{"id":2767,"date":"2021-08-27T14:37:25","date_gmt":"2021-08-27T13:37:25","guid":{"rendered":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/?page_id=2767"},"modified":"2021-08-27T14:37:27","modified_gmt":"2021-08-27T13:37:27","slug":"safon-ansawdd-8","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/adroddiad-2020-21\/safon-ansawdd-8\/","title":{"rendered":"Safon Ansawdd 8"},"content":{"rendered":"\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Mae pobl yn cael eu cefnogi i reoli eu lles a gwneud eu penderfyniadau hysbys eu hunain fel eu bod yn gallu cyflawni eu potensial llawn a byw\u2019n annibynnol am gymaint \u00e2 phosibl.<\/h3>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Cwblhau Prosiect Maelgwn<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae cynnydd ardderchog wedi\u2019i wneud ar safle Maelgwn yng Nghyffordd Llandudno. Daeth y gwaith o adeiladu 27 eiddo ar safle\u2019r hen ysgol i ben ar ddechrau mis Chwefror 2021, gyda thenantiaid yn gallu symud i mewn o 22 Chwefror. Mae cymysgedd da o lety ar gael i unigolion gydag anghenion gwahanol, megis anableddau, pobl sy&#8217;n gadael gofal a phobl ddiamddiffyn. Mae\u2019r unedau yn amrywio o fflatiau un ystafell wely i fyngalos pump ystafell wely a addaswyd yn llwyr, ac mae llawer eisoes wedi cael eu dyrannu. Dyma gipolwg:<\/p>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"aligncenter size-full\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"455\" height=\"303\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/08\/Maelgwn-1-2.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-2768\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/08\/Maelgwn-1-2.png 455w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/08\/Maelgwn-1-2-300x200.png 300w\" sizes=\"auto, (max-width: 455px) 100vw, 455px\" \/><\/figure><\/div>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"aligncenter size-full\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"439\" height=\"270\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/08\/Maelgwn-2-2.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-2770\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/08\/Maelgwn-2-2.png 439w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/08\/Maelgwn-2-2-300x185.png 300w\" sizes=\"auto, (max-width: 439px) 100vw, 439px\" \/><\/figure><\/div>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"aligncenter size-full\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"446\" height=\"297\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/08\/Maelgwn-3-1.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-2772\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/08\/Maelgwn-3-1.png 446w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/08\/Maelgwn-3-1-300x200.png 300w\" sizes=\"auto, (max-width: 446px) 100vw, 446px\" \/><\/figure><\/div>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Cyfleuster Seibiant Bron y Nant<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r prosiect hwn ar gam datblygu cynharach, fodd bynnag, mae caniat\u00e2d cynllunio wedi\u2019i roi ar gyfer y cyfleuster seibiant i bobl anabl, gyda chanolfan adnoddau dydd a gofal cymhleth, a Phlanhigfa Bryn Euryn. Mae staff a defnyddwyr gwasanaethau Planhigfa Bryn Euryn wedi adleoli tra mae\u2019r gwaith yn mynd rhagddo, a chafodd y safle cyfan ei ddymchwel erbyn mis Tachwedd 2020. Disgwylir y bydd adeiladu\u2019r cyfleusterau newydd yn cymryd oddeutu 72 wythnos, felly mae\u2019n debygol y byddwn yn rhoi&#8217;r wybodaeth ddiweddaraf i chi yn adroddiad y flwyddyn nesaf.