{"id":2848,"date":"2021-08-27T14:50:10","date_gmt":"2021-08-27T13:50:10","guid":{"rendered":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/?page_id=2848"},"modified":"2021-08-31T13:42:21","modified_gmt":"2021-08-31T12:42:21","slug":"safon-ansawdd-6","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/adroddiad-2020-21\/safon-ansawdd-6\/","title":{"rendered":"Safon Ansawdd 6"},"content":{"rendered":"\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Mae pobl yn cael eu hannog i gyfrannu at ddyluniad a darpariaeth eu gofal a chefnogaeth fel partneriaid cyfartal.<\/h3>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Gwasanaeth Anableddau: Symud o wasanaethau strwythuredig i Daliadau Uniongyrchol<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae cynllun Taliadau Uniongyrchol Conwy wedi datblygu cynllun gwaith i&#8217;r dyfodol i gynyddu\u2019r nifer sy\u2019n derbyn Taliadau Uniongyrchol. Rydym yn y broses ar hyn o bryd o aildendro gwasanaethau cynnal ar gyfer y cynllun, cysylltu gyda chwsmeriaid presennol drwy Cyswllt Conwy a\u2019n Swyddog Cyfranogi mewn perthynas \u00e2\u2019r gwasanaethau gofynnol wrth symud ymlaen. Rydym hefyd wrthi\u2019n cynnal trafodaethau am gomisiynu gwasanaethau is-ranbarthol gydag awdurdodau cyfagos. Yn rhanbarthol, mae\u2019r T\u00eem Trawsnewid Anableddau Dysgu, mewn partneriaeth \u00e2 Sir y Fflint, yn treialu datblygiad Porthol Cymorthyddion Personol ar-lein. Bydd y Porthol yn darparu un pwynt mynediad ar gyfer gwybodaeth Cymorthyddion Personol, adnoddau a dysgu ar-lein, ac, yn dilyn gwerthusiad, mae posibilrwydd o\u2019i gyflwyno\u2019n rhanbarthol.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae cyfnod clo Covid-19 wedi galluogi pobl i ystyried ffyrdd amgen o fodloni eu canlyniadau lles. Mae nifer o bobl wedi dweud na fyddant yn dychwelyd i wasanaethau dydd, oherwydd eu bod yn ffafrio datblygu eu cynllun cymorth eu hunain yn defnyddio Taliadau Uniongyrchol. Mae\u2019r Rhaglen Drawsnewid Anableddau Dysgu ranbarthol wedi comisiynu hyfforddiant Broceriaeth Cymorth. Mae Broceriaeth Cymorth yn gyfle i ddarparu cymorth i bobl i gynllunio eu cefnogaeth yn effeithiol. Mae cynrychiolwyr o Wasanaethau Anableddau Conwy wedi mynychu\u2019r hyfforddiant Broceriaeth Cymorth a byddwn yn gweithio ochr yn ochr \u00e2\u2019r trydydd sector i dreialu hyn yn lleol dros y misoedd nesaf.<\/p>\n\n\n\n<p>Dros y deuddeg mis diwethaf rydym wedi darparu Taliadau Uniongyrchol i unigolion mewn ffordd hyblyg iawn, gan ganolbwyntio ar leihau effaith y cyfyngiadau ar ofalwyr a theuluoedd. I blant ag anableddau, mae hyn wedi golygu darparu offer chwarae ar gyfer eu gerddi ac, mewn nifer fechan o achosion, cyflogi aelodau agos o\u2019r teulu i ddarparu cymorth ychwanegol. Rydym hefyd wedi sicrhau bod gwybodaeth am argaeledd grantiau wedi cael ei rhannu gyda theuluoedd a gofalwyr i sicrhau eu bod yn gallu cael mynediad at yr ystod gyfan o gymorth posibl.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Ffurfio ein T\u00eem Lles Meddyliol<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae trosi i\u2019n T\u00eem Lles Meddyliol wedi sicrhau bod ein gwasanaeth yn unol \u00e2 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Yn y gorffennol, roedd yr integreiddiad ag Iechyd, ac felly yr angen i gadw at y Ddeddf Mesurau Iechyd Meddwl, yn atal y T\u00eem Gofal Cymdeithasol rhag ymgysylltu\u2019n llawn ag ethos ac egwyddorion y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant. Yr olaf o\u2019r rhain