{"id":3413,"date":"2023-08-25T11:04:57","date_gmt":"2023-08-25T10:04:57","guid":{"rendered":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/adroddiad-2022-23\/sut-mae-pobl-yn-llunio-ein-gwasanaethau\/"},"modified":"2023-08-25T11:07:39","modified_gmt":"2023-08-25T10:07:39","slug":"sut-mae-pobl-yn-llunio-ein-gwasanaethau","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/adroddiad-2022-23\/sut-mae-pobl-yn-llunio-ein-gwasanaethau\/","title":{"rendered":"Sut mae pobl yn llunio ein gwasanaethau?"},"content":{"rendered":"\n<p>Mae gofyn i\u2019r bobl rydym ni\u2019n eu helpu am yr hyn sy\u2019n bwysig iddynt yn rhan allweddol o ddatblygu ein gwasanaethau, ac mae\u2019r adborth y byddwn yn ei gael yn ein galluogi i weld lle mae angen gwneud gwelliannau i\u2019r gwasanaethau rydym yn eu darparu.  Eleni, rydym wedi parhau i ganolbwyntio ar adfer yn dilyn pandemig Covid-19, felly nid ydym wedi gallu ymgynghori gydag unigolion cymaint ag yr hoffem ei wneud.  Fodd bynnag, fe welwch enghreifftiau o adborth ac arolygon drwy\u2019r adroddiad, dan y safon ansawdd perthnasol.<\/p>\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Cwynion am ein gwasanaethau<\/h2>\n\n<p>Mae\u2019r rhain yn rhoi adborth uniongyrchol i ni gan bobl sy\u2019n cael ein gwasanaethau, eu teuluoedd a\u2019u gofalwyr. Maent yn tynnu sylw at feysydd lle rydym yn gwneud yn dda, a hefyd lle gallwn ni wella ein harferion. Mae cael cwynion yn golygu y gallwn: <\/p>\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Eu cydnabod yn gyflym pan rydym yn gwneud camgymeriadau <\/li>\n\n\n\n<li>Eu hunioni ac ymddiheuro lle bo\u2019n briodol <\/li>\n\n\n\n<li>Sicrhau ein bod yn dysgu gwersi o gwynion <\/li>\n<\/ul>\n\n<p>Oherwydd y ffordd rydym yn adrodd ar gwynion a chanmoliaethau ym maes Gofal Cymdeithasol, rydym yn rhoi crynodeb o\u2019n perfformiad yn ystod 2021-22 i chi. <\/p>\n\n<p>Er mwyn deall y cyfanswm o gwynion mewn perthynas \u00e2\u2019r nifer, ar gyfartaledd, o achosion oedd yn agored yn yr adran, roedd y cyfanswm fel a ganlyn:<\/p>\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Cafwyd 12 cwyn am Wasanaethau Oedolion a Chymunedol Integredig allan o tua 3,400 o bobl a gafodd wasanaethau (0.35%)<\/li>\n\n\n\n<li>Cafwyd 5 cwyn am y Gwasanaethau Plant, Teuluoedd a Diogelu allan o tua 900 o blant a phobl ifanc a gafodd wasanaethau (0.55%)<\/li>\n\n\n\n<li>Cyrhaeddodd cyfanswm o 17 cwyn swyddogol yn ystod y flwyddyn adrodd 2021-22, a chawsont eu cau yn ystod yr un cyfnod.  <\/li>\n<\/ul>\n\n<p>Roedd yr effaith ariannol ar Gonwy fel Awdurdod Lleol yn \u00a35,426, sy\u2019n uwch na ffigwr y flwyddyn flaenorol sef \u00a34,710. Roedd hyn yn cynnwys penodi ymchwilwyr annibynnol neu bobl annibynnol i gwblhau proses archwilio Cam 2, roedd un ohonynt wedi cael ei wneud yn 2020-21 ond cafodd ei godi eto yn ystod y flwyddyn wedyn. <\/p>\n\n<p>Mae\u2019r graff isod yn nodi cyfanswm y cwynion ar draws yr adran dros y 5 mlynedd diwethaf:<\/p>\n\n<figure class=\"wp-block-image size-full is-resized\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/08\/Complaints-Graph.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-3308\" width=\"669\" height=\"326\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/08\/Complaints-Graph.png 829w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/08\/Complaints-Graph-300x147.png 300w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/08\/Complaints-Graph-768x375.png 768w\" sizes=\"auto, (max-width: 669px) 100vw, 669px\" \/><\/figure>\n\n<p>Mae\u2019r tuedd dros y pum mlynedd ddiwethaf yn dangos dirywiad yn y cyfanswm o gwynion swyddogol a gafwyd flwyddyn ar \u00f4l blwyddyn, fodd bynnag, cafwyd cyfanswm o 17 cwyn yn 2021-22, cynnydd o un o\u2019r flwyddyn adrodd flaenorol. Bu gostyngiad yn nifer y cwynion ffurfiol a gafwyd mewn perthynas \u00e2 Gwasanaethau Plant, Teuluoedd a Diogelu, gyda chynnydd yn y cwynion mewn perthynas \u00e2 Gwasanaethau Oedolion a Chymunedol Integredig.