{"id":3409,"date":"2023-08-25T10:53:42","date_gmt":"2023-08-25T09:53:42","guid":{"rendered":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/adroddiad-2022-23\/yr-hyn-y-dywedom-y-byddem-yn-ei-wneud\/"},"modified":"2023-08-25T10:54:51","modified_gmt":"2023-08-25T09:54:51","slug":"yr-hyn-y-dywedom-y-byddem-yn-ei-wneud","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/adroddiad-2022-23\/yr-hyn-y-dywedom-y-byddem-yn-ei-wneud\/","title":{"rendered":"Yr hyn y dywedom y byddem yn ei wneud"},"content":{"rendered":"\n<h2 class=\"wp-block-heading\"><strong>T\u00eem Integredig Teuluoedd Lleol<\/strong><\/h2>\n\n<p>Y llynedd, fe soniom am y T\u00eem Teuluoedd Integredig Lleol (LIFT), sy\u2019n cynnwys staff o Gonwy, Dinbych a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Mae\u2019r t\u00eem yn helpu teuluoedd i reoli ymddygiad heriol plant a phobl ifanc yn y cartref. Bu\u2019n hollol weithredol ers blwyddyn bellach, ac yn rhoi gwasanaeth i\u2019r ddwy sir, gyda th\u00eem o staff yn darparu cefnogaeth seicolegol, ymddygiadol ac ymyrraeth.<\/p>\n\n<p>Yn bennaf, mae atgyfeiriadau Gwasanaeth Teuluoedd Integredig Lleol wedi\u2019u derbyn gan unigolion gyda ASD, ADHD neu nodweddion anhwylder ymlyniad. Mae aelodau\u2019r t\u00eem wedi cael Therapi Cyfathrebu Awtistiaeth Pediatreg, Arweiniad Rhyngweithiol Fideo a Chefnogaeth Ymddygiad Cadarnhaol, ymyriadau sy\u2019n seiliedig ar dystiolaeth i gyd, sy\u2019n cefnogi rhieni i reoli ymddygiad heriol.<\/p>\n\n<p>Erbyn mis Rhagfyr 2022, roedd y t\u00eem wedi cael 175 o atgyfeiriadau felly mae\u2019r galw am gefnogaeth yn amlwg.<\/p>\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-alpha-channel-opacity\"\/>\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\"><strong>Creu Canolfan Asesu Plant Bwthyn y Dd\u00f4l<\/strong><\/h2>\n\n<p>Oherwydd arafu gwaith adeiladu Bwthyn y Dd\u00f4l, yn \u00f4l y cynlluniau a rannwyd mewn adroddiadau blaenorol, mae\u2019r t\u00eem yn dal i weithio yn swyddfeydd y Cyngor ym Mae Colwyn. Mae\u2019r t\u00eem wedi cytuno ar lwybr atgyfeirio ac asesu ar gyfer Conwy a Sir Ddinbych ac mae\u2019r bartneriaeth yn gweithio\u2019n dda.<\/p>\n\n<p>Mae\u2019r aelodau hynny o staff oedd yn wreiddiol yn gweithio yn ein cartref plant, Glan yr Afon, wedi trochi eu hunain yn y t\u00eem amlasiantaethol ac wrthi\u2019n dysgu dulliau therapiwtig newydd o weithio \u00e2 phlant. Rydym wedi bod yn recriwtio gweithwyr i\u2019r elfen breswyl o\u2019r gwasanaeth ac mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi bod yn recriwtio staff ar yr un pryd.<\/p>\n\n<p>Erbyn mis Rhagfyr 2022 roedd y t\u00eem wedi gweithio \u00e2 saith o deuluoedd ledled Conwy a Sir Ddinbych ac arbed 1,061 o wythnosau o fod mewn gofal.<\/p>\n\n<p>Rydym wedi dethol cynigydd a ffefrir ar gyfer y prosiect i adeiladu\u2019r ganolfan asesu newydd ac rydym wrthi\u2019n gweithio ar ddyfarnu\u2019r contract gyda\u2019r nod o gymeradwyo\u2019r dyluniad a\u2019r costau targed.  <\/p>\n\n<p>Unwaith y pennir y costau a\u2019r cyllid, disgwyliwn y bydd y datblygiad yn para tua 70 o wythnosau, gan ddechrau ym mis Mai 2023 a dod i ben ym mis Awst 2024. Byddwn, wrth gwrs, yn rhannu\u2019r wybodaeth ddiweddaraf yn ein hadroddiad y flwyddyn nesaf.