{"id":3192,"date":"2022-08-15T16:14:54","date_gmt":"2022-08-15T15:14:54","guid":{"rendered":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/adroddiad-2021-22\/yr-hyn-y-dywedom-y-byddem-yn-ei-wneud\/"},"modified":"2022-08-15T16:14:55","modified_gmt":"2022-08-15T15:14:55","slug":"yr-hyn-y-dywedom-y-byddem-yn-ei-wneud","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/adroddiad-2021-22\/yr-hyn-y-dywedom-y-byddem-yn-ei-wneud\/","title":{"rendered":"Yr hyn y dywedom y byddem yn ei wneud"},"content":{"rendered":"\n<p>Yma byddwn yn edrych yn \u00f4l ar y meysydd gwaith roeddem yn bwriadu eu cyflawni yn ystod 2021-22, a rhoi\u2019r wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn a ddigwyddodd.<\/p>\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Cynllun peilot y Ganolfan Ddiogelu Amlasiantaethol<\/h3>\n\n<p>Y llynedd buom yn s\u00f4n am gynllun peilot Canolfan Ddiogelu Amlasiantaethol, lle bydd swyddogion o\u2019r gwasanaethau Gofal Cymdeithasol, Iechyd a Heddlu Gogledd Cymru yn gweithio gyda\u2019i gilydd i ddiogelu oedolion a phlant yng Nghonwy. Cafodd y cynllun peilot ei lansio ym Mehefin 2021, gan brosesu adroddiadau diogelu oedolion yn unig yn y lle cyntaf, ac yna adroddiadau plant yn ddiweddarach ym mis Tachwedd.<\/p>\n\n<p>Rydym eisoes yn gweld manteision gweithio mewn ffordd amlddisgyblaethol, gan fod cydweithio\u2019n cynnig:<\/p>\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Trefn well i lunio penderfyniadau ar sail gwybodaeth drwy gael cyfuniad o wybodaeth am bob asiantaeth.<\/li><li>Dull \u2018y darlun ehangach\u2019 sy\u2019n sicrhau bod pob ffactor wedi cael ei hystyried yn ystod y broses sgrinio pan dderbynnir adroddiadau am unigolion sydd mewn perygl. <\/li><li>Llai o oedi, a fyddai\u2019n digwydd yn y gorffennol pan fyddai penderfyniadau\u2019n cael eu gwneud ar eu pen eu hunain, neu os byddai\u2019r wybodaeth yn anghyflawn.<\/li><li>Ffyrdd o weithio mwy effeithiol ac effeithlon.<\/li><li>Nodi pryderon sy\u2019n cael eu hailadrodd a fyddai heb gael eu canfod am gyfnod hirach yn y gorffennol.<\/li><\/ul>\n<p>Yn y dyfodol fe hoffem gynyddu ein cydleoliadau wyneb yn wyneb yn y swyddfa, ac yn benodol caniat\u00e1u i Ymchwilydd Heddlu Gogledd Cymru weithio ochr yn ochr \u00e2\u2019u cydweithwyr yn yr Awdurdod Lleol er mwyn ei gwneud yn haws rhannu gwybodaeth.  Wrth i ni ddechrau Cam Dau y cynllun peilot, rydym yn gobeithio y gallwn ni groesawu asiantaethau eraill, a bwriadwn gysylltu \u00e2\u2019r adran Addysg, y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid a\u2019r gwasanaeth Iechyd i benderfynu pa gyfraniadau y gallen nhw eu gwneud i\u2019r Ganolfan Ddiogelu Amlasiantaethol.