{"id":2798,"date":"2021-08-27T14:29:38","date_gmt":"2021-08-27T13:29:38","guid":{"rendered":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/?page_id=2798"},"modified":"2021-08-27T16:09:18","modified_gmt":"2021-08-27T15:09:18","slug":"safon-ansawdd-7","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/adroddiad-2020-21\/safon-ansawdd-7\/","title":{"rendered":"Safon Ansawdd 7"},"content":{"rendered":"\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Mae pobl yn cael eu diogelu rhag camdriniaeth ac esgeulustod a mathau eraill o niwed.<\/h3>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Diogelu plant rhag cam-fanteisio a cham-drin rhywiol<\/h3>\n\n\n\n<p>Yn anffodus, mae llawer o blant yng Nghonwy sy\u2019n dal i gael eu hecsbloetio. Fodd bynnag, ar \u00f4l blynyddoedd o uwch-sgilio\u2019r gweithlu ar draws asiantaethau, rydym nawr yn gallu ymateb yn fwy effeithiol fyth. Rydym wedi defnyddio\u2019r offeryn asesu risg SERAF am flynyddoedd bellach, fodd bynnag, yn ddiweddar mae ei ddiffygion wedi dod i\u2019r amlwg ac rydym yn treialu ein methodoleg newydd. Mae\u2019r gwaith rydym wedi\u2019i wneud wedi chwarae rhan fawr yn atal ac amharu ar gamfanteisio\u2019n rhywiol ar blant Conwy.<\/p>\n\n\n\n<p>Oherwydd cymhlethdod cam-fanteisio\u2019n rhywiol ar blant, rydym wedi alinio \u00e2\u2019r ymchwil cyfredol a nawr yn asesu achosion o gam-fanteisio ar blant heb y canolbwynt cychwynnol ar gam-fanteisio\u2019n rhywiol ar blant. Fe allai\u2019r asesiad hwn ein harwain at ffurfiau gwahanol a chymhleth o gamfanteisio. Felly, rydym yn cwblhau darn o waith sy\u2019n archwilio\u2019r offeryn asesu mwyaf effeithiol i\u2019w ddefnyddio yn y mathau hyn o achosion. Rydym yn parhau i ddefnyddio dau offeryn sydd eisoes yn bodoli ac yn dibynnu\u2019n gryf ar weithlu aml-asiantaeth sydd nawr yn fedrus yn y gwaith hwn.<\/p>\n\n\n\n<p>O ran camfanteisio\u2019n rhywiol ar blant, mae\u2019r Awdurdod Lleol a phartneriaid aml-asiantaeth eraill wedi buddsoddi mewn cwrs hyfforddiant Camfanteisio\u2019n Rhywiol ar Blant dros chwe mis, lle mae cymysgedd o ymarferwyr a rheolwyr wedi cael eu hyfforddi fel Arweinwyr Ymarfer yn y maes gwaith hwn. Y canlyniadau allweddol yw gwella sut rydym yn atal cam-drin plant yn rhywiol a hefyd sut rydym yn ymateb i ddatgeliadau o gam-drin plant yn rhywiol yn gyson ar draws asiantaethau. Rydym yn parhau i ymateb yn gadarn i ddatgeliadau o gam-drin plant yn rhywiol, fodd bynnag, mae\u2019r cwrs wedi tynnu ein sylw at y ffaith bod pethau y gallwn eu gwneud yn well ac yn wahanol i alinio \u00e2\u2019r ymchwil diweddaraf.<\/p>\n\n\n\n<p>Er bod amlder adroddiadau am gam-drin rhywiol yn parhau i fod yn isel, rydym wedi gweld nifer cynyddol o adroddiadau yngl\u0177n ag \u2018ymddygiad rhywiol niweidiol\u2019 gan blant a phobl ifanc. Eto, mae gennym ymateb aml-asiantaeth cadarn i\u2019r mater hwn, ac rydym yn llwyddo i sicrhau bod risgiau yn cael eu rhannu gyda phartneriaid a bod teuluoedd yn cael y gefnogaeth angenrheidiol.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\"><span class=\"has-inline-color has-vivid-cyan-blue-color\">Beth oedd yr heriau?