{"id":3196,"date":"2022-08-15T16:42:27","date_gmt":"2022-08-15T15:42:27","guid":{"rendered":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/adroddiad-2021-22\/safon-ansawdd-2\/"},"modified":"2023-08-14T17:26:31","modified_gmt":"2023-08-14T16:26:31","slug":"safon-ansawdd-2","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/adroddiad-2021-22\/safon-ansawdd-2\/","title":{"rendered":"Safon Ansawdd 2"},"content":{"rendered":"\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Mae arweinyddiaeth effeithiol yn amlwg ar bob lefel gyda gweithlu hynod fedrus a chymwys a gefnogir yn dda yn rhannu&#8217;r un weledigaeth yn eu gwaith<\/h2>\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Cefnogi ein Gweithlu<\/h3>\n\n<p>Fel rhan o waith recriwtio a chadw ein gweithlu, mae Conwy yn aelod o bartneriaeth MA mewn Gwaith Cymdeithasol ym Mhrifysgol Bangor.  Fel rhan o hyn, bob blwyddyn academaidd rydym yn croesawu 16 o fyfyrwyr gwaith cymdeithasol.  Er mwyn galluogi hyn, mae angen i\u2019n gweithwyr cymdeithasol hyfforddi i fod yn Addysgwyr Ymarfer.  Dros y deunaw mis diwethaf rydym wedi hyfforddi deg gweithiwr cymdeithasol ychwanegol i weithio fel Addysgwyr Ymarfer.  O ganlyniad, mae myfyrwyr gwaith cymdeithasol wedi elwa gan fod amrywiaeth ehangach o leoliadau ar gael. <\/p>\n\n<p>Rydym hefyd yn falch o gynnig Hyfforddeiaeth Gwaith Cymdeithasol Conwy.  Mae hwn ar gael i weithwyr er mwyn eu cefnogi i fod yn weithwyr cymdeithasol cymwys drwy\u2019r BA mewn Gwaith Cymdeithasol a gynigir gan y Brifysgol Agored.  Mae\u2019r cynllun yn talu am holl ffioedd y cwrs ac mae\u2019r hyfforddai\u2019n cadw ei swydd a\u2019i gyflog gwreiddiol drwy gydol ei astudiaethau.  <\/p>\n\n<h4 class=\"has-pale-cyan-blue-color has-text-color wp-block-heading\">Beth yw&#8217;r heriau?<\/h4>\n\n<p>Mae\u2019r data mwyaf diweddar sydd gennym yn datgan bod 9% o swyddi ym maes Gwasanaethau Oedolion yn wag ledled Cymru, a bod 13% o swyddi ym maes Gwasanaethau Plant yn wag.  Mae hyn yn dangos bod recriwtio a chadw staff yn broblem genedlaethol ac nad yw\u2019n unigryw i unrhyw Awdurdod Lleol penodol.  Mae\u2019r un data\u2019n awgrymu bod traean o\u2019r holl swyddi gwaith cymdeithasol gwag yn cael eu llenwi gan weithwyr cymdeithasol newydd gymhwyso. <\/p>\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Sicrhau bod Plant sy\u2019n Derbyn Gofal yn cael eu cefnogi yn yr ysgol<\/h3>\n\n<p>Eleni gofynnwyd i ysgolion Conwy gymryd rhan mewn arolwg i wneud yn si\u0175r fod ganddyn nhw swyddog penodol ar gyfer Plant sy\u2019n Derbyn Gofal a bod staff yn y lleoliadau wedi derbyn hyfforddiant mewn amryw o destunau a strategaethau.  Gallai ysgolion nodi faint o\u2019u plant a oedd mewn gofal o\u2019r tu mewn ac o\u2019r tu allan i\u2019r sir, faint sydd wedi cael eu mabwysiadu a faint sy\u2019n destun Gorchymyn Gwarchodaeth Arbennig. Mae\u2019r canlyniadau wedi rhoi cipolwg i ni o ba mor effeithiol y gallwn ni gefnogi Plant sy\u2019n Derbyn Gofal yn yr ysgol, ac ym mhle y gwelir bylchau o ran hyfforddiant a datblygiad staff. Byddwn yn parhau i weithio gydag ysgolion er mwyn sicrhau bod Plant sy\u2019n Derbyn Gofal yn derbyn unrhyw gymorth ychwanegol sydd ei angen arnyn nhw, a bod gan staff ysgol y wybodaeth a\u2019r hyder i gefnogi\u2019r plant sydd yn ein gofal gyda\u2019r ddealltwriaeth a\u2019r ymwybyddiaeth angenrheidiol.