{"id":3200,"date":"2022-08-16T11:04:30","date_gmt":"2022-08-16T10:04:30","guid":{"rendered":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/adroddiad-2021-22\/safon-ansawdd-3\/"},"modified":"2022-08-16T11:09:28","modified_gmt":"2022-08-16T10:09:28","slug":"safon-ansawdd-3","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/adroddiad-2021-22\/safon-ansawdd-3\/","title":{"rendered":"Safon Ansawdd 3"},"content":{"rendered":"\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Mae&#8217;r angen am ofal a chefnogaeth yn cael ei leihau a&#8217;r cynnydd o ran anghenion yn cael ei atal, tra&#8217;n sicrhau bod y canlyniadau gorau posibl yn cael eu sicrhau i bobl<\/h2>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Sut rydym yn prynu a darparu gwasanaethau ar gyfer pobl h\u0177n<\/h3>\n\n\n\n<p>Yn adroddiad y llynedd, fe soniom wrthych am Brosiect Trawsnewid Pobl H\u0177n, er mwyn gwella\u2019r ffordd mae gwasanaethau gofal cartref yn cael eu darparu yng Nghonwy.   Pwrpas hyn yw:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Sicrhau bod unigolion yn derbyn gwasanaeth hyblyg, modern, sy\u2019n canolbwyntio ar yr unigolyn<\/li><li>Sicrhau bod darpariaeth y gwasanaeth yn cyd-fynd \u00e2 newidiadau yn y ddeddfwriaeth a rheolau Gofal Cymdeithasol<\/li><li>Addasu i\u2019r heriau recriwtio a chadw staff sy\u2019n wynebu\u2019r farchnad gofal yn y cartref<\/li><li>Sicrhau bod gwasanaethau proffesiynol yn cydweithio mewn ffordd gyson a chydgysylltiedig<\/li><li>Diogelu\u2019r gwasanaeth at y dyfodol ar gyfer y cynnydd a ragwelir yn y galw<\/li><\/ul>\n\n\n\n<p>Ers y diweddariad diwethaf, cynhaliwyd nifer o weithgareddau ymgynghori er mwyn llywio\u2019r newidiadau sydd angen eu gwneud.  Roedden nhw\u2019n cynnwys y materion canlynol:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Rydym wedi edrych ar wersi a ddysgwyd o\u2019r modelau mae awdurdodau eraill wedi eu rhoi ar waith, a dysgu pa mor bwysig yw sicrhau bod newidiadau\u2019n cael eu cyflwyno\u2019n raddol.<\/li><li>Rydym wedi cynnal cynllun peilot i weithio mewn ffordd sy&#8217;n canolbwyntio ar ganlyniadau gyda 50 o unigolion sy\u2019n derbyn gofal cartref.<\/li><li>Fe ddysgom nad yw prosesau busnes Conwy yn darparu\u2019r hyblygrwydd sydd ei angen ar gyfer y ffordd newydd hon o weithio a pha mor bwysig yw cael dull cyson.<\/li><li>Rydym wedi ymgynghori gyda 450 o unigolion allan o 700 sy\u2019n derbyn gwasanaethau gofal cartref ar hyn o bryd drwy gynnal arolwg. Roedd 95.2% o\u2019r rhai a ymatebodd yn fodlon neu\u2019n fodlon iawn gyda\u2019r gofal maen nhw\u2019n ei dderbyn ar hyn o bryd.  O\u2019r rhai hynny sy\u2019n anfodlon, roedd nifer o\u2019r rhesymau\u2019n ymwneud ag amser a chysondeb, sydd wedi cael eu hymgorffori yn hyblygrwydd y model newydd, ac yn yr hyfforddiant.  <\/li><li>Fe wnaethom gynnal digwyddiad \u2018cwrdd \u00e2\u2019r prynwr\u2019 ar gyfer darparwyr er mwyn esbonio diben y newidiadau rydym yn eu gwneud.  Gofynnwyd am adborth am dri chynnig gwahanol, a chynhaliwyd cyfarfodydd un-i-un i ymgynghori ymhellach yn eu cylch.  <\/li><li>Rydym wedi ymgysylltu \u00e2 staff gweithredol, ymarferwyr, Timau Adnoddau Cymunedol a\u2019r holl dimau eraill sy\u2019n rhan o\u2019r broses, megis Safonau Ansawdd a Sicrwydd, M\u00e2n Ddyledwyr ac Asesiadau Ariannol.  Rydym wedi cynnwys eu hadborth yn y model newydd, boed hynny\u2019n newid i system TG neu ganfod datrysiad gwell i ateb y math o ymholiadau mae unigolion yn ein ffonio amdanynt amlaf. <\/li><li>Rydym hefyd wedi ymgynghori gyda rheolwyr allweddol yn BIPBC ac Aelodau i gael eu hadborth ar y newidiadau rydym yn eu gwneud. <\/li><\/ul>\n\n\n\n<p>Edrychwch ar yr adran <em>Edrych ymlaen tuag at 2022-23 a thu hwnt<\/em> i gael rhagor o fanylion am y prosiect wrth i ni symud i\u2019r flwyddyn ariannol nesaf.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Cael adborth gan bobl sy\u2019n derbyn ein gwasanaethau<\/h3>\n\n\n\n<p>Fel rhan o\u2019r prosiect i foderneiddio sut rydym yn prynu a darparu gwasanaethau i bobl h\u0177n, fe wnaethom ofyn am adborth gan bobl sy\u2019n derbyn gofal a chymorth yn y cartref, a gofalwyr di-d\u00e2l sy\u2019n derbyn gofal a chymorth. Roedd ymatebwyr yn derbyn rhwng 1 awr a 56 awr o gymorth uniongyrchol bob wythnos; gallai\u2019r cymorth gael ei ddarparu gan ein timau mewnol, neu gan asiantaethau gofal allanol sy\u2019n cael eu comisiynu gennym ni. Ar y cyfan, roedd yr adborth yn hynod o gadarnhaol, gyda 94% o\u2019r ymatebwyr yn datgan eu bod yn fodlon gyda\u2019r gofal a\u2019r cymorth roedden nhw wedi ei dderbyn.  Mae pobl yn gwerthfawrogi cysondeb yn y ddarpariaeth gofal, pan fydd yr un t\u00eem neu\u2019r un unigolion yn ymweld ar amseroedd penodol, a theimlir yr effaith pan fydd y gofalwyr yn newid neu pan na fydd amseroedd neu hyd yr ymweliadau yn \u00f4l y disgwyl. <\/p>\n\n\n\n<p>O ran cynorthwyo pobl i gyflawni eu canlyniadau personol, nododd 95% o\u2019r ymatebwyr fod y gofal a\u2019r cymorth maen nhw\u2019n eu derbyn yn eu cynorthwyo i gyflawni\u2019r hyn sy\u2019n bwysig iddyn nhw.<\/p>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p>Heb ofalwyr, fyddwn i methu dod o fy ngwely<\/p><\/blockquote>\n\n\n\n<p>Mae ymatebwyr yn gwerthfawrogi bod y gofal a\u2019r cymorth maen nhw\u2019n ei dderbyn yn eu cynorthwyo i aros yn eu cartrefi eu hunain a mwynhau rhywfaint o annibyniaeth na fyddai\u2019n bosibl fel arall. Gall gofalwyr anffurfiol gymryd seibiant o\u2019u dyletswyddau gofal gan wybod bod eu hanwyliaid yn cael y gofal gorau.<\/p>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p>Mae cael y gofal a\u2019r cymorth yn fy ngalluogi i gael y rhyddid i ddadflino ac ymlacio gan wybod bod rhywun yn gofalu am fy ng\u0175r.<\/p><cite>Gofalwr anffurfiol<\/cite><\/blockquote>\n\n\n\n<p>Gofynnwyd i bobl beth fydden nhw\u2019n ei newid am y gwasanaeth os gallen nhw, a daeth sawl thema i\u2019r amlwg yn ymwneud \u00e2:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Gweithwyr cefnogi\u2019n gallu treulio mwy o amser ar yr alwad a pheidio \u00e2 gorfod brysio at y cleient nesaf.<\/li><li>Mwy o hyblygrwydd o ran amseroedd a hyd y galwadau.