{"id":3205,"date":"2022-08-16T11:47:48","date_gmt":"2022-08-16T10:47:48","guid":{"rendered":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/adroddiad-2021-22\/safon-ansawdd-4\/"},"modified":"2023-08-14T17:09:01","modified_gmt":"2023-08-14T16:09:01","slug":"safon-ansawdd-4","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/adroddiad-2021-22\/safon-ansawdd-4\/","title":{"rendered":"Safon Ansawdd 4"},"content":{"rendered":"\n<h2 class=\"wp-block-heading\"><h2><strong>Mae cadernid o fewn ein cymunedau yn cael ei hybu ac mae pobl yn cael eu cefnogi i gyflawni eu potensial drwy annog a chefnogi pobl sydd angen gofal a chefnogaeth, gan gynnwys gofalwyr, i ddysgu, datblygu a chyfrannu at gymdeithas<\/strong><\/h2><\/h2>\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Darparu cefnogaeth ymarferol ac emosiynol i ofalwyr<\/h3>\n\n<p>Mae <a href=\"https:\/\/www.llyw.cymru\/strategaeth-ar-gyfer-gofalwyr-di-dal-0?_ga=2.54823650.890771161.1692018938-849457142.1687947431&amp;_gl=1*1d114l8*_ga*ODQ5NDU3MTQyLjE2ODc5NDc0MzE.*_ga_L1471V4N02*MTY5MjAyNjg1Mi45LjEuMTY5MjAyNzE0Ny4wLjAuMA..\">Strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer Gofalwyr Di-d\u00e2l<\/a> yn blaenoriaethu\u2019r angen i gefnogi bywyd ochr yn ochr \u00e2 gofalu, sy\u2019n cynnwys yr angen i roi cyfle i gymryd seibiant er mwyn cefnogi gwytnwch gofalwyr a\u2019u gallu i gynnal eu r\u00f4l gofalu. Yn dilyn cyfyngiadau Covid yn ystod 2020-21, nod y Grant Seibiant i Ofalwyr gan Lywodraeth Cymru ar gyfer 2021-22 yw blaenoriaethu cefnogaeth ar gyfer y galw cynyddol am ganolfannau dydd a gwasanaethau mwy traddodiadol i eistedd gyda phobl, a hefyd annog modelau mwy arloesol i ddarparu seibiannau byr.<\/p>\n\n<p>Fe wnaethom weithio gyda\u2019n sefydliadau gofal yn y trydydd sector fel y gallen nhw wella\u2019u cynigion i ofalwyr, i gwrdd ag amcanion y grant a phwysleisio\u2019r angen i fod yn hyblyg a chael eu harwain gan anghenion.<\/p>\n\n<p>Roedd hyn yn cynnwys cyllid ychwanegol ar gyfer gwasanaethau sefydledig eistedd gyda phobl a gwasanaethau seibiant i blant, i gefnogi darparu mwy o oriau. Yn ogystal \u00e2 hyn, ariannwyd nifer o brosiectau hyblyg ac arloesol. <\/p>\n\n<p>Mae Credu yn darparu cefnogaeth i ofalwyr ifanc, ac roedden nhw\u2019n gallu ymestyn y gefnogaeth seibiant roedden nhw\u2019n ei darparu mewn ffyrdd mwy hyblyg, yn dibynnu ar amgylchiadau\u2019r gofalwyr ifanc a\u2019r hyn roedden nhw\u2019n ei ffafrio. I rai, roedd hyn yn golygu mwy o gyfle i ymgysylltu \u00e2 seibiant i\u2019r teulu cyfan, cymryd rhan mewn gweithgareddau gyda\u2019i gilydd fel gr\u0175p a chreu cyfleoedd i dreulio amser gwerthfawr gyda\u2019i gilydd.  I bobl eraill, efallai fod hyn yn golygu cael cyllid i gael mynediad at weithgareddau unigol mae\u2019r gofalwyr ifanc yn deimlo fyddai\u2019n fuddiol i\u2019w lles personol.  <\/p>\n\n<figure class=\"wp-block-image size-full\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"866\" height=\"727\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/ComputerGaming-01.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-3034\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/ComputerGaming-01.png 866w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/ComputerGaming-01-300x252.png 300w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/ComputerGaming-01-768x645.png 768w\" sizes=\"auto, (max-width: 866px) 100vw, 866px\" \/><\/figure>\n\n<p>Mae Hafal yn darparu cefnogaeth i rai sy\u2019n gofalu am bobl gyda chyflyrau iechyd meddwl, ac yn darparu asesiadau gofalwyr a chefnogaeth unigol ar eu cyfer. Drwy gydol y pandemig, mae\u2019r angen i gynnig gwasanaeth cwnsela ar lefel isel er mwyn cynorthwyo i gefnogi gofalwyr gyda straen a phryderon personol wedi cynyddu, ac ariannwyd rhaglen chwech wythnos, ynghyd \u00e2 dyddiau a digwyddiadau lles, yn dibynnu ar anghenion y gofalwyr eu hunain. Llwyddwyd hefyd i wella cefnogaeth gan gymheiriaid drwy ddatblygu rhai o adnoddau Clic Gogledd Cymru ar y we.<\/p>\n\n<p>Mae gwasanaeth Cynnal Gofalwyr yn cefnogi tua 1000 o ofalwyr yng Nghonwy mewn amryw o ffyrdd, er enghraifft darparu gwybodaeth, cefnogaeth emosiynol, ymweliadau cartref, eiriolaeth lefel isel, cefnogaeth unigol a chefnogaeth gr\u0175p a chynllunio at argyfwng.<\/p>\n\n<p>Drwy\u2019r cyllid ychwanegol ar gyfer seibiannau i ofalwyr, cafodd eu cynnig ei wella er mwyn gallu cynnig seibiant sy\u2019n canolbwyntio ar yr unigolyn, a chanolbwyntio ar anghenion gofalwyr unigol. Gall hyn gynnwys mynediad ychwanegol at seibiannau traddodiadol fel gwasanaethau eistedd gyda phobl, tripiau dydd i\u2019r teulu, a gwyliau a phenwythnosau i ffwrdd. Gan sylweddoli y gall \u201cseibiant byr\u201d olygu pethau gwahanol i bobl wahanol, defnyddiwyd y cyllid yn hyblyg i brynu eitemau megis dodrefn i\u2019r awyr agored, dyfeisiau llechen, offer cadw\u2019n heini, ac aelodaeth i glybiau megis campfeydd, golff neu unrhyw fath arall o ymarfer corff mae gofalwyr yn ei deimlo sy\u2019n fuddiol i\u2019w lles.<\/p>\n\n<p>Hefyd fe lwyddodd canolfan dementia newydd Ymddiriedolaeth y Gofalwyr i ymestyn darpariaeth eu sesiynau gr\u0175p \u2018Hafan Ni\u2019 drwy gynnig 22 o sesiynau wythnosol ychwanegol (sesiynau 5 awr) bob wythnos rhwng mis Hydref a mis Mawrth. Gwasanaeth ataliol yw\u2019r rhyngweithio cymdeithasol rheolaidd hwn, a gall gynnig ysgogiad rheolaidd a all gynorthwyo i arafu dirywiad yn iechyd meddwl y sawl y gofelir amdano a gwella iechyd a lles y gofalwr. Gall y seibiannau rheolaidd hyn olygu\u2019r gwahaniaeth rhwng sicrhau bod gofalwr yn ymdopi gyda\u2019i r\u00f4l gofalu neu\u2019n taro pwynt argyfwng.<\/p>\n\n<h4 class=\"wp-block-heading has-pale-cyan-blue-color has-text-color\">Beth oedd yr heriau?<\/h4>\n\n<p>Roedd rhagofalon parhaus Covid yn amlwg yn bryder, gyda darparwyr yn asesu risg eu gweithgareddau\u2019n ofalus er mwyn lliniaru risg. Fel y gwelir yn aml gyda chyllid grant byrdymor, gall amseru fod yn broblem gan fod angen ystyried cwblhau canllawiau Llywodraeth Cymru, ymgysylltu \u00e2 darparwyr, caniat\u00e1u amser i Lywodraeth Cymru gymeradwyo cynlluniau, a darparwyr yn estyn allan at bobl er mwyn sicrhau bod cymaint \u00e2 phosibl yn manteisio ar y cynnig; rhaid i hyn i gyd ddigwydd o fewn terfynau\u2019r flwyddyn ariannol bresennol. <\/p>\n\n<h4 class=\"wp-block-heading has-pale-cyan-blue-color has-text-color\">Beth nesaf?