{"id":3198,"date":"2022-08-16T09:07:24","date_gmt":"2022-08-16T08:07:24","guid":{"rendered":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/adroddiad-2021-22\/safon-ansawdd-1\/"},"modified":"2022-08-16T16:11:40","modified_gmt":"2022-08-16T15:11:40","slug":"safon-ansawdd-1","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/adroddiad-2021-22\/safon-ansawdd-1\/","title":{"rendered":"Safon Ansawdd 1"},"content":{"rendered":"\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Mae pob unigolyn yn bartner cyfartal sydd \u00e2 llais, dewis a rheolaeth dros eu bywydau ac maent yn gallu cyflawni&#8217;r hyn sydd o bwys iddyn nhw\r\n\r\n<\/h2>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Diogelu Rhag Colli Rhyddid <\/h3>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r t\u00eem Diogelu rhag Colli Rhyddid wedi cynnal dull \u2018busnes fel arfer\u2019 ac mae\u2019r asesiadau wedi parhau yn ystod y pandemig. Fe wnaeth yr Aseswyr Budd Pennaf a\u2019r cartrefi gofal addasu eu harferion er mwyn hwyluso asesiadau dros y we pan nad oedd hi\u2019n ymarferol cynnal cyfarfodydd wyneb yn wyneb.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae newidiadau sylfaenol hefyd ar y gweill, a symud o Drefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid i\u2019r Trefniadau Amddiffyn Rhyddid newydd, a gynlluniwyd yn wreiddiol ar gyfer mis Ebrill 2022. Cafodd y Trefniadau Amddiffyn Rhyddid eu cyflwyno yn y Ddeddf Galluedd Meddyliol (Diwygiad) 2019 i ddisodli system Diogelu rhag Colli Rhyddid, ac fe\u2019u lluniwyd er mwyn gosod hawliau a dymuniadau\u2019r bobl hynny wrth wraidd pob penderfyniad a wneir ar golli rhyddid. Yn bennaf oherwydd effaith y pandemig, bydd yn cael ei roi ar waith yn hwyrach, a bydd ymgynghoriad cyhoeddus dros ddeuddeg wythnos yn cael ei lansio\u2019n ddiweddarach yn y flwyddyn. <\/p>\n\n\n\n<p>Er hyn, rydym yn parhau i baratoi ar gyfer y newidiadau i\u2019r system ac rydym wedi defnyddio cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru i:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Brynu Codau Ymarfer ar gyfer y Ddeddf Galluedd Meddyliol ar gyfer Cartrefi Gofal ac Ymarferwyr.<\/li><li>Ymestyn oriau gweinyddu\u2019r t\u00eem er mwyn sicrhau bod ein rhestr aros yn gyfredol a bod y broses yn cael ei rheoli mor effeithiol \u00e2 phosibl.<\/li><li>Darparu rhaglen hyfforddi ar gyfer Gweithwyr Cymdeithasol Plant ac Oedolion er mwyn diweddaru a meithrin dealltwriaeth gadarn o Alluedd Meddyliol, sy\u2019n mynd i fod yn allweddol wrth roi\u2019r Trefniadau Amddiffyn Rhyddid ar waith wrth edrych tua\u2019r dyfodol.<\/li><li>Creu oriau ychwanegol o amser BIA i reoli\u2019r asesiadau Diogelu rhag Colli Rhyddid presennol er mwyn bod yn barod i bontio i\u2019r system newydd.<\/li><\/ul>\n\n\n\n<h4 class=\"has-pale-cyan-blue-color has-text-color wp-block-heading\">Beth yw&#8217;r heriau?<\/h4>\n\n\n\n<p>Y prif heriau oedd cynnal awdurdodiadau Diogelu rhag Colli Rhyddid yn ystod y pandemig, pan oedd cartrefi gofal a lleoliadau eraill yn ei chael yn anodd cyflawni eu swyddogaethau craidd. Yn amlwg roedd yna heriau logisteg o ran ymgysylltu \u00e2\u2019r cartrefi gofal, creu\u2019r isadeiledd a defnyddio technoleg dros y we er mwyn cynnal asesiadau. <\/p>\n\n\n\n<p>Yn ogystal \u00e2 hyn, roedd ceisio cynllunio a pharatoi ar gyfer pontio i\u2019r Trefniadau Diogelu Rhyddid, gyda gwybodaeth gyfyngedig am lefel y newid, y codau ymarfer neu hyd yn oed sicrhau dyddiad eglur i\u2019w roi ar waith yn un o\u2019r prif heriau.