{"id":2742,"date":"2021-08-27T14:32:05","date_gmt":"2021-08-27T13:32:05","guid":{"rendered":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/?page_id=2742"},"modified":"2021-08-27T14:32:07","modified_gmt":"2021-08-27T13:32:07","slug":"sut-rydym-yn-cyflawnir-hyn-a-wnawn","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/adroddiad-2020-21\/sut-rydym-yn-cyflawnir-hyn-a-wnawn\/","title":{"rendered":"Sut rydym yn cyflawni\u2019r hyn a wnawn"},"content":{"rendered":"\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Ein Gweithlu a sut yr ydym yn cefnogi eu rolau proffesiynol, datblygu&#8217;r gweithlu a dysgu<\/h3>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Rhoi profiad yn seiliedig ar waith a chefnogaeth i fyfyrwyr<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae ein t\u00eem gweithlu yn gweithio\u2019n agos gyda Phrifysgol Bangor a\u2019r Brifysgol Agored i gynnig lleoliad myfyrwyr i\u2019r sawl sy\u2019n dymuno datblygu gyrfa o fewn gofal cymdeithasol. Mae eleni wedi bod yn arbennig o heriol gan nad ydym wedi gallu darparu\u2019r lefelau arferol o gefnogaeth wyneb yn wyneb ac rydym wedi gorfod dyfeisio ffyrdd amgen i gyfathrebu a mentora ein cohort myfyrwyr. Gydag ychydig o baratoadau ychwanegol a defnydd creadigol o dechnoleg, rydym wedi gallu:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Creu gr\u0175p WhatsApp i fyfyrwyr gael mynediad at gefnogaeth anffurfiol a chyswllt cymdeithasol gyda chyfoedion<\/li><li>Trefnu nifer gyfyngedig o sesiynau cyswllt wyneb yn wyneb ar gyfer myfyrwyr y flwyddyn gyntaf pan yr oedd yn ddiogel i wneud hynny<\/li><li>Darparu rhestr wirio o ddeunydd darllen cefndirol a dysgu i helpu myfyrwyr i deimlo\u2019n barod i ailddechrau yn eu lleoliadau yn dilyn atal dros dro.<\/li><li>Cyflwyno Fforwm Myfyrwyr ffurfiol a grwpiau cymorth i fyfyrwyr anffurfiol a fydd yn parhau yn y dyfodol<\/li><li>Darparu gr\u0175p cymorth i Addysgwyr Ymarfer i fynd i\u2019r afael \u00e2 phryderon lles<\/li><li>Trefnu cyfarfodydd dal i fyny yn ddyddiol i fesur lles ac i gadw pawb yn hysbys a gyda\u2019r gallu i gyflawni eu tasgau<\/li><\/ul>\n\n\n\n<p>O ganlyniad i\u2019r trefniadau hyn, roedd myfyrwyr yn teimlo fel eu bod yn cael eu cefnogi fel rhan o gr\u0175p cyfoedion yn ystod argyfwng a phan oedd perygl gwirioneddol iddynt deimlo\u2019n unig ac ar wah\u00e2n. Lleihawyd yr effaith negyddol ar eu hiechyd corfforol a meddyliol ac fe gynhaliwyd eu cymhelliant i barhau \u00e2\u2019u hastudiaethau.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\"><span class=\"has-inline-color has-vivid-cyan-blue-color\">Beth oedd yr heriau?<\/span><\/h4>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Roedd pryderon yngl\u0177n \u00e2 bylchau o ran dysgu, yn enwedig oherwydd y bu i\u2019r ffordd rydym yn darparu gwasanaethau newid yn ystod y pandemig.<\/li><li>Roedd cael adborth gan ddefnyddwyr gwasanaeth yn anodd, yn enwedig i\u2019r rhai nad oeddent yn hyderus wrth ddefnyddio technoleg.<\/li><li>Roedd yn rhaid i ni gydnabod ein bod i gyd wedi colli hyder yn ystod y pandemig, ac yn gallu teimlo fel ein bod yn colli rheolaeth a sicrwydd. Roedd myfyrwyr yn gallu sylwi ar hyn a\u2019i deimlo yn fwy difrifol.<\/li><li>Ansicrwydd oherwydd bod rhaid atal y cyfnod yn y lleoliad dros dro.<\/li><li>Roedd myfyrwyr y flwyddyn gyntaf yn teimlo fel eu bod yn dechrau o\u2019r newydd eto oherwydd eu bod ond wedi bod yn y lleoliad am 23 diwrnod cyn dechrau\u2019r cyfnod clo.<\/li><\/ul>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\"><span class=\"has-inline-color has-vivid-cyan-blue-color\">Beth nesaf?<\/span><\/h4>\n\n\n\n<p>Byddwn yn edrych ar wneud mwy o ddefnydd o ddyfeisiau megis iPads a ffonau clyfar i wella cysylltedd rhwng myfyrwyr, eu cyfoedion ac unigolion sy\u2019n derbyn gofal a chefnogaeth. Bydd y defnydd o Skype a WhatsApp yn cael ei archwilio er mwyn cynnig dull mwy personol, a bydd proses sefydlu gynhwysfawr ac o bell yn cael ei dyfeisio.