{"id":3194,"date":"2022-08-15T16:16:02","date_gmt":"2022-08-15T15:16:02","guid":{"rendered":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/adroddiad-2021-22\/safon-ansawdd-7\/"},"modified":"2022-08-17T09:54:46","modified_gmt":"2022-08-17T08:54:46","slug":"safon-ansawdd-7","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/adroddiad-2021-22\/safon-ansawdd-7\/","title":{"rendered":"Safon Ansawdd 7"},"content":{"rendered":"\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Mae pobl yn cael eu diogelu rhag camdriniaeth ac esgeulustod a mathau eraill o niwed<\/h2>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Camfanteisio\u2019n Rhywiol ar Blant<\/h3>\n\n\n\n<p>Rydym wedi rhoi newidiadau ar waith ynghylch sut rydym yn cynnal ymchwiliadau amddiffyn plant Adran 47 sy\u2019n golygu eu bod nhw nawr yn cael eu cynnal dros gyfnod hirach. Mae hyn yn ein galluogi i gasglu gwybodaeth yn raddol a ffurfio perthynas gyda\u2019r dioddefwr ar sail ymddiriedaeth er mwyn eu galluogi i ddatgelu eu profiadau yn eu hamser eu hunain. Yn y gorffennol, efallai y byddem wedi ymweld \u00e2 nhw unwaith yn unig a heb gymryd camau pellach os na ddatgelwyd unrhyw beth yn ystod yr ymweliad hwnnw.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae Cynllun Gweithredu Conwy yn parhau i weithio yn unol \u00e2 Chynllun Gweithredu Llywodraeth Cymru, Atal ac Ymateb i Gam-drin Plant yn Rhywiol. Mae testun Perthnasoedd Iach wedi ei gynnwys ac rydym yn gweithio gyda phartneriaid yn y Gwasanaethau Addysg er mwyn sicrhau bod ysgolion yn cynnwys gwybodaeth am berthnasoedd iach fel rhan o faes llafur datblygiad personol y disgyblion.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"has-pale-cyan-blue-color has-text-color wp-block-heading\">Beth oedd yr heriau?<\/h4>\n\n\n\n<p>Cadw\u2019r momentwm a sicrhau bod pawb a gymerodd ran yn parhau i rannu gwybodaeth a newidiadau o ran arferion.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"has-pale-cyan-blue-color has-text-color wp-block-heading\">Beth nesaf?<\/h4>\n\n\n\n<p>Ym Mawrth 2022, fe wnaethom gyflwyno hyfforddiant Asesu, Ymyrryd a Symud Ymlaen sy\u2019n canolbwyntio ar asesu\u2019r person ifanc a\u2019u teulu ynghylch pryderon, risgiau a chryfderau\u2019r  person ifanc mewn pedwar prif faes: ymddygiad rhywiol ac anrhywiol, datblygiad, teulu ac amgylchedd, gan ystyried ffactorau statig a deinamig.  Cynigir yr hyfforddiant hwn i arweinwyr ymarfer amlasiantaethol, a fydd yn helpu i lunio llwybr atgyfeirio ar gyfer Ymddygiad Rhywiol Niweidiol. Yna bydd yr hyfforddiant a gynigir i ymarferwyr yn cael ei hwyluso gan arweinwyr ymarfer i\u2019r holl ymarferwyr ym maes gofal cymdeithasol yn ystod 2022.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Gwaith ataliol yn ein Canolfannau Teulu<\/h3>\n\n\n\n<p>Rhoddwyd sylw parhaus i sut gallwn ni, a\u2019n hasiantaethau partner, ganfod a chefnogi plant sydd mewn perygl o gael eu hecsbloetio drwy gydol 2021-22. Mae ein Canolfannau Teulu sefydledig sy\u2019n cynnig cyngor, arweiniad a chefnogaeth i deuluoedd wedi bod yn codi ymwybyddiaeth am Gam-drin Plant yn Rhywiol ac maen nhw wedi datblygu canolbwynt gwybodaeth newydd ar ein gwefan i gynnig gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth i blant a phobl ifanc, rhieni, gofalwyr a phobl yn y gymuned.<\/p>\n\n\n\n<p>Fe wnaeth y pum canolfan ddatblygu dyletswyddau arweinwyr ymarfer ar gyfer yr aelodau staff hynny sydd wedi cymryd rhan mewn sesiynau \u2018hyfforddi\u2019r hyfforddwr\u2019 gan The Lucy Faithfull Foundation. Mae hyn yn eu galluogi i gynnal cyrsiau Rhieni yn Amddiffyn gyda\u2019u timau a\u2019r rhieni ynghylch cam-drin plant yn rhywiol ac ymwybyddiaeth am gadw\u2019n ddiogel ar y we. <\/p>\n\n\n\n<iframe loading=\"lazy\" title=\"Cofia siarad PANTS gyda Pantosorws a\u2019i gan PANTS\" width=\"500\" height=\"281\" src=\"https:\/\/www.youtube.com\/embed\/2-GBXPKVUeY?feature=oembed\" frameborder=\"0\" allow=\"accelerometer; autoplay; clipboard-write; encrypted-media; gyroscope; picture-in-picture; web-share\" referrerpolicy=\"strict-origin-when-cross-origin\" allowfullscreen><\/iframe>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r