{"id":3219,"date":"2022-08-16T13:55:45","date_gmt":"2022-08-16T12:55:45","guid":{"rendered":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/adroddiad-2021-22\/safon-ansawdd-6\/"},"modified":"2022-08-16T13:55:48","modified_gmt":"2022-08-16T12:55:48","slug":"safon-ansawdd-6","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/adroddiad-2021-22\/safon-ansawdd-6\/","title":{"rendered":"Safon Ansawdd 6"},"content":{"rendered":"\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Mae pobl yn cael eu hannog i gyfrannu at ddyluniad a darpariaeth eu gofal a&#8217;u cefnogaeth fel partneriaid cyfartal<\/h2>\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Cael adborth am gefnogaeth ein Canolfannau Teulu<\/h3>\n\n<p>Gofynnwyd i unigolion sy\u2019n derbyn cymorth gan ein Canolfannau Teulu i roi adborth am eu profiadau. Pan ysgrifennwyd yr adroddiad hwn, roedd 77 o bobl wedi cwblhau ein harolwg yn ystod 2021-22 i rannu eu safbwyntiau. Cafwyd adborth hynod o gadarnhaol ar y cyfan.<\/p>\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p>Allwn i ddim gofyn am weithiwr teulu gwell ac rydw i mor hapus a bodlon gyda\u2019r cynnydd rydym wedi\u2019i wneud fel teulu.<\/p><\/blockquote>\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Cytunai 93% o\u2019r ymatebwyr fod y t\u00eem wedi cysylltu \u00e2 nhw o fewn wythnos i gael eu manylion.<\/li><li>Teimlai 100% o\u2019r ymatebwyr fod y t\u00eem yn gyfeillgar, yn onest, yn barchus ac yn broffesiynol.<\/li><li>Teimlai 96% fod y t\u00eem yn gwrando arnyn nhw a\u2019u bod yn gallu gweithio gyda ni ar wahanol agweddau o fywyd teuluol.<\/li><li>Teimlai 90% o\u2019r ymatebwyr eu bod yn gallu symud ymlaen gyda\u2019u bywydau\u2019n hyderus, gan wybod bod t\u00eem y Ganolfan Deulu yno i\u2019w helpu pe bai angen.<\/li><\/ul>\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p>Cyfeillgar iawn, roedd yn gwneud i mi deimlo\u2019n gyfforddus ac roedd yn gallu cynnig perthynas agored, gonest a chefnogol i mi a fy mhlant.<\/p><\/blockquote>\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p>Teimlaf fod gen i nawr yr hyder i symud ymlaen gyda fy mywyd, diolch i\u2019r Ganolfan Deulu a\u2019m gweithiwr cefnogi.<\/p><\/blockquote>\n\n<p>Byddwn yn parhau i gael adborth am ein perfformiad i ddatblygu a gwella ein gwasanaethau ymhellach.<\/p>\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"692\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/Early-Years-front-cover-1024x692.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-3062\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/Early-Years-front-cover-1024x692.png 1024w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/Early-Years-front-cover-300x203.png 300w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/Early-Years-front-cover-768x519.png 768w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/Early-Years-front-cover-1536x1038.png 1536w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/Early-Years-front-cover-2048x1384.png 2048w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n<h4 class=\"has-pale-cyan-blue-color has-text-color wp-block-heading\">Canolfan Deulu Eryl Wen<\/h4>\n\n<p>Fe wnaethom ymgynghori ag unigolion sy\u2019n defnyddio Canolfan Deulu Eryl Wen yn Llandudno, yn ogystal \u00e2 gweithwyr proffesiynol ac unigolion eraill sy\u2019n gweithio gyda ni. Teimlai ymatebwyr fod lleoliad y safle\u2019n gyfleus iddyn nhw, a\u2019i fod yn rhan o\u2019u cymuned a chytunwyd y dylai Canolfan Deulu Llandudno barhau i gael ei lleoli yn Eryl Wen. Mae gwaith wedi dechrau ar welliannau i\u2019r adeilad a dylai\u2019r gwaith hwnnw barhau yn 2022-23 er mwyn darparu\u2019r gofod a\u2019r cyfleusterau gorau bosibl i deuluoedd sy\u2019n ymweld \u00e2 ni yno.  