<\/h4>\n\n<p>Bydd gwyliau byr i ofalwyr bob amser yn flaenoriaeth yn ein strategaeth gyffredinol i ofalwyr, gan eu bod yn effeithio\u2019n sylweddol ar wytnwch gofalwyr. Byddwn hefyd yn ystyried yr angen i symud tuag at gynigion gofal seibiant mwy hyblyg, wedi\u2019u personoli; byddai ymrwymiad cyllid parhaus ar gyfer gwyliau byr yn cynorthwyo i sicrhau y gellir diwallu\u2019r flaenoriaeth hanfodol hon i ofalwyr.<\/p>\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Canolfannau Teulu Conwy<\/h3>\n\n<p>Er gwaethaf yr uchafbwyntiau a\u2019r anawsterau yn ystod cyfyngiadau Covid, gwelwyd cyfleoedd newydd cyffrous eleni ar gyfer y Timau Cymorth i Deuluoedd a\u2019r Canolfannau Teulu ym mhump ardal Conwy.<\/p>\n\n<p>Yn ogystal \u00e2\u2019r grwpiau arferol o ddydd i ddydd, a chefnogaeth un-i-un wedi\u2019i theilwra rydym yn ei chynnig i deuluoedd, rydym wedi gallu datblygu gweithgareddau newydd wrth ymateb i anghenion lleol. Dyma rai enghreifftiau:<\/p>\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Rydym wedi dechrau gr\u0175p wythnosol newydd i rieni yn eu harddegau yn nwyrain Conwy. Mae hyn wedi rhoi hyder iddyn nhw am sut i edrych ar \u00f4l eu babanod, a\u2019u cynorthwyo i gwrdd \u00e2 phobl ifanc eraill sydd mewn sefyllfa debyg a gwneud ffrindiau gyda nhw.<\/li>\n\n\n\n<li>Rydym wedi cynnal sesiynau galw heibio ar y cyd gyda\u2019r Gwasanaeth Ieuenctid yn ardal y gogledd, sydd wedi ein cynorthwyo i ganfod pobl ifanc sydd mewn perygl o gael eu hecsbloetio. Rydym wedi cynnal sesiynau gwybodaeth i rieni yng nghanol y rhanbarth er mwyn eu cynorthwyo i gadw eu plant yn ddiogel.<\/li>\n\n\n\n<li>Rydym wedi llwyddo i ymgysylltu gyda gr\u0175p o rieni sy\u2019n anodd eu cyrraedd mewn cwrs rhianta ym Mae Cinmel drwy weithio mewn partneriaeth gyda\u2019r Gweithiwr Cyswllt Teulu yn yr ysgol. <\/li>\n\n\n\n<li>Rydym wedi creu gr\u0175p babanod newydd, ble gwelwyd cynnydd mawr yn nifer y babanod mewn ardal wledig iawn, drwy eu cynnwys mewn cwrs tylino babanod, sydd nawr yn canolbwyntio ar les a chefnogaeth gan gymheiriaid. <\/li>\n\n\n\n<li>Rydym wedi llunio perthynas gryfach gydag ysgolion yng nghanol y rhanbarth, ac yn aml yn cefnogi ysgolion i ymgysylltu \u00e2 theuluoedd, ac rydym wedi ailddechrau sesiynau galw heibio wyneb yn wyneb a thros y we mewn ysgolion. <\/li>\n\n\n\n<li>Rydym wedi ailsefydlu\u2019r sesiynau galw heibio dyddiol, gan symud o le i le o amgylch rhanbarth gorllewin Conwy, ac rydym wedi ychwanegu elfen <em>aros a chwarae<\/em> er mwyn cynorthwyo i ymgysylltu \u00e2 theuluoedd.<\/li>\n\n\n\n<li>Yn ystod yr Wythnos Diogelu, lansiwyd canolbwynt gwybodaeth newydd gennym ar gyfer teuluoedd a chymunedau er mwyn codi ymwybyddiaeth am atal Cam-drin Plant yn Rhywiol.<\/li>\n\n\n\n<li>Bu r\u00f4l y Gweithiwr Teulu Cynorthwyol yn allweddol er mwyn helpu\u2019r timau i ailymgysylltu \u00e2 theuluoedd mewn gweithgareddau gr\u0175p a chynyddu capasiti er mwyn darparu gweithgareddau estyn allan, a gwybodaeth, cyngor a chymorth. <\/li>\n\n\n\n<li>Mae bod yn barod ar gyfer yr ysgol yn thema newydd a ddaeth i\u2019r amlwg yn sgil y pandemig. Buom yn gweithio gyda phartneriaid yn BIPBC i lansio <a href=\"https:\/\/www.conwy.gov.uk\/cy\/Resident\/Social-Care-and-Wellbeing\/Children-and-families\/Conwy-Family-Centres\/Family-Life\/Early-Years-Child-Development.aspx\">adnoddau a chlipiau fideo newydd am ddatblygiad plant<\/a> i rieni a gofalwyr plant cyn-ysgol.<\/li>\n<\/ul>\n\n<p>Mae teuluoedd wedi dweud wrthym bod y gefnogaeth un-i-un maen nhw wedi ei chael drwy eu Gweithwyr Teulu wedi gwneud gwahaniaeth cadarnhaol iawn:<\/p>\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p>Teimlaf fod gen i nawr yr hyder i symud ymlaen gyda fy mywyd, diolch i\u2019r Ganolfan Deulu a\u2019m gweithiwr cefnogi.<\/p>\n<\/blockquote>\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p>Mae\u2019r gefnogaeth a gawsom wedi bod yn ardderchog. Mae hyn i gyd yn newydd iawn i ni, ac ni fyddem wedi gwybod ym mhle i ddechrau gyda\u2019r holl bethau sydd ar gael. Mae ein mab wedi dechrau mewn cylch chwarae hefyd, gyda chymorth gan ein gweithiwr, sydd wedi bod yn help mawr iddo.<\/p>\n<\/blockquote>\n\n<p>Gwelwyd bod r\u00f4l y Gweithiwr Teulu Anabledd newydd ym amhrisiadwy. Dyma fenter ar y cyd gyda\u2019r Gwasanaethau Anableddau, a daw o dan adain timau\u2019r Ganolfan i Deuluoedd. Cafodd y r\u00f4l ei gwerthuso gan ymchwilydd ym Mhrifysgol Bangor eleni, ac rydym yn bwriadu canfod cyllid er mwyn recriwtio ar gyfer y r\u00f4l hon ar gyfer pob un o\u2019r pump rhanbarth yng Nghonwy. Un enghraifft o gyfleoedd y gr\u0175p a chefnogaeth gan gymheiriaid yw gr\u0175p newydd \u2018Beth am roi sylw i\u2019r synhwyrau\u2019, sy\u2019n cynnig amgylchedd cyfeillgar a chyfforddus ar gyfer teuluoedd niwro-amrywiol.   <\/p>\n\n<p>Dywedodd un teulu a gafodd eu cyfweld ar gyfer y gwaith ymchwil: <\/p>\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p>Ti\u2019n teimlo fel taset ti\u2019n methu. Mae\u2019r r\u00f4l hon\u2026 Wna\u2019 i ddim dweud celwydd, fe hoffwn i pe bae wedi bod yno ddwy flynedd yn \u00f4l. Oherwydd pwy a \u0175yr beth fyddai\u2019r canlyniad erbyn hyn &#8211; efallai y byddai\u2019n wahanol iawn\u2026 Heb swnio\u2019n rhy ddramatig, fe ddaeth hi\u2019n agos iawn at fy achub i.<\/p>\n<\/blockquote>\n\n<h4 class=\"wp-block-heading has-pale-cyan-blue-color has-text-color\">Beth oedd yr heriau?<\/h4>\n\n<p>Roedd hi\u2019n her parhau i ymgysylltu \u00e2 theuluoedd drwy amryw o gyfyngiadau, ac roedd rhai\u2019n rhwystr ychwanegol i unigolion a oedd eisoes yn ddiamddiffyn.  Rydym wedi canfod datrysiadau creadigol er mwyn ymateb i hyn.<\/p>\n\n<h4 class=\"wp-block-heading has-pale-cyan-blue-color has-text-color\">Beth nesaf?<\/h4>\n\n<p>Rydym yn edrych ymlaen at allu cynnal mwy o weithgareddau gr\u0175p a gweithgareddau amlasiantaethol ym Mae Colwyn wrth i ni agor ein canolfan newydd i deuluoedd, sef Canolfan Ffordd Douglas, sy\u2019n ymgorffori egwyddorion gwyrdd megis gwresogi ffynhonnell aer a phaneli solar.