<\/p>\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Rhoi ap \u2018Mind of My Own\u2019 ar waith<\/h3>\n\n<p>Yn adroddiad y llynedd fe ddywedom wrthych am ein cynlluniau i gyflwyno ap \u2018Mind of My Own\u2019 sy\u2019n rhoi cyfle i blant a phobl ifanc ddweud eu dweud a lleisio\u2019u barn (yn ogystal \u00e2 dulliau cyfathrebu eraill). Lansiwyd yr ap yn 2021 ar gyfer plant a phobl ifanc sy\u2019n dod i gysylltiad \u00e2\u2019n gwasanaethau.  Gellir defnyddio\u2019r apiau ar ff\u00f4n clyfar, llechen neu gyfrifiadur personol\/gliniadur. Gall plant mor ifanc \u00e2 thair oed ddefnyddio\u2019r apiau a gellir naill ai cefnogi plant a phobl ifanc i\u2019w defnyddio neu gallan nhw barhau ar eu pen eu hunain. Mae\u2019r ffigyrau\u2019n awgrymu bod nifer dda\u2019n defnyddio\u2019r ap ac rydym eisoes yn gweld canlyniadau gwell, er enghraifft, ymgysylltiad gwell gyda phlant a phobl ifanc sy\u2019n derbyn gofal, mwy o ddulliau cyfathrebu i asesu diogelwch plant, a dulliau ymgysylltu mwy modern a dulliau eraill a ffefrir. <\/p>\n\n<h4 class=\"has-pale-cyan-blue-color has-text-color wp-block-heading\">Beth oedd yr heriau?<\/h4>\n\n<p>Y prif heriau a welwyd oedd hybu defnydd o\u2019r apiau ymhlith ystod oedran eang o blant a phobl ifanc, a sicrhau bod yr apiau\u2019n cefnogi ein gwaith gyda phlant a theuluoedd er mwyn cryfhau llais y plentyn.   Serch hynny, ers mis Mehefin 2021, rydym wedi gweld cynnydd graddol yn nifer y plant ac aelodau staff sy\u2019n defnyddio\u2019r apiau. <\/p>\n\n<figure class=\"wp-block-embed is-type-video is-provider-vimeo wp-block-embed-vimeo wp-embed-aspect-16-9 wp-has-aspect-ratio\"><div class=\"wp-block-embed__wrapper\">\r\n<iframe loading=\"lazy\" title=\"All About Mind Of My Own\" src=\"https:\/\/player.vimeo.com\/video\/322192496?dnt=1&amp;app_id=122963\" width=\"500\" height=\"281\" frameborder=\"0\" allow=\"autoplay; fullscreen; picture-in-picture; clipboard-write\"><\/iframe>\r\n<\/div><\/figure>\r\n\n<h3 class=\"has-pale-cyan-blue-color has-text-color wp-block-heading\">Beth nesaf?<\/h3>\n\n<p>Rydym yn trefnu sesiynau hyfforddi a fydd yn dechrau\u2019n fuan.  I godi mwy o ymwybyddiaeth ymhlith staff, rydym wedi creu tudalen ar y fewnrwyd i ganfod rhagor o wybodaeth am \u2018Mind of My Own\u2019, ynghyd \u00e2 dolenni i staff gadw lle ar sesiynau hyfforddi. Rydym wedi cofrestru ar gyfer cynllun \u2018Mind of My Own\u2019 am ddwy flynedd, ac rydym yn gobeithio gwerthuso\u2019i effeithiolrwydd yn ystod y cyfnod hwnnw. <\/p>\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Canoli dulliau mewnbynnu absenoldeb gan y Ganolfan Staffio<\/h3>\n\n<p>Y tro diwethaf fe soniom fod y Ganolfan Staffio wedi ei chreu er mwyn ymateb i\u2019r angen i gasglu data staff, yn enwedig cyfraddau absenoldeb staff, o ganlyniad i effaith pandemig Covid-19.  Cafodd y Ganolfan Staffio ei chreu er mwyn sicrhau bod gennym ddigon o staff i ddarparu gwasanaethau ar y rheng flaen pe bai nifer fawr o achosion yn codi.  Dros flwyddyn yn ddiweddarach, mae\u2019r Ganolfan Staffio bellach yn rhan annatod o\u2019n gwaith arferol ac mae\u2019n rhan o lwyth gwaith t\u00eem Cymorth Busnes y Gweithlu.  