<\/span><\/h4>\n\n\n\n<p>Mae cyfyngiadau Covid-19 yn cyflwyno heriau sylweddol i bob agwedd o\u2019n gwaith. Nid yw ein Fforwm Camfanteisio hynod effeithiol wedi gallu cwrdd fel yr oedd yn arfer ei wneud o\u2019r blaen. Nid ydym wedi sefydlu\u2019r fforwm hwn ar-lein eto ond yn dibynnu ar y perthnasau a gr\u00ebwyd yn ystod fforymau yn y gorffennol i sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei rhannu mewn ffordd effeithiol.<\/p>\n\n\n\n<p>Er bod Conwy yn arloesol wrth dreialu offeryn camfanteisio ar blant newydd, gohiriwyd hwn am gyfnod er mwyn i\u2019r rhanbarth gyfan o chwe awdurdod allu ymuno \u00e2\u2019r peilot. Bydd hyn yn dod \u00e2 llawer o fanteision, ond mae hefyd wedi arafu cynnydd.<\/p>\n\n\n\n<p>Nid yw gr\u0175p ARMOUR Conwy sy\u2019n cefnogi dioddefwyr cam-fanteisio\u2019n rhywiol ar blant wedi gallu cyfarfod fel yr oeddent yn arfer ei wneud. Fodd bynnag, mae hwyluswyr y gr\u0175p yn parhau i gynnig cymorth ar-lein i bobl ifanc yn defnyddio\u2019r pynciau a drafodwyd yn y gwaith gr\u0175p.<\/p>\n\n\n\n<p>Ar ben hynny, mae llawer o\u2019r gefnogaeth i bobl ifanc sydd mewn perygl o gamfantais wedi newid o gefnogaeth wyneb yn wyneb i gefnogaeth dros y ff\u00f4n \/ Skype. Mae\u2019n llawer anoddach i ymgysylltu gyda phobl ifanc fel hyn ac felly ceir llai o effaith. <\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\"><span class=\"has-inline-color has-vivid-cyan-blue-color\">Beth nesaf?<\/span><\/h4>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Rydym yn gweithio ar y ffordd orau o gynnal Fforwm Camfanteisio ar Blant ar-lein.<\/li><li>Bydd peilot rhanbarthol o offeryn asesu Camfanteisio ar Blant newydd yn cael ei gynnal drwy gydol mis Mawrth 2021.<\/li><li>Mae Conwy\u2019n cyfrannu at gynllun Llywodraeth Cymru i ymateb i gam-drin plant yn rhywiol. Mae Gofal Cymdeithasol (ynghyd \u00e2 phob asiantaeth) yn bwriadu adolygu a gwella ein hymatebion ym mhob maes, o sicrhau bod plant yn cael eu haddysgu am berthnasau iach, i wella ein hymchwiliadau i achosion o gamdriniaeth, i sicrhau bod oedolion sy\u2019n datgelu achosion hanesyddol o gamdriniaeth yn ystod plentyndod yn cael eu cefnogi\u2019n well. &nbsp;<\/li><\/ul>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid: Mynd i\u2019r afael \u00e2 chamfanteisio<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae ein Swyddog Addysg a Swyddog Heddlu ar secondiad wedi cydweithio i lunio rhaglen wyneb yn wyneb ac ar-lein i gefnogi newidiadau i blant a\u2019u rhan mewn troseddau a cham-fanteisio. Y gobaith yw nodi them\u00e2u a darparu dull mwy cyfannol mewn perthynas \u00e2 chamfanteisio, mewn cyd-destun ehangach.<\/p>\n\n\n\n<p>Nodwyd tri achos drwy system atgyfeirio\u2019r Heddlu, roedd y tri o dan 11 mlwydd oed ac yn gysylltiedig ag ymddygiad gwrthgymdeithasol lefel isel, gyda dyheadau\u2019n gysylltiedig \u00e2 gangiau a diwylliant gangiau.&nbsp; Sicrhaodd y Swyddog Addysg nad oedd y gwaith yn ddyblygiad o waith swyddogion cyswllt ysgolion. Mae\u2019r sesiynau rhyngweithiol wrthi\u2019n cael eu treialu yng Ngholeg Llandrillo ac Ysgol Eglwys Crist yn Sir Ddinbych.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Cryfhau ein prosesau \u2018drws ffrynt\u2019<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae nifer o newidiadau wedi cael eu gwneud i sut rydym yn ymateb i adroddiadau sy\u2019n cael eu gwneud i\u2019r drws ffrynt. Rydym wedi gweithio\u2019n galed i sicrhau bod ymateb ar gael sy\u2019n briodol i bob lefel o gefnogaeth sydd ei hangen.