Canolfannau Teulu hefyd wedi sefydlu fforwm amlasiantaethol i drafod plant maen nhw\u2019n gredu sydd mewn perygl o gael eu hecsbloetio, gyda chysylltiad agos \u00e2\u2019r gwasanaethau plant er mwyn sicrhau bod y lefel ymyrryd mwyaf addas yn cael ei roi ar waith. Fe wnaeth y Canolfannau hefyd lansio ymgyrch ar y cyfryngau cymdeithasol am ddiogelwch ar y we er mwyn hyrwyddo ein <a href=\"https:\/\/www.conwy.gov.uk\/cy\/Resident\/Social-Care-and-Wellbeing\/Healthy-living\/Internet-Safety\/Internet-Safety.aspx\">cynnwys newydd ar y we<\/a> ar gyfer plant, pobl ifanc a\u2019u teuluoedd. Ymhlith y testunau roedd gosod rheolyddion i rieni, defnyddio peiriannau chwilio diogel, defnyddio\u2019r cyfryngau cymdeithasol a gemau ar-lein. Nododd Arolygiaeth Gofal Cymru, yn eu Gwiriad Sicrwydd ym Mehefin 2021 bod:<\/p>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-style-plain is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p>Yr awdurdod lleol wedi dylunio tudalen am ddiogelwch ar y we sy\u2019n canolbwyntio ar gefnogi rhieni ynghylch risgiau a diogelwch i blant sy\u2019n defnyddio\u2019r rhyngrwyd. Mae hwn yn ddarn o waith pwysig gan gofio\u2019r pryder a fynegwyd am hyn yn ystod y pandemig.<\/p><cite>AGC<\/cite><\/blockquote>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid yn cydweithio gyda\u2019r Canolfannau Teulu er mwyn llunio llwybr ar gyfer haen isaf y camfanteisio troseddol er mwyn rhoi mesurau ymyrryd ar waith yn fuan. Mae\u2019r broses hon hefyd yn ffordd i roi prosesau diogelu effeithiol ar waith, er enghraifft yr angen i uwchgyfeirio at y gwasanaethau plant ar gyfer ymchwiliadau diogelu pan fo angen. <\/p>\n\n\n\n<p>Rhwng Medi 2020 a Mawrth 2021 cynhaliwyd cwrs hyfforddi a gafodd ei hwyluso gan y Ganolfan Ragoriaeth ym maes Cam-drin Plant yn Rhywiol, a mynychwyd y cwrs gan unigolion o asiantaethau partner megis Heddlu Gogledd Cymru, Iechyd, Addysg, T\u00eem Pobl Ddiamddiffyn a\u2019r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid. Roedd y cwrs yn cynnig gwybodaeth yn ymwneud \u00e2 gwaith ymchwil a dadansoddi data, a chafwyd siaradwyr  gwadd sy\u2019n gweithio gyda dioddefwyr a chyflawnwyr mewn meysydd gwahanol o Gam-drin Plant yn Rhywiol.  Rhannwyd gwybodaeth hefyd yngl\u0177n \u00e2 gofynion asesiadau, cefnogi dioddefwyr, cefnogi a gweithio gyda rhieni sydd ddim yn cam-drin, ac asesu a gweithio gyda chyflawnwyr. <\/p>\n\n\n\n<p>Mae hwn yn bwnc anodd a hynod sensitif, a oedd ar brydiau\u2019n ormod i nifer o\u2019r cyfranogwyr ar y cwrs, er hyn, roedd y gefnogaeth gan yr hwyluswyr a chan ein gilydd yn amhrisiadwy. Canlyniad hyn oll yw bod yr Awdurdod Lleol yn gallu ymateb yn well ac yn fwy hyderus i\u2019r rhan hwn o gam-drin plant.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Fforwm Amlasiantaethol Cam-drin Plant yn Rhywiol (MACSAF)<\/h3>\n\n\n\n<p>Fel rhan o\u2019n cynllun gweithredu Cam-drin Plant yn Rhywiol, rydym yn canolbwyntio ar godi ymwybyddiaeth am gam-drin plant yn rhywiol ymhlith rhieni, cymunedau a gweithwyr proffesiynol drwy:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Ddarparu hyfforddiant a datblygu\u2019r gweithlu.<\/li><li>Cynnig llwybrau cefnogi, yn cynnwys rhai ar gyfer goroeswyr.<\/li><li>Gwneud Conwy\u2019n lle diogel i bobl drafod eu pryderon.<\/li><li>Cynnig cefnogaeth a dulliau ymgynghori ar gyfer ymchwiliadau.<\/li><\/ul>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"575\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/Team-Around-Table-1024x575.