<\/p>\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Monitro ansawdd ein gwasanaethau mewnol<\/h3>\n\n<p>Er mwyn sicrhau bod ein gwasanaethau gofal cartref mewnol cystal \u00e2 phosibl, fe wnaethom unwaith eto ofyn am adborth gan ein cydweithwyr sy\u2019n gweithio yn y timau hynny, yn ogystal \u00e2\u2019r rhai sy\u2019n ein comisiynu ni neu\u2019n cydweithio \u00e2 ni yn y Gwasanaethau Cymdeithasol a\u2019r Bwrdd Iechyd. Rydym wedi derbyn sgorau a sylwadau cadarnhaol iawn, sy\u2019n dangos ansawdd uchel y gwasanaethau rydym yn eu darparu i bobl ddiamddiffyn yng Nghonwy, a\u2019r cryfderau a\u2019r ymroddiad yn ein timau staff. Dyma rywfaint o\u2019r adborth a gawsom.<\/p>\n\n<p>Gofynnwyd i randdeiliaid a chwsmeriaid mewnol ein gwasanaethau gofal cartref mewnol ar gyfer pobl anabl i raddio\u2019r t\u00eem ar sail nifer o elfennau. Nododd 100% o\u2019r ymatebwyr fod ein staff yn gymwys ac yn gallu diwallu anghenion yr unigolion rydym yn eu cefnogi. O ganlyniad, roedd 100% hefyd yn cytuno ein bod yn galluogi\u2019r unigolion hynny i gyflawni eu canlyniadau personol. Cawsom sg\u00f4r uchel ymhob elfen o\u2019n gwaith ac roedd y sylwadau gan yr ymatebwyr yn amlygu\u2019r gwerth maen nhw\u2019n ei roi ar y gwasanaeth.<\/p>\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p>Maen nhw\u2019n addasu eu cymorth i ddiwallu anghenion unigolion ac yn cynnig amryw o weithgareddau\u2026i gefnogi\u2019r rhai sydd \u00e2\u2019r anghenion mwyaf heriol ac maen nhw bob tro\u2019n cymryd y cam ychwanegol i gynorthwyo mewn sefyllfaoedd argyfyngus. Mae\u2019r ffordd maen nhw\u2019n defnyddio dulliau sy\u2019n canolbwyntio ar yr unigolyn yn ogystal \u00e2 chymorth gweithredol ac ymddygiad cadarnhaol yn ardderchog.<\/p><\/blockquote>\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p>Mae buddion pennaf y defnyddwyr gwasanaeth yn ganolog i\u2019r staff. Dangosir hyn yn y ffordd maen nhw\u2019n cefnogi pob unigolyn maen nhw\u2019n ei gefnogi.<\/p><\/blockquote>\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"576\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/Disability-Group-01-1024x576.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-3021\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/Disability-Group-01-1024x576.png 1024w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/Disability-Group-01-300x169.png 300w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/Disability-Group-01-768x432.png 768w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/Disability-Group-01-1536x865.png 1536w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/Disability-Group-01.png 1917w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n<p>Pobl H\u0177n i\u2019n cydweithwyr sy\u2019n gweithio o fewn yr Awdurdod Lleol, y Bwrdd Iechyd Lleol a\u2019r Gymdeithas Tai.  Unwaith eto, roedd pob un o\u2019r ymatebwyr yn cytuno bod ein staff yn gymwys ac yn ymateb yn brydlon ac yn briodol i bryderon am unigolion sy\u2019n defnyddio\u2019r gwasanaeth. Nododd 100% ohonyn nhw fod y gwasanaethau Ailalluogi a Diwedd Oes yn diwallu anghenion yr unigolion sy\u2019n eu defnyddio. <\/p>\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p>Mae\u2019r t\u00eem yn anhygoel ym mhob ffordd, yn y cymunedau gwledig maen nhw\u2019n achubiaeth heb ei hail. Credaf fod y sgiliau, yr ymroddiad a\u2019r gefnogaeth mae\u2019r t\u00eem hwn yn ei roi i\u2019n dinasyddion wedi bod yn anhygoel drwy gydol y pandemig hwn.<\/p><\/blockquote>\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p>Mae gwir sgiliau ac ymroddiad y timau hyn wedi dod yn amlwg yn ystod y pandemig hwn. Teimlaf y dylai CBSC fod yn hynod o falch.