{"id":2816,"date":"2021-08-27T14:07:11","date_gmt":"2021-08-27T13:07:11","guid":{"rendered":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/?page_id=2816"},"modified":"2021-08-31T14:37:49","modified_gmt":"2021-08-31T13:37:49","slug":"safon-ansawdd-5","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/adroddiad-2020-21\/safon-ansawdd-5\/","title":{"rendered":"Safon Ansawdd 5"},"content":{"rendered":"\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Mae partneriaethau effeithiol ar waith i gomisiynu a darparu deilliannau cwbl integredig, o ansawdd uchel, cynaliadwy i bobl.<\/h3>\n\n\n\n<p>Eleni, rydym wedi dechrau ar brosiect cydweithio newydd gyda\u2019n partneriaid yn Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Gr\u0175p Llandrillo Menai. Y bwriad yw sefydlu Cynllun Tai Gofal Ychwanegol newydd ochr yn ochr \u00e2 darpariaeth iechyd a lles ar safle hen Swyddfeydd Llywodraeth Cymru yn Llandrillo-yn-Rhos. Wedi\u2019i leoli yng nghanol y gymuned, yn agos at lwybrau bysiau, siopau a gwasanaethau lleol, mae gan y safle botensial mawr o ran ei ddatblygu, gan ddarparu cwmpas ar gyfer:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Fflatiau Tai Gofal Ychwanegol<\/li><li>Uned ail-alluogi<\/li><li>Llety i fyfyrwyr a chanolfan addysg\/addysgu<\/li><li>Gofod clinig a swyddfa aml-asiantaeth<\/li><\/ul>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r buddion a ragwelir yn dilyn cwblhau\u2019r gwaith yn niferus ac eang. O ran yr unigolion sy\u2019n derbyn gofal a chymorth gennym ni, byddent yn elwa o fynediad at gyfleusterau modern a hygyrch, cartrefi a llety ailalluogi. Byddem yn disgwyl gostyngiad o ran nifer yr unigolion mewn gofal preswyl hirdymor, gofal yn y cartref a derbyniadau i\u2019r ysbyty oherwydd bod unigolion diamddiffyn yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi i fyw\u2019n ddiogel ac yn annibynnol am gyfnod hirach.<\/p>\n\n\n\n<p>Bydd staff yn elwa o amodau gwaith gwell ac amgylchedd modern sy\u2019n addas i\u2019r diben ac yn hwyluso gweithio mewn partneriaeth. Byddwn yn canolbwyntio ar gydweithio fel un t\u00eem i alluogi\u2019r unigolion rydym yn eu cefnogi i fwynhau bywyd mwy annibynnol, yn gwneud beth sy\u2019n bwysig iddynt. Bydd ansawdd y gofal rydym yn ei ddarparu yn gwella, bydd ein staff yn hynod fedrus, ac o ganlyniad i\u2019n perthynas waith agos gyda Gr\u0175p Llandrillo Menai, byddwn yn elwa o allu cadw mwy o staff hyfforddedig a chymwys ar gyfer y dyfodol.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r prosiect hwn felly yn fuddsoddiad yn ein unigolion diamddiffyn, staff, dysgwyr a\u2019r gymuned ehangach, ac rydym yn edrych ymlaen at roi&#8217;r wybodaeth ddiweddaraf i chi yn adroddiad y flwyddyn nesaf.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"272\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/08\/Building-Site-2-1024x272.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-2818\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/08\/Building-Site-2-1024x272.png 1024w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/08\/Building-Site-2-300x80.png 300w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/08\/Building-Site-2-768x204.png 768w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/08\/Building-Site-2-1536x408.png 1536w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/08\/Building-Site-2.png 1599w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Cynllun byw&#8217;n annibynnol ar gyfer oedolion ag anghenion cymhleth<\/h3>\n\n\n\n<p>Er mwyn atal oedolion gydag anghenion cymhleth iawn rhag mynd i leoliadau arbenigol y tu allan i\u2019r sir neu wneud iddynt symud yn nes at adref, rydym yn gweithio gyda BIPBC i ddatblygu cynllun byw&#8217;n annibynnol pedwar person yn Sir Conwy.&nbsp; Nodwyd Cymdeithas Tai Dewis Cyntaf yng Nghaerdydd yn Landlord Cymdeithasol Cofrestredig gan eu bod yn arbenigo mewn cynlluniau i bobl anabl. Ar hyn o bryd, ceisir tir i leoli\u2019r prosiect.