{"id":3215,"date":"2022-08-16T13:23:13","date_gmt":"2022-08-16T12:23:13","guid":{"rendered":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/adroddiad-2021-22\/safon-ansawdd-5\/"},"modified":"2022-08-16T13:23:22","modified_gmt":"2022-08-16T12:23:22","slug":"safon-ansawdd-5","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/adroddiad-2021-22\/safon-ansawdd-5\/","title":{"rendered":"Safon Ansawdd 5"},"content":{"rendered":"\n<h2 class=\"wp-block-heading\"><h2><strong>Mae partneriaethau effeithiol ar waith i gomisiynu a darparu canlyniadau cynaliadwy, cwbl integredig, o ansawdd uchel, i bobl<\/strong><\/h2><\/h2>\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\"><strong>Cefnogi cartrefi preswyl Conwy drwy gydol y pandemig a thu hwnt<\/strong><\/h3>\n\n<p>Rydym wedi parhau i ddarparu llwybr cyfathrebu hanfodol rhwng cartrefi gofal a\u2019r Awdurdod Lleol, y Bwrdd Iechyd ac asiantaethau eraill. Gyda\u2019r pwysau sy\u2019n gysylltiedig \u00e2 Covid yn parhau ar gartrefi gofal yn ystod 2021-22, rydym wedi eu cefnogi\u2019n rheolaidd ac rydym wedi meithrin diwylliant rhannu gwybodaeth. Rydym yn gobeithio y gallwn ni ddatblygu mwy ar y gefnogaeth honno yn 2022 drwy ei hymestyn i fathau eraill o ddarparwyr.<\/p>\n\n<h4 class=\"has-pale-cyan-blue-color has-text-color wp-block-heading\"><strong>Sicrhau ansawdd ein gwasanaethau a gomisiynwyd<\/strong><\/h4>\n\n<p>Mae\u2019r Fframwaith Sicrwydd Ansawdd Rhanbarthol newydd ar gyfer Gwasanaethau a Gomisiynwyd wedi ei sefydlu gyda\u2019r nod o sicrhau rhagoriaeth gyda\u2019n gwasanaethau a gomisiynwyd ledled Gogledd Cymru.   Bydd yr holl randdeiliaid, yn cynnwys y chwech Awdurdod Lleol, yr Heddlu, AGC a BIPBC yn \u2018ymrwymo i gydweithio er mwyn sicrhau\u2019r canlyniadau gorau ar gyfer unigolion sy\u2019n derbyn gwasanaethau a gomisiynwyd\u2019. Mae egwyddorion allweddol yn sail i\u2019r Fframwaith Sicrwydd Ansawdd a fydd yn:<\/p>\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Sicrhau bod gwasanaethau darparwyr yn ddiogel, yn bersonol, yn effeithiol ac yn gwella\u2019n barhaus.<\/li><li>Sicrhau bod y systemau sicrhau ansawdd cywir ar waith fel bod y safonau gofal yn cael eu disgrifio a\u2019u dangos yn effeithiol.<\/li><li>Sicrhau bod canlyniadau ansawdd yn cael eu monitro a\u2019u hadolygu, a gweithredu os gwelir bod ansawdd y gwasanaeth wedi dirywio.<\/li><li>Sefydlu strwythur llywodraethu er mwyn monitro ansawdd a diogelwch yn cynnwys dadansoddi gofal wedi\u2019i bersonoli, effeithiolrwydd a diogelwch. <\/li><li>Defnyddio adborth gan gleifion a\u2019u teuluoedd i ddarparu gwybodaeth ar gyfer y rhaglen ansawdd, ynghyd \u00e2 chwynion a phryderon. <\/li><li>Cefnogi\u2019r Sector drwy sicrhau bod modd cael mynediad prydlon at gefnogaeth i dimau amlddisgyblaethol clinigol a sefydliadol.<\/li><li>Cefnogi darparwyr i fod yn arloesol a darparu arferion ar sail tystiolaeth i wella\u2019n barhaus. <\/li><li>Sicrhau ein bod yn rhoi unigolion wrth wraidd gwaith cynllunio a darparu gofal.  <\/li><li>Sicrhau dulliau cyfathrebu ac ymgysylltu effeithiol drwy ystod eang o gyfryngau hygyrch, yn ddigidol, ar y cyfryngau cymdeithasol, mewn telegynadledda a digwyddiadau.  <\/li><\/ul>\n<h4 class=\"has-pale-cyan-blue-color has-text-color wp-block-heading\"><strong>Gweithio mewn partneriaeth er mwyn comisiynu gwasanaethau i bobl h\u0177n<\/strong><\/h4>\n\n<p>Mae\u2019r prosiect rydym yn ymgymryd ag ef i adolygu a moderneiddio\u2019r broses gomisiynu ynghylch gwasanaethau i bobl h\u0177n yn ddull amlddisgyblaethol. Bydd ei lwyddiant yn dibynnu ar gyfraniadau amryw o dimau mewnol ac allanol. Mae\u2019r heriau sy\u2019n wynebu\u2019r sector gofal cartref wedi cael llawer o sylw dros y blynyddoedd, ac maen nhw wedi gwaethygu\u2019n sgil Covid-19. Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn ei gwneud yn ofynnol i ni fabwysiadu dull sy\u2019n canolbwyntio ar ganlyniadau ac unigolion wrth gomisiynu a darparu gofal. Ar hyn o bryd rydym yn dal i ganolbwyntio ar amser a thasgau, ac rydym yn ymwybodol y bydd angen newid y diwylliant ym mhob rhan o\u2019r sector er mwyn cael dull sy\u2019n canolbwyntio ar ganlyniadau.<\/p>\n\n<p>Mae ein darparwyr yn wynebu heriau o ran recriwtio a chadw staff ac mae hyn yn effeithio ar eu gallu i ddarparu\u2019r pecynnau gofal y mae angen i ni eu comisiynu ganddyn nhw. Gan fod disgwyl i nifer y bobl dros 65 oed gynyddu yng Nghonwy yn y dyfodol rhagweladwy, gallwn ddisgwyl y bydd mwy o alw am wasanaethau pobl h\u0177n hefyd, ynghyd \u00e2 nifer yr achosion cymhleth.<\/p>\n\n<p>Rydym yn awyddus i symleiddio\u2019r prosesau rydym yn eu defnyddio i filio unigolion am y gwasanaethau maen nhw\u2019n eu derbyn, a sut rydym yn gwneud trafodion ariannol gyda\u2019n darparwyr. Ein nod yw cyflwyno:<\/p>\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Pecynnau gofal mwy hyblyg sy\u2019n ystyried beth sy\u2019n bwysig i\u2019r unigolion a sut yr hoffen nhw gyflawni eu canlyniadau personol.<\/li><li>Sicrhau y gellir trefnu pecynnau gofal yn yr ardal leol.<\/li><li>Proses anfonebu symlach gyda\u2019n darparwyr. <\/li><li>Darparu gofal sy\u2019n canolbwyntio ar yr unigolyn yn gyson.<\/li><\/ul>\n<p>Bydd y cynlluniau newydd hyn yn cynnig mwy o sicrwydd i\u2019n darparwyr ac yn cefnogi amodau gwaith gwell ar gyfer recriwtio a chadw staff. Byddwn yn <em>cydweithio<\/em> gyda\u2019n darparwyr a gomisiynwyd fel partneriaid, gan sicrhau bod ein gwasanaethau\u2019n cael eu moderneiddio, a\u2019u bod yn effeithlon ac yn cynorthwyo unigolion diamddiffyn yng Nghonwy i aros yn eu cartrefi eu hunain cyn hired \u00e2 phosibl.<\/p>\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Rhaglen Trawsnewid Gwasanaethau Cymunedol<\/h3>\n\n<p>Sefydlwyd y Rhaglen Trawsnewid Gwasanaethau Cymunedol yn 2019 er mwyn parhau i ddatblygu\u2019r Timau Adnoddau Cymunedol a sefydlwyd. Cafodd y rhaglen ei hariannu drwy\u2019r Gronfa Gofal Integredig a grant Trawsnewid.<\/p>\n\n<p>Cam cyntaf y Rhaglen Trawsnewid oedd canfod a darparu tystiolaeth am y rhwystrau sefydliadol a systemig a oedd yn cyfyngu ar ragor o integreiddio rhwng y gwasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Drwy nifer o ffrydiau gwaith rhyng-gysylltiedig, bydd y rhaglen yn helpu i lunio cynllun ar gyfer datblygiad a chynaliadwyedd ardaloedd y Timau Adnoddau Cymunedol yn yr hirdymor a chyflawni\u2019r weledigaeth ar gyfer integreiddio a gofal yn seiliedig ar leoedd, fel yr amlinellir yng nghynllun Cymru Iachach.<\/p>\n\n<h4 class=\"has-pale-cyan-blue-color has-text-color wp-block-heading\">Beth rydym yn bwriadu ei wneud<\/h4>\n\n<p>Ceir chwech ffrwd waith sy\u2019n seiliedig ar them\u00e2u:<\/p>\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Deall y systemau Iechyd a Gofal Cymdeithasol cyfan i gael darlun deallus a chyflawn o\u2019r galw, y capasiti, y llif a\u2019r gost.