<\/li><li>Gweld yr un gweithwyr cefnogi\u2019n rheolaidd.<\/li><li>Oedran, sgiliau a phrofiad gweithwyr cefnogi yn eu r\u00f4l.<\/li><li>Trefniadau seibiant, gan y byddai llawer o ofalwyr anffurfiol yn gwerthfawrogi mwy o amser i\u2019w hunain.<\/li><\/ul>\n\n\n\n<p>Bu\u2019r ymarfer ymgysylltu hwn yn hynod o werthfawr a bydd yn ein cynorthwyo i lunio penderfyniadau am sut byddwn yn darparu gwasanaethau yn y dyfodol, fel rhan o\u2019r prosiect ehangach. <\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"736\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/Social-Worker-04-1024x736.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-3030\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/Social-Worker-04-1024x736.png 1024w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/Social-Worker-04-300x216.png 300w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/Social-Worker-04-768x552.png 768w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/Social-Worker-04-1536x1104.png 1536w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/Social-Worker-04.png 1920w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Gwasanaethau Pobl H\u0177n &#8211; Heriau Staffio<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae ein Gwasanaeth Pobl H\u0177n yn cydlynu gofal a chymorth o bump T\u00eem Adnoddau Cymunedol wedi\u2019u lleoli yn Llanfairfechan, Llandudno, Llanrwst, Bae Colwyn ac Abergele. Fe wnaeth ein gwasanaethau asesu a gofal cartref barhau i weithredu yn \u00f4l yr arfer drwy gydol pandemig Covid-19, a chynhaliwyd asesiadau dros y we er mwyn sicrhau diogelwch staff a\u2019r cyhoedd. Wedi dweud hynny, mae\u2019r pwysau sy\u2019n wynebu\u2019r gwasanaeth nawr yn gwbl ddigynsail, ac rydym yn ei chael yn anodd ymdopi \u00e2 nifer yr achosion sydd gennym, yn enwedig os ydyn nhw\u2019n rhai cymhleth ac angen ymyrraeth a goruchwyliaeth gan Weithiwr Cymdeithasol Cymwys. Ar adeg ysgrifennu\u2019r adroddiad hwn, roedd gennym 320 o achosion heb eu dyrannu, a gall hyn fod yn rhannol am nad oedd unigolion eisiau dod atom i ofyn am gymorth yn ystod y pandemig ac yn lle hynny wedi ceisio rheoli eu hanghenion eu hunain. Mae nifer o unigolion nawr wedi cyrraedd pwynt argyfyngus ac angen cymorth ar frys; pe na bai\u2019r pandemig wedi eu hatal rhag cael mynediad at rwydweithiau cefnogi anffurfiol a theulu, ni fyddai llawer o achosion wedi cyrraedd lefelau anghenion mor uchel.  Mae ein timau felly\u2019n ymdrin \u00e2 niferoedd cynyddol o achosion brys ac yn ymdopi \u00e2\u2019r rhwystrau i gomisiynu pecynnau gofal.  <\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r argyfwng staffio ym maes Gofal Cymdeithasol wedi cael llawer o sylw yn y cyfryngau, ac nid yw Conwy yn eithriad. Yn ein timau Gwaith Cymdeithasol rydym wedi bod yn defnyddio staff locwm a staff asiantaethau i ymdrin \u00e2 rhywfaint o\u2019r llwyth gwaith, ond oherwydd y gost sy\u2019n gysylltiedig \u00e2 hynny, nid dyma\u2019r dewis rydym yn ei ffafrio.  