{"id":3177,"date":"2022-08-15T14:14:05","date_gmt":"2022-08-15T13:14:05","guid":{"rendered":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/adroddiad-2021-22\/sut-rydym-yn-cyflawni-ein-gwaith\/"},"modified":"2022-08-17T09:30:45","modified_gmt":"2022-08-17T08:30:45","slug":"sut-rydym-yn-cyflawni-ein-gwaith","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/adroddiad-2021-22\/sut-rydym-yn-cyflawni-ein-gwaith\/","title":{"rendered":"Sut rydym yn cyflawni ein gwaith"},"content":{"rendered":"\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Cefnogaeth barhaus ar gyfer ein myfyrwyr gwaith cymdeithasol<\/h3>\n\n\n\n<p>Rydym yn falch iawn o ddweud ein bod wedi darparu 30 lleoliad ar gyfer myfyrwyr Gwaith Cymdeithasol yn ystod 2021-2022 ac yn ystod yr un cyfnod rydym wedi cyflogi pedwar o fyfyrwyr ar \u00f4l iddyn nhw raddio.  <\/p>\n\n\n\n<p>Wrth gefnogi ein myfyrwyr gweithwyr cymdeithasol, rydym yn cael adborth gan fyfyrwyr yn rheolaidd, ac yn gwrando arno ac yn ymateb iddo.  Mae hyn yn sicrhau eu bod yn cael y profiad gorau gyda Chonwy, gan arwain at ganlyniad cadarnhaol erbyn diwedd eu lleoliad.  Rydym hefyd yn derbyn ac yn ymateb i adborth gan Addysgwyr Ymarfer a Goruchwylwyr ar y Safle, a sicrhau bod arferion da a syniadau da\u2019n cael eu rhannu a\u2019u rhaeadru.\t<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r adborth am gynnal sesiynau rheolaidd ar gyfer grwpiau cefnogi gyda myfyrwyr, yn ogystal \u00e2 fforymau myfyrwyr mwy ffurfiol gyda siaradwyr gwadd wedi bod yn gyson adeiladol. Maen nhw wedi gwerthfawrogi\u2019r man diogel i rannu eu pryderon a materion sy\u2019n peri penbleth iddyn nhw, a gallu eu trafod mewn amgylchedd diogel, heb gael eu beirniadu, er mwyn sylweddoli nad ydyn nhw ar eu pen eu hunain os ydyn nhw\u2019n teimlo emosiynau cryf ar brydiau, ac yn wynebu rhwystrau a heriau penodol, e.e. gweithio gartref, teimlo\u2019n ynysig, diffyg ysgogiad. Maen nhw wedi gwerthfawrogi gallu cyfarfod \u00e2\u2019u cyfoedion, a chael safbwynt ehangach drwy gymharu nodiadau gyda chyd-fyfyrwyr o Raglenni eraill.  Yn bennaf, mae gennym fyfyrwyr o Raglen M.A. Bangor, ond bu\u2019n llwyddiant pan ddaeth hyfforddeion\/myfyrwyr mewnol y Brifysgol Agored  i ymuno \u00e2 nhw yn y gr\u0175p hwn ar yr un lefel hyfforddiant.  Yna maen nhw\u2019n parhau i gyd-ddysgu gyda\u2019i gilydd yn ystod eu blwyddyn gyntaf yn ymarfer, gan arwain at y Rhaglen a\u2019r Gweithdai Cyfuno.\n\n<\/p>\n\n\n\n<p>Roedd cyflwyno system gyfeillio er mwyn paru myfyrwyr blwyddyn gyntaf gyda myfyrwyr o\u2019r ail flwyddyn hefyd yn ffynhonnell dda o gefnogaeth, ac mae hyfforddeion y Brifysgol Agored wedi gwerthfawrogi hyn yn fawr, gan fod gweithdrefnau\u2019r Brifysgol yn benodol iawn. Roedden nhw\u2019n teimlo ei fod yn werthfawr iawn gallu cysylltu \u00e2 rhywun sydd wedi bod drwy union yr un systemau \u00e2 nhw, er mwyn cael arweiniad a gwybodaeth.<\/p>\n\n\n\n<p>Erbyn eleni, a ninnau wedi profi bron i ddwy flynedd o\u2019r pandemig, rydym wedi dysgu ei bod yn hanfodol darparu gwybodaeth eglur a chyfredol i fyfyrwyr.  Mae\u2019r pandemig wedi newid y ffordd rydym yn gweithio ac felly ni allwn addo y gellir gweithio mewn swyddfa na chael cyfleoedd wyneb yn wyneb.   Cyflwynwyd y neges hon drwy ein Haddysgwyr Ymarfer a\u2019n Haddysgwyr ar y Safle drwy gynnal sesiynau gyda myfyrwyr cyn eu lleoliadau.  <\/p>\n\n\n\n<p>Rydym hefyd yn cael adborth gan Addysgwyr Ymarfer ynghylch yr hyn sydd wedi gweithio\u2019n dda a\u2019r hyn sydd heb weithio cystal.  Yn yr hydref, fe wnaethom gynnal gweithdy hanner diwrnod dros y we, fel sesiwn \u00f4l-drafodaeth ar \u00f4l lleoliadau, yn ogystal ag edrych ymlaen at fyfyrwyr a lleoliadau eleni.   Hefyd, y bwriad oedd manteisio i\u2019r eithaf ar sesiynau goruchwylio dros y we yn ogystal \u00e2 bod yn fwy creadigol gyda chyfleoedd dysgu ac arsylwadau uniongyrchol dros y we.<\/p>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"aligncenter size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"576\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/Modern-Apprentice-office-1-1024x576.