<\/li><li>Datblygu strategaeth gweithlu sy\u2019n seiliedig ar gymhwysedd sydd wedi\u2019i dylunio i fodloni\u2019r uchelgais i gael modelau gofal di-dor. <\/li><li>Datblygu a darparu rhaglen ymgysylltu sy\u2019n caniat\u00e1u i ddinasyddion, gofalwyr a chymunedau rannu eu profiadau a chwarae rhan ragweithiol wrth lunio gwasanaethau yn y dyfodol. <\/li><li>Trwy ymgynghori ac archwilio achosion, dadansoddi effeithiolrwydd ein ffyrdd presennol o weithio, nodi arferion da a\u2019r elfennau ail-ddylunio sydd eu hangen i gefnogi modelau gofal di-dor newydd.<\/li><li>Sefydlu endid rheoli Iechyd a Gofal Cymdeithasol integredig a fydd yn creu\u2019r amodau er mwyn i adnoddau cymunedol Iechyd, Gofal Cymdeithasol, partneriaid yn y Trydydd Sector a\u2019r gymuned leol allu cydweithio i ddiwallu a chefnogi anghenion a gwella iechyd a lles (yn cynnwys trawsnewidiad a chyd-leoliad digidol). <\/li><li>Cytuno ar fodel gwasanaeth a fframwaith ar gyfer darpariaeth gofal integredig sy\u2019n canolbwyntio ar yr unigolyn, gan ystyried agweddau pwysig o\u2019u bywydau, eu hamcanion a beth sy\u2019n bwysig iddynt. <\/li><\/ul>\n<h4 class=\"has-pale-cyan-blue-color has-text-color wp-block-heading\"><strong>Beth oedd y prif lwyddiannau drwy roi\u2019r rhaglen ar waith?<\/strong><\/h4>\n\n<p>Mae\u2019r chwech ffrwd waith sy\u2019n seiliedig ar them\u00e2u yn tynnu at eu terfyn ac mae canfyddiadau nawr yn cael eu casglu er mwyn bwydo camau nesaf y cynllun newid gweddnewidiol. Dyma brif lwyddiannau\u2019r rhaglen:<\/p>\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Mewnwelediad i\u2019r systemau Iechyd a Gofal Cymdeithasol sy\u2019n rhoi darlun am gyfyngiadau, galw, capasiti, llif a chost y system.<\/li><li>Asesiad diwylliannol ac ymholiad gwerthfawrogol o bartneriaid a gwasanaethau uniongyrchol er mwyn gweld pa mor barod ydyn nhw i newid a faint o awydd sydd yna ar gyfer gweithio mewn partneriaeth.<\/li><li>Fframwaith atebolrwydd a thempled r\u00f4l ar gyfer Cydlynwyr Gofal, Gweinyddwyr a Gweithwyr Cefnogi Iechyd a Gofal Cymdeithasol Integredig.<\/li><li>Mewnwelediad i brofiadau dinasyddion, gofalwyr a chymunedau er mwyn sicrhau bod eu llais yn cael ei glywed a\u2019i fod yn dylanwadu ar y modd y caiff gwasanaethau eu llunio yn y dyfodol.<\/li><li>Dyfeisiwyd dull archwilio achosion amlasiantaethol i ddadansoddi effeithiolrwydd ein ffyrdd presennol o weithio, nodi arferion da a\u2019r elfennau ail-ddylunio sydd eu hangen i gefnogi modelau gofal di-dor newydd.<\/li><li>Mae tair ardal Iechyd a Gofal Cymdeithasol Integredig wedi\u2019u ffurfio gydag aelodau o\u2019r gwasanaeth Iechyd, yn cynnwys gofal sylfaenol, Gofal Cymdeithasol a\u2019r Trydydd Sector. Bydd y cyrff ardal leol hyn yn cynllunio ar gyfer arweinyddiaeth, llywodraethu, comisiynu a defnyddio adnoddau ar lefel leol.<\/li><li>Rhaglen datblygu arweinyddiaeth ar gyfer uwch arweinwyr yn canolbwyntio ar arwain newid, sgiliau ymarfer perthynol a chydweithredol.<\/li><li>Mae t\u00eem y rhaglen yn defnyddio Office 365 ac yn asesu sut y gall gefnogi gwaith t\u00eem integredig.<\/li><\/ul>\n<h4 class=\"has-pale-cyan-blue-color has-text-color wp-block-heading\"><strong>Parhau i gefnogi datblygiad Timau Adnoddau Cymunedol<\/strong><\/h4>\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Byddwn yn hwyluso gweithdai er mwyn cwblhau matrics aeddfedrwydd, a fydd yn llywio datblygiad cynlluniau gweithredu.<\/li><li>Ni fydd yn gyfrifol am gydlynu cyfarfodydd Gr\u0175p Ffocws y Timau Adnoddau Cymunedol.<\/li><li>Mae\u2019r holl Dimau Adnoddau Cymunedol nawr wedi eu cydleoli.