<\/p><\/blockquote>\n\n<p>Cawsom sgorau mwy cyffredin am y ffordd rydym yn darparu neu\u2019n rhannu gwybodaeth am ein gwasanaethau yn y maes hwn, felly dyma rywbeth y gallwn ei wella dros y misoedd nesaf. Roedd y sylwadau ychwanegol yn cydnabod bod y timau wedi bod dan straen aruthrol dros y misoedd diwethaf, pan oedd y galw\u2019n aml yn fwy na\u2019u capasiti.<\/p>\n\n<p>Gan mai Llys Elian yw ein hunig leoliad preswyl mewnol ar gyfer pobl h\u0177n, fe wnaethom ofyn am adborth am y gwasanaeth mae\u2019n ei ddarparu i bobl yng Nghonwy sy\u2019n byw gyda dementia. Cawsom ymatebion gan gydweithwyr yn yr Awdurdod a\u2019r Bwrdd Iechyd Lleol. Teimlai 100% ohonyn nhw ein bod yn dda neu\u2019n dda iawn o ran ymateb i ymholiadau\u2019n brydlon ac yn gwrtais ac wrth ymateb yn brydlon ac yn briodol i bryderon am unigolion sy\u2019n defnyddio\u2019r gwasanaeth. Cytunai\u2019r ymatebwyr i gyd fod y gofal preswyl hirdymor a\u2019r gofal seibiant a gynigir yn Llys Elian yn galluogi preswylwyr i gyrraedd eu canlyniadau personol. <\/p>\n\n<p>Holwyd beth mae\u2019r lleoliad yn ei wneud yn dda a dyma a ddywedwyd:<\/p>\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p>Mae\u2019r gwasanaeth a ddarperir wedi\u2019i bersonoli i\u2019r unigolyn. Mae\u2019r wybodaeth am ofal dementia a\u2019r rhyngweithio\u2026gyda defnyddwyr y gwasanaeth yn y lleoliad yn dda. Byddem yn elwa drwy gael mwy o leoliadau fel Llys Elian ble mae gennym fynediad at wasanaethau seibiant, gofal dydd a lleoliadau byrdymor\/hirdymor.<\/p><\/blockquote>\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p>Bu\u2019n bleser o\u2019r mwyaf gweithio gyda Llys Elian\u2026 Mae ganddyn nhw berthynas eithriadol gyda\u2019u preswylwyr, ac yn siarad Cymraeg pan fo angen. Mae\u2019r cartref bob amser yn l\u00e2n a chroesawus\u2026ac [maen nhw\u2019n] ceisio sicrhau\u2019r canlyniadau gorau ar gyfer eu preswylwyr.<\/p><\/blockquote>\n\n<p>Yn ogystal \u00e2 gofyn i gydweithwyr mewn timau a sefydliadau eraill am eu hadborth, fe wnaethom ofyn i\u2019n staff sut roedden nhw\u2019n teimlo am y timau maen nhw\u2019n gweithio ynddyn nhw a\u2019r gwasanaeth maen nhw\u2019n ei ddarparu.<\/p>\n\n<p>Roedd y staff yn y Gwasanaeth Anabledd yn credu\u2019n unfrydol eu bod yn gwrando ar yr unigolion maen nhw\u2019n eu cefnogi ac yn sicrhau bod ganddyn nhw hawliau a dewisiadau.<\/p>\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p>Rydym yn cynnig dewisiadau a gofal sy\u2019n canolbwyntio ar yr unigolyn. Rydym yn addasu ein ffordd o weithio fel bod y person rydym yn ei gefnogi\u2019n deall, fel y gallan nhw wneud eu dewisiadau eu hunain. Rydym yn annog eu hannibyniaeth ac yn eu hannog i ddysgu sut i gefnogi eu hunain.<\/p><\/blockquote>\n\n<p>Cytunai 93% eu bod yn cefnogi unigolion i fyw bywydau llawn, a\u2019u bod yn cefnogi eu hiechyd a\u2019u lles. Teimlai rhai pobl fod cyfyngiadau Covid wedi cyfyngu ar waith wyneb yn wyneb a gwaith gr\u0175p, ac roedden nhw\u2019n edrych ymlaen at allu gwella\u2019r hyn roedden nhw\u2019n ei gynnig i unigolion wrth i\u2019r rheolau gael eu llacio.<\/p>\n\n<p>Teimlai 100% o\u2019r ymatebwyr eu bod yn cefnogi unigolion i gadw\u2019n ddiogel, ac mae\u2019r sylwadau ychwanegol yn dangos faint o waith sy\u2019n gysylltiedig \u00e2 dod i adnabod unigolion diamddiffyn a\u2019u galluogi i asesu risg eu gweithgareddau eu hunain a gwella\u2019u hymwybyddiaeth o sefyllfaoedd a allai eu rhoi mewn perygl.