosesau a gweithdrefnau diogelu i gefnogi plant a phobl ifanc i\u2019w dysgu sut i wneud dewisiadau a fydd, yn ei dro, yn meithrin eu hannibyniaeth.  Rydym yn cydnabod y gallai pobl ifanc \u00e2 hanes o drawma ei chael hi\u2019n heriol gwneud dewisiadau.<\/li>\n\n\n\n<li>Canfod barn a dewisiadau y bobl ifanc rydym ni\u2019n gweithio gyda nhw, er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu trin gydag urddas. Teimlwn fod hyn yn eu cefnogi i ddatblygu hunan-barch a hyder.<\/li>\n\n\n\n<li>Sicrhau ein bod yn cydweithio.  Mae cydweithio yn rhan o bob math o ryngweithio byddwn ni\u2019n ei wneud fel gwasanaeth, gyda phlant, pobl ifanc, eu rhieni, gofalwyr, asiantaethau partner a chydweithwyr.<\/li>\n\n\n\n<li>Cynnwys prosesau sy\u2019n sicrhau ein bod yn cwrdd yn rheolaidd ac adolygu cynlluniau ymyrraeth a chefnogaeth, a chynnwys plant a phobl ifanc wrth wneud penderfyniadau am eu cynlluniau ymyrraeth a chyswllt.<\/li>\n\n\n\n<li>Annog a rhoi cyfle i ymarferwyr ddod i adnabod pobl ifanc, a dangos ein bod yn malio fel gwasanaeth trwy annog ethos sy\u2019n dangos ein bod yn gweithio gyda nhw, nid arnyn nhw.  <\/li>\n\n\n\n<li>Hyrwyddo\u2019r defnydd o iaith gadarnhaol gyda phobl ifanc ac eirioli ar eu rhan. Mae\u2019r gwaith hwn yn cael ei gefnogi a\u2019i ddatblygu gan adborth gan bobl ifanc a theuluoedd a gaiff ei gasglu trwy ein prosesau adborth.<\/li>\n\n\n\n<li>Targedu cyfranogiad rhieni a gofalwyr. Rydym wedi darparu ymyrraeth wedi\u2019i threfnu i gefnogi ac annog cyfranogiad teuluoedd a gofalwyr ym mhob agwedd ar ein gwaith, pan fo\u2019n ddiogel a phriodol i wneud hynny. <\/li>\n<\/ul>\n\n<h4 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color\">Beth oedd yr heriau?<\/h4>\n\n<p>Bu nifer o heriau wrth weithredu\u2019r dull sy\u2019n rhoi\u2019r plentyn yn gyntaf ac sy\u2019n ystyriol o drawma.  Ers pandemig Covid-19, bu angen i ni ailsefydlu trefniadau cyswllt a pherthnasoedd gyda phlant, pobl ifanc a\u2019u teuluoedd.<\/p>\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large is-resized\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/08\/YP-Group-1024x837.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-3321\" width=\"512\" height=\"419\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/08\/YP-Group-1024x837.png 1024w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/08\/YP-Group-300x245.png 300w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/08\/YP-Group-768x628.png 768w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/08\/YP-Group.png 1319w\" sizes=\"auto, (max-width: 512px) 100vw, 512px\" \/><\/figure>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae pob unigolyn yn bartner cyfartal sydd \u00e2 llais, dewis a rheolaeth dros eu bywydau ac maent yn gallu cyflawni&#8217;r hyn sy&#8217;n bwysig iddyn nhw Trefniadau Diogelu Rhag Colli Rhyddid \/\u00a0 Trefniadau Amddiffyn Rhyddid Mae\u2019r broses Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid (DoLS) yn parhau er bod y newid cenedlaethol i Drefniadau Amddiffyn Rhyddid yn parhau [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":5,"featured_media":0,"parent":3288,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"_seopress_titles_title":"","_seopress_titles_desc":"","_seopress_robots_index":"","_seopress_robots_follow":"","_seopress_robots_imageindex":"","_seopress_robots_snippet":"","_seopress_robots_primary_cat":"","_seopress_robots_breadcrumbs":"","_seopress_robots_freeze_modified_date":"","_seopress_robots_custom_modified_date":"","_seopress_robots_canonical":"","_seopress_social_fb_title":"","_seopress_social_fb_desc":"","_seopress_social_fb_img":"","_seopress_social_fb_img_attachment_id":0,"_seopress_social_fb_img_width":0,"_seopress_social_fb_img_height":0,"_seopress_social_twitter_title":"","_seopress_social_twitter_desc":"","_seopress_social_twitter_img":"","_seopress_social_twitter_img_attachment_id":0,"_seopress_social_twitter_img_width":0,"_seopress_social_twitter_img_height":0,"_seopress_redirections_value":"","_seopress_redirections_enabled":"","_seopress_redirections_enabled_regex":"","_seopress_redirections_logged_status":"","_seopress_redirections_param":"","_seopress_redirections_type":0,"_seopress_analysis_target_kw":"","_genesis_hide_title":false,"_genesis_hide_breadcrumbs":false,"_genesis_hide_singular_image":false,"_genesis_hide_footer_widgets":false,"_genesis_custom_body_class":"","_genesis_custom_post_class":"","_genesis_layout":"","footnotes":""},"class_list":{"0":"post-3420","1":"page","2":"type-page","3":"status-publish","5":"entry"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/3420","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/5"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=3420"}],"version-history":[{"count":5,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/3420\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":3430,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/3420\/revisions\/3430"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/3288"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=3420"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}