Mae ein partneriaid allanol yn ei chael yn anodd recriwtio a chadw staff, ac o ganlyniad bu\u2019n rhaid iddyn nhw ddychwelyd pecynnau gofal nad oedden nhw\u2019n gallu eu darparu. Mae ein timau mewnol wedi cymryd cyfrifoldeb dros y rhain, ond maen nhw hefyd yn profi eu hanawsterau eu hunain o ran recriwtio staff.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"has-pale-cyan-blue-color has-text-color wp-block-heading\">Beth nesaf?<\/h4>\n\n\n\n<p>Rydym yn gobeithio y gallwn ni recriwtio unigolion i swyddi wedi\u2019u targedu yn y timau Gwaith Cymdeithasol ac Ailalluogi er mwyn cynorthwyo i leihau rhestrau aros a chefnogi\u2019r cynnydd yn y galw yn y gymuned. Nod yr ymgyrch recriwtio genedlaethol <a href=\"https:\/\/gofalwn.cymru\/?_ga=2.231221341.396087357.1656074474-483767252.1654764565\">Gofalwn<\/a> yw codi proffil Gofal Cymdeithasol fel gyrfa werth chweil, boed hynny gyda\u2019r Awdurdod Lleol neu gyda darparwr preifat. Yn ogystal \u00e2\u2019r gobaith y gellir manteisio ar yr ymgyrch genedlaethol, rydym yn rhagweithiol yn ein hagwedd at recriwtio a chadw staff ym maes Gofal Cymdeithasol, ac yn canolbwyntio ar dri phrif faes:<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Hyfforddeiaethau Gwaith Cymdeithasol Conwy<\/h3>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Cyflwynwyd rhaglen yn 2009 er mwyn ymdrin \u00e2 heriau recriwtio ym maes gofal cymdeithasol drwy ddull \u2018meithrin eich talent eich hun\u2019.<\/li><li>Mae hyfforddeion yn aros yn eu swyddi gwreiddiol ac yn ennill eu cymhwyster drwy\u2019r Brifysgol Agored.<\/li><li>Yn nwy flynedd gyntaf y rhaglen roeddem yn cefnogi dau weithiwr y flwyddyn. Yn y drydedd flwyddyn, fe wnaethom gynyddu\u2019r cymorth ariannol ar gyfer y rhaglen er mwyn cynyddu nifer yr hyfforddeion i dri bob blwyddyn.<\/li><li>Er mwyn cydnabod yr anawsterau recriwtio cynyddol, sy\u2019n arwain at bwysau aruthrol ar yr adnoddau staffio presennol, byddwn yn cynnig lle ar gyfer pump o hyfforddeion gwaith cymdeithasol yn 2022.<\/li><\/ul>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Myfyrwyr Gwaith Cymdeithasol a gweithwyr cymdeithasol newydd gymhwyso<\/h3>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Mae Conwy yn un o dri phartner yn y cwrs MA mewn Gwaith Cymdeithasol ym Mhrifysgol Bangor, felly rydym yn croesawu myfyrwyr ddwywaith y flwyddyn. Gan gydnabod y pwysau sydd ar ein cronfa bresennol o Addysgwyr Ymarfer rydym wedi buddsoddi\u2019n fawr er mwyn cefnogi gweithwyr cymdeithasol profiadol i ennill dyfarniad achrededig Addysgwyr Ymarfer. <\/li><li>O fewn y bartneriaeth dair ochrog rydym wedi cynnal gweithdai gyda\u2019n gweithwyr cymdeithasol a Phrifysgol Bangor i ddiwygio\u2019r cynnwys dysgu ar y cwrs MA. Gwneir hyn er mwyn sicrhau bod y modelau damcaniaethol gwaith cymdeithasol a ddysgir i fyfyrwyr gwaith cymdeithasol, a\u2019r modd y c\u00e2nt eu rhoi ar waith, yn cyd-fynd \u00e2\u2019r arfer orau bresennol ym maes gwaith cymdeithasol.