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae teuluoedd yr unigolion a nodwyd yn rhan hanfodol o\u2019r t\u00eem amlddisgyblaethol ac yn gallu darparu mewnbwn ar eu rhan. Mae hyn wedi bod ar ffurf disgrifiadau, proffiliau personol, cynlluniau cefnogi ymddygiad cadarnhaol, a nodi beth sy\u2019n bwysig i bob unigolyn. Rydym wedi astudio\u2019r gwersi a ddysgwyd o ddatblygiadau blaenorol, wedi dadansoddi addasrwydd safleoedd posibl, wedi cwrdd \u00e2 darparwyr cymorth posibl ac wedi gweithio ar ffrydiau cyllido gyda BIPBC.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\"><span class=\"has-inline-color has-vivid-cyan-blue-color\">Beth oedd yr heriau?<\/span><\/h4>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r prif heriau hyd yma wedi ymwneud \u00e2 gweithio mewn partneriaeth, a chytuno ar gynlluniau cymorth cymhleth gyda BIPBC. Mae canfod tir addas yn y sir ar gyfer anghenion y prosiect a\u2019r unigolion a nodwyd wedi bod yn heriol, yn ogystal dod o hyd i ddarparwr cymorth sydd \u00e2 gweithlu medrus a chymwys sy\u2019n gallu darparu cymorth yn unol \u00e2 chanllawiau\u2019r Rhwydwaith Cefnogi Ymddygiad Cadarnhaol.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\"><span class=\"has-inline-color has-vivid-cyan-blue-color\">Beth nesaf?<\/span><\/h4>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Prynu tir ac adeiladu datblygiad lle ceir cydgytundeb ar gynlluniau pensaern\u00efol<\/li><li>Parhau \u00e2 chyfarfodydd misol \u00e2 budd-ddeiliad, gan sicrhau bod yr unigolion a nodwyd yn parhau i fod yn ganolog i bob penderfyniad a wneir<\/li><li>Dechrau\u2019r broses dendro ar gyfer darparwr cymorth<\/li><li>Cytuno ar broses bartneriaeth ffurfiol rhwng CBSC a BIPBC sydd \u00e2 rheolaeth lawn ac sy\u2019n darparu canlyniadau i unigolion lle mae pob penderfyniad yn canolbwyntio ar yr unigolyn<\/li><li>Cytuno ar ganlyniadau rhwng CBSC a BIPBC lle mae cydweithio\u2019n fwy economaidd ymarferol i bawb ar sail hirdymor, gan greu cytundebau cydweithio ar gyfer datblygiadau newydd yn y dyfodol, yn unol \u00e2\u2019r Ddeddf<\/li><li>Cytuno a chymeradwyo achos busnes<\/li><li>Nodi cynllun pontio lle gellir ceisio safbwyntiau\u2019r unigolion ar yr adeg gywir, ar sail eu hanableddau, a sicrhau eu cydweddoldeb i rannu\u2019r adeilad<\/li><\/ul>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Prosiect Trawsnewid Plant<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r Bwrdd Gwasanaeth Integredig Plant Ardal Canolog (partneriaeth rhwng CBSC, CSDd a BIPBC) wedi datblygu dau brif brosiect yn defnyddio\u2019r cyllid Trawsnewid.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\"><span class=\"has-inline-color has-vivid-cyan-blue-color\">T\u00eem Amlddisgyblaethol Bwthyn y Dd\u00f4l<\/span><\/h4>\n\n\n\n<p><em>Y nod: lleihau\u2019r achosion o blant a phobl ifanc sy\u2019n derbyn gofal ac i\u2019r sawl sydd, lleihau\u2019r amser maent yn ei dreulio mewn lleoliad gofal.<\/em><em><\/em><\/p>\n\n\n\n<p>Bydd y t\u00eem yn gweithio gyda theuluoedd lle mae plant a phobl ifanc ar ffin y system ofal ac mewn perygl o dderbyn gofal gan nad yw eu rhieni \/ gofalwyr, am amrywiaeth o resymau, yn gallu rheoli dynamig teuluol iach. I ddechrau, bydd gwaith y t\u00eem yn canolbwyntio ar gwblhau rhestr gyfannol o gryfderau ac anawsterau, risgiau ac anghenion er mwyn argymell rhaglen waith ac unrhyw adnoddau addas ychwanegol sy\u2019n angenrheidiol i ddatrys y materion, ar y cyd \u00e2 darparu eu hymyrraeth eu hunain. Mae pob aelod o\u2019r t\u00eem bellach wedi cael eu recriwtio ac maent yn derbyn atgyfeiriadau.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-full\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"663\" height=\"410\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/08\/Spindly-Family-Group-1.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-2820\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/08\/Spindly-Family-Group-1.png 663w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/08\/Spindly-Family-Group-1-300x186.png 300w\" sizes=\"auto, (max-width: 663px) 100vw, 663px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\"><span class=\"has-inline-color has-vivid-cyan-blue-color\">T\u00eem Anghenion Ymddygiad Cymhleth<\/span><\/h4>\n\n\n\n<p><em>Y nod:&nbsp; cefnogi teuluoedd sy\u2019n cael anhawster rheoli ymddygiad heriol ac anarferol.