<\/p>\n\n<p>Yn dilyn ymgynghoriad yn 2018, aethom ati i ddefnyddio cyfuniad o Gyfalaf Conwy, Cyllid Cyfalaf Dechrau&#8217;n Deg a\u2019r Gronfa Gofal Integredig er mwyn datblygu ysgol Fictorianaidd yng nghanol Bae Colwyn (Rhanbarth y Canol). Fe symudom i\u2019r adeilad yn ystod Chwefror a Mawrth 2022, ac rydym nawr yn elwa o\u2019r cyfleusterau hyn:<\/p>\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Toilet ac ystafell wlyb a chawod cwbl addas i bobl anabl, gyda theclyn codi<\/li>\n\n\n\n<li>Ystafell weithgareddau gyda theclyn codi<\/li>\n\n\n\n<li>Cr\u00e8che<\/li>\n\n\n\n<li>Ystafelloedd cyfarfod ac ymgynghori amlasiantaethol<\/li>\n\n\n\n<li>Cegin ar gyfer gwaith gr\u0175p a gweithgareddau arddull caffi<\/li>\n\n\n\n<li>Mannau gweithio amlasiantaethol<\/li>\n<\/ul>\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"768\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/Douglas-Rd-Visit-1-1024x768.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-3039\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/Douglas-Rd-Visit-1-1024x768.jpg 1024w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/Douglas-Rd-Visit-1-300x225.jpg 300w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/Douglas-Rd-Visit-1-768x576.jpg 768w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/Douglas-Rd-Visit-1-rotated.jpg 1138w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\">Daeth y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan AoS, i ymweld \u00e2\u2019r safle ym mis Mawrth 2022. Mae\u2019r llun yn dangos (o\u2019r chwith): Bradley Wignall a Glyn Parry, Ymgynghorwyr Eiddo a gomisiynwyd i reoli\u2019r prosiect adeiladu; Helen Lawson, Rheolwr Cefnogi Partneriaeth Gofal Plant Dechrau\u2019n Deg; Cyng. Cheryl Carlisle; Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan AoS; Anne Forsberg, Rheolwr T\u00eem Cymorth Canolog i Deuluoedd; a Jenny Williams, Cyfarwyddwr Strategol Gofal Cymdeithasol ac Addysg.<\/figcaption><\/figure>\n\n<p>Rydym yn ymgysylltu \u00e2 gwasanaethau sy\u2019n gallu cefnogi teuluoedd a defnyddio ein gofod newydd, ac eisoes mae\u2019r rhain wedi cynnwys: Gwasanaeth Ieuenctid; Llyfrgelloedd a Diwylliant; gwasanaeth Cam-drin Domestig a rhai sefydliadau yn y trydydd sector. <\/p>\n\n<figure class=\"wp-block-image size-full\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"750\" height=\"571\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/Douglas-Road-pic.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-3041\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/Douglas-Road-pic.jpg 750w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/Douglas-Road-pic-300x228.jpg 300w\" sizes=\"auto, (max-width: 750px) 100vw, 750px\" \/><\/figure>\n\n<p>Y flwyddyn nesaf fe welwn ni hefyd ddatblygiadau cyffrous newydd yn Eryl Wen, y Ganolfan i Deuluoedd yn Llandudno, sy\u2019n cael ei hadnewyddu ar hyn o bryd. Dechreuodd y gwaith yn Chwefror 2022, a disgwylir y bydd wedi ei gwblhau erbyn Gorffennaf 2022. Mae\u2019r gwaith yn cynnwys gwneud defnydd gwell o\u2019r gofod ar gyfer grwpiau a chyrsiau, defnyddio mwy o ardal yr ardd, ac ystafelloedd ychwanegol lle gall teuluoedd gwrdd gydag amryw o wasanaethau a gweithwyr teulu, a chyfleusterau parcio ychwanegol. <\/p>\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Cod Ymarfer Awtistiaeth<\/h3>\n\n<p>Mae awtistiaeth yn gyflwr gydol oes sy\u2019n cyflwyno ystod eang iawn o anghenion.  Ar gyfartaledd, mae 1 ym mhob 100 o bobl yn y DU yn cael diagnosis o Anhwylderau ar y Sbectrwm Awtistig. Mae 40% o bobl sydd ag anabledd dysgu gydag awtistiaeth hefyd. Yng Nghonwy, mae hynny\u2019n cynrychioli tua 1,250 o bobl.<\/p>\n\n<p>Yn y Cynllun Gweithredu Strategol cyntaf ar gyfer Awtistiaeth, a gyhoeddwyd am y tro cyntaf yn 2008, cr\u00ebwyd isadeiledd awdurdod lleol a gefnogwyd gan gyllid Llywodraeth Cymru.  Mae gan bob un o ardaloedd y 22 awdurdod lleol yng Nghymru gynllun gweithredu lleol ar gyfer awtistiaeth sy\u2019n cael ei ddatblygu, ei weithredu a\u2019i adolygu gan gr\u0175p rhanddeiliaid lleol.  Yn ogystal \u00e2 hyn, mae gan bob awdurdod lleol Swyddog Arweiniol Anhwylderau\u2019r Sbectrwm Awtistig.  Mae r\u00f4l y Swyddog yn ganolog er mwyn darparu gwasanaethau awtistiaeth ar lefel leol drwy ddod \u00e2 gweithwyr proffesiynol ynghyd i gydweithio yn ardaloedd yr awdurdodau lleol, yn ogystal \u00e2 darparu pwynt cyswllt lleol ar gyfer pobl awtistig a theuluoedd\/gofalwyr sy\u2019n chwilio am gefnogaeth.<\/p>\n\n<p>Swyddog Arweiniol Anhwylderau\u2019r Sbectrwm Awtistig yng Nghonwy ar hyn o bryd yw Rheolwr y Gwasanaeth Anableddau, sy\u2019n gyfrifol am wasanaethau plant ac oedolion.  <\/p>\n\n<p>Mae gan Swyddog Arweiniol Anhwylderau\u2019r Sbectrwm Awtistig ystod eang o rolau a chyfrifoldebau ac yn eu plith mae codi ymwybyddiaeth, gwella gwybodaeth, derbyn a deall awtistiaeth ymhlith y cyhoedd, ac ar draws y gwasanaethau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol.  Mae\u2019r r\u00f4l hefyd yn cynnwys: <\/p>\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Gweithio gydag adrannau hyfforddi awdurdodau lleol er mwyn nodi unrhyw anghenion hyfforddi staff.<\/li>\n\n\n\n<li>Sicrhau bod ymarferwyr sy\u2019n cynnal asesiadau o anghenion, ac yn asesu pa mor gymwys yw unigolyn awtistig i gael cefnogaeth gofal cymdeithasol, yn meddu ar ddigon o wybodaeth a sgiliau i ddeall effaith awtistiaeth.<\/li>\n\n\n\n<li>Cyfeirio oedolion ac unigolion awtistig at y gefnogaeth briodol. <\/li>\n<\/ul>\n\n<p>Yn ogystal \u00e2 r\u00f4l Swyddog Arweiniol Anhwylderau\u2019r Sbectrwm Awtistig, mae Conwy wedi datblygu Cod Ymarfer ynghylch darparu Gwasanaethau Awtistiaeth.  Mae\u2019r Cod Ymarfer yn amlinellu\u2019n eglur beth yw dyletswyddau a chyfrifoldebau\u2019r gwasanaeth Gofal Cymdeithasol o ran cefnogi unigolion sydd ag awtistiaeth a\u2019u teuluoedd.