Byddwn yn rhoi\u2019r wybodaeth ddiweddaraf i chi am unrhyw ddatblygiadau.<\/p>\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Adborth am ein gwasanaeth gofal cartref i bobl h\u0177n<\/h3>\n\n<p>Rydym yn cynnal arolwg parhaus i roi cyfle i bobl sy\u2019n derbyn gwasanaeth ailalluogi i roi adborth am eu profiad. Mae\u2019r gwasanaeth yn darparu chwech wythnos o gefnogaeth ddwys i unigolion sydd wedi dychwelyd adref ar \u00f4l bod yn aros dros nos yn yr ysbyty, neu sy\u2019n gwella ar \u00f4l salwch neu ddamwain. Y nod yw helpu unigolion i adennill eu hannibyniaeth a\u2019u hyder yn eu cartrefi eu hunain, hyd nes y gellir dod \u00e2\u2019r gwasanaethau i ben neu eu cwtogi, yn dibynnu ar yr angen parhaus. Yn ystod 2021-22, gofynnwyd cyfres o gwestiynau i bobl a oedd wedi elwa o\u2019r gwasanaeth am y gofal a\u2019r cymorth roedden nhw wedi\u2019i dderbyn.<\/p>\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Cytunai 96% eu bod nhw, eu teulu, eu ffrindiau a\u2019u gweithiwr cymdeithasol yn rhan o\u2019r drafodaeth i gynllunio a chytuno ar eu cefnogaeth.<\/li><li>Teimlai 97% y bodlonwyd eu disgwyliadau am y gwasanaeth.<\/li><li>Dywedodd 92% ein bod wedi cytuno ar eu canlyniadau personol gyda nhw ar ddechrau\u2019r gwasanaeth.<\/li><li>Cytunai 90% eu bod wedi cyflawni eu canlyniadau personol erbyn diwedd y cyfnod ymyrryd.<\/li><li>Darparwyd ar gyfer pawb a oedd wedi mynegi dymuniadau diwylliannol neu grefyddol (38%), ac nid oedd y 62% a oedd yn weddill yn berthnasol.<\/li><li>Teimlai 99% fod y gefnogaeth a gawson nhw\u2019n hyblyg, er enghraifft o ran amseroedd a hyd.<\/li><li>Cytunai 90% fod y gefnogaeth a dderbyniwyd yn gyson, hynny yw, mai\u2019r un t\u00eem o staff a oedd yn eu cefnogi.<\/li><li>Teimlai 100% o\u2019r ymatebwyr fod y cymorth a gawsant wedi\u2019u galluogi i wneud cymaint ag y gallant drostynt eu hunain.<\/li><li>Teimlai 100% fod ein staff yn ddymunol, yn garedig ac yn gwrtais.<\/li><li>Byddai 15% o\u2019r ymatebwyr wedi gwerthfawrogi math arall o gefnogaeth fel rhan o\u2019r pecyn, yn cynnwys siopa, glanhau, golchi dillad a mwy o amser i sgwrsio.<\/li><\/ul>\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p>Wnaethon nhw wirioneddol fynd y tu hwnt i\u2019r disgwyl. Roedd y t\u00eem yn anhygoel, mor hyfryd gyda Mam\u2026.<\/p><\/blockquote>\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p>Y tu hwnt i fy nisgwyliadau i, roedd pawb mor garedig, gofalgar a pharod i helpu. Roedden nhw hefyd yn llawn anogaeth; allwn i wir ddim rhoi digon o ganmoliaeth i\u2019r t\u00eem.<\/p><\/blockquote>\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p>Roedd y merched yn dangos cymaint o barch tuag atom pan oedden nhw yn ein cartref, yn ogystal \u00e2 dweud wrthym beth roedden nhw wedi\u2019i wneud ac roedden nhw\u2019n dangos gwir ddealltwriaeth o\u2019n sefyllfa ni.<\/p><\/blockquote>\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Adborth gan ffrindiau a theulu preswylwyr Llys Elian<\/h3>\n\n<p>Ym mis Chwefror 2022, fe wnaethom gysylltu gyda theulu, gofalwyr a ffrindiau pobl sy\u2019n byw yn Llys Elian er mwyn clywed eu barn nhw am y gwasanaeth mae eu hanwyliaid yn ei dderbyn yno. Cawsom 28 ymateb i\u2019n harolwg ac roedd y sgorau a\u2019r sylwadau\u2019n gadarnhaol dros ben.