<\/em><em><\/em><\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r prosiect hwn yn canolbwyntio ar agwedd cymorth cynnar y cais Trawsnewid. Bydd y t\u00eem hwn o weithwyr proffesiynol yn gweithio gyda theuluoedd sydd \u00e2 phlant a phobl ifanc ag anghenion ymddygiad cymhleth nad ydynt yn cael eu diwallu gan y gwasanaethau presennol a gynigir, gyda\u2019r nod o ymyrryd yn fuan ar \u00f4l i\u2019r ymddygiad ddod i\u2019r amlwg. &nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Bydd y t\u00eem o lyw-wyr yn cynnig gwasanaeth cyfeirio a chanllawiau ymarferol i gynorthwyo rhieni a gofalwyr ond byddant hefyd yn cael eu cefnogi gan weithwyr proffesiynol iechyd galwedigaethol a seicoleg y t\u00eem, pan fo achosion mwy cymhleth yn codi.<\/p>\n\n\n\n<p>Bydd y gwasanaeth hwn yn rhoi cymorth i blant a phobl ifanc heb ddiagnosis swyddogol, sydd wedi cael diagnosis ond heb gymorth neu gymorth cyfyngedig ar gael neu\u2019n aros am asesiad niwroddatblygiadol gan y Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc er mwyn i ymwybyddiaeth a dealltwriaeth y teulu o\u2019r materion wella ac iddynt allu parhau i fod yn wydn.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\"><span class=\"has-inline-color has-vivid-cyan-blue-color\">Beth nesaf?<\/span><\/h4>\n\n\n\n<p>Mae prosiect ar wah\u00e2n yn mynd rhagddo i ddatblygu canolfan asesu preswyl pwrpasol i blant gydag eiddo \u00e2 6 gwely a 2 wely brys arall ar gael, wedi\u2019i ariannu drwy\u2019r Gronfa Gofal Integredig. Y bwriad yw cwblhau\u2019r safle erbyn canol 2022.<\/p>\n\n\n\n<p>Tra bod y datblygiad hwn yn mynd rhagddo, mae\u2019r rhaglen drawsnewid yn ystyried datblygu datrysiad dros dro i roi\u2019r lefel ddwys hon o gymorth i deuluoedd. Byddwn yn ceisio defnyddio eiddo preswyl sydd eisoes yn bodoli gyda\u2019r bwriad o ddarparu llety asesu a safle i\u2019r t\u00eem nes y bydd y cyfleuster newydd yn weithredol.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Cydweithio i wneud ein gwasanaethau\u2019n hygyrch<\/h3>\n\n\n\n<p>Fe welwch drwy gydol yr adroddiad hwn ein bod, o ran ein hymateb i Covid-19 yn benodol, wedi dibynnu\u2019n drwm ar gydweithio gyda gwasanaethau eraill, yn fewnol yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ac yn allanol. Mae timau megis Archwilio, Adnoddau Dynol a Chyllid Corfforaethol wedi ein galluogi ni i gydlynu cymorth yn gyflym i\u2019r bobl mwyaf diamddiffyn yn ein cymunedau. Rydym wedi benthyg staff o Wasanaethau Hamdden a Venue Cymru i anfon Cyfarpar Diogelu Personol yn uniongyrchol ar leoliadau gofal a darparu cymorth gweinyddol ymarferol.<\/p>\n\n\n\n<p>Bydd y perthnasau hyn, sydd bellach wedi\u2019u sefydlu, yn ein galluogi ni i ymateb yn gyflym i unrhyw argyfwng yn y dyfodol, ac mae\u2019r broses ddysgu rydym ni wedi bod drwyddi yng Ngofal Cymdeithasol a thu hwnt wedi bod yn amhrisiadwy. &nbsp;<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Cefnogaeth dros y ff\u00f4n i gartrefi gofal yng Nghonwy yn ystod pandemig Covid-19<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae gwasanaeth newydd wedi\u2019i sefydlu i gefnogi\u2019r 72 cartref gofal, 28 o ddarparwyr gofal cartref a 43 prosiect byw \u00e2 chymorth sy\u2019n gweithredu yn sir Conwy. Mae\u2019r t\u00eem yn gweithio\u2019n agos gyda chydweithwyr Iechyd yr Amgylchedd,&nbsp; Gofal Iechyd Cymunedol Nyrsio BIPBC a\u2019r T\u00eem Iechyd a Diogelwch Corfforaethol mewn ffordd gydweithredol newydd.&nbsp; Gwneir cyswllt rheolaidd bob wythnos gyda\u2019r holl ddarparwyr a lleoliadau gofal i wneud yn si\u0175r eu bod yn gwybod y diweddaraf o ran y canllawiau a chyngor, bod gan CBSC wybodaeth gyfredol am ble mae\u2019r sector o ran heintiau Covid-19, lefelau staffio, mesurau rheoli haint ac asesiadau risg. Rydym yn sicrhau bod lleoliadau yn cael eu cefnogi pan mae ganddynt achosion positif o Covid-19 gyda chyngor amserol, canllawiau ac yn aml staff ychwanegol a chymorth ariannol drwy Gronfa Galedi Covid-19. Mae\u2019r t\u00eem hefyd yn cynnal cyfarfodydd amlddisgyblaethol rheolaidd, yn cynnwys CBSC a\u2019n partneriaid, i adolygu effaith Covid-19 ar leoliadau unigol, yr effaith y mae hyn yn ei gael ar les y preswylwyr a chleientiaid, a pha fesurau y gellir eu rhoi yn eu lle i\u2019w cefnogi.