<\/p>\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Sesiynau Lles Cymunedol<\/h3>\n\n<p>Mae\u2019r t\u00eem Lles Cymunedol wedi darparu ystod eang o sesiynau wyneb yn wyneb a thros y we yn ystod y cyfnod adrodd. Roedd y ddarpariaeth dros y we\u2019n cynnwys sesiynau cadw\u2019n heini, gweithgareddau diwylliannol, megis celf a chrefft a sesiynau lles i gefnogi pobl gyda\u2019u hiechyd meddwl, a rhai sesiynau defnyddiol iawn i rannu gwybodaeth. Rhwng Ebrill 2021 ac Ionawr 2022 fe gynigiodd y t\u00eem dros 20 o destunau gwahanol, yn cynnwys:<\/p>\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Dawnsio llinell a dawnsio Bollywood<\/li>\n\n\n\n<li>Canu<\/li>\n\n\n\n<li>Sesiwn hunanofal misol rheolaidd mewn partneriaeth \u00e2 Chartrefi Conwy<\/li>\n\n\n\n<li>Ymarfer corff ac ioga eistedd<\/li>\n\n\n\n<li>Sesiynau paratoi ar gyfer y gaeaf, mewn partneriaeth \u00e2 Hawliau Lles a Groundwork Cymru. <\/li>\n\n\n\n<li>Cwrs Camu Allan yn Hyderus<\/li>\n\n\n\n<li>Sesiynau Tanwydd yw Bwyd<\/li>\n\n\n\n<li>Seryddiaeth<\/li>\n\n\n\n<li>Diogelwch ar y We, mewn partneriaeth \u00e2 Chymunedau Digidol Cymru<\/li>\n<\/ul>\n\n<p>Pan oedd canllawiau Llywodraeth Cymru yn ei gwneud yn bosib i\u2019r t\u00eem ddarparu sesiynau wyneb yn wyneb, fe wnaethom drefnu sawl dro ym mhob rhan o\u2019r sir mewn ardaloedd fel Llanrwst, Llandudno, Bae Cinmel, Llanfairfechan a Bae Colwyn. Yn ogystal \u00e2 hyn, sefydlwyd rhaglenni ymarfer corff, yn cynnwys Qigong, Zumba Aur a Thai Chi wrth Eistedd. &#13;\nRhwng Ebrill a Ionawr fe wnaethom gyflwyno 111 o sesiynau ac fe\u2019u mynychwyd gan 800 o unigolion. Rydym wedi cynnwys rhai astudiaethau achos yn yr adroddiad hwn er mwyn dangos cymaint o effaith mae\u2019r rhain wedi eu cael.\t &#13;\n<\/p>\n\n<h4 class=\"wp-block-heading has-pale-cyan-blue-color has-text-color\">Beth oedd yr heriau?<\/h4>\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Nid oedd pob unigolyn oedd \u00e2 mynediad at ddyfeisiau digidol yn ddigon hyderus i\u2019w defnyddio er mwyn cael mynediad at ein sesiynau ar-lein. Fe wnaethom ymateb drwy greu gwasanaeth cefnogaeth ddigidol dros y ff\u00f4n er mwyn cynorthwyo unrhyw un a oedd yn cael trafferthion.<\/li>\n\n\n\n<li>Drwy ymateb i newidiadau yng nghanllawiau\u2019r llywodraeth, ar brydiau bu\u2019n rhaid canslo rhai sesiynau wyneb yn wyneb, a bu\u2019n rhaid i\u2019r t\u00eem ymateb yn gyflym i gynyddu\u2019r ddarpariaeth ar-lein er mwyn sicrhau bod amrywiaeth dda o sesiynau lles yn dal i fod ar gael.<\/li>\n\n\n\n<li>Roedd hi\u2019n cymryd mwy o amser i gynllunio sesiynau wyneb yn wyneb gan fod angen i\u2019r t\u00eem sicrhau bod pob protocol yn ei le, ac asesu risg yr holl weithgareddau a drefnwyd er mwyn sicrhau diogelwch pawb a oedd yn eu mynychu.<\/li>\n\n\n\n<li>Er mwyn cydymffurfio \u00e2 chanllawiau cadw pellter cymdeithasol, hysbysebwyd bod angen cadw lle ar bob sesiwn wyneb yn wyneb, a gosodwyd cyfyngiad ar nifer y bobl a allai fynychu. Lle bo hynny\u2019n bosibl, trefnwyd sesiynau ychwanegol ar gyfer y rhai oedd wedi derbyn mwy o geisiadau na nifer y lleoedd a oedd ar gael, er mwyn rhoi cyfle i gymaint o bobl \u00e2 phosibl.  <\/li>\n<\/ul>\n\n<h4 class=\"wp-block-heading has-pale-cyan-blue-color has-text-color\">Beth nesaf?<\/h4>\n\n<p>Mae sesiynau ar-lein newydd wedi eu cynllunio ar gyfer gweddill y cyfnod adrodd, yn cynnwys Aliniad Ystum y Corff, Strictly Fitsteps, Pilates a Chanu ar gyfer Iechyd yr Ysgyfaint.<\/p>\n\n<p>Bydd sesiynau wyneb yn wyneb newydd yn cynnwys teithiau cerdded hanesyddol yng Nghonwy, Deganwy, Bae Colwyn a Llandrillo yn Rhos. Byddwn yn cynnal sesiynau hel atgofion ar gyfer pobl sy\u2019n byw gyda dementia a\u2019u gofalwyr. Byddwn yn <em>Canu am Hwyl<\/em> yn Llanrwst, <em>Cael Sgwrs<\/em> yn Llandrillo yn Rhos, mwynhau taith gerdded i\u2019r t\u00eem o Drefriw i Lanrwst a Thaith Gerdded Bioamrywiaeth yn Llandudno. I ddathlu Dydd G\u0175yl Dewi, aethom ati i wneud doliau allan o begiau yn Amgueddfa Llandudno.<\/p>\n\n<figure class=\"wp-block-image size-full\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"404\" height=\"265\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/Peg-Doll-English.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-3043\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/Peg-Doll-English.png 404w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/Peg-Doll-English-300x197.png 300w\" sizes=\"auto, (max-width: 404px) 100vw, 404px\" \/><\/figure>\n\n<h4 class=\"wp-block-heading has-pale-cyan-blue-color has-text-color\">Astudiaeth Achos:  Tai Chi yn y Parc<\/h4>\n\n<p><em>Fe welodd gwraig yn ei 70au hysbyseb ar Facebook am ein sesiynau yn rhad ac am ddim ym Mharc Pentre Mawr a meddyliodd y byddai\u2019n ei helpu gyda\u2019i symudedd cyfyngedig ar \u00f4l iddi gael llawdriniaeth i osod clun newydd. Roedd hi hefyd yn dioddef amryw o broblemau anadlu a bu\u2019n cysgodi yn ystod pandemig Covid-19. Fe wnaeth un o\u2019n Swyddogion Lles Cymunedol gadw mewn cysylltiad gyda\u2019r wraig drwy gydol y cwrs er mwyn gweld sut oedd hi\u2019n dod yn ei blaen ac i rannu gwybodaeth am unrhyw grwpiau a chyrsiau perthnasol eraill.<\/em><\/p>\n\n<p><em>Gall osteoarthritis a phroblemau anadlu wanhau person yn arw, ond gellir helpu hyn drwy symud a chael pwrpas. Mae\u2019r dosbarth Qigong yn cynnig y ddau, ynghyd \u00e2 thechnegau anadlu dan reolaeth. Mae\u2019r sesiynau hefyd wedi ei helpu i ehangu ei chylch cymdeithasol, ac mae hi wedi cofrestru ar gyfer y cwrs Tai Chi dan do nesaf a fydd yn para chwech wythnos. Mae\u2019r wraig wedi rhoi ychydig o adborth i ni am ei phrofiad a manteision ymuno \u00e2\u2019r dosbarth:<\/em><\/p>\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p>Fe wnes i ei fwynhau\u2019n fawr, roedd yn hollol wych ac wirioneddol wedi fy helpu i ymlacio! Fe wnes i elwa ohono\u2019n feddyliol ac yn gorfforol, ond hefyd yn gymdeithasol. Rwyf wedi gwneud ffrindiau newydd. O\u2019r gr\u0175p gwreiddiol yn y parc, rydym wedi cyfarfod am goffi, rydym wedi siarad gyda phobl eraill a fyddai hefyd yn awyddus i gwrdd am goffi. Roeddwn i\u2019n teimlo\u2019n llawn egni ac yn bositif ar \u00f4l pob sesiwn. Rwy\u2019n teimlo o ddifri y dylai mwy o bobl sydd mewn poen neu\u2019n teimlo\u2019n unig estyn allan ac ymuno \u00e2 gr\u0175p fel hwn, bydden nhw\u2019n elwa cymaint ohono. Diolch!<\/p>\n<\/blockquote>\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p>Roedd hi mor hyfryd cwrdd \u00e2 phobl newydd ac rydw i wedi dysgu llawer iawn. Rwy\u2019n gobeithio y gallwn ni gael mwy o sesiynau fel hyn. Fe wnaeth gymaint o wahaniaeth i fy mywyd i.