<\/li><li>Bydd y T\u00eem Datblygu Cenedlaethol ar gyfer Cynhwysiant yn cynnig gweithdai ar gyfer staff Timau Adnoddau Cymunedol Conwy i bwyso a mesur ac ystyried sut mae\u2019r t\u00eem yn gweithio, profiad y ddwy flynedd ddiwethaf, a sut mae pethau wedi newid neu wella wrth symud ymlaen.<\/li><li>Cyflwynir system cylchdroi Therapyddion Galwedigaethol o\u2019r Bwrdd Iechyd i gefnogi datblygiad proffesiynol parhaus.<\/li><\/ul>\n<h4 class=\"has-pale-cyan-blue-color has-text-color wp-block-heading\"><strong>Beth oedd yr heriau?<\/strong><\/h4>\n\n<p>Mae\u2019r galw diderfyn ar y gwasanaethau i ymateb i\u2019r pandemig wedi parhau i gyfyngu ar gapasiti\u2019r gweithlu a\u2019r rheolwyr drwy gydol y rhaglen ac mae hyn wedi effeithio ar weithgareddau a drefnwyd ac i ba raddau y cynhelir gwaith ymgysylltu. Yn ogystal \u00e2 hyn, roedd sicrhau bod cytundebau llywodraethu gwybodaeth yn barod wedi golygu bod peth oedi wrth ddechrau rhai elfennau o\u2019r gwaith paru data. <\/p>\n\n<h4 class=\"has-pale-cyan-blue-color has-text-color wp-block-heading\"><strong>Beth nesaf?<\/strong><\/h4>\n\n<p>Mae canfyddiadau cam cyntaf y rhaglen yn cael eu casglu a byddan nhw\u2019n llywio\u2019r cynlluniau ar gyfer newid ac yn darparu adnoddau ar gyfer eu rhoi ar waith drwy ddefnyddio\u2019r Gronfa Integreiddio Ranbarthol newydd.<\/p>\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Adborth gan ein Timau Adnoddau Cymunedol<\/h3>\n\n<p>Mae ein T\u00eem Adnoddau Cymunedol yn ei gwneud yn bosibl i gydleoli cydweithwyr o\u2019r gwasanaethau Gofal Cymdeithasol, Iechyd a\u2019r Sector Gwirfoddol mewn pum swyddfa leol ledled y sir. Unwaith eto, fe ofynnwyd i aelodau\u2019r t\u00eem am eu barn ynghylch sut roedd y bartneriaeth yn gweithio, yn enwedig gan gofio bod cyfyngiadau Covid wedi atal llawer o bobl rhag gallu bod yn y swyddfa.<\/p>\n\n<p>Ymatebodd cyfanswm o 59 unigolyn i\u2019r arolwg, ac mae 78% ohonyn nhw\u2019n gweithio i\u2019r adran Gofal Cymdeithasol. Dywedodd 76% o\u2019r ymatebwyr eu bod yn hapus neu\u2019n gymharol hapus am weithio yn y T\u00eem Adnoddau Cymunedol, ac roedd y sylwadau ychwanegol yn awgrymu, er bod cyfyngiadau Covid yn eu lle, y gellir parhau i ffurfio perthnasoedd gwaith da ar draws y sefydliadau.<\/p>\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p>Hapus i gael mynediad at y t\u00eem a defnyddio\u2019r cysylltiadau a\u2019r wybodaeth sydd gan aelodau gwahanol a all fod yn benodol i fy r\u00f4l i. Hefyd cael mynediad at unigolion a thimau i ofyn am gyngor neu gymorth.<\/p><\/blockquote>\n\n<p>Serch hynny, i rai pobl, mae gweithio gartref oherwydd y pandemig wedi effeithio ar allu\u2019r T\u00eem Adnoddau Cymunedol i weithio fel t\u00eem cydlynol.<\/p>\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p>Oherwydd y pandemig presennol a gweithio gartref, mae wedi bod yn anodd gweithio o fewn ethos y T\u00eem Adnoddau Cymunedol yn gyfan gwbl.<\/p><\/blockquote>\n\n<p>Roedd 59% o ymatebwyr yn gadarnhaol am allu\u2019r T\u00eem Adnoddau Cymunedol i hwyluso a gwella\u2019u dysgu a\u2019u gwybodaeth eu hunain am broffesiynau\/gwasanaethau eraill, a dim ond 7% yn nodi nad oedd unrhyw fanteision o gwbl.<\/p>\n\n<p>Roedd 74% o\u2019r ymatebwyr yn cytuno bod cydweithio o fewn y T\u00eem Adnoddau Cymunedol wedi gwella\u2019r gwasanaeth i ddinasyddion, a llawer yn teimlo bod cydweithio\u2019n symleiddio\u2019r broses ac yn hybu mynediad at wasanaethau y gellid eu methu fel arall.