<\/li><li>cymdeithasol sydd newydd gymhwyso yw traean o\u2019r rhai a gafodd eu penodi. O ganlyniad, mae angen i staff gwblhau Fframwaith y Tair Blynedd Gyntaf yn Ymarfer (Gofal Cymdeithasol Cymru). Mae ein Cydlynydd Ymarfer yn arwain y gwaith i gefnogi\u2019r gweithwyr newydd a\u2019u rheolwr drwy\u2019r fframwaith, yn cynnwys cwblhau \u2018Cyfuno Addysg a Dysgu Proffesiynol Parhaus\u2019.<\/li><\/ul>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Cefnogi dulliau recriwtio i\u2019r sector Gofal Cymdeithasol yng Nghonwy<\/h3>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Rydym wedi darparu adnoddau ar gyfer gwasanaeth newydd, GofalwnCymru.Conwy i gynorthwyo pobl i gael swyddi ar draws y sector gofal, gyda swydd newydd ar gyfer Mentor Cyflogaeth Gymunedol i gefnogi\u2019r gwasanaeth.<\/li><li>Mae\u2019r gwasanaeth yn gweithio\u2019n agos gyda Chanolbwynt Cyflogaeth Conwy i sicrhau bod y sector Gofal Cymdeithasol yn elwa o raglenni cyflogaeth Llywodraeth Cymru.<\/li><li>Rydym yn cydweithio gyda Choleg Llandrillo a chyflogwyr Gofal Cymdeithasol i gydlynu lleoliadau gwaith i fyfyrwyr Iechyd a Gofal Cymdeithasol.<\/li><\/ul>\n\n\n\n<p>Byddwn yn trafod ein cynlluniau ar gyfer y gweithlu\u2019n fanwl yn ddiweddarach yn yr adroddiad, serch hynny, yn fyr byddwn yn edrych ar:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Ganolbwyntio ar iechyd a lles staff wrth i ni adfer o\u2019r pandemig, yn cynnwys cadw staff a rhannu arfer orau.<\/li><li>Darparu strategaeth ar ei newydd wedd ar gyfer y gweithlu sy\u2019n ymgorffori\u2019r hyn a ddysgwyd o\u2019r pandemig.<\/li><li>Croesawu ffyrdd o weithio newydd a mwy cynhyrchiol sy\u2019n creu cyfleoedd i staff weithio\u2019n hyblyg.<\/li><li>Edrych ar y pwysau sy\u2019n cael ei greu oherwydd maint y llwyth gwaith ar draws yr adran.<\/li><li>Hybu gofal cymdeithasol fel dewis gyrfa.<\/li><\/ul>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae&#8217;r angen am ofal a chefnogaeth yn cael ei leihau a&#8217;r cynnydd o ran anghenion yn cael ei atal, tra&#8217;n sicrhau bod y canlyniadau gorau posibl yn cael eu sicrhau i bobl Sut rydym yn prynu a darparu gwasanaethau ar gyfer pobl h\u0177n Yn adroddiad y llynedd, fe soniom wrthych am Brosiect Trawsnewid Pobl H\u0177n, [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":5,"featured_media":0,"parent":2986,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"_seopress_robots_primary_cat":"","_seopress_titles_title":"","_seopress_titles_desc":"","_seopress_robots_index":"","_genesis_hide_title":false,"_genesis_hide_breadcrumbs":false,"_genesis_hide_singular_image":false,"_genesis_hide_footer_widgets":false,"_genesis_custom_body_class":"","_genesis_custom_post_class":"","_genesis_layout":"","footnotes":""},"class_list":{"0":"post-3200","1":"page","2":"type-page","3":"status-publish","5":"entry"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/3200","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/5"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=3200"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/3200\/revisions"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/2986"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=3200"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}