{"id":3144,"date":"2022-08-15T12:05:03","date_gmt":"2022-08-15T11:05:03","guid":{"rendered":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/adroddiad-2021-22\/edrych-ymlaen-at-2022-23-a-thu-hwnt\/"},"modified":"2022-08-17T09:44:28","modified_gmt":"2022-08-17T08:44:28","slug":"edrych-ymlaen-at-2022-23-a-thu-hwnt","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/adroddiad-2021-22\/edrych-ymlaen-at-2022-23-a-thu-hwnt\/","title":{"rendered":"Edrych ymlaen at 2022-23 a thu hwnt"},"content":{"rendered":"\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Canlyniadau prosiect yr Adolygiad Cyllid a Chomisiynu<\/h3>\n\n\n\n<p>Yn yr adroddiad hwn fe wnaethom edrych yn \u00f4l ar waith Prosiect Trawsnewid Pobl H\u0177n dros y deuddeg mis diwethaf.  Un agwedd bwysig o\u2019r prosiect oedd y gwaith ymgynghori a\u2019r holl adborth a gawsom drwy wneud hyn.<\/p>\n\n\n\n<p>Nodwyd hefyd y bydd y prosiect yn un o\u2019r blaenoriaethau strategol ar gyfer Gofal Cymdeithasol dros y flwyddyn nesaf.  Mae nodau\u2019r prosiect yn ymdrin \u00e2 sawl agwedd ar wella gofal yn y cartref, yn bennaf ar gyfer y defnyddiwr gwasanaeth ond hefyd er mwyn sicrhau bod gweithwyr proffesiynol yn gweithio mewn ffordd gydgysylltiedig; mynd i\u2019r afael \u00e2\u2019r heriau recriwtio a chadw staff sy\u2019n wynebu\u2019r sector; a diogelu\u2019r gwasanaeth at y dyfodol gan fod disgwyl i\u2019r galw gynyddu.<\/p>\n\n\n\n<p> Yn y flwyddyn nesaf byddwn yn canolbwyntio ar y newidiadau arfaethedig rydym wedi eu hamlinellu i wella\u2019r ffordd y caiff gofal cartref ei ddarparu yng Nghonwy.  Rydym ar hyn o bryd yn mynd drwy\u2019r gwahanol gamau craffu a chymeradwyo ar gyfer y model.  Mae prosesau busnes yn cael eu diweddaru a\u2019u hail-alinio wrth baratoi, a chynhelir gwaith ymgynghori parhaus gyda gwahanol randdeiliaid.  Os caiff y cynigion eu cymeradwyo, bydd cyfnod pontio graddol yn dechrau ar 1 Ebrill 2022, gan ddechrau gydag atgyfeiriadau newydd er mwyn amharu cyn lleied \u00e2 phosibl ar ddinasyddion Conwy.  Credwn y bydd y newidiadau hyn yn gwella ansawdd y gwasanaethau a ddarperir i unigolion.   <\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Agor ein Canolfan Seibiant newydd ar gyfer Pobl Anabl<\/h3>\n\n\n\n<p>Yn 2017 y datblygwyd y cynnig i ddatblygu\u2019r safle yn Dinerth Road i ddarparu gwasanaeth seibiant preswyl ar gyfer pobl ag Anableddau, ochr yn ochr \u00e2 Phlanhigfa well gyda Chaffi a siop.\nErs hynny, bu swyddogion yn gweithio er mwyn gwireddu\u2019r cynlluniau, gan weithio gyda chydweithwyr ar draws y Cyngor a chyda phartneriaid yn BIPBC. Cymeradwywyd y cynlluniau a sicrhawyd y cyllid, a dechreuodd y gwaith ar y safle\u2019r llynedd. Rydym yn disgwyl y bydd y gwaith adeiladu wedi gorffen erbyn diwedd haf 2022 ac y bydd y gwasanaethau ar gael ar y safle ym mis Tachwedd 2022.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-gallery has-nested-images columns-default is-cropped wp-block-gallery-1 is-layout-flex wp-block-gallery-is-layout-flex\">\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"950\" height=\"447\" data-id=\"3129\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/Dinerth-Road-Development.