<\/p>\n\n\n\n<p>ddymchwel erbyn mis Tachwedd 2020. Disgwylir y bydd adeiladu\u2019r cyfleusterau newydd yn cymryd oddeutu 72 wythnos, felly mae\u2019n debygol y byddwn yn rhoi&#8217;r wybodaeth ddiweddaraf i chi yn adroddiad y flwyddyn nesaf.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Anhwylder ar y Sbectrwm Awtistig: Cynllun gweithredu lleol<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae Llywodraeth Cymru wedi ymgynghori ar y Cod Ymarfer ar Ddarpariaeth Gwasanaethau Awtistiaeth dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Deddf Gig (Cymru) 2006. Bydd y Cod yn cefnogi cyflawni blaenoriaethau awtistiaeth Llywodraeth Cymru fel a nodir yn y Cynllun Gweithredu Strategol Anhwylder ar y Sbectrwm Awtistig a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2016. Mae Llywodraeth Cymru yn anelu i ddechrau\u2019r Cod o fis Medi 2021.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae gr\u0175p Budd-Ddeiliad Awtistiaeth Conwy a Sir Ddinbych, gyda chefnogaeth swyddog prosiect ar y cyd, wedi datblygu Cynllun Gweithredu Lleol drafft. Rydym yn aros am y Cod Ymarfer terfynol ac yn dilyn hyn byddwn yn ymgynghori gyda phobl ag Awtistiaeth a phartneriaid ar fersiwn ddrafft cynllun gweithredu lleol Conwy a Sir Ddinbych.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae Conwy a Sir Ddinbych wedi gweithio gyda changen leol y Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol i sefydlu Cytundeb Lefel Gwasanaeth i reoli darpariaeth cyllid i\u2019r trydydd sector ar gyfer darparu a datblygu gwasanaethau awtistiaeth yn lleol. Bydd y meini prawf cyllido wedi\u2019i alinio gyda blaenoriaethau\u2019r cynllun gweithredu lleol. &nbsp;<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Cefnogi ein gofalwyr di-d\u00e2l<\/h3>\n\n\n\n<p>Roedd ein gr\u0175p cynllunio&nbsp; aml-asiantaeth i ofalwyr, COG 8 wedi dechrau gweithio ar nifer o faterion a oedd wedi cael eu nodi drwy\u2019r broses o gynnal hunanasesiad yn erbyn y safonau a amlinellwyd yn strategaeth Gofalwyr Rhanbarthol Gogledd Cymru.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\"><span class=\"has-inline-color has-vivid-cyan-blue-color\">1. Cydweithio \u00e2 th\u00eem y gweithlu i gyflwyno adnoddau Pecyn Cymorth i Ofalwyr Gofal Cymdeithasol Cymru yn ein trefniadau hyfforddi a sefydlu mewn swyddi<\/span><\/h4>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Mae pecynnau e-ddysgu wedi bod ar gael drwy wefan y GIG.<\/li><li>Mae staff o asiantaethau partner megis Cynnal Gofalwyr wedi ymgymryd \u00e2\u2019r hyfforddiant e-ddysgu, a rolau allweddol o fewn Gofal Cymdeithasol. Bydd mynediad at yr hyfforddiant e-ddysgu yn cael ei drefnu i holl staff Conwy ar draws y Cyngor.<\/li><\/ul>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\"><span class=\"has-inline-color has-vivid-cyan-blue-color\">2. Datblygu cynigion i greu amrywiaeth fwy hyblyg o seibiannau byr\/gofal seibiant<\/span><\/h4>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Archwiliodd is-gr\u0175p COG 8 y mater hwn, a oedd yn cynnwys edrych ar enghreifftiau o arferion da ar draws y rhanbarth.<\/li><li>Roedd cynllun o Sir y Fflint o\u2019r enw \u201cPontio&#8217;r Bwlch\u201d a oedd yn cael ei weithredu gan y Gwasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr Gogledd Ddwyrain Cymru yn rhoi potensial mawr ar gyfer darparu mwy o hyblygrwydd ar gyfer seibiannau byr, er iddo ganolbwyntio\u2019n bennaf ar ofalwyr sydd ar ddechrau eu siwrnai ofalu.