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae galwadau monitro a chefnogaeth wythnosol hefyd wedi cael eu gwneud i leoliadau gofal maeth a phreswyl annibynnol i blant a gomisiynir ar draws y DU drwy gydol y pandemig.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\"><span class=\"has-inline-color has-vivid-cyan-blue-color\">Beth oedd yr heriau?<\/span><\/h4>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r gwasanaeth ymateb hwn wedi cymryd adnoddau o feysydd gwaith eraill am bron i ddeuddeg mis. Mae heriau sylweddol wrth geisio rheoli\u2019r ymateb i Covid-19 ochr yn ochr \u00e2 gweithgareddau arferol.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\"><span class=\"has-inline-color has-vivid-cyan-blue-color\">Beth nesaf?<\/span><\/h4>\n\n\n\n<p>Nid yw dyfodol y gwasanaeth hwn yn hysbys ar hyn o bryd. Mae nifer yr achosion positif o Covid-19 yn y sector gofal yng Nghonwy yn dal i fod yn uchel ar adeg ysgrifennu\u2019r adroddiad hwn, ond gobeithir, oherwydd bod llawer bellach wedi derbyn eu dos cyntaf o\u2019r brechlyn, y bydd y niferoedd hyn yn dechrau gostwng. Fodd bynnag, bydd llawer o agweddau cadarnhaol o\u2019r gwasanaeth sydd wedi datblygu dros y 12 mis diwethaf yn parhau, yn enwedig y berthynas waith agos gyda BIPBC a darparwyr gofal y sector preifat.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Strategaeth Gwerth Cymdeithasol i godi proffil gwerthoedd cymdeithasol ar draws Conwy a helpu i sefydlu gwerth cymdeithasol yn y gwaith y mae\u2019r partneriaid i gyd yn ei wneud<\/h3>\n\n\n\n<p>Nid yw cynhyrchu Strategaeth Gwerth Cymdeithasol wedi bod yn bosibl yn dilyn adleoli staff mewn ymateb i bandemig Covid-19. Rydym wedi parhau i gefnogi\u2019r Sector Gwerth Cymdeithasol yn 2020-21 drwy\u2019r gwasanaethau comisiwn a ddarperir yn ein Canolfannau Teuluoedd, ein cyllid i Gyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Conwy ac ein cefnogaeth i\u2019r prosiect Llywiwr Cymunedol yng nghlwstwr Meddyg Teulu Gorllewin Conwy. <\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\"><span class=\"has-inline-color has-vivid-cyan-blue-color\">Beth oedd yr heriau?<\/span><\/h4>\n\n\n\n<p>Mae effaith pandemig Covid-19 ar Ofal Cymdeithasol wedi bod yn sylweddol, gan alw am adleoli staff a chreu gwasanaethau cwbl newydd. <\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\"><span class=\"has-inline-color has-vivid-cyan-blue-color\">Beth nesaf?<\/span><\/h4>\n\n\n\n<p>Mae CBSC yn cydnabod pwysigrwydd Gwerth Cymdeithasol a bydd yn cael ei gynnwys fel blaenoriaeth allweddol wrth gynhyrchu strategaeth gomisiynu newydd yn 2021-22. Bydd cynnwys Gwerth Cymdeithasol yn strategaeth gomisiynu\u2019r Cyngor yn amlygu\u2019i bwysigrwydd ymysg darparwyr Cyd-gynhyrchu, Atal a Chydweithio, sydd i gyd yn hanfodol i gyflawni ein dyletswydd o dan y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant. <\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Cynhwysiant digidol o fewn Cartrefi Gofal<\/h3>\n\n\n\n<p>Yn gynnar ar ddechrau\u2019r cyfnod clo cyntaf (Ebrill 2020), bu i Gonwy roi 95 iPad i gartrefi gofal, drwy gyfuniad o gyllid trawsnewid rhanbarthol a chyllid Cronfa Gofal Integredig Llywodraeth Cymru. Cafodd bob cartref gofal yng Nghonwy o leiaf un iPad, gyda chartrefi mwy yn cael mwy o iPads i sicrhau bod digon i ddiwallu anghenion preswylwyr. Roedd gan bob iPad lwfans data 4G ac yn gallu cysylltu gyda WI-FI\u2019r cartref. Mae\u2019r prosiect wedi cael ei gefnogi\u2019n dda gan Gymunedau Digidol Cymru, sydd wedi gweithio gyda staff cartrefi gofal i\u2019w helpu i wneud y mwyaf o fuddion yr iPads.