<\/p>\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p>Rwyf wedi dod yn fwy ymwybodol o wasanaethau o fewn y T\u00eem Adnoddau Cymunedol ehangach, er enghraifft y Ganolfan i Deuluoedd a\u2019r Fferyllfa, a sut gallwn ni weithio gyda\u2019n gilydd mewn ffordd ataliol.<\/p><\/blockquote>\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p>Gan fod modd rhannu gwybodaeth ac arbenigedd rhwng y gweithwyr proffesiynol, gall dinasyddion ddysgu am, a chael mynediad at, gefnogaeth a darpariaeth gymunedol sy\u2019n ffafriol i les unigolion, ac mae pob un o\u2019r rhain yn effeithio [yn gadarnhaol] ar nifer y bobl sy\u2019n treulio cyfnod yn yr ysbyty a\u2019r angen i gael gofal ychwanegol. <\/p><\/blockquote>\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p>Mae\u2019n cyflymu atgyfeiriadau. Gellir cyfnewid gwybodaeth rhwng gwasanaethau\u2019n gyflymach a\u2019i rannu gyda dinasyddion a gall sicrhau llif gwell o ran gofal a gwasanaethau. Gall hyn fod yn ddefnyddiol iawn, yn enwedig os bydd iechyd a lles yn y fantol.<\/p><\/blockquote>\n\n<p>Pan ofynnwyd a yw\u2019r Timau Adnoddau Cymunedol yn cefnogi ei gilydd, cafwyd ymateb cymysg, a 39% yn cytuno bod hyn yn digwydd ar adegau. Roedd dau reswm am hyn, sef gorfod bod ar wah\u00e2n drwy weithio gartref, a\u2019r teimlad bod yna lai o gefnogaeth yn y maes cymorth i fusnesau, na\u2019r hyn a geir rhwng ymarferwyr. Yn sicr mae yna waith i\u2019w wneud yn y maes hwn pan fydd pobl yn mynychu\u2019r swyddfa\u2019n fwy rheolaidd, ond pan gafwyd sylwadau pellach gan ymatebwyr, roedd llawer ohonyn nhw\u2019n gadarnhaol.<\/p>\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p>Heb os nac oni bai, rhoddir llawer o gefnogaeth i\u2019n gilydd\/cefnogaeth ar y cyd.<\/p><\/blockquote>\n\n<p>Fe wnaethom ofyn i aelodau\u2019r t\u00eem sut roedden nhw\u2019n teimlo am weithio  yn y T\u00eem Adnoddau Cymunedol wrth edrych tua\u2019r dyfodol, a nododd 62% eu bod yn teimlo\u2019n gadarnhaol neu\u2019n gadarnhaol iawn amdano. Cydnabyddir bod angen gwneud gwelliannau o ran darpariaeth TG ar gyfer gweithio di-dor, ond teimlai llawer mai teitl swyddogol yn unig yw\u2019r T\u00eem Adnoddau Cymunedol ar gyfer dull gweithio sydd eisoes yn bodoli. Bydd gweithio yn y swyddfa, pan fydd hi\u2019n ddiogel gwneud hynny, yn creu mwy o gyfleoedd i  gydweithio a chynnal ymweliadau ar y cyd, yn ogystal \u00e2 chaniat\u00e1u\u2019r cyfathrebu arferol a geir mewn lleoliad a rennir.<\/p>\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p>Mae gweithio mewn T\u00eem Adnoddau Cymunedol yn rhan bwysig iawn o fy r\u00f4l. Bu gweithio ochr yn ochr \u00e2\u2019r T\u00eem Adnoddau Cymunedol yn hynod o bwysig ers dechrau gweithio gartref. Rwy\u2019n teimlo bod dulliau cyfathrebu da wedi parhau gyda\u2019r T\u00eem ac, yn ei dro, fod hynny wedi cynnig gwasanaeth da i\u2019r unigolion rwy\u2019n eu cefnogi. Rwy\u2019n hapus am weithio mewn T\u00eem Adnoddau Cymunedol yn y dyfodol a theimlaf ei fod yn rhan hanfodol o fy swydd.<\/p><\/blockquote>\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p>Nid yw\u2019r Timau Adnoddau Cymunedol wedi cyrraedd eu llawn botensial eto, ond maen nhw\u2019n sicr yn mynd i\u2019r cyfeiriad cywir!<\/p><\/blockquote>\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Datblygu ein timau Therapi Galwedigaethol<\/h3>\n\n<p>Fel y soniwyd eisoes, hoffem gefnogi datblygiad proffesiynol parhaus ein timau Therapyddion Galwedigaethol yn y Timau Adnoddau Cymunedol ac rydym wedi edrych yn agosach ar dri maes i\u2019w datblygu.