{"id":3181,"date":"2022-08-15T15:23:23","date_gmt":"2022-08-15T14:23:23","guid":{"rendered":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/adroddiad-2021-22\/safon-ansawdd-8\/"},"modified":"2022-08-16T16:16:10","modified_gmt":"2022-08-16T15:16:10","slug":"safon-ansawdd-8","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/adroddiad-2021-22\/safon-ansawdd-8\/","title":{"rendered":"Safon Ansawdd 8"},"content":{"rendered":"\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Mae pobl yn cael eu cefnogi i reoli eu lles a gwneud eu penderfyniadau deallus eu hunain fel eu bod yn gallu cyflawni eu llawn botensial a byw\u2019n annibynnol am gyn hired \u00e2 phosibl<\/h2>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Cathod therapi dementia<\/h3>\n\n\n\n<p>Dros y deuddeg mis diwethaf, mae ein T\u00eem Teleofal wedi bod yn darparu Cath Therapi Dementia ar gyfer rhai unigolion, a defnyddiwyd cyllid o\u2019r Gronfa Gofal Integredig i brynu\u2019r gath. Mae\u2019r cathod yn edrych yn realistig, ac wedi\u2019u dylunio i gynnig cysur, cwmn\u00efaeth a hwyl i bawb.  Maen nhw\u2019n canu grwndi\u2019n union fel cath go iawn, ac yn ymateb i gyffyrddiad, a hyd yn oed yn mewian!  Rydym wedi cael adborth ardderchog gan deuluoedd a chartrefi gofal a ddywedodd wrthym am yr effaith gadarnhaol mae\u2019r gath wedi\u2019i chael ar fywydau eu hanwyliaid.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"has-pale-cyan-blue-color has-text-color wp-block-heading\">Astudiaeth achos<\/h4>\n\n\n\n<p>Roedd Mrs X wedi symud i gartref gofal. Roedd hi bob amser wedi cael cathod ond yn anffodus nid oedd yn gallu dod \u00e2\u2019i chath ei hun gyda hi. Roedd hi\u2019n bryderus iawn a methu setlo yn ei chartref newydd, felly cysylltodd rheolwr y cartref gofal gyda gwasanaeth Teleofal Conwy.<\/p>\n\n\n\n<p>Cafodd Mrs X Gath Therapi Dementia. Dywedodd y rheolwr fod ei hwyneb wedi goleuo ar unwaith; mae\u2019n cario\u2019r gath i bobman ac mae wedi gwella ei lles yn sylweddol. Mae Mrs X yn fwy cyfforddus, yn llai pryderus ac mae wrth ei bodd gyda\u2019i chyfaill newydd.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r cathod yn boblogaidd iawn, ac oherwydd eu poblogrwydd mae llawer o gartrefi gofal yng Nghonwy wedi prynu mwy ohonyn nhw i\u2019w rhannu rhwng y preswylwyr.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-full\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"604\" height=\"447\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/Dementia-cat.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-3080\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/Dementia-cat.png 604w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/Dementia-cat-300x222.png 300w\" sizes=\"auto, (max-width: 604px) 100vw, 604px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Adeiladu ein Canolfan Seibiant newydd i Bobl Anabl a phlanhigfa Bryn Euryn<\/h3>\n\n\n\n<p>gwaethaf peth oedi oherwydd y tywydd ym mis Rhagfyr, a phan ysgrifennwyd yr adroddiad hwn, roedd yr isadeiledd mawr ar y llawr gwaelod bellach wedi ei gwblhau. Mae\u2019r gwaith ar safle planhigfa Bryn Euryn yn gynt na\u2019r disgwyl a disgwylir i\u2019r ffenestri a\u2019r drysau gael eu gosod erbyn diwedd mis Chwefror.  Mae hyn i gyd yn golygu ein bod yn dal i ddisgwyl y bydd yr adnodd yn agor ar 19 Awst 2022, yn \u00f4l y disgwyl.