yw\u2019r newid deddfwriaethol mwyaf mewn hanes diweddar, gan drawsnewid y ffordd mae gwasanaethau yn cael eu darparu ac mae\u2019r T\u00eem Lles Meddyliol wedi gallu cydymffurfio \u00e2\u2019r ethos o hyrwyddo dulliau ataliol yn ogystal \u00e2 rhoi rheolaeth a llais cryfach i unigolion, a sicrhau eu bod yn bartneriaid cyfartal yn eu gofal a chymorth. Mae ethos y t\u00eem yn seiliedig ar yr elfen ganolog o \u2018ddim drws anghywir\u2019. Ni waeth pa wasanaeth y mae unigolyn yn mynd ato; rydym wedi eu cynorthwyo \u00e2 chael y gwasanaeth sydd yn iawn ar eu cyfer. Rydym wedi symud oddi wrth roi\u2019r baich o integreiddio ar yr unigolyn ac rydym yn gweithio gyda gwasanaethau eraill i hyrwyddo darpariaeth ddi-dor.<\/p>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p>Mae unigolion nawr yn derbyn ymateb cymesur a phrydlon, gan y gwasanaeth sydd yn y sefyllfa orau i\u2019w ddarparu. Rydym wedi canolbwyntio ar wneud yr hyn rydym yn dweud ein bod am wneud, a chael hyder pobl yn \u00f4l o ran gwasanaethau iechyd meddwl. <\/p><\/blockquote>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\"><span class=\"has-inline-color has-vivid-cyan-blue-color\">Beth oedd yr heriau?<\/span><\/h4>\n\n\n\n<p>Un o\u2019r heriau oedd symud y t\u00eem i\u2019r model presennol a chynnal darpariaeth gwasanaeth di-dor, fodd bynnag, oherwydd ymroddiad staff ar bob lefel rydym wedi gallu gwneud hyn yn llwyddiannus. Mae Covid-19 hefyd wedi rhoi pwysau digynsail ar wasanaethau iechyd meddwl, ond eto, mae ein gweithlu wedi bod yn ddiwyd o ran eu hymagwedd. Rydym ni fel gwasanaeth o\u2019r farn ein bod wedi cyflawni\u2019r newid hwn yn ystod pandemig oherwydd y gwerthoedd clir rydym yn eu gosod; mae popeth rydym wedi\u2019i wneud wedi bod yn seiliedig ar gydnabod pobl a\u2019u trin \u00e2 thrugaredd a gobaith, ac mae hyn yn berthnasol i\u2019r bobl rydym yn gweithio gyda nhw ac ein staff.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\"><span class=\"has-inline-color has-vivid-cyan-blue-color\">Beth nesaf?<\/span><\/h4>\n\n\n\n<p>Y cam nesaf yw i\u2019r T\u00eem Lles Meddyliol a\u2019r Gwasanaeth Pobl Ddiamddiffyn gefnogi a datblygu Coleg Adfer yn y sir. Hoffem gael fforwm partneriaeth gyda\u2019r trydydd sector, defnyddwyr gwasanaeth, aelodau Awdurdod Lleol ac Iechyd i gefnogi, cydweithio a datblygu\u2019r rhaglen hon wrth symud ymlaen fel cymuned fuddiant.<\/p>\n\n\n\n<p>Isod, gweler y categor\u00efau allweddol a fyddai\u2019n ffurfio\u2019r rhaglen, ond byddai\u2019r rhain yn datblygu dros amser:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Deall fy iechyd meddwl: cyrsiau a dulliau i helpu pobl i ddeall iechyd meddwl a lles emosiynol a sut i\u2019w goresgyn neu\u2019u rheoli.<\/li><li>Ennill sgiliau byw, gwneud yn si\u0175r fod gan bobl y cyfle gorau i fyw\u2019n dda e.e. llythrennedd corfforol, emosiynol ac ariannol.<\/li><li>Bod yn gysylltiedig, creu rhwydwaith drwy hob\u00efau, gweithgareddau, diddordebau ac ati.<\/li><li>Rhoi yn \u00f4l\/ symud ymlaen, ennill sgiliau i alluogi myfyrwyr i gynnal yr hyn maent wedi\u2019i ddysgu drwy, er enghraifft, gwirfoddoli, cyflogaeth, rhoi o\u2019u hamser i eraill ac ati.&nbsp;<\/li><li>Rydym hefyd eisiau gweithio gyda busnesau lleol i ddatblygu cysylltiadau, i roi gwybodaeth i bobl cyn maent ei hangen, megis cymorth cyntaf iechyd meddwl.