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-3119\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/Modern-Apprentice-office-1-1024x576.png 1024w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/Modern-Apprentice-office-1-300x169.png 300w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/Modern-Apprentice-office-1-768x432.png 768w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/Modern-Apprentice-office-1-1536x864.png 1536w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/Modern-Apprentice-office-1.png 1920w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure><\/div>\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Llwybr Cyflogaeth Gofal Cymdeithasol<\/h3>\n\n\n\n<p>Rhoddwyd rhaglen ar waith er mwyn sicrhau bod gan ymgeiswyr di-waith y sgiliau a\u2019r wybodaeth sydd eu hangen i wneud cais am swyddi gofal cymdeithasol yn y sector yng Nghonwy.  Mae staff CBSC yn cwrdd yn rheolaidd \u00e2 Chanolfannau Gwaith, PACE a\u2019r Adran Gwaith a Phensiynau er mwyn eu briffio am y rhaglen ac anghenion y sector.  Rydym yn gweithio gydag ymgeiswyr i:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Ddysgu am y gwahanol swyddi ym maes gofal cymdeithasol.<\/li><li>Dysgu am y prif sgiliau a gwybodaeth sydd eu hangen i weithio ym maes gofal cymdeithasol.<\/li><li>Darparu sesiynau blasu mewn lleoliadau gofal cymdeithasol.<\/li><li>Darparu cefnogaeth i ymgeisio am swyddi.<\/li><li>Cynnig lleoliadau profiad gwaith i fyfyrwyr iechyd a gofal cymdeithasol.<\/li><\/ul>\n\n\n\n<p>Ers sefydlu\u2019r gwasanaeth ym mis Rhagfyr 2021 rydym wedi gweithio gydag 19 o unigolion a chefnogi tri i gael swyddi yn y sector gofal cymdeithasol.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"has-vivid-cyan-blue-color has-text-color wp-block-heading\">Beth oedd yr heriau?<\/h3>\n\n\n\n<p>Os nad oes gan unigolion fynediad at eu cludiant a\u2019u technoleg eu hunain, rydym wedi canfod y gall hyn gyfyngu ar eu cyfleoedd i ganfod swydd. Mae hyder unigolion i ddefnyddio technoleg, a\u2019u hyder yn eu galluoedd eu hunain hefyd yn ffactor. Os nad yw rhywun wedi cael gwaith ers peth amser, efallai y bydd arnyn nhw angen cryn dipyn o waith mentora er mwyn eu cefnogi drwy\u2019r broses gyflogi.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"has-vivid-cyan-blue-color has-text-color wp-block-heading\">Beth sydd nesaf?<\/h3>\n\n\n\n<p>Rydym yn adolygu dewisiadau er mwyn cynyddu ein capasiti i gynnig hyd yn oed mwy o gefnogaeth i recriwtiaid a chyflogwyr.  Yn ogystal \u00e2 hyn, rydym yn cefnogi\u2019r Gr\u0175p Tasg a Gorffen Rhanbarthol ar gyfer Recriwtio a Chadw Staff sy\u2019n edrych ar y meysydd canlynol er mwyn mynd i\u2019r afael \u00e2 phrinder Gweithwyr Cymdeithasol cymwys a phrofiadol:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Strwythur cyflog cenedlaethol ar gyfer gweithwyr cymdeithasol .<\/li><li>Nid yw\u2019r niferoedd uchel o weithwyr cymdeithasol newydd gymhwyso sy\u2019n cymryd lle gweithwyr cymdeithasol profiadol yn gynaliadwy. <\/li><li>Cymhwyster Gwaith Cymdeithasol &#8211; diffyg sgiliau craidd sydd eu hangen ar gyfer ymarfer yn yr hyn a ddysgir yn y brifysgol.<\/li><\/ul>\n\n\n\n<p>Rydym hefyd yn llunio cynllun cyfathrebu a marchnata er mwyn codi ymwybyddiaeth y cyhoedd am y gwasanaeth.<\/p>\n\n\n<div class=\"wp-block-image\">\n<figure class=\"aligncenter size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"576\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/CV-01-1-1024x576.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-3121\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/CV-01-1-1024x576.png 1024w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/CV-01-1-300x169.png 300w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/CV-01-1-768x432.png 768w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/CV-01-1-1536x865.png 1536w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/CV-01-1.png 1917w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure><\/div>\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Ymgynghori\u2019n barhaus gyda phobl sy\u2019n defnyddio ein gwasanaethau a chael cyfranogiad parhaus ganddyn nhw<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae cynnal dulliau cyfathrebu ystyrlon gydag unigolion rydym ni\u2019n eu cefnogi\u2019n sicrhau ein bod wedi parhau i fonitro ansawdd ein gwasanaethau, er gwaethaf yr heriau a gafwyd yn sgil cyfyngiadau Covid dros y flwyddyn ddiwethaf. Yma rydym yn rhoi manylion am rywfaint o\u2019r gwaith ymgynghori a gynhaliwyd gennym gydag amryw o unigolion mewn lleoliadau gwahanol.