<\/p>\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-alpha-channel-opacity\"\/>\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\"><strong>Gweithio \u00e2 Clwyd Alyn i ddarparu llety yn Llanrwst<\/strong><\/h2>\n\n<p>Fel y soniwyd yn adroddiad y llynedd, buom yn cydweithio \u00e2 Chymdeithas Tai Clwyd Alyn wrth ddatblygu tri o fflatiau ag un ystafell wely yn Llanrwst. Neilltuwyd dau ohonynt ar gyfer pobl sy\u2019n defnyddio\u2019r Gwasanaethau i Bobl Anabl, a\u2019r llall i\u2019r T\u00eem Pobl Agored i Niwed. Bu\u2019r ddau wasanaeth yn cydweithio i ddod o hyd i dri o denantiaid a fyddai\u2019n medru cyd-fyw \u00e2\u2019i gilydd. Roedd gan bob un ohonynt anghenion cymorth ysgafn a ofynnai am gefnogaeth rhwng dwy a phump awr bob wythnos.<\/p>\n\n<p>Gorffennwyd y fflatiau i safon uchel iawn ac roeddent yn barod erbyn diwedd mis Awst 2022. Rydym yn falch o ddweud y symudodd y tenantiaid i mewn yn fuan wedi hynny.<\/p>\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-alpha-channel-opacity\"\/>\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\"><strong>Mynd i\u2019r afael \u00e2\u2019r heriau staffio yn y Gwasanaeth Pobl H\u0177n<\/strong><\/h2>\n\n<p>Fel y soniwyd y llynedd, mae ein Gwasanaeth Pobl H\u0177n yn dal i wynebu galw digynsail a phrinder staff. Mae gan bob un o\u2019r Timau Adnoddau Cymunedol restr aros hirfaith o achosion i\u2019w hasesu gan Weithiwr Cymdeithasol neu Therapydd Galwedigaethol. Ar hyn o bryd ni fedr y t\u00eem ond dyrannu achosion a bennir yn rhai brys, ac mae rheolwyr yn brysbennu pob cais arall am asesiad gan anfon llythyr i roi gwybod y bydd oedi. Mae\u2019r timau bellach yn ymdrin yn fynych ag achosion cymhleth dros ben sy\u2019n aml wedi dod yn argyfwng, wrth reoli hefyd yr anawsterau ychwanegol pan mae angen comisiynu pecynnau gofal. <\/p>\n\n<p>Ar hyn o bryd mae gennym werth mwy na chant o oriau o ofal cartref na fedrwn ei gomisiynu. Yn sgil hynny mae pobl agored i niwed yn cael eu rhoi mewn cartrefi gofal, neu\u2019n derbyn gofal gartref gan eu teuluoedd neu ofalwyr digyflog, ac mae rhai o\u2019r rheiny\u2019n ei chael hi\u2019n anodd cyflawni eu gwaith gofalu gan nad oes pecynnau gofal ar gael i\u2019w cefnogi.  Er gwaethaf yr holl wasgfeydd rydym bob amser yn gwneud ein gorau glas i roi blaenoriaeth i ryddhau pobl o\u2019r ysbyty ac rydym yn gyson wedi cadw lefelau oedi wrth drosglwyddo gofal yn isel yng Nghonwy.<\/p>\n\n<p>Yn ein timau Gwaith Cymdeithasol rydym wedi bod yn defnyddio staff locwm a staff asiantaethau i ymdrin \u00e2 rhywfaint o\u2019r llwyth gwaith, ond oherwydd y gost sy\u2019n gysylltiedig \u00e2 hynny, nid dyma\u2019r dewis rydym yn ei ffafrio.  Mae ein partneriaid allanol yn ei chael yn anodd recriwtio a chadw staff, ac o ganlyniad bu\u2019n rhaid iddynt ddychwelyd pecynnau gofal na fedrent eu darparu. Mae ein timau mewnol wedi ysgwyddo\u2019r cyfrifoldeb am y rhain, ond maent hwythau\u2019n cael trafferth recriwtio staff.<\/p>\n\n<p>Drwy ddefnyddio rhywfaint o Gyllid Integreiddio Rhanbarthol rydym wedi cyflogi asiantaeth recriwtio\/staffio wrth sefydlu t\u00eem peripatetig. Mae hynny wedi ein galluogi i ryddhau rhywfaint o staff mewn un ardal T\u00eem Adnoddau Cymunedol; rydym wedi llwyddo i helpu pedwar o bobl i ddychwelyd adref o gartref gofal a galluogi un gofalwr anffurfiol i fynd yn \u00f4l i\u2019r gwaith.  Bydd tri chant o oriau gofalu ychwanegol ar gael o ganlyniad i\u2019r gwaith hwn.