<\/li><\/ul>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Datblygu ein Canolfannau Teuluoedd<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae gwaith wedi dechrau i ailwampio Eryl Wen, Llandudno, sef lleoliad T\u00eem Cymorth i Deuluoedd Gogledd Cymru. Roedd gennym gyfle i wneud defnydd o fwy o\u2019r adeilad i greu cyfleuster mwy gydag ystafelloedd mwy eang.<\/p>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"aligncenter size-full\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"640\" height=\"480\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/08\/Eryl-Wen-Works-1.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-2850\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/08\/Eryl-Wen-Works-1.jpg 640w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/08\/Eryl-Wen-Works-1-300x225.jpg 300w\" sizes=\"auto, (max-width: 640px) 100vw, 640px\" \/><\/figure><\/div>\n\n\n\n<p>Yn 2020, dechreuom ymgynghori gyda theuluoedd, Aelodau Etholedig, partneriaid a\u2019r gymuned leol ar ein dull \u2018canolbwynt ac adain\u2019 lleol ac os oedd Eryl Wen yn lleoliad addas ar gyfer Canolfan Deuluoedd. Fe wnaethom gynnal digwyddiad budd-ddeiliad i aelodau ar ddechrau mis Mawrth a rhai trafodaethau wyneb yn wyneb gyda theuluoedd, a symud i gynnal arolwg ar-lein yn dilyn gosod cyfyngiadau Covid-19.<\/p>\n\n\n\n<p>Roedd cytundeb cyffredinol bod ein model canolbwynt ac adain yn gweithio\u2019n dda ac nid oedd angen gwneud unrhyw newidiadau; roedd defnyddio Eryl Wen, ysgolion a lleoliadau cymunedol lleol i ddarparu ein gwasanaeth yn gweithio\u2019n dda. Yn dilyn pleidlais, roedd canran fawr (72%) o blaid i ni aros lle rydym ni yn Eryl Wen.<\/p>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p>Rwy\u2019n hoffi dod i\u2019r Ganolfan Deuluoedd ar gyfer apwyntiadau. Mae mewn man tawelach na lle rwyf yn byw ac nid wyf yn teimlo fel bod pobl yn fy ngwylio\u2026<\/p><\/blockquote>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p>Mae Eryl Wen yn hygyrch ar droed i deuluoedd &nbsp;Llandudno.<\/p><\/blockquote>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p>Mae fy ng\u0175r a minnau wedi cymryd rhan mewn cyrsiau ac wedi defnyddio gwasanaethau eraill yn Eryl Wen sydd wedi bod yn ddefnyddiol iawn i ni ac wedi cael effaith gadarnhaol fawr ar ein bywyd teuluol.<\/p><\/blockquote>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p>Rydw i\u2019n hoffi\u2019r ffaith nad yw\u2019r ganolfan bresennol ar un o\u2019r ystadau\u2026 ond mae\u2019r adeilad presennol angen ei ailwampio.<\/p><\/blockquote>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r gwaith gwella wedi dechrau. Ar gyfer gwaith adnewyddu Cam 1, roeddem yn lwcus iawn i gael derbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru ar gyfer adnewyddu\u2019r to, estyll talcen, cafnau a phibellau d\u0175r yr adeilad ym mis Rhagfyr 2020 a chyllid ychwanegol ym mis Ionawr 2021 i ddechrau ar y gwaith o ailwampio\u2019r llawr cyntaf a chyflenwi dodrefn ar gyfer y gofod newydd. Rydym nawr yn gwneud cais am gyllid i gwblhau Cam 2 y gwaith adnewyddu.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\"><span class=\"has-inline-color has-vivid-cyan-blue-color\">Beth oedd yr heriau?<\/span><\/h4>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r flwyddyn hon wedi bod yn heriol ar sawl lefel, gyda rhwystredigaethau yngl\u0177n \u00e2\u2019r cyfyngiadau ar waith wyneb yn wyneb gyda theuluoedd, a staff yn delio gyda gwaith a bywyd teuluol gyda phlant gartref. Trwy hyn i gyd, mae\u2019r gwasanaeth wedi dangos cadernid a chreadigrwydd, ac rydym wedi dysgu rhai ffyrdd newydd a diddorol o wella ein cymorth i deuluoedd y tu hwnt i\u2019r cyfnod anodd hwn.