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"has-black-color has-text-color wp-block-heading\">Preswylwyr cartrefi gofal a\u2019u teuluoedd<\/h3>\n\n\n\n<p>Fe wnaethom ymgynghori gyda phobl ifanc a oedd yn byw mewn tri lleoliad cartref gofal er mwyn trafod effeithiau\u2019r cyfnod clo, a sut maen nhw\u2019n llwyddo i oresgyn yr anawsterau roedden nhw\u2019n dod ar eu traws yn ystod y pandemig, yn cynnwys sut roedden nhw\u2019n cael eu cefnogi i gadw mewn cysylltiad gyda\u2019u teuluoedd a\u2019u ffrindiau.\nFe wnaethom hefyd ymgynghori gyda theuluoedd pobl h\u0177n a oedd yn byw mewn cartrefi gofal er mwyn trafod ffyrdd y gallen nhw gadw mewn cysylltiad, yn ogystal ag effaith y pandemig ar eu perthnasoedd, eu safbwyntiau a\u2019u teimladau.\nMae caniat\u00e1u i bobl siarad am eu profiadau\u2019n llywio\u2019r gwaith y byddwn yn ei wneud yn y dyfodol.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"has-vivid-cyan-blue-color has-text-color wp-block-heading\">Beth oedd yr heriau?<\/h3>\n\n\n\n<p>Yn ystod y flwyddyn adrodd hon, dim ond cyfran fach o\u2019n cartrefi gofal roedden ni\u2019n gallu ymgysylltu \u00e2 nhw oherwydd y problemau roedden nhw\u2019n eu hwynebu, ond fe wnaethom barhau i gynnal y gwaith ymgynghori hwn er mwyn clywed barn pobl a siarad gyda phobl a\u2019u teuluoedd. Roedd canfod ffyrdd newydd i gefnogi gwaith ymgysylltu\u2019n heriol, er hyn, cafwyd llwyddiant wrth gyflwyno dyfeisiau iPad ym mhob cartref gofal yng Nghonwy er mwyn hwyluso sgyrsiau wyneb yn wyneb gydag aelodau o\u2019r teulu. Hefyd, roedd rhai cartrefi gofal yn gwahodd aelodau o\u2019r teulu i ymuno \u00e2 gweithgareddau cymdeithasol ar-lein, a chawson nhw fwynhad mawr o wneud hynny.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"has-vivid-cyan-blue-color has-text-color wp-block-heading\">Beth sydd nesaf?<\/h3>\n\n\n\n<p>Yn 2022 rydym yn cynllunio gwaith ymgynghori pellach gyda phreswylwyr mewn lleoliadau cartrefi gofal a\u2019u teuluoedd gan fod y cyfyngiadau nawr yn caniat\u00e1u ar gyfer mwy o gysylltiad wyneb yn wyneb.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Statws Cyngor sy\u2019n Deall Dementia i Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy<\/h3>\n\n\n\n<p>Yn 2021 cawsom gydnabyddiaeth gan Gymdeithas Alzheimer\u2019s am ein hymdrechion i ddeall dementia\u2019n well. Daeth hyn o ganlyniad i waith ymgysylltu cyson a wnaed gyda chymunedau lleol, grwpiau dementia a gofalwyr pobl sy\u2019n byw gyda dementia.  Fe wnaethom greu Cefnogwyr Dementia drwy\u2019r Cyngor, trefnu Bws Dementia i fynd ar daith o amgylch y sir, a chynnal sesiynau rheolaidd i godi ymwybyddiaeth am Dementia ar gyfer staff y Cyngor a grwpiau staff eraill.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"has-vivid-cyan-blue-color has-text-color wp-block-heading\">Beth oedd yr heriau?<\/h3>\n\n\n\n<p>Yn ystod y pandemig, nid oedd grwpiau cymunedol yn gallu cwrdd wyneb yn wyneb, ac roedd yna lawer llai o gyfleoedd i gynnal gweithgareddau cymdeithasol i bobl a oedd yn byw gyda dementia, neu cawsant eu canslo\u2019n gyfan gwbl, er enghraifft dangos ffilmiau yn y sinema mewn ffordd a oedd yn deall dementia.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"has-vivid-cyan-blue-color has-text-color wp-block-heading\">Beth sydd nesaf?<\/h3>\n\n\n\n<p>Yn 2022 rydym yn edrych ymlaen at ymgysylltu gyda dinasyddion a gofalwyr yng Nghonwy er mwyn parhau \u00e2\u2019r gwaith i godi ymwybyddiaeth am ddementia drwy gynnwys cymunedau yng Nghonwy.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Cyd-gynhyrchu gyda phobl sy\u2019n gadael gofal<\/h3>\n\n\n\n<p>Over the past twelve months the Personal advisor Team has looked to develop service delivery. In order to do this it has been important to include the young people themselves in the process. We have undertaken the following pieces of work:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Anfonwyd arolygon at y bobl ifanc i ofyn eu barn am sut y gwnaethom berfformio yn ystod y pandemig a\u2019r cyfnod clo, felly fe\u2019u holwyd beth wnaethom ni\u2019n dda, ddim cystal, a\u2019r hyn y dylem fod yn ei wneud wrth symud ymlaen.<\/li><\/ul>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Gofynnwyd sut y dylen ni wario\u2019r grant Dydd G\u0175yl Dewi gan Lywodraeth Cymru.<\/li><\/ul>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Gofynnwyd am eu barn a\u2019u dymuniadau o ran datblygu gwefan benodol ar gyfer pobl sy\u2019n gadael gofal.