<\/p>\n<\/blockquote>\n\n<h4 class=\"wp-block-heading has-pale-cyan-blue-color has-text-color\">Astudiaeth Achos:  Sesiynau Zoom<\/h4>\n\n<p><em>echyd, yn cynnwys gorbryder ac iselder. Mae gan ei g\u0175r hefyd broblemau iechyd, ac yn ddiweddar cafodd perthynas agos iddynt ddiagnosis dementia; mae\u2019r ddau\u2019n poeni\u2019n arw ac yn teimlo\u2019n bryderus.<\/em><\/p>\n\n<p><em>Gan fod llai o weithgareddau a grwpiau\u2019n cael eu cynnal yn y gymuned oherwydd Covid-19, fe waethygodd ei hiechyd meddwl a\u2019i phroblemau gorbryder ac ni chafwyd cymaint o gyfleoedd i ryngweithio\u2019n gymdeithasol. <\/em><\/p>\n\n<p><em>Fe wnaeth un o\u2019n Swyddogion Lles Cymunedol roi gwybod i\u2019r wraig am sesiynau addas pan oedden nhw ar gael. O ganlyniad, fe gofrestrodd hi ar gyfer nifer o weithgareddau ar-lein. Fe gafodd hi hefyd gymorth digidol er mwyn bod yn fwy hyderus wrth ddefnyddio Zoom.<\/em><\/p>\n\n<p><em>Fe roddodd y sesiynau rheolaidd rywbeth cadarnhaol i\u2019r wraig ganolbwyntio arno ac roedd hi\u2019n llai pryderus. Fe wyddai y byddai\u2019r sesiynau\u2019n cael eu cynnal, waeth beth fo\u2019r tywydd, ac roedd hyn yn rhoi rhywbeth cadarnhaol iddi edrych ymlaen ato heb boeni y byddai\u2019n cael ei ganslo. Fe dyfodd ei chylch cymdeithasol wrth iddi gyfarfod pobl newydd yn y gr\u0175p a chadwodd mewn cysylltiad gyda rhai ohonyn nhw ar \u00f4l i\u2019r cwrs orffen. Gydag anogaeth gan un o\u2019i ffrindiau newydd, fe ailgydiodd hi yn ei gwn\u00efo ac fe ddechreuodd hi hefyd beintio blodau, ac mae hyn yn ei helpu i ymlacio.<\/em><\/p>\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Gweithgareddau Wythnos y Gofalwyr<\/h3>\n\n<p>Fel rhan o Wythnos Genedlaethol y Gofalwyr, fe drefnodd y T\u00eem Lles Cymunedol a th\u00eem y Gofalwyr ddau sesiwn ar gyfer gofalwyr, taith gerdded wyneb yn wyneb ar hyd y promen\u00e2d yn Llandudno a sesiwn hunanofal dros Zoom.<\/p>\n\n<p>Derbyniwyd adborth cadarnhaol am y ddau sesiwn, a dywedodd un ferch a ymunodd \u00e2 ni ar y daith gerdded:<\/p>\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p>Roedd hi mor braf gallu cerdded gyda phobl eraill, yn enwedig pobl a oedd yn gofalu am eu hanwyliaid fel fi\u2026roedd gennym ni lawer o bethau\u2019n gyffredin y gallen ni eu trafod.<\/p>\n<\/blockquote>\n\n<p>Dywedodd un wraig arall ei bod wedi mwynhau gallu gwneud rhywbeth gyda\u2019i mam yng nghwmni pobl eraill, ac ar y diwedd fe arhosodd i sgwrsio a chael coffi gydag un o\u2019r merched eraill, a oedd yn braf i\u2019w weld. <\/p>\n\n<p>Dros y chwe mis diwethaf, mae dros 40 o ofalwyr wedi mynychu amryw o sesiynau ar-lein a rhai wyneb yn wyneb a drefnwyd gan y T\u00eem Lles Cymunedol.<\/p>\n\n<h4 class=\"wp-block-heading has-pale-cyan-blue-color has-text-color\">Beth yw&#8217;r heriau?<\/h4>\n\n<p>Unwaith eto, nid oedd pob unigolyn oedd \u00e2 mynediad at ddyfais ddigidol yn ddigon hyderus i\u2019w defnyddio er mwyn mynychu\u2019r sesiwn ar-lein; fe gynigiodd y T\u00eem Lles Cymunedol gefnogaeth dros y ff\u00f4n er mwyn galluogi gofalwyr i gymryd rhan.<\/p>\n\n<h4 class=\"wp-block-heading has-pale-cyan-blue-color has-text-color\">Beth nesaf?<\/h4>\n\n<p>Mae\u2019r T\u00eem Lles Cymunedol yn parhau i gefnogi gofalwyr gyda\u2019u rhaglen weithgareddau barhaus, ar-lein ac wyneb yn wyneb.<\/p>\n\n<p>Dyma rai o\u2019r sesiynau newydd sy\u2019n cael eu trefnu gan y t\u00eem ar gyfer gofalwyr ar hyn o bryd:<\/p>\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Dod \u00e2\u2019r Bws Dementia Rhithiol yn \u00f4l i Gonwy ar 2 Awst 2022.<\/li>\n\n\n\n<li>Sesiynau Mynd yn \u00f4l Allan i Fwynhau ar gyfer gofalwyr pobl sy\u2019n byw gyda dementia.<\/li>\n\n\n\n<li>Sesiwn Gwneud Cyffiau Gwingo ar gyfer gofalwyr a phobl sy\u2019n byw gyda dementia, mewn partneriaeth ag Amgueddfa Llandudno<\/li>\n<\/ul>\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Gweithgareddau Haf o Hwyl a Gaeaf Llawn Lles<\/h3>\n\n<p>Cynhaliwyd prosiect Haf o Hwyl rhwng 1 Gorffennaf a 30 Medi 2021 a darparwyd amrywiaeth o weithgareddau hamdden, chwaraeon a diwylliannol yn rhad ac am ddim i blant a phobl ifanc 0-25 oed er mwyn cefnogi eu lles cymdeithasol, emosiynol, corfforol a meddyliol. <\/p>\n\n<p>Roedd tri phrif nod i\u2019r digwyddiad:<\/p>\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Cynorthwyo plant a phobl ifanc i gael hwyl a rhoi cyfle iddynt fynegi eu hunain trwy chwarae.<\/li>\n\n\n\n<li>Mentrau rhyngweithiol, creadigol a chymunedol sy\u2019n seiliedig ar chwarae i bob oedran.<\/li>\n\n\n\n<li>Rhoi cyfle i blant a phobl ifanc chwarae gyda\u2019u ffrindiau a\u2019u cyfoedion.<\/li>\n<\/ul>\n\n<p>Yng Nghonwy, cynigiwyd 29 o brosiectau drwy amryw o sefydliadau trydydd sector, darparwyr preifat a thrwy amryw o wasanaethau\u2019r Cyngor, yn cynnwys Gofal Cymdeithasol, Addysg, Llyfrgelloedd, Hamdden a Gwasanaethau Ieuenctid.<\/p>\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"610\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/ZorbFootball-1024x610.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-3045\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/ZorbFootball-1024x610.png 1024w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/ZorbFootball-300x179.png 300w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/ZorbFootball-768x458.png 768w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/ZorbFootball-1536x916.png 1536w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/ZorbFootball.png 1669w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n<p>Cynigiwyd ystod eang o weithgareddau, yn cynnwys sesiynau antur yn yr awyr agored, gweithgareddau ffitrwydd dan do, sesiynau chwarae i blant 3-11 oed, gweithgareddau ar gyfer plant maeth, sesiynau gweithgareddau i\u2019r teulu ar gyfer plant ag anableddau dysgu, golff a gweithgareddau chwaraeon eraill mewn lleoliadau gwledig. Cynigiwyd sesiynau chwaraeon gydag offer wedi\u2019u llenwi ag aer, coginio yn yr awyr agored, tenis, celf a chrefft, sesiynau chwarae Lego, ioga, gweithgareddau yn y ganolfan sg\u00efo, cydbwyso cerrig, celf ar y llawr, gweithdai gwyddoniaeth a llawer iawn mwy.<\/p>\n\n<p>Cofnodwyd bod cyfanswm o 1,959 o bobl wedi mynychu\u2019r holl sesiynau. Roedd yr adborth gan blant, pobl ifanc, rhieni ac aelodau staff yn gadarnhaol dros ben, ac yn amlygu\u2019r ffyrdd mae teuluoedd wedi elwa o\u2019r gweithgareddau hyn, yn enwedig yn dilyn cyfyngiadau Covid-19.