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae adborth gan gartrefi gofal yn dangos bod yr iPads wedi bod yn llwyddiannus ac wedi cael eu defnyddio i gynnal cyswllt gydag anwyliaid drwy \u201cymweliadau dros y we\u201d gyda theulu yn defnyddio Zoom neu Skype (neu debyg), a hefyd i gefnogi cysylltiadau gyda gofal sylfaenol, er enghraifft, ymgynghoriadau gyda Meddygon Teulu yn ogystal \u00e2 gweithwyr proffesiynol eraill megis y T\u00eem Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid.<\/p>\n\n\n\n<p>Roedd llawer o\u2019r cartrefi mwy wedi adrodd problemau \u00e2\u2019r WI-FI, sef nad oedd eu signal yn cyrraedd rhannau penodol o\u2019r adeilad. Mae cyllid ychwanegol o\u2019r Gronfa Gofal Integredig wedi cael ei ddefnyddio i osod pecynnau ymestyn signal WI-FI mewn dros 30 o gartrefi gofal yng Nghonwy, sydd wedi datblygu cysylltedd digidol ymhellach, yn enwedig i\u2019r rheiny sy\u2019n hunan-ynysu.<\/p>\n\n\n\n<p>I gefnogi pobl sy\u2019n byw gyda dementia mewn cartrefi gofal ymhellach, mae cyllid dementia\u2019r Gronfa Gofal Integredig wedi cael ei ddefnyddio i brynu deg o ddesgiau clyfar yn cynnwys dyfeisiau llechen Android ar stand symudol, gyda batri cuddedig sy\u2019n para am wyth awr. Cafodd deg o gartrefi ddesg glyfar ym mis Mawrth 2021, y gellir ei defnyddio i alluogi a hyrwyddo ymgysylltiad, gweithgareddau hamdden, creadigrwydd a gemau geiriau, profiadau synhwyraidd, ymweliadau dros y we gyda theuluoedd, ac ymgynghoriadau gyda gweithwyr proffesiynol iechyd ac eraill. Bydd y sgriniau 32\u201d mawr yn arbennig o fuddiol i\u2019r unigolion hynny sy\u2019n cael trafferth canolbwyntio ar sgriniau iPad llai.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-full\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"324\" height=\"241\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/08\/OP-Smart-Desk-1.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-2822\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/08\/OP-Smart-Desk-1.png 324w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/08\/OP-Smart-Desk-1-300x223.png 300w\" sizes=\"auto, (max-width: 324px) 100vw, 324px\" \/><figcaption><em>Defnyddir y llun gyda chaniat\u00e2d Inspired Inspirations<\/em><\/figcaption><\/figure>\n\n\n\n<p>Rydym hefyd wedi gallu manteisio ar gyllid grant i brynu dyfeisiau \u2018Rempod\u2019 ar gyfer pump o gartrefi gofal. Mae\u2019r rhain yn rhoi naws o leoliadau go iawn, megis cerbydau tr\u00ean gyda sgrin LCD yn dangos ffilm o gefn gwlad neu ymweld \u00e2\u2019r dafarn am ddiod a phryd o fwyd. Tra bod teithiau dydd wedi\u2019u cyfyngu oherwydd Covid-19, mae\u2019r Rempods wedi rhoi cyfle i breswylwyr fwynhau golygfa wahanol a dewis sut maent eisiau treulio eu hamser. Maent wedi gallu mwynhau paned o de a gwylio\u2019r byd o\u2019u cwmpas drwy \u2018ffenestr\u2019, neu gyflawni tasgau bob dydd yr oeddent yn arfer eu gwneud yn rheolaidd. Mae adborth gan breswylwyr wedi bod yn gadarnhaol, ac mae wedi caniat\u00e1u i staff cartrefi gofal ddechrau sgwrs neu gynnal therapi hel atgofion.<\/p>\n\n\n\n<p><em>Dyma Mr David Boot yn mwynhau sesiwn gyda\u2019r ddyfais newydd a osodwyd yng nghartref preswyl Llys Elian ym Mae Colwyn.<\/em><\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-full\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"576\" height=\"768\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/08\/Rempod-Mr-Boot-3-rotated.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-2828\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/08\/Rempod-Mr-Boot-3-rotated.jpg 576w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/08\/Rempod-Mr-Boot-3-225x300.jpg 225w\" sizes=\"auto, (max-width: 576px) 100vw, 576px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\"><span class=\"has-inline-color has-vivid-cyan-blue-color\">Astudiaeth Achos<\/span><\/h4>\n\n\n\n<p>Cynhaliom ymarfer ymgynghori gyda gr\u0175p bach o breswylwyr o gartref preswyl lleol. Roedd achosion o Covid-19 yn bresennol yn y cartref ac nid oedd y preswylwyr yn gallu mynd allan i wneud eu hymarfer corff dyddiol fel yr oeddent yn arfer ei wneud. Roedd hyn yn ddigalon iawn iddynt, oherwydd bod y cartref ar gyfer oedolion iau o oedran gwaith sydd wedi arfer cael rhywfaint o annibyniaeth.