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-3129\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/Dinerth-Road-Development.png 950w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/Dinerth-Road-Development-300x141.png 300w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/Dinerth-Road-Development-768x361.png 768w\" sizes=\"auto, (max-width: 950px) 100vw, 950px\" \/><\/figure>\n<\/figure>\n\n\n\n<p>Mae\u2019n ddatblygiad cyffrous a fydd yn cynnig darpariaeth seibiant gyfartal ar gyfer pobl ag anableddau. Bydd hefyd yn ein galluogi i weithio gyda\u2019r gwasanaethau Iechyd er mwyn cefnogi pobl i barhau i fyw yn y gymuned ac osgoi cynyddu anghenion drwy ddarparu ymateb gofal estynedig mewn argyfwng.  <\/p>\n\n\n\n<p>Bydd y datblygiad ar y safle isaf yn ei gwneud yn bosibl i gynnig gwasanaeth gwell i bobl ag anableddau dysgu sy\u2019n dymuno symud yn agosach at fyd cyflogaeth. Drwy lunio partneriaeth gyda menter gymdeithasol a chyda Gwasanaeth Cyflogadwyedd y Cyngor, byddwn yn cynnig cyfleoedd profiad gwaith ar gyfer pobl ag anableddau dysgu.<\/p>\n\n\n\n<p>Bydd Planhigfa Bryn Euryn yn cynnig gwasanaeth hygyrch ar gyfer cwsmeriaid a bydd yn parhau i gynnig cyfleoedd gwaith ar gyfer pobl ag anableddau dysgu ar draws y safle newydd a Phlanhigfeydd Tan Lan. Bydd y Blanhigfa a\u2019r caffi\/siop yn ffurfio rhan o\u2019n llwybrau newydd i gefnogi pobl ag anableddau dysgu i symud yn agosach at gyflogaeth.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-gallery has-nested-images columns-default is-cropped wp-block-gallery-2 is-layout-flex wp-block-gallery-is-layout-flex\">\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"575\" data-id=\"3131\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/Gardening-Group-02-1024x575.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-3131\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/Gardening-Group-02-1024x575.png 1024w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/Gardening-Group-02-300x169.png 300w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/Gardening-Group-02-768x432.png 768w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/Gardening-Group-02-1536x863.png 1536w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/Gardening-Group-02.png 1920w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n<\/figure>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Canolfan asesu plant Bwthyn y Dd\u00f4l<\/h3>\n\n\n\n<p>Amharwyd ar gynnydd ein canolfan asesu hirddisgwyliedig i blant gan fod y cwmni adeiladu wedi mynd i ddwylo\u2019r gweinyddwyr ym mis Gorffennaf 2021. O ganlyniad i\u2019r amserlenni tynn a\u2019r risgiau uchel cysylltiedig, cymeradwyodd Cabinet yr Awdurdod Lleol gystadleuaeth fechan er mwyn canfod contractwr newydd o\u2019r rhai a ymgeisiodd yn ein proses gaffael wreiddiol.  Dim ond un cwmni a oedd mewn sefyllfa i ymgymryd \u00e2\u2019r gwaith, sy\u2019n gorfod cydymffurfio ag amserlenni tynn o ran gwaith trwm ar y tir a meini prawf ariannu gan Lywodraeth Cymru.  Rydym yn trafod gyda Llywodraeth Cymru ynghylch cyllid ychwanegol er mwyn lliniaru\u2019r costau a gododd gan fod y cwmni adeiladu gwreiddiol wedi mynd i ddwylo\u2019r gweinyddwyr. Bydd y gwaith adeiladu\u2019n parhau drwy gydol 2022-23 felly byddwn yn eich diweddaru ar y cynnydd yn yr adroddiad blynyddol nesaf.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">System Wybodaeth Gofal Cymunedol Cymru &#8211; WCCIS<\/h3>\n\n\n\n<p>Yn adroddiad y llynedd, roedd llawer o s\u00f4n am weithredu ein system newydd i gofnodi gwybodaeth am gleientiaid, sef WCCIS.  Aeth yn \u2018fyw\u2019 ym mis Tachwedd 2020 ac ers hynny rydym wedi canolbwyntio ar ymgorffori\u2019r ffordd newydd o gofnodi yn ein llwyth gwaith o ddydd i ddydd ar draws y gwasanaeth a darparu hyfforddiant a chefnogaeth barhaus i\u2019n defnyddwyr.