<\/p>\n\n\n\n<p>Er mwyn datblygu dull t\u00eem cyfan, byddwn yn gwneud ymdrech ymwybodol i drefnu cyfleoedd i gydweithio ac arsylwi hyd yn oed os yw hyn yn digwydd o bell. &nbsp;Byddwn hefyd yn trefnu sesiwn groeso gyda\u2019r Cyfarwyddwr a chyfarfod sefydlu corfforaethol gydag Adnoddau Dynol. &nbsp;Bydd naw o\u2019n gweithwyr cymdeithasol presennol yn dod yn Addysgwyr Ymarfer yn ystod 2021 a bydd eu r\u00f4l yn canolbwyntio ar feysydd pryder i fyfyrwyr, darparu goruchwyliaeth a mentora.<\/p>\n\n\n\n<p>Rydym wedi recriwtio chwech o\u2019r wyth myfyriwr a oedd yng Nghonwy i\u2019r Awdurdod, a dau o gyn-fyfyrwyr Glynd\u0175r. Rydym yn bwriadu darparu cymorth ychwanegol yn ystod Blwyddyn 1, er mwyn gwneud iawn am unrhyw fylchau mewn dysgu oherwydd y pandemig.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"576\" src=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/08\/Supporting-a-Student-1-1024x576.png\" alt=\"\" class=\"wp-image-2746\" srcset=\"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/08\/Supporting-a-Student-1-1024x576.png 1024w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/08\/Supporting-a-Student-1-300x169.png 300w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/08\/Supporting-a-Student-1-768x432.png 768w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/08\/Supporting-a-Student-1-1536x865.png 1536w, https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/wp-content\/uploads\/2021\/08\/Supporting-a-Student-1.png 1917w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><\/figure>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Cael adborth ar ein perfformiad<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae adborth gan unigolion sy\u2019n gweithio gyda ni, neu\u2019n derbyn gofal a chefnogaeth gennym ni yn ein galluogi ni i asesu pa mor effeithiol ydym ni wrth gyflawni ein dyletswyddau statudol a Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, a safonau ansawdd cysylltiedig. Mae arolygon yn hanfodol ar gyfer mesur ein perfformiad, ac rydym yn gwerthfawrogi\u2019r cyfle i ymgysylltu a gwella.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Ein hadnoddau ariannol a sut rydym ni\u2019n cynllunio at y dyfodol<\/h3>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r Cynllun Ariannol Tymor Canolig (CATC) yn nodi dull strategol y Cyngor o reoli ei gyllid ac yn amlinellu rhai o\u2019r problemau ariannol a fydd yn wynebu\u2019r Cyngor dros y pedair blynedd nesaf.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae cyflawni\u2019r strategaeth yn ddibynnol ar yr adnoddau sydd ar gael drwy setliadau Llywodraeth Cymru ac ar lwyddiant y Cyngor wrth alinio adnoddau \u00e2\u2019i nodau a blaenoriaethau.<\/p>\n\n\n\n<p>Yn 2020-21, rhagamcanir bod y canlyniad ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol o fewn cyllideb. Ar gyfer 2021-22, mae\u2019r Gwasanaethau Cymdeithasol, drwy\u2019r broses achos busnes, wedi gwneud cais ac wedi derbyn cyllid ychwanegol ar gyfer pwysau costau cynyddol rhagweledig sy\u2019n ymwneud \u00e2 Gofal Cymdeithasol i Oedolion (\u00a3850k) a Phlant sy&#8217;n Derbyn Gofal (\u00a3700k), a chynnydd mewn costau\u2019n gysylltiedig \u00e2 ffioedd uwch a delir i ddarparwyr gofal cartref, preswyl a nyrsio annibynnol, a byw \u00e2 chymorth (\u00a31,570k). Mae\u2019r adran hefyd wedi gorfod dod o hyd i arbedion o \u00a3665k, ond ni fydd yr arbedion hyn yn cael llawer o effaith ar ddarpariaeth gofal rheng flaen.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Cyfranogi ac ymgynghori<\/h3>\n\n\n\n<p>Rydym yn cydnabod bod ein gwaith ymgynghori a chymryd rhan wedi lleihau o ganlyniad i bandemig Covid-19 ac er mwyn gwella hyn, rydym wedi comisiynu Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Conwy i wneud hyn ar ein rhan, gan gydnabod a defnyddio eu profiad yn y maes hwn a\u2019r cysylltiadau cryf o fewn ein cymunedau.<\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\"><span class=\"has-inline-color has-vivid-cyan-blue-color\">Beth oedd yr heriau?<\/span><\/h4>\n\n\n\n<p>Mae ymgysylltu wyneb yn wyneb yn llawer mwy anodd ac mae\u2019r gwasanaeth wedi gorfod datblygu dulliau gweithio drwy gyfryngau cymdeithasol a chynadleddau Zoom.