<\/li><\/ul>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Dyfarnwyd cyllid i\u2019r gwasanaeth Cynnal Gofalwyr i gynnal cynllun peilot yn yr un modd, i ofalwyr pobl sy\u2019n byw gyda dementia. Dim ond am gyfnod byr yn unig oedd y prosiect wedi bod yn weithredol cyn i gyfyngiadau Covid-19 effeithio ar ddarpariaeth.<\/li><\/ul>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Cafodd Crossroads hefyd gyllid i dreialu prosiect newydd o\u2019r enw \u201cEfo Ni\u201d a fyddai\u2019n darparu cefnogaeth gynnar effeithiol yn defnyddio gwirfoddolwyr i helpu pobl i gael mynediad at weithgareddau cymunedol lleol neu eu cefnogi i barhau \u00e2\u2019u diddordebau a hob\u00efau eu hunain, i fynd i\u2019r afael ag unigrwydd. Unwaith eto, cafodd Covid-19 effaith sylweddol ar y prosiect peilot hwn.<br><br>Bydd datblygiad parhaus dulliau i gael gofal seibiant hyblyg a chynaliadwy yn parhau pan fydd cyfyngiadau Covid-19 yn caniat\u00e1u hynny.<\/li><\/ul>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\"><span class=\"has-inline-color has-vivid-cyan-blue-color\">3. Mynd i\u2019r afael \u00e2\u2019r gyfran helaeth o Ofalwyr sy\u2019n gwrthod asesiadau<\/span><\/h4>\n\n\n\n<p>Cynhaliwyd dadansoddiad manwl o\u2019r amryw resymau y mae pobl yn gwrthod asesiad.&nbsp; Dadansoddwyd dros 400 o ymatebion a\u2019u grwpio yn \u00f4l them\u00e2u. Yr ymateb pennaf (160 o ofalwyr) oedd \u201cnad oedd ei angen ar hyn o bryd\u201d, ac yna bron i nifer gyfartal o ymatebion amrywiol a oedd yn nodi bod y gofalwr yn rheoli eu sefyllfa a \/ neu eisoes yn cael y lefel o gefnogaeth angenrheidiol, neu eisoes wedi cael asesiad yn ddiweddar.<\/p>\n\n\n\n<p>Yn galonogol iawn, roedd hyn yn awgrymu nad oedd y mwyafrif a oedd yn gwrthod asesiad dan anfantais wrth wneud hynny, a bod gofalwyr bob amser yn cael eu hannog i gyfathrebu eu hanghenion os yw eu hamgylchiadau\u2019n newid.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\"><span class=\"has-inline-color has-vivid-cyan-blue-color\">Darparu gwasanaethau i ofalwyr yn ystod pandemig<\/span><\/h4>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r gwasanaethau rydym yn eu comisiynu wedi ymateb i\u2019r her ac addasu\u2019n greadigol i bandemig Covid-19 mewn ffyrdd sy\u2019n diogelu staff, gofalwyr a\u2019r bobl y maent yn gofalu amdanynt. Lle mae ymweliadau cymunedol wedi cael eu hatal, mae gwasanaethau\u2019n parhau i gael eu cynnig dros Skype, FaceTime a galwadau ff\u00f4n, ac mae achosion a gaewyd yn flaenorol wedi cael eu hailagor i wirio os yw pobl angen cefnogaeth yn ystod y cyfnod anodd hwn.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae effaith y cyfnod clo ar ofalwyr wedi bod yn andwyol; wrth i\u2019r cyfnod clo symud yn ei flaen, rydym yn gweld angen brys i adolygu asesiadau gofalwyr. Ar ben hyn, mae gofalwyr wedi\u2019u cyfyngu o ran y gofal seibiant y gallant ei gael, os ydynt yn gallu ei gael o gwbl, sy\u2019n arwain at orweithio a straen. Mae cynnydd hefyd wedi bod o ran pryderon diogelu ac rydym yn credu bod hyn oherwydd bod pobl sy\u2019n byw gyda dementia yn gwaethygu\u2019n gynt oherwydd colled y rhyngweithio cymdeithasol a\u2019r gweithgareddau yr oeddent yn cymryd rhan ynddynt cyn y cyfnod clo. Mae\u2019n rhaid i ofalwyr ddarparu cymorth mwy cymhleth gyda llai o adnoddau.