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"has-vivid-cyan-blue-color has-text-color wp-block-heading\">Beth oedd yr heriau?<\/h3>\n\n\n\n<p>Fel gydag unrhyw system TG newydd, cafwyd rhai problemau technegol, ac yn anffodus cafwyd cyfnodau hir lle bu\u2019r system yn perfformio\u2019n wael.  Cafodd yr holl broblemau eu huwchgyfeirio at ddarparwr y system sydd, mewn cydweithrediad \u00e2\u2019r t\u00eem cenedlaethol, Iechyd a Gofal Digidol Cymru, wedi bod yn gweithio\u2019n galed i\u2019w datrys.  Ers hynny, mae sefydlogrwydd a dibynadwyedd y system wedi gwella.  <\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"has-vivid-cyan-blue-color has-text-color wp-block-heading\">Beth sydd nesaf?<\/h3>\n\n\n\n<p>Rydym yn bwriadu integreiddio WCCIS gyda system amserlennu gofal a ddefnyddir yn ein Gwasanaeth Ailalluogi. Rydym yn gobeithio y byddwn yn mynd yn fyw gyda\u2019r gwaith integreiddio hwn yn ystod y flwyddyn nesaf ar \u00f4l cyfnod prawf.\nByddwn yn parhau i ddiweddaru WCCIS er mwyn adlewyrchu\u2019r newid yn anghenion ein timau, unrhyw argymhellion a dderbynnir gan Arolygiaeth Gofal Cymru, a newidiadau statudol sy\u2019n deillio o bolisi a chanllawiau Llywodraeth Cymru. Gan mai dyma\u2019r prif adnodd gwaith ar gyfer ein hymarferwyr gofal cymdeithasol (a rhai o\u2019n partneriaid) rydym yn parhau i ymgysylltu ac ymrwymo i wella\u2019u profiad o weithio gydag WCCIS a pharhau i wella\u2019u hyder a\u2019u sgiliau.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Datblygu safle Dinerth Road<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae Rhaglen Datblygu Dinerth Road yn bartneriaeth rhwng Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy (CBSC), Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) a Gr\u0175p Llandrillo Menai (GLlM) sy\u2019n cydweithio i sefydlu Cynllun Tai Gofal Ychwanegol newydd a darpariaeth Iechyd a Lles ar y safle. Mae hon yn rhaglen waith gymhleth a gwnaed llawer o waith yn ystod 2021-22 i gadarnhau\u2019r gofynion a chanfod llwybrau caffael sydd ar gael i\u2019r Bartneriaeth er mwyn cyflawni\u2019r datblygiad uchod. Bydd 2022-23 yn flwyddyn bwysig i\u2019r rhaglen:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Yn ystod Ebrill 2022, byddwn yn cwblhau\u2019r gwaith ymgysylltu \u00e2 Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig er mwyn cadarnhau eu diddordeb, a deall yr hyn maen nhw\u2019n ei deimlo am y llwybrau caffael posibl;<\/li><li>Rhwng Ebrill 2022 a Hydref 2022, bydd y T\u00eem Prosiect yn datblygu\u2019r Fanyleb Dechnegol fanwl a dogfennau caffael safonol er mwyn paratoi ar gyfer yr ymarfer caffael a fydd yn dechrau ym mis Ionawr 2023, yn amodol ar fesurau cymeradwyo perthnasol; <\/li><li>Yn ystod misoedd cynnar yr haf, byddwn yn anelu at gwblhau prynu\u2019r tir yn Dinerth Road gan Lywodraeth Cymru (yn amodol ar fesurau cymeradwyo perthnasol) sy\u2019n garreg filltir bwysig i\u2019r prosiect; <\/li><li>Tua diwedd y gwanwyn\/dechrau\u2019r haf, bydd ein cydweithwyr yn BIPBC yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus mewn perthynas \u00e2\u2019r gwasanaeth therapi dwys, a bydd canlyniad y gwaith hwnnw\u2019n llywio\u2019u hachos busnes refeniw. <\/li><li>Ar \u00f4l cyflwyno Achos Busnes BIPBC ym mis Tachwedd 2022 byddwn yn gofyn am gymeradwyaeth drwy\u2019r broses ddemocratig i fabwysiadu\u2019r llwybr caffael a ffefrir ar gyfer y datblygiad &#8211; disgwylir y bydd hyn yn digwydd ym mis Rhagfyr 2022; <\/li><li>Yn amodol ar gael y gymeradwyaeth berthnasol ym mis Rhagfyr 2022, yna bydd y rhaglen yn dechrau\u2019r broses gaffael, a disgwylir iddi bara rhwng 8 a 12 mis, yn dibynnu ar y llwybr caffael a ddewisir. <\/li><\/ul>\n\n\n\n<p>Byddwn yn eich diweddaru ynghylch sut mae\u2019r rhaglen waith gyffrous hon yn datblygu yn adroddiad y flwyddyn nesaf.