<\/p>\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p>Diolch i chi am y cyfle i wneud haf o hwyl. Cafodd y plant a\u2019r rhieni fodd i fyw. Roedd hi\u2019n hyfryd gweld cyfeillgarwch yn tyfu drwy\u2019r gweithgareddau a bu teuluoedd yn rhoi cynnig ar weithgareddau gwahanol na fydden nhw erioed wedi meddwl a fyddai\u2019n bosibl.<\/p>\n<cite>Aelod staff o Cyswllt Conwy<\/cite><\/blockquote>\n\n<p>Cawsom sylwadau cadarnhaol iawn am yr amryw o weithgareddau celf a diwylliant ar gyfer teuluoedd:<\/p>\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p>Amser anhygoel!<\/p>\n\n\n\n<p>Fe wnaeth fy machgen bach fwynhau\u2019n ofnadwy, diolch.<\/p>\n\n\n\n<p>Roedd fy mhlant wrth eu boddau.<\/p>\n\n\n\n<p>Cwpwl o oriau hwyliog dros ben.<\/p>\n\n\n\n<p>Roedd fy mhlant wrth eu boddau, fe gawson nhw brynhawn gwych, diolch yn fawr.<\/p>\n<cite>Cyfranogwyr<\/cite><\/blockquote>\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\">\n<p>Roedd fy mhlant wrth eu boddau, fe gawson nhw brynhawn gwych, diolch yn fawr.<\/p>\n<cite>Beth oedd yr heriau?<\/cite><\/blockquote>\n\n<h4 class=\"wp-block-heading has-pale-cyan-blue-color has-text-color\">Beth oedd yr heriau?<\/h4>\n\n<p>Darparwyd cyllid ychwanegol i gynnal rhaglen debyg o weithgareddau dan yr enw \u2018Gaeaf Llawn Lles\u2019 o fis Hydref 2021 a thros gyfnod y gaeaf. Cwblhawyd canllawiau grant Llywodraeth Cymru ym mis Rhagfyr ac felly roedd hyn yn cyflwyno rhai heriau wrth gadarnhau agenda\u2019r rhaglen er mwyn sicrhau y byddai\u2019r holl weithgareddau o fewn meini prawf y grant.<\/p>\n\n<p>Er mwyn creu rhaglen o weithgareddau amrywiol ar gyfer grwpiau oedran a galluoedd amrywiol, roedd angen i ni weithio gyda nifer o bartneriaid er mwyn cyrraedd darparwyr posibl a allai gyfrannu at y rhaglen weithgareddau hon, a sicrhau amrywiaeth a dosbarthiad eang o gynigion ledled y sir.  <\/p>\n\n<p>Roedd marchnata yn un o\u2019r heriau eraill a gafodd y darparwyr, er mwyn rhoi cyhoeddusrwydd i\u2019w digwyddiadau i sicrhau bod cymaint o bobl \u00e2 phosibl yn manteisio arnyn nhw.<\/p>\n\n<h4 class=\"wp-block-heading has-pale-cyan-blue-color has-text-color\">Beth nesaf?<\/h4>\n\n<p>Mae gennym ni nawr gronfa ddata well o ddarparwyr i\u2019w defnyddio ar gyfer rhaglenni yn y dyfodol, ynghyd \u00e2 gwybodaeth werthfawr ynghylch pa weithgareddau a oedd yn boblogaidd iawn. Mae gennym ni hefyd adborth gan blant a\u2019u teuluoedd a fydd yn helpu i ddylanwadu ar benderfyniadau a wneir wrth greu rhaglenni gweithgareddau yn y dyfodol.<\/p>\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Gwasanaethau Dementia: Gweithwyr Cefnogi Dementia<\/h3>\n\n<p>Mae\u2019r Gronfa Gofal Canolraddol wedi rhoi cyfle i ni gynyddu nifer y staff y gallwn eu defnyddio ar gyfer gwasanaethau cefnogi dementia yng Nghonwy ac, i\u2019r perwyl hwnnw, rydym wedi penodi pump o weithwyr cefnogi dementia i gefnogi pob un o\u2019n pump T\u00eem Adnoddau Cymunedol.  <\/p>\n\n<p>Mae\u2019r unigolion hyn yn derbyn atgyfeiriadau gan unrhyw aelod o\u2019r T\u00eem Amlddisgyblaethol. Nid oes unrhyw feini prawf cymhwyso ffurfiol ar gyfer eu gwasanaethau ac mae ganddyn nhw lawer o ymreolaeth. Mae hyn yn gwneud y r\u00f4l yn eithaf unigryw o ran yr hyblygrwydd a geir wrth gefnogi unigolyn sy\u2019n byw gyda dementia a\u2019u gofalwyr anffurfiol. Nid yw\u2019r gefnogaeth a gynigir yn cael ei phennu yn \u00f4l amser na thasgau, ac nid yw wedi\u2019i chyfyngu o ran amser chwaith, yn hytrach, mae\u2019n canolbwyntio ar y canlyniadau a nodir. Mewn rhai teuluoedd, dyma\u2019r angor sy\u2019n cadw\u2019r ddysgl yn wastad.<\/p>\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"575\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/Craft-Table-1024x575.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-3047\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/Craft-Table-1024x575.png 1024w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/Craft-Table-300x169.png 300w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/Craft-Table-768x432.png 768w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/Craft-Table-1536x863.png 1536w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/Craft-Table.png 1920w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n<p>Mae gan y Gweithwyr Cefnogi Dementia wybodaeth dda am ba gymorth a gweithgareddau cymunedol sydd ar gael yn eu hardal leol, gan alluogi ac annog unigolion i barhau i fod yn rhan o\u2019u cymuned eu hunain, a chyflawni\u2019r hyn sy\u2019n bwysig iddyn nhw a byw\u2019n dda gyda\u2019u dementia. Mae ganddyn nhw hefyd gysylltiadau gyda sefydliadau eraill yn y gymuned leol megis y Gymdeithas Alzheimer\u2019s, Ymddiriedolaeth y Gofalwyr, Men\u2019s Sheds a digwyddiadau a gweithgareddau lles. Maen nhw hefyd yn gallu creu grwpiau cymunedol pan welir bwlch, er enghraifft gr\u0175p <em>Gwau a Gwn\u00efo<\/em> a sefydlwyd yn ein T\u00eem Adnoddau Cymunedol mewn ardal wledig.<\/p>\n\n<p>Nodwyd bod cefnogi unigolion a\u2019u gofalwyr anffurfiol i gael mynediad at hyfforddiant yn un o brif amcanion y r\u00f4l, a gwelwyd bod hyn yn bwysig iawn, yn enwedig gan fod gw\u0177r\/gwragedd yn gweld bod eu r\u00f4l yn newid i fod yn ofalwr mewn perthynas, yn aml yn ddiweddarach yn eu bywyd. Er enghraifft, rhoddwyd cefnogaeth i deuluoedd fanteisio ar y profiad dementia rhithiol ar y Bws Dementia teithiol. <\/p>\n\n<p>Maen nhw wedi rhoi cefnogaeth i unigolion yn ystod asesiadau ffurfiol, yn ystod y broses ddiogelu ac mewn apwyntiadau yn y clinig cof. Ar adegau, gwelwyd bod hyn yn allweddol er mwyn sicrhau canlyniadau cadarnhaol i bobl.<\/p>\n\n<p>Mae\u2019r r\u00f4l hefyd yn allweddol er mwyn cefnogi\u2019r gofalwyr yn ogystal \u00e2\u2019r unigolyn; cafodd eu cefnogaeth ei gwerthfawrogi a gwelwyd fod hyn yn llwyddiant gan fod y gweithiwr cefnogi wedi llwyddo i ffurfio perthynas llawn parch ac ymddiriedaeth gyda\u2019r unigolyn a\u2019i deulu ehangach.<\/p>\n\n<p>Drwy gefnogi gofalwyr i gydnabod y gwaith da maen nhw\u2019n ei wneud a gwella eu hyder, rydym yn gwneud gwahaniaeth i\u2019r ffordd maen nhw\u2019n teimlo am eu dyletswyddau gofal.<\/p>\n\n<p>Mae gan y Gweithiwr Dementia fynediad at dechnoleg sy\u2019n gallu cefnogi pobl i aros yn annibynnol yn eu cartrefi eu hunain.  