<\/p>\n\n\n\n<p>Er ein bod wedi cael trafferth wrth geisio cael deunyddiau, a arweiniodd at amseroedd arwain hir, rydym wedi lliniaru hyn drwy ddefnyddio mannau storio\u2019r Awdurdod Lleol. Drwy archebu deunyddiau ymlaen llaw a chynllunio i\u2019r dyfodol, rydym wedi llwyddo i arbed amser ac arbed tua \u00a320,000 o gostau hyd yma. <\/p>\n\n\n\n<p>Mae digwyddiad cwrdd \u00e2&#8217;r prynwr wedi\u2019i drefnu ym mis Chwefror 2022 er mwyn magu diddordeb yn ein siop a\u2019n caffi cyffrous newydd.<\/p>\n\n\n\n<p>Fe soniom yn gynharach yn yr adroddiad fod yna brosiect cymhleth ar waith, gyda phedair ffrwd waith wahanol, sef gweithredu\u2019r safle, seibiant i bobl anabl, gofal cymhleth a chyfleoedd gwaith. Mae pob un o\u2019r rhain yn cael eu rheoli gan d\u00eem prosiect profiadol, ac mae \u00a31.2m wedi cael ei wario ar y gwaith adeiladu hyd yma.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Clwb Newydd ar gyfer rhai sy\u2019n Gadael yr Ysgol<\/h3>\n\n\n\n<p>O fewn y Gwasanaethau Anabledd, fe welsom yr angen i gyflwyno clwb newydd ar gyfer pobl ifanc oedran gadael ysgol oherwydd y galw mawr ar gyfer yr ystod oedran hwnnw.  Gwelsom gyfle i ddatblygu\u2019r set sgiliau ar gyfer y bobl ifanc hynny sydd ar eu taith i fod yn oedolion.   Ar \u00f4l cynnal trafodaethau gyda phobl ifanc a\u2019r staff sy\u2019n eu cefnogi, roedd hi\u2019n amlwg eu bod eisiau dysgu sut i goginio a siopa\u2019n annibynnol mewn amgylchedd diogel.  <\/p>\n\n\n\n<p>Dechreuodd y clwb gyda phump person ifanc 17 oed a h\u0177n, wedi\u2019u cefnogi gan dri aelod o staff. Penderfynwyd ar leoliad addas yng Nghanolfan Marl yng Nghyffordd Llandudno, oherwydd y cyfleusterau sydd ar gael ar y safle ac am ei fod yn agos at archfarchnadoedd. Ar \u00f4l siarad gyda theuluoedd, penderfynwyd y byddai dydd Gwener rhwng 4:30pm a 7:30pm yn slot addas, a byddai\u2019n galluogi\u2019r bobl ifanc sy\u2019n mynychu i gynllunio, siopa fel gr\u0175p ar gyfer eu pryd nos y diwrnod hwnnw, a\u2019i goginio.\r\nCafodd pobl ifanc eu cefnogi i benderfynu fel gr\u0175p beth bydden nhw\u2019n ei goginio gyda\u2019r nos.  Roedd y gweithgaredd syml hwn yn cynnwys sgiliau gwrando, cydweithredu a disgwyl eu tro. Ar \u00f4l penderfynu beth fyddai\u2019n cael ei goginio, roeddem yn cefnogi\u2019r gr\u0175p i lunio rhestr siopa, a\u2019r aelodau mwy abl yn y gr\u0175p yn gyfrifol am ysgrifennu\u2019r rhestr siopa bob wythnos. Fe wnaeth y staff gefnogi\u2019r gr\u0175p i baratoi cyllideb er mwyn sicrhau nad oedd y rhestr siopa a ddymunwyd yn ddrutach na\u2019r gyllideb ymhob sesiwn.  \r\n<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"629\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/Cooking-01-1024x629.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-3082\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/Cooking-01-1024x629.png 1024w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/Cooking-01-300x184.png 300w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/Cooking-01-768x472.png 768w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/Cooking-01.png 1184w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p>Roedd y bobl ifanc yn gyfrifol am wneud eu hunain yn barod cyn mynd i\u2019r archfarchnad, a rhoddwyd tasg i bob un ohonyn nhw ganfod eitemau ar y rhestr siopa.  Ar \u00f4l y daith i\u2019r siop, rhoddwyd tasg i bob person ifanc baratoi elfennau gwahanol y pryd bwyd.  Tra roedd y pryd yn cael ei goginio, fe dreuliodd y bobl ifanc amser yn gwrando ar gerddoriaeth, chwarae offerynnau, chwarae gemau bwrdd neu sgwrsio gyda\u2019u ffrindiau.<\/p>\n\n\n\n<p>Gwelwyd hyder y bobl ifanc a oedd yn rhan o\u2019r gr\u0175p yn tyfu bob wythnos, a nododd sawl un eu bod nawr yn helpu i baratoi bwyd gartref. Gwelwyd bod y bobl ifanc a oedd yn cael trafferth gyda\u2019r tasgau syml ar y dechrau yn dod yn gyfarwydd \u00e2\u2019r drefn yn fuan iawn ac roedden nhw\u2019n gallu cyflawni tasgau mwy cymhleth wrth i amser fynd yn ei flaen.