Mae\u2019r t\u00eem nawr yn gyfrifol am fewnbynnu pob absenoldeb staff dros y gwasanaeth cyfan. <\/p>\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Defnyddio staff banc i ddarparu cymorth ychwanegol<\/h3>\n\n<p>Mae\u2019r pandemig wedi creu prinder brys ac annisgwyl o weithwyr gofal mewn cartrefi gofal ledled Gogledd Cymru.  Fel rhan o femorandwm o ddealltwriaeth gyda BIPBC, cytunwyd y byddai staff banc BIPBC yn cael eu defnyddio i gefnogi cartrefi gofal.  Conwy fu\u2019n arwain ar ran awdurdodau lleol Gogledd Cymru er mwyn gweithio gyda BIPBC i sefydlu\u2019r trefniadau hyn.   <\/p>\n\n<h3 class=\"has-pale-cyan-blue-color has-text-color wp-block-heading\">Beth nesaf?<\/h3>\n\n<p>Rydym yn gweithio tuag at ddatblygu asiantaeth gofal cymdeithasol ranbarthol sy\u2019n ymgorffori staff banc BIPBC.  Byddai hyn yn helpu i liniaru prinder staff mewn unrhyw sefyllfaoedd o argyfwng yn y dyfodol, a chryfhau\u2019r gweithlu. Rydym yn parhau i gwrdd \u00e2\u2019n cydweithwyr yn BIPBC er mwyn gweithio ar bapur dewisiadau ar gyfer y Bwrdd Gweithlu Rhanbarthol, a chaiff ei gyflwyno yng nghyfarfod y Bwrdd yn fuan.<\/p>\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Mabwysiadau Cod Ymarfer a Fframwaith Rheoli Perfformiad newydd Llywodraeth Cymru<\/h3>\n\n<p>Rydym eisoes wedi dweud wrthych am God Ymarfer a Fframwaith Rheoli Perfformiad newydd Llywodraeth Cymru.  Mae\u2019r Cod a\u2019r Fframwaith Perfformiad newydd wedi cael eu rhoi ar waith ers mis Ebrill 2020.  Mae\u2019r fframwaith yn cynnwys set newydd o fetrigau perfformiad cenedlaethol statudol, sy\u2019n disodli ein dangosyddion blaenorol.   Mae\u2019n ofynnol i ni gyflwyno adroddiad am y metrigau hyn i Lywodraeth Cymru bob blwyddyn.  Dros y deuddeg mis diwethaf, rydym wedi gwneud llawer o waith i sicrhau bod ein system rheoli cleientiaid yn gallu casglu ac adrodd am y wybodaeth sydd ei hangen.  Mae ein prif feysydd gwaith wedi canolbwyntio ar lunio\u2019r adroddiadau angenrheidiol er mwyn casglu\u2019r wybodaeth a sicrhau bod ein data\u2019n gywir.  Rydym hefyd wedi trafod gyda Llywodraeth Cymru os oedd angen esboniad neu ganllawiau pellach. <\/p>\n\n<p>Mae\u2019r Fframwaith Rheoli Perfformiad newydd nawr wedi cael ei ymgorffori yn ein prosesau busnes fel rhan o\u2019n trefn arferol.  Rydym yn parhau i lunio adroddiadau ar gyfer y metrigau newydd yn rheolaidd er mwyn sicrhau cywirdeb data a monitro perfformiad ar lefel leol.<\/p>\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Prosiect Datblygu Gwasanaethau Plant<\/h3>\n\n<p>Rydym eisoes wedi s\u00f4n am bwrpas Prosiect Datblygu Gwasanaethau Plant.  Y nod yw rhoi newidiadau ar waith er mwyn sicrhau gwasanaeth diogel, effeithiol ac ariannol gynaliadwy.  