<\/p>\n\n<p>Nododd pob un o\u2019r ymatebwyr fod y gofal a\u2019r gefnogaeth yn dda neu\u2019n ardderchog.<\/p>\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p>Teimlaf fod y t\u00eem yn rhoi popeth o fewn eu gallu i\u2019r preswylwyr. Maen nhw\u2019n neilltuo amser i sgwrsio gyda nhw a thawelu eu meddyliau pan fo angen.<\/p><\/blockquote>\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p>Mae\u2019r gofal a dderbyniwyd wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i iechyd a lles fy mherthynas.<\/p><\/blockquote>\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p>Mae Llys Elian yn lle arbennig iawn, gyda staff anhygoel ac ethos ac ymagwedd fendigedig.<\/p><\/blockquote>\n\n<p>Pan ofynnwyd beth sy\u2019n dda am fyw yno, siaradodd yr ymatebwyr am yr amgylchedd cartrefol a hapus, y staff cyfeillgar ac ansawdd y gofal, y bwyd a\u2019r gweithgareddau:<\/p>\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p>Gofal, empathi a chefnogaeth i Mam, ynghyd \u00e2 bwyd a gweithgareddau ardderchog\u2026sefydliad heb ei ail! Da iawn bawb yn Llys Elian!<\/p><\/blockquote>\n\n<p>Roeddem yn falch o weld y byddai 100% o\u2019r ymatebwyr yn argymell Llys Elian i ffrind neu berthynas:<\/p>\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p>Ar \u00f4l ystyried popeth, credaf mai dyma un o\u2019r cartrefi sy\u2019n cael ei redeg orau yn yr ardal. <\/p><\/blockquote>\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p>Buaswn yn argymell Llys Elian dro ar \u00f4l tro.<\/p><\/blockquote>\n\n<p>Roedd hi\u2019n amlwg o\u2019r sylwadau ychwanegol fod cyfyngiadau Covid yng nghyd-destun ymweld \u00e2 chartrefi gofal wedi bod yn brofiad anodd i lawer o breswylwyr a\u2019u teuluoedd ac maen nhw\u2019n edrych ymlaen at dreulio mwy o amser gwerthfawr gyda\u2019u hanwyliaid dros y misoedd nesaf.<\/p>\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Adborth am ein gweithgareddau Lles Cymunedol<\/h3>\n\n<p>Ym Mai 2021, gofynnwyd i unigolion dros 50 oed a\u2019r bobl sy\u2019n eu cefnogi i ddweud wrthym pa weithgareddau y bydden nhw\u2019n hoffi manteisio arnyn nhw, naill ai ar-lein, neu yn eu cymuned leol, i gefnogi eu hiechyd a\u2019u lles. Cawsom 77 o ymatebion, o bob rhan o\u2019r sir; dyma flas o\u2019r hyn a oedd ganddynt i\u2019w ddweud.<\/p>\n\n<h4 class=\"has-pale-cyan-blue-color has-text-color wp-block-heading\">Llandudno a\u2019r ardal gyfagos<\/h4>\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Y tri gweithgaredd mwyaf poblogaidd: cadw\u2019n heini, celf a chrefft, cyrsiau lles\/rheoli straen<\/li><li>Y cais mwyaf poblogaidd: teithiau cerdded<\/li><li>Y dyddiau a hoffir fwyaf: Dydd Mawrth i ddydd Iau<\/li><li>Yr amser a hoffir fwyaf: prynhawn <\/li><li>Yr amlder a hoffir fwyaf: roedd 100% eisiau sesiynau wythnosol<\/li><\/ul>\n<h4 class=\"has-pale-cyan-blue-color has-text-color wp-block-heading\">Llanfairfechan a\u2019r ardal gyfagos<\/h4>\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Y tri gweithgaredd mwyaf poblogaidd: cadw\u2019n heini, celf a chrefft, garddio<\/li><li>Y cais mwyaf poblogaidd: pilates ac ioga<\/li><li>Y dyddiau a hoffir fwyaf: Dydd Mercher<\/li><li>Yr amser a hoffir fwyaf: gyda\u2019r nos<\/li><li>Yr amlder a hoffir fwyaf: roedd 100% eisiau sesiynau wythnosol<\/li><\/ul>\n<h4 class=\"has-pale-cyan-blue-color has-text-color wp-block-heading\">Ardal