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae gweithiwr o\u2019n T\u00eem Ymyriadau Teuluol wedi\u2019i sefydlu yn y T\u00eem Asesu a Chefnogi. Maent mewn sefyllfa dda i ateb galwadau gan deuluoedd a gweithwyr proffesiynol, cynnal sgyrsiau \u2018Beth sy\u2019n Bwysig\u2019 lle bo\u2019n briodol a chynnal darnau o waith byth, wedi\u2019u targedu i ymyrryd yn gynnar a rhwystro anawsterau rhag gwaethygu.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae gennym berthynas waith gref gyda holl Ganolfannau Teuluoedd Conwy ac rydym yn gallu cael mynediad rhwydd at eu cefnogaeth os yw anghenion am gael eu diwallu orau drwy\u2019r gwasanaeth hwnnw.<\/p>\n\n\n\n<p>Os oes angen amlwg am ymyriad byr gan y T\u00eem Ymyriadau Teuluol, rydym yn gallu sicrhau bod cymorth ar gael i deuluoedd. Yn yr un modd, os yw\u2019r ymyriad byr hwn angen dull mwy arbenigol, yna gall ein T\u00eem Cryfhau Teuluoedd ddarparu hyn. &nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Gyda chymorth grant Llywodraeth Cymru rydym wedi gallu lansio peilot tri mis ar y cyd \u00e2 Heddlu Gogledd Cymru i ymateb i achosion lefel llai o gam-drin domestig, gan ddarparu cefnogaeth\/cyfeirio cyflym ac wedi\u2019i dargedu gyda\u2019r nod o atal cynnydd neu ailadrodd digwyddiadau. Mae\u2019r peilot yn cynnwys t\u00eem bach o un gweithiwr cymdeithasol ac un Swyddog Cam-Drin Domestig HGC. Hyd yma, yn y mis cyntaf, maent wedi gallu ymateb i a chefnogi 17 o deuluoedd a 35 o blant.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\"><span class=\"has-inline-color has-vivid-cyan-blue-color\">Beth oedd yr heriau?<\/span><\/h4>\n\n\n\n<p>Mae cyfyngiadau Covid-19 wedi gwneud y gwaith hwn yn fwy heriol. Er mwyn cadw staff a\u2019r cyhoedd yn ddiogel, rydym ond yn cynnal ymweliadau wyneb yn wyneb gyda\u2019r achosion sydd yn y perygl mwyaf lle mae\u2019r angen am hynny wedi\u2019i nodi. Felly, lle byddai ymweliad wedi\u2019i gynnal yn y gorffennol er mwyn cael sgwrs am \u2018Beth sy\u2019n Bwysig\u2019, bydd hyn bellach yn cael ei wneud dros y ff\u00f4n, sy\u2019n golygu bod arwyddion gweladwy hanfodol e.e. iaith y corff, cyflwr y cartref neu bresenoldeb partner camdriniol yn debygol o gael eu methu. Mae staff, a fyddai fel arfer wedi cynnal ymweliadau, wedi gorfod hunan-ynysu neu warchod eu hunain ar adegau, gan effeithio ar sut rydym yn ymateb i achosion.<\/p>\n\n\n\n<p>Rydym hefyd wedi cael system TG newydd, System Wybodaeth Gofal Cymunedol Cymru, yn ystod y cyfnod hwn. Mae cyflwyniad y system wedi bod yn heriol, ac mae wedi cael effaith sylweddol ar lif yr wybodaeth o asiantaethau eraill i Ofal Cymdeithasol a thrwy\u2019r adran Gofal Cymdeithasol.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae nifer yr adroddiadau ac atgyfeiriadau at y drws ffrynt yn parhau i fod yn uchel. Mae\u2019r heriau sydd wedi dod yn sgil Covid-19 a\u2019r System Wybodaeth Gofal Cymunedol Cymru wedi cael effaith sylweddol ar ba mor effeithiol y gallwn ymateb.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\"><span class=\"has-inline-color has-vivid-cyan-blue-color\">Beth nesaf?<\/span><\/h4>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Rydym yn edrych ymlaen at gyflwyniad y Ganolfan Ddiogelu Amlasiantaethol (mae mwy o wybodaeth am hyn yn yr adroddiad).