<\/p>\n\n<p>Llwyddom i sicrhau rhywfaint o gyllid ychwanegol ar sail achos busnes y llynedd i recriwtio pump o staff Gwaith Cymdeithasol ychwanegol: un ymhob T\u00eem Adnoddau Cymunedol er mwyn ateb y galw cynyddol am ein gwasanaethau.<\/p>\n\n<p>Rydym hefyd wedi dechrau defnyddio gwahanol ddulliau o ddenu a recriwtio aelodau newydd o staff i\u2019n timau cefnogaeth cymunedol, ac mae rheolwyr yn mynd i amryw ddigwyddiadau cymunedol a ffeiriau swyddi er mwyn hyrwyddo gyrfaoedd yn ein gwasanaethau. Mae hyn wedi cael effaith ac wedi arwain at recriwtio aelodau newydd o staff.<\/p>\n\n<p>Mae cadw ein staff presennol a diogelu eu lles, a hwythau oll yn gweithio dan bwysau aruthrol, yn flaenoriaeth i\u2019r gwasanaeth a thrwy drafod \u00e2 chydweithwyr Adnoddau Dynol a staffio rydym wedi llwyddo\u2019n ddiweddar i drefnu sesiwn i helpu staff i ddeall effaith trawma eilaidd, a chael eglurhad o \u2018anafu moesol\u2019 ac effaith hynny ar staff. <\/p>\n\n<p>Cynhaliom adolygiad canol blwyddyn o daliadau ym mis Hydref 2022 gyda\u2019r nod o gynyddu ffioedd y darparwyr er mwyn iddynt fedru codi cyflogau staff.  Gobeithiwn hefyd y bydd gweithredu\u2019r dull newydd o gomisiynu gofal cartref yn cael effaith gadarnhaol ar ein gallu i gyflawni yn y sector gofal cartref yng Nghonwy.  <\/p>\n\n<p>Os oes diddordeb gennych chi, neu rywun rydych chi\u2019n ei adnabod, mewn gyrfa ym maes Gofal Cymdeithasol, ewch i <a href=\"https:\/\/gofalwn.cymru\/\">Gofalwn.Cymru<\/a> neu <a href=\"https:\/\/www.conwy.gov.uk\/cy\/Council\/Jobs-and-Careers\/Jobs-and-Careers.aspx\">wefan swyddi Conwy<\/a><\/p>\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-alpha-channel-opacity\"\/>\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\"><strong>Ymgartrefu yng Nghanolfan Ffordd Douglas<\/strong><\/h2>\n\n<p>Wedi adnewyddu hen ysgol Fictoraidd ynghanol Bae Colwyn rydym wedi gweld cynnydd yn nifer y bobl sy\u2019n ffonio neu\u2019n galw heibio i gael gwybodaeth, cyngor a chymorth a nifer y gwasanaethau eraill yn yr Awdurdod Lleol a\u2019r trydydd sector sy\u2019n defnyddio\u2019r cyfleusterau i feithrin cyswllt \u00e2 theuluoedd yn nes at adref. Mae\u2019r rhain yn cynnwys:<\/p>\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>GIFT, sy\u2019n darparu gweithgareddau gwyliau i bobl ag anableddau.<\/li>\n\n\n\n<li>Yr Uned Diogelwch Trais Teuluol, sy\u2019n darparu cyngor a chefnogaeth, cyfarfodydd un-i-un a mynediad at raglenni fel \u2018Freedom\u2019 ac \u2018Own My Life\u2019, yn ogystal \u00e2\u2019r rhaglen \u2018STAR\u2019 i blant sydd wedi dioddef camdriniaeth ddomestig.<\/li>\n\n\n\n<li>Canolbwynt Cyflogaeth Conwy, sy\u2019n cynnig cyngor a chefnogaeth i gael mynediad at addysg a gwaith. Maent wedi dod i\u2019r ganolfan i gynnal sesiynau coginio a bwyta.<\/li>\n\n\n\n<li>Y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid, sy\u2019n darparu gwaith gr\u0175p sy\u2019n ymdrin \u00e2 lles wedi\u2019i dargedu at bobl ifanc dan un ar bymtheg oed, gan gynnwys sesiynau coginio un-i-un.<\/li>\n\n\n\n<li>Cymraeg i Blant, sy\u2019n cynnal sesiynau canu yn Gymraeg i rieni a rhoi blas ar yr iaith i aelwydydd di-Gymraeg.<\/li>\n\n\n\n<li>STAND, sesiynau gr\u0175p i blant dan bump ag anableddau a\u2019u rhieni, gweithdai cynghori ar fagu plant, a\u2019r rhaglen PEEP sy\u2019n datblygu sgiliau rhifo cynnar drwy chwarae.<\/li>\n\n\n\n<li>Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig Gogledd Cymru, sy\u2019n galluogi oedolion a phlant i alw heibio am gefnogaeth.