<\/p>\n\n\n\n<p>Ar y cyfan fe ddatblygodd y gr\u0175p eu sgiliau diogelwch ar y ffyrdd, sgiliau trin arian, yr hyder i fod yn annibynnol, rhyngweithio cymdeithasol a chyfathrebu.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Cefnogi pobl i fod yn annibynnol<\/h3>\n\n\n\n<p>Yn adroddiad y llynedd, fe wnaethom s\u00f4n wrthych am y cynnydd ardderchog a oedd yn cael ei wneud ar y pryd ar safle Maelgwn yng Nghyffordd Llandudno. Mae cam adeiladu\u2019r prosiect nawr wedi ei gwblhau\u2019n llwyddiannus ac mae\u2019n barod ar gyfer tenantiaid newydd.  Mae cymysgedd da o lety ar gael i unigolion sydd ag anghenion gwahanol, er enghraifft anableddau, pobl sy&#8217;n gadael gofal a phobl ddiamddiffyn. <\/p>\n\n\n\n<p>Rydym eisoes wedi gallu dangos tystiolaeth o\u2019r effaith gadarnhaol mae\u2019r llety hwn yn ei gael ar bobl a\u2019u gallu i fyw\u2019n fwy annibynnol.  Dyma ddwy astudiaeth achos o safle Maelgwn:<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"has-pale-cyan-blue-color has-text-color wp-block-heading\">Astudiaeth achos<\/h4>\n\n\n\n<p>Mae unigolyn wedi gadael cartref am y tro cyntaf a symud i\u2019w fflat ei hun. Roedd y teulu wedi ei chefnogi i fod yn annibynnol yn y cartref cyn iddi symud.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r unigolyn yn gymdeithasol iawn ac mae symud wedi ei galluogi i dreulio mwy o amser gyda\u2019i chyfoedion. Mae\u2019n mynegi ei safbwyntiau a\u2019i barn yn amlach ac mae ganddi nawr ddiddordebau gwahanol.<\/p>\n\n\n\n<p>Yr her fwyaf i\u2019r teulu oedd sylweddoli nad oedd hi angen cymaint o gefnogaeth ganddyn nhw, er hyn, maen nhw\u2019n dal i\u2019w chefnogi. Maen nhw nawr yn treulio amser gyda\u2019i gilydd fel teulu yn hytrach na chwarae r\u00f4l gofalu.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Teleofal &#8211; Parhau i fod yn arloesol yn ystod y pandemig<\/h3>\n\n\n\n<p>Drwy gydol pandemig Covid-19, mae\u2019r t\u00eem Teleofal wedi parhau i ddarparu gwasanaethau a chanfod ffyrdd arloesol i gadw pobl yn annibynnol a\u2019u diogelu drwy ddefnyddio technoleg.  Mae hyn wedi rhoi tawelwch meddwl i deuluoedd y defnyddwyr gwasanaeth gan eu bod yn gwybod bod eu hanwyliaid yn ddiogel ac yn aros mor annibynnol \u00e2 phosibl.  Dyma astudiaeth achos lwyddiannus sy\u2019n enghraifft lle gwelwyd gwir wahaniaeth drwy ddefnyddio technoleg y gellir ei gwisgo. <\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"has-pale-cyan-blue-color has-text-color wp-block-heading\">Astudiaeth achos<\/h4>\n\n\n\n<p>Mae Mr X yn \u0175r oedrannus gyda dementia sy\u2019n byw gyda\u2019i wraig mewn pentref gwledig. Roedd yn annibynnol iawn, ond yn ystod y cyfnod clo cyntaf, dechreuodd ei wraig sylwi ar fymryn o newid yn ei gof a dechreuodd gael trafferth defnyddio cludiant cyhoeddus. Er mwyn sicrhau na fyddai\u2019n rhaid i\u2019w wraig deithio gydag ef, cyfeiriwyd Mr X at wasanaethau Teleofal Conwy i gael ei asesu gan y Clinig Cof.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"576\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/Bus-Stop-01-1024x576.