wledig<\/h4>\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Y tri gweithgaredd mwyaf poblogaidd: cadw\u2019n heini, celf a chrefft, sesiynau natur<\/li><li>Y cais mwyaf poblogaidd: teithiau cerdded ac ioga<\/li><li>Y dyddiau a hoffir fwyaf: Dydd Llun a dydd Iau<\/li><li>Yr amser a hoffir fwyaf: prynhawn a chyda\u2019r nos<\/li><li>Yr amlder a hoffir fwyaf: roedd 77% eisiau sesiynau wythnosol<\/li><\/ul>\n<h4 class=\"has-pale-cyan-blue-color has-text-color wp-block-heading\">Bae Colwyn a\u2019r ardal gyfagos<\/h4>\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Y tri gweithgaredd mwyaf poblogaidd: cadw\u2019n heini, celf a chrefft, dawnsio<\/li><li>Y cais mwyaf poblogaidd: teithiau cerdded ac ioga<\/li><li>Y dyddiau a hoffir fwyaf: Dydd Llun a dydd Mercher <\/li><li>Yr amser a hoffir fwyaf: boreau <\/li><li>Yr amlder a hoffir fwyaf: roedd 93% eisiau sesiynau wythnosol<\/li><\/ul>\n<h4 class=\"has-pale-cyan-blue-color has-text-color wp-block-heading\">Abergele a\u2019r ardal gyfagos<\/h4>\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Y tri gweithgaredd mwyaf poblogaidd: cadw\u2019n heini, celf a chrefft, canu<\/li><li>Y cais mwyaf poblogaidd: teithiau cerdded ac ioga<\/li><li>Y dyddiau a hoffir fwyaf: Dydd Mercher a dydd Gwener <\/li><li>Yr amser a hoffir fwyaf: prynhawn <\/li><li>Yr amlder a hoffir fwyaf: roedd 87% eisiau sesiynau wythnosol<\/li><\/ul>\n<p>Gofynnwyd i bobl am sesiynau ar-lein, na fyddai\u2019n dibynnu ar le maen nhw\u2019n byw.<\/p>\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Y tri gweithgaredd mwyaf poblogaidd: cadw\u2019n heini, yn cynnwys ymarfer corff er mwyn rheoli straen, celf a chrefft, cyrsiau lles\/rheoli straen<\/li><li>Y cais mwyaf poblogaidd: ioga, gwau\/crosio<\/li><li>Y dyddiau a hoffir fwyaf: Dydd Mercher<\/li><li>Yr amser a hoffir fwyaf: gyda\u2019r nos<\/li><li>Yr amlder a hoffir fwyaf: roedd 93% eisiau sesiynau wythnosol<\/li><\/ul>\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"949\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/OakTree22-1024x949.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-3064\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/OakTree22-1024x949.png 1024w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/OakTree22-300x278.png 300w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/OakTree22-768x712.png 768w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/OakTree22.png 1080w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n<p>Dywedodd 16% o\u2019r ymatebwyr y byddai ganddyn nhw ddiddordeb i fynychu gweithgareddau a gynhelir drwy gyfrwng y Gymraeg. Nos Fercher a nos Wener oedd y dyddiau mwyaf poblogaidd ar gyfer sesiynau yn y gymuned, a hoffai 92% gael sesiynau wythnosol. Ar gyfer sesiynau ar-lein, prynhawn\/nos Fercher a Iau a oedd yn cael eu ffafrio, a hoffai 100% gael sesiynau wythnosol.<\/p>\n\n<p>Roedd pobl yn barod i dalu am sesiynau, ac 20% yn hapus i dalu rhwng \u00a38 a \u00a312. Y rhwystrau a fyddai\u2019n atal y rhan fwyaf o\u2019r ymatebwyr rhag mynychu sesiwn fyddai diffyg hyder, gorbryder a Covid. <\/p>\n\n<p>Bydd yr adborth amhrisiadwy hwn yn ein galluogi i gynllunio sesiynau ar gyfer y dyfodol, i gyd-fynd \u00e2\u2019r hyn yr hoffai pobl ei gael a\u2019r hyn sydd ei angen arnyn nhw, er mwyn gwella eu hiechyd a\u2019u lles.