<\/p>\n\n<p>O\u2019r 17 cwyn a gafwyd, cafodd 15 eu datrys yng Ngham 1 a\u2019r ddau arall yng Ngham 2. Mae hyn yn amlygu\u2019r ymdrech yr ydym yn ei wneud i ddatrys cwynion yn fuan a chyflawni datrysiad mewnol. Cafwyd wyth cwyn am Wasanaethau Gwaith Cymdeithasol Pobl H\u0177n ac Ysbyty, fodd bynnag, mae ganddynt y nifer uchaf o achosion agored yn yr adran i gyd hefyd, felly mae hyn yn parhau i fod yn ffigwr isel o ran y canran cyffredinol.<\/p>\n\n<p>Anfonwyd llythyr neu e-bost at yr achwynydd o fewn dau ddiwrnod gwaith yn achos 100% o gwynion Cam 1.<\/p>\n\n<p>Cwblhawyd 60% o gwynion Cam 1 o fewn y terfyn amser o 15 diwrnod gwaith, sy\u2019n ddirywiad bychan mewn perfformiad o gymharu \u00e2&#8217;r flwyddyn adrodd flaenorol. Roedd y rheiny na fodlonodd y terfyn amser naill ai\u2019n gymhleth iawn, neu roedd yr ymchwiliad yn cael ei gynnal dros gyfnod y Nadolig pan roedd y staff ar eu gwyliau.<\/p>\n\n<p>Cafodd 76% o gwynion eu cyflwyno gan aelodau\u2019r teulu, ac roedd y them\u00e2u yn amrywio rhwng trefniadau\u2019r cartref gofal neu ofal gartref, cyfathrebu gwael (neu ddiffyg cyfathrebu), diffyg darpariaeth o gefnogaeth neu ddiffyg gweithredu gan staff.<\/p>\n\n<p>Dyma\u2019r gwersi mwyaf arwyddocaol a ddeilliodd o\u2019r cwynion yn ystod y flwyddyn ddiwethaf:<\/p>\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Mae cyfathrebu\u2019n allweddol ar gyfer pobl sy\u2019n cael gwasanaethau a\u2019u teuluoedd; ac mae rhoi gwybod iddynt yn effeithiol am unrhyw newid mewn amgylchiadau. Mae dychwelyd galwadau ff\u00f4n neu\u2019n syml galw pan fo galwad wedi\u2019i gynllunio yn hynod bwysig i sicrhau perthynas waith dda.<\/li>\n\n\n\n<li>Dilyn i fyny ar gamau gweithredu a gytunwyd arnynt.<\/li>\n\n\n\n<li>Sicrhau bod unrhyw wybodaeth yn cael ei darparu mewn modd clir a gohebiaeth ysgrifenedig yn dilyn hynny.<\/li>\n\n\n\n<li>Sicrhau bod cyswllt yn cael ei drefnu pan fo perthynas rhieni\u2019n chwalu.<\/li>\n\n\n\n<li>Dylai unigolion gael y wybodaeth ddiweddaraf mewn perthynas \u00e2\u2019u gofal a\u2019r gefnogaeth maen nhw\u2019n ei chael.<\/li>\n\n\n\n<li>Sicrhau bod dinasyddion yn deall y wybodaeth sy\u2019n cael ei darparu a rheoli disgwyliadau.<\/li>\n<\/ul>\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Canmoliaeth am ein gwasanaethau<\/h2>\n\n<p>Yn ystod 2021-22, cawsom 122 o ganmoliaethau am Wasanaethau Oedolion a Chymunedol Integredig, a 15 am Wasanaethau Plant, Teuluoedd a Diogelu. Bydd natur y gwasanaethau gwahanol yn dylanwadu ar niferoedd, ond mae\u2019n dda nodi bod mwy o ganmoliaethau na chwynion yn cyrraedd! Y Gwasanaeth Gwaith Cymdeithasol Pobl H\u0177n ac Ysbyty gafodd tua hanner y canmoliaethau.<\/p>\n\n<p>Rydym yn croesawu canmoliaethau fel ffordd o ddysgu arferion da, ac maent yn ein sicrhau ein bod ar y trywydd cywir.<\/p>\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-alpha-channel-opacity\"\/>\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Newid terminoleg ein Gwasanaethau Plant<\/h2>\n\n<p>Fe sylwch, yn fersiwn Saesneg yr adroddiad hwn, ein bod yn cyfeirio at \u2018Children Looked After\u2019, ond yn y blynyddoedd blaenorol, roeddem yn arfer defnyddio\u2019r term \u2018Looked After Children\u2019. Mae hyn yn rhan o newid i beidio \u00e2 defnyddio iaith \u2018oeraidd\u2019 oedd yn cael ei ddefnyddio gan bawb o weithwyr cymdeithasol i weision sifil wrth gyfeirio at blant a phobl ifanc yn ein gofal. Yng Nghonwy, mae\u2019r newid hwn wedi cael ei groesawu gan bawb o\u2019r Prif Weithredwr i gydweithwyr sy\u2019n gweithio gyda phlant sy\u2019n derbyn gofal, a\u2019r plant a\u2019r bobl ifanc eu hunain.