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Adfer ar \u00f4l effaith pandemig Covid<\/h3>\n\n\n\n<p>Wrth i ni barhau i reoli ac ymateb i Covid-19, rydym yn sylweddoli bod angen i ni hefyd gynllunio ar gyfer \u201cadfer\u201d, ymdrin \u00e2\u2019r effaith ar iechyd y cyhoedd, defnyddwyr gwasanaeth, ein staff a\u2019n partneriaid yn y sector gwirfoddol\/cymunedol sydd wedi profi effaith y cyfyngiadau ac amhariadau yn ystod y pandemig; a hyn oll wrth weithio gyda chymunedau lleol i wella iechyd a lles. <\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-gallery has-nested-images columns-default is-cropped wp-block-gallery-3 is-layout-flex wp-block-gallery-is-layout-flex\">\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"427\" data-id=\"3133\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/Coed-Pella-01-1024x427.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-3133\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/Coed-Pella-01-1024x427.png 1024w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/Coed-Pella-01-300x125.png 300w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/Coed-Pella-01-768x320.png 768w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/Coed-Pella-01-1536x640.png 1536w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/Coed-Pella-01.png 1843w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n<\/figure>\n\n\n\n<p>Un o brif flaenoriaethau Conwy yw sicrhau buddsoddiad parhaus yn ein staff a chydweithio er mwyn gwella lles ein gweithlu. Yn yr un modd, mae canolbwyntio ar gadw\u2019r gweithlu yn parhau i fod yn hanfodol wrth i ni symud ymlaen.\n\nMae ein cynlluniau ar gyfer y gweithlu\u2019n cynnwys canolbwyntio ar:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Iechyd a lles staff wrth i ni adfer o\u2019r pandemig, gan ganolbwyntio\u2019n arbennig ar yr effaith gorfforol a meddyliol ar staff, a sicrhau diogelwch a diwylliannau dysgu. <\/li><li>Ffordd gyt\u00fbn i ddatblygu ymhellach elfennau sy\u2019n gysylltiedig \u00e2\u2019r gweithlu ochr yn ochr ag adolygu pob tybiaeth sydd gennym am gynllunio\u2019r gweithlu. <\/li><li>Darparu strategaeth ar ei newydd wedd ar gyfer y gweithlu sy\u2019n ymgorffori dysgu o\u2019r pandemig a goblygiadau ein cynllun adfer i\u2019r gweithlu. <\/li><li>Parhau \u00e2\u2019r gwaith i gadw staff a rhannu arfer dda ar gyfer iechyd a lles staff gyda diwylliannau diogelwch cynhwysol ar draws pob un o\u2019n sefydliadau a\u2019n partneriaid. <\/li><li>Recriwtio a chadw staff yn ein timau gwaith cymdeithasol ar gyfer Plant a Theuluoedd, sydd wedi bod yn faes hynod o heriol dros y ddwy flynedd ddiwethaf.<\/li><\/ul>\n\n\n\n<p>Oherwydd y pandemig, bu\u2019n rhaid meddwl yn wahanol am sut rydym yn cyflawni ein hymrwymiad i unigolion. Defnyddiwyd technoleg yn amlach nag erioed.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae gwasanaethau wedi ymateb i\u2019r her ac addasu\u2019n greadigol yn ystod pandemig Covid-19 er mwyn diogelu staff a\u2019n dinasyddion. Mae\u2019n bwysig ein bod yn parhau i adeiladu ar y llwyddiannau hyn.