<br><\/p>\n\n\n\n<h4 class=\"wp-block-heading\"><span class=\"has-inline-color has-vivid-cyan-blue-color\">Beth nesaf?<\/span><\/h4>\n\n\n\n<p>Mae\u2019n hanfodol bod partneriaid a thrigolion Conwy yn rhan o gynhyrchu ein strategaethau wrth symud ymlaen. Bydd y gwaith y mae Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Conwy yn ei wneud gyda ni o gymorth i lunio\u2019r strategaethau hynny. <\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Rheoleiddio ac arolygu<\/h3>\n\n\n\n<p>Yn ystod Arolwg Arolygiaeth Gofal Cymru ym mis Mawrth 2020, roedd nifer o welliannau wedi eu hargymell i wella\u2019r gwasanaeth rydym yn ei ddarparu i unigolion yng Nghonwy.&nbsp; Yn ystod 2020, fe wnaethom roi sylw i\u2019r meysydd canlynol:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Sicrhau bod y sgwrs \u2018beth sy\u2019n bwysig\u2019 yn rhoi ystyriaeth i leisiau\u2019r plant sy\u2019n cael eu hasesu, yn arbennig mewn perthynas \u00e2\u2019r cryfderau a deilliannau personol. Mae\u2019r wybodaeth hon bellach yn cael ei chadw ar ein system gwybodaeth cleientiaid newydd, ac mae hyfforddiant wedi cael ei gynnal i sefydlu ymarferion sy\u2019n canolbwyntio ar ganlyniadau mewn llwythi gwaith dyddiol.<\/li><\/ul>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Gweithio gydag unigolion i sicrhau nad yw eu hawliau dynol yn cael eu torri drwy golli eu rhyddid. Mae ein t\u00eem Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid yn gweithredu o bell i asesu unigolion, nid yw hyn yn ddelfrydol, ond mae\u2019n angenrheidiol oherwydd cyfyngiadau Covid-19.<\/li><\/ul>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Cynnig a chynnal asesiadau gofalwyr yn gyson a sicrhau ein bod yn canolbwyntio ar sicrhau nad yw cyfleoedd i gefnogi gofalwyr yn cael eu colli na\u2019u hoedi. Un o\u2019r heriau a wynebwn yw nad yw llawer o ofalwyr yn ystyried eu hunain yn ofalwyr, ac yn hytrach yn ystyried eu hunain fel anwyliaid. Mae\u2019r Cyfarwyddwr yn cadeirio cyfarfod gofalwyr strategol sy\u2019n canolbwyntio ar gefnogi gofalwyr a fynychir gan gynghorwyr, uwch reolwyr a staff uwch o sefydliadau trydydd sector sy\u2019n cefnogi gofalwyr.<\/li><\/ul>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Gweithio gyda BIPBC i gyd-gomisiynu gwasanaethau i bobl anabl ag anghenion cymhleth a\u2019u teuluoedd. Rydym wrthi\u2019n cydweithio i gefnogi pedwar unigolyn cymhleth gyda llety lleol, felly mae ein perthynas gyda\u2019r Adran Iechyd yn bartneriaeth barhaus ac effeithiol.<\/li><\/ul>\n\n\n\n<p><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Ein Gweithlu a sut yr ydym yn cefnogi eu rolau proffesiynol, datblygu&#8217;r gweithlu a dysgu Rhoi profiad yn seiliedig ar waith a chefnogaeth i fyfyrwyr Mae ein t\u00eem gweithlu yn gweithio\u2019n agos gyda Phrifysgol Bangor a\u2019r Brifysgol Agored i gynnig lleoliad myfyrwyr i\u2019r sawl sy\u2019n dymuno datblygu gyrfa o fewn gofal cymdeithasol. Mae eleni wedi [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":9,"featured_media":0,"parent":2643,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"_seopress_robots_primary_cat":"","_seopress_titles_title":"","_seopress_titles_desc":"","_seopress_robots_index":"","_genesis_hide_title":false,"_genesis_hide_breadcrumbs":false,"_genesis_hide_singular_image":false,"_genesis_hide_footer_widgets":false,"_genesis_custom_body_class":"","_genesis_custom_post_class":"","_genesis_layout":"","footnotes":""},"class_list":{"0":"post-2742","1":"page","2":"type-page","3":"status-publish","5":"entry"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/2742","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/9"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=2742"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/2742\/revisions"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/2643"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/conwysocialservicesannualreport.org.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=2742"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}