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-3070\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/Team-Around-Table-1024x575.png 1024w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/Team-Around-Table-300x169.png 300w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/Team-Around-Table-768x432.png 768w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/Team-Around-Table-1536x863.png 1536w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/Team-Around-Table.png 1920w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p>Mae MACSAF yn gr\u0175p amlasiantaethol, yn cynnwys yr arweinwyr gwasanaeth a fynychodd y cwrs chwe mis y soniwyd amdano\u2019n gynharach, a rhai partneriaid allweddol eraill. Mae\u2019r gr\u0175p yn cwrdd bob deufis er mwyn:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Cynnal llyfrgell o adnoddau ac offer a pharhau i ychwanegu ati.<\/li><li>Meithrin cydweithrediad rhwng asiantaethau, yn cynnwys gweithwyr cymdeithasol, yr heddlu, cyfreithwyr, meddygon, nyrsys ac athrawon.<\/li><li>Trafod y datblygiadau diweddaraf ym maes ymchwil, gwybodaeth a gwasanaethau cefnogi.<\/li><li>Rhannu gwybodaeth gyda\u2019n cydweithwyr.<\/li><li>Dysgu ar sail ymarfer.<\/li><\/ul>\n\n\n\n<p>Bydd y t\u00eem yn rhannu\u2019r wybodaeth ddiweddaraf gyda chydweithwyr ddwywaith y flwyddyn ar ffurf newyddlen. <\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Camfanteisio ar blant: hanes goroeswr<\/h3>\n\n\n\n<p>Yn Rhagfyr 2021, fe wnaeth ein T\u00eem Gweithlu a Gwaith Maes Plant gomisiynu Sammy Woodhouse, un a oroesodd sgandal Camfanteisio\u2019n Rhywiol ar Blant yn Rotherham, i roi sgwrs a chynnal sesiwn cwestiwn ac ateb er mwyn helpu i godi ymwybyddiaeth am gamfanteisio\u2019n rhywiol ar blant.<\/p>\n\n\n\n<p>Llwyddodd Sammy i s\u00f4n sut y gwnaeth rhywun feithrin perthynas amhriodol \u00e2 hi yn ei harddegau, yn cynnwys sut y dechreuodd hynny, sut y datblygodd, a\u2019r rheolaeth, yr ymddygiad ymosodol a\u2019r bygythiadau a ddefnyddiwyd gan y rhai a oedd yn ei cham-drin. Roedd sesiynau ar gael ar gyfer pobl ifanc, staff ysgol a gweithwyr proffesiynol a oedd yn gysylltiedig \u00e2\u2019r byd addysg, rhieni, gofalwyr a theuluoedd, ac ar gyfer gweithwyr proffesiynol eraill a oedd yn gweithio ym maes gofal cymdeithasol, Heddlu Gogledd Cymru a BIPBC. Cynigiwyd slotiau i sefydliadau eraill hefyd megis Barnardo\u2019s, Haven of Light a The Lucy Faithfull Foundation, a Swyddfa\u2019r Comisiynydd Plant a Rheolwr Polisi Diogelu Llywodraeth Cymru. Mynychodd tua 230 o bobl y digwyddiad.<\/p>\n\n\n\n<p>Er ein bod bob amser yn ceisio codi ymwybyddiaeth am gamfanteisio\u2019n rhywiol ar blant, roedd clywed gan oroeswr yn creu llawer mwy o argraff ac nid oedd y sesiwn wedi\u2019i gyfyngu i weithwyr proffesiynol (sydd eisoes \u00e2 rhywfaint o ymwybyddiaeth) y tro hwn. Roedd darparu sesiwn ar gyfer pobl ifanc, rhieni a gofalwyr wedi helpu i gyfrannu at raglen ddiogelu mewn cyd-destun, a thaniodd hynny sgyrsiau am gamfanteisio rhwng ei gilydd a\u2019u cyfoedion, eu teulu a\u2019u ffrindiau.<\/p>\n\n\n\n<p>Cawsom adborth cadarnhaol ar \u00f4l y tri sesiwn, ac mae asiantaethau a gweithwyr proffesiynol eraill nawr wedi cysylltu \u00e2 Sammy i ofyn iddi roi sgyrsiau tebyg, yng Nghonwy ac yn ehangach dros Ogledd Cymru.<\/p>\n\n\n\n<p>Pan holwyd beth roedden nhw wedi ei ddysgu o\u2019r sesiwn, rhoddodd y mynychwyr y sylwadau hyn:<\/p>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p>Cefais fy ysbrydoli gan fod Sammy mor ddewr a\u2019i bod wedi llwyddo i s\u00f4n am ei phrofiadau ar \u00f4l popeth mae hi wedi ei ddioddef. Cefais fy synnu fod gweithwyr proffesiynol [yn Rotherham] wedi gadael iddo ddigwydd am gyn hired, ac nad oedden nhw\u2019n cymryd y pryderon o ddifrif.<\/p><\/blockquote>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p>Y realiti y gall Camfanteisio&#8217;n Rhywiol ar Blant ddigwydd i unrhyw un, yn unrhyw le, o dan yr amgylchiadau iawn.<\/p><\/blockquote>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-buttons is-layout-flex wp-block-buttons-is-layout-flex\">\n<div class=\"wp-block-button\"><a class=\"wp-block-button__link\" href=\"https:\/\/sammywoodhouse.com\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Gallwch ddarllen mwy am hanes Sammy yma https:\/\/sammywoodhouse.com <\/a><\/div>\n<\/div>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">T\u00eem Cryfhau Teuluoedd<\/h3>\n\n\n\n<p>Eleni rydym wedi cyflwyno Panel Amlasiantaethol Ymyrraeth Gynnar a Phanel Cam-drin Domestig.  