<\/li><li>Mae gennym gynllun wrth gefn ar gyfer pan na fydd System Wybodaeth Gofal Cymunedol Cymru yn gweithio, yn cynnwys e-byst a galwadau ff\u00f4n, fodd bynnag mae hyn yn waith dwys. Byddwn yn gweithio ar gynllun wrth gefn sy\u2019n fwy cadarn.&nbsp;<\/li><li>Adolygu a dod \u00e2\u2019r peilot cam-drin domestig i ben a chyflwyno\u2019r canfyddiadau i uwch reolwyr i ystyried beth fydd yn digwydd nesaf.<\/li><\/ul>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Y wybodaeth ddiweddaraf am waith diogelu<\/h3>\n\n\n\n<p>Yma rydym yn darparu\u2019r wybodaeth ddiweddaraf am y gweithgareddau a datblygiadau diogelu rheolaidd sy\u2019n cael eu cynnal.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\"><span class=\"has-inline-color has-vivid-cyan-blue-color\">Cyfarfodydd Strategaeth Adran 5 \/ Safle o Ymddiriedaeth<\/span><\/h4>\n\n\n\n<p>Mae cynnydd o hyd yn nifer y pryderon, gyda 38 o adroddiadau i\u2019w hystyried rhwng mis Ebrill 2020 a mis Ionawr 202. Fe arweiniodd hyn at 24 o drafodaethau cychwynnol gyda 22 yn symud ymlaen i gyfarfod strategaeth proffesiynol cychwynnol.<\/p>\n\n\n\n<p>Oherwydd y cynnydd mewn atgyfeiriadau, a lefel eu sensitifrwydd, rhoddir ystyriaeth ofalus ar y camau cyntaf i sicrhau nad yw\u2019r pryder yn ymwneud ag ymarfer proffesiynol, sydd angen ei ddatrys dan broses arall.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\"><span class=\"has-inline-color has-vivid-cyan-blue-color\">Disgyblion Diamddiffyn<\/span><\/h4>\n\n\n\n<p>Mae cyfarfodydd rheolaidd yn cael eu cynnal am ddisgyblion diamddiffyn. Mynychir y cyfarfodydd hyn gan Swyddogion Diogelu ac Adolygu Annibynnol i drafod yr angen am leoliadau ysgol i ddisgyblion diamddiffyn neu\u2019r plant hynny lle mae perygl o fethiant lleoliad. Mae hyn yn cynnwys plant a phobl ifanc sy&#8217;n derbyn gofal, sydd \u00e2 chynllun gofal a chymorth neu sy\u2019n derbyn cefnogaeth gan y Canolfannau Teuluoedd.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\"><span class=\"has-inline-color has-vivid-cyan-blue-color\">Fforwm Diogelu Plant<\/span><\/h4>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r rhain yn cael eu cynnal bob deufis, maent yn cael eu hwyluso \/ cadeirio gan Swyddogion Diogelu ac Adolygu Annibynnol a\u2019u mynychu gan bob rheolwr o fewn Gwasanaethau Plant yn cynnwys timau atal a gwaith maes. Pwrpas y fforwm hwn yw hyrwyddo a rhannu negeseuon sy\u2019n codi o arferion yn cynnwys ymchwil, adolygiadau Ymarfer Plant a\u2019r diweddaraf am Weithdrefnau Diogelu Cymru 2019.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\"><span class=\"has-inline-color has-vivid-cyan-blue-color\">Cyfarfod Diogelu Cyd-Asiantaeth<\/span><\/h4>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r cyfarfodydd hyn yn cael eu cynnal ar y cyd \u00e2 Heddlu Gogledd Cymru a rheolwyr diogelu Iechyd lle rydym yn trafod unrhyw faterion ymarfer ac yn adolygu unrhyw sefyllfaoedd sydd angen eu diwygio. Fe allai\u2019r rhain gynnwys pobl ifanc sydd wedi cael eu hanfon i\u2019r ysbyty oherwydd hunan-niweidio.