<\/p>\n\n<h4 class=\"has-pale-cyan-blue-color has-text-color wp-block-heading\">Recriwtio a Chadw Therapyddion Galwedigaethol<\/h4>\n\n<p>Mae strategaethau recriwtio sefydliadol unigol wedi arwain at ddull cystadleuol i recriwtio Therapyddion Galwedigaethol ym mhob sefydliad yng Ngogledd Cymru. Mae angen cynllun datblygu gweithlu integredig mewn perthynas \u00e2 recriwtio a chadw Therapyddion Galwedigaethol newydd gymhwyso yn BIPBC, CBS Conwy a Chyngor Sir Ddinbych ac mae hyn nawr yn flaenoriaeth frys. <\/p>\n\n<p>Ar hyn o bryd, nid oes gan CBS Conwy na Chyngor Sir Ddinbych fynediad cyfartal at raddedigion Therapi Galwedigaethol sydd newydd gymhwyso o Brifysgol Glynd\u0175r. Bydd cael mynediad cyfartal at raddedigion Therapi Galwedigaethol newydd yn hanfodol wrth symud ymlaen er mwyn recriwtio i swyddi gwag yn y T\u00eem Adnoddau Cymunedol. Mae BIPBC wedi cynnig cynnwys lleoliad mewn Awdurdod Lleol fel rhan o system cylchdroi Therapyddion Galwedigaethol Band 5 BIPBC yn Nhimau Adnoddau Cymunedol Conwy a Sir Ddinbych. Bydd cynnwys lleoliad gofal cymdeithasol fel rhan o system cylchdroi Band 5 BIPBC yn rhoi cyfle i Therapyddion Galwedigaethol newydd gymhwyso ddatblygu eu gwybodaeth a\u2019u sgiliau mewn lleoliadau yn yr Awdurdod Lleol. Mae gwybod am leoliadau gofal cymdeithasol yn hanfodol er mwyn ymgeisio am swydd gydag Awdurdod Lleol. <\/p>\n\n<p><em>Gobeithir y bydd Cyngor Conwy a Chyngor Sir Ddinbych yn darparu adnoddau ariannol a goruchwyliol er mwyn sicrhau bod graddedigion newydd Therapi Galwedigaethol a gyflogir gan BIPBC yn magu profiad o weithio mewn lleoliadau yn yr Awdurdod Lleol.<\/em><\/p>\n\n<h4 class=\"has-pale-cyan-blue-color has-text-color wp-block-heading\">Hyfforddiant integredig ar gyfer Therapyddion Galwedigaethol BIPBC ac Awdurdodau Lleol<\/h4>\n\n<p>Ar hyn o bryd, mae pob sefydliad yn comisiynu darparwyr hyfforddiant i gwrdd \u00e2 gofynion proffesiynol y Therapyddion Galwedigaethol ym mhob sefydliad. Er hynny, mae sawl agwedd o arferion proffesiynol yn gorgyffwrdd rhwng y sefydliadau gwahanol, er enghraifft codi a symud yn gorfforol. Byddai cael cynllun hyfforddiant integredig wedi osgoi gwaith trosglwyddo diangen, gweithio seilo a byddai wedi hybu defnydd mwy effeithlon o adnoddau Therapi Galwedigaethol yn y Timau Adnoddau Cymunedol.<\/p>\n\n<p><em>Rydym yn gobeithio y bydd rheolwyr BIPBC, CBS Conwy a Chyngor Sir Ddinbych yn cytuno i ddatblygu cynllun hyfforddi integredig ar gyfer Therapyddion Galwedigaethol BIPBC ac Awdurdodau Lleol sy\u2019n gweithio yn y Timau Adnoddau Cymunedol.<\/em><\/p>\n\n<h4 class=\"has-pale-cyan-blue-color has-text-color wp-block-heading\">Meysydd sy\u2019n gorgyffwrdd rhwng y Bwrdd Iechyd a\u2019r Awdurdodau Lleol<\/h4>\n\n<p>Ceir cryn dipyn o orgyffwrdd rhwng y timau, er hyn, mae diwylliannau a phrosesau sefydliadol gwahanol wedi sicrhau na chafwyd llawer o drafodaeth rhwng ymarferwyr ynghylch pa waith a chyfrifoldebau y gellid eu rhannu. Er enghraifft, bydd person sydd angen adolygiad ar \u00f4l cael ei anfon adref o\u2019r ysbyty, neu ar \u00f4l gwaith addasu sylweddol, yn cael ei weld gan Therapydd Galwedigaethol BIPBC neu Therapydd Galwedigaethol Awdurdod Lleol ar sail cyfrifoldebau ariannu sefydliadol. Nid yw\u2019r meini prawf gweithredol hyn yn ystyried faint o adnoddau Therapi Galwedigaethol sydd ar gael ym mhob T\u00eem Adnoddau Cymunedol a chapasiti\u2019r adnoddau hynny i ymateb yn brydlon.