<\/p>\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p>Rydym yn gweithio\u2019n agos gyda defnyddwyr gwasanaeth felly rydym yn ymwybodol o wendidau unigolion. Ar \u00f4l i ni ganfod y rhain, gallwn weithio tuag at eu cefnogi er mwyn cael rhagor o wybodaeth am sut gellir aros yn ddiogel ym mha bynnag sefyllfa sydd ei hangen, e.e. eu hannog i gloi\u2019r drws bob nos, canfod y llwybr mwyaf diogel i fynd i\u2019r siop leol, defnyddio croesfannau i gerddwyr wrth gerdded at y bws, mynediad at rifau ff\u00f4n staff ac ati<\/p><\/blockquote>\n\n<p>Nododd 90% o staff y timau gofal cartref mewnol ar gyfer Pobl H\u0177n fod eu gwasanaeth yn dda neu\u2019n ardderchog, gyda sylwadau ategol yn nodi proffesiynoldeb a balchder yn y gwaith arbenigol hwn. Cyfeiriodd rhai ohonyn nhw at y pwysau yn y galw a\u2019r prinder staff, ond mae yna thema amlwg o gydweithio er budd y defnyddwyr gwasanaeth.<\/p>\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p>Gan ystyried y pwysau a\u2019r galw sy\u2019n bodoli ar hyn o bryd, teimlaf fod y t\u00eem rwyf yn gweithio ynddo wedi mynd y tu hwnt i\u2019r holl ddisgwyliadau yn eu r\u00f4l er mwyn sicrhau y darperir gofal o ansawdd uchel sy\u2019n canolbwyntio ar yr unigolyn.<\/p><\/blockquote>\n\n<p>Teimlai 100% o\u2019r ymatebwyr fod eu cyfraniad yn y gwaith yn gwneud gwahaniaeth i\u2019r unigolion maen nhw\u2019n eu cefnogi, a cheir llawer o foddhad yn y gwaith drwy eu cefnogi nhw i fod yn annibynnol.<\/p>\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p>Teimlaf fy mod wedi gwneud gwahaniaeth i fywyd rhywun pan fydda\u2019 i\u2019n gadael fy ngwaith. Byddaf yn ceisio meithrin ymddiriedaeth y person fel y gallan nhw rannu unrhyw broblemau neu bryderon gyda mi.<\/p><\/blockquote>\n\n<p>Gofynnwyd i staff Llys Elian am eu profiadau hefyd. Nododd 92% fod y lleoliad yn dda neu\u2019n ardderchog ac, unwaith eto, teimlai 100% eu bod yn gwneud gwahaniaeth i fywydau\u2019r preswylwyr. Mae staff yn falch o gael gweithio yn Llys Elian, gyda rheolwyr sy\u2019n eu cefnogi yn eu swyddi.<\/p>\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p>Rwy\u2019n gweithio\u2019n galed iawn i wneud yn si\u0175r fy mod yn darparu gofal da o ansawdd uchel.<\/p><\/blockquote>\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid<\/h3>\n\n<p>rhwng Conwy a Sir Ddinbych sydd \u00e2 chyfrifoldeb statudol dros ddarparu camau ymyrryd a chefnogaeth i bobl ifanc a\u2019u teuluoedd.  Mae ein t\u00eem &#13;\nymyrryd yn gweithio yn ystod y camau cynnar er mwyn atal ymddygiad gwrthgymdeithasol a bod yn rhan o\u2019r system cyfiawnder troseddol. &#13;\n<\/p>\n\n<p>Dros y deuddeg mis diwethaf, gwelwyd llawer o weithgarwch yn y gwasanaeth, yn cynnwys arolygiad AEM a byddwn yn trafod hynny\u2019n ddiweddarach yn yr adroddiad.  Er enghraifft, dros yr wythnosau diwethaf mae ein pobl ifanc wedi cymryd rhan mewn cynllun peilot Canolfan Presenoldeb Ieuenctid.  Nod y Ganolfan yw canolbwyntio ar bobl ifanc drwy ddarparu sesiynau rhyngweithiol ac addysgiadol gyda phynciau a fydd yn eu cefnogi nhw gyda\u2019u dyheadau ar gyfer y dyfodol.  Mae pobl ifanc wedi cymryd rhan mewn bocsio a gweithgareddau hamdden adeiladol er mwyn hyrwyddo lles corfforol a meddyliol.<\/p>\n\n<p>Rydym wedi darparu sesiynau ymwybyddiaeth mewn ysgolion ar destunau megis troseddau gyda chyllyll a chamfanteisio.  