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\"><span class=\"has-inline-color has-vivid-cyan-blue-color\">Hyfforddiant<\/span><\/h4>\n\n\n\n<p>Rydym wedi cynnal diwrnod hyfforddiant aml-asiantaeth, hyfforddiant diogelu Unigolion Cysylltiedig, a Phorth Agoriad yn cynnal asesiad gwaith cymdeithasol lefel 3. Roedd 24 o weithwyr proffesiynol yn bresennol yn y digwyddiad aml-asiantaeth a ddarparwyd ar-lein. Achosodd hyn rai heriau a phroblemau technegol wrth geisio hwyluso trafodaethau mewn grwpiau llai, fodd bynnag, roedd yr adborth gan weithwyr proffesiynol yn gadarnhaol iawn. Mae sesiwn arall wedi\u2019i threfnu yn ddiweddarach yn y flwyddyn, rydym yn gobeithio y byddwn yn gallu cyflwyno\u2019r sesiwn hon wyneb yn wyneb er mwyn galluogi rhwydweithio effeithiol drwy gydol y dydd.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Diogelu ar lefel gorfforaethol<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r Bwrdd Diogelu Corfforaethol yn canolbwyntio ar hyrwyddo arferion da, wedi\u2019u wneud mewn ffordd sy\u2019n sicrhau bod plant, pobl ifanc ac oedolion mewn perygl yn ddiogel rhag niwed ac yn gallu cyflawni eu potensial a byw bywyd fel y mynnant. Y ffordd orau i wneud hyn yw sicrhau bod pob rhan o\u2019r Cyngor yn deall sut i roi trefniadau diogelu effeithiol ar waith. Nod y Bwrdd yw cefnogi\u2019r Cyngor i ddatblygu dull cadarnhaol, ataliol a rhagweithiol i ddiogelu ar draws y Cyngor cyfan.<\/p>\n\n\n\n<p>Diweddarwyd y Polisi Diogelu Corfforaethol ym mis Mehefin 2020 er mwyn sicrhau ei fod yn bodloni gofynion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Gweithdrefnau Diogelu Cymru 2019.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae gan y Bwrdd Diogelu Corfforaethol a chyfarfod y Rheolwyr Diogelu Dynodedig, gr\u0175p rheoli gweithredol oddi tanno. Y Rheolwyr Diogelu Dynodedig yw\u2019r arweinwyr rheoli gweithredol ar gyfer materion diogelu o fewn pob adran o\u2019r Cyngor, ac maent yn cyflawni\u2019r flaenoriaeth gorfforaethol hon yn llwyddiannus. Mae cyfarfodydd y rheolwyr diogelu dynodedig yn parhau i gael eu cynnal bob deufis, yn ystod y pandemig hefyd, gyda llawer o eitemau ar y rhaglen, megis:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Materion a datblygiadau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol (mae cynnydd ar Weithdrefnau Diogelu Cenedlaethol wedi bod yn thema gyson)<\/li><li>Cynllun Gweithredu Diogelu<\/li><li>Diweddariadau adrannol<\/li><\/ul>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Wythnos Ddiogelu: Tachwedd 2020<\/h3>\n\n\n\n<p>Eleni, cynhaliwyd digwyddiadau\u2019r Wythnos Ddiogelu dros y we, gan ganolbwyntio ar ddatblygiadau megis Gweithdrefnau Diogelu Cymru, cadw\u2019n hysbys yngl\u0177n \u00e2 materion diogelu yn ystod y cyfnod clo, a\u2019r briffiadau saith munud a gyhoeddwyd ar wefan Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Peilot Canolfan Ddiogelu Amlasiantaethol<\/h3>\n\n\n\n<p>Cymeradwywyd cyfle cyffrous i dreialu Canolfan Ddiogelu Amlasiantaethol i blant ac oedolion ar y cyd \u00e2 Heddlu Gogledd Cymru, gan yr Uwch D\u00eem Arweinyddiaeth ac Aelodau Etholedig. Bydd y Ganolfan, a fydd wedi\u2019i chyd-leoli yng Nghoed Pella, yn cyfuno swyddogion o\u2019r Gwasanaeth Plant, Teuluoedd a Diogelu, Gwasanaethau Oedolion a Chymunedol Integredig, Iechyd Meddwl Oedolion a Heddlu Gogledd Cymru i ddarparu un man ar gyfer sgrinio a phrosesu yr holl adroddiadau diogelu ar draws Conwy. Bydd r\u00f4l Rheolwr y Ganolfan Ddiogelu Amlasiantaethol yn cael ei hariannu ar y cyd gan HGC a CBSC, dangosydd ardderchog o\u2019r ymrwymiad i symud ymlaen \u00e2\u2019r peilot. Fe wnaethom recriwtio Gweithiwr Cymdeithasol Diogelu Oedolion yn llwyddiannus ym mis Awst 2020, sydd wedi bod yn gweithio yn y T\u00eem Diogelu Oedolion i baratoi ar gyfer lansio\u2019r Ganolfan.