<\/p>\n\n\n\n<p>Fe wnaethom ni drafod y cyfyngiadau Covid-19 presennol a\u2019r ffaith y byddai dyddiad terfynu, pan fyddai ymarfer corff yn yr awyr agored yn cael ei ganiat\u00e1u unwaith eto. Siaradom am weithgareddau eraill yn y cartref a allai helpu i basio amser. Roedd y cartref wedi agor yr islawr fel gofod ychwanegol yn ddiweddar, gan gyflogi aelod ychwanegol o staff ar gyfer gweithgareddau cymdeithasol. Roedd un o\u2019r preswylwyr yn mwynhau snwcer, felly fe wnaethom awgrymu ei fod yn trefnu twrnamaint ar gyfer y preswylwyr.<\/p>\n\n\n\n<p>Dywedodd un preswylydd ei fod wedi mwynhau\u2019r sgwrs ac yn teimlo\u2019n well ar \u00f4l trafod popeth. Fe wnaethom yn si\u0175r bod y preswylwyr yn deall, os oeddent eisiau siarad gyda ni eto, y gallent ofyn i reolwyr y cartref, a allai drefnu galwad arall. <\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Rhaglen Trawsnewid Gwasanaethau Cymunedol<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r Rhaglen Trawsnewid Gwasanaethau Cymunedol yn adeiladu ar gryfderau a chyflawniadau\u2019r hen Raglen T\u00eem Adnoddau Cymunedol a sefydlodd TAC yn raddol o\u2019r gwaelod i fyny dan arweiniad y timau.&nbsp; Fe wnaeth y rhaglen hon y mwyaf o gyllid grant y Gronfa Gofal Integredig i greu capasiti a lleoliadau ar y cyd timau oedd wedi dod i ben yn flaenorol, a ffurfiodd sail i\u2019r gwaith integredig a\u2019r gwerthoedd a rennir.<\/p>\n\n\n\n<p>Nododd adolygiad o&#8217;r rhaglen hon bod y dull cydweithredol hwn yn achosi newid, ond roedd sawl rhwystr sefydliadol a systemig yn atal integreiddiad pellach. Roedd angen dull a dargedwyd o weithio i ddileu\u2019r rhwystrau hyn er mwyn cyflawni newid trawsffurfiadol fel a nodir yng nghynllun Cymru Iachach. &nbsp; Bydd y rhaglen waith ddiwygiedig, drwy nifer o ffrydiau gwaith cysylltiol, yn arwain at gynllun ar gyfer datblygiad tymor hir a chynaliadwyedd TAC ar draws yr ardal drwy:<strong><\/strong><\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Hwyluso trosglwyddiad cynllun o fod yn ac\u00edwt i ganolbwyntio ar y gymuned<\/li><li>Sicrhau integreiddiad di-dor gwasanaethau a darpariaeth gwasanaethau<\/li><li>Gwneud y mwyaf o dechnoleg ddigidol i wella effeithlonrwydd a galluogi gweithio hyblyg a dros y we<\/li><\/ul>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\"><span class=\"has-inline-color has-vivid-cyan-blue-color\">Beth rydym yn briadu ei wneud:<\/span><\/h4>\n\n\n\n<p>Mae yna chwech o ffrydiau gwaith ymchwil thematig ar y gweill ar hyn o bryd a disgwylir y byddant wedi\u2019u cwblhau yn chwarter cyntaf 2021-22. Amcanion allweddol y rhaglen yw: <strong><\/strong><\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Deall y systemau iechyd a gofal cymdeithasol cyfan i gael darlun deallus a chyflawn o alw, capasiti, llif a chost<\/li><li>Datblygu strategaeth gweithlu sy\u2019n seiliedig ar gymhwysedd sydd wedi\u2019i dylunio i fodloni\u2019r uchelgais am fodelau gofal di-dor<\/li><li>Datblygu a darparu rhaglen ymgysylltu sy\u2019n caniat\u00e1u i ddinasyddion, gofalwyr a chymunedau rannu eu profiadau a chwarae rhan ragweithiol wrth siapio gwasanaethau yn y dyfodol.<\/li><li>Trwy ymgynghori ac archwilio achosion, dadansoddi effeithiolrwydd ein ffyrdd presennol o weithio, adnabod arferion da a\u2019r elfennau ail-ddylunio sydd eu hangen i gefnogi modelau gofal di-dor newydd<\/li><li>Sefydlu endid rheoli iechyd a gofal cymdeithasol integredig a fydd yn creu\u2019r amodau i adnoddau cymunedol iechyd, gofal cymdeithasol, partneriaid trydydd sector a\u2019r gymuned leol allu cydweithio i ddiwallu\u2019r anghenion gofal a chymorth a gwella iechyd a lles.<\/li><li>Cytuno ar fodel gwasanaeth a fframwaith ar gyfer darpariaeth gofal integredig sydd yn canolbwyntio ar yr unigolyn, yn ystyried agweddau pwysig o\u2019u bywydau, eu nodau a beth sy\u2019n bwysig iddynt.<\/li><\/ul>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\"><span class=\"has-inline-color has-vivid-cyan-blue-color\">Beth yw\u2019r prif gyflawniadau o ran gweithredu\u2019r rhaglen?