<\/p>\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Ymgysylltu \u00e2 phobl sy\u2019n defnyddio ein gwasanaethau a gomisiynwyd<\/h3>\n\n<p>Er ein bod yn parhau i ganolbwyntio ar ddarparu gwasanaethau o fewn y cyfyngiadau sy\u2019n deillio o Covid-19, rydym wedi gallu cynnal nifer o ymarferion ymgysylltu gydag unigolion sy\u2019n defnyddio ein gwasanaethau yn ystod 2021-22. Dyma rywfaint o\u2019r adborth a gawsom ganddyn nhw.<\/p>\n\n<p>Ym Medi 2021 fe wnaethom dreulio amser gyda phedwar unigolyn sy\u2019n byw mewn cartref gofal i oedolion ag anableddau dysgu, Anhwylderau ar y Sbectrwm Awtistig neu broblemau iechyd meddwl. Gofynnwyd iddynt sut brofiad oedd byw yno, a sut maen nhw\u2019n mwynhau treulio eu hamser.<\/p>\n\n<p>Roedd tri o\u2019r preswylwyr yn defnyddio iPad a ddarparwyd gan yr Awdurdod Lleol i gadw mewn cysylltiad gyda\u2019u teuluoedd yn ystod y cyfnod clo. Roedd pob un wedi cael ymwelwyr pan oedd hynny\u2019n bosibl, yn cynnwys plant ac wyrion a wyresau pan oedd hi\u2019n ddiogel gwneud hynny. Roedd pob un wedi creu cyfeiriad e-bost i gyfnewid lluniau gyda\u2019u teuluoedd.<\/p>\n\n<p>O ran gweithgareddau, nododd y preswylwyr eu bod yn mwynhau pethau fel llyfrau posau, darllen cylchgronau a phobi cacennau. Mae un yn hoffi adar ac mae ganddo d\u0177 adar, ac mae un arall newydd ddechrau Slimming World a, gyda chymorth y staff, yn rhoi cynnig ar wneud ambell rys\u00e1it. <\/p>\n\n<p>Mae\u2019r preswylwyr yn bwyta gyda\u2019i gilydd ac yn creu bwydlen wythnosol, a phob un ohonyn nhw\u2019n dewis un o\u2019r prydau nos bob wythnos. Ymhlith y ffefrynnau mae selsig, cyri a physgod a sglodion.<\/p>\n\n<p>Mae\u2019r dynion wrth eu boddau gyda ph\u00eal-droed ac yn cefnogi Clwb P\u00eal-droed Blackpool. Yn ddiweddar, aeth rhai o\u2019r staff \u00e2 nhw i Blackpool am y dydd, i fynd ar daith o amgylch y clwb. Drwy siarad gyda\u2019r preswylwyr, fe wnaethom ddysgu am lawer mwy o weithgareddau ac ymweliadau y gwnaethon nhw eu mwynhau.<\/p>\n\n<p>Yn ystod mis Tachwedd 2021, fe wnaethom siarad gyda 21 o unigolion (neu eu cynrychiolydd) sy\u2019n derbyn gofal a chymorth gan asiantaeth yn eu cartref.  Cynhaliwyd cyfweliadau dros y ff\u00f4n a holwyd eu barn am y berthynas gyda\u2019r darparwr a\u2019r gwasanaeth a gynigir ganddo.<\/p>\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Dywedodd 95% o\u2019r ymatebwyr fod y gwasanaeth roedden nhw\u2019n ei dderbyn yn dda neu\u2019n dda iawn.<\/li><li>Cytunai 86% eu bod yn derbyn eu gwasanaeth gan d\u00eem staff cyson a rheolaidd.<\/li><li>Roedd 100% yn derbyn y gwasanaeth yn eu dewis iaith.<\/li><li>Teimlai 98% fod y staff cefnogi\u2019n garedig, yn barchus ac yn gwrtais.<\/li><li>Cytunai 38% fod eu gweithiwr cefnogi\u2019n cyrraedd yn brydlon, a nododd 48% mai weithiau y byddai hynny\u2019n digwydd.<\/li><li>Ymddengys fel pe bai pawb yn hapus bod eu safbwyntiau, eu dymuniadau a\u2019u dewisiadau\u2019n cael eu hystyried gan y staff cefnogi a\u2019r darparwr gwasanaeth, er efallai y byddai rhai wedi teimlo\u2019n nerfus yngl\u0177n \u00e2 gofyn am rywbeth gwahanol rhag iddyn nhw golli eu cefnogaeth.<\/li><li>Cytunai 60% fod y darparwr gwasanaeth yn hyblyg o ran amseroedd ymweld a hyd yr ymweliadau, gan ddeall y pwysau sydd ar y staff cefnogi i gadw at eu hamserlen waith. <\/li><li>Roedd 71% yn fodlon neu\u2019n fodlon iawn gyda\u2019r gwasanaeth maen nhw\u2019n ei dderbyn, ond roedd 19% yn anfodlon iawn.<\/li><\/ul>\n<p>Roedd llawer o\u2019r sylwadau a wnaed gan y rhai a gymerodd ran yn ymwneud \u00e2 faint o amser a dreuliwyd ar alwadau; roedd llawer eisiau i\u2019r gweithwyr cefnogi dreulio mwy o amser gyda nhw, ac eisiau i d\u00eem cyson ymweld \u00e2 nhw ar yr amser a drefnwyd ymlaen llaw.