<\/p>\n\n\n\n<p>Mewn achosion lle mae gofalwyr yn wynebu caledi ariannol oherwydd y pandemig, mae ffyrdd amrywiol wedi\u2019u harchwilio i ddarparu pecynnau bwyd, a chynigion mwy perthnasol i\u2019r unigolyn, megis cuddfan dywyll i blentyn awtistig, chwaraewr cryno ddisgiau a chryno ddisg ymwybyddiaeth ofalgar i ddynes gyda phroblemau iechyd meddwl, a cherdyn bws i alluogi gofalwr ifanc i deithio i ofalu am ei thad sy\u2019n s\u00e2l, a gliniaduron a dyfeisiau llechen i ganiat\u00e1u i deuluoedd gael mynediad at waith ysgol.<\/p>\n\n\n\n<p>Wrth wneud y gwaith hyn rydym wedi sylweddoli ar nifer y bobl sy\u2019n cael eu heffeithio\u2019n ariannol gan Covid-19 a chyn lleied o gefnogaeth sydd yna i blant gydag anableddau cymhleth nad ydynt yn mynd i\u2019r ysgol a\u2019r rhai sydd yn dioddef \u00e2 salwch meddwl. Mae\u2019r atgyfeiriadau a wneir ar gyfer y grwpiau hyn yn benodol yn arwain at sgyrsiau gyda\u2019r sefydliadau sy\u2019n gwneud yr atgyfeiriadau, sydd yn eu tro yn tynnu sylw at angen am fwy o gefnogaeth i\u2019r grwpiau hyn sydd ar y cyrion. &nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Bydd edrych am gyllid pellach i gynnig cefnogaeth i\u2019r grwpiau hyn yn bryder parhaus.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\"><span class=\"has-inline-color has-vivid-cyan-blue-color\">Gofalwyr Ifanc<\/span><\/h4>\n\n\n\n<p>Mae Credu wedi nodi effaith enfawr ar eu gwaith gyda gofalwyr ifanc, yn enwedig o ran gorfod canslo teithiau allan a gwaith gr\u0175p. Mae\u2019r t\u00eem wedi bod yn gweithio\u2019n galed i ddod o hyd i ffyrdd o gefnogi gofalwyr ifanc a\u2019u teuluoedd er gwaethaf y cyfyngiadau. Maent yn cyfathrebu\u2019n wahanol, yn defnyddio WhatsApp, FaceTime a Zoom, ac maent wedi bod yn brysur yn cynorthwyo \u00e2 thalebau banc bwyd, casglu neges a phresgripsiynau a chreu pecynnau crefft.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae asesiadau a sesiynau un i un ar y trywydd iawn eto; rydym wedi bod yn defnyddio staff achlysurol i gysylltu gyda theuluoedd sy\u2019n ymgysylltu gyda ni\u2019n rheolaidd, ac sydd eisoes \u00e2 chysylltiad gyda ni, er mwyn rhoi mwy o amser i\u2019n gweithwyr allgymorth weithio gyda theuluoedd diamddiffyn.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\"><span class=\"has-inline-color has-vivid-cyan-blue-color\">T\u00eem Unigolion Cysylltiedig: Ymgynnull y t\u00eem a sefydlu cymorth penodol ar gyfer Gwarchodwyr Arbennig<\/span><\/h4>\n\n\n\n<p>Rydym nawr wedi llwyddo i lenwi pob swydd yn y T\u00eem Unigolion Cysylltiedig, ac rydym wedi bod yn gweithredu fel t\u00eem llawn ers mis Mai 2020. Mae hyn yn ein galluogi ni i ddarparu ymatebion effeithlon i asesu, goruchwylio a chefnogi ein Gwarchodwyr Arbennig a Gofalwyr Maeth Unigolion Cysylltiedig. Mae penodiad y Cydlynydd Unigolion Cysylltiedig yn benodol, wedi bod yn allweddol o ran sefydlu cysylltiadau clir gyda Chanolfannau Teuluoedd Conwy, yn ogystal \u00e2 hyrwyddo\u2019r cymorth Cydlynydd penodol sydd ar gael i Warchodwyr Arbennig. Mae Canolfannau Teuluoedd Conwy wedi bod yn gweithio i sicrhau bod pecynnau cymorth ymatebol a chyflym yn cael eu cynnig i unrhyw Warchodwyr Arbennig sydd angen ymyrraeth neu arweiniad ychwanegol.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae Gweithwyr Cymdeithasol sy\u2019n Asesu ac yn Goruchwylio nawr yn gweithio gyda\u2019r Cydlynydd Unigolion Cysylltiedig i sicrhau bod achosion yn cael eu trosglwyddo\u2019n fanwl wedi i\u2019r gorchymyn Gwarchodaeth Arbennig gael ei gymeradwyo i alluogi trosglwyddiad esmwyth ar gyfer y teulu. Mae\u2019r T\u00eem hefyd wedi bod yn gweithio\u2019n agos gyda\u2019r timau gofal plant i sicrhau Cynlluniau Cefnogi Gwarchodwyr Arbennig cadarn y gellir eu cyflawni ac sy\u2019n gyraeddadwy ar gyfer y teulu.