Mae\u2019r cynllun prosiect yn canolbwyntio ar bedair thema:<\/p>\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>\u2022\tGweithlu ac ymarfer<\/li><li>\u2022\tLleihau\u2019r niferoedd cynyddol o Blant sy&#8217;n Derbyn Gofal<\/li><li>\u2022\tY gallu i ddad-uwchgyfeirio plant sydd ag anghenion cymhleth  <\/li><li>\u2022\tSicrhau bod cymorth a lleoedd digonol, sefydlog o ansawdd uchel ar gael i Blant sy\u2019n Derbyn Gofal.<\/li><\/ul>\n<h4 class=\"has-pale-cyan-blue-color has-text-color wp-block-heading\">Gweithlu ac Ymarfer<\/h4>\n\n<p>Ym maes Gweithlu ac Ymarfer, gwelwyd cynnydd mewn nifer o ffrydiau gwaith, yn cynnwys dechrau ein Canolfan Ddiogelu Amlasiantaethol.  Byddwn yn canolbwyntio ar y meysydd hyn ar wah\u00e2n yn ddiweddarach yn yr adroddiad.  Rydym wedi gweithredu model newydd y T\u00eem Maethu a\u2019r T\u00eem Unigolion Cysylltiedig.  Mae\u2019r timau yn eu lle ac yn darparu\u2019r gwasanaeth sydd wedi\u2019i ailfodelu.  Drwy ddatblygu\u2019r gwasanaeth hwn rydym yn disgwyl gweld llai o blant sy\u2019n byw gyda theulu neu unigolion cysylltiedig yn destun Gorchmynion Gofal.<\/p>\n\n<h4 class=\"has-pale-cyan-blue-color has-text-color wp-block-heading\">Lleihau nifer y plant sy\u2019n derbyn gofal<\/h4>\n\n<p>Wrth leihau nifer cynyddol y Plant sy\u2019n Derbyn Gofal, rydym wedi datblygu Polisi Aduno.  Mae\u2019r polisi\u2019n amlygu pa mor bwysig yw sicrhau, lle bo hynny\u2019n briodol, bod plentyn yn cael ei aduno gyda\u2019i deulu, a manylion am ba bryd y dylid ystyried hyn.   Mae\u2019r polisi wedi\u2019i lunio a chynhelir ymgynghoriad yn ei gylch yn sgil nifer o newidiadau polisi cenedlaethol.  <\/p>\n\n<p>Mae sicrhau bod mwy o leoliadau maethu ar gael yn un o flaenoriaethau\u2019r awdurdod. Ledled y rhanbarth, gwelir gostyngiad yn nifer y bobl sy\u2019n mynegi diddordeb mewn maethu.\u00a0 Cr\u00ebwyd <a href=\"https:\/\/youtu.be\/V9c_5Rhhqro\">brand rhanbarthol newydd<\/a> gan Maethu Cymru ym Medi 2021 a oedd yn cynnwys ymgyrch deledu.\u00a0 Rydym yn disgwyl i weld effaith yr ymgyrch genedlaethol hon, ac yn parhau gyda\u2019n hymgyrch farchnata ein hunain ar yr un pryd.<\/p>\n\n<h4 class=\"has-pale-cyan-blue-color has-text-color wp-block-heading\">Y gallu i ddad-uwchgyfeirio plant sydd ag anghenion cymhleth<\/h4>\n\n<p>Rydym wedi datblygu Gwasanaeth Cryfhau Teuluoedd ar gyfer Anghenion Cymhleth ac Ar Ymyl Gofal.  Mae\u2019r t\u00eem yn ei le  ac yn darparu\u2019r gwasanaeth sydd wedi\u2019i ailfodelu.  Rydym yn disgwyl y bydd mwy o deuluoedd yn derbyn ymyraethau prydlon ac felly\u2019n cryfhau eu gwytnwch a datblygu eu hatebion eu hunain. <\/p>\n\n<p>Rydym wedi gweithredu Model Cefnogaeth Therapiwtig Cam i Fyny \/ Cam i Lawr ar gyfer Anghenion Cymhleth. Mae therapydd chwarae allanol hefyd wedi cael ei recriwtio dros dro tan fis Mawrth 2022.  Ceir nifer o ganlyniadau disgwyliedig, megis creu rhaglen dysgu a datblygu ar gyfer gweithwyr cymdeithasol a gofalwyr, ac uwchsgilio gweithwyr cymdeithasol i ddefnyddio dulliau therapiwtig.  <\/p>\n\n<h3 class=\"has-pale-cyan-blue-color has-text-color wp-block-heading\">Sicrhau bod cymorth a lleoedd digonol, sefydlog o ansawdd uchel ar gael i Blant sy\u2019n Derbyn Gofal<\/h3>\n\n<p>Er gwaethaf oedi gyda chamau cyntaf y prosiect, mae\u2019r t\u00eem yn parhau i weithio gyda\u2019r plant mwyaf cymhleth a\u2019u teuluoedd ym mhob rhan o Gonwy a Sir Ddinbych, gan anelu at atal llety hirdymor a chadw teuluoedd gyda\u2019i gilydd.<\/p>\n\n<p>Rydym yn anelu at gynyddu dewisiadau llety \u2018symud ymlaen\u2019 i rai sy\u2019n gadael gofal.  Cynhelir dadansoddiad ar hyn o bryd er mwyn canfod faint o lefydd sydd gennym fel Awdurdod yn y ddarpariaeth llety sydd: (a) ar gael i blant 16 ac 17 oed (rhai sy\u2019n gadael gofal a rhai ifanc sy\u2019n ddigartref) a\u2019r nifer a lenwir gan Blant sy\u2019n Derbyn Gofal (b) ar gael i oedolion 18-25 oed ac, o\u2019r rhai hynny, faint sydd wedi\u2019u llenwi gan rai sy\u2019n gadael gofal.  Mae dogfen weithio wedi ei chreu ar gyfer pob person ifanc rhwng 16 a 18 oed, i ystyried y sefyllfa dai bresennol ac anghenion tai yn y dyfodol. Bydd yn cael ei hadolygu bob chwarter.  <\/p>\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Unedau Llety i Unigolyn Sengl<\/h3>\n\n<p>Yn ein hadroddiad diwethaf, fe wnaethom gyfeirio at y diffyg llety i bobl ifanc fyw ynddyn nhw yn y brifysgol yn ystod y gwyliau, yn ogystal \u00e2 diffyg llety seibiant ar gyfer lleoliadau \u2018Pan fydda i\u2019n Barod\u2019.   Gall diffyg llety addas arwain at orfod aros mewn gwely a brecwast.  Fe wnaethom lunio cyswllt gyda Chartrefi Conwy i fod yn rhan o\u2019u cynllun Passivhaus, sy\u2019n cynnwys wyth o unedau llety i bobl sengl.   Fe wnaeth y T\u00eem Ymgynghori Personol dreialu un uned. <\/p>\n\n<p>Mae\u2019r POD nawr yn rhan o\u2019n dewisiadau llety sydd ar gael i bobl sy\u2019n gadael gofal ac sydd angen llety a chymorth.  <\/p>\n\n<p>Mae gennym berson ifanc yn y pod ar hyn o bryd a fu\u2019n byw mewn gwely a brecwast argyfwng cyn hynny. Roedd byw yn y gwely a brecwast wedi effeithio ar ei iechyd meddwl oherwydd yr her o gwblhau tasgau dyddiol megis coginio.  Mae\u2019r person ifanc wrth ei fodd gyda\u2019r POD ac mae\u2019n teimlo bod cael rhywle i goginio a byw ynddo heb unrhyw beth i amharu arno (megis s\u0175n) wedi helpu ei les a\u2019i iechyd meddwl yn fawr. Mae\u2019r person ifanc wedi gallu canolbwyntio ar ymgysylltu \u00e2 gwasanaethau megis Therapi Galwedigaethol.<\/p>\n\n<h4 class=\"has-pale-cyan-blue-color has-text-color wp-block-heading\">Beth yw&#8217;r heriau?<\/h4>\n\n<p>Yn ystod cyfnodau cynnar y prosiect, roeddem yn wynebu heriau o ran sicrhau bod gennym y trwyddedau cywir gan mai dyma\u2019r tro cyntaf i\u2019r Gwasanaeth Pobl Ddiamddiffyn gynnal prosiect o\u2019r fath.  <\/p>\n\n<p>Oherwydd dyluniad y POD, bu\u2019n rhaid i ni ymgorffori rhai elfennau megis peidio \u00e2 drilio na gwneud tyllau yn y waliau gan y byddai hyn yn peryglu effeithlonrwydd a chynaliadwyedd y POD. <\/p>\n\n<p>Bu\u2019n rhaid cydbwyso rhywfaint hefyd o ran y galw ac amserlenni.  Er enghraifft, mae\u2019r person ifanc yn y POD wedi cael fflat newydd ar gyfer Mai 2022 yn y gobaith y bydd gennym berson ifanc yn dychwelyd o\u2019r brifysgol ym Mehefin 2022.<\/p>\n\n<h4 class=\"has-pale-cyan-blue-color has-text-color wp-block-heading\">Beth nesaf?<\/h4>\n\n<p>Byddwn yn parhau i adolygu Strategaeth Llety Pobl Ddiamddiffyn.  Bydd y gwasanaeth yn parhau i edrych ar ffyrdd arloesol i ddiwallu anghenion llety a chydweithio gyda sefydliadau gwahanol.  Er enghraifft, rydym ar hyn o bryd yn cydweithio ar brosiect gyda Gwasanaethau Anabledd a Thai Gogledd Cymru yn Llanrwst.  Neilltuwyd fflat un ystafell wely ar gyfer y Gwasanaeth Pobl Ddiamddiffyn ym mhrosiect anabledd Ysgol Llanrwst.<\/p>\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Ail-lansio\u2019r gwasanaeth rhandiroedd<\/h3>\n\n<p>Yn adroddiad y llynedd, fe soniom am welliannau i\u2019r gwasanaeth rhandiroedd sydd wedi cael ei gynnal am gryn amser o fewn y Gwasanaeth Pobl Ddiamddiffyn.  Serch hynny, oherwydd pandemig Covid-19 a sawl cyfnod clo, bu\u2019n rhaid i\u2019r gwasanaeth ohirio gwaith gr\u0175p, gan ganiat\u00e1u i\u2019r gweithwyr cefnogi ddatblygu\u2019r gwasanaeth. <\/p>\n\n<p>Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae\u2019r Gweithwyr Ymyrryd a Chefnogi o fewn y T\u00eem Pobl Ddiamddiffyn wedi gweithio\u2019n hynod o galed i gynnal y rhandiroedd a sicrhau eu bod yn cynnig hafan ddiogel i\u2019r unigolion sy\u2019n eu defnyddio. Ar adegau, bu\u2019n rhaid cau\u2019r rhandiroedd i unigolion oherwydd Covid-19.  Rydym wedi cynnal asesiad risg a\u2019i adolygu\u2019n barhaus ochr yn ochr \u00e2 chanllawiau\u2019r llywodraeth.  <\/p>\n\n<p>Cafodd y rhandiroedd eu hailagor yn ddiweddar ac ar hyn o bryd mae gennym bedwar unigolyn yn ymweld yn rheolaidd ac yn defnyddio\u2019r rhandir er mwyn helpu eu lles corfforol a meddyliol. <\/p>\n\n<h4 class=\"has-pale-cyan-blue-color has-text-color wp-block-heading\">Beth yw&#8217;r heriau?<\/h4>\n\n<p>Yr her fwyaf oedd y cyfyngiadau Covid-19 parhaus ynghylch cyswllt wyneb yn wyneb.  Mae hyn wedi atal unigolion rhag gallu mynd i\u2019w rhandiroedd ac mae staff gwasanaeth Pobl Ddiamddiffyn wedi bod yn eu cynnal yn y cyfamser.<\/p>\n\n<h4 class=\"has-pale-cyan-blue-color has-text-color wp-block-heading\">Beth nesaf?<\/h4>\n\n<p>Byddwn yn parhau i adolygu ein hasesiadau risg yn unol \u00e2 chanllawiau\u2019r llywodraeth.  Bydd y rhandiroedd yn cael eu hailagor yn llawn, a bydd y T\u00eem Lles Meddyliol yn dechrau eu defnyddio fel rhan o\u2019u gwaith therapiwtig gydag unigolion.  <\/p>\n\n<p>Rydym yn edrych ymlaen at gynllunio sesiynau coginio am fwyta\u2019n iach gydag unigolion, gan ddefnyddio bwyd a dyfir yn y rhandiroedd.