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"has-pale-cyan-blue-color has-text-color wp-block-heading\">Beth nesaf?<\/h4>\n\n\n\n<p>Bydd y t\u00eem yn parhau i reoli\u2019r broses Diogelu rhag Colli Rhyddid a rheoli \u00f4l-groniad yr achosion er mwyn parhau i baratoi ar gyfer pontio i\u2019r system Trefniadau Diogelu Rhyddid yn fuan a sicrhau ein bod yn ymateb mor gyflym ac effeithiol \u00e2 phosibl, ar \u00f4l i\u2019r rhaglen weithredu newydd gael ei hamlinellu.  <\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Cefnogi Pobl ag Anableddau<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r Gwasanaeth Anabledd yn wasanaeth hyd oes sy\u2019n gweithio gydag unrhyw unigolyn sydd ag anabledd hirdymor sy\u2019n effeithio ar ei allu i wneud gweithgareddau arferol o ddydd i ddydd.  Mae\u2019r gwasanaeth yn gyfrifol am gynnal asesiadau o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) yn ogystal \u00e2 darparu gwasanaethau gofal uniongyrchol drwy ein darpariaeth fewnol. <\/p>\n\n\n\n<p>Yn ystod 2021-2022 rydym wedi parhau i weithio gyda\u2019n partneriaid mewn modd rhagweithiol a chreadigol yn y sector annibynnol a\u2019r trydydd sector er mwyn darparu gwasanaethau rheng flaen o ansawdd uchel i bobl sy\u2019n gymwys i gael gofal a chymorth a reolir.   Gwneir hyn mewn amgylchedd lle mae Covid-19 yn parhau i fod yn gryn broblem, ac effeithir ar nifer y staff sydd ar gael yn y sector i\u2019r fath raddau fel na allwn ni bob amser drefnu\u2019r gofal a\u2019r cymorth sydd eu hangen. Mewn achosion fel hyn rydym wedi gweithio gyda\u2019n partneriaid a chyda\u2019r unigolion a\u2019u teuluoedd i sicrhau eu bod yn cael eu diogelu rhag niwed. O ran gwasanaethau Therapi Galwedigaethol, rydym wedi comisiynu dros 96 o asesiadau codi a symud yn gorfforol gyda darparwr annibynnol.  <\/p>\n\n\n\n<p>Ochr yn ochr \u00e2\u2019n gweithgareddau gweithredol o ddydd i ddydd, rydym wedi parhau i ddatblygu ein gwasanaethau. Rydym wedi cynorthwyo pobl i symud i fflatiau anabledd Ysgol Maelgwn ac mae\u2019r adborth cychwynnol yn gadarnhaol.<\/p>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote has-white-color has-vivid-cyan-blue-background-color has-text-color has-background is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p>Mae\u2019n braf cael fy lle fy hun, rydw i\u2019n hoffi treulio amser gyda\u2019r bobl eraill sy\u2019n byw yma hefyd. Rydw i\u2019n gallu gwneud pethau drosof fy hun, yn fy amser fy hun, mae\u2019n fwy hamddenol, dim cymaint o straen \u00e2 lle ro\u2019n i\u2019n byw ynddo o\u2019r blaen.<\/p><cite>Defnyddiwr Gwasanaeth<\/cite><\/blockquote>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote has-white-color has-pale-pink-background-color has-text-color has-background is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p>Rydym yn falch ei bod wedi cael fflat, roeddem eisiau ei gweld yn blodeuo a chael yr annibyniaeth hwnnw.<\/p><cite>Rhieni<\/cite><\/blockquote>\n\n\n\n<h4 class=\"has-pale-cyan-blue-color has-text-color wp-block-heading\">Beth nesaf?