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Datblygiad Douglas Road<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae gwaith wedi dechrau ar ailwampio Canolfan Ieuenctid Douglas Road a dymchwel Canolfan Addysg Douglas Road (drws nesaf) yng nghanol Bae Colwyn. Bydd y datblygiad yn darparu lleoliad cymunedol hygyrch ar gyfer y T\u00eem Cymorth i Deuluoedd Canolog a Th\u00eem Iechyd Dechrau&#8217;n Deg, yn ogystal \u00e2 phartneriaid yn darparu cymorth i deuluoedd yn ardal Bae Colwyn.<\/p>\n\n\n\n<p>Adeiladwyd yr eiddo oddeutu 123 o flynyddoedd yn \u00f4l, ac mae\u2019r gwaith ailwampio\u2019n cynnwys moderneiddio\u2019r adeilad ac ad-drefnu\u2019r gofod er mwyn caniat\u00e1u ar gyfer:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Derbynfa ac ardal groeso newydd \u00e2 chynllun agored<\/li><li>Ystafell chwarae a chyfleusterau cr\u00e8che ar gyfer amseroedd pan gynhelir grwpiau rheini<\/li><li>Lle ar gyfer amrywiaeth o weithgareddau (yn cynnwys peiriant codi)<\/li><li>Digon o le ar gyfer storio<\/li><li>Toiledau modern a chyfleusterau newid, yn cynnwys ardal newid ac ystafell ymolchi gyda pheiriant codi llawn<\/li><li>Cegin i\u2019w defnyddio i goginio a bwyta<\/li><li>Digonedd o ystafelloedd un i un i wahanol asiantaethau eu defnyddio i gefnogi teuluoedd<\/li><li>Swyddfa aml-asiantaeth ar gyfer cydweithio <\/li><li>Ardal chwarae awyr agored<\/li><\/ul>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"aligncenter size-full\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"681\" height=\"314\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/08\/Douglas-Road-1.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-2856\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/08\/Douglas-Road-1.jpg 681w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/08\/Douglas-Road-1-300x138.jpg 300w\" sizes=\"auto, (max-width: 681px) 100vw, 681px\" \/><\/figure><\/div>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Darparu gwasanaethau ail-alluogi<\/h3>\n\n\n\n<p>Ar ddiwedd pob cyfnod o ail-alluogi rydym yn siarad gyda\u2019r unigolion rydym wedi\u2019u cefnogi ac yn gofyn cyfres o gwestiynau iddynt am y gofal a\u2019r cymorth y maent wedi\u2019i gael gennym ni. Dyma\u2019r canlyniadau allweddol o 2020-21.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-table is-style-stripes\"><table><tbody><tr><td>Roedd 97% o unigolion, ynghyd \u00e2\u2019u teulu, ffrindiau, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol, yn rhan o gytuno a chynllunio eu cymorth<\/td><\/tr><tr><td>Teimlai 99% y bodlonwyd eu disgwyliadau o\u2019r gwasanaeth<\/td><\/tr><tr><td>Dywedodd 91% ein bod wedi cytuno ar eu canlyniadau personol gyda nhw ar gychwyn y gwasanaeth.<\/td><\/tr><tr><td>Teimlai 89% eu bod wedi cyflawni\u2019r canlyniadau a bennwyd erbyn diwedd y cyfnod ymyrraeth<\/td><\/tr><tr><td>Teimlai 98% fod y cymorth a dderbyniwyd yn hyblyg, er enghraifft, o ran amserau ymweld, hyd pob ymweliad ac yn y blaen<\/td><\/tr><tr><td>Teimlai 95% fod y cymorth a ddarparwyd yn gyson, er enghraifft, yr un aelod o staff yn ymweld<\/td><\/tr><tr><td> Teimlai 98% fod y cymorth a gawsant wedi\u2019u galluogi i wneud cymaint ag y gallant drostynt eu hunain <\/td><\/tr><tr><td>Roedd 99% yn cytuno fod ein staff yn ddymunol, yn garedig ac yn gwrtais<\/td><\/tr><\/tbody><\/table><\/figure>\n\n\n\n<p>Mae rhai o\u2019r sylwadau a wnaed yn ystod y cyfweliadau yn dangos mor werthfawr yw ein gwasanaeth ailalluogi:<\/p>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p>O\u2019r funud rwyf yn agor y drws ac yn clywed \u201cbore da\u201d croesawgar rydw i\u2019n gwybod y byddaf yn ddiogel.