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-3084\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/Bus-Stop-01-1024x576.png 1024w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/Bus-Stop-01-300x169.png 300w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/Bus-Stop-01-768x432.png 768w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/Bus-Stop-01-1536x865.png 1536w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/Bus-Stop-01.png 1917w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<p>Gan nad oedd yn hawdd i Mr X ddefnyddio ff\u00f4n symudol, cytunwyd y gellid rhoi cynnig ar ddefnyddio oriawr GPS Doro. Roedd yr oriawr wedi\u2019i chysylltu \u00e2 ff\u00f4n symudol ei wraig fel y gallai hi weld ei symudiadau tra roedd hi\u2019n \u00f4l yn ei gwaith.\r\nRoedd yr oriawr yn rhoi tawelwch meddwl i Mr a Mrs X. Gallai Mrs X ddychwelyd i\u2019w gwaith gan wybod y gallai hi ganfod ei g\u0175r pe bai\u2019n mynd am dro neu\u2019n dal y bws. Roedd Mr X hefyd yn falch iawn o gael dyfais a allai gysylltu \u00e2\u2019i wraig yn hawdd pe bai\u2019n teimlo\u2019n s\u00e2l neu\u2019n anghofus. Mae nawr yn mynd am dro bob dydd, sydd wedi gwella\u2019r sefyllfa. Gallaf fynd i fy ngwaith heb boeni gormod amdano, mae wedi helpu fy ngorbryder i, a gwella ei iechyd meddwl ef a\u2019i deimlad o fod yn annibynnol.<\/p>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote has-white-color has-luminous-vivid-orange-background-color has-text-color has-background is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p>Mae wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i\u2019r ddau ohonom. Gallaf fynd i fy ngwaith heb boeni gormod amdano, mae wedi helpu fy ngorbryder.<\/p><\/blockquote>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Manteision dull sy\u2019n canolbwyntio ar yr unigolyn<\/h3>\n\n\n\n<p>Drwy weithio\u2019n agos gyda\u2019r unigolion rydym yn eu cefnogi gallwn eu helpu i fanteisio i\u2019r eithaf ar fywyd a gwella\u2019u hannibyniaeth a\u2019u hyder. Dengys yr astudiaeth achos isod sut y gellir gweld gwir fanteision drwy neilltuo\u2019r amser i weithio gyda chryfderau\u2019r unigolyn, wrth eu pwysau eu hunain.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"has-pale-cyan-blue-color has-text-color wp-block-heading\">Astudiaeth achos<\/h4>\n\n\n\n<p>Mae X yn ferch ifanc yn ei 20au gydag anabledd dysgu sy\u2019n hynod o bryderus drwy holl agweddau ei dydd. Mae hi\u2019n mynegi ei gorbryder drwy drais corfforol a geiriol a thrwy roi ei hun mewn sefyllfaoedd peryglus. Pan adawodd hi\u2019r ysgol, dechreuodd fynychu gwasanaeth dydd newydd bum diwrnod yr wythnos, a oedd wedi\u2019i deilwra i\u2019w hanghenion.<\/p>\n\n\n\n<p>Cyn dechrau\u2019r gwasanaeth dydd, bu\u2019n rhaid i ni ymgyfarwyddo\u2019r staff gyda X a\u2019i hamgylchiadau personol felly fe weithiodd y staff cefnogi gyda X yn ei hysgol am saith mis er mwyn dod i\u2019w hadnabod. Ysgrifennwyd cynlluniau personol cyfannol, yn cynnwys teulu, addysg, iechyd a darparwyr cefnogaeth a oedd eisoes yn bodoli. Croesawodd y t\u00eem y gwasanaeth newydd gan ddefnyddio dulliau cefnogi ymddygiad cadarnhaol. Mynegodd X ar lafar yr hyn roedd hi\u2019n ei hoffi a\u2019i gas\u00e1u, a hi fu\u2019n arwain y cynlluniau pontio.<\/p>\n\n\n\n<p>Fe wnaethom gyflwyno gweithgareddau newydd ar gyflymder a oedd at ddant X, gan adeiladau ar y rhain yn araf. Mae ei hyder wedi gwella, ac oherwydd hyn mae hi nawr yn mwynhau gweithgareddau amrywiol, yn cynnwys ymweld \u00e2 nifer o lefydd newydd, siopa drosti ei hun, bwyta cinio mewn caffi a nofio mewn pyllau nofio cyhoeddus, i enwi ond rhai. Mae ganddi bersonoliaeth anhygoel a synnwyr digrifwch gwych, ac mae\u2019r staff yn gweld hyn bob dydd.<\/p>\n\n\n\n<p><em>Yn dilyn llwyddiant mesurau Cefnogi Ymddygiad Cadarnhaol, byddwn yn hyfforddi pob aelod o staff yn y dull hwn.<\/em><\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"768\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/ColwynFfit-1024x768.