Mae\u2019r ddau banel yn rhoi cyfle myfyriol i ymarferwyr siarad am y pryderon sydd ganddyn nhw am y teuluoedd maen nhw\u2019n gweithio gyda nhw.  Maen nhw\u2019n cael cyngor a chynigion o gefnogaeth i deuluoedd fel nad oes angen iddynt ddod o dan adain gwasanaethau gofal a reolir.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r gwasanaeth hwn yn parhau i ddatblygu rolau arbenigol yn y t\u00eem ac eleni mae gennym weithiwr penodol i weithio gyda theuluoedd yn ystod beichiogrwydd er mwyn eu helpu i ymdrin ag unrhyw faterion diogelu a ddaw i\u2019r amlwg yn gynnar. <\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"has-pale-cyan-blue-color has-text-color wp-block-heading\">Beth oedd yr heriau?<\/h4>\n\n\n\n<p>Roedd darparu camau ymyrryd wyneb yn wyneb yn heriol drwy gydol pandemig Covid-19.  Er gwaethaf hyn, mae\u2019r timau wedi parhau i ganfod ffyrdd arloesol i ymgysylltu \u00e2 theuluoedd drwy fanteisio i\u2019r eithaf ar ddefnyddio technoleg a\u2019r mannau sydd gan Gonwy i\u2019w cynnig yn yr awyr agored.  <\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r pandemig yn amlwg wedi effeithio ar deuluoedd mewn ffyrdd na allen ni eu rhagweld.  Gwelwyd cynnydd yn nifer yr atgyfeiriadau ar gyfer teuluoedd sydd bron iawn \u00e2 methu a phlant sy\u2019n dangos arwyddion cymhleth o drallod emosiynol.  Mae\u2019r t\u00eem wedi gweithio\u2019n ddiflino i gefnogi\u2019r teuluoedd hyn yn ogystal \u00e2 bod yn gyfrifol am rai tasgau a chyfrifoldebau timau eraill er mwyn rhannu\u2019r baich.  <\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"has-pale-cyan-blue-color has-text-color wp-block-heading\">Beth nesaf?<\/h4>\n\n\n\n<p>Eleni byddwn yn cyflwyno Model Yn Ddiogel a Chyda\u2019n Gilydd ledled Conwy. Mae\u2019r model hwn yn ddull newydd o weithio sy\u2019n seiliedig ar dystiolaeth ac sy\u2019n gwella canlyniadau i deuluoedd sydd wedi gweld effaith Cam-drin Domestig.  <\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Cael adborth gan blant sydd yn ein gofal<\/h3>\n\n\n\n<p>Rhaid neilltuo Swyddog Adolygu Annibynnol ar gyfer pob plentyn sydd yng ngofal yr Awdurdod Lleol, a r\u00f4l y swyddog yw goruchwylio achos plentyn a sicrhau bod eu buddiannau\u2019n cael eu hamddiffyn drwy gydol eu hamser mewn gofal.  Rhaid i\u2019r Swyddogion sicrhau eu bod yn:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Annog llais y plentyn<\/li><li>Sicrhau bod cynllun gofal a chymorth y plentyn yn gyfredol, yn effeithiol ac yn briodol i anghenion y plentyn<\/li><li>Cynnig mynediad at wasanaethau eirioli i\u2019r plentyn<\/li><li>Monitro gweithgarwch yr Awdurdod Lleol fel Rhiant Corfforaethol<\/li><\/ul>\n\n\n\n<p>Mae plant wedi datgan y dylai\u2019r Swyddogion wrando arnyn nhw, gwneud yn si\u0175r eu bod yn hapus gyda\u2019u cynlluniau gofal a chymorth, sicrhau bod rhywun yn gwrando ar eu barn, a sicrhau bod eu cynlluniau\u2019n cael eu darparu\u2019n gywir. Dylai\u2019r Swyddogion fod yn ddigon pwerus i gywiro pethau, cadw mewn cysylltiad \u00e2 phob plentyn maen nhw\u2019n ei gefnogi rhwng cyfarfodydd adolygu, gweld y plentyn mewn sesiynau un-i-un ac esbonio penderfyniadau pwysig.<\/p>\n\n\n\n<p>Wrth baratoi ar gyfer adolygiad pob plentyn, gofynnir iddyn nhw ddweud sut maen nhw\u2019n teimlo am y lle maen nhw\u2019n byw, pwy maen nhw\u2019n treulio amser gyda nhw, y t\u00eem sy\u2019n eu cefnogi a\u2019r hyn sy\u2019n bwysig iddyn nhw. Yna gall y Swyddogion ddefnyddio\u2019r wybodaeth hon i ddechrau sgyrsiau am les a chynnydd y plentyn mewn ffordd sy\u2019n cael ei harwain gan y plentyn. Dyma flas o\u2019r hyn a ddywedodd y plant a\u2019r bobl ifanc wrthym ni:<\/p>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p>Rwy\u2019n teimlo\u2019n hapus gyda fy ngofalwr maeth ac rwyf yn mwynhau popeth rydym yn ei wneud gyda\u2019n gilydd.<\/p><\/blockquote>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p>Mae popeth yn mynd yn dda ac rwyf yn mwynhau fy mhrentisiaeth newydd ym maes Gofal Plant yn fawr.