<\/p>\n\n<p>Bydd y newid t\u00f4n hwn yn berthnasol i sawl agwedd ar ofal a chefnogaeth plant, gan gynnwys lleoliadau, cyswllt gyda rhieni a gwarcheidwaid, a chyfnodau seibiant. Yn hytrach, bydd termau plaen a syml, mewn iaith bob dydd yn cael eu defnyddio, gan gyfeirio at y cartref, amser teulu a seibiannau byr neu gysgu dros nos. Byddwn yn gwneud ymdrech i ymgorffori\u2019r newidiadau hyn yn ein gwaith papur, sgyrsiau a chyfarfodydd.<\/p>\n\n<p class=\"has-black-color has-text-color\"><a href=\"https:\/\/www.bbc.co.uk\/news\/av\/uk-northern-ireland-48466031\">Edrychwch ar y fideo<\/a> a gr\u00ebwyd gan elusen plant Llais Pobl Ifanc mewn Gofal, sy\u2019n egluro\u2019r rhesymau dros y newid iaith yma.<\/p>\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-alpha-channel-opacity\"\/>\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Ymgysylltu gyda phreswylwyr cartrefi gofal<\/h2>\n\n<p>Eleni, mae ein Swyddog Cyfranogi wedi cysylltu gyda phreswylwyr pedwar cartref preswyl, teuluoedd un cartref nyrsio a thenantiaid y pedwar prosiect tai gofal ychwanegol y mae cymdeithas dai yn berchen arnynt yng Nghonwy. O ganlyniad i\u2019r cyswllt hwn yn y lleoliadau tai gofal ychwanegol, fe wnaethom nodi gwelliannau yn lles nifer o bobl sy\u2019n byw yno, ar \u00f4l y cyfyngiad ar gyswllt cymdeithasol ac ynysu drwy gydol y pandemig.  Rhannwyd canfyddiadau gyda\u2019n cydweithwyr Swyddog Cefnogi Partneriaeth, oedd yn gallu sicrhau bod y materion a godwyd gan y preswylwyr mewn un cartref gofal yn cael eu datrys.<\/p>\n\n<h3 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color\">Beth oedd yr heriau?<\/h3>\n\n<p>Nid yw pob preswylydd eisiau neu\u2019n gallu cymryd rhan mewn ymarferion ymgynghori, felly rydym yn gofyn i leoliadau fel cartrefi nyrsio ysgrifennu at y teuluoedd i gael eu cefnogaeth. Mewn cartrefi gofal ychwanegol, nid yw pobl sy\u2019n byw mewn fflatiau\u2019n hyderus am y broses, felly mae\u2019r Swyddog Cyfranogi yn ceisio tawelu eu meddwl drwy bwysleisio ei bod yn ddiduedd.<\/p>\n\n<h3 class=\"wp-block-heading has-vivid-cyan-blue-color has-text-color\">Beth nesaf?<\/h3>\n\n<p>Yn 2023, byddwn yn parhau gyda\u2019n gwaith ymgysylltu a chyfranogiad gyda chartrefi gofal yng Nghonwy i sicrhau bod preswylwyr yn cael dweud eu barn am yr hyn sy\u2019n bwysig iddynt.  Rydym hefyd yn cefnogi datblygu cymunedau sy&#8217;n gyfeillgar i oed drwy gynnwys preswylwyr cartrefi gofal a gwirfoddolwyr mewn prosiect therapi hel atgofion newydd.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae gofyn i\u2019r bobl rydym ni\u2019n eu helpu am yr hyn sy\u2019n bwysig iddynt yn rhan allweddol o ddatblygu ein gwasanaethau, ac mae\u2019r adborth y byddwn yn ei gael yn ein galluogi i weld lle mae angen gwneud gwelliannau i\u2019r gwasanaethau rydym yn eu darparu. Eleni, rydym wedi parhau i ganolbwyntio ar adfer yn dilyn [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":5,"featured_media":0,"parent":3288,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"_seopress_robots_primary_cat":"","_seopress_titles_title":"","_seopress_titles_desc":"","_seopress_robots_index":"","_genesis_hide_title":false,"_genesis_hide_breadcrumbs":false,"_genesis_hide_singular_image":false,"_genesis_hide_footer_widgets":false,"_genesis_custom_body_class":"","_genesis_custom_post_class":"","_genesis_layout":"","footnotes":""},"class_list":{"0":"post-3413","1":"page","2":"type-page","3":"status-publish","5":"entry"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/3413","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/5"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=3413"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/3413\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":3419,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/3413\/revisions\/3419"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/3288"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=3413"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}