<\/p>\n\n<p><em>Rydym yn gobeithio y bydd rheolwyr yn y Bwrdd Iechyd a\u2019r Awdurdodau Lleol yn cytuno i adolygu\u2019r dogfennau cymhwysedd proffesiynol cyfredol a datblygu fframwaith cymhwysedd proffesiynol integredig ar gyfer Therapyddion Galwedigaethol sy\u2019n gweithio yn y Timau Adnoddau Cymunedol.<\/em><\/p>\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Cyfleuster seibiant Bron y Nant<\/h3>\n\n<p>Rydym yn bwrw iddi gyda\u2019r gwaith i ddarparu\u2019r gwasanaethau newydd a fydd ar gael yng Nghanolfan Seibiant Bron y Nant ar gyfer Pobl Anabl a\u2019r Uned Adnoddau dydd ar gyfer Gofal Cymhleth yn 2022-23. Mae hwn yn ddarn o waith sylweddol, sy\u2019n cynnwys nifer o swyddogion o fewn y Gwasanaeth Anabledd, ein partneriaid yn y gwasanaeth Iechyd a thrwy\u2019r adran. Ar \u00f4l iddo agor, bydd yr adnodd yn cynnig llety pwrpasol gwell ar gyfer pobl sy\u2019n derbyn gwasanaethau seibiant yng Nghonwy. <\/p>\n\n<p>Fel rhan o\u2019r datblygiad, rydym yn bwriadu gweithio gyda menter gymdeithasol i agor caffi a siop ar y safle. Nid yn unig y bydd hyn yn cynnig cyfleoedd gwaith i bobl yn y gymuned leol, ond bydd hefyd yn rhoi profiad gwaith i bobl anabl. Bydd y gwasanaeth yn rhan o\u2019n strategaeth leol i wella mynediad at waith i bobl anabl.<\/p>\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru<\/h3>\n\n<p>Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid ychwanegol ar gyfer Awdurdodau Lleol er mwyn ysgafnhau\u2019r pwysau ariannol sy\u2019n deillio o\u2019r pandemig. O ran gofal cymdeithasol, roedd y Gronfa Galedi yn caniat\u00e1u ar gyfer costau ychwanegol cefnogaeth barhaus ar gyfer darpariaeth fewnol a darpariaeth a gomisiynwyd ar gyfer gofal cymdeithasol i oedolion ym maes gofal cartref, gofal preswyl a byw \u00e2 chymorth. Roedd hefyd yn ein galluogi i gefnogi darparwyr er mwyn mynd i\u2019r afael \u00e2\u2019r pwysau ar sefydlogrwydd y farchnad megis \u2018lleoedd heb eu llenwi\u2019 a chostau annisgwyl neu gostau brys ar draws y sector.  Yng Nghonwy rydym wedi hawlio \u00a34.3 miliwn ar gyfer y gwasanaethau cymdeithasol, a chafodd tua hanner ohono ei dalu i gartrefi gofal a darparwyr gofal cartref drwy godi\u2019r ffioedd gofal.<\/p>\n\n<p>Neilltuwyd y Gronfa Adfer ar ein cyfer er mwyn cynorthwyo\u2019r sector gofal cymdeithasol i gwrdd \u00e2\u2019r heriau parhaus sy\u2019n gysylltiedig \u00e2\u2019r pandemig, a neilltuwyd arian ar gyfer ymestyn y gronfa gefnogi i ofalwyr, ymdrin ag unigrwydd ymhlith pobl h\u0177n, buddsoddi yn lles y gweithlu gofal cymdeithasol, a gwasanaethau preswyl ar gyfer plant sydd \u00e2 phrofiad o ofal.  Roedd dyraniad Conwy yn \u00a32.4 miliwn, a gwariwyd \u00a3800,000 ohono ar leoliadau annibynnol i blant, \u00a3890,000 ar ddarparwyr gofal a \u00a3703,000 ar wasanaethau dydd, cludiant, TG, offer, Taliadau Uniongyrchol, hyfforddiant a mwy.<\/p>\n\n<h4 class=\"has-pale-cyan-blue-color has-text-color wp-block-heading\">Beth oedd yr heriau?<\/h4>\n\n<p>Cymerwyd llawer o amser i ddosbarthu arian y Gronfa Galedi a\u2019r Gronfa Adfer i\u2019r sector annibynnol, ac roedd ceisiadau\u2019n cael eu hannog a\u2019u derbyn gan ddarparwyr gofal a oedd wedi wynebu costau ychwanegol annisgwyl a oedd yn ymwneud yn uniongyrchol \u00e2 phandemig Covid.<\/p>\n\n<h4 class=\"has-pale-cyan-blue-color has-text-color wp-block-heading\">Beth nesaf?