<\/p>\n\n\n\n<p>Gweler isod rai meysydd eraill y mae\u2019r t\u00eem wedi canolbwyntio arnynt eleni:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Datblygu\u2019r Cynnig Gweithredol ar gyfer Gwarchodwyr Arbennig &nbsp;<\/li><li>Newyddlenni (ddwywaith y flwyddyn)<\/li><li>Cyfathrebu gyda Gwarchodwyr Arbennig yn defnyddio eu dull dewisol<\/li><li>Cyfeirio at gyfleoedd hyfforddi<\/li><li>Cwblhau asesiadau ariannol yn flynyddol<\/li><li>Cysylltu gydag Awdurdodau Lleol eraill i sicrhau bod achosion yn cael eu trosglwyddo\u2019n esmwyth<\/li><li>Adolygiadau rheolaidd bellach wedi\u2019u cynnwys yn y Cynllun Cefnogi Gwarchodwyr Arbennig &nbsp;<\/li><\/ul>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\"><span class=\"has-inline-color has-vivid-cyan-blue-color\">Beth oedd yr heriau?<\/span><\/h4>\n\n\n\n<p>Yn anffodus, mae nifer o Warchodwyr Arbennig sydd heb gadw cyswllt rheolaidd gyda\u2019r Awdurdod Lleol fel y cytunwyd. Mae wedi cymryd amser i sefydlu cyswllt eto, ond mae gennym bellach drefniadau cyfathrebu effeithiol ar waith i bob Gwarchodwr Arbennig.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae Covid-19 wedi cyflwyno set unigryw o heriau. Cynhaliwyd llai o ymweliadau wyneb yn wyneb, fodd bynnag roeddem yn gallu sefydlu ffyrdd o gadw cyswllt dros y we.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\"><span class=\"has-inline-color has-vivid-cyan-blue-color\">Beth nesaf?<\/span><\/h4>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Byddwn yn cwblhau datblygiad ein Polisi Gwarchodaeth Arbennig ac yn sicrhau ei fod ar gael<\/li><li>Byddwn yn adolygu\u2019r broses asesu ariannol bresennol<\/li><li>Rydym yn bwriadu gwella a chynyddu cyfleoedd hyfforddi i Warchodwyr Arbennig<\/li><li>Rydym yn datblygu hyfforddiant Unigolion Cysylltiedig ar gyfer gwasanaethau plant<\/li><\/ul>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Ein hymrwymiad i aduno teuluoedd<\/h3>\n\n\n\n<p>Drwy gydol pandemig Covid-19, mae Conwy wedi parhau i fod yn rhagweithiol wrth sicrhau fod y broses o aduno plant gyda\u2019u rhieni biolegol yn parhau mewn modd amserol. Rydym wedi gweld nifer o bobl ifanc yn cael eu dychwelyd yn llwyddiannus i ofal eu rhieni. <strong><\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Mae ein Seicolegydd Clinigol Arweiniol a Seicolegydd Cynorthwyol mewnol wedi bod ar gael ar gyfer ymgynghoriadau ac i ddarparu cymorth i unrhyw riant, plentyn neu berson ifanc. Mae gweithwyr cymdeithasol wedi gweithio mewn partneriaeth \u00e2\u2019n Seicolegwyr o amgylch aduno.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae gwasanaethau megis y T\u00eem Ymyriadau Teuluol a\u2019r T\u00eem Cryfhau Teuluoedd wedi parhau i weithio gyda theuluoedd i gefnogi aduno.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae cysylltiadau gwell gyda, ac atgyfeiriadau at y Canolfannau Teuluoedd wedi bod yn effeithiol wrth sicrhau bod teuluoedd sydd wedi cael eu haduno yn parhau i gael eu cefnogi gan Gonwy.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\"><span class=\"has-inline-color has-vivid-cyan-blue-color\">Beth oedd yr heriau?<\/span><\/h4>\n\n\n\n<p>Mae cyfnodau clo Covid-19 wedi golygu bod treulio amser gyda\u2019r teuluoedd biolegol wedi bod yn heriol. Fodd bynnag, rydym wedi rhoi dulliau rhith ar waith i hwyluso amser fel teulu. Rydym yn ymwybodol nad yw hyn yn cymharu \u00e2 chyswllt wyneb yn wyneb, felly pan fydd yn ddiogel, byddwn yn parhau i annog ail-ddechrau cynnal amser teulu wyneb yn wyneb.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\"><span class=\"has-inline-color has-vivid-cyan-blue-color\">Beth nesaf?