<\/li><\/ul>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Rydym ar hyn o bryd yn y broses ymgeisio i gael arian a fydd yn ein galluogi i gwblhau gwaith ymchwil penodol ar gyfer pobl sy\u2019n gadael gofal mewn cydweithrediad \u00e2 Phrifysgol Bangor ac awdurdodau lleol eraill yng Ngogledd Cymru. Cynhaliwyd dau ddigwyddiad dros y we ar gyfer pobl sy\u2019n gadael gofal er mwyn canfod safbwyntiau a meddyliau\u2019r bobl ifanc eu hunain o ran y testun ymchwil.<\/li><\/ul>\n\n\n\n<p>We have had excellent responses to all of these work streams.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"has-vivid-cyan-blue-color has-text-color wp-block-heading\">Beth oedd yr heriau?<\/h3>\n\n\n\n<p>Nid yw pob person ifanc rydyn ni\u2019n gweithio gyda nhw eisiau ymgysylltu \u00e2 ni a gall hyn gyfyngu ar nifer yr ymatebion. Er hyn, er nad oedd rhai pobl ifanc eisiau cymryd rhan, roedd yr ymatebion a gawsom yn gadarnhaol iawn ac maen nhw wedi tynnu sylw at bethau y gallwn ni fod yn falch ohonyn nhw a phethau i ni weithio tuag atyn nhw.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"has-vivid-cyan-blue-color has-text-color wp-block-heading\">Beth sydd nesaf?<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae cyd-gynhyrchu gyda\u2019r bobl ifanc rydym yn gweithio \u00e2 nhw yn un o\u2019r meysydd blaenoriaeth sefydlog ar gyfer y t\u00eem a\u2019r bwriad yw cryfhau hyn. Hoffem ddatblygu sampl bach, cyson o bobl ifanc sydd wedi ymrwymo i\u2019n cynorthwyo ni i lunio\u2019r datblygiadau yn y gwasanaeth.\t <\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Gweithio mewn Partneriaeth<\/h3>\n\n\n\n<p>Rydym wedi bod yn gweithio\u2019n agos gyda phartneriaid ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) ac Arolygiaeth Gofal Cymru er mwyn datblygu Fframwaith Sicrwydd Ansawdd newydd a Memorandwm o Ddealltwriaeth ynghylch rhannu gwybodaeth am gartrefi gofal annibynnol ac asiantaethau gofal cartref.   Mae cyfarfodydd misol wedi dechrau cael eu cynnal lle gellir cael trafodaethau a gellir datblygu cynlluniau gweithredu addas, wedi\u2019u cydlynu.   Mae hyn wedi helpu Conwy i gefnogi gwelliannau gyda nifer o ddarparwyr gofal ers mis Ebrill 2021.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Rheoli\u2019r gyllideb a chynllunio ar gyfer y dyfodol<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r Cynllun Ariannol Tymor Canolig (CATC) yn nodi dull strategol y Cyngor i reoli ei gyllid ac mae\u2019n amlinellu rhai o\u2019r problemau ariannol a fydd yn wynebu\u2019r Cyngor dros y pedair blynedd nesaf. <\/p>\n\n\n\n<p>Mae cyflawni\u2019r strategaeth yn dibynnu ar yr adnoddau sydd ar gael drwy setliadau Llywodraeth Cymru ac ar lwyddiant y Cyngor wrth sicrhau bod yr adnoddau\u2019n cyd-fynd \u00e2\u2019i nodau a\u2019i flaenoriaethau. <\/p>\n\n\n\n<p>Yn 2021-22, rhagamcanir y bydd y sefyllfa derfynol ar gyfer y Gwasanaethau Cymdeithasol o fewn y gyllideb. Ar gyfer 2022-23, mae\u2019r Gwasanaethau Cymdeithasol, drwy\u2019r broses achosion busnes, wedi gwneud cais ac wedi derbyn cyllid ychwanegol ar gyfer pwysau\u2019r costau cynyddol rhagweledig sy\u2019n ymwneud \u00e2 Gofal Cymdeithasol i Oedolion (\u00a31,489,000) a Phlant, Teuluoedd a Diogelu (\u00a3626,000), yn ogystal \u00e2 chynnydd mewn costau\u2019n gysylltiedig \u00e2 ffioedd uwch a delir i ddarparwyr annibynnol gofal preswyl, gofal nyrsio, gofal cartref a byw \u00e2 chymorth (\u00a33,500,000). Mae\u2019r adran hefyd wedi gorfod dod o hyd i arbedion o \u00a31,060,000, ond mae\u2019r arbedion hyn wedi eu targedu er mwyn lleihau\u2019r effaith ar ddarpariaeth gofal ar y rheng flaen. <\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Gweithio mewn partneriaeth, arweinyddiaeth wleidyddol a chorfforaethol, llywodraethu ac atebolrwydd<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae <a href=\"https:\/\/llyw.cymru\/llesiant-cenedlaethaur-dyfodol-cymru?_ga=2.266121551.1916243983.1656324690-699730886.1649247959\">Deddf Llesiant Cenedlaethau\u2019r Dyfodol (Cymru) 2015<\/a> Llywodraeth Cymru yn amlinellu cyfres o ganlyniadau cenedlaethol ac mae\u2019n gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i roi datblygu cynaliadwy wrth wraidd eu penderfyniadau.&nbsp; Mae\u2019r Ddeddf hon yn sicrhau bod ystyriaethau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd yn ganolog i\u2019r penderfyniadau a wneir.