Rydym hefyd wedi ymateb i\u2019r cynnydd mewn risg ac anghenion mewn ardaloedd targed megis Bae Colwyn, a gweithio ar ddulliau atal er mwyn lleihau gweithgarwch gwrthgymdeithasol sydd wedi gwaethygu ar \u00f4l dychwelyd i normalrwydd ar \u00f4l y pandemig. <\/p>\n\n<p>Rydym nawr yn darparu sesiynau p\u00eal-droed wythnosol gyda\u2019r gymuned leol ac yn ddiweddar daeth 20 o bobl ifanc i\u2019r sesiynau.  Mae\u2019r sesiynau\u2019n cynnig ymarfer corff ac yn cynnig diddordeb sy\u2019n gwyro unigolion oddi wrth weithgarwch gwrthgymdeithasol a chyflawni troseddau, a chynnig diben ac ystyr iddyn nhw. <\/p>\n\n<figure class=\"wp-block-image size-full\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"841\" height=\"541\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/Football-01.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-3023\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/Football-01.png 841w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/Football-01-300x193.png 300w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/Football-01-768x494.png 768w\" sizes=\"auto, (max-width: 841px) 100vw, 841px\" \/><\/figure>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae arweinyddiaeth effeithiol yn amlwg ar bob lefel gyda gweithlu hynod fedrus a chymwys a gefnogir yn dda yn rhannu&#8217;r un weledigaeth yn eu gwaith Cefnogi ein Gweithlu Fel rhan o waith recriwtio a chadw ein gweithlu, mae Conwy yn aelod o bartneriaeth MA mewn Gwaith Cymdeithasol ym Mhrifysgol Bangor. Fel rhan o hyn, bob [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":5,"featured_media":0,"parent":2986,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"_seopress_titles_title":"","_seopress_titles_desc":"","_seopress_robots_index":"","_seopress_robots_follow":"","_seopress_robots_imageindex":"","_seopress_robots_snippet":"","_seopress_robots_primary_cat":"","_seopress_robots_breadcrumbs":"","_seopress_robots_freeze_modified_date":"","_seopress_robots_custom_modified_date":"","_seopress_robots_canonical":"","_seopress_social_fb_title":"","_seopress_social_fb_desc":"","_seopress_social_fb_img":"","_seopress_social_fb_img_attachment_id":0,"_seopress_social_fb_img_width":0,"_seopress_social_fb_img_height":0,"_seopress_social_twitter_title":"","_seopress_social_twitter_desc":"","_seopress_social_twitter_img":"","_seopress_social_twitter_img_attachment_id":0,"_seopress_social_twitter_img_width":0,"_seopress_social_twitter_img_height":0,"_seopress_redirections_value":"","_seopress_redirections_enabled":"","_seopress_redirections_enabled_regex":"","_seopress_redirections_logged_status":"","_seopress_redirections_param":"","_seopress_redirections_type":0,"_seopress_analysis_target_kw":"","_genesis_hide_title":false,"_genesis_hide_breadcrumbs":false,"_genesis_hide_singular_image":false,"_genesis_hide_footer_widgets":false,"_genesis_custom_body_class":"","_genesis_custom_post_class":"","_genesis_layout":"","footnotes":""},"class_list":{"0":"post-3196","1":"page","2":"type-page","3":"status-publish","5":"entry"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/3196","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/5"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=3196"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/3196\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":3394,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/3196\/revisions\/3394"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/2986"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=3196"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}