<\/span><\/h4>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Gwella cyfleoedd am fwy o amser fel teulu<\/li><li>Parhau i ddatblygu gwasanaethau cymorth i deuluoedd, er mwyn i bobl ifanc dreulio llai o amser yng ngofal yr Awdurdod Lleol, a chael eu dychwelyd at eu teuluoedd biolegol, lle bo\u2019n ddiogel a phosibl i wneud hynny.<\/li><li>Rydym wrthi\u2019n cwblhau Polisi Aduno a fydd yn cefnogi\u2019r datblygiadau sydd wedi\u2019u hamlinellu uchod.<\/li><\/ul>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"aligncenter size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"864\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/08\/Family-Group-1-1024x864.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-2776\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/08\/Family-Group-1-1024x864.png 1024w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/08\/Family-Group-1-300x253.png 300w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/08\/Family-Group-1-768x648.png 768w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/08\/Family-Group-1.png 1080w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure><\/div>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae pobl yn cael eu cefnogi i reoli eu lles a gwneud eu penderfyniadau hysbys eu hunain fel eu bod yn gallu cyflawni eu potensial llawn a byw\u2019n annibynnol am gymaint \u00e2 phosibl. Cwblhau Prosiect Maelgwn Mae cynnydd ardderchog wedi\u2019i wneud ar safle Maelgwn yng Nghyffordd Llandudno. Daeth y gwaith o adeiladu 27 eiddo ar [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":9,"featured_media":0,"parent":2643,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"_seopress_titles_title":"","_seopress_titles_desc":"","_seopress_robots_index":"","_seopress_robots_follow":"","_seopress_robots_imageindex":"","_seopress_robots_snippet":"","_seopress_robots_primary_cat":"","_seopress_robots_breadcrumbs":"","_seopress_robots_freeze_modified_date":"","_seopress_robots_custom_modified_date":"","_seopress_robots_canonical":"","_seopress_social_fb_title":"","_seopress_social_fb_desc":"","_seopress_social_fb_img":"","_seopress_social_fb_img_attachment_id":0,"_seopress_social_fb_img_width":0,"_seopress_social_fb_img_height":0,"_seopress_social_twitter_title":"","_seopress_social_twitter_desc":"","_seopress_social_twitter_img":"","_seopress_social_twitter_img_attachment_id":0,"_seopress_social_twitter_img_width":0,"_seopress_social_twitter_img_height":0,"_seopress_redirections_value":"","_seopress_redirections_enabled":"","_seopress_redirections_enabled_regex":"","_seopress_redirections_logged_status":"","_seopress_redirections_param":"","_seopress_redirections_type":0,"_seopress_analysis_target_kw":"","_genesis_hide_title":false,"_genesis_hide_breadcrumbs":false,"_genesis_hide_singular_image":false,"_genesis_hide_footer_widgets":false,"_genesis_custom_body_class":"","_genesis_custom_post_class":"","_genesis_layout":"","footnotes":""},"class_list":{"0":"post-2767","1":"page","2":"type-page","3":"status-publish","5":"entry"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/2767","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/9"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=2767"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/2767\/revisions"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/2643"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=2767"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}