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-gallery has-nested-images columns-default is-cropped wp-block-gallery-1 is-layout-flex wp-block-gallery-is-layout-flex\">\n<figure class=\"wp-block-image size-full is-style-rounded\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"422\" height=\"412\" data-id=\"3230\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/Future-Generations-Act-Goals-W.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-3230\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/Future-Generations-Act-Goals-W.png 422w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/Future-Generations-Act-Goals-W-300x293.png 300w\" sizes=\"auto, (max-width: 422px) 100vw, 422px\" \/><\/figure>\n<\/figure>\n\n\n\n<p>Yng Nghonwy, rydym wedi cynnwys yr amcanion hyn yng <a href=\"https:\/\/www.conwy.gov.uk\/cy\/Council\/Strategies-Plans-and-Policies\/Corporate-Plan\/Corporate-Plan-2017-2022.aspx\">Nghynllun Corfforaethol Conwy.<\/a>&nbsp; Mae\u2019r saith nod a\u2019r pum ffordd o weithio yn cyfateb i wyth Canlyniad Dinasyddion Conwy.<\/p>\n\n\n\n<p>Ceir camau gweithredu ataliol yn y Cynllun Corfforaethol, sydd \u00e2\u2019r nod o weithio tuag at effaith mwy hirdymor, ac sydd wedi\u2019u llunio drwy ystyried sut maent yn cyfrannu at y 7 Nod Lles.   Mae\u2019r camau gweithredu hyn hefyd yn gydweithredol yn y modd y maent yn canolbwyntio ar weithio\u2019n agos gyda chymunedau fel bod ganddynt berchnogaeth dros y Canlyniadau ar gyfer Dinasyddion a\u2019u bod yn rhan o\u2019r cydweithio i\u2019w cyflawni. <\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-gallery has-nested-images columns-default is-cropped wp-block-gallery-2 is-layout-flex wp-block-gallery-is-layout-flex\">\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"949\" data-id=\"3232\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/Circle-of-Icons-W-1024x949.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-3232\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/Circle-of-Icons-W-1024x949.png 1024w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/Circle-of-Icons-W-300x278.png 300w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/Circle-of-Icons-W-768x712.png 768w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/Circle-of-Icons-W-1536x1424.png 1536w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/Circle-of-Icons-W.png 1658w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n<\/figure>\n\n\n\n<p class=\"has-text-align-left\">Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau\u2019r Dyfodol (Cymru) hefyd yn diffinio datblygu cynaliadwy yng Nghymru fel ffordd i wella lles economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru.  Mae\u2019n gwneud i ni ganolbwyntio ar yr hyn rydym yn ei wneud, sut rydym yn ei gyflawni a sut rydym yn cyfathrebu.   Fel gwasanaeth, rydym yn cyfrannu drwy fyfyrio ar y modd yr ydym yn defnyddio&#8217;r pum ffordd o weithio yn ein proses Adolygu Perfformiad y Gwasanaeth bob chwe mis.   <\/p>\n\n\n\n<p>Mae <a href=\"https:\/\/gofalcymdeithasol.cymru\/hyb\/deddf-sswb\">Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014<\/a> a\u2019r <a href=\"https:\/\/gofalcymdeithasol.cymru\/hyb\/codau-ymarfer\">Cod Ymarfer<\/a> yn nodi fframwaith ar gyfer mesur y cynnydd y mae awdurdodau lleol yn ei wneud yn erbyn eu dyletswyddau dan y Ddeddf fel cyfanwaith.&nbsp; Mae\u2019r broses hon hefyd yn galluogi Awdurdodau Lleol i wella\u2019u gwasanaethau\u2019n barhaus.&nbsp; Fel y nodir yn y Cod Ymarfer, mae gennym drefniadau cadarn ar gyfer casglu ac adrodd ar ddata am fesuryddion perfformiad statudol i Lywodraeth Cymru bob blwyddyn.&nbsp; Caiff perfformiad ei fesur yn unol \u00e2 phob un o&#8217;r safonau ansawdd sy&#8217;n canolbwyntio ar bobl, partneriaethau ac integreiddio ac atal.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae gan Gonwy drefniadau llywodraethu cadarn i gefnogi dulliau rheoli effeithiol ar gyfer Gofal Cymdeithasol. Mae\u2019r Cyngor wedi sefydlu Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Iechyd a Gofal Cymdeithasol.  Mae\u2019r Cyngor wedi penodi dau Ddeilydd Portffolio sy\u2019n cynrychioli Gofal Cymdeithasol Plant a Theuluoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol Oedolion a Hamdden.  Rydym hefyd yn cyflwyno amrywiol adroddiadau i\u2019r Pwyllgor Craffu eu hadolygu a\u2019u herio.  Yn ogystal, mae gennym broses fewnol gadarn i oruchwylio a herio perfformiad.  