<\/p><\/blockquote>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p>Rwyf yn hapus gyda fy ystafell wely gan ei bod yn hyfryd. Rwyf wrth fy modd yn cael hwyl ac yn bwyta bwyd blasus, yn enwedig siocled taenu.<\/p><\/blockquote>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p>Rwyf eisiau derbyn gofal maeth, mae fy rhieni\u2019n edrych ar fy \u00f4l ac mae gen i olygfeydd braf a llefydd braf i fynd am dro. Rwy\u2019n hoffi\u2019r t\u0177 ac mae gen i anifeiliaid anwes. Dyma\u2019r lle gorau i fyw.<\/p><\/blockquote>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Digwyddiadau Wythnos Ddiogelu 2021<\/h3>\n\n\n\n<p>Oherwydd cyfyngiadau parhaus Covid-19, fe wnaeth ein Huned Ddiogelu unwaith eto drefnu digwyddiadau ar-lein i nodi\u2019r Wythnos Ddiogelu ym mis Tachwedd. Cynigiwyd dau sesiwn yr un fath \u00e2\u2019i gilydd i holl staff Cyngor Conwy a oedd yn cynnwys:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Y Cynghorydd Cheryl Carlisle yn agor yr Wythnos Ddiogelu<\/li><li>Mae Diogelu\u2019n Fusnes i Bawb.<\/li><li>Cynllun gweithredu Cam-drin Plant yn Rhywiol a lansio ein tudalennau newydd ar y we.<\/li><li>Codi ymwybyddiaeth am ddiogelu yng nghyd-destun cam-drin pobl h\u0177n.<\/li><\/ul>\n\n\n\n<p>Daeth cyfanswm o 54 aelod o staff i\u2019r sesiynau o bob rhan o\u2019r sefydliad ac roedd yr adborth a gafwyd ganddyn nhw\u2019n ddiweddarach yn gadarnhaol iawn. Roedden nhw\u2019n gwerthfawrogi\u2019r digwyddiad ac yn awyddus i rannu\u2019r wybodaeth gyda\u2019u timau eu hunain.<\/p>\n\n\n\n<p>Fe wnaeth yr Uned Ddiogelu hefyd gynnal y Fforwm Diogelu Plant yn ystod yr Wythnos Ddiogelu, a chodi ymwybyddiaeth a meithrin gwybodaeth ymhlith staff rheoli am destunau amrywiol a nodi meysydd ar gyfer datblygiad pellach. Trafodwyd:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Prosesau a chamau ymyrryd y T\u00eem Cryfhau Teuluoedd cyn geni, a\u2019u nod i leihau nifer y babanod yng Nghonwy sy\u2019n cael eu cymryd oddi ar eu teuluoedd adeg eu geni.<\/li><li>Y wybodaeth ddiweddaraf gan y Swyddog Cyswllt Amenedigol a Seiciatrig am sut mae eu gwasanaeth yn parhau i dyfu, y lefelau cyfranogiad, a sut maen nhw\u2019n cefnogi rhieni gyda\u2019u hiechyd meddwl.<\/li><li>Mae Protocol Bwrdd Diogelu Plant Gogledd Cymru, sy\u2019n cefnogi plant a rhieni, yn cael ei adolygu ar hyn o bryd. Fe wnaethom nodi\u2019r angen i gynnal asesiadau ar y cyd, ar gyfer y rhiant sydd \u00e2 phroblemau iechyd meddwl, ac anghenion y plentyn.<\/li><li>Adolygiad Barnwrol a\u2019r Gyfraith Gyhoeddus yn Diwygio Mesurau Amddiffyn Plant; rhoddwyd y wybodaeth ddiweddaraf gan y grwpiau tasg a gorffen presennol sy\u2019n sicrhau bod prosesau\u2019n cael eu diweddaru i gyd-fynd ag argymhellion yr adolygiad hwn.<\/li><li>Achos \u00e2 chanlyniad cadarnhaol, sy\u2019n dangos sut y cyflwynwyd camau ymyrryd llwyddiannus a sut y cefnogwyd rhieni i wneud y newidiadau angenrheidiol er mwyn cadw eu teulu gyda\u2019i gilydd.<\/li><\/ul>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Mesurau Diogelu Cyd-destunol ar gyfer Oedolion<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae mesurau diogelu cyd-destunol yn edrych ar bob agwedd ym mywyd unigolion sydd mewn perygl, yn cynnwys eu cartref, eu teulu, eu cyfoedion, eu cymdogaeth a\u2019u cysylltiadau er mwyn cael delwedd gyfannol o\u2019r peryglon sy\u2019n eu rhoi mewn perygl o niwed. \n\nAethom ati i ddefnyddio\u2019r dull hwn mewn ardal a oedd yn peri pryder ym Mae Colwyn, lle daeth problemau diogelu oedolion ac ymddygiad gwrthgymdeithasol i\u2019r amlwg. Trefnwyd cyfarfod strategol eithriadol, ac ar \u00f4l sawl trafodaeth, penderfynwyd y dylid mabwysiadu model Diogelu Cyd-destunol, er mwyn llywio\u2019r cyfarfod amlasiantaethol yn llwyddiannus a sicrhau bod camau gweithredu eglur yn eu lle i gefnogi\u2019r maes dan sylw (yn hytrach na chanolbwyntio\u2019n gyfan gwbl ar achosion unigol drwy\u2019r dull rheoli achosion arferol). \n<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-full\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"507\" height=\"363\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/Safeguarding-Diagram-Welsh-1.