<\/li>\n\n\n\n<li>Y T\u00eem Teuluoedd Integredig Lleol, sy\u2019n cefnogi teuluoedd i reoli ymddygiad heriol ar yr aelwyd. <\/li>\n\n\n\n<li>Y Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc, sy\u2019n trefnu apwyntiadau cyn ymgynghori ar gyfer pobl ifanc ar y rhestr aros am wasanaethau niwroddatblygiadol.<\/li>\n\n\n\n<li>Uwch-ymarferydd Nyrsio sy\u2019n gofalu am iechyd plant a phobl ifanc rhwng pedair a deunaw oed.<\/li>\n\n\n\n<li>Gr\u0175p cefnogi bwydo ar y fron gyda bydwraig Dechrau\u2019n Deg.<\/li>\n<\/ul>\n\n<p>Roedd hi\u2019n anodd meithrin cyswllt \u00e2 phobl dan gyfyngiadau Covid-19, ond unwaith y cawsom agor ein drysau i\u2019r cyhoedd a chychwyn y grwpiau, bu cynnydd amlwg yn nifer y bobl oedd yn galw heibio. <\/p>\n\n<p>Nid oedd sefydliadau\u2019n gwybod am y cyfleusterau oedd ar gael iddynt yng Nghanolfan Ffordd Douglas ac felly estynnom wahoddiad iddynt ddod i weld y lle. Mae GIFT, yn enwedig, yn defnyddio\u2019r ganolfan yn rheolaidd er mwyn elwa ar y cyfleusterau i bobl anabl.<\/p>\n\n<p>Byddwn yn dal i weithio \u00e2\u2019r gymuned a\u2019n partneriaid lleol wrth ddatblygu darpariaeth i deuluoedd sydd wedi\u2019i theilwra yn \u00f4l yr anghenion sy\u2019n bodoli yn ardal ganolog Conwy.<\/p>\n\n<figure class=\"wp-block-image size-full\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"480\" height=\"640\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/08\/Tots-Play-edited.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-3304\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/08\/Tots-Play-edited.png 480w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2023\/08\/Tots-Play-edited-225x300.png 225w\" sizes=\"auto, (max-width: 480px) 100vw, 480px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\">Sesiwn Chwarae<\/figcaption><\/figure>\n\n<p><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>T\u00eem Integredig Teuluoedd Lleol Y llynedd, fe soniom am y T\u00eem Teuluoedd Integredig Lleol (LIFT), sy\u2019n cynnwys staff o Gonwy, Dinbych a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Mae\u2019r t\u00eem yn helpu teuluoedd i reoli ymddygiad heriol plant a phobl ifanc yn y cartref. Bu\u2019n hollol weithredol ers blwyddyn bellach, ac yn rhoi gwasanaeth i\u2019r ddwy [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":5,"featured_media":0,"parent":3288,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"_seopress_robots_primary_cat":"","_seopress_titles_title":"","_seopress_titles_desc":"","_seopress_robots_index":"","_genesis_hide_title":false,"_genesis_hide_breadcrumbs":false,"_genesis_hide_singular_image":false,"_genesis_hide_footer_widgets":false,"_genesis_custom_body_class":"","_genesis_custom_post_class":"","_genesis_layout":"","footnotes":""},"class_list":{"0":"post-3409","1":"page","2":"type-page","3":"status-publish","5":"entry"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/3409","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/5"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=3409"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/3409\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":3412,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/3409\/revisions\/3412"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/3288"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=3409"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}