Maen nhw\u2019n gallu benthyg offer megis iPad ac Alexa, gan roi amser i asesu\u2019r manteision i\u2019r unigolyn.<\/p>\n\n<h4 class=\"wp-block-heading has-pale-cyan-blue-color has-text-color\">Beth oedd yr heriau?<\/h4>\n\n<p>Gan mai cyllid dros dro a gafwyd yn wreiddiol, roedd hi\u2019n anodd recriwtio ar gyfer y swyddi ond mae bellach wedi newid i fod yn gyllid rheolaidd, felly rydym wedi llwyddo i\u2019w gwneud yn bump swydd barhaol.<\/p>\n\n<p>Gan fod cyfraniad y Gweithwyr Dementia bellach yn werthfawr iawn i unigolion, i\u2019w gofalwyr anffurfiol ac i\u2019r T\u00eem Adnoddau Cymunedol, nid ydyn nhw bob amser yn gallu rhoi\u2019r gorau i gynnig cefnogaeth, felly nid ydyn nhw\u2019n gallu derbyn atgyfeiriadau newydd.  Drwy gydweithio, defnyddio technoleg a gweithio gyda\u2019r trydydd sector a\u2019r gymuned i ganfod cefnogaeth amgen, rydym wedi llwyddo i ddatrys y broblem.<\/p>\n\n<p>Gall technoleg gynorthwyo unigolion i fyw\u2019n annibynnol ac yn dda gyda\u2019u dementia, er enghraifft GPS, dyfeisiau Alexa a chlociau digidol.  Yn anffodus nid oes gan lawer o unigolion fynediad at Wi-fi yn eu cartrefi er mwyn manteisio ar ddyfeisiau llechen ac ati a gall hyn fod yn rhwystr i gael mynediad at lawer o wasanaethau a allai ysgafnhau rhywfaint o\u2019r straen ar ofalwyr.<\/p>\n\n<h4 class=\"wp-block-heading has-pale-cyan-blue-color has-text-color\">Beth nesaf?<\/h4>\n\n<p>Er mwyn parhau i wella a datblygu\u2019r gwasanaeth, rydym yn gofyn i unigolion a\u2019u gofalwyr lenwi ffurflenni monitro ansawdd fel y gallwn ni eu defnyddio i ddysgu a gwella.<\/p>\n\n<p>Mae adborth a geir gan aelodau\u2019r T\u00eem Adnoddau Cymunedol yn awgrymu bod y Gweithwyr Dementia bellach yn aelodau allweddol o\u2019r t\u00eem, ac mae sicrhau eu bod yn hygyrch i bawb wedi gweithio\u2019n dda, yn enwedig y ffaith eu bod yn rheoli eu hunain heb unrhyw feini prawf cymhwysedd. <\/p>\n\n<p>Gan fod hyn yn syniad newydd ac yn swydd newydd yng Nghonwy rydym wedi gorfod dysgu wrth i bob her newydd ddod i\u2019r amlwg.<\/p>\n\n<h4 class=\"wp-block-heading has-pale-cyan-blue-color has-text-color\">Astudiaeth Achos<\/h4>\n\n<p><em>Mae ymwneud ag X a\u2019i g\u0175r yn rhoi trefn a chysondeb. Mae hyn yn ei helpu hi gan fod yn well ganddi pan fo pethau\u2019n cael eu gwneud mewn trefn a\u2019u bod yn ganolog i\u2019w gofal. Mae angen y gefnogaeth ar ei g\u0175r, sef ei phrif ofalwr, ac mae e\u2019n gwerthfawrogi fy ymweliadau. Mae e\u2019n gwerthfawrogi mod i yno i gefnogi a chyfeirio, gan fod bywyd yn anodd iddo\u2019n gyffredinol. Mae gan X amryw o anghenion meddygol cymhleth ac rydw i wedi ei chefnogi hi a\u2019i g\u0175r drwy drefnu apwyntiadau gyda nhw.<\/em><\/p>\n\n<p><em>Mae dementia X yn heriol iawn, ac yn ei gwneud yn ddibynnol ar ei g\u0175r. Gallaf gynnig cymorth a chefnogaeth emosiynol ac ymarferol i\u2019r ddau ohonyn nhw, ac mae hyn wedi helpu i atal y sefyllfa rhag mynd yn ormod i\u2019r gofalwr ac osgoi\u2019r angen i gael ymyraethau gofal cymdeithasol hyd yma.<\/em><\/p>\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Gwasanaethau Dementia: T\u00eem Cefnogi Dementia<\/h3>\n\n<p>Mae arian o\u2019r Gronfa Gofal Canolraddol hefyd wedi ein galluogi i brofi\u2019r syniad o gael ffordd fwy hyblyg i ddarparu gofal a chymorth yn y gymuned ar gyfer pobl sy\u2019n byw gyda dementia, a\u2019u gofalwyr.<\/p>\n\n<p>Mae\u2019r T\u00eem Cefnogi Dementia yn cynnwys wyth gweithiwr cefnogi sy\u2019n cynnig cefnogaeth estyn allan hyblyg, wedi\u2019i phersonoli gan ddefnyddio dull \u201ct\u00eem o amgylch yr unigolyn\u201d o\u2019r diagnosis cyntaf, sy\u2019n galluogi pobl i fyw\u2019n dda gyda dementia, yn eu cartrefi eu hunain.  Mae hyn yn cynnwys oedolion gyda dementia cynnar, a rhai gydag anableddau dysgu, a chaiff ei gynnig yn ddwyieithog, yn dibynnu ar ddewis y rhai sy\u2019n defnyddio\u2019r gwasanaeth, a\u2019r hyn maen nhw\u2019n ei ffafrio. Mae\u2019r t\u00eem yn cynnig elfen o gyfeirio cymunedol (cyfeirio pobl at wasanaethau eraill) a chefnogaeth eirioli ar gyfer pobl gyda dementia a\u2019u gofalwyr. Mae\u2019r t\u00eem hefyd yn fedrus a chymwys i gyflawni dyletswyddau gofal iechyd wedi\u2019u dirprwyo, e.e. cymryd samplau gwaed. Mae\u2019r t\u00eem yn gweithredu fel man cyswllt allweddol i deuluoedd er mwyn eu cynorthwyo gyda chymhlethdodau\u2019r system iechyd a gofal cymdeithasol.<\/p>\n\n<p>Rhaid bod yn hyblyg; bydd y gweithwyr yn ymateb i anghenion yn hytrach na darparu cymorth yn \u00f4l amserlenni gwaith. Maen nhw\u2019n cynnig cefnogaeth ychwanegol i\u2019r rhai lle bydd gofal cartref traddodiadol yn methu, a bod angen cefnogaeth mwy hyblyg i gynnal annibyniaeth.<\/p>\n\n<p>Mae\u2019r t\u00eem wedi galluogi pobl sy\u2019n byw gyda dementia i gadw eu hannibyniaeth ac aros gartref, ac osgoi gorfod anfon pobl i\u2019r ysbyty neu i ofal preswyl yn ddiangen, a gohirio\u2019r angen am wasanaethau o\u2019r fath. Maen nhw hefyd wedi lleihau\u2019r oedi pan fo angen anfon rhywun adref o\u2019r ysbyty. Yn y cyd-destun lleol, mae hyn yn golygu llai o achosion Oedi wrth Drosglwyddo Gofal o\u2019r ysbyty seiciatrig, a defnyddio llai o leoliadau y tu allan i&#8217;r dalgylch, ac felly amharu llai ar deuluoedd ac achosi llai o boen meddwl iddyn nhw, yn ogystal \u00e2\u2019r arbedion ariannol o ran costau lleoliadau. Credir y bydd y gefnogaeth fwy effeithiol hon ar gyfer y rhai sy\u2019n gofalu am bobl gyda dementia yn effeithio\u2019n gadarnhaol ar wytnwch gofalwyr a bydd yn lleihau achosion argyfyngus.<\/p>\n\n<h4 class=\"wp-block-heading has-pale-cyan-blue-color has-text-color\">Beth oedd yr heriau?<\/h4>\n\n<p>Unwaith eto, mae natur dros dro cyllid y Gronfa Gofal Integredig wedi ei gwneud yn anodd iawn recriwtio ar gyfer y t\u00eem ac nid ydym wedi gallu penodi ar gyfer pob swydd hyd heddiw.<\/p>\n\n<p>Mae\u2019r ddwy flynedd ddiwethaf wedi effeithio\u2019n fawr ar ein cynlluniau i dreialu gwasanaeth mwy hyblyg yn ein cartref preswyl ar gyfer yr Henoed \u00e2 Salwch Meddwl (Llys Elian) a\u2019i gysylltu gyda gwaith y t\u00eem hwn. Roeddem wedi gobeithio y gallai\u2019r t\u00eem ddefnyddio gwasanaethau seibiant Llys Elian dros nos ac yn ystod y dydd, wrth i anghenion pobl ddwys\u00e1u, ond oherwydd cyfyngiadau Covid ar draws y sector cartrefi gofal, nid ydym wedi gallu bwrw ymlaen gyda hyn o gwbl.  