<\/p>\n\n\n\n<p>Bydd y Ganolfan yn cefnogi ymateb aml-asiantaeth cyflym i ddiogelu ac ymyrryd yn gynnar trwy atal unrhyw oedi ar y llwybr diogelu. Bydd yn darparu amgylchedd diogel a chyfrinachol i weithwyr proffesiynol rannu gwybodaeth. Y nod yw gwella safonau arferion diogelu, gan arwain at blant ac oedolion mwy diogel yng Nghonwy.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\"><span class=\"has-inline-color has-vivid-cyan-blue-color\">Beth oedd yr heriau?<\/span><\/h4>\n\n\n\n<p>Cymeradwywyd y peilot Canolfan Ddiogelu Amlasiantaethol ychydig cyn y pandemig a\u2019r cyfnod clo dilynol. Rydym wedi cael anawsterau o ran recriwtio\u2019r staff gofynnol i\u2019r t\u00eem, ac wedi wynebu oedi o ran recriwtio Gweithiwr Cymdeithasol Diogelu Oedolion. Nid ydym wedi llwyddo i recriwtio Rheolwr Adran i arwain y Ganolfan, er gwaetha\u2019r ffaith i ni hysbysebu\u2019r swydd bedair gwaith, ac ehangu\u2019r r\u00f4l i gynnwys ymgeiswyr HGC a\u2019i chynnig fel cyfle i gael secondiad. Cynhelir y peilot am gyfnod o 12 mis, gyda swyddi tymor penodol, a allai hefyd fod yn broblem bosibl i rai ymgeiswyr.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\"><span class=\"has-inline-color has-vivid-cyan-blue-color\">Beth nesaf?<\/span><\/h4>\n\n\n\n<p>Nid ydym wedi dechrau\u2019r peilot eto, ac mae\u2019r broses recriwtio\u2019n mynd rhagddi. Rydym yn edrych ymlaen at lansio\u2019r peilot yn ystod y misoedd nesaf.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Adnodd Asesu Preswyl Plant: Ymgynnull y T\u00eem Therapiwtig<\/h3>\n\n\n\n<p>Ers mis Mawrth 2020 rydym wedi parhau \u00e2\u2019r broses recriwtio, ac ers mis Hydref 2020 mae gennym d\u00eem llawn mewn lle, yn cynnwys seicolegydd, rheolwr t\u00eem, cymorth gweinyddol, dau weithiwr cymdeithasol a dau weithiwr therapiwtig i deuluoedd.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae aelodau\u2019r t\u00eem i gyd wedi cwblhau eu cyfnod sefydlu ac maent wedi cynnal sawl cyfarfod datblygu i sicrhau eu bod yn meddu ar y sgiliau angenrheidiol i ddarparu\u2019r model gofalu. Mae staff wedi cwblhau hyfforddiant Outcome Stars, Raid a Therapi Ymddygiad Dialectig; bydd hyn yn eu galluogi nhw i ddarparu cymorth therapiwtig i bob ifanc gydag ymddygiad heriol a bydd o gymorth i\u2019r t\u00eem ddangos tystiolaeth o ganlyniadau gwell i deuluoedd.<\/p>\n\n\n\n<p>Maent wedi darparu gwasanaethau dwys i bum person ifanc cymhleth; mae tri wedi aros gartref a bydd y ddau arall yn dychwelyd adref ar \u00f4l cwblhau\u2019r ymyriadau therapiwtig. Maent hefyd wedi dechrau cynnal ymgynghoriadau therapiwtig gyda gweithwyr cymdeithasol ag achosion penodol, uwchsgilio a chefnogi eu gwaith gyda theuluoedd cymhleth.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\"><span class=\"has-inline-color has-vivid-cyan-blue-color\">Beth oedd yr heriau?<\/span><\/h4>\n\n\n\n<p>Creu diwylliant t\u00eem oedd yr her bennaf, oherwydd ei fod i gyd wedi\u2019i wneud drwy gyfarfodydd Skype.