<\/p><\/blockquote>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p>Cymorth da iawn; rydw i\u2019n mwynhau cwmni\u2019r staff ac mae gen i berthynas dda gyda phob un ohonynt.<\/p><\/blockquote>\n\n\n\n<blockquote class=\"wp-block-quote is-layout-flow wp-block-quote-is-layout-flow\"><p>Fe aeth y gofalwyr y tu hwnt i\u2019r hyn roeddem yn ei ddisgwyl&nbsp; &#8211; gan gefnogi\u2019r teulu cyfan gyda charedigrwydd ac empathi. Fe wnaethon ein helpu drwy gyfnod anodd ac emosiynol. Diolch.&nbsp;<\/p><\/blockquote>\n\n\n\n<p>Yr agweddau o ofal yr oedd pobl yn eu gwerthfawrogi fwyaf oedd gweld wynebau cyfeillgar, yn enwedig yn ystod y cyfnod clo, cael eu trin \u00e2 thrugaredd a pharch, a gallu gwneud pethau bach i adennill annibyniaeth gartref. Fel bob amser, byddwn yn parhau i fonitro\u2019r gofal a\u2019r cymorth rydym yn eu darparu, ymgysylltu gyda\u2019r unigolion sy\u2019n eu derbyn, a gweithredu ar unrhyw adborth neu feysydd i\u2019w gwella sy\u2019n cael eu tynnu i\u2019n sylw.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae pobl yn cael eu hannog i gyfrannu at ddyluniad a darpariaeth eu gofal a chefnogaeth fel partneriaid cyfartal. Gwasanaeth Anableddau: Symud o wasanaethau strwythuredig i Daliadau Uniongyrchol Mae cynllun Taliadau Uniongyrchol Conwy wedi datblygu cynllun gwaith i&#8217;r dyfodol i gynyddu\u2019r nifer sy\u2019n derbyn Taliadau Uniongyrchol. Rydym yn y broses ar hyn o bryd o [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":9,"featured_media":0,"parent":2643,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"_seopress_titles_title":"","_seopress_titles_desc":"","_seopress_robots_index":"","_seopress_robots_follow":"","_seopress_robots_imageindex":"","_seopress_robots_snippet":"","_seopress_robots_primary_cat":"","_seopress_robots_breadcrumbs":"","_seopress_robots_freeze_modified_date":"","_seopress_robots_custom_modified_date":"","_seopress_robots_canonical":"","_seopress_social_fb_title":"","_seopress_social_fb_desc":"","_seopress_social_fb_img":"","_seopress_social_fb_img_attachment_id":0,"_seopress_social_fb_img_width":0,"_seopress_social_fb_img_height":0,"_seopress_social_twitter_title":"","_seopress_social_twitter_desc":"","_seopress_social_twitter_img":"","_seopress_social_twitter_img_attachment_id":0,"_seopress_social_twitter_img_width":0,"_seopress_social_twitter_img_height":0,"_seopress_redirections_value":"","_seopress_redirections_enabled":"","_seopress_redirections_enabled_regex":"","_seopress_redirections_logged_status":"","_seopress_redirections_param":"","_seopress_redirections_type":0,"_seopress_analysis_target_kw":"","_genesis_hide_title":false,"_genesis_hide_breadcrumbs":false,"_genesis_hide_singular_image":false,"_genesis_hide_footer_widgets":false,"_genesis_custom_body_class":"","_genesis_custom_post_class":"","_genesis_layout":"","footnotes":""},"class_list":{"0":"post-2848","1":"page","2":"type-page","3":"status-publish","5":"entry"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/2848","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/9"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=2848"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/2848\/revisions"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/2643"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=2848"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}