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-3086\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/ColwynFfit-1024x768.png 1024w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/ColwynFfit-300x225.png 300w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/ColwynFfit-768x576.png 768w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/ColwynFfit-1536x1152.png 1536w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/ColwynFfit.png 1920w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Cefnogaeth ar gyfer g\u0175r ifanc \u00e2 nam ar ei olwg<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae ein Gwasanaeth Anableddau\u2019n gweithio\u2019n agos iawn gyda swyddogion adsefydlu o Vision Support i ddarparu cefnogaeth arbenigol i unigolion sydd \u00e2 nam ar eu golwg. Mae\u2019r astudiaeth achos hon yn dangos sut y gall nodi beth sy\u2019n bwysig i\u2019r unigolyn helpu i annog annibyniaeth a chanlyniadau personol cadarnhaol.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"has-pale-cyan-blue-color has-text-color wp-block-heading\">Astudiaeth achos<\/h4>\n\n\n\n<p><em>Mae X yn berson yn ei arddegau gydag awtistiaeth, problemau symudedd a nam difrifol ar ei olwg. Cafodd ei gyfeirio at ein gwasanaeth ni ac fe wnaethom gytuno ar ganlyniadau a oedd yn bwysig iddo ef, yn cynnwys symud o gwmpas yn ddiogel, mynd i\u2019r coleg a manteisio i\u2019r eithaf ar y golwg sydd ganddo ar \u00f4l.<\/em><\/p>\n\n\n\n<p><em>Cafodd X gefnogaeth i asesu ei sgiliau cerdded, gwrando a gweld, gan y byddai\u2019r rhain i gyd yn effeithio ar ei allu i symud o gwmpas yn annibynnol. Yn ogystal \u00e2 chefnogi X, fe gymerodd ei deulu a staff y coleg ran mewn hyfforddiant tywys fel y gallen nhw ei helpu pan fydden nhw allan gyda\u2019i gilydd.<\/em><\/p>\n\n\n\n<p><em>Cynhaliwyd rhagor o hyfforddiant symudedd wedi\u2019i deilwra ar gyfer X iddo gerdded o\u2019i gartref at gludiant i\u2019r coleg ac yn \u00f4l unwaith eto ar ddiwedd y dydd, a gallu symud o gwmpas yr ardaloedd y byddai angen iddo ymweld \u00e2 nhw yn y coleg. Fe wnaeth hyn wella\u2019i hyder a\u2019i annibyniaeth, ac mae\u2019r hyfforddiant wedi dechrau ei gyflwyno i lwybrau i mewn i\u2019r dref er mwyn iddo ymweld \u00e2 siopau a gwasanaethau.<\/em><\/p>\n\n\n\n<p><em>Fe wnaethom weithio gyda mam X er mwyn gwella ei hyder hi yn ei alluoedd a thawelu ei phryderon pan fyddai ef ar ei ben ei hun yn y gymuned. Rydym wedi defnyddio technoleg megis ap iOS \u2018Find my\u2019 er mwyn galluogi mam i dracio symudiadau cyfredol X, ac rydym wedi ei gyfeirio at y Swyddog Cynhwysiant Digidol er mwyn ei gefnogi ef a staff y coleg i ddewis offer hygyrch. Mae X hefyd yn manteisio i\u2019r eithaf ar ei dechnoleg ei hun a sbectol golwg gwan arbenigol gyda\u2019n cefnogaeth ni.<\/em><\/p>\n\n\n\n<p>I gloi, rydym yn gweithio gyda theulu X i\u2019w cefnogi gyda\u2019u cais PIP a\u2019u statws t\u0177.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Cynnydd mewn cynadleddau gr\u0175p i deuluoedd<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae gwasanaeth Cynadleddau Gr\u0175p i Deuluoedd (CWLWM) a ddarperir gan Y Bont, yn broses dan arweiniad teuluoedd lle caiff penderfyniadau, cynlluniau a threfniadau eu gwneud ar gyfer plant sydd mewn angen neu berygl. Gellir hefyd defnyddio\u2019r Cynadleddau Gr\u0175p i Deuluoedd ar gyfer aelodau\u2019r teulu, yn cynnwys plant a phobl ifanc, er mwyn cytuno ar gefnogaeth a gofalwyr amgen er mwyn cadw plant gyda\u2019u teuluoedd eu hunain. <\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r gwasanaeth wedi cael ei ariannu drwy\u2019r gyllideb graidd er mwyn cefnogi tua 21 o deuluoedd bob blwyddyn. Gyda chyllid ychwanegol o\u2019r Gronfa Gofal Integredig, roeddem yn gallu cynyddu nifer y teuluoedd mae CWLWM yn eu cefnogi, at hyd at 40 o deuluoedd rhwng 2019 a 2021 yn ogystal \u00e2 darparu hyfforddiant i staff. Roedd hyn yn golygu bod teuluoedd yn derbyn y gwasanaeth yn llawer cynharach, a oedd yn helpu i atal anghenion rhag cynyddu a phlant yn cael eu rhoi yn ngofal yr Awdurdod Lleol.  