<\/p>\n\n\n\n<p>Rydym yn dal i weld risg yn gysylltiedig \u00e2\u2019r galw, a recriwtio a chadw\u2019r gweithlu, ac rydym yn bwriadu adeiladu ar fanteision prosiect Doethwaith 2020 Conwy sy\u2019n edrych ar sut mae\u2019r Cyngor yn gweithredu nawr ac yn y dyfodol.\nY weledigaeth ar gyfer y prosiect yw:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Gweithio tuag at ffyrdd newydd, mwy cynhyrchiol o weithio sy\u2019n creu cyfleoedd a chanlyniadau gwell i bawb. <\/li><li>Cydbwyso\u2019r weledigaeth uchod yn erbyn yr angen am adferiad cymdeithasol ac economaidd, tra\u2019n rheoli\u2019r risg. <\/li><li>Adeiladu ar y ffyrdd newydd o weithio a ddaeth yn amlwg yn ystod y cyfnod clo, a sicrhau bod y rhain yn parhau ar sail mwy hirdymor. <\/li><li>Ceisio gwneud pethau\u2019n wahanol yn y dyfodol i gefnogi lleihau carbon, lles staff, darparu gwasanaeth i\u2019r bobl rydym yn eu cefnogi a\u2019n heffeithlonrwydd fel adran (ac fel sefydliad ehangach).<\/li><\/ul>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-gallery has-nested-images columns-default is-cropped wp-block-gallery-4 is-layout-flex wp-block-gallery-is-layout-flex\">\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"505\" data-id=\"3135\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/Conwy-Voice-Guide-01-1024x505.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-3135\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/Conwy-Voice-Guide-01-1024x505.png 1024w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/Conwy-Voice-Guide-01-300x148.png 300w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/Conwy-Voice-Guide-01-768x378.png 768w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/Conwy-Voice-Guide-01-1536x757.png 1536w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/Conwy-Voice-Guide-01.png 1717w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n<\/figure>\n\n\n\n<p>Oherwydd y pwysau a ddaeth yn sgil pandemig Covid-19 a\u2019r argyfwng recriwtio, rydym hefyd yn gorfod mynd i\u2019r afael \u00e2\u2019r llwyth gwaith sydd nawr yn wynebu ein staff.  Byddwn yn parhau i gydweithio ar fesurau cadw staff, rhannu arfer dda ac uwchsgilio ein staff i hybu iechyd a lles gyda diwylliant diogelwch ar draws ein holl sefydliadau a phartneriaid. Mae angen i ni:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Sicrhau bod gennym weithlu digon mawr, medrus, diogel, sydd \u00e2 ffocws i hybu lles pobl <\/li><li>Datblygu a rhoi cynllun ar waith i ddenu, recriwtio a chadw gweithlu gofal cymdeithasol <\/li><li>Cefnogi cynlluniau adfer gofal cymdeithasol <\/li><li>Ymgorffori\u2019r gwersi a ddysgwyd am ffyrdd newydd o weithio er mwyn llunio, datblygu a gweithredu fframweithiau ansawdd ar gyfer timau<\/li><\/ul>\n\n\n\n<p>Fel rhan o\u2019i gynnig i staff, mae Conwy eisoes yn darparu gwasanaeth cwnsela yn rhad ac am ddim i gynnig cefnogaeth gydag unrhyw waith neu faterion personol. Mae cyfres o dudalennau gwe sy\u2019n llawn gwybodaeth am destunau megis rheoli straen, cefnogi unigolion drwy gyfnod o newid, cyngor am gam-drin alcohol a sylweddau ac iechyd meddwl bob amser o fewn ambell glic i bob gweithiwr. Ym mis Chwefror 2022 fe wnaethom gymryd rhan yng nghynllun Amser i Siarad, gyda chyfres o weithgareddau, gwybodaeth a sesiynau sgwrsio, a phob un yn anelu at wella ein hiechyd meddwl. Roedd y diwrnod llawn yn cynnwys sesiynau am chwalu\u2019r mythau sy\u2019n ymwneud ag iechyd meddwl, manteision cerdded yng nghefn gwlad, cyfleoedd gwirfoddoli, darllen er lles iechyd meddwl a sesiynau codi ymwybyddiaeth am y menopos. <\/p>\n\n\n\n<p>Mae cyfleoedd rheolaidd i drafod gyda rheolwyr llinell ynghylch ymrwymiadau gwaith a chartref yn sicrhau y gellir cefnogi problemau a\u2019u datrys mewn diwylliant o fod yn agored a dangos parch at ein gilydd.