Cynhelir cyfarfodydd gyda\u2019n harolygiaeth drwy gydol y flwyddyn ac rydym yn mynd ati i adolygu ein harferion ein hunain yn rheolaidd fel mater o drefn er mwyn sicrhau gwelliant parhaus yn ein gwasanaeth.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Rheoleiddio ac Arolygu<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (RISCA) wedi newid y ffordd y caiff ein gwasanaethau eu harolygu, sut yr ydym yn gwella ansawdd y gofal a\u2019r cymorth yr ydym yn ei ddarparu, a\u2019r modd yr ydym yn rheoleiddio ein gweithlu.&nbsp; Mae\u2019n sicrhau bod ansawdd gwasanaethau a dulliau arolygu wrth wraidd gwaith rheoleiddio; sy\u2019n cryfhau mesurau diogelu ar gyfer y rhai sydd ei angen ac mae\u2019n sicrhau bod gwasanaethau\u2019n darparu gofal a chymorth o ansawdd uchel.\n\nErs 2018, o fewn y Gwasanaethau Oedolion, dechreuwyd cofrestru rheolwyr yn y sector cartrefi gofal ledled Cymru, o dan y rheoliadau RISCA newydd. Rydym wedi cynnal cyfres o fforymau rheolwyr i baratoi ar gyfer cyflwyno RISCA. Rydym hefyd wedi cynnal gweithdai Cofrestru Gofal Cymdeithasol Cymru yn ddiweddar i gefnogi dulliau cofrestru ar gyfer y gweithlu gofal cartref. Rydym wedi sefydlu gr\u0175p polisi RISCA sy\u2019n cwrdd bob mis er mwyn adolygu\u2019r polis\u00efau sy\u2019n ofynnol o dan y rheoliadau newydd. Rydym hefyd yn cynnal Gr\u0175p Hyfforddiant Darparwyr Conwy er mwyn hybu datblygiad a dysg y gweithlu ym mhob rhan o\u2019r Sector.<\/p>\n\n\n\n<p>O fewn maes gwasanaeth Plant sy\u2019n Derbyn Gofal, mae Arolygiaeth Gofal Cymru wedi cyhoeddi eu Hadroddiad Trosolwg Cenedlaethol mewn perthynas \u00e2 phlant a phobl ifanc sydd wedi cael profiad o ofal.  Bu i ni gymryd rhan yn yr adolygiad hwn ac rydym wedi edrych ar sut y gallwn wella\u2019r ffordd yr ydym yn gweithio i wella profiadau drwy ddefnyddio\u2019r canfyddiadau allweddol.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Gwiriad Sicrwydd AGC<\/h3>\n\n\n\n<p>Ym Mehefin 2021 fe gynhaliwyd Gwiriad Sicrwydd gan Arolygiaeth Gofal Cymru er mwyn adolygu pa mor dda mae Gwasanaethau Cymdeithasol Conwy yn parhau i helpu a chefnogi oedolion a phlant, gan ganolbwyntio ar ddiogelwch a lles. Fe wnaethon nhw ein hasesu yn \u00f4l y pedair egwyddor yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, a chofnodi eu barn a\u2019u canfyddiadau yn erbyn: Llais a rheolaeth; Atal; Llesiant; Partneriaethau ac integreiddio. Roedd yr adroddiad yn hynod o gadarnhaol am y ffordd y gwnaethom ymateb i\u2019r pandemig a pharhau i gefnogi unigolion diamddiffyn yng Nghonwy. Mae&#8217;r uchafbwyntiau&#8217;n cynnwys:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>\u201cMae gan bobl lais cryf a rheolaeth dros y gefnogaeth maen nhw\u2019n ei derbyn, a\u2019r dulliau ymarfer yn canolbwyntio ar yr hyn sy\u2019n bwysig i\u2019r unigolion, y canlyniad yr hoffen nhw ei gyflawni, a sut gallan nhw ddefnyddio\u2019u cryfderau a\u2019u hadnoddau eu hunain i hyrwyddo eu lles.\u201d<\/li><\/ul>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>\u201cMae rheolwyr yn ymgysylltu yn sicrwydd ansawdd y gweithgareddau gwaith, ac roedd hi\u2019n chwa o awyr iach gweld dulliau eglur i archwilio gwaith achos a lledaenu addysg.\u201d<\/li><\/ul>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>\u201cRoedd y darparwyr yn siarad yn gadarnhaol am y gefnogaeth a gawson nhw gan yr awdurdod lleol yn ystod y pandemig. Roedden nhw\u2019n gwerthfawrogi lefel y cyfathrebu ac ansawdd y cyngor a\u2019r cymorth a gafwyd.\u201d <\/li><\/ul>\n\n\n\n<p>Bydd AGC yn parhau i fonitro ein perfformiad drwy gynnal cyfarfodydd gwerthuso perfformiad parhaus gyda\u2019r Penaethiaid Gwasanaeth a\u2019r Cyfarwyddwr.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-gallery has-nested-images columns-default is-cropped wp-block-gallery-3 is-layout-flex wp-block-gallery-is-layout-flex\">\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"576\" data-id=\"3115\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/Customer-Support-Officer-1920-1024x576.