Er y daw cyllid y Gronfa Gofal Integredig i ben eleni, bydd Cynadleddau Gr\u0175p i Deuluoedd yn parhau, er y bydd hynny gyda llai o deuluoedd.\t<\/p>\n\n\n\n<p>&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-full\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"866\" height=\"727\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/TalkingYouth-01.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-3090\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/TalkingYouth-01.png 866w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/TalkingYouth-01-300x252.png 300w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/TalkingYouth-01-768x645.png 768w\" sizes=\"auto, (max-width: 866px) 100vw, 866px\" \/><\/figure>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae pobl yn cael eu cefnogi i reoli eu lles a gwneud eu penderfyniadau deallus eu hunain fel eu bod yn gallu cyflawni eu llawn botensial a byw\u2019n annibynnol am gyn hired \u00e2 phosibl Cathod therapi dementia Dros y deuddeg mis diwethaf, mae ein T\u00eem Teleofal wedi bod yn darparu Cath Therapi Dementia ar gyfer [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":5,"featured_media":0,"parent":2986,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"_seopress_titles_title":"","_seopress_titles_desc":"","_seopress_robots_index":"","_seopress_robots_follow":"","_seopress_robots_imageindex":"","_seopress_robots_snippet":"","_seopress_robots_primary_cat":"","_seopress_robots_breadcrumbs":"","_seopress_robots_freeze_modified_date":"","_seopress_robots_custom_modified_date":"","_seopress_robots_canonical":"","_seopress_social_fb_title":"","_seopress_social_fb_desc":"","_seopress_social_fb_img":"","_seopress_social_fb_img_attachment_id":0,"_seopress_social_fb_img_width":0,"_seopress_social_fb_img_height":0,"_seopress_social_twitter_title":"","_seopress_social_twitter_desc":"","_seopress_social_twitter_img":"","_seopress_social_twitter_img_attachment_id":0,"_seopress_social_twitter_img_width":0,"_seopress_social_twitter_img_height":0,"_seopress_redirections_value":"","_seopress_redirections_enabled":"","_seopress_redirections_enabled_regex":"","_seopress_redirections_logged_status":"","_seopress_redirections_param":"","_seopress_redirections_type":0,"_seopress_analysis_target_kw":"","_genesis_hide_title":false,"_genesis_hide_breadcrumbs":false,"_genesis_hide_singular_image":false,"_genesis_hide_footer_widgets":false,"_genesis_custom_body_class":"","_genesis_custom_post_class":"","_genesis_layout":"","footnotes":""},"class_list":{"0":"post-3181","1":"page","2":"type-page","3":"status-publish","5":"entry"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/3181","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/5"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=3181"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/3181\/revisions"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/2986"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=3181"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}