<\/p>\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p>Dydw i ddim yn meindio hanner awr o wahaniaeth ond mae arnom ni ofn mynd allan i fyw bywyd rhag ofn i ni fethu galwad.<\/p><\/blockquote>\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p>\u2026rhaid bodloni gyda\u2019r amser, mae\u2019r gofalwr wedi dweud wrtha\u2019 i mod i wedi cael fy ngwasgu rhwng dwy alwad arall.<\/p><\/blockquote>\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">T\u00eem Lles Meddyliol<\/h3>\n\n<p>Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi pontio\u2019n llwyddiannus i\u2019r T\u00eem Lles Meddyliol, a gwella effaith lles meddyliol gwael ar breswylwyr Conwy.  Datblygwyd y T\u00eem Lles Meddyliol fel ymateb i\u2019r hyn roedd pobl yn ei ddweud wrthym am wasanaethau iechyd meddwl.  <\/p>\n\n<p>Mae\u2019r data presennol yn dangos y gwelwyd cynnydd o 40% yn y galw am wasanaethau Iechyd Meddwl ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol.  Yn y T\u00eem Lles Meddyliol rydym yn dilyn ethos \u2018Dim Drws Anghywir\u2019 felly gall unigolyn gysylltu ag unrhyw wasanaeth a byddwn yn helpu i gyfeirio\u2019r person hwnnw at y man cywir.<\/p>\n\n<p>Mae lles yn ffactor allweddol wrth ddarparu gwasanaeth y T\u00eem Lles Meddyliol. Rydym ar hyn o bryd yn gweithio er mwyn datblygu mannau gwyrdd, Coleg Adfer, canolfannau wyneb yn wyneb a chanolbwyntiau dros y we ac rydym yn edrych ar ffyrdd eraill y gallwn weithio ar lawr gwlad. Drwy ein gwaith, rydym wedi gweld yr hyn sydd gan gymunedau i\u2019w gynnig, ac nid yw bob amser yn fater o ychwanegu mwy, mae\u2019n fater o weld beth sydd ar gael a chodi ymwybyddiaeth am y gwasanaethau sydd eisoes yn bodoli. <\/p>\n\n<h4 class=\"has-pale-cyan-blue-color has-text-color wp-block-heading\">Astudiaeth Achos<\/h4>\n\n<p><em>Cafodd merch yn ei 20au ei gorfodi i adael ei gyrfa broffesiynol gan fod ganddi broblemau iechyd meddwl, ac fe arweiniodd hynny at golli pwrpas, yn ogystal \u00e2 cholli\u2019r swydd roedd hi wedi gweithio\u2019n galed i\u2019w chael. <\/em><\/p>\n\n<p><em>Cafodd gefnogaeth gan y gwasanaeth Gofal Sylfaenol gyda\u2019i diagnosis a\u2019i meddyginiaeth. Fe wnaeth y T\u00eem Lles Meddyliol ei chefnogi i wella\u2019i hunan-barch, a\u2019r amgylchedd yn ei chartref yn ogystal \u00e2\u2019i chyfeirio at gyngor am fudd-daliadau a chyllidebu.<\/em><\/p>\n\n<p><em>Ar \u00f4l cael y gefnogaeth honno, mae hi nawr yn byw\u2019n annibynnol, mae ei lles a\u2019i llesiant wedi gwella, nid yw wedi cael ei hatgyfeirio ar gyfer mwy o ymyraethau clinigol ac mae wedi lleihau\u2019r risg y bydd angen iddi fynd i\u2019r ysbyty yn sylweddol. Yn bwysicach na hynny, mae\u2019n obeithiol am y dyfodol.<\/em><\/p>\n\n<h4 class=\"has-pale-cyan-blue-color has-text-color wp-block-heading\">Beth nesaf?<\/h4>\n\n<p>Yn ystod y flwyddyn nesaf bydd y t\u00eem yn tyfu ac mae\u2019r broses recriwtio eisoes ar waith i benodi Ymarferydd Iechyd Meddwl Cymwys.  Mae hon yn r\u00f4l broffesiynol arbenigol.  Byddwn hefyd yn penodi Gweithiwr Cymdeithasol Adran 117 a fydd yn gyfrifol am gefnogi\u2019r broses \u00f4l-ofal ar gyfer unigolion sydd wedi cael eu hanfon i\u2019r ysbyty o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl a chael eu hanfon o\u2019r ysbyty wedi hynny.