Heb ystyried hyn, mae\u2019r t\u00eem ei hun wedi cael effaith gadarnhaol ar fywydau rhai unigolion.<\/p>\n\n<h4 class=\"wp-block-heading has-pale-cyan-blue-color has-text-color\">Beth nesaf?<\/h4>\n\n<p>Cawsom wybod yn ddiweddar y byddwn yn derbyn y cyllid yn rheolaidd ac felly gobeithio y bydd hyn yn helpu i recriwtio staff ar gyfer y gwasanaeth. Wrth i gyfyngiadau Covid lacio, rydym hefyd yn rhagweld y gallwn ni fwrw ymlaen gyda\u2019r cynlluniau i gryfhau\u2019r cysylltiadau sydd gan y t\u00eem gyda\u2019r gwasanaethau sy\u2019n cael eu darparu yn Llys Elian ar hyn o bryd a fydd, yn ei dro, yn helpu i lywio model y ddarpariaeth gwasanaethau a gynigir yno yn y dyfodol.<\/p>\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Bwthyn y Dd\u00f4l<\/h3>\n\n<p>Fel rhan o\u2019r weledigaeth ranbarthol ar gyfer gwasanaethau lleol di-dor ac wrth ymateb i gynllun \u201cCymru Iachach\u201d, mae\u2019r T\u00eem Amlddisgyblaethol Peripatetig a\u2019r Ganolfan Asesu, sef Bwthyn y Dd\u00f4l, yn brosiect trawsnewid allweddol ar gyfer rhanbarth canol Gogledd Cymru, a gynhelir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Cyngor Sir Ddinbych a BIPBC.<\/p>\n\n<p>Mae\u2019r t\u00eem amlddisgyblaethol yn d\u00eem asesu ac ymyrryd therapiwtig amlbroffesiwn dros gyfnod byr (12 wythnos).  Ar ddiwedd y 12 wythnos ceir fformiwleiddio manwl ar gyfer y teulu a\u2019r asiantaethau cyfeirio. Mae\u2019r t\u00eem yn cydweithio gyda\u2019r teuluoedd i ddeall eu plentyn a chreu newid cadarnhaol yn y ffordd mae\u2019r teuluoedd yn gweithredu, gan anelu at:<\/p>\n\n<ul class=\"wp-block-list\">\n<li>Sicrhau bod y plentyn\/plant yn aros gartref yn ddiogel.<\/li>\n\n\n\n<li>Sicrhau bod y plentyn\/plant yn dychwelyd gartref neu i gartref aelod o\u2019r teulu\u2019n ddiogel.<\/li>\n\n\n\n<li>Cynorthwyo i lywio ac arwain cynllun amgen priodol ar gyfer y plentyn\/plant pan nad yw\u2019n briodol iddyn nhw ddychwelyd gartref.<\/li>\n<\/ul>\n\n<p>Gwneir hyn ochr yn ochr \u00e2 galluogi rhieni i drawsnewid eu sgiliau rhianta er mwyn diwallu anghenion eu plant.<\/p>\n\n<p>Mewn data rheoli a chyfweliadau gyda rhieni, awgrymwyd y gallai t\u00eem Bwthyn y Dd\u00f4l ymateb o fewn ychydig o ddyddiau ar \u00f4l derbyn atgyfeiriad. Roedd ymateb cyflym yn hollbwysig mewn sawl achos, gan fod gofal teulu bron iawn \u00e2 methu neu eisoes wedi methu.<\/p>\n\n<p>Yn y cyfnod rhwng Ebrill a Rhagfyr 2021, roedd y t\u00eem wedi cynnal 69 ymgynghoriad, 189 ymyrraeth ar sail tystiolaeth, a llwyddwyd i osgoi cyfanswm o 878 wythnos o ofal. <\/p>\n\n<h4 class=\"wp-block-heading has-pale-cyan-blue-color has-text-color\">Beth oedd yr heriau?<\/h4>\n\n<p>Mae pandemig Covid-19 wedi amharu ar y gwasanaeth gan fod yr asesiadau risg wedi atal ymgynghoriadau wyneb yn wyneb, ynghyd ag apwyntiadau\u2019n cael eu canslo gan fod angen i staff ac aelodau o\u2019r teulu hunanynysu.<\/p>\n\n<p>Mae\u2019r Ganolfan Asesu Breswyl i Blant sydd ar y gorwel (Bwthyn y Dd\u00f4l) yn rhan ganolog o fodel y T\u00eem Amlddisgyblaethol.   Gwelwyd oedi gyda\u2019r gwaith adeiladu a disgwylir iddo nawr fod ar agor yn haf 2023.  <\/p>\n\n<h4 class=\"wp-block-heading has-pale-cyan-blue-color has-text-color\">Beth nesaf?<\/h4>\n\n<p>Mae darpariaeth Canolfan Asesu Breswyl i Blant (Bwthyn y Dd\u00f4l) yn rhan ganolog o fodel y T\u00eem Amlddisgyblaethol ac rydym yn chwilio am Ganolfan dros dro er mwyn darparu Canolfan asesu dros dro, nes bydd y gwaith adeiladu wedi ei orffen.<\/p>\n\n<p>Mae\u2019r t\u00eem wedi rhoi cychwyn da arni. Mae\u2019r model gofal wedi ei ymgorffori gyda gwaith amlasiantaethol wrth ei wraidd a gwelir arwyddion addawol bod plant, pobl ifanc a theuluoedd yn dechrau gweld newidiadau cadarnhaol yn eu bywydau.  Bydd y T\u00eem Amlddisgyblaethol yn parhau i ddatblygu eu sgiliau a chyflwyno mesurau ymyrryd i garfanau o blant, pobl ifanc a\u2019u teuluoedd nad oedd darpariaeth dda ar eu cyfer yn system bresennol y gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.<\/p>\n\n<figure class=\"wp-block-image size-full\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"944\" height=\"616\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/Building-blocks.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-3051\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/Building-blocks.png 944w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/Building-blocks-300x196.png 300w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/Building-blocks-768x501.png 768w\" sizes=\"auto, (max-width: 944px) 100vw, 944px\" \/><\/figure>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae cadernid o fewn ein cymunedau yn cael ei hybu ac mae pobl yn cael eu cefnogi i gyflawni eu potensial drwy annog a chefnogi pobl sydd angen gofal a chefnogaeth, gan gynnwys gofalwyr, i ddysgu, datblygu a chyfrannu at gymdeithas Darparu cefnogaeth ymarferol ac emosiynol i ofalwyr Mae Strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer Gofalwyr [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":5,"featured_media":0,"parent":2986,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"_seopress_robots_primary_cat":"","_seopress_titles_title":"","_seopress_titles_desc":"","_seopress_robots_index":"","_genesis_hide_title":false,"_genesis_hide_breadcrumbs":false,"_genesis_hide_singular_image":false,"_genesis_hide_footer_widgets":false,"_genesis_custom_body_class":"","_genesis_custom_post_class":"","_genesis_layout":"","footnotes":""},"class_list":{"0":"post-3205","1":"page","2":"type-page","3":"status-publish","5":"entry"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/3205","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/5"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=3205"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/3205\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":3386,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/3205\/revisions\/3386"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/2986"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=3205"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}