<\/h4>\n\n\n\n<p>Mae ein gr\u0175p strategol cynllunio llety yn parhau i weithio gyda\u2019n partneriaid Tai i ganfod rhagor o lety er mwyn cynnig gwasanaethau byw \u00e2 chymorth newydd. Eleni, mewn partneriaeth \u00e2 First Choice Housing, byddwn wedi darparu cynllun person sengl ychwanegol ar gyfer unigolyn gydag anghenion cymhleth iawn ac ymddygiad heriol, sydd wedi bod yn byw mewn llety dros dro. Rydym hefyd yn gweithio gyda Chymdeithas Dai Clwyd Alyn i ddarparu tri fflat ar gyfer pobl ddiamddiffyn a phobl anabl yn Llanrwst.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"599\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/Kerbside-Recycling-04-1-1024x599.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-3017\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/Kerbside-Recycling-04-1-1024x599.png 1024w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/Kerbside-Recycling-04-1-300x175.png 300w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/Kerbside-Recycling-04-1-768x449.png 768w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/Kerbside-Recycling-04-1.png 1065w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">T\u00eem Teuluoedd Integredig Lleol (LIFT)<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae LIFT yn d\u00eem arbenigol amlasiantaethol, ymyrraeth gynnar sy\u2019n defnyddio arferion yn seiliedig ar dystiolaeth i gefnogi teuluoedd sy\u2019n ei chael yn anodd rheoli ymddygiad heriol a\/neu niweidiol yn eu cartref.  Nod LIFT yw cefnogi teuluoedd:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>sy\u2019n ei chael yn anodd rheoli ymddygiad heriol a niweidiol<\/li><li>i ddeall gweithredoedd yr ymddygiad heriol <\/li><li>i ddeall yr hyn sy\u2019n sbarduno\u2019r ymddygiad posibl<\/li><li>datblygu a chynorthwyo i weithredu cynllun ymddygiad neu gynllun synhwyraidd cadarnhaol<\/li><li>datblygu rhwydweithiau cefnogaeth gan gymheiriaid a chael mynediad at hyfforddiant drwy sesiynau cydweithredol<\/li><\/ul>\n\n\n\n<p>Mae lleihau ymddygiad heriol yn debygol o alluogi plant a phobl ifanc i ymgysylltu\u2019n gadarnhaol gyda\u2019u cyfoedion ac oedolion, cefnogi hunan-barch a hyder, a lleihau\u2019r tebygolrwydd o gael anhwylderau iechyd emosiynol.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae LIFT yn gweithredu fel ffynhonnell gwybodaeth ar gyfer teuluoedd am dechnegau, offer, gweithgareddau, grwpiau a sefydliadau a allai eu cynorthwyo, yn ogystal \u00e2 darparu gwasanaethau ymgynghori, hyfforddiant a chefnogaeth i deuluoedd a gweithwyr proffesiynol eraill. <\/p>\n\n\n\n<p>Rhwng Ebrill a Rhagfyr 2021, fe wnaeth y t\u00eem ymdrin \u00e2 chyfanswm o 184 o atgyfeiriadau (sy\u2019n amlygu\u2019r galw am gymorth i reoli ymddygiad heriol).<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"has-pale-cyan-blue-color has-text-color wp-block-heading\">Beth oedd yr heriau?<\/h4>\n\n\n\n<p>Roedd hi\u2019n her dechrau gyda th\u00eem newydd ar brosiect newydd sbon yn ystod pandemig Covid-19.  Roedd hi\u2019n anodd cysylltu gydag aelodau eraill o\u2019r t\u00eem a defnyddwyr y gwasanaeth.   Roedd yna hefyd heriau\u2019n ymwneud \u00e2 datblygu t\u00eem amlasiantaethol oedd \u00e2 strwythurau sefydliadol a dulliau gweithio gwahanol, a dod ynghyd fel uned gydlynol.