<\/span><\/h4>\n\n\n\n<p>Mae cryfderau\u2019r TAC sefydledig a\u2019r ymagwedd at weithio integredig yn ystod yr ymateb i Covid-19 wedi cael eu gwerthuso\u2019n annibynnol <strong><\/strong><\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Dadansoddiad o\u2019r diwylliant gwaith o fewn ac ar draws gwasanaethau a sefydliadau<\/li><li>Mae\u2019r data a ddarparwyd gan y bwrdd iechyd, meddygfeydd a reolir gan ofal sylfaenol a gofal cymdeithasol wedi cael ei baru ar lefel cleientiaid unigol i ddarparu dadansoddiad ar draws ehangder cyfan y system iechyd a gofal cymdeithasol a galluogi gwerthusiad o\u2019r ddarpariaeth bresennol i bennu i ba raddau y mae\u2019r galw presennol yn cael ei fodloni ac i ba raddau y gellir bodloni galw\u2019r dyfodol<\/li><li>Dadansoddiad o\u2019r llif o unigolion drwy\u2019r system gyfan, yn cynnwys adeiladu ar y gwaith a wnaed yn defnyddio\u2019r model o faint cywir<\/li><li>Dadansoddiad o gostau ar draws y system gyfan, yn cynnwys mapio gwasanaethau ac asedau\u2019n drylwyr<\/li><li>Fframwaith atebolrwydd a thempled r\u00f4l ar gyfer Cydlynydd Gofal, Gweithiwr Cyffredinol \u2013 Gweithwyr Iechyd a Gofal Cymdeithasol Integredig a Gweinyddwyr<\/li><li>Rhaglen datblygu arweinyddiaeth ar gyfer uwch arweinwyr yn canolbwyntio ar arwain newid, sgiliau ymarfer perthynol a chydweithredol<\/li><li>Mae tair ardal Iechyd a Gofal Cymdeithasol Integredig wedi\u2019u ffurfio gydag aelodau o iechyd, yn cynnwys gofal sylfaenol, gofal cymdeithasol a\u2019r trydydd sector. Bydd y cyrff ardal leol hyn yn cynllunio ar gyfer arweinyddiaeth leol, llywodraethu, comisiynu a defnyddio adnoddau<\/li><li>Mae t\u00eem y rhaglen yn treialu gwaith ar Office 365 a sut y gall gefnogi gwaith t\u00eem integredig.<\/li><li>Mae t\u00eem y rhaglen wedi cwblhau hyfforddiant ar fethodoleg Atebolrwydd yn Seiliedig ar Ganlyniadau a Llwybrau Integredig Sengl i Bobl gan John Bolton a byddant yn treialu eu defnydd mewn llwybr cytunedig i brofi mewnwelediadau datblygol y Dadansoddiad System Gyfan<\/li><\/ul>\n\n\n\n<p>Mae TAC wedi parhau i ddatblygu arferion gwaith ac adeiladu perthnasau a fydd yn cefnogi integreiddio:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Mae wyth o\u2019r naw TAC bellach wedi\u2019u cyd-leoli; mae gwaith ar y safle ar gyfer y nawfed ym Mhrestatyn yn mynd rhagddo a disgwylir y bydd wedi\u2019i gwblhau erbyn 31 Mawrth 2021<\/li><li>Mae\u2019r prosiect mewngymorth wedi\u2019i gynnwys ar draws pob TAC<\/li><li>Mae dull sy\u2019n seiliedig ar asedau\/ cryfderau wedi&#8217;i sefydlu yn Sir Ddinbych drwy gydol taith y dinesydd a\u2019i ddatblygu ar draws yr ardal drwy ddull datblygu a hwyluswyd gan y T\u00eem Datblygu Cenedlaethol ar gyfer Cynhwysiant<\/li><li>Mae\u2019r berthynas gyda gofal sylfaenol wedi cryfhau a galluogi dull cydlynol ac ymatebol o weithio mewn perthynas \u00e2 phwysau ar y gwasanaeth wrth iddo godi, yn ogystal \u00e2 rhannu gwybodaeth<\/li><li>Mae cyfarfodydd t\u00eem amlddisgyblaethol wythnosol yn cael eu cynnal yn y rhan fwyaf o ardaloedd lleol i drafod achosion a datblygiad TAC<\/li><li>Mae dull integredig o ran brysbennu ac adolygiadau achos cymhleth wedi&#8217;i sefydlu mewn sawl TAC<\/li><li>Bydd cylchdro o Therapyddion Galwedigaethol o\u2019r Bwrdd Iechyd yn cael ei gyflwyno i gefnogi datblygiad proffesiynol parhaus<\/li><li>Pwysleisiodd Covid-19 lwybrau ac arferion rhyddhau o\u2019r ysbyty a oedd eisoes yn heriol. Mae PBC wedi gwahodd gofal cymdeithasol i ymuno \u00e2\u2019u gwasanaethau ac\u00edwt a chymunedol i gytuno ar lwybrau newydd a gwella profiadau i ddinasyddion. Mae\u2019r cynllun Llwybr 0: Llwybr Rhyddhau Un Pwynt Mynediad yn cael ei dreialu yng Nghonwy a Sir Ddinbych<\/li><\/ul>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\"><span class=\"has-inline-color has-vivid-cyan-blue-color\">Beth oedd yr heriau?<\/span><\/h4>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Yn ystod y pandemig, cafodd y rhaglen ei hoedi\u2019n ffurfiol a chafodd capasiti \/ adnoddau\u2019r rhaglen eu hailgyfeirio i gefnogi ein hymateb rheng flaen. &nbsp; Mae hyn wedi effeithio ar recriwtio capasiti\u2019r rhaglen a dechrau ar y gwaith a gomisiynwyd.