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-3224\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/Safeguarding-Diagram-Welsh-1.png 507w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/Safeguarding-Diagram-Welsh-1-300x215.png 300w\" sizes=\"auto, (max-width: 507px) 100vw, 507px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p>Cytunwyd yn y cyfarfod y dylid datblygu\u2019r elfennau canlynol:<\/p>\n\n\n\n<ol class=\"wp-block-list\" type=\"1\"><li>Cylch gorchwyl eglur, meini prawf Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol ac adnoddau i gefnogi\u2019r model diogelu Cyd-destunol wrth weithio ar y safle.<\/li><li>Cyfarfod amlasiantaethol wythnosol i drafod, gan ddod \u00e2\u2019r holl bartneriaid ynghyd er mwyn sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei rhannu\u2019n brydlon ac yn effeithiol, a gweithio ar y cyd. Mae hyn wedi arwain at uwchgyfeirio materion a\u2019u cefnogi\u2019n gynharach yn y broses, gan sicrhau bod y partneriaid cywir yn ymateb ar yr adeg iawn, ac yn ymdrin \u00e2 digwyddiadau\u2019n well ac yn brydlon.<\/li><li>Cytunwyd y gellir defnyddio fflat gwag ar y safle fel cyfleuster galw heibio dros dro ar gyfer cyfweliadau fel y gellir gweld unigolion ar y safle y tu allan i\u2019w tenantiaeth eu hunain, sicrhau dulliau gweithio ar eich pen eich hun effeithiol a threfniadau cyd-asiantaethol a\u2019i gwneud yn haws i unigolion fynychu cyfweliadau a chyfarfodydd.<\/li><\/ol>\n\n\n\n<h4 class=\"has-pale-cyan-blue-color has-text-color wp-block-heading\">Beth oedd yr heriau?<\/h4>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Sicrhau bod partneriaid allweddol yn gyson o ran y gweithgareddau a gynhelir o amgylch safle Bae Colwyn. Er enghraifft, roedd y partneriaid yn pryderu bod gweithgarwch a phresenoldeb yr heddlu yn anghyson, serch hynny, yn dilyn trafodaethau pellach cadarnhawyd nad oedd llawer o weithgarwch troseddol ar y safle a bod mwyafrif yr hyn yr adroddwyd yn eu cylch yn ymwneud \u00e2 phryderon diogelu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.<\/li><li>Mae diffyg llety amgen wedi arwain at orfod mabwysiadu dull diogelu cyd-destunol, a byddai sicrhau bod llawer o denantiaid ar y safle\u2019n symud ymlaen yn lliniaru llawer o\u2019r pryderon a\u2019r ymddygiad.<\/li><\/ul>\n\n\n\n<h4 class=\"has-pale-cyan-blue-color has-text-color wp-block-heading\">Beth nesaf?<\/h4>\n\n\n\n<p>Bydd y cyfarfodydd yn parhau hyd nes y gellir canfod llety amgen. Mae\u2019r cyfarfodydd wythnosol yn cynnig dull effeithiol sy\u2019n canolbwyntio ar dasgau er mwyn ymateb i\u2019r problemau sydd ar y safle ar hyn o bryd.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Mesurau Diogelu Cyd-destunol ar gyfer Plant\/Pobl Ifanc<\/h3>\n\n\n\n<p>Sefydlir dau fforwm Camfanteisio Cyd-destunol amlasiantaethol er mwyn dod ag asiantaethau partner ynghyd i drafod y bobl ifanc hynny sy\u2019n ddiamddiffyn ac mewn perygl o gael eu hecsbloetio. Nod y fforwm hwn yw dod \u00e2 gweithwyr proffesiynol amlasiantaethol ynghyd bob chwech i wyth wythnos fel y gellir rhannu gwybodaeth a helpu i leihau nifer yr unigolion yng Nghonwy sy\u2019n ddiamddiffyn a\/neu mewn perygl o gael eu hecsbloetio ym mhob ffordd.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r fforwm yn ein helpu i greu strategaethau canfod yn gynnar, atal a chreu dulliau amharu ond mae hefyd yn ei gwneud yn haws rhannu gwybodaeth am bobl sy\u2019n peri pryder a\u2019i gwneud yn agored i Awdurdodau neu asiantaethau os oes pryderon eisoes yn bodoli.  <\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"has-pale-cyan-blue-color has-text-color wp-block-heading\">Beth yw\u2019r heriau ar hyn o bryd?<\/h4>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Cadw ffocws gyda phartneriaid amlasiantaethol, gwella dealltwriaeth partneriaid amlasiantaethol, heb adolygu gwaith achos, i drafod ac ystyried dulliau atal, amharu pan fydd pobl ifanc yn ymwneud \u00e2 phobl ifanc h\u0177n ac oedolion sy\u2019n cael eu hystyried i fod mewn perygl.    <\/li><li>Cynhelir pob cyfarfod dros y we, gall hyn fod yn anodd ar brydiau oherwydd nifer y gweithwyr proffesiynol sy\u2019n bresennol, yn ogystal \u00e2 mapio ymarferion ar-lein. <\/li><li>Mae Awdurdodau Lleol cyfagos yn cynnal fforymau tebyg ac mae\u2019n hanfodol ein bod yn rhannu gwybodaeth rhwng y siroedd mewn perthynas \u00e2 phobl ifanc ac oedolion.<\/li><\/ul>\n\n\n\n<h4 class=\"has-pale-cyan-blue-color has-text-color wp-block-heading\">Beth nesaf?<\/h4>\n\n\n\n<p>Bydd y fforymau\u2019n cael eu lansio ym Mawrth 2022 i gyd-fynd \u00e2 diwrnod Camfanteisio ar Blant a byddan nhw\u2019n parhau bob chwech i wyth wythnos. Byddwn yn eu hadolygu ar \u00f4l deuddeg mis er mwyn ystyried y diben, unrhyw ganlyniadau cadarnhaol a nodi unrhyw them\u00e2u newydd efallai y bydd angen rhoi sylw iddynt.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Astudiaeth achos Caethwasiaeth Fodern<\/h3>\n\n\n\n<p>Ar \u00f4l derbyn gwybodaeth gan Heddlu Gogledd Cymru a Llinell Gymorth Genedlaethol Caethwasiaeth Fodern ym Medi 2021, tynnwyd ein sylw at bryderon bod asiantaeth gofal cymdeithasol breifat, a ffurfiwyd o\u2019r newydd, yn gweithredu yn ardal Conwy a\u2019i bod yn darparu gweithwyr gofal asiantaeth a oedd yn ymddangos fel dioddefwyr posibl o gaethwasiaeth fodern. Wrth ymateb i\u2019r pryderon hyn, cynhaliwyd cyfarfodydd strategol amlasiantaethol llawn gyda phartneriaid allweddol, yn cynnwys y gwasanaeth Iechyd, Heddlu Gogledd Cymru, Arolygiaeth Gofal Cymru a Chyngor Sir Ddinbych. Roedd y cyfarfodydd cychwynnol yn gudd ac yn ymwybodol y gallai unrhyw ymholiadau neu gamau ymyrryd wedi\u2019u hamseru\u2019n wael beryglu ymholiadau ac ymchwiliadau posibl gan yr heddlu. Ar hyn o bryd, mae\u2019r achos yn parhau i gael ei ymchwilio gan yr Awdurdod Meistri Gangiau a Cham-drin Gweithwyr felly mae\u2019r camau isod yn amlinellu\u2019r gwaith a wnaed hyd yma gan yr Awdurdod Lleol a\u2019i bartneriaid.<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Ymholiadau gyda darparwyr a chartrefi gofal ynghylch eu profiad nhw o ddefnyddio\u2019r asiantaeth dan sylw, drwy ddulliau cudd a sensitif yn wreiddiol.<\/li><li>Cyfathrebu gyda\u2019r holl ddarparwyr er mwyn eu hatgoffa am eu dyletswyddau a chofio sicrhau bod dulliau recriwtio diogel yn cael eu dilyn bob amser wrth ddefnyddio staff asiantaeth.<\/li><li>Cynnal goruchwyliaeth ddiogelu mewn cartrefi gofal yn yr ardal er mwyn sicrhau, cymaint \u00e2 phosibl, nad yw preswylwyr yn cael eu rhoi mewn perygl o ganlyniad i\u2019r staff asiantaeth sy\u2019n darparu gofal.<\/li><li>Sicrhau bod cydweithwyr t\u00eem yn y Ganolfan Ddiogelu Amlasiantaethol yn cael eu briffio\u2019n llawn ac yn cael eu harwain ar sut i gasglu pryderon diogelu penodol yn y dyddiau cynnar. <\/li><li>Partneriaid yn cydweithio\u2019n agos pan ddechreuodd yr Awdurdod Meistri Gangiau a Cham-drin Gweithwyr ar eu camau gweithredu.<\/li><li>Cymryd camau gweithredu eglur gyda chefnogaeth gan y T\u00eem Pobl Ddiamddiffyn er mwyn cefnogi a chynghori\u2019r dioddefwyr yn yr achos. <\/li><li>Cychwyn a datblygu cyfarfodydd swyddi ag ymddiriedaeth. <\/li><li>Cynnal sesiwn \u00f4l-drafodaeth er mwyn trafod yr hyn a ddysgwyd yn y broses.<\/li><\/ul>\n\n\n\n<h4 class=\"has-pale-cyan-blue-color has-text-color wp-block-heading\">Beth oedd yr heriau?<\/h4>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Sicrhau bod yr holl bartneriaid yn ymateb yn gyson i ddifrifoldeb y pryderon a godwyd. <\/li><li>Sicrhau bod cydbwysedd rhwng cynnal gofal diogel yn y cartrefi gofal, yn ogystal \u00e2 chynnal agwedd gyfrinachol a chudd ar yr un pryd. <\/li><li>Dirprwyo tasgau a pha sefydliad a fu\u2019n arwain ar dasgau penodol yn yr ymchwiliad ehangach.  <\/li><li>Nodi timau\/gweithwyr cymdeithasol allweddol i gefnogi\u2019r broses h.y. cwblhawyd prosesau Adran 126 gan d\u00eem penodol a rhoddodd hyn bwysau ychwanegol arnyn nhw. <\/li><\/ul>\n\n\n\n<h4 class=\"has-pale-cyan-blue-color has-text-color wp-block-heading\">Beth nesaf?