<\/h4>\n\n<p>Daw\u2019r cyllid i ben ar 31 Mawrth 2022 wrth i ni adael y cyfnod ymateb i Covid. Rydym yn talu ffioedd i\u2019r sector gofal, gan ystyried y cyfyngiadau ariannol ar yr Awdurdod Lleol, ochr yn ochr \u00e2 chostau cynyddol darparu gofal yn yr hinsawdd sydd ohoni.  Bydd yr holl ffioedd yn cynyddu o 1 Ebrill 2022 a byddan nhw\u2019n cynnwys y cyflog byw gwirioneddol a delir i staff. Ar yr un pryd, rydym yn cyfrannu at y drafodaeth genedlaethol a\u2019r papur gwyn ynghylch ailgydbwyso gofal a chymorth yng Nghymru.<\/p>\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"1024\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/Budget-B-1024x1024.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-3058\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/Budget-B-1024x1024.png 1024w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/Budget-B-300x300.png 300w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/Budget-B-150x150.png 150w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/Budget-B-768x768.png 768w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/Budget-B.png 1080w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae partneriaethau effeithiol ar waith i gomisiynu a darparu canlyniadau cynaliadwy, cwbl integredig, o ansawdd uchel, i bobl Cefnogi cartrefi preswyl Conwy drwy gydol y pandemig a thu hwnt Rydym wedi parhau i ddarparu llwybr cyfathrebu hanfodol rhwng cartrefi gofal a\u2019r Awdurdod Lleol, y Bwrdd Iechyd ac asiantaethau eraill. Gyda\u2019r pwysau sy\u2019n gysylltiedig \u00e2 Covid [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":5,"featured_media":0,"parent":2986,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"_seopress_titles_title":"","_seopress_titles_desc":"","_seopress_robots_index":"","_seopress_robots_follow":"","_seopress_robots_imageindex":"","_seopress_robots_snippet":"","_seopress_robots_primary_cat":"","_seopress_robots_breadcrumbs":"","_seopress_robots_freeze_modified_date":"","_seopress_robots_custom_modified_date":"","_seopress_robots_canonical":"","_seopress_social_fb_title":"","_seopress_social_fb_desc":"","_seopress_social_fb_img":"","_seopress_social_fb_img_attachment_id":0,"_seopress_social_fb_img_width":0,"_seopress_social_fb_img_height":0,"_seopress_social_twitter_title":"","_seopress_social_twitter_desc":"","_seopress_social_twitter_img":"","_seopress_social_twitter_img_attachment_id":0,"_seopress_social_twitter_img_width":0,"_seopress_social_twitter_img_height":0,"_seopress_redirections_value":"","_seopress_redirections_enabled":"","_seopress_redirections_enabled_regex":"","_seopress_redirections_logged_status":"","_seopress_redirections_param":"","_seopress_redirections_type":0,"_seopress_analysis_target_kw":"","_genesis_hide_title":false,"_genesis_hide_breadcrumbs":false,"_genesis_hide_singular_image":false,"_genesis_hide_footer_widgets":false,"_genesis_custom_body_class":"","_genesis_custom_post_class":"","_genesis_layout":"","footnotes":""},"class_list":{"0":"post-3215","1":"page","2":"type-page","3":"status-publish","5":"entry"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/3215","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/5"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=3215"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/3215\/revisions"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/2986"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=3215"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}