<\/p>\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"963\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/OakTree18-1024x963.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-2997\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/OakTree18-1024x963.png 1024w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/OakTree18-300x282.png 300w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/OakTree18-768x722.png 768w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/OakTree18.png 1080w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Yma byddwn yn edrych yn \u00f4l ar y meysydd gwaith roeddem yn bwriadu eu cyflawni yn ystod 2021-22, a rhoi\u2019r wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn a ddigwyddodd. Cynllun peilot y Ganolfan Ddiogelu Amlasiantaethol Y llynedd buom yn s\u00f4n am gynllun peilot Canolfan Ddiogelu Amlasiantaethol, lle bydd swyddogion o\u2019r gwasanaethau Gofal Cymdeithasol, Iechyd a Heddlu Gogledd [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":5,"featured_media":0,"parent":2986,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"_seopress_titles_title":"","_seopress_titles_desc":"","_seopress_robots_index":"","_seopress_robots_follow":"","_seopress_robots_imageindex":"","_seopress_robots_snippet":"","_seopress_robots_primary_cat":"","_seopress_robots_breadcrumbs":"","_seopress_robots_freeze_modified_date":"","_seopress_robots_custom_modified_date":"","_seopress_robots_canonical":"","_seopress_social_fb_title":"","_seopress_social_fb_desc":"","_seopress_social_fb_img":"","_seopress_social_fb_img_attachment_id":0,"_seopress_social_fb_img_width":0,"_seopress_social_fb_img_height":0,"_seopress_social_twitter_title":"","_seopress_social_twitter_desc":"","_seopress_social_twitter_img":"","_seopress_social_twitter_img_attachment_id":0,"_seopress_social_twitter_img_width":0,"_seopress_social_twitter_img_height":0,"_seopress_redirections_value":"","_seopress_redirections_enabled":"","_seopress_redirections_enabled_regex":"","_seopress_redirections_logged_status":"","_seopress_redirections_param":"","_seopress_redirections_type":0,"_seopress_analysis_target_kw":"","_genesis_hide_title":false,"_genesis_hide_breadcrumbs":false,"_genesis_hide_singular_image":false,"_genesis_hide_footer_widgets":false,"_genesis_custom_body_class":"","_genesis_custom_post_class":"","_genesis_layout":"","footnotes":""},"class_list":{"0":"post-3192","1":"page","2":"type-page","3":"status-publish","5":"entry"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/3192","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/5"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=3192"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/3192\/revisions"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/2986"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=3192"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}