<\/h4>\n\n\n\n<p>Rydym yn disgwyl i ymchwiliad yr Awdurdod Meistri Gangiau a Cham-drin Gweithwyr gael ei gwblhau a gweld beth fydd y canlyniad, ac rydym yn rhagweld y byddwn yn dysgu o gyfarfod canlyniadau\u2019r \u00f4l-drafodaeth.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Atal radicaleiddio<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r strategaeth Prevent, a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU yn 2011, yn rhan o strategaeth wrthderfysgaeth gyffredinol y DU, sef CONTEST. Nod strategaeth Prevent yw lleihau\u2019r bygythiad i\u2019r DU o derfysgaeth trwy atal pobl rhag dod yn derfysgwyr neu gefnogi terfysgaeth. Ceir tair amcan strategol benodol yn y strategaeth.<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Ymateb i her ideolegol terfysgaeth a\u2019r bygythiad gan y rheiny sy\u2019n ei hyrwyddo.<\/li><li>Atal pobl rhag cael eu tynnu i mewn i derfysgaeth a sicrhau eu bod yn cael cyngor a chefnogaeth briodol.<\/li><li>Gweithio gyda sectorau a sefydliadau lle ceir risg o radicaleiddio y mae angen i ni roi sylw iddynt.<\/li><\/ul>\n\n\n\n<p>Yn ystod y flwyddyn adrodd lansiwyd y Strategaeth Prevent dros dair blynedd, sef fframwaith sy\u2019n ein galluogi i drefnu gwaith mewn partneriaeth er mwyn diogelu\u2019r rhai sydd mewn perygl o gael eu radicaleiddio. Yn ystod Wythnos Genedlaethol Diogelu ym mis Tachwedd 2021, fe wnaethom gynnal cynhadledd i godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth am y gwaith pwysig sy\u2019n cael ei wneud dan ymbar\u00e9l Contest a Prevent yng Nghymru. Croesawyd nifer o gyflwynwyr yn cynnwys yr Athro Tracy Daszkiewicz, Dirprwy Gyfarwyddwr Iechyd a Llesiant y Boblogaeth. Roedd hi\u2019n allweddol yn yr ymateb i\u2019r argyfwng a oedd yn cynnwys nifer o asiantaethau, gan weithio bob awr o\u2019r dydd, er mwyn lleihau niwed a diogelu iechyd y cyhoedd pan gafodd Sergei ac Yulia Skripal eu gwenwyno gyda Novichok yn Salisbury yn 2018.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-full\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"866\" height=\"727\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/VirtualGroupBlank-01.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-3075\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/VirtualGroupBlank-01.png 866w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/VirtualGroupBlank-01-300x252.png 300w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/VirtualGroupBlank-01-768x645.png 768w\" sizes=\"auto, (max-width: 866px) 100vw, 866px\" \/><\/figure>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae pobl yn cael eu diogelu rhag camdriniaeth ac esgeulustod a mathau eraill o niwed Camfanteisio\u2019n Rhywiol ar Blant Rydym wedi rhoi newidiadau ar waith ynghylch sut rydym yn cynnal ymchwiliadau amddiffyn plant Adran 47 sy\u2019n golygu eu bod nhw nawr yn cael eu cynnal dros gyfnod hirach. Mae hyn yn ein galluogi i gasglu [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":5,"featured_media":0,"parent":2986,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"_seopress_robots_primary_cat":"","_seopress_titles_title":"","_seopress_titles_desc":"","_seopress_robots_index":"","_genesis_hide_title":false,"_genesis_hide_breadcrumbs":false,"_genesis_hide_singular_image":false,"_genesis_hide_footer_widgets":false,"_genesis_custom_body_class":"","_genesis_custom_post_class":"","_genesis_layout":"","footnotes":""},"class_list":{"0":"post-3194","1":"page","2":"type-page","3":"status-publish","5":"entry"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/3194","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/5"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=3194"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/3194\/revisions"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/2986"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=3194"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}