&nbsp; Mae tonau dilynol o\u2019r Coronafeirws wedi arwain at arafu a chyfyngu rhai o weithgareddau\u2019r rhaglen.<\/li><li>Bu i\u2019r gwaith o weithredu cytundebau llywodraethu gwybodaeth oedi dechrau rhai elfennau o baru data cleientiaid.<\/li><li>Gallu timau cymorth corfforaeth, megis AD neu TG, i ymateb i ofynion unigryw timau gwaith aml-asiantaeth.<\/li><li>Mae llawer o blatfformau fideo gynadledda a mynediad newidiol at TGCh o fewn gwahanol grwpiau staff ac ar draws y sector cyhoeddus, y trydydd sector, y sector gwirfoddol ac i ddinasyddion yn aml wedi rhwystro gwaith effeithiol dros y we.<\/li><\/ul>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\"><span class=\"has-inline-color has-vivid-cyan-blue-color\">Beth nesaf?<\/span><\/h4>\n\n\n\n<p>Bydd y ffrydiau gwaith yn cwblhau eu canfyddiadau ac yn llywio cynllun partneriaeth ar gyfer datblygiad tymor hir a chynaliadwyedd TAC ar draws yr ardal. <\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"364\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/08\/CRT-Step-Graphic-Welsh3-1024x364.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-2839\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/08\/CRT-Step-Graphic-Welsh3-1024x364.jpg 1024w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/08\/CRT-Step-Graphic-Welsh3-300x107.jpg 300w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/08\/CRT-Step-Graphic-Welsh3-768x273.jpg 768w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/08\/CRT-Step-Graphic-Welsh3.jpg 1199w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae partneriaethau effeithiol ar waith i gomisiynu a darparu deilliannau cwbl integredig, o ansawdd uchel, cynaliadwy i bobl. Eleni, rydym wedi dechrau ar brosiect cydweithio newydd gyda\u2019n partneriaid yn Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Gr\u0175p Llandrillo Menai. Y bwriad yw sefydlu Cynllun Tai Gofal Ychwanegol newydd ochr yn ochr \u00e2 darpariaeth iechyd a lles [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":5,"featured_media":0,"parent":2643,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"_seopress_titles_title":"","_seopress_titles_desc":"","_seopress_robots_index":"","_seopress_robots_follow":"","_seopress_robots_imageindex":"","_seopress_robots_snippet":"","_seopress_robots_primary_cat":"","_seopress_robots_breadcrumbs":"","_seopress_robots_freeze_modified_date":"","_seopress_robots_custom_modified_date":"","_seopress_robots_canonical":"","_seopress_social_fb_title":"","_seopress_social_fb_desc":"","_seopress_social_fb_img":"","_seopress_social_fb_img_attachment_id":0,"_seopress_social_fb_img_width":0,"_seopress_social_fb_img_height":0,"_seopress_social_twitter_title":"","_seopress_social_twitter_desc":"","_seopress_social_twitter_img":"","_seopress_social_twitter_img_attachment_id":0,"_seopress_social_twitter_img_width":0,"_seopress_social_twitter_img_height":0,"_seopress_redirections_value":"","_seopress_redirections_enabled":"","_seopress_redirections_enabled_regex":"","_seopress_redirections_logged_status":"","_seopress_redirections_param":"","_seopress_redirections_type":0,"_seopress_analysis_target_kw":"","_genesis_hide_title":false,"_genesis_hide_breadcrumbs":false,"_genesis_hide_singular_image":false,"_genesis_hide_footer_widgets":false,"_genesis_custom_body_class":"","_genesis_custom_post_class":"","_genesis_layout":"","footnotes":""},"class_list":{"0":"post-2816","1":"page","2":"type-page","3":"status-publish","5":"entry"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/2816","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/5"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=2816"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/2816\/revisions"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/2643"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=2816"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}