<\/p>\n\n<p>Gan ddefnyddio cyllid gan y Bwrdd Gwasanaeth Integredig Ardal, rydym yn recriwtio Gweithiwr Ymyrryd a Gweithiwr Cefnogaeth Gymunedol ychwanegol a fydd yn darparu cefnogaeth ddwys am gyfnod byr, wedi\u2019i llunio i helpu unigolion mewn ffordd strwythuredig, dan arweiniad yr unigolyn, sy\u2019n canolbwyntio ar adfer ac osgoi argyfwng lle bo hynny\u2019n bosibl a helpu\u2019r unigolyn i adennill sefydlogrwydd.<\/p>\n\n<p>Rydym wedi llwyddo i sicrhau pot bychan o gyllid gan Gronfa Adfer Gymunedol y DU i gefnogi\u2019r gwaith cynhyrchu roeddem yn ei wneud cyn pandemig Covid-19.<\/p>\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Wythnos Pobl sy&#8217;n Gadael Gofal<\/h3>\n\n<p>Cynhelir Wythnos Pobl sy\u2019n Gadael Gofal ym mis Hydref bob blwyddyn.  Dyma\u2019r tro cyntaf i Conwy ymuno \u00e2\u2019r dathlu.  Er mwyn gwneud hyn, fe wnaethom drafod gydag amryw o ganolfannau gweithgareddau a busnesau lleol i gynnig profiadau i\u2019n pobl ifanc a\u2019u plant eu hunain.  Cafodd rhai o\u2019r tocynnau isod eu cyfrannu i\u2019r t\u00eem gan y Canolfannau Teulu.  Isod ceir rhestr o\u2019r gweithgareddau a\u2019r profiadau a oedd ar gael:<\/p>\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Wendy Couling Bydoedd Hud mewn Bocs &#8211; Sesiwn 3D ar Gyfryngau Cymysg<\/li><li>Creu ymgynulliad blwch cysgodion ar Gyfryngau Cymysg, creu eich straeon eich hun gan ddefnyddio amryw o dechnegau haenu collage<\/li><li>Parc Antur Eryri (Adventure Parc Snowdonia)<\/li><li>Cwrs heriau ninja<\/li><li>Gwers syrffio ar y Lag\u0175n Syrffio<\/li><li>Padlfyrddio ar y Lag\u0175n Syrffio <\/li><li>Staffio a chostau teithio      <\/li><li>S\u0175 Mynydd Cymru<\/li><li>Sesiynau dringo<\/li><li>Tocynnau sinema<\/li><li>Ffitrwydd Aspire<\/li><li>Sgramblo ceunentydd gyda North Wales Active Cyf.<\/li><li>Dringo ac abseilio<\/li><li>Sesiynau cerfio pwmpen yn rhandir CBSC\t <\/li><li>Llethr sg\u00efo Llandudno<\/li><li>Sugar Den, caffi celf a chrefft yn Abergele <\/li><li>Canolfannau hamdden<\/li><\/ul>\n<figure class=\"wp-block-image size-full\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"505\" height=\"517\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/Zipline-02.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-3066\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/Zipline-02.png 505w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/Zipline-02-293x300.png 293w\" sizes=\"auto, (max-width: 505px) 100vw, 505px\" \/><\/figure>\n<h4 class=\"has-pale-cyan-blue-color has-text-color wp-block-heading\">Gwefan i Bobl sy&#8217;n Gadael Gofal<\/h4>\n\n<p>Yn ogystal \u00e2 hyn, fe wnaethom hefyd lansio gwefan newydd i bobl sy\u2019n gadael gofal:&#13;\n&#13;\n<a href=\"https:\/\/camaubachdyfodoldisglair.cymru\/\">https:\/\/camaubachdyfodoldisglair.cymru\/<\/a><\/p>\n\n<p>Mae\u2019r wefan yn cael ei rheoli ar hyn o bryd gan y T\u00eem Ymgynghori Personol ac mae\u2019n cynnwys gwybodaeth hygyrch ynghylch budd-daliadau, iechyd, hunaniaeth, addysg a hyfforddiant, beth sy\u2019n digwydd yn lleol a llawer iawn mwy.  Mae\u2019r wefan hefyd yn cynnwys fideos sy\u2019n dangos i bobl ifanc sut i wneud pryd o fwyd a sut i gyflawni tasgau DIY yn ddiogel.<\/p>\n\n<p>Yn ystod Wythnos Pobl sy&#8217;n Gadael Gofal fe wnaethom ddefnyddio\u2019r wefan i hyrwyddo them\u00e2u dyddiol.  Dyma amserlen yr wythnos:<\/p>\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Dydd Llun Ariannol: Fe wnaethom rannu gwybodaeth am fudd-daliadau a grantiau.  Unrhyw beth sy\u2019n ymwneud ag arian.  <\/li><li>Dydd Mawrth Paratoi Pryd: Mae hyn yn ymwneud \u00e2 hyrwyddo bwyta\u2019n iach, bwyta ar gyllideb, cynllunio prydau bwyd, a pharatoi prydau bwyd.  Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth am gyrsiau diogelwch bwyd.  <\/li><li>Dydd Mercher Lles:  Mae hyn yn ymwneud ag amrywiaeth eang o gyngor a syniadau megis myfyrio, syniadau am lefydd i fynd am dro a gweithgareddau awyr agored. <\/li><li>Dydd Iau Chi\u2019ch Hun:  Mae hyn yn ymwneud \u00e2 helpu unigolion sy\u2019n gadael gofal i ddathlu eu hunain, yr hyn maen nhw wedi bod drwyddo a\u2019r hyn maen nhw wedi ei gyflawni.  <\/li><li>Dydd Gwener Atgyweirio: Fe wnaethom rannu dolenni a fideos B&amp;Q a oedd yn dangos awgrymiadau DIY syml.<\/li><\/ul>\n<h4 class=\"has-pale-cyan-blue-color has-text-color wp-block-heading\">Beth nesaf?<\/h4>\n\n<p>Rydym yn bwriadu dathlu Wythnos Pobl sy&#8217;n Gadael Gofal unwaith eto eleni.  Byddwn yn dechrau cynllunio\u2019n llawer cynharach yn y broses.  Os bydd cyfyngiadau Covid-19 yn cael eu llacio, rydym yn gobeithio y gallwn ni gwrdd \u00e2\u2019n hunigolion sy\u2019n gadael gofal wyneb yn wyneb yn ystod y dathliadau eleni.<\/p>\n\n<p><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae pobl yn cael eu hannog i gyfrannu at ddyluniad a darpariaeth eu gofal a&#8217;u cefnogaeth fel partneriaid cyfartal Cael adborth am gefnogaeth ein Canolfannau Teulu Gofynnwyd i unigolion sy\u2019n derbyn cymorth gan ein Canolfannau Teulu i roi adborth am eu profiadau. Pan ysgrifennwyd yr adroddiad hwn, roedd 77 o bobl wedi cwblhau ein harolwg [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":5,"featured_media":0,"parent":2986,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"_seopress_titles_title":"","_seopress_titles_desc":"","_seopress_robots_index":"","_seopress_robots_follow":"","_seopress_robots_imageindex":"","_seopress_robots_snippet":"","_seopress_robots_primary_cat":"","_seopress_robots_breadcrumbs":"","_seopress_robots_freeze_modified_date":"","_seopress_robots_custom_modified_date":"","_seopress_robots_canonical":"","_seopress_social_fb_title":"","_seopress_social_fb_desc":"","_seopress_social_fb_img":"","_seopress_social_fb_img_attachment_id":0,"_seopress_social_fb_img_width":0,"_seopress_social_fb_img_height":0,"_seopress_social_twitter_title":"","_seopress_social_twitter_desc":"","_seopress_social_twitter_img":"","_seopress_social_twitter_img_attachment_id":0,"_seopress_social_twitter_img_width":0,"_seopress_social_twitter_img_height":0,"_seopress_redirections_value":"","_seopress_redirections_enabled":"","_seopress_redirections_enabled_regex":"","_seopress_redirections_logged_status":"","_seopress_redirections_param":"","_seopress_redirections_type":0,"_seopress_analysis_target_kw":"","_genesis_hide_title":false,"_genesis_hide_breadcrumbs":false,"_genesis_hide_singular_image":false,"_genesis_hide_footer_widgets":false,"_genesis_custom_body_class":"","_genesis_custom_post_class":"","_genesis_layout":"","footnotes":""},"class_list":{"0":"post-3219","1":"page","2":"type-page","3":"status-publish","5":"entry"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/3219","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/5"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=3219"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/3219\/revisions"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/2986"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=3219"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}