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae yna hefyd gymhlethdodau\u2019n gysylltiedig \u00e2 chefnogi teuluoedd i reoli ymddygiad heriol gan nad dyma\u2019r unig broblem yn y teulu fel arfer.  Gall teuluoedd hefyd gael trafferth gyda thrawma, tlodi, problemau iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau.  Rydym wedi mabwysiadu dull \u2018dim drws anghywir\u2019 sy\u2019n atal teuluoedd rhag cael eu cyfeirio o un gwasanaeth i\u2019r llall. <\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"has-pale-cyan-blue-color has-text-color wp-block-heading\">Beth nesaf?<\/h4>\n\n\n\n<p>Mae LIFT wedi cael cychwyn cadarnhaol a bydd y t\u00eem yn parhau i adeiladu ar eu cynnydd hyd yma, gan ddatblygu\u2019r gwasanaeth a sicrhau ei fod yn cael ei ymgorffori yn yr isadeiledd gofal cymdeithasol.  Bydd plant a phobl ifanc yn ei chael yn haws rheoli cerrig milltir datblygiadol cymdeithasol ac emosiynol a chyflawni\u2019r cyrhaeddiad addysgiadol a ddisgwylir, i gyd-fynd \u00e2\u2019u hoedran a\u2019u gall <\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae pob unigolyn yn bartner cyfartal sydd \u00e2 llais, dewis a rheolaeth dros eu bywydau ac maent yn gallu cyflawni&#8217;r hyn sydd o bwys iddyn nhw Diogelu Rhag Colli Rhyddid Mae\u2019r t\u00eem Diogelu rhag Colli Rhyddid wedi cynnal dull \u2018busnes fel arfer\u2019 ac mae\u2019r asesiadau wedi parhau yn ystod y pandemig. Fe wnaeth yr Aseswyr [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":5,"featured_media":0,"parent":2986,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"_seopress_titles_title":"","_seopress_titles_desc":"","_seopress_robots_index":"","_seopress_robots_follow":"","_seopress_robots_imageindex":"","_seopress_robots_snippet":"","_seopress_robots_primary_cat":"","_seopress_robots_breadcrumbs":"","_seopress_robots_freeze_modified_date":"","_seopress_robots_custom_modified_date":"","_seopress_robots_canonical":"","_seopress_social_fb_title":"","_seopress_social_fb_desc":"","_seopress_social_fb_img":"","_seopress_social_fb_img_attachment_id":0,"_seopress_social_fb_img_width":0,"_seopress_social_fb_img_height":0,"_seopress_social_twitter_title":"","_seopress_social_twitter_desc":"","_seopress_social_twitter_img":"","_seopress_social_twitter_img_attachment_id":0,"_seopress_social_twitter_img_width":0,"_seopress_social_twitter_img_height":0,"_seopress_redirections_value":"","_seopress_redirections_enabled":"","_seopress_redirections_enabled_regex":"","_seopress_redirections_logged_status":"","_seopress_redirections_param":"","_seopress_redirections_type":0,"_seopress_analysis_target_kw":"","_genesis_hide_title":false,"_genesis_hide_breadcrumbs":false,"_genesis_hide_singular_image":false,"_genesis_hide_footer_widgets":false,"_genesis_custom_body_class":"","_genesis_custom_post_class":"","_genesis_layout":"","footnotes":""},"class_list":{"0":"post-3198","1":"page","2":"type-page","3":"status-publish","5":"entry"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/3198","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/5"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=3198"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/3198\/revisions"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/2986"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=3198"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}