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-gallery has-nested-images columns-default is-cropped wp-block-gallery-5 is-layout-flex wp-block-gallery-is-layout-flex\">\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"576\" data-id=\"3137\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/Guided-Walk-01-1024x576.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-3137\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/Guided-Walk-01-1024x576.png 1024w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/Guided-Walk-01-300x169.png 300w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/Guided-Walk-01-768x432.png 768w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/Guided-Walk-01-1536x865.png 1536w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2022\/08\/Guided-Walk-01.png 1917w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n<\/figure>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Canlyniadau prosiect yr Adolygiad Cyllid a Chomisiynu Yn yr adroddiad hwn fe wnaethom edrych yn \u00f4l ar waith Prosiect Trawsnewid Pobl H\u0177n dros y deuddeg mis diwethaf. Un agwedd bwysig o\u2019r prosiect oedd y gwaith ymgynghori a\u2019r holl adborth a gawsom drwy wneud hyn. Nodwyd hefyd y bydd y prosiect yn un o\u2019r blaenoriaethau strategol [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":9,"featured_media":0,"parent":2986,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"_seopress_titles_title":"","_seopress_titles_desc":"","_seopress_robots_index":"","_seopress_robots_follow":"","_seopress_robots_imageindex":"","_seopress_robots_snippet":"","_seopress_robots_primary_cat":"","_seopress_robots_breadcrumbs":"","_seopress_robots_freeze_modified_date":"","_seopress_robots_custom_modified_date":"","_seopress_robots_canonical":"","_seopress_social_fb_title":"","_seopress_social_fb_desc":"","_seopress_social_fb_img":"","_seopress_social_fb_img_attachment_id":0,"_seopress_social_fb_img_width":0,"_seopress_social_fb_img_height":0,"_seopress_social_twitter_title":"","_seopress_social_twitter_desc":"","_seopress_social_twitter_img":"","_seopress_social_twitter_img_attachment_id":0,"_seopress_social_twitter_img_width":0,"_seopress_social_twitter_img_height":0,"_seopress_redirections_value":"","_seopress_redirections_enabled":"","_seopress_redirections_enabled_regex":"","_seopress_redirections_logged_status":"","_seopress_redirections_param":"","_seopress_redirections_type":0,"_seopress_analysis_target_kw":"","_genesis_hide_title":false,"_genesis_hide_breadcrumbs":false,"_genesis_hide_singular_image":false,"_genesis_hide_footer_widgets":false,"_genesis_custom_body_class":"","_genesis_custom_post_class":"","_genesis_layout":"","footnotes":""},"class_list":{"0":"post-3144","1":"page","2":"type-page","3":"status-publish","5":"entry"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/3144","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/9"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=3144"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/3144\/revisions"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/2986"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=3144"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}