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-3115\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/Customer-Support-Officer-1920-1024x576.png 1024w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/Customer-Support-Officer-1920-300x169.png 300w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/Customer-Support-Officer-1920-768x432.png 768w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/Customer-Support-Officer-1920-1536x864.png 1536w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/Customer-Support-Officer-1920.png 1920w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n<\/figure>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Arolygu\u2019r cartref plant<\/h3>\n\n\n\n<p>Fe ymwelodd AGC \u00e2\u2019n cartref plant mewnol, sef Glan yr Afon, ym mis Tachwedd 2021 er mwyn cynnal arolygiad heb ei gyhoeddi ymlaen llaw. Fe wnaethon nhw ddilyn cynllun er mwyn siarad \u00e2\u2019r plant, adolygu nifer o ddogfennau, archwilio\u2019r amgylchedd ac adolygu arweinyddiaeth a dulliau rheoli\u2019r gwasanaeth.<\/p>\n\n\n\n<p>Roedd yr arolygwyr yn fodlon fod yr asesiadau a\u2019r gefnogaeth i\u2019r bobl ifanc, a\u2019r gefnogaeth i ddatblygu sgiliau byw&#8217;n annibynnol, yn gweithio\u2019n dda yn y cartref. Fe wnaethon nhw hefyd nodi bod y bobl ifanc yn gallu mynegi eu safbwyntiau a\u2019u barn, a\u2019u bod yn cael eu hannog a\u2019u cefnogi gyda\u2019u haddysg, drwy fynychu ysgolion yng Nghonwy. Fe wnaethon nhw nodi bod yr amgylchedd cartref yn dda, ac mae yna gyfleoedd rheolaidd i gynnal gweithgareddau i bobl ifanc.<\/p>\n\n\n\n<p>Ers yr arolygiad, cyflwynwyd nifer o welliannau a argymhellwyd yn y lleoliad, yn cynnwys cofnodi materion iechyd a diogelwch, adolygu polis\u00efau\u2019r cartref, a hyfforddiant staff ychwanegol i gefnogi anghenion newidiol pobl ifanc.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Arolygu Gwasanaethau Cyfiawnder Ieuenctid<\/h3>\n\n\n\n<p>Ym mis Ebrill 2021, fe gymerodd Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Conwy ran mewn arolygiad ar y cyd o wasanaethau addysg, cyflogaeth a hyfforddiant yn y Timau Troseddau Ieuenctid yng Nghymru a Lloegr.  Cynhaliwyd yr arolygiad ar y cyd gan Arolygiaeth Prawf ei Mawrhydi, Estyn ac Ofsted, ac roedd yn cynnwys sawl Awdurdod Lleol o Loegr.  <\/p>\n\n\n\n<p>Oherwydd pandemig Covid-19, cynhaliwyd rhai arolygiadau dros y we a rhai eraill wyneb yn wyneb, os oedd y cyfyngiadau\u2019n caniat\u00e1u hynny.  Archwiliwyd achosion plant a oedd yn ymwneud \u00e2 Thimau Troseddau Ieuenctid, ynghyd ag achosion a fu yn y llys ac achosion lle cafwyd datrysiad y tu allan i\u2019r llys.  Cynhaliwyd cyfarfodydd gyda staff, partneriaid a rhanddeiliaid, a chynhaliodd Estyn ac Ofsted gyfweliadau gyda darparwyr addysg.  <\/p>\n\n\n\n<p>Roedd yr arolygiad yn gadarnhaol am berfformiad gweithredol Conwy, a\u2019r gefnogaeth a\u2019r ymgysylltiad a gafodd eu cynnig a\u2019u derbyn gan blant a phobl ifanc.  Nodwyd hefyd bod plant sy\u2019n gweithio gyda Thimau Troseddau Ieuenctid yn derbyn addysg, hyfforddiant a chyflogaeth o ansawdd da ar y cyfan.  Casglwyd enghreifftiau da o arferion effeithiol ac roedd y rhain yn hawdd i\u2019w diffinio ym mhob un o\u2019r Timau Troseddau Ieuenctid a gafodd eu harolygu.<\/p>\n\n\n\n<p>Yn dilyn yr arolygiad, rydym wedi rhoi argymhellion ar waith er mwyn gwella, er enghraifft ym maes arweinyddiaeth a llywodraethu a sicrhau bod gan y byrddau rheoli drosolwg gwell.  Rydym hefyd yn sicrhau bod pobl ifanc a\u2019u teuluoedd yn cael lleisio eu barn wrth lunio ein gwasanaeth drwy ymgysylltu a chymryd rhan. <\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Mwy na Geiriau: Darparu\u2019r \u2018Cynnig Gweithredol\u2019<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r \u2018Cynnig Gweithredol\u2019 yn golygu darparu gwasanaeth yn Gymraeg heb i rywun orfod gofyn amdano.   Dyma ddywedodd Mark Drakeford (y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar y pryd) yn 2016:<\/p>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p>\u201cSicrhau bod diogelwch, urddas a pharch siaradwyr Cymraeg wrth wraidd darparu gwasanaethau cymdeithasol ac iechyd yn y Gymraeg. Nid cydymffurfio \u00e2 gofynion cyfreithiol a chynnal safonau proffesiynol yn unig sy\u2019n bwysig, ond gwella ansawdd y gofal a diwallu anghenion ieithyddol pobl, yn ogystal \u00e2 darparu gwasanaethau cyhoeddus da sy\u2019n canolbwyntio ar unigolion.\u201d<\/p><\/blockquote>\n\n\n\n<p>Yng Nghonwy rydym yn chwarae ein rhan drwy sicrhau bod y Cynnig Gweithredol yn cael ei ymgorffori yn ein diwylliant, a sicrhau ansawdd a diogelwch ar gyfer siaradwyr Cymraeg yn y sir.  