<\/p>\n\n\n\n<p>Roedd darparu cefnogaeth ddwys gyda theuluoedd yn eu cartrefi hefyd yn her sylweddol, fodd bynnag cafodd yr her hon ei goresgyn drwy asesiadau risg cadarn.<\/p>\n\n\n\n<p>Datblygwyd y model gofalu gyda\u2019r bwriad o\u2019i ddarparu mewn canolfan asesu. Mae\u2019r t\u00eem wedi canfod bod darparu ymyriadau therapiwtig&nbsp; wedi bod yn heriol yn amgylchedd y cartref yn ystod argyfwng teuluol. Ar ddau achlysur, mae\u2019r t\u00eem wedi gorfod darparu cymorth o fewn dau o leoliadau heb eu rheoleiddio. &nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r t\u00eem yn darparu cymorth yng Nghonwy a Sir Ddinbych; mae angen gwella\u2019r broses atgyfeirio o Sir Ddinbych, oherwydd bod y t\u00eem yn derbyn yr atgyfeiriadau\u2019n rhy hwyr. Bydd y Rheolwr T\u00eem yn ymweld \u00e2 thimau Sir Ddinbych i ddisgrifio\u2019r model gofalu a\u2019r llwybr atgyfeirio.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae pobl yn cael eu diogelu rhag camdriniaeth ac esgeulustod a mathau eraill o niwed. Diogelu plant rhag cam-fanteisio a cham-drin rhywiol Yn anffodus, mae llawer o blant yng Nghonwy sy\u2019n dal i gael eu hecsbloetio. Fodd bynnag, ar \u00f4l blynyddoedd o uwch-sgilio\u2019r gweithlu ar draws asiantaethau, rydym nawr yn gallu ymateb yn fwy effeithiol [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":9,"featured_media":0,"parent":2643,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"_seopress_titles_title":"","_seopress_titles_desc":"","_seopress_robots_index":"","_seopress_robots_follow":"","_seopress_robots_imageindex":"","_seopress_robots_snippet":"","_seopress_robots_primary_cat":"","_seopress_robots_breadcrumbs":"","_seopress_robots_freeze_modified_date":"","_seopress_robots_custom_modified_date":"","_seopress_robots_canonical":"","_seopress_social_fb_title":"","_seopress_social_fb_desc":"","_seopress_social_fb_img":"","_seopress_social_fb_img_attachment_id":0,"_seopress_social_fb_img_width":0,"_seopress_social_fb_img_height":0,"_seopress_social_twitter_title":"","_seopress_social_twitter_desc":"","_seopress_social_twitter_img":"","_seopress_social_twitter_img_attachment_id":0,"_seopress_social_twitter_img_width":0,"_seopress_social_twitter_img_height":0,"_seopress_redirections_value":"","_seopress_redirections_enabled":"","_seopress_redirections_enabled_regex":"","_seopress_redirections_logged_status":"","_seopress_redirections_param":"","_seopress_redirections_type":0,"_seopress_analysis_target_kw":"","_genesis_hide_title":false,"_genesis_hide_breadcrumbs":false,"_genesis_hide_singular_image":false,"_genesis_hide_footer_widgets":false,"_genesis_custom_body_class":"","_genesis_custom_post_class":"","_genesis_layout":"","footnotes":""},"class_list":{"0":"post-2798","1":"page","2":"type-page","3":"status-publish","5":"entry"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/2798","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/9"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=2798"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/2798\/revisions"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/2643"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=2798"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}