Mae sicrhau bod unigolion sy&#8217;n derbyn gofal a chymorth gennym ni yn gallu cyfathrebu \u00e2 staff cymorth yn eu dewis iaith yn hynod bwysig. <\/p>\n\n\n\n<p>Yn dilyn Gwiriad Sicrwydd Arolygiaeth Gofal Cymru ym Mehefin 2021, adroddwyd:<\/p>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote has-pale-ocean-gradient-background has-background is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p>Mae\u2019r awdurdod lleol yn rhagweithiol yn y ffordd mae\u2019n ymdrin \u00e2 \u2018Chynnig Gweithredol\u2019 y Gymraeg. Ar y dechrau, gofynnir am wybodaeth am iaith ddewisol yr unigolyn. Daethom ar draws asesiadau a gynhaliwyd drwy gyfrwng y Gymraeg a Saesneg i gyd-fynd \u00e2 dymuniadau pobl.<\/p><\/blockquote>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Asesiad o Boblogaeth Gogledd Cymru<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae adroddiad Asesiad o Boblogaeth Gogledd Cymru yn asesiad o anghenion gofal a chymorth y boblogaeth yng Ngogledd Cymru, yn cynnwys anghenion cymorth gofalwyr. Y bwriad oedd cael gwell dealltwriaeth o\u2019n poblogaeth a sut y gallai newid dros y blynyddoedd nesaf er mwyn ein cynorthwyo i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus gwell yn yr ardal. Wedi\u2019u creu gan Gydweithredfa Gwella Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol a Llesiant Gogledd Cymru, maen nhw\u2019n adolygu ystadegau, siarad gyda chymunedau a defnyddio ystod eang o wybodaeth a gesglir gan gynghorau lleol, gwasanaethau iechyd, elusennau a sefydliadau eraill sy\u2019n darparu gwasanaethau. <\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r adroddiad yn ymwneud \u00e2 phlant a phobl ifanc, pobl h\u0177n, iechyd, anableddau corfforol a nam ar y synhwyrau, anableddau dysgu, iechyd meddwl, gofalwyr, trais yn erbyn merched, cam-drin domestig a thrais rhywiol, yr ystad ddiogeledd, cyn-filwyr, digartrefedd ac anhwylderau ar y sbectrwm awtistig, a darparu negeseuon ac argymhellion pwysig ynghylch pob testun yn seiliedig ar y dystiolaeth a gasglwyd.<\/p>\n\n\n\n<p>Lluniwyd yr adroddiad cyfredol yn 2017, serch hynny, bydd adroddiad newydd ar gyfer 2022 yn cael ei gyhoeddi\u2019n fuan a bydd ar gael i\u2019w ddarllen ar <a href=\"https:\/\/www.cydweithredfagogleddcymru.cymru\/asesiad-poblogaeth-gogledd-cymru\/\">wefan y Gydweithredfa Gwelliannau<\/a>.\n\n&nbsp;<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Cefnogaeth barhaus ar gyfer ein myfyrwyr gwaith cymdeithasol Rydym yn falch iawn o ddweud ein bod wedi darparu 30 lleoliad ar gyfer myfyrwyr Gwaith Cymdeithasol yn ystod 2021-2022 ac yn ystod yr un cyfnod rydym wedi cyflogi pedwar o fyfyrwyr ar \u00f4l iddyn nhw raddio. Wrth gefnogi ein myfyrwyr gweithwyr cymdeithasol, rydym yn cael adborth [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":9,"featured_media":0,"parent":2986,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"_seopress_titles_title":"","_seopress_titles_desc":"","_seopress_robots_index":"","_seopress_robots_follow":"","_seopress_robots_imageindex":"","_seopress_robots_snippet":"","_seopress_robots_primary_cat":"","_seopress_robots_breadcrumbs":"","_seopress_robots_freeze_modified_date":"","_seopress_robots_custom_modified_date":"","_seopress_robots_canonical":"","_seopress_social_fb_title":"","_seopress_social_fb_desc":"","_seopress_social_fb_img":"","_seopress_social_fb_img_attachment_id":0,"_seopress_social_fb_img_width":0,"_seopress_social_fb_img_height":0,"_seopress_social_twitter_title":"","_seopress_social_twitter_desc":"","_seopress_social_twitter_img":"","_seopress_social_twitter_img_attachment_id":0,"_seopress_social_twitter_img_width":0,"_seopress_social_twitter_img_height":0,"_seopress_redirections_value":"","_seopress_redirections_enabled":"","_seopress_redirections_enabled_regex":"","_seopress_redirections_logged_status":"","_seopress_redirections_param":"","_seopress_redirections_type":0,"_seopress_analysis_target_kw":"","_genesis_hide_title":false,"_genesis_hide_breadcrumbs":false,"_genesis_hide_singular_image":false,"_genesis_hide_footer_widgets":false,"_genesis_custom_body_class":"","_genesis_custom_post_class":"","_genesis_layout":"","footnotes":""},"class_list":{"0":"post-3177","1":"page","2":"type-page","3":"status-publish","5":"entry"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/3177","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/9"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=3177"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/3177\/revisions"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/2986"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=3177"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}